Gwely a Brecwast

Ciw-restr ar gyfer Mari

(Marged) Tom!
 
(1, 0) 272 Helo, shwt wyt ti dadi?
 
(Tom) Ble ma Dafydd gen' ti?
(1, 0) 276 Dyw e ddim gyda fi.
(Tom) O, ti sydd â'r cês 'ma 'te?
 
(Tom) O, ti sydd â'r cês 'ma 'te?
(1, 0) 278 Pwy y'ch chi'n feddwl sydd ag e 'te?
(Tom) Wel, meddwl mai... os rhywbeth yn bod?
 
(Tom) Does dim o'i le ar Dafydd, os e?
(1, 0) 281 Ma' fe yn eitha reit... wel, mae yr un man i chi gael gwybod.
(1, 0) 282 Fi wedi madel ag e.
(Tom) {Yn gollwng ei bibell.}
 
(Tom) B... b... beth wedest ti?
(1, 0) 285 Fi wedi madel ag e, wedes i.
(Marged) Mari fach, shwt wyt ti, o'n i ddim yn disgwyl dy weld ti heno.
 
(Marged) Wel, beth ath rhyngtoch chi 'te?
(1, 0) 295 Ma' fe wedi bod yn insyltio'r bwyd rwy'n neud, wedodd e echddo' mod i wedi llosgi'r sosejes, â heddi wedodd e na alle fe fyta y pwdin reis achos bod gormod o lwmpe ynddo fe.
(Tom) Lwmpe yn y pwdin!
 
(Marged) Na fe, Tom, chi wedi ypseto hi nawr.
(1, 0) 308 Fi'n mynd lan i'r gwely.
(Marged) O, alli di ddim mynd i'r gwely, bach.
 
(Marged) O, alli di ddim mynd i'r gwely, bach.
(1, 0) 310 Pam?
(Tom) Achos ma' dou Hereford gyda dy fam yno.
 
(Tom) Achos ma' dou Hereford gyda dy fam yno.
(1, 0) 312 Beth?
(Marged) O, paid 'neud sylw o dy dad.
 
(Marged) A ma' pobl bach neis o Manchester wedi dod yma gynne fach a ma' nhw newydd fynd i'r gwely cyn i ti ddod.
(1, 0) 316 O wel, fe gysga i ar y soffa, 'te.
(Marged) O na, fe gei di gysgu gyda fi a geith dy dad gysgu ar y soffa.
 
(1, 0) 351 Dafydd, dere adre, dw' i ddim yn aros dim rhagor i gal yn ypseto yma.
(Dafydd) O, reit... wel... y...
 
(Tom) Mae croeso i chi ddod yma unrhyw amser gyda'ch gilydd, ond dim rhagor o nonsens fel heno byth eto.
(1, 0) 356 Dere, Dafydd.