Ar y Groesffordd

Ciw-restr ar gyfer Ifan

(Jared) {Gan edrych ar y plaen ar ol plaenio ' ychydig.}
 
(1, 0) 67 Brensiach fawr! yn nath hi ddiwrnod chwilboeth heddiw, fechgyn?
(1, 0) 68 Roedd hi'n siwr o fod yn crasu ar y brynia na heddiw, Dafydd?
(Dafydd) Oedd nen tad, ond beth am danat ti ar dy sêt grydd?
 
(Dafydd) Oedd nen tad, ond beth am danat ti ar dy sêt grydd?
(1, 0) 70 Gwarchod pawb! ches i rioed gletach diwrnod yn fy mywyd yn y gweithdy acw: mi faswn yn tynnu nghroen ac eiste'n f'esgyrn, pe gallswn i.
(Jared) Go lew di, Ifan!
 
(1, 0) 81 Twt lol! rwyt ti mor ddwl a llo blwydd, Jared.
(1, 0) 82 Rhyw jocio'n dragwyddol rwyt ti.
(1, 0) 83 Wn i ar arffed daear sut erioed y cest ti dy droed i mewn yn sêt fawr Seilo: |clown| mewn syrcus ddylset ti fod.
(Jared) Dyna fi wedi profi'r gosodiad wnes i rwan jest mai croen teneu enbyd sy gen ti; mae o fel croenin pwdin reis.
 
(Jared) Lodia dy getyn a phasia fo rownd i'r postman.
(1, 0) 88 Mae Hopcyn, ddalia i, yn colli llawer o hwyl wrth beidio smocio.
(Jared) Mae'n syn i mi na fasa ti, Hopcyn, yn smocio, a tithau'n gwerthu baco.
 
(Jared) Mi grafi di'r pres baco sy'n ein tlodi ni'n tri, ffei ohonot!
(1, 0) 99 Pwya fo, Jared.
(1, 0) 100 O! un garw wyt ti, Hopcyn; rwyt ti'n ddigon di-gydwybod i werthu petha sy'n groes i d'argyhoeddiad.
(Hopcyn) Aros di, Ifan Wyn; ti ydi Radical mawr y plwy ma, yntê?
 
(Hopcyn) Aros di, Ifan Wyn; ti ydi Radical mawr y plwy ma, yntê?
(1, 0) 102 Gyr ymlaen.
(Hopcyn) Ti sy'n gneud sgidia i'r Gŵr o'r Plas, y Tori mwya yn y sir, ac yn y sgidia rheiny mae o'n brasgamu ar adeg lecsiwn i ddeyd a gneud yn groes hollol i'r hyn gredir gen ti.
 
(Hopcyn) Blackwell?
(1, 0) 127 Rwyt ti'n siarad yn union fel pe bawn yn gneud Toris o sgidia; gneud sgidia i Doris rwyf fi, a pheth arall ydi hynny.
(Hopcyn) Pe bae'r anffyddiwr a'r cablwr pennaf yn y wlad yn dod am bâr o sgidia atat, fasa ti'n ei wrthod?
 
(Hopcyn) Pe bae'r anffyddiwr a'r cablwr pennaf yn y wlad yn dod am bâr o sgidia atat, fasa ti'n ei wrthod?
(1, 0) 129 Paid a phonsio'n wirion; fasa'r sgidia wnawn i iddo fo ddim yn anffyddiwrs nac yn gablwrs.
(Hopcyn) A! cwiblo rwyt ti rwan.
 
(Hopcyn) A! cwiblo rwyt ti rwan.
(1, 0) 131 Nage'n siwr: yn ôl dy syniad di─anffyddiwr o grydd ddylai neud sgidia i anffyddiwrs, a chrefyddwr o grydd ddylai neud sgidia i grefyddwrs.
(Hopcyn) Ia, achos rwyn siwr na fasa'r Apostol Paul ddím yn gneud |tent|─gneud tentia oedd i grefft o─fasa fo byth yn gneud |tent| i anffyddiwr ac i gablwr.
 
(Hopcyn) Dydi o ddim yn chware teg â fo i'w lusgo i mewn i'r ddadl ma: dyn ifanc ydi o, a does dim mis er pan mae'n weinidog hefo ni.
(1, 0) 141 Na, dydw inna ddim yn leicio'r syniad o'i dynnu o i'r ddrag, achos cyw heb fagu adenydd ydi o, a rhaid i ni'r hen gonos beidio plicio'i blu yn rhy gynnar.
(Jared) Cofia di fod Mr. Harris wedi bod yn y coleg am dair neu bedair blynedd, a fuo ni'n pedwar erioed mewn dim coleg ond coleg y gweithdy ma: y fo fydd yn plicio'n plu ni'n siwr i ti.
 
(Dafydd) Ie, dyna'r peth tebyca, achos ma nhw'n dysgu ymresymu yn y colegau na wrth reolau neilltuol.
(1, 0) 144 Mi fentra mhen na chawso nhw rioed well dadlu na fydd yn y gweithdy ma ambell i noson.
(Mr Harris) {Gan ddod i mewn a syllu o'i gylch.}
 
(1, 0) 174 Peth newydd spon yn y lle yma ydi galw ymhob tŷ, Mr. Harris; nath neb erioed mohono i mi gofio.
(Mr Harris) Tybed nad yw'n llawn bryd i neud hynny, Ifan Wyn?
 
(Mr Harris) Tybed nad yw'n llawn bryd i neud hynny, Ifan Wyn?
(1, 0) 176 Wel, fy marn onest i ydi, mi rydw i'n leicio gadael i ddynion fod at eu dewisiad, heb ddim gorfodaeth yn y busnes o gwbl.
(Hopcyn) Dyna marn inna hefyd, Mr. Harris.
 
(Hopcyn) Mae'n dda gen i glywed hynny, achos mae ar lawer ohonyn nhw gwrs byd o arian i mi yn y siop am |goods|.
(1, 0) 181 Mae na lu ohonyn nhw hefyd yn cerdded mewn sgidia na thalson nhw ddim dima goch y delyn i mi am danynt─y gweilch drwg.
(Jared) Cato pawb, Mr. Harris, mae ma dalwrs siamal o ddrwg yn y wlad.
 
(Mr Harris) Ond unwaith eto mae fy holl fryd ar fynd i wâdd y bobl yma nad ynt yn mynd i unrhyw le o addoliad, ac rwyn siwr na sefwch chi ddim yn erbyn hynny.
(1, 0) 188 Mae un tŷ, er hynny, y byddai'n ddoethach i chi fynd heibio iddo heb alw, Mr. Harris.
(Hopcyn) Mi wn i pwy sydd gan Ifan mewn golwg─cyfeirio mae o, mi wn, at dŷ Dic Betsi'r Pantglas.
 
(Hopcyn) Fo ydi pen portsiar yr ardal: mae o'n byw i lawr y cwm mewn bwthyn bach, fo a'i ferch; cadwch draw o'r fan honno beth bynnag.
(1, 0) 192 Ie'n wir, achos hen scum o ddyn ydi o, sy'n gas gan bawb; mae o'n portsio gêm a samons bob yn ail.
(1, 0) 193 Mi daliwyd o unwaith neu ddwy, ond y syndod ydi, chafodd o ddim jêl.
(Mr Harris) Gŵr gweddw ydi o?
 
(Mr Harris) Gŵr gweddw ydi o?
(1, 0) 195 Ie; mi ddaeth i'r ardal ma yn llanc o rywle na ŵyr neb o ble i wasanaethu efo Mr. Blackwell yn y Plas, ac mi briododd y ferch nobla'n y gymydogaeth, ac yn fuan iawn mi drodd i feddwi a chafodd sac o'r plas, ac o ddrwg i waeth yr aeth byth er hynny, ac mae'n dial ar Mr. Blackwell drwy bortsio ar ei stâd gymaint all o drwy'r blynyddoedd.
(Mr Harris) Ei ferch sy'n cadw tŷ iddo, medde chi.
 
(Mr Harris) Pwy ŵyr na ddaw rhyw les o ymweld â nhw?
(1, 0) 201 Dyma ni wedi'ch rhybuddio, Mr. Harris.
(1, 0) 202 Wrth gwrs, fe gewch neud fel y mynnoch, ond yn siwr i chi gwell i chi beidio galw yno.
(Mr Harris) {Dan hwylio i fynd allan.}
 
(Jared) Hwyrach, wedi'r cwbl, fod gronyn o rhyw ddaioni yn Dic Betsi.
(1, 0) 212 Daioni wir! pa ddaioni, sgwn i?
(Jared) {Dan bruddhau.}
 
(Jared) Rhaid fod rhyw ddaioni yno fo ymhell yn ol neu fasa Martha'r Wern Lwyd ddim yn ei briodi: merch ragorol oedd Martha.
(1, 0) 215 A! rwy'n cofio rwan, roeddet ti mewn cariad â Martha, yn doeddet ti, cyn i Dic ddod i'r ardal ma?
(Jared) {Yn drist.}
 
(Mr Harris) {A NEL a'r GWEINIDOG allan drwy'r drws ar y chwith, gan adael y tri blaenor yn edrych ar ei gilydd.}
(3, 0) 764 Bobol annwyl, dyna ni wedi'i ddal yn yn act o garu â'r eneth yna.
(3, 0) 765 Mae'r stori'n wir, fechgyn.
(Dafydd) Paid a bod yn rhy siwr; cwestiwn go gynnil ydi hwn.
 
(Dafydd) Howld! be wyddom ni nad cysuro'r eneth yn ei gofid roedd o—i chysuro hi'n rhinwedd ei swydd fel gweinidog?|
(3, 0) 771 Rhinwedd ei swydd fel gweinidog, wir!
(3, 0) 772 Paid a lolian.
(3, 0) 773 Os nad oedd o'n caru rwan, wadnais i rioed bâr o sgidia yn rhinwedd fy swydd fel crydd.
(Dafydd) {Cenfydd y "dumb-bells" ar y bwrdd blodeu.}
 
(3, 0) 780 Na, thwtsia i mohonyn nhw.
(3, 0) 781 Be wyddom ni nad tacla'r eneth na i witsio a deyd ffortun ydyn nhw?
(Dafydd) Gafr i! Mi wn be ydyn nhw; efo'r rhain y bydd Dic yn taro talcen y samons fydd o'n ddal.
 
(Dafydd) O boced hen angeu'r pysgod y daetho nhw'n siwr i chi.
(3, 0) 784 Mwy tebyg o lawer mai arfa i daro mennydd y cipar ydyn nhw.
(Hopcyn) Rho nhw'n ol ar y bwrdd, Dafydd, mae sŵn troed rhywun yn dod.
 
(Mr Harris) Mi gwelsoch chitha'ch tri o rwan jest?
(3, 0) 792 Do siwr.
(3, 0) 793 O'r gegin oedde ni'n dod pan y gwelsom chi yn rhoi gair o gysur i'w ferch o yn rhinwedd eich swydd fel gweinidog.
(Mr Harris) Mi fydd yn ergyd trwm iddi hi i golli o.
 
(Mr Harris) Mi fydd yn ergyd trwm iddi hi i golli o.
(3, 0) 795 Ergyd, efallai, ydi'r gair goreu.
(3, 0) 796 Llawer ergyd gafodd hi ganddo o dro i dro, a fedr o ddim marw heb roi un arall iddi, yr hen haffgi brwnt.
(Dafydd) Chware teg, Ifan, cofia fod Dic ar lan yr Iorddonen y munudau yma.
 
(Dafydd) Chware teg, Ifan, cofia fod Dic ar lan yr Iorddonen y munudau yma.
(3, 0) 798 Wel, os ar lan yr Iorddonen mae o, mi dyffeia fo y gwnaiff o'i oreu glas i bortsio samon neu ddau ohoni cyn i heglu hi dros y dŵr.
 
(Mr Harris) Ie, mae o'n dad iddi.
(3, 0) 804 Welwch chi, Mr. Harris, heb guro rhagor o gwmpas y twmpathau, oes rhywbeth yn y siarad ma sy'n heplas drwy'r lle eich bod am briodi'r ferch yna?
(Mr Harris) Ai gofyn fel blaenor Seilo rydach chi neu fel crydd?
 
(3, 0) 809 Marchog y myniawyd, ai ê?
(3, 0) 810 Mae'n well gen i hynny na bod yn rhyw dderyn corff fel ti yn prowla am siawns i naddu arch i Dic Betsi.
(3, 0) 811 Rwan, Mr. Harris, mae'n bryd i ni gael gwybod, ydach chi'n meddwl priodi merch Dic neu beidio, achos ryda ni bawb ers misoedd bellach mewn pryder ynghylch y peth.
(Jared) Mae ngwaed i'n twymo wrth glywed dy hyfdra, Ifan Wyn.
 
(Mr Harris) Hanner munud, chaiff dau hen ffrind fel chi ddim ffraeo â'ch gilydd o'm hachos i.
(3, 0) 816 Pam, ynte, mae o'n pwyo'i wimblad i mi?
(Jared) Pam rwyt tithau'n pwnio dy fyniawyd i mewn i fusnes y gweinidog?
 
(Doctor Huws) Digon gwael ydi o.
(4, 0) 997 Dydi o ddim yn anobeithiol ydi o?
(Doctor Huws) Mae'n anodd deyd hyd yn hyn.
 
(4, 0) 1001 Mi rydw i'n methu byta na chysgu na gweithio wrth feddwl am dano.
(4, 0) 1002 Wn i ar y ddaear be ddaw ohono i os bydd yr hen gono annwyl farw.
(Hopcyn) Mi rydw inna'n cael y drafferth fwya'n y byd i beidio crio fel babi.
 
(Hopcyn) Mwy na go lew—ardderchog!
(4, 0) 1010 Ie, iechyd i'w galon o.
(Doctor Huws) Ydi o'n wir i fod o wedi cael galwad o eglwys fawr yn Lerpwl na?
 
(Doctor Huws) Ydi o'n wir i fod o wedi cael galwad o eglwys fawr yn Lerpwl na?
(4, 0) 1012 Ydi nen tad!
(4, 0) 1013 Mae dwy ne dair o eglwysi mawr am i ddwyn o oddiarnom yn Seilo, rhen gnafon sâl.
(Doctor Huws) Aiff o?
 
(Hopcyn) Chware teg i ninnau, Doctor; doedd bron neb yn Seilo, ond Jared druan, yn fodlon iddo briodi Nel Davis yr adeg honno.
(4, 0) 1020 Heblaw hynny, mi fasa Mr. Harris wedi ei phriodi yn ein dannedd oni bae iddi wrthod yn bendant.
(Doctor Huws) Lol i gyd!
 
(Hopcyn) Hawdd i chi siarad, ond mi wranta fod Nel Davis wedi codi yn eich barn chitha wedi i'r secrat ddod allan i bod hi'n rhyw berthyn pell i Mr. Blackwell.
(4, 0) 1026 Dydw i'n malio run frwynen am i pherthynas hi â Gŵr y Plas, ond mi gymra fy llwy bydd ychydig o ysgol yn Llunden yn siwr o ddofi dipyn arni, ac roedd eisia dofi gryn lawer arni.
(Hopcyn) Oedd, nenor tad.
 
(Doctor Huws) Run ateb sy gen i: wn i ddim.
(4, 0) 1031 Gwyddoch o'r goreu, ond mi gaiff Doctor balu celwydd yn ddi-gosb; mi wyddoch chi a'r Scweiar drwy'r misoedd ymhle mae hi, ond na ddeydwch chi ddim.
(Doctor Huws) Wel, mi wn ymhle mae hi'r funud ma.
 
(Doctor Huws) I mewn yn tŷ yn tendio ar Jared.
(4, 0) 1035 Gwarchod pawb, ydi hi yn y tŷ rwan?
(Hopcyn) Cellwar â ni rydach chi, fel arfar?
 
(Doctor Huws) Mae hi'n leicio Jared erioed.
(4, 0) 1040 Wel diain i, mi fydd gen i ofn mynd i weld Jared os ydi hi'n tendio arno.
(Hopcyn) Wel, a deyd y gwir, mi fydda inna'n swil hefyd i gyfarfod â hi.
 
(Doctor Huws) Rwan mi awn i'r tŷ ein tri.
(4, 0) 1050 Diaist, mae gen i dipyn o ofn i gwynebu hi.
(4, 0) 1051 Dos di'n gynta, Hopcyn.
(Hopcyn) Na, ti ydi'r hyna, Ifan.
 
(Hopcyn) Na, ti ydi'r hyna, Ifan.
(4, 0) 1053 Mae'n rhaid i ti gychwyn, achos ti ydi'r pen blaenor.
(Mr Harris) Rwan, Harri! y troed gore mlaen.
 
(Hopcyn) Wel, Mr. Harris, rwyn meddwl fod y Nyrs wedi hanner maddeu i Ifan a fi am yr hyn a fu—ond go oer oedd hi am dipyn, yntê Ifan?
(4, 0) 1155 Ie'n siwr, mi roddodd bum munud go boenus i ni'n dau, ond yn ôl ein haeddiant hwyrach.
(4, 0) 1156 Nyrs, annwyl, gwellwch yr hen Jared os oes modd.
(Hopcyn) le'n wir—mae'r Doctor na wedi torri'n calon ni yn y pentre wrth ddeyd fod Jared mor beryglus o wael.
 
(Hopcyn) Un peth sy'n torri ar lawenydd y cymodi ma, a hwnnw ydi na fasa Jared yma.
(4, 0) 1187 Paid, Hopcyn bach, paid a gneud dyn yn fwy digalon nag ydi o.
(4, 0) 1188 O'r tad, gobeithio daw o uwchben i draed unwaith eto.
(Jared) Rydw i wedi blino bod yn sâl a'r Nyrs ddim yn tendio arna i.
 
(Jared) Wel, i fynd ymlaen, be nath y Doctor ma—ac un melltigedig o gastiog ydi o—be nath o ond gofyn i mi ddydd Sadwrn fuaswn i'n mynd yn sâl iawn dydd Llun, dydd Llun diweddaf, wrth gwrs, ac mi es yn sâl iawn fel y gwyddoch, drwy ordors Doctor.
(4, 0) 1218 Yr hen gena drwg gen ti.