Gwellhad Buan

Ciw-restr ar gyfer Aled

(Tom) Hen bethau di-ddim.
 
(Ann) Dewch i mewn Mr Morgan.
(1, 0) 465 Diolch yn fawr, Mrs James.
(Tom) Beth wyt ti eisiau?
 
(Ann) Rhaid i chi beidio â chymryd sylw ar beth mae e'n ei ddweud, Mr Morgan.
(1, 0) 470 Popeth yn iawn, Mrs James.
(Ann) Dyw e ddim wedi bod yn teimlo'n dda ers rhai dyddiau...
 
(Ann) Dyw e ddim wedi bod yn teimlo'n dda ers rhai dyddiau...
(1, 0) 472 Deall yn iawn, Mrs James, deall yn iawn.
(Ann) {Gan arwyddo at gadair.}
 
(1, 0) 476 Diolch yn fawr.
 
(1, 0) 478 Wedi dod â rhywbeth bach i'r claf hefyd....
(Tom) {Gan gydio yn y cwdyn yn swta.}
 
(Ann) Os gwnewch chi fy esgusodi?
(1, 0) 498 Wrth gwrs, Mrs James, wrth gwrs.
 
(1, 0) 500 Wel, sut wyt ti'r hen gyfaill?
(Tom) Dydw i ddim yn hen gyfaill i ti.
 
(Tom) Beth wyt ti eisiau?
(1, 0) 503 Wedi clywed yn y pentref nad wyt ti ddim yn dda.
 
(1, 0) 505 Wel, wyt ti yn sâl?
(Tom) Na, rwy i bob amser yn fy ngwely am ddeg o'r gloch yn y bore.
 
(Tom) Wrth gwrs 'mod i'n sâl.
(1, 0) 509 Be' sy'n bod 'te?
(Tom) Rwy' wedi cael annwyd.
 
(Tom) Rwy' wedi cael annwyd.
(1, 0) 511 Ai dyna'r cyfan?
(Tom) Mae hynny'n hen ddigon.
 
(Tom) Mae hynny'n hen ddigon.
(1, 0) 513 Dim byd mwy... wel... mwy difrifol?
(Tom) Be' ti'n feddwl?
 
(Tom) Be' ti'n feddwl?
(1, 0) 515 Wel, mae dôs o annwyd yn beth mor gyffredin.
(Tom) Does dim byd yn gyffredin am yr hyn sy' gen i.
 
(Tom) Does dim byd yn gyffredin am yr hyn sy' gen i.
(1, 0) 517 Ac mae pawb yn cael annwyd weithiau.
(Tom) Dim mor ddrwg ag yr ydw i'n ei gael e.
 
(Tom) Dim mor ddrwg ag yr ydw i'n ei gael e.
(1, 0) 519 Os wyt ti'n dweud.
(1, 0) 520 Mae'n rhaid fy mod i wedi eu camddeall.
(Tom) Camddeall pwy?
 
(Tom) Camddeall pwy?
(1, 0) 522 Wel, roedd pawb yn dweud...
(Tom) Beth roedd pawb yn ddweud?
 
(1, 0) 525 Dim byd o bwys.
(1, 0) 526 Anghofia'r peth.
 
(1, 0) 528 Wyt ti'n barod am y gêm ddydd Sadwrn 'te?
(1, 0) 529 Roeddwn i'n clywed fod Gerallt wedi ffeindio sêt yn arbennig i ti.
(Tom) Do, chwarae teg iddo.
 
(Tom) Do, chwarae teg iddo.
(1, 0) 531 Mi gei weld y cyfan yn glir.
(Tom) Mae hynny'n dibynnu os ca' i fynd, yn dyw e?
 
(Tom) Mae hynny'n dibynnu os ca' i fynd, yn dyw e?
(1, 0) 533 Be ti'n feddwl?
(Tom) Fe ddywedodd y Doctor y dyliwn i aros yn y gwely.
 
(Tom) Fe ddywedodd y Doctor y dyliwn i aros yn y gwely.
(1, 0) 535 Am faint?
(Tom) Am rhyw ddiwrnod neu ddau o leiaf.
 
(1, 0) 538 Am rhyw ddiwrnod neu ddau?
(1, 0) 539 O leiaf?
(Tom) Ie, dyna ddywedodd y Doctor.
 
(1, 0) 542 Mi fyddi yn dy wely dros y penwythnos 'te?
(Tom) Fel hynny mae'n edrych rŵan.
 
(1, 0) 547 Dim ond poeni am iechyd hen gyfaill.
(Tom) Boenaist ti erioed am hynny cyn hyn.
 
(Tom) Rwy'n dechrau deall rŵan!
(1, 0) 552 Deall beth?
(1, 0) 553 Does yna ddim i'w ddeall.
(Tom) Roeddwn i'n amau dy fod ti eisiau rhywbeth.
 
(Tom) Roeddwn i'n amau dy fod ti eisiau rhywbeth.
(1, 0) 555 Dw i ddim eisiau dim.
(Tom) {Yn bendant.}
 
(Tom) Taset ti'n mynd ar dy liniau i ofyn, 'na' fyddai'r ateb bob tro.
(1, 0) 559 Beth?
(1, 0) 560 Ond dwi ddim yn....
(Tom) Waeth i ti heb, rwy'n dy nabod di'n rhy dda.
 
(Tom) Bob amser eisiau rhywbeth!
(1, 0) 563 Ond Tomos!
(Tom) Paid ti â rhoi "Ond Tomos!" i mi.
 
(Tom) Na, na, na!
(1, 0) 568 Ond Tomos...
(Tom) Chei di mo'r tocyn.
 
(Tom) Chei di mo'r tocyn.
(1, 0) 570 Ond mae'n drueni ei wastraffu...
(Tom) Byddai'n well gen i losgi'r diawl cyn ei roi i ti o bawb.
 
(Tom) Byddai'n well gen i losgi'r diawl cyn ei roi i ti o bawb.
(1, 0) 572 Ond Tomos bach...
(Tom) Chei di mo'r tocyn i'r gêm ddydd Sadwrn, waeth i ti heb na holi.
 
(Tom) A cer â dy grêps gen ti.
(1, 0) 576 Ond Tomos...
(Tom) Byth!
 
(Tom) {Mae Tom yn stopio yn sydyn ac yn gafael yn ei stumog mewn poen.}
(1, 0) 581 Tomos?
(1, 0) 582 Be' sy'?
(1, 0) 583 Wyt ti'n sâl?
 
(1, 0) 585 Be' sy' bod?
(Tom) Hanna Morris.
 
(Tom) Hanna Morris.
(1, 0) 587 Beth?
(Tom) Hen stwff Hanna Morris.
 
(Tom) Cer o'r ffordd!
(1, 0) 592 Beth?
 
(1, 0) 594 Ond Tomos...
(1, 0) 595 Beth am y tocyn...
(Megan) Dech chi wedi colli rhywbeth, Mr Morgan?
 
(1, 0) 602 Beth!
(1, 0) 603 O, chi sy' yna Mrs Puw!
(1, 0) 604 Wnes i ddim clywed chi'n dod i mewn.
(Megan) Naddo, mae'n debyg.
 
(Megan) Beth oe'ch chi'n wneud o dan y fatres 'na 'te?
(1, 0) 607 Mae hynny'n gwestiwn da, Mrs Puw ─ cwestiwn da iawn.
(Megan) Wel?
 
(Megan) Wel?
(1, 0) 609 Ie, wel...
(1, 0) 610 Rwy'n sylweddoli fod e'n edrych yn od iawn ond mi alla' i esbonio'r cyfan...
(Megan) Mae'n dda gen i glywed hynny.
 
(Megan) Mae'n dda gen i glywed hynny.
(1, 0) 612 Dech chi'n gweld...
(1, 0) 613 Y rheswm i mi edrych dan y fatres...
(Megan) Ie?
 
(Megan) Ie?
(1, 0) 615 Ie...
(1, 0) 616 Wel...
(1, 0) 617 Roedd yn rhaid i mi edrych yno er mwyn ceisio chwilio am... am... amdano.
(Megan) Chwilio am beth?
 
(Megan) Chwilio am beth?
(1, 0) 619 Hynny yw, meddwl efallai fod e' dan y fatres... ac felly, yn meddwl mai'r peth gorau fyddai edrych i wneud yn siŵr...
(1, 0) 620 Ond dyw e' ddim yna, ac felly doedd dim angen chwilio dan y fatres wedi'r cyfan...
(1, 0) 621 Ond wrth gwrs, doeddwn i ddim yn gwybod hynny ar y pryd.
(Megan) Dw i ddim yn deall...
 
(Megan) Dw i ddim yn deall...
(1, 0) 623 Mae'r peth yn hollol syml.
(1, 0) 624 Wyddwn i ddim cyn edrych fod e ddim yna, ond rŵan rwy' wedi edrych ac rwy'n gwybod fod e' ddim yna.
(1, 0) 625 Wrth gwrs, tasen ni'n gwybod hynny cyn i mi edrych, faswn i ddim wedi mynd i'r drafferth o edrych, ond doeddwn i ddim yn gwybod hynny cyn i mi edrych, ac felly dyna oeddwn i'n wneud pan ddaethoch chi i mewn.
(1, 0) 626 Rwy'n siŵr fod hynna'n esbonio'r cyfan...
(Megan) {Yn amheus.}
 
(Megan) Wel...
(1, 0) 629 Iawn.
(1, 0) 630 Os wnewch chi fy esgusodi i, mae'n rhaid i mi fynd.
(1, 0) 631 Gwaith yn disgwyl ynte!
(1, 0) 632 Neis iawn eich gweld chi.
(1, 0) 633 Hwyl rŵan.