Gwellhad Buan

Ciw-restr ar gyfer Doctor

(Tom) Hen bethau di-ddim.
 
(Ann) Os wnewch chi fy esgusodi i am eiliad.
(1, 0) 267 Wrth gwrs, Mrs James, popeth yn iawn.
 
(1, 0) 269 Nawr Mr Edwards, beth yn hollol sy'n bod?
 
(Tom) Rwy'n sâl.
(1, 0) 272 Ie, rwy'n deall hynny ond allwch chi fod ychydig bach mwy manwl?
(Tom) Wel, ma'n nhrwyn i yn rhedeg fel tap ac ma' mhen i bron â hollti'n ddau.
 
(Tom) Hefyd, ma' ngwddwg i'n crafu...
(1, 0) 275 Dywedwch 'A'.
(Tom) Aaaaa!
 
(Tom) Aaaaa!
(1, 0) 277 Rhywbeth arall?
(Tom) Mae gen i boen fan hyn...
 
(Tom) Fyddai byth yn cael poen mor bell lawr â hynna.
(1, 0) 290 Rhywbeth arall?
(Tom) Dech chi ddim yn meddwl fod hynna'n ddigon?
 
(Tom) Dech chi ddim yn meddwl fod hynna'n ddigon?
(1, 0) 292 Wel, Mr Edwards, dw i ddim yn credu fod eisiau i chi boeni'n ormodol.
(1, 0) 293 O'r hyn dech chi'n ei ddweud, mae'n edrych yn o debyg eich bod chi wedi cael dôs go iawn o annwyd ─ dyna'r cyfan.
(Tom) Rwy'n gwybod mai annwyd yw e' ─ does dim angen bod yn ddoctor i wybod hynny.
 
(Tom) Y cwestiwn yw, beth dech chi'n mynd i wneud ynglŷn â'r peth?
(1, 0) 296 Wel, mi faswn i yn eich cynghori i aros yn y gwely...
(Tom) Aros yn fy ngwely!
 
(Tom) Ond mae'n rhaid i mi fynd i Gaerdydd ddydd Sadwrn.
(1, 0) 299 Dydd Sadwrn?
(Tom) I weld y gêm rygbi ryngwladol.
 
(Tom) I weld y gêm rygbi ryngwladol.
(1, 0) 301 O!
(1, 0) 302 Wel, fydden i ddim yn eich cynghori...
(Tom) Mae mab Gerallt Lloyd, Pencwm, yn chwarae.
 
(Tom) Ei gap cyntaf dros ei wlad.
(1, 0) 305 Neis iawn rwy'n siŵr, ond...
(Tom) Ac mae Gerallt wedi mynd i drafferth mawr er mwyn sicrhau fy mod i yn cael tocyn.
 
(Tom) Ac mae Gerallt wedi mynd i drafferth mawr er mwyn sicrhau fy mod i yn cael tocyn.
(1, 0) 307 Do, rwy'n siŵr, ond...
(Tom) Un o'r seddi gorau ar y maes.
 
(Tom) Dim byd ond y gorau i'w ffrind Tom.
(1, 0) 310 Wel Mr Edwards, os ydych chi'n dewis anwybyddu fy nghyngor...
(Tom) Ond mae'n rhaid i mi fynd yno.
 
(Tom) Ond mae'n rhaid i mi fynd yno.
(1, 0) 312 Eich penderfyniad chi yw e' wrth gwrs.
(1, 0) 313 Fedra i byth eich rhwystro chi rhag mynd.
(Tom) Fyddech chi'n fodlon cael gair ag Ann 'te?
 
(Tom) Fyddech chi'n fodlon cael gair ag Ann 'te?
(1, 0) 315 I pa bwrpas?
(Tom) Dyw hi ddim yn fodlon i mi fynd chwaith.
 
(Tom) Ieuan Pencwm yn ennill ei gap cyntaf ─ ac mae pawb eisiau i mi aros yn y gwely drwy'r dydd!
(1, 0) 318 Dyna fyddai orau.
(Tom) Ond tasech chi'n dweud wrthi fod e'n olreit i mi daro draw, ac yna'n syth yn ôl i'r gwely...
 
(Tom) Ond tasech chi'n dweud wrthi fod e'n olreit i mi daro draw, ac yna'n syth yn ôl i'r gwely...
(1, 0) 320 Fel y dywedais i eisoes Mr Edwards, dim fy lle i yw eich rhywstro rhag mynd...
(Tom) Diolch yn fawr, Doctor.
 
(Tom) Diolch yn fawr, Doctor.
(1, 0) 322 Ond ar y llaw arall, rhaid i mi gynghori eich merch fod e'n beth peryglus iawn i'w wneud o ystyried eich cyflwr a'ch oedran.
(Tom) Beth?
 
(Tom) Ond Doctor...?
(1, 0) 325 Rhaid i chi aros yn eich gwely yn amyneddgar a rhoi'r cyfle i natur wneud ei waith.
(Tom) Ai dyna'r gorau y gallwch chi ei gynnig?
 
(Tom) Ai dyna'r gorau y gallwch chi ei gynnig?
(1, 0) 327 Does dim byd y galla i ei wneud.
(Tom) Dyw hyn ddim digon da.
 
(Tom) Rwy wedi talu fy National Insurance ar hyd y blynyddoedd.
(1, 0) 330 Ond does...
(Tom) Rwy' wedi darllen hanes chi a'ch siort yn y papurau dydd Sul ─ cadw'r stwff gorau i'r cleifion preifat a gwrthod rhoi dim i'r dyn bach cyffredin.
 
(Tom) Rwy' wedi darllen hanes chi a'ch siort yn y papurau dydd Sul ─ cadw'r stwff gorau i'r cleifion preifat a gwrthod rhoi dim i'r dyn bach cyffredin.
(1, 0) 332 Dim o gwbwl.
(1, 0) 333 Y gwir amdani yw nad oes yna ddim byd ar gael i wella annwyd ar hyn o bryd.
(Tom) Mae rhaid fod yna rhywbeth?
 
(Tom) {Mae Tom yn pesychu'n drwm.}
(1, 0) 336 Diar mi, Mr Edwards, mae'r peswch yna yn un cas.
(1, 0) 337 Gwell i chi gymryd un o rhain.
 
(Tom) Ydyn nhw'n gwella annwyd?
(1, 0) 340 Na, ond mi fyddan nhw'n help i wella'r peswch 'na.
(1, 0) 341 Cymerwch un.
(Tom) {Yn gwneud hynny.}
 
(Tom) {Dangos tin o bils i'r Doctor.}
(1, 0) 347 Dech chi erioed yn defnyddio rhain?
(Tom) Wel...
 
(Tom) Ydw.
(1, 0) 350 Wyddwn i ddim eu bod nhw'n dal i wneud nhw.
(Tom) Maen nhw wedi bod yn y tŷ yma ers tipyn.
 
(Tom) Maen nhw wedi bod yn y tŷ yma ers tipyn.
(1, 0) 352 Hen bethau sur sy'n gwneud mwy o ddrwg nag o les.
(Tom) Dech chi'n meddwl?
 
(Tom) Dech chi'n meddwl?
(1, 0) 354 Yn bendant i chi.
(1, 0) 355 Y bin sbwriel ─ dyna'r peth gorau i wneud â rheina.
 
(Tom) Ond...
(1, 0) 359 Nawr, gadewch i ni weld beth arall sydd yma.
 
(1, 0) 361 Mae hwnna'n stwff reit dda...
(1, 0) 362 A hwnna...
(1, 0) 363 Ddylech chi ddim defnyddio hwnna...
(1, 0) 364 A dyw hwn fawr o werth...
(1, 0) 365 Na hwnna chwaith...
 
(1, 0) 367 A wn i ddim beth yw hon.
 
(Tom) {Ceisio atal y Doctor rhag ei thaflu i'r bin, ond yn methu.}
(1, 0) 371 Dyna ni, Mr Edwards.
(1, 0) 372 Dyna gael gwared â'r rheina.
(Tom) Ond Doctor...
 
(Tom) Ond Doctor...
(1, 0) 374 Gormod o ddim nid yw'n dda, yntê?
 
(1, 0) 376 Nawr, peidiwch â chymryd mwy o foddion nag sydd rhaid.
(1, 0) 377 Mae hynny'n bwysig.
(1, 0) 378 Hefyd, mae'n bwysig iawn cadw'n gynnes.
(Tom) Dim ond cadw'n gynnes?
 
(Tom) Dim ond cadw'n gynnes?
(1, 0) 380 Cadw'n gynnes yn y gwely, Mr Edwards.
(1, 0) 381 Mi ddo' i'ch gweld ddechrau'r wythnos nesaf.
(1, 0) 382 Rwy'n siŵr y byddwch yn well erbyn hynny.
(Tom) Ond beth am Ann?
 
(Tom) Ond beth am Ann?
(1, 0) 384 Rydech chi'n ffodus iawn fod eich merch yma i ofalu ar eich hôl.
(1, 0) 385 Cofiwch hynny Mr Edwards.
(1, 0) 386 Os bydd unrhyw newid, dim ond galwad ffôn sydd angen.
(Tom) Ond Doctor, wyddoch chi faint yw gwerth tocyn i gêm rygbi rhyngwladol?
 
(Tom) Byddai rhai bobol yn fodlon rhoi ffortiwn fach am gael un.
(1, 0) 389 Efallai wir, ond mae iechyd yn beth amhrisiadwy.
(1, 0) 390 Cofiwch hynny hefyd, Mr Edwards.
(1, 0) 391 Dydd da.