Ar y Groesffordd

Ciw-restr ar gyfer Hopcyn

(Jared) {Gan edrych ar y plaen ar ol plaenio ' ychydig.}
 
(Jared) Pa siap sydd ar y siopwr heno?
(1, 0) 52 Cyn i mi anghofio, Jared, mae un o'r shetars ar y ffenest acw wedi chwyddo neu rywbeth, nei di redeg dy blaen drosti os do i a hi yma fory?
(Jared) Be sydd ar y tacla heddiw?
 
(Jared) Ar fy ngair i, dos gen ti o bawb ddim hawl i beidio smocio.
(1, 0) 91 Sut hynny?
(Jared) Wel os wyt ti'n credu fod smocio'n arferiad drwg, ac mi wn dy fod, pam gebyst wyt ti'n gwerthu baco?
 
(Jared) Wyt ti ddim yn gweld dy fod fel Satan yn temtio'r crydd a'r postman a finnau i syrthio i'r arferiad ac i wastio'n harian prin?
(1, 0) 95 Os na phrynwch chi faco gen i, mi prynwch o'n rhywle'r cnafon barus.
(Jared) Rhen gribiniwr arian!
 
(Ifan) O! un garw wyt ti, Hopcyn; rwyt ti'n ddigon di-gydwybod i werthu petha sy'n groes i d'argyhoeddiad.
(1, 0) 101 Aros di, Ifan Wyn; ti ydi Radical mawr y plwy ma, yntê?
(Ifan) Gyr ymlaen.
 
(Ifan) Gyr ymlaen.
(1, 0) 103 Ti sy'n gneud sgidia i'r Gŵr o'r Plas, y Tori mwya yn y sir, ac yn y sgidia rheiny mae o'n brasgamu ar adeg lecsiwn i ddeyd a gneud yn groes hollol i'r hyn gredir gen ti.
(Jared) Howld!
 
(Jared) Nid run peth ydi hynny a dy waith di'n gwerthu baco nad wyt ti'n credu dim ynddo.
(1, 0) 106 Run peth yn hollol ydi'r ddau.
(1, 0) 107 Ac mae gen i damaid bach i titha i'w gnoi, Jared.
(1, 0) 108 Rwyt ti'n brysur ddoe a heddiw'n gneud drws stabal i Ŵr y Plas, yn dwyt ti?
(Jared) Dos ymlaen; mi wela dy fod wedi codi stêm.
 
(Jared) Dos ymlaen; mi wela dy fod wedi codi stêm.
(1, 0) 110 Dyma titha'n rhoi dy hun yn Radical mawr fel Ifan, ac eto rwyt ti'n ddigon anghyson i neud drws stabal i geffyla sy'n rambandio o gwmpas yr ardal ar etholiad i gario dynion i fotio'n erbyn yr egwyddorion rwyt ti byth a hefyd yn eu brolio.
(Dafydd) Yn ôl dy syniad di, felly, rhagrithiwrs a Phariseaid ydi pob enaid ohonom?
 
(Dafydd) Yn ôl dy syniad di, felly, rhagrithiwrs a Phariseaid ydi pob enaid ohonom?
(1, 0) 112 Ddwedais i mo hynny, Dafydd; dal rydw i mod i mor gyson a neb ohonoch.
(1, 0) 113 Y ffaith ydi hyn, os chwiliwch i mewn yn fanwl i betha, mae pawb, fwy neu lai, yn gorfod bod yn anghyson.
(1, 0) 114 Cymer dy hunan fel enghraifft, Dafydd; rwyt ti'n cario bwndeli o bapurau Toriaidd i Ŵr y Plas sy'n lledaenu Toriaeth er dy fod dithau'n galw dy hun yn Rhyddfrydwr mawr, a chi'ch tri sy'n fy nghael i'n brin o gysondeb.
(1, 0) 115 Sgubwch yn lân o flaen carreg eich drws eich hun cyn deyd fod llwch ar f'un i.
(Jared) Hanner munud!
 
(Jared) Rwyt ti'n deyd bob amser fod smocio'n arferiad drwg, yn dwyt ti?
(1, 0) 119 Ydw.
(Jared) Ac eto i gyd rwyt ti'n gwerthu'r stwff i'w smocio?
 
(Jared) Ac eto i gyd rwyt ti'n gwerthu'r stwff i'w smocio?
(1, 0) 121 Dos ymlaen â'th ymresymiad.
(Jared) Os ydi smocio'n ddrwg, mae'n rhaid fod baco'n ddrwg, achos does dim |use| i faco o gwbl ond i'w smocio.
 
(Jared) Blackwell y Plas, mae rheiny'n bethau angenrheidiol, achos mae'n rhaid i Dori gael sgidia.
(1, 0) 125 Ond pa gysondeb sydd i Radical penboeth fel Ifan neud pâr o sgidia i Dori mawr fel Mr.
(1, 0) 126 Blackwell?
(Ifan) Rwyt ti'n siarad yn union fel pe bawn yn gneud Toris o sgidia; gneud sgidia i Doris rwyf fi, a pheth arall ydi hynny.
 
(Ifan) Rwyt ti'n siarad yn union fel pe bawn yn gneud Toris o sgidia; gneud sgidia i Doris rwyf fi, a pheth arall ydi hynny.
(1, 0) 128 Pe bae'r anffyddiwr a'r cablwr pennaf yn y wlad yn dod am bâr o sgidia atat, fasa ti'n ei wrthod?
(Ifan) Paid a phonsio'n wirion; fasa'r sgidia wnawn i iddo fo ddim yn anffyddiwrs nac yn gablwrs.
 
(Ifan) Paid a phonsio'n wirion; fasa'r sgidia wnawn i iddo fo ddim yn anffyddiwrs nac yn gablwrs.
(1, 0) 130 A! cwiblo rwyt ti rwan.
(Ifan) Nage'n siwr: yn ôl dy syniad di─anffyddiwr o grydd ddylai neud sgidia i anffyddiwrs, a chrefyddwr o grydd ddylai neud sgidia i grefyddwrs.
 
(Ifan) Nage'n siwr: yn ôl dy syniad di─anffyddiwr o grydd ddylai neud sgidia i anffyddiwrs, a chrefyddwr o grydd ddylai neud sgidia i grefyddwrs.
(1, 0) 132 Ia, achos rwyn siwr na fasa'r Apostol Paul ddím yn gneud |tent|─gneud tentia oedd i grefft o─fasa fo byth yn gneud |tent| i anffyddiwr ac i gablwr.
(Jared) {Gan annerch HARRI.}
 
(Jared) Cofia ystyr y gair prentis, a chofia fod yma am saith bore fory.
(1, 0) 138 Beth wyt ti eisiau â'r gweinidog?
(Jared) Fo gaiff setlo'r ddadl ma.
 
(Jared) Fo gaiff setlo'r ddadl ma.
(1, 0) 140 Dydi o ddim yn chware teg â fo i'w lusgo i mewn i'r ddadl ma: dyn ifanc ydi o, a does dim mis er pan mae'n weinidog hefo ni.
(Ifan) Na, dydw inna ddim yn leicio'r syniad o'i dynnu o i'r ddrag, achos cyw heb fagu adenydd ydi o, a rhaid i ni'r hen gonos beidio plicio'i blu yn rhy gynnar.
 
(Mr Harris) Wel, os oes rhyw werth ynddi, dyma marn i, basa, mi fasa Paul yn gneud |tent| i'r dyn gwaetha'n y byd, achos dyna ydi crefydd, "os d'elyn a newyna, portha ef."
(1, 0) 161 Ond fasa Paul yn gneud |tent| i un o elynion y Brenin Mawr?
(Mr Harris) Basa, greda i, ac mi fasa wedyn yn mynd at y dyn i'r |tent| i geisio gneud gwell dyn ohono fo.
 
(Ifan) Wel, fy marn onest i ydi, mi rydw i'n leicio gadael i ddynion fod at eu dewisiad, heb ddim gorfodaeth yn y busnes o gwbl.
(1, 0) 177 Dyna marn inna hefyd, Mr. Harris.
(Mr Harris) Does dim gorfodaeth ar neb, wrth gwrs, ond tybed na ddylwn i roi gwâdd caredig i bobl nad ydynt byth yn mynd i gapel nac eglwys dangos fod gennym ddiddordeb ynddyn nhw beth bynnag.
 
(Mr Harris) Cofiwch, dydw i ddim yn disgwyl i neb ohonoch chi fel swyddogion ddod hefo fi rownd y tai ma.
(1, 0) 180 Mae'n dda gen i glywed hynny, achos mae ar lawer ohonyn nhw gwrs byd o arian i mi yn y siop am |goods|.
(Ifan) Mae na lu ohonyn nhw hefyd yn cerdded mewn sgidia na thalson nhw ddim dima goch y delyn i mi am danynt─y gweilch drwg.
 
(Ifan) Mae un tŷ, er hynny, y byddai'n ddoethach i chi fynd heibio iddo heb alw, Mr. Harris.
(1, 0) 189 Mi wn i pwy sydd gan Ifan mewn golwg─cyfeirio mae o, mi wn, at dŷ Dic Betsi'r Pantglas.
(1, 0) 190 Richard Davis ydi enw'r dyn, ond fel Dic Betsi y bydd pawb yn i nabod o.
(1, 0) 191 Fo ydi pen portsiar yr ardal: mae o'n byw i lawr y cwm mewn bwthyn bach, fo a'i ferch; cadwch draw o'r fan honno beth bynnag.
(Ifan) Ie'n wir, achos hen scum o ddyn ydi o, sy'n gas gan bawb; mae o'n portsio gêm a samons bob yn ail.
 
(Mr Harris) Ei ferch sy'n cadw tŷ iddo, medde chi.
(1, 0) 197 Ie; mi dorrodd ei mam ei chalon, druan, wrth weld Dic yn prowla'r coedydd a'r afonydd, a dyw'r ferch yma sy'n cadw'i dŷ yn fawr gwell na'i thad─rhyw hoeden wyllt, ofergoelus, anwybodus, na fu erioed mewn capel nag eglwys─mae hi fel pe'n perthyn i deulu sipsiwn.
(1, 0) 198 Mi fasa'n chwith gan ei mam, druan, feddwl y fath gornchwiglen o ferch adawodd hi ar ei hol.
(Mr Harris) Wel, yn wir, tŷ go anobeithiol i alw ynddo yw hwnna, ac eto gresyn fasa i mi beidio galw yno unwaith o leiaf.
 
(Dafydd) Pe gwelsem o'n rhoi cusan iddi mi fasa tir sâff dan ein traed.
(3, 0) 769 Gwelsom ddigon i wybod i sicrwydd i fod o'n caru â merch Dic Betsi.
(Dafydd) Howld! be wyddom ni nad cysuro'r eneth yn ei gofid roedd o—i chysuro hi'n rhinwedd ei swydd fel gweinidog?|
 
(Ifan) Mwy tebyg o lawer mai arfa i daro mennydd y cipar ydyn nhw.
(3, 0) 785 Rho nhw'n ol ar y bwrdd, Dafydd, mae sŵn troed rhywun yn dod.
(3, 0) 786 Rwan am fod yn ddoeth; peidiwn a rhuthro fel teirw gwyllt.
(Mr Harris) {Gan ddod i mewn o'r chwith.}
 
(Mr Harris) Rwyn ofni na fydd o ddim byw i weld y bore, druan, a dyna farn y Doctor hefyd.
(3, 0) 789 Beth yw'r rheswm i fod o yma hefo chi?
(Mr Harris) Y Doctor ofynnodd gymrwn i o i mewn; roedd arno ofn iddo farw ar y ffordd.
 
(Ifan) {Metha'r tri arall beidio gwenu, ond ceisiant ymatal wrth gofio ymhle y maent.}
(3, 0) 800 Yn wir, Mr. Harris, rhaid i chi roi pardwn i ni am fod mor ysgafn a'r dyn yna'n marw am y pared â ni, ond does neb yn yr ardal yn malio run botwm corn am dano; chyll neb run deigryn ar ei ol.
(Mr Harris) Mi wn i am un fydd mewn gofid go fawr ar ei ol.
 
(Mr Harris) Mi wn i am un fydd mewn gofid go fawr ar ei ol.
(3, 0) 802 Cyfeirio'r ydach chi wrth gwrs at ei ferch o.
(Mr Harris) Ie, mae o'n dad iddi.
 
(Jared) Mae'n ofnadwy o beth na chaiff Mr. Harris ddim priodi'r neb a fynno.
(3, 0) 819 Jared, nid gelyniaeth yn erbyn Mr. Harris sy gan neb ohonom, ond mae ar bawb ohonom ofn i chi briodi'r eneth yma, ac fe ddaeth pethau i boint heno pan y gwelsom chi â'ch braich am ei gwddw,
(Jared) Wel, tawn i byth yn symud o'r fan ma!
 
(Jared) Hen lanc ydw i, a diolch i'r drefn am hynny, ond pe basa Eglwys Seilo yn fy nal i'n gyfrifol i briodi pob geneth y bu'm llaw i am ei gwddw mi fasa gen i gymaint o wragedd a'r Shah o Persia─os doeth hefyd i briodi cymaint.
(3, 0) 822 Rwan, Mr. Harris, waeth heb areithio dim rhagor ac mae hi'n bryd i'n rhoi ni allan o'n pryder; sut mae hi'n sefyll rhyngoch chi a Nel Davis?
(Mr Harris) Fe ro ateb plaen i gwestiwn plaen—os yw Nel Davis yn fodlon fy mhriodi, mi priodaf hi.
 
(Mr Harris) Fe ro ateb plaen i gwestiwn plaen—os yw Nel Davis yn fodlon fy mhriodi, mi priodaf hi.
(3, 0) 824 Beth bynnag fydd y canlyniadau?
(Mr Harris) Ie, beth bynnag fydd y canlyniadau.
 
(Mr Harris) Ie, beth bynnag fydd y canlyniadau.
(3, 0) 826 Mi priodwch hi hyd yn oed pe dywedem ni wrthych y collwch chi Eglwys Seilo am neud hynny?
(Mr Harris) Gwnaf.
 
(Mr Harris) Gwnaf.
(3, 0) 828 Hynny ydi—mae Nel Davis yn fwy yn eich golwg na bod yn weinidog yr Efengyl?
(Mr Harris) Mae gwahaniaeth go fawr rhwng bod yn weinidog yr Efengyl a bod yn weinidog ar Seilo.
 
(Mr Harris) Mae gwahaniaeth go fawr rhwng bod yn weinidog yr Efengyl a bod yn weinidog ar Seilo.
(3, 0) 830 Felly'n wir, dyna newydd i mi.
(3, 0) 831 Byddwch gystal ag esbonio'r gwahaniaeth i ni.
(Mr Harris) Gweinidog yr Efengyl ar bobl Seilo ydw i ac nid gweinidog Seilo ar y Efengyl─mae'r Efengyl yn fwy na Seilo, yn anfeidrol fwy, ond mae perig i ddyn feddwl weithiau fod Eglwys Seilo yn fwy ac yn gallach na'r Efengyl.
 
(Mr Harris) Gweinidog yr Efengyl ar bobl Seilo ydw i ac nid gweinidog Seilo ar y Efengyl─mae'r Efengyl yn fwy na Seilo, yn anfeidrol fwy, ond mae perig i ddyn feddwl weithiau fod Eglwys Seilo yn fwy ac yn gallach na'r Efengyl.
(3, 0) 833 Eglurwch eich hun i bawb ohonom gael deall eich safle.
(Mr Harris) Eglwys Seilo, sef y bobl sy'n dod ynghyd i'r capel—y nhw sy'n dweyd, os ydynt yn dweyd, nad ydi Nel Davis ddim yn ffit i fod yn wraig i weinidog Seilo; dydi'r Efengyl ddim yn dweyd hynny—yr Efengyl fel rwyf fi'n ei deall.
 
(Mr Harris) Rhagfarn pobl Seilo yn erbyn Nel Davis sydd o dan y gwrthwynebiad yma i mi ei phriodi.
(3, 0) 836 Rhagfarn?
(Mr Harris) Ie, rhagfarn noeth.
 
(Mr Harris) Oes rhyw flotyn ar ei chymeriad?
(3, 0) 840 Nac oes, dim un blotyn i mi wybod, ond nid cwestiwn o gymeriad yr eneth sydd mewn dadl.
(3, 0) 841 Rŷm yn credu digon ynoch i wybod na fuasech byth yn priodi merch ddi-gymeriad.
(3, 0) 842 Y pwnc ydi hwn, nid a ydi Nel Davis yn bur ei chymeriad, ond ydi hi'n ddigon cymwys i fod yn wraig i weinidog Seilo.
(3, 0) 843 Wyr hi ddim am gapel nac eglwys, mae'i phen hi'n llawn o ryw syniadau gwyllt ac ofergoelus, a hon yw'r eneth sydd i fod yn wraig i'n gweinidog.
(Mr Harris) Ffaeleddau bach iawn yw rheina, a buan y tyf hi allan ohonynt ond iddi gael chware teg.
 
(Mr Harris) Ffaeleddau bach iawn yw rheina, a buan y tyf hi allan ohonynt ond iddi gael chware teg.
(3, 0) 845 Nid mor fuan, achos mae aelwyd Dic Betsi wedi nwydo a lefeinio gormod arni.
(Mr Harris) Ai ïe, dyna chi rwan wedi dod at wreiddyn y gwrthwynebiad sydd iddi, y pechod mawr mae hi'n euog ohono yw, mai Dic Betsi ydi thad hi, dyna wraidd yr holl ragfarn yn ei herbyn.
 
(Mr Harris) Druan ohoni, merch Dic Betsi ydi hi; pe bae'n ferch i Mr, Blackwell y Plas mi gawsai bob croeso er i'r un ffaeleddau'n union fod yn perthyn iddi, ac eto ni sy'n sôn am ysbryd gwerinol Cymru, a'r un pryd mor falch yr yda ni i gael bowio i wŷr mawr a chrach-foneddigion.
(3, 0) 848 Wel, ofer yw i ni siarad dim yn rhagor.
(3, 0) 849 Dyma ni fel swyddogion Seilo wedi gneud ein dyletswydd, ac fe wyddom rwan ymhle mae'r naill a'r llall ohonom yn sefyll pan ddaw'r pwnc i fyny, os byth y daw, ger bron yr eglwys.
(3, 0) 850 Dyma ni'n mynd, Mr. Harris.
(3, 0) 851 Nos dawch.
(Mr Harris) Nos dawch.
 
(Doctor Huws) {Daw IFAN WYN a HOPCYN i mewn o'r dde.}
(4, 0) 995 Sut mae Jared rwan, Doctor?
(Doctor Huws) Digon gwael ydi o.
 
(Ifan) Wn i ar y ddaear be ddaw ohono i os bydd yr hen gono annwyl farw.
(4, 0) 1003 Mi rydw inna'n cael y drafferth fwya'n y byd i beidio crio fel babi.
(4, 0) 1004 Mi fydd hanner y pentre ma wedi mynd os aiff Jared.
(Doctor Huws) Peidiwch a chymryd golwg rhy ddifrifol ar y cês: fe all ddod drwyddi os medra i gadw'r drwg o'i galon o.
 
(Doctor Huws) Peidiwch a chymryd golwg rhy ddifrifol ar y cês: fe all ddod drwyddi os medra i gadw'r drwg o'i galon o.
(4, 0) 1006 Mae golwg go lew ar i wyneb o hefyd, Doctor; wrth gwrs doedd fawr o scwrs i gael â fo.
(Doctor Huws) Un twyllodrus iawn ydi'r gwyneb.
 
(Doctor Huws) Wel, i newid y stori, go lew y gweinidog yn cymryd i le fo fel jeinar yntê?
(4, 0) 1009 Mwy na go lew—ardderchog!
(Ifan) Ie, iechyd i'w galon o.
 
(Doctor Huws) Aiff o?
(4, 0) 1015 Nac aiff, gobeithio'r annwyl.
(Doctor Huws) Wel, taswn i yn i le o, mi symudwn, a mi gadawswn chi fynd i'ch crogi yn Seilo ar ol y tro gwael naethoch chi â fo flwyddyn yn ol.
 
(Doctor Huws) Wel, taswn i yn i le o, mi symudwn, a mi gadawswn chi fynd i'ch crogi yn Seilo ar ol y tro gwael naethoch chi â fo flwyddyn yn ol.
(4, 0) 1017 Cyfeirio rydach chi at y ngwaith i a blaenoriaid eraill yn sefyll yn erbyn iddo briodi Nel Davis?
(Doctor Huws) Ie, wrth gwrs.
 
(Doctor Huws) Ie, wrth gwrs.
(4, 0) 1019 Chware teg i ninnau, Doctor; doedd bron neb yn Seilo, ond Jared druan, yn fodlon iddo briodi Nel Davis yr adeg honno.
(Ifan) Heblaw hynny, mi fasa Mr. Harris wedi ei phriodi yn ein dannedd oni bae iddi wrthod yn bendant.
 
(Doctor Huws) Ar y ngair i, rwyf bron a choelio y basach chi'n fodlon iddi fod yn wraig y gweinidog erbyn heddiw,
(4, 0) 1025 Hawdd i chi siarad, ond mi wranta fod Nel Davis wedi codi yn eich barn chitha wedi i'r secrat ddod allan i bod hi'n rhyw berthyn pell i Mr. Blackwell.
(Ifan) Dydw i'n malio run frwynen am i pherthynas hi â Gŵr y Plas, ond mi gymra fy llwy bydd ychydig o ysgol yn Llunden yn siwr o ddofi dipyn arni, ac roedd eisia dofi gryn lawer arni.
 
(Ifan) Dydw i'n malio run frwynen am i pherthynas hi â Gŵr y Plas, ond mi gymra fy llwy bydd ychydig o ysgol yn Llunden yn siwr o ddofi dipyn arni, ac roedd eisia dofi gryn lawer arni.
(4, 0) 1027 Oedd, nenor tad.
(4, 0) 1028 Ymhle yn Llunden mae hi, Doctor?
(4, 0) 1029 Ryda ni bawb wedi gofyn i chi droion.
(Doctor Huws) Run ateb sy gen i: wn i ddim.
 
(Ifan) Gwarchod pawb, ydi hi yn y tŷ rwan?
(4, 0) 1036 Cellwar â ni rydach chi, fel arfar?
(Doctor Huws) Nage'n wir.
 
(Ifan) Wel diain i, mi fydd gen i ofn mynd i weld Jared os ydi hi'n tendio arno.
(4, 0) 1041 Wel, a deyd y gwir, mi fydda inna'n swil hefyd i gyfarfod â hi.
(4, 0) 1042 Ond diolch i'r trugaredd, mi gaiff Jared well siawns i wella os gwellith o,
(Doctor Huws) Dyda chi ddim yn dal dig at Nel Davis, gobeithio?
 
(Doctor Huws) Dyda chi ddim yn dal dig at Nel Davis, gobeithio?
(4, 0) 1044 Na, ryda ni i gyd yn fwy cymedrol erbyn hyn yn ein syniad am dani, ond y pwnc ydi, beth ydi'i syniad hi am Ifan a finna, achos mi ŵyr mai ni'n dau oedd y ring-ledars yn i herbyn hi dros flwyddyn yn ol.
(Doctor Huws) Peidiwch a chyboli'n wirion, mi fydd yr eneth yn |all right| â chi ar ol rhyw funud, a gobeithio y rhoith hi grafiad ne ddau i chi'ch dau.
 
(Ifan) Dos di'n gynta, Hopcyn.
(4, 0) 1052 Na, ti ydi'r hyna, Ifan.
(Ifan) Mae'n rhaid i ti gychwyn, achos ti ydi'r pen blaenor.
 
(Mr Harris) Mae Marged yn fwy awyddus na neb am gymodi â chi.
(4, 0) 1154 Wel, Mr. Harris, rwyn meddwl fod y Nyrs wedi hanner maddeu i Ifan a fi am yr hyn a fu—ond go oer oedd hi am dipyn, yntê Ifan?
(Ifan) Ie'n siwr, mi roddodd bum munud go boenus i ni'n dau, ond yn ôl ein haeddiant hwyrach.
 
(Ifan) Nyrs, annwyl, gwellwch yr hen Jared os oes modd.
(4, 0) 1157 le'n wir—mae'r Doctor na wedi torri'n calon ni yn y pentre wrth ddeyd fod Jared mor beryglus o wael.
(Nel) Mi rydw i'n fwy digalon na neb ohonoch.
 
(Nel) Soniwn ni byth eto am dano, dyna fi wedi cau'r drws am byth ar yr hyn a fu.
(4, 0) 1173 O, Nyrs Davis, newch chi ddim cau'r drws yn yr un dull dymunol efo Ifan a finna?
 
(4, 0) 1175 A dyma un arall y gwn i'n sicr fasa'n leicio yn i galon i chi gau'r drws ar y gorffennol run ffordd ag y gwnaethoch chi â Miss Marged Harris rwan.
(4, 0) 1176 Dyma Nyrs Davis sydd wedi dod o Lundain i dendio ar yr hen Jared.
(4, 0) 1177 Mi sgydwch law â fo, yn newch chi?
(Nel) Ar ol maddeu i'r ddau droseddwr mwya, hawdd maddeu i un oedd dipyn yn fwy pleidiol i mi nag Ifan Wyn a Hopcyn.
 
(Nel) Dydw i wedi cael fawr amser â fo eto, does fawr ers pan ddois i yma.
(4, 0) 1186 Un peth sy'n torri ar lawenydd y cymodi ma, a hwnnw ydi na fasa Jared yma.
(Ifan) Paid, Hopcyn bach, paid a gneud dyn yn fwy digalon nag ydi o.
 
(Jared) Nel Davis, mi rydw i cyn iached a'r gneuen; fûm i rioed mor iach.
(4, 0) 1194 Tyrd i'r tŷ i dy wely, Jared bach, mi awn a thi rwan.
 
(Jared) Mi nillais hi'n deg.
(4, 0) 1225 Y corgi digywilydd! a fi ac Ifan a pawb bron a thorri'n calon rhag ofn iti farw.
(4, 0) 1226 Wyddech chi am y tric, Mr. Harris?