Ar y Groesffordd

Ciw-restr ar gyfer Jared

 
(1, 0) 9 Be fuost ti'n neud â'r plaen yma, Harri?
(Harri) Plaenio, Mistar.
 
(Harri) Plaenio, Mistar.
(1, 0) 11 Ie, plaenio, wrth gwrs; mi wyddwn mai nid codi tatws y buost ti hefo fo.
(1, 0) 12 Does dim blewyn o fin arno fo rwan beth bynnag.
 
(1, 0) 14 Mae ma dolc ne ddau arno fo hefyd.
(1, 0) 15 Estyn y plaen arall na.
 
(1, 0) 17 Fuost ti'n plaenio hefo hwn hefyd, dywed?
(Harri) Do, am spel, Mistar, ond mi drawis yn erbyn rhyw hen hoelan yn y planc ac mi scythris i phen hi.
 
(Harri) Do, am spel, Mistar, ond mi drawis yn erbyn rhyw hen hoelan yn y planc ac mi scythris i phen hi.
(1, 0) 19 O, felly wir!
(1, 0) 20 Cofia di o hyn allan ma plaenio coed ac nid hoelion ydi gwaith plaen, Harri bach: prentis o jeinar wyt ti wyddost, ac nid gôf nac injaniar.
(Harri) O'r gora, Mistar, ond mi ddo i'n well prentis mhen tipyn.
 
(Harri) O'r gora, Mistar, ond mi ddo i'n well prentis mhen tipyn.
(1, 0) 22 Mi wyddost wrth gwrs fod y gair prentis yn dod o'r gair "pren"─P-R-E-N-T-I-S, un yn gweithio mewn pren, wyddost, dyna darddiad y gair, medde nhw, yn ôl y dicsionari.
(Harri) Tybad, Mistar?
 
(Harri) "Prentis o siopwr" ddwedwn ni yntê?
(1, 0) 25 Ie siwr, ond cofia di ma sefyll tu nol i gowntar wedi ei wneud o bren y bydd prentis siopwr: y gwir ydi, ymhle bynnag y cei di brentis, ma na bren heb fod ymhell, yn siwr iti.
(Harri) Mi fydd mam yn sôn am brentis o ddoctor, a does na ddim pren yn agos at ddoctor.
 
(Harri) Mi fydd mam yn sôn am brentis o ddoctor, a does na ddim pren yn agos at ddoctor.
(1, 0) 27 Dull o siarad sy gan dy fam ydi hwnna: prentis o ddoctor ydi doctor ofnatsan o sâl efo'i waith, doctor a phen fel pren ffawydd ne bren bocs.
(1, 0) 28 Ond wastio amser ryda ni rwan: gad i ni olchi arni yn o gwic, achos ma hi'n mynd ymhell ar y dydd.
(1, 0) 29 'Run pryd cofia ystyr y gair prentis wrth usio'r plaen─dojio'r hoelion, wyddost, ydi'r gamp i brentis o jeinar.
 
(1, 0) 31 Helo, Dafydd Elis, wyt ti'n mudo i rywle?
(Dafydd) Mae un o goesa'r gadair ma'n rhydd ers plwc byd, Jared, ac mae rhywrai ohonom yn y tŷ acw'n eiste arni heb gofio, ac i lawr â ni'n glwt i'r llawr.
 
(Dafydd) Fu dim ond y dim i Mr. Harris y gweinidog fynd ar i hyd ar garreg yr aelwyd y noson o'r blaen.
(1, 0) 34 Cato pawb!
(1, 0) 35 l peth sad fasai'r gweinidog newydd gael ei godwm cynta yn dy dŷ di.
(1, 0) 36 Ond marcia di ngair i, mae rhywun yn mynd i gael codwm yn y gweithdy ma heno.
(1, 0) 37 Diaist i, mi rof Ifan Wyn i eiste arni: watsia di 'rhen grydd yn llyfu'r llawr.
(1, 0) 38 Mi gosodwn hi i sefyll y fan yma a golwg mor ddiniwed a'r gloman arni hi.
 
(1, 0) 40 Eiste'n rhywle, Dafydd, nes daw'r criw i mewn am scwrs: mae gen i ddrws stabl Gŵr y Plas i'w orffen.
(Dafydd) Dos di ymlaen.
 
(Dafydd) Rwy'n credu i mi chwysu digon i nofio man-i-war go lew heddiw wrth fynd a dod, a thrwy ryw anlwc roedd gen i feichiau trymach nag arfer heddiw.
(1, 0) 43 Ond job go iach, wel di, ydi job postman er hynny, allan yn yr awyr iach drwy'r dydd, ac ambell i jwg o laeth enwyn a chwlff o fara chaws wrth y ffermydd na, yn lle bod fel fi a dy ben wrth y post drwy gydol y dydd ynghanol shafings a blawd lli.
(1, 0) 44 Eiste'n rhywle, ond nid ar y gadair goes glec na.
(1, 0) 45 lfan Wyn gaiff roi i glun i lawr ar honna.
(Dafydd) Druan o'r hen grydd, wn i ddim sut mae o'n cadw'n ffrindiau â thi ar ol dy holl gastiau.
 
(Dafydd) Druan o'r hen grydd, wn i ddim sut mae o'n cadw'n ffrindiau â thi ar ol dy holl gastiau.
(1, 0) 47 Hen bartnars, Dafydd, hen bartnars: Ifan a finnau ddeng mlynedd ar hugain yn ol oedd y ddau lanc smartia'n y dyffryn.
(Dafydd) Be nath i ti bara'n hen lanc ac yntau i briodi, Jared?
 
(Dafydd) Be nath i ti bara'n hen lanc ac yntau i briodi, Jared?
(1, 0) 49 Dyna oedd yn y rhan i hwyrach.
 
(1, 0) 51 Pa siap sydd ar y siopwr heno?
(Hopcyn) Cyn i mi anghofio, Jared, mae un o'r shetars ar y ffenest acw wedi chwyddo neu rywbeth, nei di redeg dy blaen drosti os do i a hi yma fory?
 
(Hopcyn) Cyn i mi anghofio, Jared, mae un o'r shetars ar y ffenest acw wedi chwyddo neu rywbeth, nei di redeg dy blaen drosti os do i a hi yma fory?
(1, 0) 53 Be sydd ar y tacla heddiw?
(1, 0) 54 Rwan jest roedd Dafydd am i mi roi coes ei gadair yn ei lle; rwan dyma titha'n gofyn i mi ostwng y chwydd yn dy shetar.
(1, 0) 55 Mae'r gweithdy ma'n mynd yn rêl surjary doctor.
 
(1, 0) 57 Hopcyn!
(1, 0) 58 Biwêr!
(1, 0) 59 Cadw draw oddiwrth y gadair na.
(1, 0) 60 Ifan Wyn sy'n mynd i gael ei gadeirio yn y steddfod hon.
 
(1, 0) 62 Howld! dyma sŵn i droed o!
(1, 0) 63 Mor sobr a |judge| bob copa ohonoch chi rwan.
 
(1, 0) 65 Da machgen i am gadw dy gyhoeddiad.
(Ifan) {Dan fopio'i dalcen.}
 
(Ifan) Gwarchod pawb! ches i rioed gletach diwrnod yn fy mywyd yn y gweithdy acw: mi faswn yn tynnu nghroen ac eiste'n f'esgyrn, pe gallswn i.
(1, 0) 71 Go lew di, Ifan!
(1, 0) 72 Mi feddyliaist am y deunydd teneuaf yn bosibl ar wres, achos ti ydi'r creadur mwya croen-deneu'n y wlad.
(1, 0) 73 Tyrd, rhen bellen gwyrcrydd, rwyf wedi cadw'r gadair acw i ti yn arbennig.
(1, 0) 74 Aros, mae drychfeddwl wedi nharo, ti yw'r bardd cadeiriol, Ifan, a finna ydi'r archdderwydd yn d'arwain dros yn llwyfan.
 
(1, 0) 76 A oes heddwch?
 
(1, 0) 78 Steddwch, Mr. Wyn, yng nghadair beirdd Ynys Prydain.
 
(Ifan) Wn i ar arffed daear sut erioed y cest ti dy droed i mewn yn sêt fawr Seilo: |clown| mewn syrcus ddylset ti fod.
(1, 0) 84 Dyna fi wedi profi'r gosodiad wnes i rwan jest mai croen teneu enbyd sy gen ti; mae o fel croenin pwdin reis.
(1, 0) 85 Ond eiste, Ifan bach, a gad i ni anghofio'n poen mewn mwg baco.
 
(1, 0) 87 Lodia dy getyn a phasia fo rownd i'r postman.
(Ifan) Mae Hopcyn, ddalia i, yn colli llawer o hwyl wrth beidio smocio.
 
(Ifan) Mae Hopcyn, ddalia i, yn colli llawer o hwyl wrth beidio smocio.
(1, 0) 89 Mae'n syn i mi na fasa ti, Hopcyn, yn smocio, a tithau'n gwerthu baco.
(1, 0) 90 Ar fy ngair i, dos gen ti o bawb ddim hawl i beidio smocio.
(Hopcyn) Sut hynny?
 
(Hopcyn) Sut hynny?
(1, 0) 92 Wel os wyt ti'n credu fod smocio'n arferiad drwg, ac mi wn dy fod, pam gebyst wyt ti'n gwerthu baco?
(1, 0) 93 Os wyt ti o'r farn mai gwastraff ar arian ydi smocio, ymhle mae dy gysondeb yn ei werthu dros y cowntar?
(1, 0) 94 Wyt ti ddim yn gweld dy fod fel Satan yn temtio'r crydd a'r postman a finnau i syrthio i'r arferiad ac i wastio'n harian prin?
(Hopcyn) Os na phrynwch chi faco gen i, mi prynwch o'n rhywle'r cnafon barus.
 
(Hopcyn) Os na phrynwch chi faco gen i, mi prynwch o'n rhywle'r cnafon barus.
(1, 0) 96 Rhen gribiniwr arian!
(1, 0) 97 Rwyt yn barod i bocedu pris y gwenwyn wyt ti'n gredu sy'n lladd Ifan a Dafydd a finnau'n raddol.
(1, 0) 98 Mi grafi di'r pres baco sy'n ein tlodi ni'n tri, ffei ohonot!
(Ifan) Pwya fo, Jared.
 
(Hopcyn) Ti sy'n gneud sgidia i'r Gŵr o'r Plas, y Tori mwya yn y sir, ac yn y sgidia rheiny mae o'n brasgamu ar adeg lecsiwn i ddeyd a gneud yn groes hollol i'r hyn gredir gen ti.
(1, 0) 104 Howld!
(1, 0) 105 Nid run peth ydi hynny a dy waith di'n gwerthu baco nad wyt ti'n credu dim ynddo.
(Hopcyn) Run peth yn hollol ydi'r ddau.
 
(Hopcyn) Rwyt ti'n brysur ddoe a heddiw'n gneud drws stabal i Ŵr y Plas, yn dwyt ti?
(1, 0) 109 Dos ymlaen; mi wela dy fod wedi codi stêm.
(Hopcyn) Dyma titha'n rhoi dy hun yn Radical mawr fel Ifan, ac eto rwyt ti'n ddigon anghyson i neud drws stabal i geffyla sy'n rambandio o gwmpas yr ardal ar etholiad i gario dynion i fotio'n erbyn yr egwyddorion rwyt ti byth a hefyd yn eu brolio.
 
(Hopcyn) Sgubwch yn lân o flaen carreg eich drws eich hun cyn deyd fod llwch ar f'un i.
(1, 0) 116 Hanner munud!
(1, 0) 117 Rwyt ti'n union fel rhen longwr na fydd yn dod i ffair Caerdref i gael i rwymo â rhaff, mae'n llithro o bob cwlwm; ond mi ro i gwlwm dolen ar dy sodla na fedri di syflyd gam ohono.
(1, 0) 118 Rwyt ti'n deyd bob amser fod smocio'n arferiad drwg, yn dwyt ti?
(Hopcyn) Ydw.
 
(Hopcyn) Ydw.
(1, 0) 120 Ac eto i gyd rwyt ti'n gwerthu'r stwff i'w smocio?
(Hopcyn) Dos ymlaen â'th ymresymiad.
 
(Hopcyn) Dos ymlaen â'th ymresymiad.
(1, 0) 122 Os ydi smocio'n ddrwg, mae'n rhaid fod baco'n ddrwg, achos does dim |use| i faco o gwbl ond i'w smocio.
(1, 0) 123 O'r goreu; mae baco, felly, 'n ddrwg ynddo'i hunan, ond am y sgidia mae Ifan yn i neud i Mr.
(1, 0) 124 Blackwell y Plas, mae rheiny'n bethau angenrheidiol, achos mae'n rhaid i Dori gael sgidia.
(Hopcyn) Ond pa gysondeb sydd i Radical penboeth fel Ifan neud pâr o sgidia i Dori mawr fel Mr.
 
(1, 0) 134 Harri, picia dros y ffordd a galw ar Mr. Harris y gweinidog i ddod yma am ychydig.
(1, 0) 135 Wedyn mi elli gadw noswyl.
(1, 0) 136 Cofia ystyr y gair prentis, a chofia fod yma am saith bore fory.
(Hopcyn) Beth wyt ti eisiau â'r gweinidog?
 
(Hopcyn) Beth wyt ti eisiau â'r gweinidog?
(1, 0) 139 Fo gaiff setlo'r ddadl ma.
(Hopcyn) Dydi o ddim yn chware teg â fo i'w lusgo i mewn i'r ddadl ma: dyn ifanc ydi o, a does dim mis er pan mae'n weinidog hefo ni.
 
(Ifan) Na, dydw inna ddim yn leicio'r syniad o'i dynnu o i'r ddrag, achos cyw heb fagu adenydd ydi o, a rhaid i ni'r hen gonos beidio plicio'i blu yn rhy gynnar.
(1, 0) 142 Cofia di fod Mr. Harris wedi bod yn y coleg am dair neu bedair blynedd, a fuo ni'n pedwar erioed mewn dim coleg ond coleg y gweithdy ma: y fo fydd yn plicio'n plu ni'n siwr i ti.
(Dafydd) Ie, dyna'r peth tebyca, achos ma nhw'n dysgu ymresymu yn y colegau na wrth reolau neilltuol.
 
(Mr Harris) Pwy fasa'n disgwyl cyfarfod â blaenoriaid Seilo'n drefnus hefo'i gilydd yma?
(1, 0) 147 Does gynno chi ddim yn erbyn i ni ddod am scwrs a smoc i weithdy saer gyda'r nos fel hyn, Mr. Harris?
(Mr Harris) Yn erbyn?
 
(Mr Harris) Jared Jones, ga i drio'm llaw ar y tools ma am funud, i weld ydi mysedd a nhw'n dal i nabod i gilydd?
(1, 0) 152 Cewch nen tad annwyl, ond er mwyn daioni peidiwch a chodi siop saer mewn oposisiwn i mi, ne mi ewch a ngwaith i gyd, a does fawr o fraster arno fo fel y mae petha.
 
(1, 0) 154 Cyn i chi drioch llaw, setlwch ddadl go boeth sy ar droed yma.
(1, 0) 155 Rwan, beth ydi'ch barn chi?
(1, 0) 156 Gneud tentia oedd crefft yr Apostol Paul, yntê?
(1, 0) 157 Fasa Paul yn fodlon i neud tent i anffyddiwr a chablwr?
(Mr Harris) Fasa Paul yn gneud tent i anffyddiwr a chablwr?
 
(Mr Harris) Fasa Paul yn gneud tent i anffyddiwr a chablwr?
(1, 0) 159 Ie siwr.
(Mr Harris) Wel, os oes rhyw werth ynddi, dyma marn i, basa, mi fasa Paul yn gneud |tent| i'r dyn gwaetha'n y byd, achos dyna ydi crefydd, "os d'elyn a newyna, portha ef."
 
(Mr Harris) A chyda llaw, mae gen i, fel mae'n digwydd, fater bach yr hoffwn i gael eich barn arno, a barn ffafriol os yn bosib.
(1, 0) 164 Rwan am dani, Mr. Harris, tra mae'r haearn yn boeth.
(Mr Harris) Dyma'n agos i fis er pan ordeiniwyd fi'n weinidog yma, ac fel pob gwas newydd mae gen i gynllun bach y carwn i ei roi o'ch blaen fel blaenoriaid Seilo, a dyma fo: rwyf wedi gosod fy mryd ar alw yn nhŷ y bobl hynny yn yr ardal yma nad ynt yn mynd i unrhyw le o addoliad.
 
(Mr Harris) Go ddistaw yda chi; rwyn ofni nad ydach chi ddim yn ffafriol i'r cynllun.
(1, 0) 171 Mr. Harris, mi fedrwn ddadlu pyncia trymion yng Nghymru am oriau bob dydd, ond go ddi-gynnig yda ni ar dipyn o waith ymarferol.
(1, 0) 172 Tyrd, Ifan Wyn, dywed rywbeth, seinia gân yn lle bod yn fudan.
(Ifan) {Gan chware â'i getyn.}
 
(Ifan) Mae na lu ohonyn nhw hefyd yn cerdded mewn sgidia na thalson nhw ddim dima goch y delyn i mi am danynt─y gweilch drwg.
(1, 0) 182 Cato pawb, Mr. Harris, mae ma dalwrs siamal o ddrwg yn y wlad.
(1, 0) 183 Da chi, rhowch bregeth i ni rai o'r Suliau nesa ar y gair ddeydodd Eliseus wrth y wraig honno: "Dos, gwerth dy olew a thâl dy ddyled."
(1, 0) 184 Mi wnae un bregeth felly'r byd o les.
(Mr Harris) Mi gofia'r cyngor, Jared Jones.
 
(Pawb) Nos dawch, Mr. Harris.
(1, 0) 209 Diaist i, mae na gêm yno fo, fechgyn!
(1, 0) 210 Ac mae'n dda gen i fod o am alw i weld Dic er mwyn rhoi siawns i'r hen walch.
(1, 0) 211 Hwyrach, wedi'r cwbl, fod gronyn o rhyw ddaioni yn Dic Betsi.
(Ifan) Daioni wir! pa ddaioni, sgwn i?
 
(1, 0) 214 Rhaid fod rhyw ddaioni yno fo ymhell yn ol neu fasa Martha'r Wern Lwyd ddim yn ei briodi: merch ragorol oedd Martha.
(Ifan) A! rwy'n cofio rwan, roeddet ti mewn cariad â Martha, yn doeddet ti, cyn i Dic ddod i'r ardal ma?
 
(1, 0) 217 Oeddwn, waeth cyfadde'n onest, ond Dic garíodd y dydd, ac yr oedd yntau'n gamp o ddyn bum mlynedd ar hugain yn ol.
(1, 0) 218 Ond druan o Martha, byd helbulus gafodd hi, a doeddwn i ddim yn leicio'ch clywed mor lawdrwm ar Nel Davis.
(1, 0) 219 Os Dic ydi thad hi, Martha oedd i mam hi.
(1, 0) 220 Wel, nos dawch.
(1, 0) 221 Mi faria'r drws 'ma ar eich holau.
(Pawb) {Wrth fyned.}
 
(Nel) Ga i aros yn y gweithdy ma heno?
(1, 0) 229 Na chewch ar un cyfri; mi gewch aros yn y tŷ a chan croeso, ond mi gysga i yn y gweithdy; rwy'n hen gynefin â gneud hynny.
(Nel) Wn i ddim sut i ddiolch i chi.
 
(Nel) Wn i ddim sut i ddiolch i chi.
(1, 0) 231 Does dim i ddiolch am dano.
(1, 0) 232 Fe wnawn ragor na hyn i ferch Martha'r Wern Lwyd.
(1, 0) 233 Anghofia i byth mo'ch mam, a choelia i ddim nad ydach chi'n debig iawn iddi pan oedd hi run oed a chi.
(Nel) Ddeydwch chi ddim wrth neb, rwy'n siwr, fod nhad wedi ngyrru allan o'r tŷ heno?
 
(Nel) Ddeydwch chi ddim wrth neb, rwy'n siwr, fod nhad wedi ngyrru allan o'r tŷ heno?
(1, 0) 235 Mi fyddaf fel y bedd.
(1, 0) 236 Mi gewch hyd i'r bwyd yn y gegin a gnewch bryd i chi'ch hun.
(Nel) Na, dim pryd i mi heno, mi ges ddigon cyn rhedeg allan.
 
(Nel) Na, dim pryd i mi heno, mi ges ddigon cyn rhedeg allan.
(1, 0) 238 Does dim eisia bwyd arna innau chwaith, ond mi gewch estyn y glustog sydd ar y setl yn y gegin, os gnewch chi, ac yna fe wnaf y tro'n |grand|.
(Nel) Dyma hi.
 
(Nel) Dyma hi.
(1, 0) 241 Nos dawch!
(Nel) {Gan fynd drwy'r drws i'r tŷ.}
 
(3, 0) 807 Mi glywais dy gwestiwn di, Ifan Wyn, ac rwyn synnu at dy hyfdra, ond rhaid i chi gofio, Mr. Harris, fod Ifan yn grydd yn y sêt fawr weithiau ac yn flaenor ar ei sêt grydd dro arall, a does dim ond joch o gwyrcrydd yn dal |joint| y crydd a joint y blaenor wrth ei gilydd ym marchog y myniawyd ma.
(Ifan) {Yn ddig.}
 
(Ifan) Rwan, Mr. Harris, mae'n bryd i ni gael gwybod, ydach chi'n meddwl priodi merch Dic neu beidio, achos ryda ni bawb ers misoedd bellach mewn pryder ynghylch y peth.
(3, 0) 812 Mae ngwaed i'n twymo wrth glywed dy hyfdra, Ifan Wyn.
(3, 0) 813 Wyt ti'n meddwl mai ti yw angel yr Eglwys yn Seilo, dywed?
(3, 0) 814 Os wyt ti, mae'n hen bryd rhoi patsh neu ddau ar d'adenydd di a choblo dipyn ar esgyll dy bedion.
(Mr Harris) Hanner munud, chaiff dau hen ffrind fel chi ddim ffraeo â'ch gilydd o'm hachos i.
 
(Ifan) Pam, ynte, mae o'n pwyo'i wimblad i mi?
(3, 0) 817 Pam rwyt tithau'n pwnio dy fyniawyd i mewn i fusnes y gweinidog?
(3, 0) 818 Mae'n ofnadwy o beth na chaiff Mr. Harris ddim priodi'r neb a fynno.
(Hopcyn) Jared, nid gelyniaeth yn erbyn Mr. Harris sy gan neb ohonom, ond mae ar bawb ohonom ofn i chi briodi'r eneth yma, ac fe ddaeth pethau i boint heno pan y gwelsom chi â'ch braich am ei gwddw,
 
(Hopcyn) Jared, nid gelyniaeth yn erbyn Mr. Harris sy gan neb ohonom, ond mae ar bawb ohonom ofn i chi briodi'r eneth yma, ac fe ddaeth pethau i boint heno pan y gwelsom chi â'ch braich am ei gwddw,
(3, 0) 820 Wel, tawn i byth yn symud o'r fan ma!
(3, 0) 821 Hen lanc ydw i, a diolch i'r drefn am hynny, ond pe basa Eglwys Seilo yn fy nal i'n gyfrifol i briodi pob geneth y bu'm llaw i am ei gwddw mi fasa gen i gymaint o wragedd a'r Shah o Persia─os doeth hefyd i briodi cymaint.
(Hopcyn) Rwan, Mr. Harris, waeth heb areithio dim rhagor ac mae hi'n bryd i'n rhoi ni allan o'n pryder; sut mae hi'n sefyll rhyngoch chi a Nel Davis?
 
(Mr Harris) Anghofio'ch het ddaru chi, Jared Jones?
(3, 0) 855 Dod yn ol ddaru mi er mwyn cael ysgwyd llaw â chi, syr, ar ol y sgarmes.
 
(3, 0) 857 Mr. Harris, mae na rêl gêm ynoch chi, os ca i usio'r gair.
(3, 0) 858 Os byth y daw hi i'r pen arnoch yn Seilo, gobeithio na ddaw hi byth i hynny, ond os digwydd i'r llanw droi yn eich erbyn, mae'r gweithdy acw'n agored i chi pan fynnoch.
(3, 0) 859 Hen jeinar ydach chi yntê?
(3, 0) 860 Wel, er mai dyn tlawd ydw i, mi ranna'r pres nillwn ni gyda'n crefft.
(3, 0) 861 Mi fydd hynny'n deg yn fydd o?
(3, 0) 862 Bendith ar ych pen!
(3, 0) 863 Mae na rêl gêm ynoch chi, fel sydd yn y dynion na yn y Beibl.
(3, 0) 864 Nos dawch!
(Mr Harris) Nos dawch, a diolch i chi, Jared Jones.
 
(Ifan) O'r tad, gobeithio daw o uwchben i draed unwaith eto.
(4, 0) 1190 Rydw i wedi blino bod yn sâl a'r Nyrs ddim yn tendio arna i.
(Nel) O, Jared Jones, dowch yn ol efo ni i'r tŷ; wn i ddim beth ddwedith y Doctor am hyn; mae'n enbyd i chi fod yn y fan yma.
 
(Nel) O, Jared Jones, dowch yn ol efo ni i'r tŷ; wn i ddim beth ddwedith y Doctor am hyn; mae'n enbyd i chi fod yn y fan yma.
(4, 0) 1193 Nel Davis, mi rydw i cyn iached a'r gneuen; fûm i rioed mor iach.
(Hopcyn) Tyrd i'r tŷ i dy wely, Jared bach, mi awn a thi rwan.
 
(Hopcyn) {Ymaflant ynddo er mwyn ei gael yn ol i'r tŷ.}
(4, 0) 1196 Howld on!
(4, 0) 1197 Be sy haru chi?
(4, 0) 1198 Diain i, mi gwela hi!
(4, 0) 1199 Rydach chi'n meddwl mod i o ngho.
(4, 0) 1200 Does dim y mater arna i.
(4, 0) 1201 Doctor Huws! dowch yma, da chi, i sponio petha i'r Philistiaid ma.
(Doctor Huws) {Daw i mewn o'r chwith gan chwerthin.}
 
(Mr Harris) Doctor Huws! rwyn credu y dylech chi ddeyd be ydi ystyr y cellwair yma; mae'n amlwg mai chi ac nid Jared sydd i'w feio.
(4, 0) 1206 Ruwd annwyl, rydach chi'n edrach yn ddig ofnadwy ar y Doctor—mae pawb ohonoch chi yn edrach yn ddig.
(4, 0) 1207 Myn gafr!
(4, 0) 1208 Choelia i ddim na fasach chi'n leicio ngweld i'n sâl bron a marw er gwaetha'ch holl siarad y tri diwrnod diwedda ma.
(4, 0) 1209 Mae'r esboniad mor eglur a thrwyn Ifan y crydd, ac mi ddylech chi, Mr. Harris, o bawb neidio i ben y gweithdy pan glywch chi o.
(4, 0) 1210 Dyma fo! tric o eiddo'r Doctor a'r Scweiar a finna i gael Nel Davis yn ol i'r pentre ma.
(Nel) {â'i dwylo am ei wddf.}
 
(4, 0) 1215 Mi gadwa'r ddwy fraich yma lle ma nhw.
(4, 0) 1216 Rwan, frodyr a chwiorydd, a blaenoriaid, doedd dim yn bosib cael yr eneth ma yn ol i'r pentre mewn un ffordd; er i'r Scweiar a'r Doctor neud pob cynnig, gwrthod roedd hi, a gwaeth na'r cwbl, fe rybuddiodd y ddau i beidio deyd wrth Mr. Harris y gweinidog ymhle roedd hi yn Llunden.
(4, 0) 1217 Wel, i fynd ymlaen, be nath y Doctor ma—ac un melltigedig o gastiog ydi o—be nath o ond gofyn i mi ddydd Sadwrn fuaswn i'n mynd yn sâl iawn dydd Llun, dydd Llun diweddaf, wrth gwrs, ac mi es yn sâl iawn fel y gwyddoch, drwy ordors Doctor.
(Ifan) Yr hen gena drwg gen ti.
 
(Ifan) Yr hen gena drwg gen ti.
(4, 0) 1219 Paid a porthi mhregeth i, Ifan bach, achos ma dy lais di yn y ngyrru oddiar y rêls.
(4, 0) 1220 Rwan mi wyddai'r Doctor a'r Scweiar fod Nel yn fy leicio i yn enbyd iawn (peidiwch a phinsio, Nel), a'r funud y clywodd hi mod i'n sâl dyma hi'n ysgwyd llwch Llunden oddiar ei sgidia ac yn carlamu yma yn y trên i dendio arna i.
(4, 0) 1221 Wel, dyma hi! yr eneth glysa yn y wlad—roedd yn werth i mi gymryd arna fod yn wael er mwyn i chael hi yma i'r pentre.
(4, 0) 1222 Rwan am y gusan na, Nel Davies.
 
(4, 0) 1224 Mi nillais hi'n deg.
(Hopcyn) Y corgi digywilydd! a fi ac Ifan a pawb bron a thorri'n calon rhag ofn iti farw.
 
(Doctor Huws) Rwyn meddwl y dylai Mr. Harris fod yn fodlon i mi gael un gusan gan Nyrs Davis, achos fi ddaru gynllunio iddynt ddod at i gilydd.
(4, 0) 1231 Howld, Doctor, os rhoith hi gusan i chi mi ddaw holl frigêd y blaenoriaid yma i fyny am gusan, yn cael eu harwain gan General Ifan Wyn.
(4, 0) 1232 Rwan, Mr. Harris, dowch yma a safwch ar y llaw chwith yma; safwch chitha ar y dde, Nel Davis, ochr yn ochr a fo.
(4, 0) 1233 Yn gymaint a bod y ddau hyn eisio priodi â'i gilydd, a chan eu bod yn caru ei gilydd y tuhwnt i bob rheswm, rwyf fi, Jared Jones, Jeinar a Carpentar, ar ran pawb sydd ma, yn rhoi caniatad iddynt i fynd ymlaen at eu diwrnod priodas.
(4, 0) 1234 Dyna fi wedi cynnig ac eilio; pawb sydd yr un farn, i fyny â'ch dwylo.
 
(4, 0) 1236 Welwch chi, Mr. Harris, fe gewch yrru'r gostegion priodas i mewn pan fynnoch chi.