Gwely a Brecwast

Ciw-restr ar gyfer Marged

 
(1, 0) 4 Tom!
(1, 0) 5 Tom! dewch lawr 'ma, ddyn.
(1, 0) 6 Tom bachan, dewch gloi.
(Tom) {Yn dod lawr yn ei long johns.}
 
(Tom) Beth gythrel sydd yn bod, fenyw?
(1, 0) 9 O, Tom, fi newydd weld llygoden.
(1, 0) 10 Mae hi newydd fynd dan y cwpwrdd 'na, a gwisgwch ych trowser, ma' gas ych gweld chi.
(Tom) Wel, o'n i yn mynd i wisgo pan sgrechoch chi, a gredes i fod rhywun yn ych myrdro chi, fenyw.
 
(1, 0) 14 Chi'n gwbod cymaint fi'n ofan llygod, Tom.
(1, 0) 15 Wedes i pwy ddiwrnod wrthoch chi bod llygod yn y tŷ 'ma.
(1, 0) 16 Ce'wch i edrych dan y cwpwrdd 'na, fanna ath hi.
(Tom) O, fe edrycha i fory.
 
(Tom) O, fe edrycha i fory.
(1, 0) 18 Tom, heno ma'r llygoden 'na, fydd hi wedi mynd fory, achos chi wastad yn bostan mor ddewr o'ch chi yn dala llygod pan o chi'n was ffarm.
(Tom) Hy.
 
(Tom) Rwy i'n cofio amser rhyfel, fe gydies i mewn llygoden ffyrnig yn...
(1, 0) 22 O, dewch mlân.
(1, 0) 23 Ce'wch i whilo honna nawr, ne' fydd hi wedi dianc eto.
(Tom) Ti'n siŵr mai fan hyn ath hi?
 
(Tom) Ti'n siŵr mai fan hyn ath hi?
(1, 0) 25 Ie, ie, drychwch gloi cyn af i off fy mhen.
(Tom) Reit, reit.
 
(Tom) Reit, reit.
(1, 0) 27 Odych chi yn gweld rhywbeth?
(Tom) Paswch y 'torch' i fi.
 
(Tom) Paswch y 'torch' i fi.
(1, 0) 29 Odych chi yn gweld rhywbeth nawr?
(Tom) Ma' twll llygod yn y 'sgyrting board', ma' fe'n mynd trwyddo i'r cwtsh dan stâr.
 
(Tom) Ma' twll llygod yn y 'sgyrting board', ma' fe'n mynd trwyddo i'r cwtsh dan stâr.
(1, 0) 31 Reit, trap nawr strêt, fe fydda i yn cal 'nervous breakdown' os gwela i lygoden eto.
(Tom) O, fe rho i e i lawr fory.
 
(Tom) O, fe rho i e i lawr fory.
(1, 0) 34 Tom, heno, ne' fydd e heb ei roi o gwbl os rydwi yn ych nabod chi.
(1, 0) 35 Nawr setwch e a watshwch ych bysedd.
(Tom) Weles i eriod shwt ffys am lygoden.
 
(Tom) Aw, aw...
(1, 0) 44 Beth sydd yn bod ddyn?
(Tom) Mae'r trap cythrel yma wedi cau am 'yn llaw i!
 
(Wil) Hei, Twm, dyma'r llygoden fwya ma'r trap 'ma wedi'i ddala eriôd, siŵr o fod.
(1, 0) 51 Tom bach, chi mor lletwith â whilber.
(1, 0) 52 Nawr triwch roi e'n iawn y tro hyn.
(Wil) Os dim cath gyda chi, 'te?
 
(Wil) Os dim cath gyda chi, 'te?
(1, 0) 54 Os, os, mae cath i gal yma, ond 'dyw e'n dda i ddim, ddim ond i orwedd o fore hyd nos.
(Tom) {Yn codi ar ei draed.}
 
(1, 0) 70 'Dyw Tom ni ddim yn gweld pellach na'i drwyn.
(1, 0) 71 Beth o'n i'n weud, Wil, odd hyn: gan fod Mari wedi priodi, odd e'n biti fod y llofft yn wag, a ma' lot o fisitors yn paso ffordd hyn yn yr haf, a mae lot o arian i'w neud o'r busnes 'Bed and Brecwast' yma.
(Wil) Weda i un peth, Marged, fi'n methu gweld Tom yn cario Corn Flakes lan llofft bob bore i'r fisitor.
 
(Tom) Edrych 'ma, Wil, dw i ddim wedi cal brecwast 'yn hunan yn y gwely eriod, a dwi ddim yn meddwl cario brecwast i rhyw Jip Jachs ar holides, fi'n eitha siŵr, fe gân nhw godi pan fydd 'u bolie nhw'n galw.
(1, 0) 74 P'idwch gweud celwydd, Tom, fe gawsoch chi frecwast yn gwely gyda fi am wythnos Nadolig llynedd.
(Tom) Odd dim diolch amser hynny, on i'n rhy sâl i ddod lawr i moyn e.
 
(Wil) Wel, os rhywun wedi dod yma eto 'te?
(1, 0) 77 Na, ddim ond ddoe rhoion ni'r arwydd lan.
(Wil) Cofiwch, fi ddim ishe hela ofan arnoch chi, ond ma' hi'n fusnes risci...
 
(Wil) Odd e'n y papurau ddoe, odd 'na wr a gwraig lawr ar bwys San Clêr yn byw mewn fferm fach fynyddig fel hyn ac yn cadw'r Bed a Brecwast yma, ac un nosweth fe ddaeth cnoc ar y drws tua unarddeg y nos, ac fe alwodd dou o'r beth chi'n galw nhw, yr... yr... ym... o... ym... yr Haleliwia Angels yma.
(1, 0) 83 Hells Angels, ti'n meddwl bachan.
(Wil) Ie, na ti, Hells Angels ar gefen moto beics ac o'n nhw ishe Bed a Brecwast yno, ac felny buodd hi ond yn y bore beth ti'n meddwl ddigwyddodd?
 
(Tom) Chroge rheiny ddim o ti 'ta beth.
(1, 0) 94 O, byddwch dawel, ddyn.
(1, 0) 95 A pheth arall, ma' pob llo ych chi'n ei fagu yn trigo bron cyn cyrraedd adref o'r Mart.
(1, 0) 96 Ac mae'r pethe yma ti Wil yn ddarllen yn y papure, os dim gair o wir yn 'u hanner nhw.
(1, 0) 97 |
(Wil) O na, na odd e'n eitha gwir, odd | enw'r ffarm a'r bobl, ac echdo' | ddigwyddodd e a mae nhw heb eu dal o hyd.
 
(Tom) Marged, fydd rhaid bod yn ofalus wrth ateb y drws yn enwedig yn y | nos.
(1, 0) 107 O, byddwch dawel, Tom bach, mae'n ddigon hawdd nabod Hells Angels, os dim rhaid agor y drws iddyn nhw.
(1, 0) 108 |
(Tom) Weda i un peth, Wil, os daw rhywun î yma a cheisio ein crogi ni, fe eith e o'ma â blas powdwr ar 'i ben ôl.
 
(Tom) Weda i un peth, Wil, os daw rhywun î yma a cheisio ein crogi ni, fe eith e o'ma â blas powdwr ar 'i ben ôl.
(1, 0) 110 O, byddwch dawel o hyd, ma' digon hawdd nabod pobl wrth 'u golwg.
(Wil) O, fi ddim yn gweud llai, ond byddwch chi yn fwy gofalus na chodyn.
 
(Tom) Fi wedi gweud o'r dechre nad ydw i'n lico'r busnes yma...
(1, 0) 113 Fyddwch chi'n lico'r arian cystal â neb.
(John) {Yn chwythu ac atal arno.}
 
(Tom) Wyt ti ishe help?
(1, 0) 128 Pwy help sydd ishe arnyn nhw?
(1, 0) 129 Wel, fe gawson ni wared ar Wil yn sydyn.
(1, 0) 130 Garw byth se buwch yn dod â llo bob tro daw e yma.
(Tom) Marged, ce'wch i neud cwpaned o de i fi, ma' Wil a'r stori yna wedi ypseto fi i gyd, chysga i byth pan fydd rhywun yn aros yma.
 
(Tom) Marged, ce'wch i neud cwpaned o de i fi, ma' Wil a'r stori yna wedi ypseto fi i gyd, chysga i byth pan fydd rhywun yn aros yma.
(1, 0) 132 O, chi ddim yn meddwl am hynny o hyd.
(1, 0) 133 Ma' Wil yn darllen pob sothach yn y papure 'ma, a dim ond cynffon stori sydd gyda fe wastad, run peth â sydd gyda'r fuwch yna.
(Tom) Ma' nhw yma, Marged, ma' nhw yma!
 
(Tom) Ma' nhw yma, Marged, ma' nhw yma!
(1, 0) 137 Pwy sydd yma, ddyn?
(Tom) Haleliwia Angels, Marged.
 
(Tom) Ble mae'r gwn?
(1, 0) 141 Tynnwch ych hunan at ych gilydd a ce'wch i'r drws.
(Tom) Na, cer di a safa i fan hyn a'r bastwn yn barod, ac os treieth e dy grogi di, gwaedda.
 
(1, 0) 144 Byddwch yn gall, ddyn.
(Tom) Os moto beics gyda nhw, Marged?
 
(Tom) Os moto beics gyda nhw, Marged?
(1, 0) 148 Wel, come in, rhowch hwnna gadw, ddyn.
(1, 0) 149 This is my husband Tom.
(1, 0) 150 Tom, dyma Mr. a Mrs. Jeremy Bull.
(1, 0) 151 Ma nhw am sefyll am heno gyda ni.
 
(Tom) Ha ha.
(1, 0) 159 Byddwch dawel, ddyn.
(Mrs. Bull) What was that about Hereford?
 
(Mrs. Bull) What was that about Hereford?
(1, 0) 161 Tom was asking, are you coming from Hereford?
(Mrs. Bull) O, no, we come from Manchester.
 
(Tom) You must have seen him, he is a big fat fellow, he is an expert for making faggots.
(1, 0) 169 O, byddwch dawel o hyd.
(1, 0) 170 Wel, come and sit down.
(1, 0) 171 I will make you a cup of tea because you are the first guest we have had.
(Tom) And before we forget, it's £10.
 
(Mr. Bull) Ten pounds, you said.
(1, 0) 177 Tom, pidwch bod yn cheeky.
(1, 0) 178 O, you can pay tomoro when leaving.
(Mr. Bull) Oh, no, I might as well pay now.
 
(Tom) Yes, you might as well, in case.
(1, 0) 182 I won't be a minute with the tea now.
(Mrs. Bull) {Yn anghysurus ar y stôl bren.}
 
(Tom) Well, Marged and me are Methodists.
(1, 0) 208 Well, come on, come and have some tea.
(Tom) Yes, come on, come and have some tea and cakes and bring your cushion with you.
 
(Mr. Bull) Oh you shouldn't have, no, really.
(1, 0) 212 O, no, it's very plain, and help yourself to sugar and milk.
(1, 0) 213 Well excuse me for asking, but have you any children?
(Mrs. Bull) O, yes, we have one son called Humphrey.
 
(Mrs. Bull) He is studying Law now at Oxford College.
(1, 0) 216 O well, he must be very clever then.
(Mr. Bull) Oh yes, I must admit Humphrey is very clever, very clever.
 
(Mrs. Bull) Have you any children?
(1, 0) 221 Yes, one daughter, she married a farmer last month.
(Mrs. Bull) Oh how very nice.
 
(Tom) Marged, dere ma.
(1, 0) 234 Ie.
(Tom) Ma'r fenyw 'ma ise mynd lan stâr i roi powdwr yn 'i thrwyn, a rwyf i wedi gweud wrthi am roi e lawr fan hyn.
 
(Tom) Pam mae hi yn moyn mynd lan stâr, Marged?
(1, 0) 237 Tom bach, mae hi ise neud rhywbeth heblaw rhoi powdwr yn 'i thrwyn.
(Tom) Wel, beth mae hi ise te, Marged?
 
(Mrs. Bull) Well, where is it then?
(1, 0) 246 Tom bach, gwedwch wrthi, bachan.
(Tom) Reit, fenyw, well, it's outside the green shed bottom of the garden.
 
(Tom) I will come with you now with a torch.
(1, 0) 254 Pwy mynd gyda hi, beth chi'n siarad, bachan?
(Tom) Well, you better take the torch yourself.
 
(Tom) Cer â nhw o'r golwg i rhywle, Marged.
(1, 0) 261 O, yes, well, this way then.
(Mr. Bull) Yes, well, goodnight, Tomos, see you in the morning.
 
(Mari) Fi wedi madel ag e, wedes i.
(1, 0) 287 Mari fach, shwt wyt ti, o'n i ddim yn disgwyl dy weld ti heno.
(1, 0) 288 Shwt mae Dafydd 'te?
(Tom) Marged fach, ma' hi wedi madel ag e.
 
(Tom) Marged fach, ma' hi wedi madel ag e.
(1, 0) 290 Beth?
(1, 0) 291 Wel, wel, Tom bachan, a gwedwch rhywbeth.
(Tom) Ma' hi wedi madel ag e, fenyw.
 
(Tom) Ma' hi wedi madel ag e, fenyw.
(1, 0) 293 O, byddwch dawel o hyd.
(1, 0) 294 Wel, beth ath rhyngtoch chi 'te?
(Mari) Ma' fe wedi bod yn insyltio'r bwyd rwy'n neud, wedodd e echddo' mod i wedi llosgi'r sosejes, â heddi wedodd e na alle fe fyta y pwdin reis achos bod gormod o lwmpe ynddo fe.
 
(Tom) Ti'n sylweddoli mai dim ond mis sydd ers i ti ei briodi e?
(1, 0) 300 Byddwch dawel o hyd, ddyn.
(1, 0) 301 O'n i wastad yn gweud bod yr hen grwt yna wedi cal ei sboilo gyda'i famgu.
(1, 0) 302 'Dyw e ddim wedi arfer shiffto, ma' fe wedi cal popeth eriôd fel odd e'n moyn.
(Tom) Fi'n ofan mai chi Marged sydd wedi gwneud hynny ormod i hon.
 
(Tom) Odd Huws y Banc yn gweud echddo wrtho fi bod e yn falch mai dim ond un groten sydd gyda fi.
(1, 0) 307 Na fe, Tom, chi wedi ypseto hi nawr.
(Mari) Fi'n mynd lan i'r gwely.
 
(Mari) Fi'n mynd lan i'r gwely.
(1, 0) 309 O, alli di ddim mynd i'r gwely, bach.
(Mari) Pam?
 
(Mari) Beth?
(1, 0) 313 O, paid 'neud sylw o dy dad.
(1, 0) 314 Wel, wedi i ti briodi, on i'n meddwl bod hi'n drueni bod y 'stafell yn wag a fe benderfynes i fynd i gadw 'Bed a Brecwast'.
(1, 0) 315 A ma' pobl bach neis o Manchester wedi dod yma gynne fach a ma' nhw newydd fynd i'r gwely cyn i ti ddod.
(Mari) O wel, fe gysga i ar y soffa, 'te.
 
(Mari) O wel, fe gysga i ar y soffa, 'te.
(1, 0) 317 O na, fe gei di gysgu gyda fi a geith dy dad gysgu ar y soffa.
(Tom) Drychwch yma...
 
(1, 0) 321 O pidwch dechre gwenwyno, a ce'wch i weld pwy sydd yn y drws yna.
(Tom) O, Dafydd bachan, dere mewn, dere mewn.
 
(Dafydd) Odd dim ishê bwrw bant felna yn dy styrics.
(1, 0) 328 Dafydd, p'idwch chi siarad felna â Mari.
(1, 0) 329 Mae hi'n ypset ofnadwy, chi wedi bod yn gweud pethe cas iawn wrthi hi.
(Dafydd) Drychwch yma, dwyf i ddim yn gwybod beth ydw i wedi'i wneud, a pheth arall ─ dyw e ddim busnes i chi 'ta beth.
 
(1, 0) 332 P'idwch chi siarad felna â fi, mae e yn fusnes i fi nawr gan fod hi wedi dod adre.
(1, 0) 333 Chi wedi bod yn insyltio'i bwyd hi.
(1, 0) 334 Ych trwbwl chi yw eich bod chi wedi cal ych sboelo fel hen fabi gyda'ch mamgu.
(Tom) {Yn tarannu.}
 
(Tom) Marged, byddwch dawel, fenyw!
(1, 0) 338 Beth wedoch chi, Tom?
(Tom) Byddwch dawel, fenyw.
 
(Tom) O, popeth yn iawn, a gobeithio y cei di well pwdin fory.
(1, 0) 359 O, #Mrs. Bull, what is the matter?
(Mrs. Bull) Oh, there are rats running all over the place.
 
(Mrs. Bull) Jeremy, Jeremy, come on.
(1, 0) 363 Na fe 'to, bai chi, Tom, yw hyn i gyd.
(Mr. Bull) {Yn dod lawr.}
 
(Tom) Edrych 'ma, Marged, paid ti dechre 'to.
(1, 0) 380 O, Tom, fi ddim wedi gweld chi fel hyn o'r blaen.
(Tom) Marged, fi ddim wedi teimlo fel hyn o'r blaen.
 
(Wil) O, wel, beth odd y car yna oedd yn mynd o 'ma jyst nawr.
(1, 0) 393 O, o, ym, dynion dierth wedi colli ffordd yn te fe, Tom.
 
(Tom) Marged!
(1, 0) 405 Ie, beth chi ise?
(Tom) Glywoch chi?
 
(Tom) Un fenyw, a un gwryw.
(1, 0) 409 O, neis iawn, wir.
 
(Tom) Marged, Marged!
(1, 0) 425 Ie, beth chi ise eto, ddyn?
(Tom) Gwisgwch got a dewch â cot i finne achos ni'n mynd i weld y ddou lo gyda Wil ac os setlwn ni, rwyn mynd i'w prynu nhw i chi.
 
(Tom) Gwisgwch got a dewch â cot i finne achos ni'n mynd i weld y ddou lo gyda Wil ac os setlwn ni, rwyn mynd i'w prynu nhw i chi.
(1, 0) 427 Tom bach, mae'n ddeg o'r gloch.
(1, 0) 428 Allwch chi ddim sefyll hyd fory?
(Tom) Marged, fydd dim amser fory, mae ise mynd i desto yn llyged arna i fory?
 
(Tom) Marged, fydd dim amser fory, mae ise mynd i desto yn llyged arna i fory?
(1, 0) 430 Chi yn gweld eitha digon yn barod.
(Tom) Dewch mlân nawr yn lle ymddantan o hyd.
 
(Tom) Fi wastad yn gweud os wyt ti yn rhoi tarw i fuwch rho darw reit iddi, ti'n gwbod beth ti'n gael wedyn.
(1, 0) 440 Dewch ymlaen nawr, gwisgwch ych cot yn lle siarad trwy'ch hat.
(Wil) Reit, chi'n barod te.
 
(Tom) Ew Marged, os pryna i y lloi yma gyda Wil, chi'n gwybod beth fi yn mynd i galw nhw?
(1, 0) 444 O, dim syniad, Tom bach.
(Tom) Jeremy a Patsy Bull.
 
(1, 0) 448 Dere Wil, mae honna yn stori rhy hir heno.