Gwely a Brecwast

Ciw-restr ar gyfer Tom

(Marged) Tom!
 
(1, 0) 8 Beth gythrel sydd yn bod, fenyw?
(Marged) O, Tom, fi newydd weld llygoden.
 
(Marged) Mae hi newydd fynd dan y cwpwrdd 'na, a gwisgwch ych trowser, ma' gas ych gweld chi.
(1, 0) 11 Wel, o'n i yn mynd i wisgo pan sgrechoch chi, a gredes i fod rhywun yn ych myrdro chi, fenyw.
(1, 0) 12 A dere lawr o fanna, fenyw, ti'n edrych fel rhyw foniwment yn fanna.
(Marged) {Dod lawr.}
 
(Marged) Ce'wch i edrych dan y cwpwrdd 'na, fanna ath hi.
(1, 0) 17 O, fe edrycha i fory.
(Marged) Tom, heno ma'r llygoden 'na, fydd hi wedi mynd fory, achos chi wastad yn bostan mor ddewr o'ch chi yn dala llygod pan o chi'n was ffarm.
 
(Marged) Tom, heno ma'r llygoden 'na, fydd hi wedi mynd fory, achos chi wastad yn bostan mor ddewr o'ch chi yn dala llygod pan o chi'n was ffarm.
(1, 0) 19 Hy.
(1, 0) 20 Smo fi ofan rhyw damed o lygoden.
(1, 0) 21 Rwy i'n cofio amser rhyfel, fe gydies i mewn llygoden ffyrnig yn...
(Marged) O, dewch mlân.
 
(Marged) Ce'wch i whilo honna nawr, ne' fydd hi wedi dianc eto.
(1, 0) 24 Ti'n siŵr mai fan hyn ath hi?
(Marged) Ie, ie, drychwch gloi cyn af i off fy mhen.
 
(Marged) Ie, ie, drychwch gloi cyn af i off fy mhen.
(1, 0) 26 Reit, reit.
(Marged) Odych chi yn gweld rhywbeth?
 
(Marged) Odych chi yn gweld rhywbeth?
(1, 0) 28 Paswch y 'torch' i fi.
(Marged) Odych chi yn gweld rhywbeth nawr?
 
(Marged) Odych chi yn gweld rhywbeth nawr?
(1, 0) 30 Ma' twll llygod yn y 'sgyrting board', ma' fe'n mynd trwyddo i'r cwtsh dan stâr.
(Marged) Reit, trap nawr strêt, fe fydda i yn cal 'nervous breakdown' os gwela i lygoden eto.
 
(Marged) Reit, trap nawr strêt, fe fydda i yn cal 'nervous breakdown' os gwela i lygoden eto.
(1, 0) 33 O, fe rho i e i lawr fory.
(Marged) Tom, heno, ne' fydd e heb ei roi o gwbl os rydwi yn ych nabod chi.
 
(Marged) Nawr setwch e a watshwch ych bysedd.
(1, 0) 36 Weles i eriod shwt ffys am lygoden.
(Wil) Hel... Helo.
 
(Wil) Dala llygod?
(1, 0) 43 Aw, aw...
(Marged) Beth sydd yn bod ddyn?
 
(Marged) Beth sydd yn bod ddyn?
(1, 0) 45 Mae'r trap cythrel yma wedi cau am 'yn llaw i!
 
(1, 0) 47 Tynnwch e yn rhydd gloi!
(Wil) Nawr, paid gwylltu, bachan.
 
(1, 0) 57 Pwy ryfedd?
(1, 0) 58 Ti'n gwbod, Wil, ma' Marged yn bwydo fe trw'r dydd ar y Go Cat 'na fel nad oes 'na ddim mwy o go na donkey ynddo fe.
(1, 0) 59 'Sen i yn cael 'yn ffordd, fe gethe fe ddŵr, fe fydde fe yn Gone Cat wedyn.
(1, 0) 60 Wel, ishte Wil.
(1, 0) 61 Os rhyw newydd gyda ti?
(Wil) Jiw, alla i ddim aros yn hir achos 'ma Matilda yn paratoi i ddod â llo.
 
(Wil) Jiw, alla i ddim aros yn hir achos 'ma Matilda yn paratoi i ddod â llo.
(1, 0) 63 Ond ma' John y gwas gyda ti i ofalu am honno.
(Wil) O, hen was da yw John, ond 'ma fe yn panico strêt pan fydd buwch yn dod â llo.
 
(Wil) Wel, beth yw'r arwydd 'na weles i ar ben y lôn 'na: 'Bed and Brecwast'.
(1, 0) 67 O, ma' Marged yma yn credu gall hi neud rhyw ffortiwn wrth gadw fisitors.
(1, 0) 68 Sen i'n cael 'yn ffordd, chawse dim un cythrel wely na brecwast yma.
(Marged) {Dod nôl.}
 
(Wil) Weda i un peth, Marged, fi'n methu gweld Tom yn cario Corn Flakes lan llofft bob bore i'r fisitor.
(1, 0) 73 Edrych 'ma, Wil, dw i ddim wedi cal brecwast 'yn hunan yn y gwely eriod, a dwi ddim yn meddwl cario brecwast i rhyw Jip Jachs ar holides, fi'n eitha siŵr, fe gân nhw godi pan fydd 'u bolie nhw'n galw.
(Marged) P'idwch gweud celwydd, Tom, fe gawsoch chi frecwast yn gwely gyda fi am wythnos Nadolig llynedd.
 
(Marged) P'idwch gweud celwydd, Tom, fe gawsoch chi frecwast yn gwely gyda fi am wythnos Nadolig llynedd.
(1, 0) 75 Odd dim diolch amser hynny, on i'n rhy sâl i ddod lawr i moyn e.
(Wil) Wel, os rhywun wedi dod yma eto 'te?
 
(Wil) Cofiwch, fi ddim ishe hela ofan arnoch chi, ond ma' hi'n fusnes risci...
(1, 0) 79 Beth ti'n foddran bod hi'n risci?
(1, 0) 80 Beth sy'n risci amboiti hi?
(Wil) Wel, ti ddim yn gwybod pwy yw pwy heddi, wyt ti?
 
(1, 0) 86 Ew, na dim syniad ─ beth?
(Wil) O'n nhw wedi mynd... wedi mynd...
 
(Wil) O'n nhw wedi mynd... wedi mynd...
(1, 0) 88 A 'dôn nhw ddim wedi talu siŵr o fod.
(1, 0) 89 Marged, os daw rhywun yma fydda i yn moyn 'yn nhalu cyn bod nhw'n mynd i'r gwely.
(Wil) Twm bach, gad i fi orffen y stori, odd e'n waeth na hynny, o nhw wedi CROGI y ddou a dwgyd y cwbl odd yn y ty.
 
(Wil) Twm bach, gad i fi orffen y stori, odd e'n waeth na hynny, o nhw wedi CROGI y ddou a dwgyd y cwbl odd yn y ty.
(1, 0) 91 Crogi y ddou!
(1, 0) 92 'Na fe, Marged, wedes i ddigon wrtho ti y byse hi'n llawer gwell i ti fagu llo neu ddou i gael ceiniog ecstra...
(1, 0) 93 Chroge rheiny ddim o ti 'ta beth.
(Marged) O, byddwch dawel, ddyn.
 
(Wil) A chi ishe gwybod peth arall, faint ych chi'n feddwl o'n nhw wedi'i ddwgyd?
(1, 0) 100 Ugen mil efallai?
(1, 0) 101 |
(Wil) Ti a dy ugen mil ─ dim ond pym theg punt.
 
(Wil) |
(1, 0) 105 Bachgen, bachgen, fi ddim yn credu y galla i gysgu'r haf yma rhagor.
(1, 0) 106 Marged, fydd rhaid bod yn ofalus wrth ateb y drws yn enwedig yn y | nos.
(Marged) O, byddwch dawel, Tom bach, mae'n ddigon hawdd nabod Hells Angels, os dim rhaid agor y drws iddyn nhw.
 
(Marged) |
(1, 0) 109 Weda i un peth, Wil, os daw rhywun î yma a cheisio ein crogi ni, fe eith e o'ma â blas powdwr ar 'i ben ôl.
(Marged) O, byddwch dawel o hyd, ma' digon hawdd nabod pobl wrth 'u golwg.
 
(Wil) O, fi ddim yn gweud llai, ond byddwch chi yn fwy gofalus na chodyn.
(1, 0) 112 Fi wedi gweud o'r dechre nad ydw i'n lico'r busnes yma...
(Marged) Fyddwch chi'n lico'r arian cystal â neb.
 
(Wil) Dere mlan bachan.
(1, 0) 127 Wyt ti ishe help?
(Marged) Pwy help sydd ishe arnyn nhw?
 
(Marged) Garw byth se buwch yn dod â llo bob tro daw e yma.
(1, 0) 131 Marged, ce'wch i neud cwpaned o de i fi, ma' Wil a'r stori yna wedi ypseto fi i gyd, chysga i byth pan fydd rhywun yn aros yma.
(Marged) O, chi ddim yn meddwl am hynny o hyd.
 
(Marged) Ma' Wil yn darllen pob sothach yn y papure 'ma, a dim ond cynffon stori sydd gyda fe wastad, run peth â sydd gyda'r fuwch yna.
(1, 0) 136 Ma' nhw yma, Marged, ma' nhw yma!
(Marged) Pwy sydd yma, ddyn?
 
(Marged) Pwy sydd yma, ddyn?
(1, 0) 138 Haleliwia Angels, Marged.
(1, 0) 139 Ble mae'r gwn?
(Marged) Tynnwch ych hunan at ych gilydd a ce'wch i'r drws.
 
(Marged) Tynnwch ych hunan at ych gilydd a ce'wch i'r drws.
(1, 0) 142 Na, cer di a safa i fan hyn a'r bastwn yn barod, ac os treieth e dy grogi di, gwaedda.
(Marged) {Yn mynd at y drws.}
 
(Marged) Byddwch yn gall, ddyn.
(1, 0) 147 Os moto beics gyda nhw, Marged?
(Marged) Wel, come in, rhowch hwnna gadw, ddyn.
 
(Mrs. Bull) Helo, Tomo, lovely to meet you, lovely place you have here.
(1, 0) 154 Yes, well nice to see you.
(Mrs. Bull) And this is my husband Jeremy.
 
(Mrs. Bull) And this is my husband Jeremy.
(1, 0) 156 O, nice to meet you, Mr. Bull.
(1, 0) 157 Hei, Marged, ma hwn yn debyg i Hereford.
(1, 0) 158 Ha ha.
(Marged) Byddwch dawel, ddyn.
 
(Mr. Bull) Have you ever been there, Tomos?
(1, 0) 165 No, never, but I've got a cousin living there.
(1, 0) 166 His name is Dai.
(1, 0) 167 He is a butcher.
(1, 0) 168 You must have seen him, he is a big fat fellow, he is an expert for making faggots.
(Marged) O, byddwch dawel o hyd.
 
(Marged) I will make you a cup of tea because you are the first guest we have had.
(1, 0) 172 And before we forget, it's £10.
(Mrs. Bull) What is £10?
 
(Mrs. Bull) What is £10?
(1, 0) 174 The bed and the breakfast, you know.
(Mr. Bull) Oh, yes, of course, I nearly forgot.
 
(Mr. Bull) Oh, no, I might as well pay now.
(1, 0) 180 Yes, you might as well, in case.
(Marged) I won't be a minute with the tea now.
 
(Mrs. Bull) This is very hard.
(1, 0) 187 A cushon, o, yes, here you are, that's it.
(1, 0) 188 You've got a delicate behind, have you?
(1, 0) 189 They say that a hard stool is much better for us than these soft chairs you know.
(Mrs. Bull) Well, I haven't heard anybody say that.
 
(Mr. Bull) Tell me, Tomos, what happens around here in the nights?
(1, 0) 193 Well, it gets very dark here in winter and...
(Mr. Bull) Ha ha, gets very dark, ha ha, did you hear that, Patsy?
 
(Mr. Bull) No, what I meant was, what do you do here in the evenings to pass the time?
(1, 0) 198 O, I see what you mean.
(1, 0) 199 Well, I read a lot, and listen to the wireless, yes.
(Mr. Bull) Tell me, Tom, why have you not a television here?
 
(Mr. Bull) Tell me, Tom, why have you not a television here?
(1, 0) 201 O, Marged and me we don't like it.
(1, 0) 202 There's too many myrdyrs on the television, yes, and on Sunday of course we go to church three times.
(Mrs. Bull) How fascinating.
 
(Mrs. Bull) You know, me and Jeremy, we are atheists.
(1, 0) 205 O, are you?
(1, 0) 206 Well, Marged and me are Methodists.
(Marged) Well, come on, come and have some tea.
 
(Marged) Well, come on, come and have some tea.
(1, 0) 209 Yes, come on, come and have some tea and cakes and bring your cushion with you.
(Mr. Bull) {Ar ei ffordd.}
 
(Mr. Bull) Oh yes, I must admit Humphrey is very clever, very clever.
(1, 0) 218 O yes, wel, you must have a big head before you can go to Oxford.
(Mrs. Bull) Have you any children?
 
(1, 0) 224 Have a cac.
(Mrs. Bull wedi cydio mewn cacen.) Marged yn mynd i'r back.
 
(Mrs. Bull) I'm sorry, but these cakes are very hard, I can't eat them.
(1, 0) 227 Well, they are supposed to be hard, that's why they are called 'rock cakes'.
(Mrs. Bull) Please excuse me, but I think I'll go upstairs to powder my nose.
 
(Mrs. Bull) Please excuse me, but I think I'll go upstairs to powder my nose.
(1, 0) 229 O you don't have to go upstairs, you can put powder in your nose down here.
(Mrs. Bull) Well, I've got to go upstairs to do it.
 
(Mrs. Bull) Well, I've got to go upstairs to do it.
(1, 0) 231 Why have you got to go upstairs to do it?
(Mrs. Bull) Well, you know.
 
(Mrs. Bull) Well, you know.
(1, 0) 233 Marged, dere ma.
(Marged) Ie.
 
(Marged) Ie.
(1, 0) 235 Ma'r fenyw 'ma ise mynd lan stâr i roi powdwr yn 'i thrwyn, a rwyf i wedi gweud wrthi am roi e lawr fan hyn.
(1, 0) 236 Pam mae hi yn moyn mynd lan stâr, Marged?
(Marged) Tom bach, mae hi ise neud rhywbeth heblaw rhoi powdwr yn 'i thrwyn.
 
(Marged) Tom bach, mae hi ise neud rhywbeth heblaw rhoi powdwr yn 'i thrwyn.
(1, 0) 238 Wel, beth mae hi ise te, Marged?
 
(1, 0) 241 O, o, I see what you mean now.
(1, 0) 242 Well there is no point for you to go upstairs, because there is nothingthere.
(Mrs. Bull) Oh, I am very sorry, it's downstairs, is it?
 
(Mrs. Bull) Oh, I am very sorry, it's downstairs, is it?
(1, 0) 244 Well, no, not exactly, I'm afraid it is further down than that.
(Mrs. Bull) Well, where is it then?
 
(Marged) Tom bach, gwedwch wrthi, bachan.
(1, 0) 247 Reit, fenyw, well, it's outside the green shed bottom of the garden.
(Mrs. Bull) {Disgusted.}
 
(Mrs. Bull) Green shed bottom of the garden.
(1, 0) 250 Yes.
(Mrs. Bull) Well, it's dark outside now.
 
(Mrs. Bull) Well, it's dark outside now.
(1, 0) 252 Yes, it is dark now.
(1, 0) 253 I will come with you now with a torch.
(Marged) Pwy mynd gyda hi, beth chi'n siarad, bachan?
 
(Marged) Pwy mynd gyda hi, beth chi'n siarad, bachan?
(1, 0) 255 Well, you better take the torch yourself.
(Mrs. Bull) Well this is disgusting, isn't it, Jeremy.
 
(Mrs. Bull) Please show us to our room.
(1, 0) 260 Cer â nhw o'r golwg i rhywle, Marged.
(Marged) O, yes, well, this way then.
 
(Mr. Bull) Yes, well, goodnight, Tomos, see you in the morning.
(1, 0) 263 Yes, yes.
(1, 0) 264 Garw byth.
 
(1, 0) 267 Fi wedi byw yn gysurus yma am ugain mlynedd, a mae rhyw shinanis fel hyn yn dod a ddim yn gysurus am hanner awr.
(1, 0) 268 O'n i'n gwybod mai fel hyn y bydde hi.
 
(1, 0) 270 Helo, pwy sydd yna?
(Mari) {Dod mewn yn sydyn â chês bach, yn isel iawn ei hysbryd.}
 
(Mari) {Eistedd ar y soffa'n benisel.}
(1, 0) 274 Ew, Mari, shwt wyt ti 'te.
(1, 0) 275 Ble ma Dafydd gen' ti?
(Mari) Dyw e ddim gyda fi.
 
(Mari) Dyw e ddim gyda fi.
(1, 0) 277 O, ti sydd â'r cês 'ma 'te?
(Mari) Pwy y'ch chi'n feddwl sydd ag e 'te?
 
(Mari) Pwy y'ch chi'n feddwl sydd ag e 'te?
(1, 0) 279 Wel, meddwl mai... os rhywbeth yn bod?
(1, 0) 280 Does dim o'i le ar Dafydd, os e?
(Mari) Ma' fe yn eitha reit... wel, mae yr un man i chi gael gwybod.
 
(1, 0) 284 B... b... beth wedest ti?
(Mari) Fi wedi madel ag e, wedes i.
 
(Marged) Shwt mae Dafydd 'te?
(1, 0) 289 Marged fach, ma' hi wedi madel ag e.
(Marged) Beth?
 
(Marged) Wel, wel, Tom bachan, a gwedwch rhywbeth.
(1, 0) 292 Ma' hi wedi madel ag e, fenyw.
(Marged) O, byddwch dawel o hyd.
 
(Mari) Ma' fe wedi bod yn insyltio'r bwyd rwy'n neud, wedodd e echddo' mod i wedi llosgi'r sosejes, â heddi wedodd e na alle fe fyta y pwdin reis achos bod gormod o lwmpe ynddo fe.
(1, 0) 297 Lwmpe yn y pwdin!
(1, 0) 298 Ti'n gweud wrtho i bod ti wedi dod adre heno achos iddo fe weud bod lwmpe yn y pwdin?
(1, 0) 299 Ti'n sylweddoli mai dim ond mis sydd ers i ti ei briodi e?
(Marged) Byddwch dawel o hyd, ddyn.
 
(Marged) 'Dyw e ddim wedi arfer shiffto, ma' fe wedi cal popeth eriôd fel odd e'n moyn.
(1, 0) 303 Fi'n ofan mai chi Marged sydd wedi gwneud hynny ormod i hon.
(1, 0) 304 Ti'n sylweddoli bod y briodas yna wedi costio mil o bunne i fi.
(1, 0) 305 Odd Huws y Banc yn gweud echddo wrtho fi bod e yn falch mai dim ond un groten sydd gyda fi.
(Marged) Na fe, Tom, chi wedi ypseto hi nawr.
 
(Mari) Pam?
(1, 0) 311 Achos ma' dou Hereford gyda dy fam yno.
(Mari) Beth?
 
(Marged) O na, fe gei di gysgu gyda fi a geith dy dad gysgu ar y soffa.
(1, 0) 318 Drychwch yma...
(Marged) {Yn torri mewn.}
 
(Marged) O pidwch dechre gwenwyno, a ce'wch i weld pwy sydd yn y drws yna.
(1, 0) 323 O, Dafydd bachan, dere mewn, dere mewn.
(Dafydd) O, y, shwt mae heno?
 
(1, 0) 337 Marged, byddwch dawel, fenyw!
(Marged) Beth wedoch chi, Tom?
 
(Marged) Beth wedoch chi, Tom?
(1, 0) 339 Byddwch dawel, fenyw.
(1, 0) 340 Chi Marged wedi gweud wrtho fi am fod yn dawel am bum mlynedd ar hugain.
(1, 0) 341 Nawr, gwrandwch chi arna i am unwaith.
(1, 0) 342 Dafydd, iste fanna.
(1, 0) 343 Nawr 'te, good girl, rwyf i yn credu bod ti wedi cerdded lawr i'r capel 'na fis yn ôl yn dy ffrog wen a dy fys yn dy ben heb feddwl dim ac yn credu mai rhyw fis mêl mowr odd priodi.
(1, 0) 344 Iste lawr i fi gael gorffen.
(1, 0) 345 Cyn priodi odd dim yn ddigon da i ti i'w gael yma, a heno dyma ti'n carlamu'n ôl yma gyda gwep fawr achos bod Dafydd wedi achwyn bod lwmpe yn y pwdin.
(1, 0) 346 Dy drwbwl di eriod yw nad wyt ti'n gwybod mor lwcus wyt ti.
(1, 0) 347 Wedi cael popeth yn rhwydd erioed, a nawr wedi priodi ma' tŷ pert gyda ti a car dy hunan.
(1, 0) 348 Trwbwl chi yr oes hon ─ rwy'n golygu y ddou ohonoch chi yn awr ─ yw bod chi'n dechre'n rhy uchel.
(1, 0) 349 Byse fe'n gwneud lles mawr i chi fod yn cael dechre fel gorfu i fi a Marged ddechre ─ dim ond dwy fuwch a beic a chaseg odd gyda ni, a doedd dim amser i feddwl am redeg adre ta faint o lwmpe fydde yn y pwdin.
(Mari) {Yn codi.}
 
(1, 0) 354 Nawr, cofiwch un peth.
(1, 0) 355 Mae croeso i chi ddod yma unrhyw amser gyda'ch gilydd, ond dim rhagor o nonsens fel heno byth eto.
(Mari) Dere, Dafydd.
 
(Dafydd) Reit, wel mae'n ddrwg iawn 'da fi am bopeth.
(1, 0) 358 O, popeth yn iawn, a gobeithio y cei di well pwdin fory.
(Marged) O, #Mrs. Bull, what is the matter?
 
(Mr. Bull) After we went to bed, Patsy got up to have some aspirins and when she put her foot in her slipper, there was a mouse in it.
(1, 0) 367 Well pity for the mouse I say, ha ha!
(Mr. Bull) What did you say?
 
(1, 0) 371 Look here you two fairies.
(1, 0) 372 I have had it up to here with you.
(1, 0) 373 First you complain about the food, then it was the Ty Bach, and now it's a mouse, if you're so fussy you should have stayed at home.
(Mrs. Bull) Come on, Jeremy, we don't have to be insulted by these country bumpkins.
 
(Mrs. Bull) Come on, Jeremy, we don't have to be insulted by these country bumpkins.
(1, 0) 375 Yes, go on, hop it guick, before I turn Carlo out.
 
(1, 0) 377 And next time you go on holiday, go to hell.
 
(1, 0) 379 Edrych 'ma, Marged, paid ti dechre 'to.
(Marged) O, Tom, fi ddim wedi gweld chi fel hyn o'r blaen.
 
(Marged) O, Tom, fi ddim wedi gweld chi fel hyn o'r blaen.
(1, 0) 381 Marged, fi ddim wedi teimlo fel hyn o'r blaen.
(1, 0) 382 A gan bo fi yn oeri nawr, deallwch chi un peth, os dim rhagor o'r Bed and Breakfast i fod 'ma.
(1, 0) 383 Mae'r arwydd 'na i ddod lawr heno, os wyt ti am gario brecwast lan stâr i rhywun, ma well i ti gario fe lan i fi.
(1, 0) 384 A pheth arall ─ rwy'n mynd i dynnu y trap o dan y cwpwrdd yna achos mae'r hen lygoden yna wedi dod a gwaredigaeth i'r tŷ 'ma heno.
(1, 0) 385 Mae'n haeddu cael byw ta beth.
 
(1, 0) 391 Nagoes, maen nhw yn chwilio gwell lle yma heno na mynd i drape.
(Wil) O, wel, beth odd y car yna oedd yn mynd o 'ma jyst nawr.
 
(Marged) {Yn neud llyged ar Tom.}
(1, 0) 395 Ie, ma'n nhw wedi mynd ffordd reit nawr.
(1, 0) 396 Ddo'n nhw ddim nôl ffordd hyn rhagor.
(Wil) Bachan, gynigoch chi ddim bed and breakfast iddyn nhw te?
 
(Wil) Bachan, gynigoch chi ddim bed and breakfast iddyn nhw te?
(1, 0) 398 Naddo, achan.
(1, 0) 399 Wel beth yw hanes Blodwen te?
(Wil) O dou lo perta welest ti, un goch fenyw, a un gwryw du penwyn, a sen i wedi bod funud yn hwy fydde hi wedi bod yn rhy ddiweddar, cofia.
 
(Wil) O dou lo perta welest ti, un goch fenyw, a un gwryw du penwyn, a sen i wedi bod funud yn hwy fydde hi wedi bod yn rhy ddiweddar, cofia.
(1, 0) 401 Ew, go lew achan.
(1, 0) 402 Marged!
(1, 0) 403 Marged!
(Marged) Ie, beth chi ise?
 
(Marged) Ie, beth chi ise?
(1, 0) 406 Glywoch chi?
(1, 0) 407 Dou lo gyda Blodwen.
(1, 0) 408 Un fenyw, a un gwryw.
(Marged) O, neis iawn, wir.
 
(Marged) {Marged yn mynd o'r golwg.}
(1, 0) 411 Beth wyt ti'n mynd i neud â nhw te?
(Wil) O, gwerthu nhw, siŵr o fod, mart nesa, achos mae'n bwysicach i fi lawn bola y Bulk Tank na llanw bolie'r ddou 'na.
 
(Wil) Cofia, dwi ddim yn meddwl â'n nhw yn ddrud iawn achos mai twins y'n nhw.
(1, 0) 414 Reit te, faint ti moyn amdanyn nhw te?
(Wil) Bachan, beth sydd yn bod arno ti, dy'n nhw ddim ond wedi agor 'u llyged achan.
 
(Wil) Bachan, beth sydd yn bod arno ti, dy'n nhw ddim ond wedi agor 'u llyged achan.
(1, 0) 416 Wel, gwed bachan, faint ti moyn?
(Wil) Wel dwi ddim wedi meddwl am y peth eto.
 
(Wil) Wel dwi ddim wedi meddwl am y peth eto.
(1, 0) 418 Wel, bachan, mae rhyw syniad gyda ti, bownd o fod.
(1, 0) 419 Gwed faint ti'n ddal bachan?
(Wil) Wel, Twm bach, mae rhaid i fi weld nhw gynta cyn gallwn ni setlo dim.
 
(Wil) Wel, Twm bach, mae rhaid i fi weld nhw gynta cyn gallwn ni setlo dim.
(1, 0) 421 Reit te, heno amdani, a ma ise mynd i dynnu yr arwydd lawr o ben lôn arna i.
(Wil) Bachan, newydd i rhoi e lan wyt ti.
 
(Wil) Bachan, newydd i rhoi e lan wyt ti.
(1, 0) 423 Ie, na pam rwy i am dynnu e lawr cyn gwelith neb arall e, achos mae well i Marged a fi fagu lloi yn stabl na chadw lloi lan stâr.
(1, 0) 424 Marged, Marged!
(Marged) Ie, beth chi ise eto, ddyn?
 
(Marged) Ie, beth chi ise eto, ddyn?
(1, 0) 426 Gwisgwch got a dewch â cot i finne achos ni'n mynd i weld y ddou lo gyda Wil ac os setlwn ni, rwyn mynd i'w prynu nhw i chi.
(Marged) Tom bach, mae'n ddeg o'r gloch.
 
(Marged) Allwch chi ddim sefyll hyd fory?
(1, 0) 429 Marged, fydd dim amser fory, mae ise mynd i desto yn llyged arna i fory?
(Marged) Chi yn gweld eitha digon yn barod.
 
(Marged) Chi yn gweld eitha digon yn barod.
(1, 0) 431 Dewch mlân nawr yn lle ymddantan o hyd.
(1, 0) 432 Cofia un peth, Wil, odd lloi yn eitha tsiep mart diwetha.
(Wil) Ond cofia di un peth, mae buwch sbesial yn fam i'r rhain.
 
(Wil) Ond cofia di un peth, mae buwch sbesial yn fam i'r rhain.
(1, 0) 434 Ie, ie, ond hen darw potel yw 'u tad nhw.
(Wil) Gwell byth yw hynny bachan.
 
(Wil) Gwell byth yw hynny bachan.
(1, 0) 437 Beth ti'n siarad, bachan?
(1, 0) 438 Na, dwi ddim yn credu dim yn yr hen darw potel yna.
(1, 0) 439 Fi wastad yn gweud os wyt ti yn rhoi tarw i fuwch rho darw reit iddi, ti'n gwbod beth ti'n gael wedyn.
(Marged) Dewch ymlaen nawr, gwisgwch ych cot yn lle siarad trwy'ch hat.
 
(Wil) Reit, chi'n barod te.
(1, 0) 442 Barod.
(1, 0) 443 Ew Marged, os pryna i y lloi yma gyda Wil, chi'n gwybod beth fi yn mynd i galw nhw?
(Marged) O, dim syniad, Tom bach.
 
(Marged) O, dim syniad, Tom bach.
(1, 0) 445 Jeremy a Patsy Bull.