Gwellhad Buan

Ciw-restr ar gyfer Megan

(Tom) Hen bethau di-ddim.
 
(1, 0) 97 Helo...
(Tom) Megan, ti sy' yna?
 
(Tom) Megan, ti sy' yna?
(1, 0) 100 Wedi dod i weld y claf.
 
(1, 0) 102 A...
(1, 0) 103 Bore da Dafydd.
(Dafydd) Bore da, Mrs Puw.
 
(1, 0) 107 A shwd ma' pethau heddi' Tomos?
(Tom) Cystal â'r disgwyl am wn i.
 
(Tom) Cystal â'r disgwyl am wn i.
(1, 0) 109 Dyw'r annwyd ddim gwell?
(Tom) Na ─ dim rhyw lawer.
 
(Tom) {Pesychu.}
(1, 0) 112 Diar mi.
(1, 0) 113 Mae'n bryd gwneud rhywbeth ynglŷn â'r peswch yna.
(Tom) Fel be?
 
(Tom) Fel be?
(1, 0) 115 Wel, gwell i ti ddefnyddio hwn i ddechrau.
 
(Tom) Beth yw e'?
(1, 0) 118 Rhywbeth i wella tipyn ar yr annwyd yna.
(1, 0) 119 Hanna Morris y Felin wedi ei gymysgu yn arbennig.
(Tom) Dw i ddim yn mynd i ddefnyddio rhyw bethau mae honno wedi'i gymysgu.
 
(Tom) Duw a ŵyr be' sy' ynddo fe.
(1, 0) 122 Paid â bod mor anniolchgar.
(1, 0) 123 Mi gymysgodd Hanna Morris y stwff yma yn arbennig i ti.
(Tom) Wel, dw i ddim eisiau fe.
 
(1, 0) 126 Dyma fyddai ei Mam yn ei ddefnyddio bob amser.
(Tom) Ie, ac mi fu honno farw yn o sydyn hefyd.
 
(Tom) Ie, ac mi fu honno farw yn o sydyn hefyd.
(1, 0) 128 Wel, mi faswn i'n dy gynghori di i ddefnyddio hwn ─ yn enwedig os wyt ti am fynd i'r gêm rygbi yna ddydd Sadwrn.
(Tom) {Gan gymryd y botel.}
 
(Tom) Wyt ti'n meddwl y gwnaiff e' rhyw les?
(1, 0) 131 Mae Gwyneth Watkin yn credu'n gryf yn y stwff yma.
(Tom) Mae honno'n ddigon dwl i gredu rhywbeth.
 
(Tom) Mae honno'n ddigon dwl i gredu rhywbeth.
(1, 0) 133 Ac mae Jones y gweinidog yn defnyddio hwn hefyd.
(Tom) Olreit... olreit... mi wna i.
 
(Tom) Olreit... olreit... mi wna i.
(1, 0) 135 Ti'n addo?
(Tom) Er mwyn dy blesio di.
 
(Tom) Er mwyn dy blesio di.
(1, 0) 137 Dyna welliant.
(Ann) A shwd dech chi erbyn hyn 'Nhad?
 
(1, 0) 157 Wyt ti wedi darllen y papur?
(Tom) Naddo.
 
(Tom) Pam?
(1, 0) 160 Gweld fod Lisa Jane Brynrodyn wedi marw.
(Ann) Pwy?
 
(Ann) Pwy?
(1, 0) 162 Lisa Jane.
(1, 0) 163 Chwaer-yng-nghyfraith i Hywel y Postman.
(Ann) Dim yn ei nabod hi.
 
(Tom) Er hynny, chwith meddwl fod hi wedi mynd.
(1, 0) 172 Fel 'na mae hi yn yr hen fyd yma.
(Tom) Ie, debyg.
 
(Tom) Y cyfan yn nwylo y Brenin Mawr.
(1, 0) 175 Cofia, mae'n drueni mawr nad yw Lisa Jane yma heddiw i ddarllen y |notice|.
(1, 0) 176 Roedd hi bob amser yn licio gweld ei henw yn y papur.
(Tom) Rwyt ti'n ofnadwy Megan, wyt wir.
 
(1, 0) 221 Rhywbeth i wella annwyd Tomos.
(1, 0) 222 Hanna Morris wedi ei gymysgu yn arbennig.
(Dafydd) Be sydd ynddo fe?
 
(Tom) Duw a ŵyr!
(1, 0) 225 Ond mae pawb yn dweud ei fod e'n stwff da.
(Dafydd) {Edrych ar y botel yn amheus.}
 
(Tom) Wel...
(1, 0) 229 Ydi, wrth gwrs!
(1, 0) 230 Mae'n rhaid i ni dy wella yn o fuan neu chei di byth fynd i'r gêm rygbi na, a hwnna yw'r stwff i wneud y gwaith.
(Tom) {Pesychu.}
 
(Tom) Gobeithio bod ti'n iawn...
(1, 0) 233 Wrth gwrs 'mod i'n iawn.
 
(1, 0) 235 Defnyddia di hwnna, a bydd y peswch yna'n well mewn chwinciad.
(Dafydd) Efallai mai'r doctor sydd yna.
 
(Dafydd) Ie, mae'r car y tu allan.
(1, 0) 240 Y doctor?
(1, 0) 241 Gwastraff amser yw galw un o rheini.
(1, 0) 242 Mae Hanna Morris yn deall mwy na'r doctoriaid i gyd gyda'i gilydd.
(Dafydd) Gawn ni weld.
 
(Dafydd) {Dafydd yn mynd allan.}
(1, 0) 245 Wel, os mai'r doctor sydd yna, gwell i minnau fynd hefyd.
(1, 0) 246 Cofia ddefnyddio stwff Hanna Morris...
(Tom) Reit.
 
(Tom) Reit.
(1, 0) 248 Mi fydda' i nôl cyn hir.
(Tom) Lle ti'n mynd 'te?
 
(Tom) Lle ti'n mynd 'te?
(1, 0) 250 Dim ond taro adref.
(Tom) I beth?
 
(Ann) I mewn fan hyn ma' fe Doctor.
(1, 0) 254 Gwell i mi fynd.
(Ann) Dyma ni.
 
(Ann) Dech chi'n mynd, Mrs Puw?
(1, 0) 259 Ydw am ychydig.
 
(1, 0) 261 Fydda i ddim yn hir.
(1, 0) 262 Hwyl rŵan.
(1, 0) 263 Bore da, Doctor.
 
(Aled) Beth am y tocyn...
(1, 0) 600 Dech chi wedi colli rhywbeth, Mr Morgan?
(Aled) {Wedi dychryn.}
 
(Aled) Wnes i ddim clywed chi'n dod i mewn.
(1, 0) 605 Naddo, mae'n debyg.
(1, 0) 606 Beth oe'ch chi'n wneud o dan y fatres 'na 'te?
(Aled) Mae hynny'n gwestiwn da, Mrs Puw ─ cwestiwn da iawn.
 
(Aled) Mae hynny'n gwestiwn da, Mrs Puw ─ cwestiwn da iawn.
(1, 0) 608 Wel?
(Aled) Ie, wel...
 
(Aled) Rwy'n sylweddoli fod e'n edrych yn od iawn ond mi alla' i esbonio'r cyfan...
(1, 0) 611 Mae'n dda gen i glywed hynny.
(Aled) Dech chi'n gweld...
 
(Aled) Y rheswm i mi edrych dan y fatres...
(1, 0) 614 Ie?
(Aled) Ie...
 
(Aled) Roedd yn rhaid i mi edrych yno er mwyn ceisio chwilio am... am... amdano.
(1, 0) 618 Chwilio am beth?
(Aled) Hynny yw, meddwl efallai fod e' dan y fatres... ac felly, yn meddwl mai'r peth gorau fyddai edrych i wneud yn siŵr...
 
(Aled) Ond wrth gwrs, doeddwn i ddim yn gwybod hynny ar y pryd.
(1, 0) 622 Dw i ddim yn deall...
(Aled) Mae'r peth yn hollol syml.
 
(1, 0) 628 Wel...
(Aled) Iawn.
 
(Aled) {Aled yn mynd allan yn frysiog.}
(1, 0) 635 Ddeellais i yr un gair...!
(Tom) Mae'n dda cael gwared o hwnna!
 
(Tom) Mae'n dda cael gwared o hwnna!
(1, 0) 638 Beth?
(Tom) Chwarae teg i ti Megan.
 
(Tom) Roedd e'n carlamu lawr y staer yna, tri step ar y tro.
(1, 0) 641 Pwy?
(Tom) Mistar Aled Morgan wrth gwrs!
 
(Tom) Be ddywedaist ti wrtho fe?
(1, 0) 644 Ges i ddim cyfle i ddweud dim byd.
(Tom) Ma' fe'n hen greadur bach slei, ond roeddwn i'n amau o'r dechrau, fod e eisiau rhywbeth.
 
(Tom) Ma' fe'n hen greadur bach slei, ond roeddwn i'n amau o'r dechrau, fod e eisiau rhywbeth.
(1, 0) 646 Beth oedd e' eisiau 'te?
(Tom) Wel, y tocyn wrth gwrs.
 
(Tom) Wel, y tocyn wrth gwrs.
(1, 0) 648 Pa docyn?
(Tom) Tocyn gêm dydd Sadwrn.
 
(Tom) Tocyn gêm dydd Sadwrn.
(1, 0) 650 Na...
(Tom) Cyn gynted ag y clywodd e 'mod i'n sâl, dyma fe'n dod heibio...
 
(Tom) Fe a'i baced grêps.
(1, 0) 653 Wel, y creadur digywilydd...!
(Tom) Meddwl y byddwn i'n ddigon dwl i'w rhoi iddo fe o bawb...!
 
(Tom) Meddwl y byddwn i'n ddigon dwl i'w rhoi iddo fe o bawb...!
(1, 0) 655 Wnest ti ddim...?
(Tom) Dim peryg!
 
(1, 0) 658 Dyna beth oedd e'n chwilio amdano!
(Tom) Pryd?
 
(Tom) Pryd?
(1, 0) 660 Pan ddes i mewn roedd e'n chwilio am rhywbeth dan fatres y gwely.
(Tom) {Gan chwerthin.}
 
(Tom) Wel, ffindieth e 'run tocyn lawr fan 'na.
(1, 0) 663 Lle ma' fe 'te?
(Tom) Ma' fe'n ddigon saff i ti.
 
(Tom) Ma' fe'n ddigon saff i ti.
(1, 0) 665 Yn lle?
(Tom) Rhaid i ti ofyn i Ann.
 
(Tom) Hi sy'n gwybod lle ma' popeth yn y tŷ yma.
(1, 0) 668 Wyt ti ddim yn gwybod lle ma' fe 'te?
(Tom) Na, Ann sy'n gofalu am y cyfan.
 
(Tom) Na, Ann sy'n gofalu am y cyfan.
(1, 0) 670 Wyddost ti, Tomos, rwyt ti'n ffodus iawn fod Ann yma i ofalu amdanat ti.
(Tom) Felly mae pawb yn dweud.
 
(Tom) {Mynd yn ôl i'w wely.}
(1, 0) 673 Paid â mynd i'r gwely eto.
(Tom) Beth?
 
(Tom) Beth?
(1, 0) 675 Paid â mynd 'nôl mewn i'r gwely 'na.
(Tom) Pam?
 
(Tom) Pam?
(1, 0) 677 Rydw i eisiau ti gyntaf.
(Tom) {Yn methu credu.}
 
(Tom) Beth?
(1, 0) 680 Rwy' am i ti orwedd ar y gwely.
(Tom) Pam?
 
(Tom) Pam?
(1, 0) 682 Os wyt ti eisiau mynd i'r gêm ddydd Sadwrn, gorwedd ar y gwely 'na.
(Tom) Ond pam?
 
(1, 0) 685 Gorwedd!
(Tom) Ond Megan...
 
(1, 0) 689 Tynna gôt dy bajamas i ffwrdd.
(Tom) Beth?
 
(Tom) Dim dyma'r amser...
(1, 0) 693 Tynna hi i ffwrdd.
(Tom) {Yn dechrau agor botymau côt ei bajamas.}
 
(1, 0) 697 Mae hwn yn lyfr da.
(Tom) Rwy'n siŵr ei fod e', ond 'wyt ti ddim yn meddwl...
 
(Tom) Rwy'n siŵr ei fod e', ond 'wyt ti ddim yn meddwl...
(1, 0) 699 Digon o luniau... i esbonio'r cyfan.
(Tom) Rwy wedi clywed sôn am lyfrau fel 'na!
 
(Tom) Rwy wedi clywed sôn am lyfrau fel 'na!
(1, 0) 701 Paid â phoeni.
(1, 0) 702 Rwy'n siŵr y byddi di'n teimlo'n well wedyn.
(Tom) Wn i ddim wir.
 
(Tom) Rwy' wedi mynd braidd yn rhy hen i rhyw bethau fel hyn.
(1, 0) 705 Y cyfan sy' angen yw gosod ambell i nodwydd yn y cnawd yma ac acw.
(Tom) Be' ddywedaist ti?
 
(Tom) Be' ddywedaist ti?
(1, 0) 707 Ar gyfer annwyd mae angen gosod un nodwydd yn dy fraich ac yna un arall yn dy...
(Tom) {Yn neidio o'r gwely.}
 
(Tom) Beth yw'r llyfr 'na?
(1, 0) 710 |Acupuncture for Beginners|.
(Tom) Dim peryg!
 
(Tom) Dim peryg!
(1, 0) 712 Ond Tomos...
(Tom) Na.
 
(Tom) Dwyt ti ddim yn mynd i ddechrau sticio nodwyddau ynddo' i.
(1, 0) 716 Ond mae e'n ffordd dda i leddfu poen.
(Tom) Does gen i ddim gwahaniaeth beth yw e.
 
(Tom) Cer i sticio dy nodwyddau yn rhywun arall.
(1, 0) 719 Ond Tomos...
(Tom) Na ─ a dyna ben ar y peth.
 
(Tom) Na ─ a dyna ben ar y peth.
(1, 0) 721 O wel, beth am y llyfr hwn 'te?
 
(Tom) Beth yw e'?
(1, 0) 724 Mae nhw'n dweud fod hwn yn gallu bod yn effeithiol iawn hefyd.
(Tom) Gad i mi weld.
 
(Tom) {Mynd â'r llyfr oddi wrthi ac eistedd ar y gwely i'w ddarllen.}
(1, 0) 727 Wrth gwrs, i hyn weithio'n iawn, bydd rhaid i ni droi'r gwely rownd gyntaf.
(Tom) Troi'r gwely rownd?
 
(Tom) Troi'r gwely rownd?
(1, 0) 729 Ie, mae'n rhaid i'r gwely wynebu'r gogledd.
(Tom) Wel, paid ag edrych arna i, mae'n nghefn i'n rhy wael i symud yr un gwely.
 
(Tom) Wel, paid ag edrych arna i, mae'n nghefn i'n rhy wael i symud yr un gwely.
(1, 0) 731 Ond mae'n rhaid iddo gyd-redeg â llinellau magnetic y ddaear.
(Tom) Os wyt ti'n dweud.
 
(Tom) Os wyt ti'n dweud.
(1, 0) 733 Dim fi sy'n dweud ─ ond y llyfr.
(Tom) Os oes rhaid troi'r gwely, gwell i ti basio'r ffon i mi.
 
(Tom) Os oes rhaid troi'r gwely, gwell i ti basio'r ffon i mi.
(1, 0) 735 Wyddwn i ddim fod ti'n iwsio ffon?
(Tom) Mae 'na fwy na un defnydd i ffon.
 
(Dafydd) Beth?
(1, 0) 743 I wynebu'r gogledd.
(Dafydd) Ond pam?
 
(1, 0) 752 Nawr Tomos, i mewn â thi.
 
(1, 0) 755 Beth sydd nesaf?
(1, 0) 756 O ie ─ mae angen ychydig o ddail te.
(1, 0) 757 Pasia'r myg 'na Dafydd.
(Dafydd) Dim ond 'tea bag' sydd yn hwn.
 
(Dafydd) Dim ond 'tea bag' sydd yn hwn.
(1, 0) 759 Mi fydd rhaid iddo wneud y tro.
 
(Tom) Mae hwnna'n wlyb.
(1, 0) 762 Cwyno o hyd.
(1, 0) 763 Wyt ti eisiau mynd i'r gêm ddydd Sadwrn?
(Tom) Wel ydw, wrth gwrs ond...
 
(Tom) Wel ydw, wrth gwrs ond...
(1, 0) 765 Bydd dawel 'te.
(1, 0) 766 Nawr, lle o'en i?
(1, 0) 767 O ie.
 
(1, 0) 769 ~
(1, 0) 770 Rhaid yw dewis rhan o ddeilen,
(1, 0) 771 Rhoi'n ofalus ar ei dalcen,
(1, 0) 772 Dail a ddaw o'r India pell,
(1, 0) 773 Bydd y claf cyn hir yn well.
(1, 0) 774 Wel?
(Tom) Wel be?
 
(Tom) Wel be?
(1, 0) 776 Wyt ti'n teimlo'n well?
(Tom) {Yn amheus.}
 
(Tom) Dw i ddim yn credu...
(1, 0) 779 Gobeithio fod ti'n cymryd y pethau yma o ddifrif.
(Tom) Wrth gwrs.
 
(Tom) Wrth gwrs.
(1, 0) 781 Reit.
(1, 0) 782 Dafydd ─ Dewch chi fan hyn...
 
(1, 0) 784 A cherddwch chi ffordd yna o amgylch y gwely...
 
(1, 0) 787 Hym - hade - hade - fw!
 
(1, 0) 789 Wel, dewch 'mlaen Dafydd...
(1, 0) 790 A tithau Tomos!
(Pawb) Hym - hade- hade - fw!
 
(Ann) A beth yw hwn?
(1, 0) 798 Un o hen lyfrau Hanna Morris.
(Ann) A pham fod y gwely wedi'i symud?
 
(Ann) A pham fod y gwely wedi'i symud?
(1, 0) 800 Roedd y llyfr yn dweud...
(Ann) Does gen i ddim gwahaniaeth beth mae'r llyfr yn ddweud.
 
(Dafydd) Rwyt ti wedi gwerthu y tocyn...
(1, 0) 831 I Aled Morgan o bawb?
(Tom) Ddylet ti ddim...
 
(Ann) Neu wreslo...
(1, 0) 850 Pobol y Cwm...
(Ann) A'r gêm rygbi dydd Sadwrn.
 
(Dafydd) Mae'n dda gen i glywed hynny.
(1, 0) 922 Tomos?
(Tom) Ie Megan?
 
(Tom) Ie Megan?
(1, 0) 924 Rwyt ti wedi dechrau defnyddio botel Hanna Morris 'te?
(Tom) Do.
 
(Tom) Wedi yfed rhyw lwyaid neu ddwy... hen beth digon sur yw e' hefyd.
(1, 0) 927 Wedi yfed e'?
(Tom) Do.
 
(Tom) Pam?
(1, 0) 931 Ond stwff i rwbio ar dy frest oedd hwn!