Ar y Groesffordd

Ciw-restr ar gyfer Marged

(Jared) {Gan edrych ar y plaen ar ol plaenio ' ychydig.}
 
(3, 0) 587 "Llongddrylliad am y ffydd"—ai hwnna sy gen ti eisio?
(Mr Harris) Dyna'r very peth: dyna bictiwr crand sydd yn y geiriau yntê?
 
(Mr Harris) Wyt ti'n cofio nhad yn dod i'r tŷ un noson pan oeddym yn blant, yn byw ar lan môr Eifionydd, i ddweyd fod llong allan yn y môr ar y creigiau?
(3, 0) 590 Ydw o'r gore, a noson enbyd oedd hi,—y gwynt yn rhuo'n drwm, a'r môr a'r tonnau'n taflu bron i strŷd y pentre.
(Mr Harris) A phawb yn y pentre'n hen ac ifanc allan yn edrych ar oleuadau'r llong yn siglo'n y pellter. "Llongddrylliad am y ffydd"—rwyt yn gweld y pictiwr sydd yn y geiriau, yn dwyt ti, Mag?
 
(Mr Harris) Dyn da fel llong fawr dri-mast yn mynd yn ddarnau ar greigiau temtasiynau'r byd.
(3, 0) 593 Wyt ti'n meddwl, Eifion, fod yn bosib i ddyn da fynd yn ddrylliau fel yna cyn marw?
(3, 0) 594 Dydw i ddim yn leicio meddwl y gall dyn da droi yn ddyn drwg a marw allan ar y creigiau.
(Mr Harris) Mag bach, mae na lu mawr wedi gneud hynny cyn hyn, ac ambell i bregethwr mawr yn eu mysg.
 
(Mr Harris) Mag bach, mae na lu mawr wedi gneud hynny cyn hyn, ac ambell i bregethwr mawr yn eu mysg.
(3, 0) 596 Pregethwyr mawr efallai, ond oedde nhw'n ddynion da?
(Mr Harris) Pwy sydd i farnu?
 
(3, 0) 600 Dda gen i ddim meddwl fod yn bosib i bregethwr sy'n ddyn da fynd yn |wreck|.
(Mr Harris) Rhaid cyfadde mai hen syniad annymunol ydi o.
 
(3, 0) 606 Fydd ofn syrthio o'r pulpud arnat ti weithiau, Eifion?
(Mr Harris) {Rhydd y "dumb-bells" ar y bwrdd blodeu ac eistedda'n ymyl ei chwaer.}
 
(Mr Harris) Beth yw'r mater, Mag bach?
(3, 0) 610 Dim, hyd y gwn i.
(Mr Harris) Oes, mae rhywbeth, a chyn i'r pared fynd yn beth mwy, dywed yn blaen be sydd wedi codi rhyngom ni'n dau?
 
(3, 0) 613 Os dymunet ti wybod y gwir, Nel Davis, merch y portsiar, sy rhyngom ni.
(Mr Harris) {Yn codi gan fyned i'r dde.}
 
(Mr Harris) O, dyna fel mae'r awel yn chwythu, ai ê?
(3, 0) 616 Mae'r peth yn fwy nag awel, mae'n wynt cryf sy'n chwythu drwy'r ardal.
(Mr Harris) Be ŵyr yr ardal am y peth?
 
(Mr Harris) Be ŵyr yr ardal am y peth?
(3, 0) 618 Fe ŵyr pawb drwy'r lle fod yr eneth wyllt na, Nel Davis, wedi dy ffoli'n deg, ac mae pawb yn methu deall be sydd wedi dod dros dy ben a thithau'n y swydd bwysig o weinidog Seilo.
(Mr Harris) Meindied yr ardal ei busnes ei hun; does a fynno hi â fy materion personol i.
 
(Mr Harris) Meindied yr ardal ei busnes ei hun; does a fynno hi â fy materion personol i.
(3, 0) 620 Dyna lle rwyt yn camgymeryd; does gen ti fel gweinidog Seilo ddim materion personol, mae nhw'n faterion i bawb am dy fod yn weinidog yr Efengyl.
(Mr Harris) Hynny ydi, fe ddylwn gael barn ffafriol yr Eglwys ar y ferch brioda i?
 
(Mr Harris) Hynny ydi, fe ddylwn gael barn ffafriol yr Eglwys ar y ferch brioda i?
(3, 0) 622 Mi wyddost gystal a neb y dylai'r ferch briodi di fod yn weddol gymwys o leiaf i lenwi cylch gwraig gweinidog.
(Mr Harris) Ac wrth gwrs mae Nel Davis yn anobeithiol ym marn yr ardal, ydi hi?
 
(Mr Harris) Ac wrth gwrs mae Nel Davis yn anobeithiol ym marn yr ardal, ydi hi?
(3, 0) 624 Onibae fod yr eneth na wedi dy witsio—witsio ydi'r gair gore am y peth—fe welest tithau nad ydi hi ddim yn ffit i fod yn wraig gweinidog; dyna fel mae pawb yn siarad sy'n gwybod am dani.
(3, 0) 625 Wn i ddim am dani a does gen i byth eisiau gwybod am dani.
(Mr Harris) {Yn brudd.}
 
(Mr Harris) O Mag, Mag! dyna'r gair garwa glywais i di rioed yn ei ddeyd.
(3, 0) 628 Wel, mae'n ddrwg gen i fod wedi dy frifo di, achos brawd da fuost i mi, ond {Yn benisel.} fûm innau yn ddim chwaer wael i tithau chwaith, ac mae'n iawn i mi gael gwybod wyt ti o ddifri hefo'r eneth yna.
(Mr Harris) Rwyn ei charu o ddifri calon, a chyn belled ag y gwelaf mae hithau'n fy ngharu innau.
 
(Mr Harris) Rwyn ei charu o ddifri calon, a chyn belled ag y gwelaf mae hithau'n fy ngharu innau.
(3, 0) 630 Eifion bach, wyddost ti beth fydd y canlyniadau o'i phriodi hi?
(3, 0) 631 Wyt ti wedi bwrw'r draul?
(3, 0) 632 Gad i mi neud y bil i ti.
(3, 0) 633 Yn gyntaf i gyd, fe fydda i'n pacio mhethau a d'adael.
 
(3, 0) 635 Ond hwyrach nad ydi hynny yn cyfri fawr yn d'olwg di heddiw ar ol i'r eneth ma groesi dy lwybr.
(Mr Harris) {â'i law am ei gwddf.}
 
(Mr Harris) Mag, paid a siarad yn chwerw fel yna, achos mi wyddost nad oes dim brawd yn y byd yn fwy hoff o'i chwaer nag ydw i ohonot ti.
(3, 0) 638 O, Eifion, ddylswn i ddim fod wedi deyd y gair cas na, ond anghofia fi am funud, mae na bethau pwysicach na fi yn y bil os priodi di Nel Davis.
(3, 0) 639 Wyt ti wedi meddwl o gwbl dy fod y dyddiau yma ar groesffordd, a dau lwybr—a dim ond dau—yn agor o dy flaen?
(Mr Harris) Dos ymlaen, rwyn gwrando'n
 
(Mr Harris) Dos ymlaen, rwyn gwrando'n
(3, 0) 641 Un llwybr ydi Nel Davis, merch y portsiar; y llwybr arall ydi'r Eglwys, yr Eglwys y cefaist ti a finnau'n magu ynddi er yn blant, yr Eglwys y bu'n tad a'n mam a'n teulu o hil gerdd yn aelodau ffyddlon ohoni.
(3, 0) 642 Prun o'r ddau lwybr ddewisi di?
(Mr Harris) {Cyfyd a rhodia'n benisel yn ol a blaen.}
 
(Mr Harris) Rwyn methu gweld mod i wedi dod i groesffordd mor lom a honna.
(3, 0) 645 Cred fi, dyna'r groesffordd rwyt ti arni heddiw—Nel, merch Dic Betsi, neu'r Eglwys Gristnogol.
(3, 0) 646 Os Nel ddewisi di, mi fydd ar ben arnat am byth fel gweinidog yr Efengyl, nid yn unig yma'n Seilo ond ymhobman arall.
 
(3, 0) 648 Ac mi wyddost fel roedd nhad a mam wedi rhoi eu bryd ar i ti fod yn weinidog yr Efengyl: roedd yn well ganddyn nhw dy weld yn fachgen tlawd yn y pulpud nag yn y swydd fwya enillgar yn y wlad, a dyma ti ar fin gneud llongddrylliad o dy ffydd.
(Mr Harris) {Gan gyffroi.}
 
(Mr Harris) Pe priodwn i Nel yfory, fyddai hynny ddim yn llongddrylliad o'm ffydd.
(3, 0) 653 Mi fydd llawn cynddrwg a hynny, achos pa eglwys ar wyneb daear all odde'r syniad o gael y fath eneth yn wraig i'w gweinidog; geneth na fu rioed yn twllu drws y capel nac eglwys, geneth sydd wedi tyfu'n wyllt fel petrisen y mynydd, heb wybod y gwahaniaeth sy rhwng da a drwg, geneth sy'n llawn o ofergoelion ac arferion teulu'r sipsiwn.
(3, 0) 654 O, Eifion bach, rwyt ti'n mynd ar dy ben i lawr y clogwyn—Nel Davis yn wraig gweinidog, a Dic Betsi'r portsiar yn dad-yng-nghyfraith i ti; wyt ti wedi bwrw'r draul?
(Mr Harris) Mae cymeriad moesol Nel gyda'r gore yn y wlad; does dim blotyn ar ei charitor.
 
(Mr Harris) Mae'n wir ei bod yn wahanol i bawb arall mewn rhai pethau, ond mae hi cyn bured a grug y mynydd.
(3, 0) 657 Rwyn meddwl digon ohonot i gredu i bod hi mor bur a finnau, ond—grug y mynydd!
(3, 0) 658 Ddaw grug y mynydd byth yn flodyn gardd tŷ gweinidog, a beth am Dic Betsi?
(3, 0) 659 Wyt ti am blannu'r sgallen hefyd yn d'ardd?
(3, 0) 660 Waeth i ti hynny na rhagor, rwyt ti ar y groesffordd rhwng Nel Davis a'r Eglwys.
(Mr Harris) Rwyn deyd unwaith eto, os ar y groesffordd yr ydw i, nid Nel a'r Eglwys yw'r ddau lwybr sy'n agor o mlaen, ond Nel a rhagfarn yr Eglwys yn erbyn Nel; Nel a phobl nad ynt erioed wedi cynnig deall Nel.
 
(Mr Harris) Rwyn deyd unwaith eto, os ar y groesffordd yr ydw i, nid Nel a'r Eglwys yw'r ddau lwybr sy'n agor o mlaen, ond Nel a rhagfarn yr Eglwys yn erbyn Nel; Nel a phobl nad ynt erioed wedi cynnig deall Nel.
(3, 0) 662 Nel Davis fydd dy ddewis, felly?
(Mr Harris) Wel, os dyna'r groesffordd, os rhwng Nel a rhagfarn yr Eglwys rwyn sefyll, mi ddewisaf Nel.
 
(3, 0) 665 Dyma fi'n cau'r Beibl a'r "Concordance" iti; fydd dim rhagor o eisiau rhain arnat; dyma ddiwedd ar dy gôt ddu a'th gadach gwyn a dy bregethu.
(Mr Harris) Nage!
 
(3, 0) 693 Ga i ddod a diferyn o ddŵr neu rywbeth i chi?
 
(3, 0) 695 Peidiwch mollwng rwan, hwyrach nad ydi'ch tad ddim wedi ei nafyd mor ddrwg wedi'r cwbl.
(3, 0) 696 Ga i'ch helpu i godi?
(3, 0) 697 Mi fyddwch yn smwythach ar y soffa.
(Nel) Fydda i byth eto'n esmwyth os ydi nhad—.
 
(Nel) Ar eu gliniau y bydd pobol yn gweddïo am bethau yntê?
(3, 0) 700 Mi fyddwch yn gweddïo weithiau?
(Nel) Gweddïo?
 
(Nel) Rwyn meddwl mod i'n i gofio fo.
(3, 0) 706 Ie, deydwch o rwan, mi fydd yn siwr o fod yn help i chi.
(Nel) "Ein Tad"—ydi O'n Dad i Dic Betsi?
 
(3, 0) 713 Na, chi sy'n dychmygu.
(Nel) {â'i dwylo ar ei hwyneb.}
 
(Nel) O, na fedrwn i grio; mae na ryw ddistawrwydd yn y mhen i fel pe bae rhywbeth ar dorri o'i fewn.
(3, 0) 716 Steddwch ar y soffa ma, mi ddowch yn well yn y munud.
(Nel) {Gan eistedd.}
 
(3, 0) 722 Na wir, peidiwch a mynd.
(3, 0) 723 Mi fydd Eifion yn ol rwan jest.
(3, 0) 724 Ymhle roedd eich tad pan ddigwyddodd hyn?
(Nel) Fe aeth allan ar ol tê i bortsio.
 
(Nel) Fe aeth allan ar ol tê i bortsio.
(3, 0) 726 O! 'r tad annwyl, dyna beth difrifol!
(Nel) Be sy'n ddifrifol?
 
(Nel) Be sy'n ddifrifol?
(3, 0) 728 Wel, meddwl fod hyn wedi digwydd ac yntau'n—{Petrusa.}.
(Nel) {Ymeifl yn ei braich.}
 
(Nel) Nid amser i ddeyd y drefn am bortsio ydi hi rwan; mae nhad wedi frifo, mae gwaed Dic Betsi'n diferu ar hyd y ffordd.
(3, 0) 731 Ydi, mi wn, ond─
(Nel) Y nefoedd fawr!
 
(3, 0) 741 Rhag cwilidd i chi'r eneth annuwiol, rydach chi'n waeth na phagan.
(Mr Harris) {Daw i mewn o'r chwith a gesyd ei ddwylo'n bwyllog ar ysgwydd NEL.}
 
(Mr Harris) Nos dawch, a diolch i chi, Jared Jones.
(3, 0) 868 Eifion, mae golwg digalon iawn arnat ti.
(Mr Harris) Tipyn o gur sy yn y mhen i.
 
(Mr Harris) Tipyn o gur sy yn y mhen i.
(3, 0) 870 Mae mwy o gur yn dy galon di, Eifion bach.
(3, 0) 871 Dywed beth yw'r mater.
(Mr Harris) Rwyf wedi gadael y groesffordd.
 
(3, 0) 874 Ac wedi dewis llwybr yr Eglwys?
(Mr Harris) Naddo, rwyf newydd hysbysu'r blaenoriaid y prioda i Nel Davis, boed y canlyniadau y peth y bônt.
 
(Mr Harris) {Egyr y drws o'r chwith a daw NEL i mewn.}
(3, 0) 877 Nel Davis!
(3, 0) 878 Rydach chi wedi mynd a mrawd oddiarnaf, ac wedi dwyn y gweinidog oddiar Eglwys Seilo.
(Nel) Dwyn?
 
(Nel) Tybed nad oes digon o faich arna i heno heb i chi roi chwaneg arnaf?
(3, 0) 882 Mae Eifion newydd ddeyd wrth flaenoriaid Seilo ei fod am eich priodi, er y gŵyr o o'r goreu beth fydd y canlyniad; y funud y priodith o chi, mi fydd yn rhaid iddo godi ei bac oddiyma.
(3, 0) 883 Mi ddylech fod yn falch o'ch diwrnod gwaith.
(Mr Harris) Marged, rwyt wedi anghofio'th barch i'th hunan ac i minnau.
 
(Nel) Ydach chi'n deyd mod i wedi dwyn eich brawd oddiarnoch chi ac Eglwys Seilo,
(3, 0) 888 Gofynnwch iddo fo.
(3, 0) 889 Mae newydd rybuddio'r blaenoriaid o'i fwriad i'ch priodi er y gŵyr o y digia fo bawb drwy'r lle wrth neud hynny.
(Mr Harris) Marged!
 
(Mr Harris) Fu arna i rioed o'r blaen gwilydd ohonot.
(3, 0) 892 Rwyn teimlo dros fy nhad a mam weithiodd nos a dydd i dy godi di i'r pulpud i bregethu'r Efengyl, a dyma'u tâl.
(Nel) Eifion Harris, be sydd wedi digwydd?
 
(4, 0) 1162 Eifion! mi alwodd y Doctor acw rwan i ddeyd fod arnat eisia ngweld i.
(Mr Harris) Wel, dyna rôg ydi'r Doctor na.
 
(4, 0) 1168 Nel Davis!
 
(4, 0) 1170 Newch chi ysgwyd llaw â fi ac anghofio?