Gwely a Brecwast

Ciw-restr ar gyfer Wil

(Marged) Tom!
 
(Tom) Weles i eriod shwt ffys am lygoden.
(1, 0) 39 Hel... Helo.
(1, 0) 40 Beth ti'n neud yn fanna, Twm?
(1, 0) 41 Dala llygod?
(Tom) Aw, aw...
 
(Tom) Tynnwch e yn rhydd gloi!
(1, 0) 48 Nawr, paid gwylltu, bachan.
(1, 0) 49 Dere 'ma i fi gal e bant.
(1, 0) 50 Hei, Twm, dyma'r llygoden fwya ma'r trap 'ma wedi'i ddala eriôd, siŵr o fod.
(Marged) Tom bach, chi mor lletwith â whilber.
 
(Marged) Nawr triwch roi e'n iawn y tro hyn.
(1, 0) 53 Os dim cath gyda chi, 'te?
(Marged) Os, os, mae cath i gal yma, ond 'dyw e'n dda i ddim, ddim ond i orwedd o fore hyd nos.
 
(Tom) Os rhyw newydd gyda ti?
(1, 0) 62 Jiw, alla i ddim aros yn hir achos 'ma Matilda yn paratoi i ddod â llo.
(Tom) Ond ma' John y gwas gyda ti i ofalu am honno.
 
(Tom) Ond ma' John y gwas gyda ti i ofalu am honno.
(1, 0) 64 O, hen was da yw John, ond 'ma fe yn panico strêt pan fydd buwch yn dod â llo.
(1, 0) 65 Pan gath 'i wraig e fabi llynedd, gorfod iddo fe gal 'kiss of life' yn yr ysbyty.
(1, 0) 66 Wel, beth yw'r arwydd 'na weles i ar ben y lôn 'na: 'Bed and Brecwast'.
(Tom) O, ma' Marged yma yn credu gall hi neud rhyw ffortiwn wrth gadw fisitors.
 
(Marged) Beth o'n i'n weud, Wil, odd hyn: gan fod Mari wedi priodi, odd e'n biti fod y llofft yn wag, a ma' lot o fisitors yn paso ffordd hyn yn yr haf, a mae lot o arian i'w neud o'r busnes 'Bed and Brecwast' yma.
(1, 0) 72 Weda i un peth, Marged, fi'n methu gweld Tom yn cario Corn Flakes lan llofft bob bore i'r fisitor.
(Tom) Edrych 'ma, Wil, dw i ddim wedi cal brecwast 'yn hunan yn y gwely eriod, a dwi ddim yn meddwl cario brecwast i rhyw Jip Jachs ar holides, fi'n eitha siŵr, fe gân nhw godi pan fydd 'u bolie nhw'n galw.
 
(Tom) Odd dim diolch amser hynny, on i'n rhy sâl i ddod lawr i moyn e.
(1, 0) 76 Wel, os rhywun wedi dod yma eto 'te?
(Marged) Na, ddim ond ddoe rhoion ni'r arwydd lan.
 
(Marged) Na, ddim ond ddoe rhoion ni'r arwydd lan.
(1, 0) 78 Cofiwch, fi ddim ishe hela ofan arnoch chi, ond ma' hi'n fusnes risci...
(Tom) Beth ti'n foddran bod hi'n risci?
 
(Tom) Beth sy'n risci amboiti hi?
(1, 0) 81 Wel, ti ddim yn gwybod pwy yw pwy heddi, wyt ti?
(1, 0) 82 Odd e'n y papurau ddoe, odd 'na wr a gwraig lawr ar bwys San Clêr yn byw mewn fferm fach fynyddig fel hyn ac yn cadw'r Bed a Brecwast yma, ac un nosweth fe ddaeth cnoc ar y drws tua unarddeg y nos, ac fe alwodd dou o'r beth chi'n galw nhw, yr... yr... ym... o... ym... yr Haleliwia Angels yma.
(Marged) Hells Angels, ti'n meddwl bachan.
 
(Marged) Hells Angels, ti'n meddwl bachan.
(1, 0) 84 Ie, na ti, Hells Angels ar gefen moto beics ac o'n nhw ishe Bed a Brecwast yno, ac felny buodd hi ond yn y bore beth ti'n meddwl ddigwyddodd?
(Tom) {Yn sobr.}
 
(Tom) Ew, na dim syniad ─ beth?
(1, 0) 87 O'n nhw wedi mynd... wedi mynd...
(Tom) A 'dôn nhw ddim wedi talu siŵr o fod.
 
(Tom) Marged, os daw rhywun yma fydda i yn moyn 'yn nhalu cyn bod nhw'n mynd i'r gwely.
(1, 0) 90 Twm bach, gad i fi orffen y stori, odd e'n waeth na hynny, o nhw wedi CROGI y ddou a dwgyd y cwbl odd yn y ty.
(Tom) Crogi y ddou!
 
(Marged) |
(1, 0) 98 O na, na odd e'n eitha gwir, odd | enw'r ffarm a'r bobl, ac echdo' | ddigwyddodd e a mae nhw heb eu dal o hyd.
(1, 0) 99 A chi ishe gwybod peth arall, faint ych chi'n feddwl o'n nhw wedi'i ddwgyd?
(Tom) Ugen mil efallai?
 
(Tom) |
(1, 0) 102 Ti a dy ugen mil ─ dim ond pym theg punt.
(1, 0) 103 Ie, o'n nhw wedi crogi y ddou am ddim ond pymtheg punt.
(1, 0) 104 |
(Tom) Bachgen, bachgen, fi ddim yn credu y galla i gysgu'r haf yma rhagor.
 
(Marged) O, byddwch dawel o hyd, ma' digon hawdd nabod pobl wrth 'u golwg.
(1, 0) 111 O, fi ddim yn gweud llai, ond byddwch chi yn fwy gofalus na chodyn.
(Tom) Fi wedi gweud o'r dechre nad ydw i'n lico'r busnes yma...
 
(1, 0) 120 Beth sy'n bod, bachan?
(John) Ma... ma... ma... Matilda... wedi... wedi... bwrw un llo a ma un arall ar y ffordd a dim ond 'i gwt e'n y golwg.
 
(1, 0) 124 O danco, delen i ddim fod wedi aros mor hir.
(1, 0) 125 Dere mlan bachan.
(Tom) Wyt ti ishe help?
 
(Tom) {Tom yn tynnu y trap ar ei benlinie.}
(1, 0) 388 Rarswyd mowr, beth ych chi yn neud yma heno, chwarae cwato.
(1, 0) 389 Os llygoden yn y trap te?
(Tom) {Yn codi.}
 
(Tom) Nagoes, maen nhw yn chwilio gwell lle yma heno na mynd i drape.
(1, 0) 392 O, wel, beth odd y car yna oedd yn mynd o 'ma jyst nawr.
(Marged) O, o, ym, dynion dierth wedi colli ffordd yn te fe, Tom.
 
(Tom) Ddo'n nhw ddim nôl ffordd hyn rhagor.
(1, 0) 397 Bachan, gynigoch chi ddim bed and breakfast iddyn nhw te?
(Tom) Naddo, achan.
 
(Tom) Wel beth yw hanes Blodwen te?
(1, 0) 400 O dou lo perta welest ti, un goch fenyw, a un gwryw du penwyn, a sen i wedi bod funud yn hwy fydde hi wedi bod yn rhy ddiweddar, cofia.
(Tom) Ew, go lew achan.
 
(Tom) Beth wyt ti'n mynd i neud â nhw te?
(1, 0) 412 O, gwerthu nhw, siŵr o fod, mart nesa, achos mae'n bwysicach i fi lawn bola y Bulk Tank na llanw bolie'r ddou 'na.
(1, 0) 413 Cofia, dwi ddim yn meddwl â'n nhw yn ddrud iawn achos mai twins y'n nhw.
(Tom) Reit te, faint ti moyn amdanyn nhw te?
 
(Tom) Reit te, faint ti moyn amdanyn nhw te?
(1, 0) 415 Bachan, beth sydd yn bod arno ti, dy'n nhw ddim ond wedi agor 'u llyged achan.
(Tom) Wel, gwed bachan, faint ti moyn?
 
(Tom) Wel, gwed bachan, faint ti moyn?
(1, 0) 417 Wel dwi ddim wedi meddwl am y peth eto.
(Tom) Wel, bachan, mae rhyw syniad gyda ti, bownd o fod.
 
(Tom) Gwed faint ti'n ddal bachan?
(1, 0) 420 Wel, Twm bach, mae rhaid i fi weld nhw gynta cyn gallwn ni setlo dim.
(Tom) Reit te, heno amdani, a ma ise mynd i dynnu yr arwydd lawr o ben lôn arna i.
 
(Tom) Reit te, heno amdani, a ma ise mynd i dynnu yr arwydd lawr o ben lôn arna i.
(1, 0) 422 Bachan, newydd i rhoi e lan wyt ti.
(Tom) Ie, na pam rwy i am dynnu e lawr cyn gwelith neb arall e, achos mae well i Marged a fi fagu lloi yn stabl na chadw lloi lan stâr.
 
(Tom) Cofia un peth, Wil, odd lloi yn eitha tsiep mart diwetha.
(1, 0) 433 Ond cofia di un peth, mae buwch sbesial yn fam i'r rhain.
(Tom) Ie, ie, ond hen darw potel yw 'u tad nhw.
 
(Tom) Ie, ie, ond hen darw potel yw 'u tad nhw.
(1, 0) 435 Gwell byth yw hynny bachan.
(Tom) Beth ti'n siarad, bachan?
 
(Marged) Dewch ymlaen nawr, gwisgwch ych cot yn lle siarad trwy'ch hat.
(1, 0) 441 Reit, chi'n barod te.
(Tom) Barod.
 
(Tom) Jeremy a Patsy Bull.
(1, 0) 446 Bachan, ble cest ti afael yn yr enw 'na?