Ar y Groesffordd

Ciw-restr ar gyfer Harri

(Jared) {Gan edrych ar y plaen ar ol plaenio ' ychydig.}
 
(Jared) Be fuost ti'n neud â'r plaen yma, Harri?
(1, 0) 10 Plaenio, Mistar.
(Jared) Ie, plaenio, wrth gwrs; mi wyddwn mai nid codi tatws y buost ti hefo fo.
 
(Jared) Fuost ti'n plaenio hefo hwn hefyd, dywed?
(1, 0) 18 Do, am spel, Mistar, ond mi drawis yn erbyn rhyw hen hoelan yn y planc ac mi scythris i phen hi.
(Jared) O, felly wir!
 
(Jared) Cofia di o hyn allan ma plaenio coed ac nid hoelion ydi gwaith plaen, Harri bach: prentis o jeinar wyt ti wyddost, ac nid gôf nac injaniar.
(1, 0) 21 O'r gora, Mistar, ond mi ddo i'n well prentis mhen tipyn.
(Jared) Mi wyddost wrth gwrs fod y gair prentis yn dod o'r gair "pren"─P-R-E-N-T-I-S, un yn gweithio mewn pren, wyddost, dyna darddiad y gair, medde nhw, yn ôl y dicsionari.
 
(Jared) Mi wyddost wrth gwrs fod y gair prentis yn dod o'r gair "pren"─P-R-E-N-T-I-S, un yn gweithio mewn pren, wyddost, dyna darddiad y gair, medde nhw, yn ôl y dicsionari.
(1, 0) 23 Tybad, Mistar?
(1, 0) 24 "Prentis o siopwr" ddwedwn ni yntê?
(Jared) Ie siwr, ond cofia di ma sefyll tu nol i gowntar wedi ei wneud o bren y bydd prentis siopwr: y gwir ydi, ymhle bynnag y cei di brentis, ma na bren heb fod ymhell, yn siwr iti.
 
(Jared) Ie siwr, ond cofia di ma sefyll tu nol i gowntar wedi ei wneud o bren y bydd prentis siopwr: y gwir ydi, ymhle bynnag y cei di brentis, ma na bren heb fod ymhell, yn siwr iti.
(1, 0) 26 Mi fydd mam yn sôn am brentis o ddoctor, a does na ddim pren yn agos at ddoctor.
(Jared) Dull o siarad sy gan dy fam ydi hwnna: prentis o ddoctor ydi doctor ofnatsan o sâl efo'i waith, doctor a phen fel pren ffawydd ne bren bocs.
 
(Doctor Huws) Gweithio'n galed, Harri?
(4, 0) 980 Go lew, Syr.
(4, 0) 981 Mae Mr. Harris y gweinidog a finnau am weithio'n hwyr heno er mwyn gorffen rhyw ddrysau a ffenestri sydd i fod yn barod erbyn diwedd yr wsnos.
(Doctor Huws) Wedi mynd i'w dê mae o rwan?
 
(Doctor Huws) Wedi mynd i'w dê mae o rwan?
(4, 0) 983 Ie, Syr.
(Doctor Huws) Beth ydi dy farn di am dano fel jeinar?
 
(Doctor Huws) Dyma ti wedi cael tri diwrnod o brawf arno erbyn hyn.
(4, 0) 986 Mae o wedi colli i law ar y grefft, ond mae'n hwbio mlaen dipyn gwell heddiw.
(Doctor Huws) Mae'n rhaid fod cwrs byd ers pan bu'n gneud gwaith jeinar?
 
(Doctor Huws) Mae'n rhaid fod cwrs byd ers pan bu'n gneud gwaith jeinar?
(4, 0) 988 Oes, mae chwech ne saith mlynedd, medde fo.
(4, 0) 989 Mae'n weinidog yma ers dros ddwy, a rhyw dair neu bedair blynedd yn y coleg at hynny.
(Doctor Huws) Patrwm o ddyn ydi o, wel di, ne fasa fo ddim yn gweithio'n rhad ac am ddim fel hyn yn lle Jared yr wsnos yma.
 
(Doctor Huws) Dyna beth ydi practical Christianity wyddost.
(4, 0) 992 Sut mae Jared Jones y pnawn ma, yr.
(Doctor Huws) Gwael iawn, druan; mae'n methu symud er dydd Llun.
 
(Doctor Huws) Harri, meindia di ar dy fywyd na ddeydi di ddim wrtho pan ddaw'n ol o'i dê.
(4, 0) 1048 Dim perig i mi ddeyd, syr.
(Doctor Huws) Rwan mi awn i'r tŷ ein tri.
 
(Mr Harris) Orffennwn ni'r |job| yma erbyn diwedd yr wsnos?
(4, 0) 1058 Fe ddylem a ninnau'n gweithio'n hwyr fel hyn.
(Mr Harris) {Gan estyn ei freichiau'n ola blaen.}
 
(Mr Harris) Pe cawn i'r breichiau ma i stwytho dipyn, mi drown ragor o waith drwy nwylo.
(4, 0) 1061 Peth da ydi rhwbio dipyn o |embrocation| arnyn nhw cyn mynd i'r gwely, Syr.