Ar y Groesffordd

Ciw-restr ar gyfer Nel

(Jared) {Gan edrych ar y plaen ar ol plaenio ' ychydig.}
 
(1, 0) 226 Jared Jones, mae nhad wedi ngyrru allan o'r tŷ; mi yfodd yn drwm heddiw ac mae o'n gynddeiriog yn i ddiod.
(1, 0) 227 Wyddwn i ddim i ble i droi, ond yma y bydda i'n dod am gymwynas.
(1, 0) 228 Ga i aros yn y gweithdy ma heno?
(Jared) Na chewch ar un cyfri; mi gewch aros yn y tŷ a chan croeso, ond mi gysga i yn y gweithdy; rwy'n hen gynefin â gneud hynny.
 
(Jared) Na chewch ar un cyfri; mi gewch aros yn y tŷ a chan croeso, ond mi gysga i yn y gweithdy; rwy'n hen gynefin â gneud hynny.
(1, 0) 230 Wn i ddim sut i ddiolch i chi.
(Jared) Does dim i ddiolch am dano.
 
(Jared) Anghofia i byth mo'ch mam, a choelia i ddim nad ydach chi'n debig iawn iddi pan oedd hi run oed a chi.
(1, 0) 234 Ddeydwch chi ddim wrth neb, rwy'n siwr, fod nhad wedi ngyrru allan o'r tŷ heno?
(Jared) Mi fyddaf fel y bedd.
 
(Jared) Mi gewch hyd i'r bwyd yn y gegin a gnewch bryd i chi'ch hun.
(1, 0) 237 Na, dim pryd i mi heno, mi ges ddigon cyn rhedeg allan.
(Jared) Does dim eisia bwyd arna innau chwaith, ond mi gewch estyn y glustog sydd ar y setl yn y gegin, os gnewch chi, ac yna fe wnaf y tro'n |grand|.
 
(Jared) Does dim eisia bwyd arna innau chwaith, ond mi gewch estyn y glustog sydd ar y setl yn y gegin, os gnewch chi, ac yna fe wnaf y tro'n |grand|.
(1, 0) 240 Dyma hi.
(Jared) Nos dawch!
 
(1, 0) 243 Nos dawch!
 
(2, 0) 253 Pryd byddwch chi'n ol heno?
(Dic) {Yn sarrug.}
 
(Dic) {Mae ennyd o ddistawrwydd yn dilyn.}
(2, 0) 257 Leiciech i mi gadw'r |kettle| ar yr |hob| erbyn i chi ddod?
(Dic) Os bydd eisia rhywbeth arna i wedi dod yn ol, mi gei godi, mechan i, o dy wely i neud o; does gen ti ddim i neud yn y tŷ ma o fore tan nos ond troi dy fysedd a jantio drwy'r coed.
 
(Dic) Mi gei godi, |my lady|, i ddawnsio tendans arna i.
(2, 0) 260 Fydd hynny ddim yn newydd i mi; rwyf wedi arfer codi bob awr o'r nos i'ch gillwng i'r tŷ.
(Dic) {Yn fygythiol.}
 
(Dic) Dim o glep dy dafod di ne mi gei glywed pwys y nwrn i ar dy wep.
(2, 0) 263 Fydd hynny, chwaith, fel mae gwaetha'r modd, ddim yn newydd i mi: fydd o ddim y tro cyntaf i'ch merch gael llygad du gynno chi.
(Dic) {Cyfyd o'i eistedd a cherdd yn araf ar draws y gegin, a chyfyd ei ddwrn.}
 
(Dic) Mi roi'r ddau mewn mowrning iti'r tro yma, y gnawes styfnig.
(2, 0) 266 Styfnig!
(2, 0) 267 Welwch chi, Nhad, does waeth gen i heno am y dwrn yna.
(2, 0) 268 Rwyf wedi cadw tŷ i chi ers pan wyf yn cofio, a hynny am ddim ond fy mwyd a rhyw dipyn o ddillad rhad.
(2, 0) 269 Chwynais i rioed am y driniaeth gefais gynno chi er fod y mywyd i'n galetach na bywyd y slaf isa.
(2, 0) 270 Fe'm troisoch dros y drws y noson o'r blaen.
(2, 0) 271 Ond marciwch hyn, os cyffyrddwch chi'ch llaw â fi heno, mi wnewch hynny am y tro ola'n eich bywyd.
(Dic) Be nei di, sgwn i?
 
(Dic) Hwyrach y dywedi di wrth y plisman?
(2, 0) 275 Mae gen i un arf na ddefnyddiais i mohono; eto, ond mi rhof o ar waith heno os bydd raid.
(Dic) {Mewn peth ofn.}
 
(Dic) Arf! Pa arf wyt ti'n gario?
(2, 0) 278 Ewch yn ol i'ch cornel yn gynta ac hwyrach y cewch wybod wedyn.
(Dic) {Ymeifl yn ei hysgwydd a chyfyd ei ddwrn i'w tharo.}
 
(Dic) Ddeydi di?
(2, 0) 284 Na wnaf.
(2, 0) 285 Does dim ofn y dwrn na arna i heno, a fu gen i rioed i ofn o.
(Dic) {Gan ostwng ei ddwrn mewn math o edmygedd.}
 
(Dic) Myn cebyst, mae mwy o frid ynot ti nag oeddwn yn feddwl,
(2, 0) 288 Mae digon o frid yno i heno fel na chewch chi na neb arall ddim plygu f'ysbryd i.
(Dic) {Gan droi a mynd i'w gornel at ei rwyd.}
 
(2, 0) 292 Wel, mi wyddoch rwan; mae dysg o febyd hyd fedd.
(Dic) Wel, rwan, Nel, beth am yr arf na?
 
(2, 0) 297 Sgwn i ddylwn i ddeyd beth ydi o?
(Dic) Mi ddaru't addo deyd os down i'r gornel ma.
 
(Dic) Mi ddaru't addo deyd os down i'r gornel ma.
(2, 0) 299 Rwan, mae'r ffrwyn yn dyn ar y nhempar i, ac rwy'n berffaith bwyllog—rwy'n benderfynol o'ch gadael am byth os rhowch chi'ch llaw arna i eto.
(2, 0) 300 Mi fedraf ennill y nhamaid, achos mi fedraf weithio, wrth lwc, a gweithio'n galed.
(Dic) Dyna'r arf ai ê?
 
(Dic) Dyna'r arf ai ê?
(2, 0) 302 Ie.
(Dic) Dydi o ddim yn un perig iawn wedi'r cwbl.
 
(Dic) Dydi o ddim yn un perig iawn wedi'r cwbl.
(2, 0) 304 Nag ydi ar un olwg—laddith o ddim cipar na hyd yn oed samon na ffesant.
(Dic) Laddith o ddim robin goch, mechan i, heb sôn am ddim math o gêm.
 
(Dic) Laddith o ddim robin goch, mechan i, heb sôn am ddim math o gêm.
(2, 0) 306 Dydw i'n cyfri dim yn eich golwg, felly?
(Dic) Dim o gwbl pan yr ei di'n groes i f'wyllys.
 
(Dic) Dim o gwbl pan yr ei di'n groes i f'wyllys.
(2, 0) 308 Ond dydi'ch wyllys chi ddim yn reit bob amser?
(Dic) Mae'n reit y rhan amla, a chofia di hynny.
 
(2, 0) 312 Fyddwch chi'n cael arwyddion ambell dro, Nhad?
(Dic) Be wyt ti'n feddwl—cnwllau corff a phethau felly?
 
(Dic) Be wyt ti'n feddwl—cnwllau corff a phethau felly?
(2, 0) 314 Na, nid petha felly'n hollol.
(2, 0) 315 Dyna fi rwan wrth dynnu'r gwn ma i lawr oddiar y pared, fe gredais mod i'n gweld rhyw oleu glas yn llithro ar hyd i faril.
(Dic) Rwy'n dy ddeall i'r dim, mechan i; trio'm stopio i fynd allan at yr afon rwyt drwy godi ofn arna i.
 
(Dic) Rwy'n dy ddeall i'r dim, mechan i; trio'm stopio i fynd allan at yr afon rwyt drwy godi ofn arna i.
(2, 0) 317 Mi leiciwn fedru gneud hynny, ond cyn wired a mod i'n sefyll yn y fan yma mi welais fflach las yn llithro ar hyd y gwn yma o'r trigar at i ffroen o.
(2, 0) 318 Nhad bach! peidiwch mynd allan heno?
(Dic) {Gan gydio yn un pen i'r gwn a NEL yn dal ei gafael yn y pen arall.}
 
(Dic) Gillwng d'afael!
(2, 0) 323 Gwrandewch arnaf am unwaith, Nhad.
(2, 0) 324 Peidiwch a mynd allan heno er fy mwyn i.
(Dic) {Gan ei gwatwar.}
 
(2, 0) 338 O Nhad! dyna chi wedi taro Mam i lawr, mae'i llun hi wedi disgyn.
 
(2, 0) 340 O Mam! mi ges golled i'ch colli chi.
 
(2, 0) 342 Yn doedd gwyneb ffein ganddi, Nhad?
(Dic) {Edrych yn sarrug ar y llun.}
 
(Dic) {Yn symud i'r chwith.}
(2, 0) 346 Rhyw bymtheg ar hugain oedd hi'n marw, yntê, a finnau'n ddeg oed?
(2, 0) 347 Oedd hi'n debig i mi o ran pryd a gwedd?
(Dic) Oedd, am wn i, ond heriodd hi rioed mohono i fel ti, a doedd hi ddim yn gweld arwyddion fel ti; wn i ddim i bwy rwyt ti'n debig.
 
(2, 0) 350 Sgwn i ymhle mae hi heno?
(Dic) Mi wyddost yn gystal a finna i bod hi'n gorwedd ym mynwent y Llan.
 
(Dic) Mi wyddost yn gystal a finna i bod hi'n gorwedd ym mynwent y Llan.
(2, 0) 352 Ydi hi i gyd yno, tybed?
(Dic) {Yn ddyryslyd.}
 
(Dic) Be wyt ti'n feddwl?
(2, 0) 356 Ydi hynny oedd o Mam ym mhridd y fynwent ne ydi hi yma yn y gegin ambell dro?
(Dic) {Mewn penpleth mawr.}
 
(Dic) Welaist ti hyspryd hi rhywdro?
(2, 0) 360 Na, nid hynny, ond mi wn o'r gore i bod hi yma ambell i noson ddistaw pan y bydda i yma ar ben fy hun.
(Dic) {Braidd yn ofnus.}
 
(Dic) Ia, ond welaist ti hi, Nel?
(2, 0) 363 Na, welais i mohoni eto, ond rwy'n siwr mod i bron a'i gweld ambell waith; rwy'n i theimlo hi yn y gegin yma weithiau gyda'r hwyr pan y byddwch chi'n y coed.
(Dic) {Yn bryderus.}
 
(Dic) Oes i hofn hi arnat ti?
(2, 0) 366 Ofn Mam!
 
(2, 0) 368 'Ch ofn chi, Mam?
(2, 0) 369 Na, ryda ni'n ormod o ffrindia i fod ag ofn ein gilydd, yn tyda ni?
(Dic) {Mewn ofn.}
 
(Dic) Rwyt ti'n siarad yn union fel tae hi'n fyw rwan yn y gegin ma; yn tydi hi'n gorwedd yn ddigon llonydd yn mynwent y Llan.
(2, 0) 372 Na, dydi Mam ddim yno; mae na rywbeth yno, ond nid Mam; mae Mam yn fyw o hyd yn rhywle, wn i ddim ymhle, ond fe awn ar fy llw i bod hi weithiau yn y gegin ma.
(2, 0) 373 Nhad, peidiwch wir a mynd allan heno.
(Dic) {Gan ffyrnigo.}
 
(Dic) Wyt ti wedi troi'n dduwiol, dywed, fel pobl y capel—yn rhy dduwiol i niodde i ddal samons hefo rhwyd yn y nos?
(2, 0) 377 Nac ydw i, nen tad, ac eto i gyd rwyn teimlo weithia mai nid chi bia'r samons.
(Dic) Pwy pia nhw ynte?
 
(2, 0) 381 Wel, nid Dic Betsi gnath nhw beth bynnag, er mai fo sy'n dal y rhan fwya ohonyn nhw.
(Dic) Ia, ond mae'r afon a'r awyr a'r coed yn rhydd i bob dyn byw bedyddiol, ne mi ddylent fod.
 
(Dic) Ia, ond mae'r afon a'r awyr a'r coed yn rhydd i bob dyn byw bedyddiol, ne mi ddylent fod.
(2, 0) 383 Dyda chi a Mr. Blackwell y Plas ddim o'r unfarn ar y mater yna; mae o'n talu cyflog i gipar ne ddau i'ch watsio chi a'ch tebyg.
(Dic) Pa hawl sy ganddo fo i hawlio holl greaduriaid y coed a'r afon?
 
(Dic) Mi rydw i gymaint gŵr bonheddig ag yntau, y lordyn boldew.
(2, 0) 387 Ydach, wrth gwrs, os ydi byw ar gêm yn farc o ŵr bynheddig.
(2, 0) 388 Ond unwaith eto, rwyf am i chi aros yma heno os gnewch chi.
(Dic) Dos i Jerico, rhen frân ffôl, a phaid a chrawcian ddim yn rhagor.
 
(2, 0) 392 Er mwyn Mam, peidiwch mynd heno; fe syrthiodd ei llun oddiar y pared nawr jest, a choeliwch fi, arwydd fod rhywbeth drwg ar ddigwydd ydi hynny, a digwydd heno hwyrach.
(Dic) {Gan ei hyrddio oddiwrth y drws.}
 
(2, 0) 400 Mr. Richard Davis, Mr. Richard Davis.
(2, 0) 401 'Ruwd annwyl dad, ai holi am Dic Betsi yr ydach chi.
(2, 0) 402 Mr. Richard Davis!
(2, 0) 403 Beth nesa tybed?
(2, 0) 404 Mi fydd Dic Betsi wedi mynd yn scweiar mewn chwinciad.
(2, 0) 405 la, yma mae Richard Davis, Escweiar, yn byw, a fi {Gan bwyntio ati ei hun.} yw ei ferch, Lady Nel, sy'n golchi'r llawr ac yn berwi'r uwd iddo fo.
(2, 0) 406 Dowch i mewn i'r sitting room.
(Mr Harris) {Gan ddod i mewn.}
 
(Mr Harris) Ydi'ch tad i mewn rwan, sgwelwch chi'n dda?
(2, 0) 409 Nag ydi, mae o newydd fynd am dro ar ol swper rownd i stâd; mi fydd yn mynd ddwywaith neu dair yr wsnos rhag ofn fod rhyw gnafon drwg o'r capel na yn seuthu'r gêm sy yn i barc o tu cefn i'r plas ma.
(2, 0) 410 Ond rydw i, Lady Nel, yr etifeddes, yn digwydd bod i mewn.
(2, 0) 411 Rhowch eich het i mi.
 
(2, 0) 413 O'r annwyl, dyma het ddigri, mae hi'n feddal fel pwdin.
 
(2, 0) 415 Lady Nel mewn het ciwrat!
(2, 0) 416 Chi ydi ciwrat capel Seilo?
(Mr Harris) Wel, na, nid ciwrat ydi'r enw cywir: ciwrat eglwys ddywedwn ni yntê?
 
(2, 0) 420 Lady Nel Davis, sgwelwch chi'n dda; dropiwch y gair "Miss" yna, achos mae o'n nhagu i bob tro y clywaf o.
(Mr Harris) Dod yma gan ddisgwyl gweld eich tad yr oeddwn i heno—
 
(Mr Harris) Dod yma gan ddisgwyl gweld eich tad yr oeddwn i heno—
(2, 0) 422 |Dear me!|
(2, 0) 423 Dyna fel bydd gweinidog yn siarad, ai ê?
 
(2, 0) 425 Disgwyl gweld eich tad yr oeddwn i heno, achos dyda chi, ei ferch, ddim yn werth i'w gweld.
(Mr Harris) {Yn swil.}
 
(Mr Harris) Ddwedais i mo hynny; roeddwn am eich gweld chi yn gystal a'ch tad.
(2, 0) 428 Dyna well dipyn y tro yna, Mr. —, be ydi'ch enw chi, deydwch?
(Mr Harris) Eifion Harris.
 
(Mr Harris) Eifion Harris.
(2, 0) 430 Gan na fûm i rioed o'r blaen yn siarad â chiwrat na gweinidog, wn i ddim yn iawn sut i'ch cyfarch chi; sut mae'ch cyfarch—Mr. Harris, Mr. Eifion Harris, neu'r Parch. Eifion Harris?
(Mr Harris) Fe wnaiff un ohonynt y tro—Mr. Harris os mynnwch chi.
 
(Mr Harris) Fe wnaiff un ohonynt y tro—Mr. Harris os mynnwch chi.
(2, 0) 432 Fel y mynnoch chi, Mr. Harris, achos does gen i mo'r gwrthwynebiad lleia i'ch galw'n Eifion, neu—o'r annwyl dad! mae gen i enw dan gamp arnoch, Ivy!
(2, 0) 433 Mae o fel enw merch byddigiwns.
(Mr Harris) {Yn ddig.}
 
(2, 0) 437 Dyna'r hen air meddal na eto; galwch fi'n Nel Davis, a pheidiwch a meddwl mod i'n gwawdio.
(2, 0) 438 Rhaid i chi gofio mai dyma'r tro cyntaf rioed i mi fod yn siarad â gweinidog, a rhaid cropian cyn cerdded, wyddoch.
(2, 0) 439 Dydach chi ddim yn ddig iawn, ydach chi?
(Mr Harris) Na, na, dim o gwbl, ond mi leiciwn wybod ymhle mae'ch tad.
 
(2, 0) 442 Portsio samons mae o, ond peidiwch a deyd wrth y cipar.
(Mr Harris) {Yn ddifrifol.}
 
(2, 0) 447 Gneud drwg!
(2, 0) 448 Drwg i bwy?
(2, 0) 449 I'r samons?
(Mr Harris) Mi wyddoch chi'n well na hynny; mi wyddoch nad ydi portsio ddim yn iawn, yn tydi o cynddrwg a—
 
(Mr Harris) {Gan betruso.}.
(2, 0) 452 Cynddrwg a pheth?
(2, 0) 453 Ewch ymlaen.
(Mr Harris) Wel i fod yn blaen a gonest, cynddrwg a lladrad.
 
(2, 0) 456 Ydach chi'n meiddio galw nhad yn lleidr?
(2, 0) 457 Ddaethoch chi yma heno i'n galw ni'n lladron?
(Mr Harris) Na, na! rhoswch funud; peidiwch digio na chamesbonio pethau.
 
(2, 0) 462 Wel, a deyd y gwir, nac ydw.
(Mr Harris) {Yn siriol.}
 
(Mr Harris) Dyna fo'n union, mi wyddwn hynny, ac wrth gwrs y rheswm am hynny ydi—
(2, 0) 465 Mae gen i ofn bob tro y seuthith y cipar o; ofn i weld o'n dod yn gorff i'r tŷ.
(Mr Harris) Chreda i mohonoch; nid dyna ydi'ch ofn; yng ngwaelod eich calon fe wyddoch nad ydi o ddim yn gneud yn iawn.
 
(Mr Harris) Fyddwch chi ddim yn mynd i unrhyw le o addoliad, fyddwch i?
(2, 0) 470 Mi fyddaf yn mynd i ganol y coed neu i lan yr afon ambell i bnawn Sul i glywed yr adar yn canu ac i wrando ar sŵn yr afon ar ben fy hun.
(Mr Harris) Ia, ond fyddwch chi ddim yn addoli yno?
 
(2, 0) 473 Addoli!
(2, 0) 474 Beth ydi addoli?
(2, 0) 475 Rhywbeth tebig i hiraeth ydi o, yntê?
(2, 0) 476 Mi glywsoch y delyn yn canu wrth gwrs; bob tro y clywa i hi mae arna i eisio crio ac eisio dawnsio run pryd.
(2, 0) 477 Wn i ddim ffordd i ddeyd sut bydda i'n teimlo wrth glywed y delyn, ond mi wn fod sŵn y coed a sŵn yr
(2, 0) 478 afon yn gneud yr un peth i mi'n union; mi fedrwn grio a dawnsio run anadl.
(2, 0) 479 Rhywbeth fel yna ydi addoli, yntê?
(2, 0) 480 Dyn yn teimlo'n rhy sad i fod yn hollol lawen ac yn rhy llawen i fod yn hollol sad—rhywbeth fel yna ydi addoli, yntê?
(Mr Harris) {Tyn ei law yn ystyriol dros ei wyneb.}
 
(Mr Harris) Wn inna ddim yn iawn chwaith, ond mi goelia i fod rhyn ddwedsoch chi rwan yn rhyw fath o addoli hefyd.
(2, 0) 483 Glywsoch chi afon yn siarad â chi?
(2, 0) 484 Glywsoch chi'r coed yn deyd rhywbeth rhyw dro?
(Mr Harris) {Yn syn.}
 
(Mr Harris) Naddo'n sicr; glywsoch chi?
(2, 0) 487 Do, lawer gwaith.
(Mr Harris) Beth fydd yr afon a'r coed yn ei ddeyd wrthych chi?
 
(Mr Harris) Beth fydd yr afon a'r coed yn ei ddeyd wrthych chi?
(2, 0) 489 Deyd y bydda nhw weithia mod i'n siwr o farw, ac na fydd dim colled ar f'ol.
(2, 0) 490 Dro arall mae nhw'n deyd fod mam yn fyw yn rhywle, er fod i bedd hi yn y Llan.
(Mr Harris) Fydda nhw'n deyd rhywbeth arall?
 
(Mr Harris) Fydda nhw'n deyd rhywbeth arall?
(2, 0) 492 Ar ol i chi fynd adre, hwyrach yr af allan am dro drwy'r ardd, ac mi fydd y nos a'r coed a'r afon yn dwrdio'n enbyd am i mi golli nhempar efo nhad jest cyn i chi ddod i mewn.
(Mr Harris) Gollsoch chi'ch tempar?
 
(Mr Harris) Gollsoch chi'ch tempar?
(2, 0) 494 Do, mi collais o heno'n ddrwg, ac mi ges y drafferth fwya ges i rioed i gadw rhag cydio mewn rhywbeth pan oedd nhad yn mynd i nharo i.
(Mr Harris) Gwarchod ni! fydd o ddim yn eich taro, fydd o?
 
(Mr Harris) Gwarchod ni! fydd o ddim yn eich taro, fydd o?
(2, 0) 496 Bydd, mi roi'th lygad du i mi weithia.
(Mr Harris) {Yn ddigllon.}
 
(2, 0) 500 Helo, pwy roddodd hawl i chi i alw nhad yn enwau drwg?
(2, 0) 501 Nhad i ydi o, ac mae ganddo hawl i roi clustan i mi os leicith o heb ofyn caniatad neb.
(Mr Harris) {Yn danllyd.}
 
(2, 0) 506 Dic Betsi a'i ferch Nel yn mynd i'r capel!
(2, 0) 507 Mi edrychai pobl Seilo arnom fel pe bai cyrn ar ein pennau.
(2, 0) 508 Gwêl galch ar gôt MR. HARRIS.}
(2, 0) 509 Rhoswch funud, mae na smotyn gwyn o galch ar y gôt ma.
 
(2, 0) 511 Tynnwch y gôt ma oddiamdanoch am funud ac mi brwsiaf hi mewn chwinciad ar y bwrdd ma.
(Mr Harris) {Tyn ei gôt.}
 
(2, 0) 515 Coblyn o beth ydi du, yntê, am ddal pob matholwch?
(2, 0) 516 Wn i ddim pam mae neb yn gwisgo du, ac yn enwedig pregethwrs, achos lliw mowrning ydi o.
(2, 0) 517 Ddaru chi sylwi y lliw mowrning yn y coed ydi cochddu a melyn, byth ddu; mynd i'w cochddu a'u melyn y mae'r coed wrth farw, ond rhowch liwiau coch a glas a gwyrdd a gwyn i mi, mi fydda'n teimlo mod i'n fyw yn rheiny; mi faswn yn mynd dros fy mhen i'r felancoli pe gwisgwn ddu.
 
(2, 0) 519 Diain i, mi leiciwn drio côt laes fel hon amdana.
 
(2, 0) 521 Sut rydw i'n edrach?
(2, 0) 522 Tybed na wnawn i bregethwr ne giwrat ar binsh?
(Mr Harris) {Yn anesmwyth iawn.}
 
(2, 0) 532 Dyma Mr. Eifion Harris, gweinidog newydd Seilo; dyma nhad, Mr. Richard Davis, yr oeddech yn holi am dano.
(Dic) Dim o dy lol a dy giapars di yn y tŷ ma hefo dy Fistar Richard Davis ne mi dorra d'esgyrn di.
 
(2, 0) 544 Nhad, arna i roedd y bai i gyd, ac yn wir mae'n ddrwg gen i, Mr. Harris.
(2, 0) 545 Dod yma ddaru o, Nhad, i'ch gwâdd chi a finna i'r capel.
(2, 0) 546 Nath dim person na gweinidog gymaint a hynny i ni o'r blaen; a fi nath iddo dynnu ei gôt i mi gael brwsio'r calch oddiarni, ac mewn smaldod mi rhois hi amdanaf.
(Dic) Yr hen ffŵl ddi-ben yn chware dy gastia o hyd.
 
(Mr Harris) {Exit.}
(2, 0) 569 Pam ddaethoch chi'n ol mor fuan heno?
(Dic) Wn i ddim; ond mi fuost yn cyboli cymaint â'r llun yna nes y ngneud i'n anesmwyth braidd.
 
(2, 0) 573 Mam! dyna'r goncwest gynta; mi ddaw'r ail hwyrach ymhen tipyn.
(Mr Harris) Un waith eto, Mag bach, ac wedyn mi gei lonydd am wsnos.
 
(3, 0) 673 Mae na bedwar o ddynion yn cario nhad o goed y Plas.
(Mr Harris) Oes rhywbeth wedi digwydd?
 
(Mr Harris) Oes rhywbeth wedi digwydd?
(3, 0) 675 Wn i ddim!
(3, 0) 676 Wn i ddim!
(3, 0) 677 O! fedra i ddim crio.
(3, 0) 678 Dic Betsi!
(3, 0) 679 Mae arna'i ofn y bydd o farw ar y ffordd cyn cyrraedd adre,
(Doctor Huws) {Daw i mewn heb guro o'r dde.}
 
(3, 0) 686 Oes rhyw lygedyn o obaith?
(Doctor Huws) Dowch chi, ngeneth i, mi wnawn ein gore rhyngom; peidiwch mollwng rwan.
 
(Marged) Mi fyddwch yn smwythach ar y soffa.
(3, 0) 698 Fydda i byth eto'n esmwyth os ydi nhad—.
(3, 0) 699 Ar eu gliniau y bydd pobol yn gweddïo am bethau yntê?
(Marged) Mi fyddwch yn gweddïo weithiau?
 
(Marged) Mi fyddwch yn gweddïo weithiau?
(3, 0) 701 Gweddïo?
(3, 0) 702 Na fydda i.
(3, 0) 703 Dysgodd mam i mi ddeyd y mhader, ond ar ol iddi farw ddeydais i mohono byth wedyn.
(3, 0) 704 Atebith o ddiben i mi ddeyd y mhader rwan?
(3, 0) 705 Rwyn meddwl mod i'n i gofio fo.
(Marged) Ie, deydwch o rwan, mi fydd yn siwr o fod yn help i chi.
 
(Marged) Ie, deydwch o rwan, mi fydd yn siwr o fod yn help i chi.
(3, 0) 707 "Ein Tad"—ydi O'n Dad i Dic Betsi?
(3, 0) 708 Mi wn i fod O'n Dad i mam, achos roedd hi'n arfer siarad â Fo bob nos a bore.
(3, 0) 709 Ond hwyrach nad ydi O ddim yn ffrindie hefo nhad am i fod o'n bortsiar.
 
(3, 0) 711 Glywch chi sŵn traed?
(Marged) {Ar ol gwrando.}
 
(3, 0) 715 O, na fedrwn i grio; mae na ryw ddistawrwydd yn y mhen i fel pe bae rhywbeth ar dorri o'i fewn.
(Marged) Steddwch ar y soffa ma, mi ddowch yn well yn y munud.
 
(3, 0) 718 Mae sŵn cerdded araf y pedwar dyn na ar y nghlust i.
 
(3, 0) 720 Rwyn mynd allan i'w cyfarfod.
(Marged) {Yn erfyniol.}
 
(Marged) Ymhle roedd eich tad pan ddigwyddodd hyn?
(3, 0) 725 Fe aeth allan ar ol tê i bortsio.
(Marged) O! 'r tad annwyl, dyna beth difrifol!
 
(Marged) O! 'r tad annwyl, dyna beth difrifol!
(3, 0) 727 Be sy'n ddifrifol?
(Marged) Wel, meddwl fod hyn wedi digwydd ac yntau'n—{Petrusa.}.
 
(3, 0) 730 Nid amser i ddeyd y drefn am bortsio ydi hi rwan; mae nhad wedi frifo, mae gwaed Dic Betsi'n diferu ar hyd y ffordd.
(Marged) Ydi, mi wn, ond─
 
(Marged) Ydi, mi wn, ond─
(3, 0) 732 Y nefoedd fawr!
(3, 0) 733 Welwch chi ddim mai nhad sy wedi frifo; nid y portsiar ydi o i mi rwan, ond nhad, ac os colla'i nhad mi golla'r cwbl sy gen i.
 
(3, 0) 735 Dyna nhw'n cario'i gorff o i mewn.
(3, 0) 736 Mae rhywbeth yn deyd wrtho i fod popeth ar ben heno.
(3, 0) 737 O Nhad bach!
 
(3, 0) 739 Os y cipar seuthodd o, gobeithio y daw barn ar ben y llofrudd!
(Marged) {Dan gilio'n ol oddiwrthi'n frawychus.}
 
(3, 0) 746 Mam!
(Mr Harris) Mag, dos i weini am dipyn ar y Doctor yn y gegin.
 
(Mr Harris) Mae'r Doctor yn gneud ei ore i'ch tad yn y stafell na.
(3, 0) 751 Ydi hi ar ben arno?
(Mr Harris) Mae gobaith tra bo anadl.
 
(Mr Harris) Mae gobaith tra bo anadl.
(3, 0) 753 O! mae'n ddrwg gen i i mi ddychryn eich chwaer rwan.
(Mr Harris) Mae'n biti nad allech chi goncro'ch tempar, Nel bach.
 
(3, 0) 756 Rwyn waeth na phagan, medde'ch chwaer, ac mae hi'n iawn.
(Mr Harris) {Cyfyd ar ei draed.}
 
(Marged) Rydach chi wedi mynd a mrawd oddiarnaf, ac wedi dwyn y gweinidog oddiar Eglwys Seilo.
(3, 0) 879 Dwyn?
(3, 0) 880 Beth ydach chi'n feddwl?
(3, 0) 881 Tybed nad oes digon o faich arna i heno heb i chi roi chwaneg arnaf?
(Marged) Mae Eifion newydd ddeyd wrth flaenoriaid Seilo ei fod am eich priodi, er y gŵyr o o'r goreu beth fydd y canlyniad; y funud y priodith o chi, mi fydd yn rhaid iddo godi ei bac oddiyma.
 
(Mr Harris) Ai dyma'r amser iti fwrw dy lid ar Nel Davis yn i phryder a'i gofid?
(3, 0) 886 Does dim eisiau sôn am y mhryder i jest rwan, ond mae gen i hawl i wybod beth sy wedi digwydd yma.
(3, 0) 887 Ydach chi'n deyd mod i wedi dwyn eich brawd oddiarnoch chi ac Eglwys Seilo,
(Marged) Gofynnwch iddo fo.
 
(Marged) Rwyn teimlo dros fy nhad a mam weithiodd nos a dydd i dy godi di i'r pulpud i bregethu'r Efengyl, a dyma'u tâl.
(3, 0) 893 Eifion Harris, be sydd wedi digwydd?
(3, 0) 894 Mae gen i hawl i wybod.
(Mr Harris) Fe ddaeth y blaenoriaid yma fel y gwelsoch ac fe ddaeth pethau i boint.
 
(Mr Harris) Fe ddwedais y gwir, rydw i yn eich caru er mai adeg ryfedd i ddweyd hynny yw heno.
(3, 0) 898 Wel, ewch ymlaen.
(Mr Harris) Gofynnodd y blaenoriaid i mi oeddwn i'n barod i'ch priodi pe byddai rhaid i mi adael Seilo am wneud hynny, ac fe ddwedais y priodwn chi beth bynnag fasa'r canlyniadau.
 
(Mr Harris) Gofynnodd y blaenoriaid i mi oeddwn i'n barod i'ch priodi pe byddai rhaid i mi adael Seilo am wneud hynny, ac fe ddwedais y priodwn chi beth bynnag fasa'r canlyniadau.
(3, 0) 900 A! mae Nel Dic Betsi'n sgymun i bawb yn yr ardal, ac mi fydd byth.
(3, 0) 901 Does dim maddeuant byth i mi am fod yn ferch y portsiar.
(Mr Harris) Does waeth gen i am farn neb yn y wlad, gan mai chi ydi cannwyll fy llygad i.
 
(Mr Harris) Does waeth gen i am farn neb yn y wlad, gan mai chi ydi cannwyll fy llygad i.
(3, 0) 903 Mi fydd yn rhaid diffodd y gannwyll heno.
(Mr Harris) Beth?
 
(Mr Harris) Beth?
(3, 0) 905 Phrioda i chi byth!
(Mr Harris) Mi fynna'ch priodi.
 
(Mr Harris) Mi fynna'ch priodi.
(3, 0) 907 Mi gewch weld yn amgenach.
(3, 0) 908 Ddo i byth yn dragywydd rhyngoch chi ag Eglwys Seilo na dim eglwys arall.
(Mr Harris) Fe rois fy ngair y fan yna heno ddiweddaf y priodwn chi pe troid fi dros y drws fory nesaf.
 
(Mr Harris) Fe rois fy ngair y fan yna heno ddiweddaf y priodwn chi pe troid fi dros y drws fory nesaf.
(3, 0) 910 Pwy ddywedodd wrthych y priodwn i chi?
(Mr Harris) Chi.
 
(Mr Harris) Chi.
(3, 0) 912 Naddo rioed!
(Mr Harris) Fe roisoch le i mi gasglu drwy'r misoedd yma eich bod yn y ngharu i.
 
(Mr Harris) Fe roisoch le i mi gasglu drwy'r misoedd yma eich bod yn y ngharu i.
(3, 0) 914 A, dyna rywbeth gwahanol.
(3, 0) 915 Marged Harris, dydi'ch cariad chi at eich brawd yn ddim ond fel cannwyll frwyn wrth yr haul yn ymyl y nghariad i ato; mi awn drwy ffaglau tân er ei fwyn.
(3, 0) 916 Cariad!
(3, 0) 917 Marged Harris, wyddoch chi mo ystyr y gair eto?
(3, 0) 918 Pwy sy'n ameu fy nghariad i at eich brawd?
(Mr Harris) Nel bach, mi wyddwn fod popeth yn |all right|.
 
(Mr Harris) Nel bach, mi wyddwn fod popeth yn |all right|.
(3, 0) 920 Rhoswch funud; dydi popeth ddim yn |all right|.
(3, 0) 921 Waeth un gair na mil, phrioda i byth mohonoch.
(Mr Harris) Ond fe ddwedsoch rwan eich bod yn y ngharu i.
 
(Mr Harris) Ond fe ddwedsoch rwan eich bod yn y ngharu i.
(3, 0) 923 Ydw, mi ddwedwn hynny ar goedd y byd, ond rwyn eich caru'n rhy fawr i'ch priodi.
(Mr Harris) Nag ydach, ne mi priodech fi.
 
(Mr Harris) Nag ydach, ne mi priodech fi.
(3, 0) 925 Eifion!
(3, 0) 926 Er mai merch y portsiar ydw i, ddwedais i rioed gelwydd yn y mywyd—fûm i rioed o'r blaen yn caru â neb, a chara i byth neb ond chi, ond mae'n well gen i fod heb weld ych gwyneb chi byth na dod rhyngoch chi a'ch gwaith fel gweinidog, ac mi wn nad ydi merch Dic Betsi ddim yn ffit i fod yn wraig gweinidog, a fydd hi byth.
 
(Mr Harris) Nel, fi ydi'r unig un yn y lle ŵyr eich gwerth, ac rwyn benderfynol o'ch priodi, deued a ddêl.
(3, 0) 930 Mae mhoen i'n ddigon heb roi un arall ato, ond waeth i chi geisio symud y Wyddfa na'm symud i o mhenderfyniad.
(3, 0) 931 Unwaith eto, ac am y tro ola, phrioda i byth mohonoch.
(3, 0) 932 Fe af yn ddigon pell o'r ardal ma i ennill y nhamaid rhywsut, ond am eich priodi—byth bythoedd!
 
(Mr Blackwell) Oedd o dim yn |friends| â fi ers blynyddoedd, achos ti'n gwbod bod o'n portsio ar tir fi.
(3, 0) 945 Peidiwch a deyd gair yn erbyn nhad i heno.
(Mr Blackwell) O dim gair.
 
(Mr Blackwell) Basa fo yn jêl cant o weithia ond bod fi yn safio fo.
(3, 0) 949 Wyddwn i mo hynny.
(Mr Blackwell) Ma fo'n |right| gwir.
 
(3, 0) 956 Ydi o'n mynd i farw heno?
(Mr Blackwell) {Cydia yn ei llaw.}
 
(3, 0) 960 O Nhad!
(Mr Blackwell) Paid ti upseto dy hun—fi gofalu am ti.
 
(3, 0) 973 Wedi marw!
 
(Mr Harris) Ac i chitha.
(4, 0) 1084 Harri, Harri, ymhle rwyt ti?
(Mr Harris) {Gan neidio ar ei draed.}
 
(4, 0) 1088 O'r tad!
(4, 0) 1089 Chi sydd yma?
(4, 0) 1090 Mi ddeydodd y Doctor ffals yna mai Harri bach oedd yma.
(Mr Harris) Mi ddeydodd wrtho inna mai cloben o Saesnes hyll oeddach chitha.
 
(Mr Harris) Mi ddeydodd wrtho inna mai cloben o Saesnes hyll oeddach chitha.
(4, 0) 1092 Be ydach chi'n neud yn y gweithdy ma?
(4, 0) 1093 Ydach chi wedi gadael y weinidogaeth a throi'n jeinar?
(Mr Harris) Na, cymryd lle Jared rydw i er mwyn ennill dipyn o brês i'r hen greadur tlawd.
 
(Mr Harris) Na, cymryd lle Jared rydw i er mwyn ennill dipyn o brês i'r hen greadur tlawd.
(4, 0) 1095 Go lew chi.
(4, 0) 1096 Ches i ond prin olwg ar Jared eto.
(4, 0) 1097 Mae'n edrach yn rhyfedd o dda o ran i liw hefyd, ond mae'r Doctor yn ofni am i galon.
(4, 0) 1098 O! mi rown lawer am i weld o allan o berig.
(4, 0) 1099 Dyna'r unig beth nath i mi ddod yn ol i'r lle ma; rwyn ffond o nghalon o Jared.
(Mr Harris) O Nel, beth am dana i?
 
(Mr Harris) Rydach chi wedi bod o flaen fy llygaid bob dydd ar hyd y misoedd, ac er holi a chwilio, chawn i ddim gwybod ymhle roeddach chi, a dyma chi cystal a deyd na fasach chi byth yn dod yn ol yma er mwyn neb ond Jared.
(4, 0) 1102 Waeth i ni heb siarad am yr hen bethau; mae popeth drosodd erbyn hyn.
(Mr Harris) Drosodd?
 
(Mr Harris) Mi priodwch fi rwan, yn newch chi, Nel?
(4, 0) 1109 Rwyf wedi priodi!
(Mr Harris) {Gan ollwng ei dwylo.}
 
(Mr Harris) {Gwisg ei gôt yn brudd a chychwynna tua'r drws i'r dde.}
(4, 0) 1115 O, Mr. Harris! rydach chi'n mynd heb ddeyd "lwc dda," ac heb gymaint a gofyn pwy briodais i.
(Mr Harris) {Saif wrth y drws yn benisel, â'i gefn tuag ati.}
 
(Mr Harris) Pwy ddaru chi brodi?
(4, 0) 1118 Rwyf wedi priodi nghrefft?
(Mr Harris) {Gan droi ac edrych arni am funud.}
 
(Mr Harris) {Rhed ati a chofleidia hi.}
(4, 0) 1122 Rhoswch funud, da chi.
(4, 0) 1123 Beth yda ni well o fynd ymlaen fel hyn?
(4, 0) 1124 Nel Dic Betsi ydw i o hyd i'r bobl yma.
(Mr Harris) Dyn a'ch helpo, mae pethau wedi newid yn ddirfawr er pan welais chi ddiwedda.
 
(Mr Harris) Dyn a'ch helpo, mae pethau wedi newid yn ddirfawr er pan welais chi ddiwedda.
(4, 0) 1126 Newid ymha ffordd?
(Mr Harris) Wel, i gychwyn, mae fy lle i yn Seilo'n sicrach nag erioed.
 
(Mr Harris) Ond y gwir ydi, mae Seilo wedi newid ei barn am danoch.
(4, 0) 1131 Pam?
(4, 0) 1132 Run Nel ydw i heddyw yn nillad nyrs ag oeddwn i flwyddyn yn ol ym mwthyn Pantglas.
(Mr Harris) Nage, Nel bach; yr un yn union ydach chi i mi wrth gwrs, ond i'r bobol sydd yma merch ifanc ydach chi erbyn hyn, wedi bod dan addysg yn Llunden—Nyrs Nel Davis mewn dillad glas, sy'n gweddu iddi'n ofnatsan las—Nel Davis sy'n perthyn o bell i Mr. Blackwell y Plas.
 
(Mr Harris) O mae pethau wedi newid yn rhyfedd y misoedd diwedda ma.
(4, 0) 1135 Mi fûm yn siarad rwan ag Ifan y crydd a Hopcyn y siop—y ddau oedd fwya'n fy erbyn.
(4, 0) 1136 Mae'r ddau yn tŷ rwan.
(Mr Harris) Fuoch chi wir?
 
(Mr Harris) Sut roedda nhw'n behafio?
(4, 0) 1139 Swil iawn oedd y ddau am dipyn, a mi rois snap ne ddwy iddyn nhw er mwyn rhen amser gynt.
(4, 0) 1140 Ond eisia cymodi oedd arnyn nhw'n amlwg, a mi doddais dipyn bach atyn nhw yn y diwedd.
(Mr Harris) Dyna fo eto; mi wyddwn fod.
 
(Mr Harris) Y gwir yw, fe allwn briodi fory cyn belled ag y gwn i.
(4, 0) 1144 Priodi fory!
(4, 0) 1145 Be sy haru'r dyn?
(Mr Harris) Mi wyddoch o'r goreu be ydi meddwl i; does dim ar y ffordd rwan i ni briodi pan fynnwn.
 
(Mr Harris) Beth pe baech yn clirio rhyw gant y funud ma, a chyn diwedd y dydd mi gynhaliwn jiwbili i glirio'r holl ddyled.
(4, 0) 1149 O'r annwyl!
(4, 0) 1150 Na, chi ddeydodd rhywdro mai gwell oedd gadael i ran o'r ddyled sefyll ar gapel er mwyn rhoi gwaith i'r blynyddoedd i ddod; os cadwch chi jiwbili heddyw fydd gynno chi ddim i neud y misoedd nesa.
(4, 0) 1151 Ond beth am Marged?
(Mr Harris) Mae Marged yn fwy awyddus na neb am gymodi â chi.
 
(Hopcyn) le'n wir—mae'r Doctor na wedi torri'n calon ni yn y pentre wrth ddeyd fod Jared mor beryglus o wael.
(4, 0) 1158 Mi rydw i'n fwy digalon na neb ohonoch.
(4, 0) 1159 Mi ellwch fod yn siwr y gna i ngoreu er mwyn Jared, yr hen greadur annwyl.
(Mr Harris) Tybed fod y Doctor yn deall i afiechyd o; mi wariwn y ddimeu ola i gael |specialist| pe gwyddwn i y bae hynny o ryw les.
 
(4, 0) 1172 Soniwn ni byth eto am dano, dyna fi wedi cau'r drws am byth ar yr hyn a fu.
(Hopcyn) O, Nyrs Davis, newch chi ddim cau'r drws yn yr un dull dymunol efo Ifan a finna?
 
(Hopcyn) Mi sgydwch law â fo, yn newch chi?
(4, 0) 1178 Ar ol maddeu i'r ddau droseddwr mwya, hawdd maddeu i un oedd dipyn yn fwy pleidiol i mi nag Ifan Wyn a Hopcyn.
 
(4, 0) 1180 Wel, dyna fi'n ffrindia â'r sêt fawr i gyd rwan.
(Dafydd) Mae'n dda gen i gael cyflei gymodi.
 
(Dafydd)
(4, 0) 1184 Roedd y Doctor yma chydig yn ol, a gwael iawn oedd o yn i gael o.
(4, 0) 1185 Dydw i wedi cael fawr amser â fo eto, does fawr ers pan ddois i yma.
(Hopcyn) Un peth sy'n torri ar lawenydd y cymodi ma, a hwnnw ydi na fasa Jared yma.
 
(Jared) Rydw i wedi blino bod yn sâl a'r Nyrs ddim yn tendio arna i.
(4, 0) 1192 O, Jared Jones, dowch yn ol efo ni i'r tŷ; wn i ddim beth ddwedith y Doctor am hyn; mae'n enbyd i chi fod yn y fan yma.
(Jared) Nel Davis, mi rydw i cyn iached a'r gneuen; fûm i rioed mor iach.
 
(4, 0) 1212 Rhag cwilydd i chi, Jared Jones!
(4, 0) 1213 Faddeua i byth i chi!
(Jared) {Gan ddal ei breichiau.}
 
(Mr Harris) Dyma nhw wedi'n gollwng ni'n dau rwan o'r groesffordd, ond chi bia'r clod o'u perswadio nhw,
(4, 0) 1239 O, nage, nid fi, ond {Anela ei bys at ei wyneb.} y pistol galwad hwnnw.