Gwellhad Buan

Ciw-restr ar gyfer Gerallt

(Tom) Hen bethau di-ddim.
 
(Ann) Popeth yn iawn 'Nhad.
(1, 0) 873 Tomos!
(Tom) Gerallt!
 
(Tom) Be' sy'?
(1, 0) 876 Mae gen i newyddion drwg.
(Tom) Dyw Ieuan ddim yn sâl?
 
(Tom) Dyw Ieuan ddim yn sâl?
(1, 0) 878 Na' di.
(Tom) Dyw e' ddim wedi torri ei goes neu rhywbeth?
 
(Tom) Dyw e' ddim wedi torri ei goes neu rhywbeth?
(1, 0) 880 Na, dim byd felly.
(Tom) A ma' fe yn chwarae dydd Sadwrn?
 
(Tom) A ma' fe yn chwarae dydd Sadwrn?
(1, 0) 882 Ydy, ydy.
(1, 0) 883 Mae Ieuan yn iawn.
(Tom) Wel, dweda be' sy'n bod 'te.
 
(Tom) Wel, dweda be' sy'n bod 'te.
(1, 0) 885 Wel... wel...
(1, 0) 886 Ynglŷn â'r tocyn...
(Ann) 'Dech chi ddim eisiau fe 'nôl?
 
(Ann) 'Dech chi ddim eisiau fe 'nôl?
(1, 0) 888 Na... na...
(Tom) Wel be' sy' 'te?
 
(Tom) Wel be' sy' 'te?
(1, 0) 890 Dyw e' ddim yn un iawn.
(Tom) Be' ti'n feddwl?
 
(Tom) Be' ti'n feddwl?
(1, 0) 892 Tocyn ffug yw e'.
(Tom) Tocyn ffug?
 
(Tom) Tocyn ffug?
(1, 0) 894 Ie.
(1, 0) 895 Mae'n ddrwg iawn gen i.
(Tom) Tocyn ffug!
 
(Tom) {Tom yn dechrau chwerthin.}
(1, 0) 898 Wela i ddim byd yn ddigri yn y peth.
(Tom) Ond mae hyn yn fendigedig...
 
(Tom) Ond mae hyn yn fendigedig...
(1, 0) 900 Ond Tomos, dwyt ti ddim yn sylweddoli ─ chei di ddim mynd mewn i'r maes dydd Sadwrn.
(1, 0) 901 Byddan nhw'n gwrthod derbyn y tocyn wrth y gât.
(Tom) Gwrthod derbyn y tocyn wrth y gât.
 
(Tom) Glywaist ti hynna Dafydd...
(1, 0) 905 Ond dech chi ddim yn deall...
(Dafydd) Na, chi sydd ddim yn deall.
 
(Ann) Dech chi'n gweld Mr Lloyd, mae fy 'Nhad wedi gwerthu y tocyn.
(1, 0) 908 Beth?
(1, 0) 909 Ond...
(Ann) Roedd y Doctor o'r farn y byddai'n well iddo beidio mynd dydd Sadwrn.
 
(Ann) Roedd y Doctor o'r farn y byddai'n well iddo beidio mynd dydd Sadwrn.
(1, 0) 911 Ond... ond...
(1, 0) 912 I bwy werthaist ti'r tocyn 'te?
(Tom) I Morgan y siop.
 
(Tom) I Morgan y siop.
(1, 0) 914 Aled Morgan?