Gwellhad Buan

Ciw-restr ar gyfer Tom

 
(1, 0) 7 Hen bethau di-ddim.
 
(1, 0) 9 Nawr, beth sy' nesaf?
(1, 0) 10 O ie.
 
(1, 0) 13 Hy!
 
(1, 0) 18 Be sy'n mater ar y diawl yma?
(1, 0) 19 Agora'r cythraul!
(Dafydd) A be' dech chi'n trio gwneud rŵan 'te?
 
(Dafydd) A be' dech chi'n trio gwneud rŵan 'te?
(1, 0) 23 Does dim posib agor y bocs pils yma.
(Dafydd) Dewch â fe yma.
 
(1, 0) 26 Mae'r hen gaead wedi sticio neu rywbeth.
(Dafydd) {Gan agor y caead yn hwylus.}
 
(Dafydd) Dyna chi.
(1, 0) 29 Sut yn y byd...
(Dafydd) Beth yw rhain 'te?
 
(1, 0) 32 Paid ti â phoeni beth ŷn nhw.
(Dafydd) {Darllen y botel.}
 
(Dafydd) Bob chwarter awr?
(1, 0) 37 Ie.
(Dafydd) Glywais i erioed sôn am rhain o'r blaen.
 
(Dafydd) Glywais i erioed sôn am rhain o'r blaen.
(1, 0) 39 Maen nhw'n rhai newydd.
(1, 0) 40 Gwella annwyd mewn chwinciad.
(Dafydd) Dech chi erioed yn credu hynny?
 
(Dafydd) Dech chi erioed yn credu hynny?
(1, 0) 42 Pwy a ŵyr ─ falle gwna nhw rhyw les.
(Dafydd) {Yn ddirmygus.}
 
(Dafydd) Efallai mai rhwng yr 'inhaler' a'r pils gwyrdd fyddai orau.
(1, 0) 48 Paid ti â gwawdio, fy machgen i.
(Dafydd) Wel...
 
(Dafydd) Does dim syndod eich bod chi'n sâl ─ stwffio'r holl gowdel yma i lawr eich stumog.
(1, 0) 51 Paid â barnu pethau nad wyt ti'n deall.
(Dafydd) O ie, dech chi'n honni eich bod chi'n deall y pethau yma 'te?
 
(Dafydd) O ie, dech chi'n honni eich bod chi'n deall y pethau yma 'te?
(1, 0) 53 Wrth gwrs.
(1, 0) 54 Rhain yw'r unig beth sy' rhwngdda i a'r fynwent.
(Dafydd) Peidiwch â gadael i Ann glywed chi'n siarad fel na, neu chewch chi byth fynd i'r gêm rygbi ddydd Sadwrn.
 
(Dafydd) Peidiwch â gadael i Ann glywed chi'n siarad fel na, neu chewch chi byth fynd i'r gêm rygbi ddydd Sadwrn.
(1, 0) 56 Rydw i'n mynd i'r gêm ─ a dyna ben ar y peth!
(Dafydd) {Gan osod y llwy yn ôl ar y cwpwrdd.}
 
(Dafydd) Dw i ddim yn credu fod Ann yn rhyw fodlon iawn.
(1, 0) 61 Does dim gwahaniaeth gen i os yw hi'n fodlon ai peidio!
(1, 0) 62 Mae Ieuan Lloyd yn ennill ei gap cyntaf ddydd Sadwrn, ac mae'n rhaid i mi fod yno.
(Dafydd) Gawn ni weld erbyn hynny.
 
(Dafydd) Gawn ni weld erbyn hynny.
(1, 0) 64 Hwn fydd yr achlysur pwysicaf yn hanes y clwb ─ yr aelod cyntaf i chwarae dros ei wlad.
(Dafydd) Dech chi wedi esbonio hynny wrth Ann?
 
(Dafydd) Dech chi wedi esbonio hynny wrth Ann?
(1, 0) 66 Wrth gwrs, ond dyw'r ferch yna sy' gen i yn deall dim.
(Dafydd) Mae'n deall chi'n go lew.
 
(Dafydd) Dech chi'n iawn?
(1, 0) 71 Ydw, a phaid ag edrych arna i fel 'na ─ dw i ddim mor sâl â hynny.
(Dafydd) Gawn i weld beth ddywed y doctor.
 
(Dafydd) {Dafydd yn dechrau mynd.}
(1, 0) 75 Dafydd?
(Dafydd) Ie?
 
(Dafydd) Ie?
(1, 0) 77 Fase'n bosib i mi gael cwpanaid o de?
(Dafydd) Siŵr o fod.
 
(Dafydd) Siŵr o fod.
(1, 0) 79 Mi faswn i'n ddiolchgar iawn.
(Dafydd) Reit.
 
(Dafydd) {Cloch y drws yn canu.}
(1, 0) 82 Mi fydde cael bisged siocled yn neis iawn hefyd.
(Dafydd) Beth?
 
(Dafydd) Beth?
(1, 0) 84 |Chocolate Biscuit|.
(1, 0) 85 Ma' nhw yn y cwpwrdd.
(Dafydd) Does dim yna.
 
(Dafydd) Does dim yna.
(1, 0) 87 O...
(1, 0) 88 Oes.
(1, 0) 89 Mae Ann wedi ei cuddio nhw yn y cefn, tu ôl i'r fflŵr.
(Dafydd) {Gan chwerthin.}
 
(Dafydd) Rhywbeth arall?
(1, 0) 93 Na.
(Dafydd) Iawn.
 
(Megan) Helo...
(1, 0) 98 Megan, ti sy' yna?
(Megan) Wedi dod i weld y claf.
 
(Megan) A shwd ma' pethau heddi' Tomos?
(1, 0) 108 Cystal â'r disgwyl am wn i.
(Megan) Dyw'r annwyd ddim gwell?
 
(Megan) Dyw'r annwyd ddim gwell?
(1, 0) 110 Na ─ dim rhyw lawer.
 
(Megan) Mae'n bryd gwneud rhywbeth ynglŷn â'r peswch yna.
(1, 0) 114 Fel be?
(Megan) Wel, gwell i ti ddefnyddio hwn i ddechrau.
 
(Megan) {Tynnu potel o'i phoced.}
(1, 0) 117 Beth yw e'?
(Megan) Rhywbeth i wella tipyn ar yr annwyd yna.
 
(Megan) Hanna Morris y Felin wedi ei gymysgu yn arbennig.
(1, 0) 120 Dw i ddim yn mynd i ddefnyddio rhyw bethau mae honno wedi'i gymysgu.
(1, 0) 121 Duw a ŵyr be' sy' ynddo fe.
(Megan) Paid â bod mor anniolchgar.
 
(Megan) Mi gymysgodd Hanna Morris y stwff yma yn arbennig i ti.
(1, 0) 124 Wel, dw i ddim eisiau fe.
(Megan) {Cyfeirio at y botel.}
 
(Megan) Dyma fyddai ei Mam yn ei ddefnyddio bob amser.
(1, 0) 127 Ie, ac mi fu honno farw yn o sydyn hefyd.
(Megan) Wel, mi faswn i'n dy gynghori di i ddefnyddio hwn ─ yn enwedig os wyt ti am fynd i'r gêm rygbi yna ddydd Sadwrn.
 
(1, 0) 130 Wyt ti'n meddwl y gwnaiff e' rhyw les?
(Megan) Mae Gwyneth Watkin yn credu'n gryf yn y stwff yma.
 
(Megan) Mae Gwyneth Watkin yn credu'n gryf yn y stwff yma.
(1, 0) 132 Mae honno'n ddigon dwl i gredu rhywbeth.
(Megan) Ac mae Jones y gweinidog yn defnyddio hwn hefyd.
 
(Megan) Ac mae Jones y gweinidog yn defnyddio hwn hefyd.
(1, 0) 134 Olreit... olreit... mi wna i.
(Megan) Ti'n addo?
 
(Megan) Ti'n addo?
(1, 0) 136 Er mwyn dy blesio di.
(Megan) Dyna welliant.
 
(Ann) A shwd dech chi erbyn hyn 'Nhad?
(1, 0) 140 Wel, rwy'n teimlo dipyn bach yn well...
(Ann) Oes rhaid i chi wneud y lle 'ma mor anniben?
 
(Ann) Oes rhaid i chi wneud y lle 'ma mor anniben?
(1, 0) 143 Ar yr hen bethau papur 'ma mae'r bai ─ maen nhw mor ysgafn.
(Ann) Gwell i mi symud y bin yn nes 'te.
 
(Ann) Gwell i mi symud y bin yn nes 'te.
(1, 0) 145 Paid ti â meiddio!
(Ann) Pam lai?
 
(Ann) Pam lai?
(1, 0) 147 Mae ei lond e' o...
(1, 0) 148 Be' ti'n galw'r pethau 'na?
(Ann) Macynon papur?
 
(Ann) Macynon papur?
(1, 0) 150 Nagie.
(1, 0) 151 Germs ─ dyna'r gair.
(1, 0) 152 Mae ei lond e' o germs, ac mae gen i hen ddigon o rheini yn barod.
(Ann) {Symud y bin at y gwely.}
 
(Megan) Wyt ti wedi darllen y papur?
(1, 0) 158 Naddo.
(1, 0) 159 Pam?
(Megan) Gweld fod Lisa Jane Brynrodyn wedi marw.
 
(Ann) Dim yn ei nabod hi.
(1, 0) 165 Fawr o golled i ti.
(Ann) Beth am ei gŵr?
 
(Ann) Beth am ei gŵr?
(1, 0) 167 Fawr o golled i hwnnw chwaith.
(1, 0) 168 Hen sguthan o ddynes oedd hi, a'i thrwyn ym musnes pawb.
(Ann) Ddylech chi ddim dweud y fath beth, 'Nhad!
 
(Ann) Ddylech chi ddim dweud y fath beth, 'Nhad!
(1, 0) 170 Mae'n ddigon gwir i ti.
(1, 0) 171 Er hynny, chwith meddwl fod hi wedi mynd.
(Megan) Fel 'na mae hi yn yr hen fyd yma.
 
(Megan) Fel 'na mae hi yn yr hen fyd yma.
(1, 0) 173 Ie, debyg.
(1, 0) 174 Y cyfan yn nwylo y Brenin Mawr.
(Megan) Cofia, mae'n drueni mawr nad yw Lisa Jane yma heddiw i ddarllen y |notice|.
 
(Megan) Roedd hi bob amser yn licio gweld ei henw yn y papur.
(1, 0) 177 Rwyt ti'n ofnadwy Megan, wyt wir.
(Dafydd) Reit.
 
(1, 0) 184 Oes 'na brinder cwpanau?
(Dafydd) Yfwch eich te a pheidiwch â chwyno.
 
(Dafydd) Yfwch eich te a pheidiwch â chwyno.
(1, 0) 186 Mi fydda i bob amser yn licio yfed te mewn cwpan.
(Dafydd) Mae'r myg yna'n ddigon da i chi.
 
(Ann) Lle gawsoch chi rheina?
(1, 0) 190 Rhain...
(1, 0) 191 Y...
(1, 0) 192 Dim syniad.
(1, 0) 193 Lle ges ti rhain Dafydd?
(Dafydd) Beth...
 
(Dafydd) Wel...
(1, 0) 197 Digwydd gweld nhw yn y cwpwrdd, ynte Dafydd?
(Dafydd) Y...
 
(Dafydd) O ie, dyna chi ─ digwydd gweld nhw yn y cwpwrdd.
(1, 0) 200 Meddwl y byddai dy hen Dad yn hoffi un.
(Dafydd) Ie, yn hollol.
 
(Ann) {Cydio yn y paced.}
(1, 0) 204 Beth...
(1, 0) 205 Ond dw i heb gael un eto!
 
(1, 0) 207 Dim ond un?
(Ann) {Yn rhoi un arall iddo.}
 
(1, 0) 212 Rwyt ti'n union fel dy fam...
 
(1, 0) 214 Beth am ddangos ychydig o gydymdeimlad â'r rhai sy'n dioddef?
(Ann) Pan dech chi'n sâl, 'Nhad, mae pawb yn dioddef!
 
(Dafydd) Beth yw hon 'te?
(1, 0) 219 Megan ddaeth â hi.
(Megan) {Wrth Dafydd.}
 
(Dafydd) Be sydd ynddo fe?
(1, 0) 224 Duw a ŵyr!
(Megan) Ond mae pawb yn dweud ei fod e'n stwff da.
 
(Dafydd) Dech chi'n mynd i ddefnyddio fe 'te?
(1, 0) 228 Wel...
(Megan) Ydi, wrth gwrs!
 
(1, 0) 232 Gobeithio bod ti'n iawn...
(Megan) Wrth gwrs 'mod i'n iawn.
 
(Megan) Cofia ddefnyddio stwff Hanna Morris...
(1, 0) 247 Reit.
(Megan) Mi fydda' i nôl cyn hir.
 
(Megan) Mi fydda' i nôl cyn hir.
(1, 0) 249 Lle ti'n mynd 'te?
(Megan) Dim ond taro adref.
 
(Megan) Dim ond taro adref.
(1, 0) 251 I beth?
(Ann) {Oddi allan.}
 
(Doctor) {Dechrau ei archwilio.}
(1, 0) 271 Rwy'n sâl.
(Doctor) Ie, rwy'n deall hynny ond allwch chi fod ychydig bach mwy manwl?
 
(Doctor) Ie, rwy'n deall hynny ond allwch chi fod ychydig bach mwy manwl?
(1, 0) 273 Wel, ma'n nhrwyn i yn rhedeg fel tap ac ma' mhen i bron â hollti'n ddau.
(1, 0) 274 Hefyd, ma' ngwddwg i'n crafu...
(Doctor) Dywedwch 'A'.
 
(Doctor) Dywedwch 'A'.
(1, 0) 276 Aaaaa!
(Doctor) Rhywbeth arall?
 
(Doctor) Rhywbeth arall?
(1, 0) 278 Mae gen i boen fan hyn...
 
(1, 0) 280 Fan hyn...
 
(1, 0) 282 A fan hyn...
 
(1, 0) 284 A weithiau fan hyn...
 
(1, 0) 286 Doctor:
 
(1, 0) 288 Beth am fan hyn?
(1, 0) 289 Fyddai byth yn cael poen mor bell lawr â hynna.
(Doctor) Rhywbeth arall?
 
(Doctor) Rhywbeth arall?
(1, 0) 291 Dech chi ddim yn meddwl fod hynna'n ddigon?
(Doctor) Wel, Mr Edwards, dw i ddim yn credu fod eisiau i chi boeni'n ormodol.
 
(Doctor) O'r hyn dech chi'n ei ddweud, mae'n edrych yn o debyg eich bod chi wedi cael dôs go iawn o annwyd ─ dyna'r cyfan.
(1, 0) 294 Rwy'n gwybod mai annwyd yw e' ─ does dim angen bod yn ddoctor i wybod hynny.
(1, 0) 295 Y cwestiwn yw, beth dech chi'n mynd i wneud ynglŷn â'r peth?
(Doctor) Wel, mi faswn i yn eich cynghori i aros yn y gwely...
 
(Doctor) Wel, mi faswn i yn eich cynghori i aros yn y gwely...
(1, 0) 297 Aros yn fy ngwely!
(1, 0) 298 Ond mae'n rhaid i mi fynd i Gaerdydd ddydd Sadwrn.
(Doctor) Dydd Sadwrn?
 
(Doctor) Dydd Sadwrn?
(1, 0) 300 I weld y gêm rygbi ryngwladol.
(Doctor) O!
 
(Doctor) Wel, fydden i ddim yn eich cynghori...
(1, 0) 303 Mae mab Gerallt Lloyd, Pencwm, yn chwarae.
(1, 0) 304 Ei gap cyntaf dros ei wlad.
(Doctor) Neis iawn rwy'n siŵr, ond...
 
(Doctor) Neis iawn rwy'n siŵr, ond...
(1, 0) 306 Ac mae Gerallt wedi mynd i drafferth mawr er mwyn sicrhau fy mod i yn cael tocyn.
(Doctor) Do, rwy'n siŵr, ond...
 
(Doctor) Do, rwy'n siŵr, ond...
(1, 0) 308 Un o'r seddi gorau ar y maes.
(1, 0) 309 Dim byd ond y gorau i'w ffrind Tom.
(Doctor) Wel Mr Edwards, os ydych chi'n dewis anwybyddu fy nghyngor...
 
(Doctor) Wel Mr Edwards, os ydych chi'n dewis anwybyddu fy nghyngor...
(1, 0) 311 Ond mae'n rhaid i mi fynd yno.
(Doctor) Eich penderfyniad chi yw e' wrth gwrs.
 
(Doctor) Fedra i byth eich rhwystro chi rhag mynd.
(1, 0) 314 Fyddech chi'n fodlon cael gair ag Ann 'te?
(Doctor) I pa bwrpas?
 
(Doctor) I pa bwrpas?
(1, 0) 316 Dyw hi ddim yn fodlon i mi fynd chwaith.
(1, 0) 317 Ieuan Pencwm yn ennill ei gap cyntaf ─ ac mae pawb eisiau i mi aros yn y gwely drwy'r dydd!
(Doctor) Dyna fyddai orau.
 
(Doctor) Dyna fyddai orau.
(1, 0) 319 Ond tasech chi'n dweud wrthi fod e'n olreit i mi daro draw, ac yna'n syth yn ôl i'r gwely...
(Doctor) Fel y dywedais i eisoes Mr Edwards, dim fy lle i yw eich rhywstro rhag mynd...
 
(Doctor) Fel y dywedais i eisoes Mr Edwards, dim fy lle i yw eich rhywstro rhag mynd...
(1, 0) 321 Diolch yn fawr, Doctor.
(Doctor) Ond ar y llaw arall, rhaid i mi gynghori eich merch fod e'n beth peryglus iawn i'w wneud o ystyried eich cyflwr a'ch oedran.
 
(Doctor) Ond ar y llaw arall, rhaid i mi gynghori eich merch fod e'n beth peryglus iawn i'w wneud o ystyried eich cyflwr a'ch oedran.
(1, 0) 323 Beth?
(1, 0) 324 Ond Doctor...?
(Doctor) Rhaid i chi aros yn eich gwely yn amyneddgar a rhoi'r cyfle i natur wneud ei waith.
 
(Doctor) Rhaid i chi aros yn eich gwely yn amyneddgar a rhoi'r cyfle i natur wneud ei waith.
(1, 0) 326 Ai dyna'r gorau y gallwch chi ei gynnig?
(Doctor) Does dim byd y galla i ei wneud.
 
(Doctor) Does dim byd y galla i ei wneud.
(1, 0) 328 Dyw hyn ddim digon da.
(1, 0) 329 Rwy wedi talu fy National Insurance ar hyd y blynyddoedd.
(Doctor) Ond does...
 
(Doctor) Ond does...
(1, 0) 331 Rwy' wedi darllen hanes chi a'ch siort yn y papurau dydd Sul ─ cadw'r stwff gorau i'r cleifion preifat a gwrthod rhoi dim i'r dyn bach cyffredin.
(Doctor) Dim o gwbwl.
 
(Doctor) Y gwir amdani yw nad oes yna ddim byd ar gael i wella annwyd ar hyn o bryd.
(1, 0) 334 Mae rhaid fod yna rhywbeth?
 
(Doctor) {Cynnig tabledi iddo.}
(1, 0) 339 Ydyn nhw'n gwella annwyd?
(Doctor) Na, ond mi fyddan nhw'n help i wella'r peswch 'na.
 
(1, 0) 343 Hm!
(1, 0) 344 Ma' nhw yn rhai da.
(1, 0) 345 Tipyn gwell na'r hen rhai yma beth bynnag.
 
(Doctor) Dech chi erioed yn defnyddio rhain?
(1, 0) 348 Wel...
(1, 0) 349 Ydw.
(Doctor) Wyddwn i ddim eu bod nhw'n dal i wneud nhw.
 
(Doctor) Wyddwn i ddim eu bod nhw'n dal i wneud nhw.
(1, 0) 351 Maen nhw wedi bod yn y tŷ yma ers tipyn.
(Doctor) Hen bethau sur sy'n gwneud mwy o ddrwg nag o les.
 
(Doctor) Hen bethau sur sy'n gwneud mwy o ddrwg nag o les.
(1, 0) 353 Dech chi'n meddwl?
(Doctor) Yn bendant i chi.
 
(Doctor) {Taflu y tin i'r bin.}
(1, 0) 357 Beth?
(1, 0) 358 Ond...
(Doctor) Nawr, gadewch i ni weld beth arall sydd yma.
 
(Doctor) {Potel Hanna Morris.}
(1, 0) 369 Peidiwch â thaflu honna!
 
(Doctor) Dyna gael gwared â'r rheina.
(1, 0) 373 Ond Doctor...
(Doctor) Gormod o ddim nid yw'n dda, yntê?
 
(Doctor) Hefyd, mae'n bwysig iawn cadw'n gynnes.
(1, 0) 379 Dim ond cadw'n gynnes?
(Doctor) Cadw'n gynnes yn y gwely, Mr Edwards.
 
(Doctor) Rwy'n siŵr y byddwch yn well erbyn hynny.
(1, 0) 383 Ond beth am Ann?
(Doctor) Rydech chi'n ffodus iawn fod eich merch yma i ofalu ar eich hôl.
 
(Doctor) Os bydd unrhyw newid, dim ond galwad ffôn sydd angen.
(1, 0) 387 Ond Doctor, wyddoch chi faint yw gwerth tocyn i gêm rygbi rhyngwladol?
(1, 0) 388 Byddai rhai bobol yn fodlon rhoi ffortiwn fach am gael un.
(Doctor) Efallai wir, ond mae iechyd yn beth amhrisiadwy.
 
(Doctor) Dydd da.
(1, 0) 396 Hanna Morris, beth wyt ti wedi rhoi yn y botel yma, ysgwn i?
(1, 0) 397 Does dim cyfarwyddiadau arni o gwbwl.
(1, 0) 398 O, wel...
(1, 0) 399 Er mwyn plesio Megan...
 
(1, 0) 402 Pam fod rhaid i'r pethau llesol 'ma fod mor chwerw?
 
(1, 0) 404 Un arall am lwc!
 
(1, 0) 409 O damio, lle mae honna wedi mynd eto?
(Ann) Be' dech chi'n wneud?
 
(Ann) Be' dech chi'n wneud?
(1, 0) 413 Rwy' wedi colli un o'r pils melyn.
(Ann) O!
 
(Ann) Be' sy'?
(1, 0) 420 Mae dy ddwylo di'n oer.
(Ann) Be sy eto?
 
(Ann) Be sy eto?
(1, 0) 424 Bydd ychydig bach yn fwy gofalus, wnei di.
(Ann) Cwyno o hyd...
 
(1, 0) 429 Beth?
(Ann) Wel, y bilsen wrth gwrs.
 
(1, 0) 432 Diolch byth.
(Ann) Dyma chi.
 
(1, 0) 437 Do fe?
(Ann) Do, ac mae'n cytuno mai'r gwely yw'r lle gorau i chi.
 
(Ann) Do, ac mae'n cytuno mai'r gwely yw'r lle gorau i chi.
(1, 0) 439 Ond Ann...
(Ann) A dech chi ddim i godi o'r gwely na nes bod y Doctor yn dweud hynny.
 
(Ann) A dech chi ddim i godi o'r gwely na nes bod y Doctor yn dweud hynny.
(1, 0) 441 Ond dyw'r Doctoriaid yma'n deall dim...
(Ann) Dyna ddigon.
 
(Ann) Dydw i ddim eisiau clywed yr un gair arall ─ dech chi'n deall?
(1, 0) 444 Ond Ann...
(Ann) Dim un gair!
 
(Ann) Mae gyda chi fisitor.
(1, 0) 448 Pwy?
(Ann) Aled Morgan.
 
(Ann) Aled Morgan.
(1, 0) 450 Morgans y siop!
(1, 0) 451 Be ma' hwnnw eisiau?
(Ann) Wedi dod i'ch gweld chi.
 
(Ann) Wedi dod i'ch gweld chi.
(1, 0) 453 Wel, dydw i ddim eisiau ei weld e.
(Ann) Pam?
 
(Ann) Be ma' fe wedi gwneud eto?
(1, 0) 456 Ti'n gwybod yn iawn.
(Ann) Dech chi ddim yn dal i rwgnach am fusnes y Cyngor Plwyf?
 
(Ann) Dech chi ddim yn dal i rwgnach am fusnes y Cyngor Plwyf?
(1, 0) 458 Fi fydde wedi ennill tase fe heb ganfasio hanner y pentre ─ a hynny ar ôl i ni gytuno fod neb yn mynd i wneud.
(1, 0) 459 Yr hen greadur bach dauwynebog.
(Ann) {Mynd at y drws.}
 
(Ann) Mae hynna i gyd yn hen beth rŵan.
(1, 0) 462 Ond dydw i heb anghofio a wna i ddim chwaith.
(Ann) {Gan agor y drws.}
 
(Aled) Diolch yn fawr, Mrs James.
(1, 0) 466 Beth wyt ti eisiau?
(Ann) 'Nhad!
 
(1, 0) 480 Be' sy' gen ti?
 
(1, 0) 482 Grêps!
(1, 0) 483 Grêps!
(1, 0) 484 Gas gen i grêps!
 
(1, 0) 495 Diolch.
 
(Aled) Wel, sut wyt ti'r hen gyfaill?
(1, 0) 501 Dydw i ddim yn hen gyfaill i ti.
(1, 0) 502 Beth wyt ti eisiau?
(Aled) Wedi clywed yn y pentref nad wyt ti ddim yn dda.
 
(Aled) Wel, wyt ti yn sâl?
(1, 0) 506 Na, rwy i bob amser yn fy ngwely am ddeg o'r gloch yn y bore.
 
(1, 0) 508 Wrth gwrs 'mod i'n sâl.
(Aled) Be' sy'n bod 'te?
 
(Aled) Be' sy'n bod 'te?
(1, 0) 510 Rwy' wedi cael annwyd.
(Aled) Ai dyna'r cyfan?
 
(Aled) Ai dyna'r cyfan?
(1, 0) 512 Mae hynny'n hen ddigon.
(Aled) Dim byd mwy... wel... mwy difrifol?
 
(Aled) Dim byd mwy... wel... mwy difrifol?
(1, 0) 514 Be' ti'n feddwl?
(Aled) Wel, mae dôs o annwyd yn beth mor gyffredin.
 
(Aled) Wel, mae dôs o annwyd yn beth mor gyffredin.
(1, 0) 516 Does dim byd yn gyffredin am yr hyn sy' gen i.
(Aled) Ac mae pawb yn cael annwyd weithiau.
 
(Aled) Ac mae pawb yn cael annwyd weithiau.
(1, 0) 518 Dim mor ddrwg ag yr ydw i'n ei gael e.
(Aled) Os wyt ti'n dweud.
 
(Aled) Mae'n rhaid fy mod i wedi eu camddeall.
(1, 0) 521 Camddeall pwy?
(Aled) Wel, roedd pawb yn dweud...
 
(Aled) Wel, roedd pawb yn dweud...
(1, 0) 523 Beth roedd pawb yn ddweud?
(Aled) {Gan edrych yn siomedig.}
 
(Aled) Roeddwn i'n clywed fod Gerallt wedi ffeindio sêt yn arbennig i ti.
(1, 0) 530 Do, chwarae teg iddo.
(Aled) Mi gei weld y cyfan yn glir.
 
(Aled) Mi gei weld y cyfan yn glir.
(1, 0) 532 Mae hynny'n dibynnu os ca' i fynd, yn dyw e?
(Aled) Be ti'n feddwl?
 
(Aled) Be ti'n feddwl?
(1, 0) 534 Fe ddywedodd y Doctor y dyliwn i aros yn y gwely.
(Aled) Am faint?
 
(Aled) Am faint?
(1, 0) 536 Am rhyw ddiwrnod neu ddau o leiaf.
(Aled) {Yn hapus.}
 
(Aled) O leiaf?
(1, 0) 540 Ie, dyna ddywedodd y Doctor.
(Aled) {Wrth ei fodd.}
 
(Aled) Mi fyddi yn dy wely dros y penwythnos 'te?
(1, 0) 543 Fel hynny mae'n edrych rŵan.
 
(1, 0) 545 Pam wyt ti'n holi?
(Aled) {Yn euog.}
 
(Aled) Dim ond poeni am iechyd hen gyfaill.
(1, 0) 548 Boenaist ti erioed am hynny cyn hyn.
 
(1, 0) 550 A!
(1, 0) 551 Rwy'n dechrau deall rŵan!
(Aled) Deall beth?
 
(Aled) Does yna ddim i'w ddeall.
(1, 0) 554 Roeddwn i'n amau dy fod ti eisiau rhywbeth.
(Aled) Dw i ddim eisiau dim.
 
(1, 0) 557 Wel, yr ateb yw 'na'.
(1, 0) 558 Taset ti'n mynd ar dy liniau i ofyn, 'na' fyddai'r ateb bob tro.
(Aled) Beth?
 
(Aled) Ond dwi ddim yn....
(1, 0) 561 Waeth i ti heb, rwy'n dy nabod di'n rhy dda.
(1, 0) 562 Bob amser eisiau rhywbeth!
(Aled) Ond Tomos!
 
(Aled) Ond Tomos!
(1, 0) 564 Paid ti â rhoi "Ond Tomos!" i mi.
(1, 0) 565 'Na' yw yr ateb.
(1, 0) 566 Wyt ti'n deall!
(1, 0) 567 Na, na, na!
(Aled) Ond Tomos...
 
(Aled) Ond Tomos...
(1, 0) 569 Chei di mo'r tocyn.
(Aled) Ond mae'n drueni ei wastraffu...
 
(Aled) Ond mae'n drueni ei wastraffu...
(1, 0) 571 Byddai'n well gen i losgi'r diawl cyn ei roi i ti o bawb.
(Aled) Ond Tomos bach...
 
(Aled) Ond Tomos bach...
(1, 0) 573 Chei di mo'r tocyn i'r gêm ddydd Sadwrn, waeth i ti heb na holi.
(1, 0) 574 Nawr, cer o 'ma.
(1, 0) 575 A cer â dy grêps gen ti.
(Aled) Ond Tomos...
 
(Aled) Ond Tomos...
(1, 0) 577 Byth!
(1, 0) 578 Wyt ti'n clywed!
(1, 0) 579 Byddai'n well gen i...
 
(Aled) Be' sy' bod?
(1, 0) 586 Hanna Morris.
(Aled) Beth?
 
(Aled) Beth?
(1, 0) 588 Hen stwff Hanna Morris.
 
(1, 0) 590 Cwic!
(1, 0) 591 Cer o'r ffordd!
(Aled) Beth?
 
(Megan) Ddeellais i yr un gair...!
(1, 0) 637 Mae'n dda cael gwared o hwnna!
(Megan) Beth?
 
(Megan) Beth?
(1, 0) 639 Chwarae teg i ti Megan.
(1, 0) 640 Roedd e'n carlamu lawr y staer yna, tri step ar y tro.
(Megan) Pwy?
 
(Megan) Pwy?
(1, 0) 642 Mistar Aled Morgan wrth gwrs!
(1, 0) 643 Be ddywedaist ti wrtho fe?
(Megan) Ges i ddim cyfle i ddweud dim byd.
 
(Megan) Ges i ddim cyfle i ddweud dim byd.
(1, 0) 645 Ma' fe'n hen greadur bach slei, ond roeddwn i'n amau o'r dechrau, fod e eisiau rhywbeth.
(Megan) Beth oedd e' eisiau 'te?
 
(Megan) Beth oedd e' eisiau 'te?
(1, 0) 647 Wel, y tocyn wrth gwrs.
(Megan) Pa docyn?
 
(Megan) Pa docyn?
(1, 0) 649 Tocyn gêm dydd Sadwrn.
(Megan) Na...
 
(Megan) Na...
(1, 0) 651 Cyn gynted ag y clywodd e 'mod i'n sâl, dyma fe'n dod heibio...
(1, 0) 652 Fe a'i baced grêps.
(Megan) Wel, y creadur digywilydd...!
 
(Megan) Wel, y creadur digywilydd...!
(1, 0) 654 Meddwl y byddwn i'n ddigon dwl i'w rhoi iddo fe o bawb...!
(Megan) Wnest ti ddim...?
 
(Megan) Wnest ti ddim...?
(1, 0) 656 Dim peryg!
(Megan) {Yn sylweddoli.}
 
(Megan) Dyna beth oedd e'n chwilio amdano!
(1, 0) 659 Pryd?
(Megan) Pan ddes i mewn roedd e'n chwilio am rhywbeth dan fatres y gwely.
 
(1, 0) 662 Wel, ffindieth e 'run tocyn lawr fan 'na.
(Megan) Lle ma' fe 'te?
 
(Megan) Lle ma' fe 'te?
(1, 0) 664 Ma' fe'n ddigon saff i ti.
(Megan) Yn lle?
 
(Megan) Yn lle?
(1, 0) 666 Rhaid i ti ofyn i Ann.
(1, 0) 667 Hi sy'n gwybod lle ma' popeth yn y tŷ yma.
(Megan) Wyt ti ddim yn gwybod lle ma' fe 'te?
 
(Megan) Wyt ti ddim yn gwybod lle ma' fe 'te?
(1, 0) 669 Na, Ann sy'n gofalu am y cyfan.
(Megan) Wyddost ti, Tomos, rwyt ti'n ffodus iawn fod Ann yma i ofalu amdanat ti.
 
(Megan) Wyddost ti, Tomos, rwyt ti'n ffodus iawn fod Ann yma i ofalu amdanat ti.
(1, 0) 671 Felly mae pawb yn dweud.
 
(Megan) Paid â mynd i'r gwely eto.
(1, 0) 674 Beth?
(Megan) Paid â mynd 'nôl mewn i'r gwely 'na.
 
(Megan) Paid â mynd 'nôl mewn i'r gwely 'na.
(1, 0) 676 Pam?
(Megan) Rydw i eisiau ti gyntaf.
 
(1, 0) 679 Beth?
(Megan) Rwy' am i ti orwedd ar y gwely.
 
(Megan) Rwy' am i ti orwedd ar y gwely.
(1, 0) 681 Pam?
(Megan) Os wyt ti eisiau mynd i'r gêm ddydd Sadwrn, gorwedd ar y gwely 'na.
 
(Megan) Os wyt ti eisiau mynd i'r gêm ddydd Sadwrn, gorwedd ar y gwely 'na.
(1, 0) 683 Ond pam?
(Megan) {Fel pe'n gorchymyn ci.}
 
(Megan) Gorwedd!
(1, 0) 686 Ond Megan...
 
(Megan) Tynna gôt dy bajamas i ffwrdd.
(1, 0) 690 Beth?
(1, 0) 691 Ond Megan...
(1, 0) 692 Dim dyma'r amser...
(Megan) Tynna hi i ffwrdd.
 
(1, 0) 695 Ond Megan, beth pe tase...
(Megan) {Mynd drwy'r tudalennau.}
 
(Megan) Mae hwn yn lyfr da.
(1, 0) 698 Rwy'n siŵr ei fod e', ond 'wyt ti ddim yn meddwl...
(Megan) Digon o luniau... i esbonio'r cyfan.
 
(Megan) Digon o luniau... i esbonio'r cyfan.
(1, 0) 700 Rwy wedi clywed sôn am lyfrau fel 'na!
(Megan) Paid â phoeni.
 
(Megan) Rwy'n siŵr y byddi di'n teimlo'n well wedyn.
(1, 0) 703 Wn i ddim wir.
(1, 0) 704 Rwy' wedi mynd braidd yn rhy hen i rhyw bethau fel hyn.
(Megan) Y cyfan sy' angen yw gosod ambell i nodwydd yn y cnawd yma ac acw.
 
(Megan) Y cyfan sy' angen yw gosod ambell i nodwydd yn y cnawd yma ac acw.
(1, 0) 706 Be' ddywedaist ti?
(Megan) Ar gyfer annwyd mae angen gosod un nodwydd yn dy fraich ac yna un arall yn dy...
 
(1, 0) 709 Beth yw'r llyfr 'na?
(Megan) |Acupuncture for Beginners|.
 
(Megan) |Acupuncture for Beginners|.
(1, 0) 711 Dim peryg!
(Megan) Ond Tomos...
 
(Megan) Ond Tomos...
(1, 0) 713 Na.
(1, 0) 714 Wyt ti'n deall?
(1, 0) 715 Dwyt ti ddim yn mynd i ddechrau sticio nodwyddau ynddo' i.
(Megan) Ond mae e'n ffordd dda i leddfu poen.
 
(Megan) Ond mae e'n ffordd dda i leddfu poen.
(1, 0) 717 Does gen i ddim gwahaniaeth beth yw e.
(1, 0) 718 Cer i sticio dy nodwyddau yn rhywun arall.
(Megan) Ond Tomos...
 
(Megan) Ond Tomos...
(1, 0) 720 Na ─ a dyna ben ar y peth.
(Megan) O wel, beth am y llyfr hwn 'te?
 
(Megan) {Agor y llyfr arall.}
(1, 0) 723 Beth yw e'?
(Megan) Mae nhw'n dweud fod hwn yn gallu bod yn effeithiol iawn hefyd.
 
(Megan) Mae nhw'n dweud fod hwn yn gallu bod yn effeithiol iawn hefyd.
(1, 0) 725 Gad i mi weld.
 
(Megan) Wrth gwrs, i hyn weithio'n iawn, bydd rhaid i ni droi'r gwely rownd gyntaf.
(1, 0) 728 Troi'r gwely rownd?
(Megan) Ie, mae'n rhaid i'r gwely wynebu'r gogledd.
 
(Megan) Ie, mae'n rhaid i'r gwely wynebu'r gogledd.
(1, 0) 730 Wel, paid ag edrych arna i, mae'n nghefn i'n rhy wael i symud yr un gwely.
(Megan) Ond mae'n rhaid iddo gyd-redeg â llinellau magnetic y ddaear.
 
(Megan) Ond mae'n rhaid iddo gyd-redeg â llinellau magnetic y ddaear.
(1, 0) 732 Os wyt ti'n dweud.
(Megan) Dim fi sy'n dweud ─ ond y llyfr.
 
(Megan) Dim fi sy'n dweud ─ ond y llyfr.
(1, 0) 734 Os oes rhaid troi'r gwely, gwell i ti basio'r ffon i mi.
(Megan) Wyddwn i ddim fod ti'n iwsio ffon?
 
(Megan) Wyddwn i ddim fod ti'n iwsio ffon?
(1, 0) 736 Mae 'na fwy na un defnydd i ffon.
 
(1, 0) 738 Un... dau... tri... pedwar... pump... chwech... saith... wyth... naw...
(Dafydd) Ie, be' dech chi eisiau?
 
(Dafydd) Ie, be' dech chi eisiau?
(1, 0) 741 Mae angen troi'r gwely.
(Dafydd) Beth?
 
(1, 0) 746 Paid â holi, Dafydd bach ─ jyst troia'r gwely.
(Dafydd) Reit-i-o.
 
(Megan) {Rhoi'r 'tea bag' ar dalcen Tom.}
(1, 0) 761 Mae hwnna'n wlyb.
(Megan) Cwyno o hyd.
 
(Megan) Wyt ti eisiau mynd i'r gêm ddydd Sadwrn?
(1, 0) 764 Wel ydw, wrth gwrs ond...
(Megan) Bydd dawel 'te.
 
(Megan) Wel?
(1, 0) 775 Wel be?
(Megan) Wyt ti'n teimlo'n well?
 
(1, 0) 778 Dw i ddim yn credu...
(Megan) Gobeithio fod ti'n cymryd y pethau yma o ddifrif.
 
(Megan) Gobeithio fod ti'n cymryd y pethau yma o ddifrif.
(1, 0) 780 Wrth gwrs.
(Megan) Reit.
 
(Ann) Rwyt ti'n mynd yn ddylach bob dydd hefyd.
(1, 0) 808 Rwy'n credu mod i'n teimlo'n well yn barod.
 
(Ann) Peidiwch chi â meiddio symud un cam allan o'r gwely 'na.
(1, 0) 811 Ond Ann...
(Ann) Rwy wedi dweud wrthoch chi'n barod, 'dech chi ddim yn dod o'r gwely 'na.
 
(Ann) Rwy wedi dweud wrthoch chi'n barod, 'dech chi ddim yn dod o'r gwely 'na.
(1, 0) 813 Ond mae'n drueni gwastraffu'r tocyn.
(Ann) Fydd y tocyn ddim yn cael ei wastraffu!
 
(Ann) Rydw i wedi werthu e.
(1, 0) 817 Ti wedi gwneud beth?
(Dafydd) Wedi'i werthu e'?
 
(Dafydd) Ann!
(1, 0) 821 I pwy?
(Ann) Beth?
 
(Ann) Beth?
(1, 0) 823 Na, i pwy?
(Ann) I pwy beth?
 
(Ann) Wel, i Aled Morgan wrth gwrs!
(1, 0) 827 B... B... Beth?
(Ann) Mi ddywedodd eich bod chi wedi trafod y peth ac wedi cytuno mai'r peth gorau o dan yr amgylchiadau fyddai ei werthu iddo fe.
 
(Ann) Mi ddywedodd eich bod chi wedi trafod y peth ac wedi cytuno mai'r peth gorau o dan yr amgylchiadau fyddai ei werthu iddo fe.
(1, 0) 829 Wnes i ddim cytuno i'r fath beth.
(Dafydd) Rwyt ti wedi gwerthu y tocyn...
 
(Megan) I Aled Morgan o bawb?
(1, 0) 832 Ddylet ti ddim...
(1, 0) 833 Fy nhocyn i oedd e'...
(Ann) Am hanner canpunt.
 
(Ann) Am hanner canpunt.
(1, 0) 835 Doedd gen ti ddim hawl...
(1, 0) 836 Wyt ti'n clywed, doedd gen ti...
(1, 0) 837 Am faint?
(Ann) Hanner canpunt.
 
(Ann) Hanner canpunt.
(1, 0) 840 Ar y llaw arall...
(1, 0) 841 Roedd hi'n drueni ei wastraffu.
(Ann) Meddwl y byddai'n syniad reit dda i roi'r arian tuag at brynu teledu ar gyfer yr ystafell yma.
 
(Dafydd) Mae hynny'n syniad da.
(1, 0) 844 Ie, wel...
(Dafydd) Meddyliwch 'Nhad, cael teledu i chi eich hun yma yn eich ystafell.
 
(Dafydd) Meddyliwch 'Nhad, cael teledu i chi eich hun yma yn eich ystafell.
(1, 0) 846 Mae'n rhaid cyfaddef, mae e'n syniad neis iawn.
(Ann) Cael gorwedd yn esmwyth yn eich gwely...
 
(Dafydd) Wel ie, ac mae pawb yn dweud bod chi'n gweld pethau'n well ar y teledu na tasech chi yno!
(1, 0) 853 Mae hynny'n ddigon gwir...
 
(1, 0) 855 Ac mewn gwirionedd, doedd hi ddim yn sedd mor dda â hynny.
(Dafydd) Dyna hynna wedi setlo 'te.
 
(Ann) Mi gaiff Dafydd fynd lawr i'r dre y prynhawn yma i brynu set.
(1, 0) 858 Wel, diolch yn fawr i ti, 'ngeneth i.
 
(Dafydd) {Mynd i ateb y drws.}
(1, 0) 862 Wyddost ti beth Ann, roeddwn i'n dweud wrth y Doctor gynne fach 'mod i'n ddyn ffodus iawn.
(Ann) O ie?
 
(Ann) O ie?
(1, 0) 864 Dy gael di yma i ofalu ar fy ôl.
(1, 0) 865 Mae hynny'n mynd yn beth anghyffredin iawn y dyddiau yma wyddost ti.
(Ann) Ie, wel...
 
(Ann) Ie, wel...
(1, 0) 867 Nid pawb fyddai'n fodlon aros gartre er mwyn gofalu ar ôl ei hen Dad.
(1, 0) 868 Rwy'n gwybod bod ni'n cael ambell i air croes weithiau ond paid ti â meddwl 'nad ydw i yn gwerthfawrogi yr hyn wyt ti'n wneud i mi.
(1, 0) 869 Pan ddei di i fy oedran i, rwyt ti'n dod i sylweddoli pa mor bwysig yw y pethau yma.
(1, 0) 870 Y pethau bach, rheini sy'n bwysig.
(Ann) Popeth yn iawn 'Nhad.
 
(Gerallt) Tomos!
(1, 0) 874 Gerallt!
(1, 0) 875 Be' sy'?
(Gerallt) Mae gen i newyddion drwg.
 
(Gerallt) Mae gen i newyddion drwg.
(1, 0) 877 Dyw Ieuan ddim yn sâl?
(Gerallt) Na' di.
 
(Gerallt) Na' di.
(1, 0) 879 Dyw e' ddim wedi torri ei goes neu rhywbeth?
(Gerallt) Na, dim byd felly.
 
(Gerallt) Na, dim byd felly.
(1, 0) 881 A ma' fe yn chwarae dydd Sadwrn?
(Gerallt) Ydy, ydy.
 
(Gerallt) Mae Ieuan yn iawn.
(1, 0) 884 Wel, dweda be' sy'n bod 'te.
(Gerallt) Wel... wel...
 
(Gerallt) Na... na...
(1, 0) 889 Wel be' sy' 'te?
(Gerallt) Dyw e' ddim yn un iawn.
 
(Gerallt) Dyw e' ddim yn un iawn.
(1, 0) 891 Be' ti'n feddwl?
(Gerallt) Tocyn ffug yw e'.
 
(Gerallt) Tocyn ffug yw e'.
(1, 0) 893 Tocyn ffug?
(Gerallt) Ie.
 
(Gerallt) Mae'n ddrwg iawn gen i.
(1, 0) 896 Tocyn ffug!
 
(Gerallt) Wela i ddim byd yn ddigri yn y peth.
(1, 0) 899 Ond mae hyn yn fendigedig...
(Gerallt) Ond Tomos, dwyt ti ddim yn sylweddoli ─ chei di ddim mynd mewn i'r maes dydd Sadwrn.
 
(Gerallt) Byddan nhw'n gwrthod derbyn y tocyn wrth y gât.
(1, 0) 902 Gwrthod derbyn y tocyn wrth y gât.
(1, 0) 903 Glywaist ti hynna Dafydd...
(Gerallt) Ond dech chi ddim yn deall...
 
(Gerallt) I bwy werthaist ti'r tocyn 'te?
(1, 0) 913 I Morgan y siop.
(Gerallt) Aled Morgan?
 
(Gerallt) Aled Morgan?
(1, 0) 915 Ie.
(1, 0) 916 Am hanner canpunt.
 
(1, 0) 918 Wyddost ti be' Dafydd, rwy'n teimlo'n dipyn gwell erbyn hyn.
(Dafydd) Mae'n dda gen i glywed hynny.
 
(Megan) Tomos?
(1, 0) 923 Ie Megan?
(Megan) Rwyt ti wedi dechrau defnyddio botel Hanna Morris 'te?
 
(Megan) Rwyt ti wedi dechrau defnyddio botel Hanna Morris 'te?
(1, 0) 925 Do.
(1, 0) 926 Wedi yfed rhyw lwyaid neu ddwy... hen beth digon sur yw e' hefyd.
(Megan) Wedi yfed e'?
 
(Megan) Wedi yfed e'?
(1, 0) 929 Do.
(1, 0) 930 Pam?
(Megan) Ond stwff i rwbio ar dy frest oedd hwn!
 
(Megan) Ond stwff i rwbio ar dy frest oedd hwn!
(1, 0) 932 Beth?
(1, 0) 933 Ond... ond...
(1, 0) 934 Dafydd?
(Dafydd) Ie?
 
(Dafydd) Ie?
(1, 0) 936 Rwy'n teimlo'n sâl!!