Y Gŵr Drwg

Ciw-restr ar gyfer ANN

(DORA) Tomos, be' ydych chi'n 'i wneud?
 
(TOMOS) 'Rydach chi'n gynnar iawn o'r offis heddiw.
(1, 1) 367 Ydw', Mr. Morgan.
(1, 1) 368 'Does gen' i fawr o waith i' wneud yr wythnos yma—mae Mr. Jones ar ei wylia...
(1, 1) 369 Aeth Lewis allan heddiw?
(TOMOS) Na, mae o yma yn rhywle.
 
(TOMOS) Rhoswch, mi alwa' i arno fo.
(1, 1) 373 O doeddwn i ddim eisio iddo fo ddwad yma'n arbennig, Mr. Morgan.
(TOMOS) Dim gwahaniaeth.
 
(BENJA) Sut 'rydach chi, Miss Thomas?
(1, 1) 379 Reid dda, diolch.
(1, 1) 380 Mae'n dda gen' i'ch cyfarfod chi. {Ysgwyd llaw.}
(TOMOS) Wrthi'n rhoi cweir iddo fo ar y bwrdd drafft yma 'roeddwn i, Ann.
 
(TOMOS) O dim ond bod Ann yma, dyna'r cwbwl, Lewis.
(1, 1) 386 Helo, Lewis.
(LEWIS) {Heb fawr o frwdfrydedd} Helo.
 
(LEWIS) {Heb fawr o frwdfrydedd} Helo.
(1, 1) 388 Fuost di ddim yn dy waith heddiw?
(LEWIS) Dydy' o ddim yn edrych yn debyg, nag ydy'?
 
(LEWIS) Ne fuaswn i ddim yma rwan.
(1, 1) 391 Be'—wyt ti wedi dechra' ar dy wylia'n barod?
(LEWIS) Naddo.
 
(LEWIS) 'Doeddwn i ddim yn teimlo fel gweithio heddiw, dyna'r cyfan.
(1, 1) 394 Wyt ti'n meddwl bod hynny'n beth doeth, Lewis?
(LEWIS) Pa un ai doeth neu annoeth, 'dydy' o 'run gronyn o wahaniaeth gen' i, Ann.
 
(LEWIS) Mi ge's i lond fy mol ar stiwardio yn y fyddin: o dan draed pob siort am bum mlynedd; yn is na chaethwas.
(1, 1) 397 Ond mae hynny drosodd 'rwan, Lewis.
(LEWIS) Ydy', rwy'n gwybod.
 
(LEWIS) Dyna pan 'rydw' i'n llacio'r tresi a mwynhau tipyn o ryddid am dro.
(1, 1) 400 Ond difaterwch ydy' hyn, nid rhyddid.
(1, 1) 401 Beth am dy ddyfodol di?
(LEWIS) {ei drwyn mewn papur newydd} Mi gaiff y dyfodol ofalu am dano'i hun.
 
(LEWIS) Byw o ddiwrnod i ddiwrnod—dyna fy nghred i o hyn ymlaen.
(1, 1) 404 Mi ydw' i'n siomedig iawn ynot ti, Lewis.
(LEWIS) Mae'n ddrwg gen' i am hynny.
 
(LEWIS) Mae'n ddrwg gen' i am hynny.
(1, 1) 406 Ond wyt ti ddim yn gweld dy gamsyniad?
(1, 1) 407 Mae gen' ti gyfrifoldeb, fel aelod o gymdeithas.
(1, 1) 408 Fedri di mo'i daflu o i ffwrdd fel hen ddilledyn.
(LEWIS) Wyddost ti beth, Ann—rwyt ti wedi gweithio' rhy hir yn offis Jones.
 
(LEWIS) 'Dydw' i'n gwneud drwg i affliw o neb.
(1, 1) 421 'Rwyt ti'n gwneud drwg mawr i ti dy hun beth bynnag.
(LEWIS) Mater i mi ydy' hynny, Ann.
 
(LEWIS) Twt, beth ydy' blwyddyn?
(1, 1) 439 Mae 'run fath i ti ag i filoedd o hogia' eraill, Lewis.
(1, 1) 440 'Does yna neb yn gwarafun seibiant i ti.
(1, 1) 441 Be' sy'n fy siomi i ydy' dy agwedd di at fywyd.
(LEWIS) Beth wyt ti'n ei feddwl?
 
(LEWIS) Beth wyt ti'n ei feddwl?
(1, 1) 443 Dy hunan-dosturi a'th ddifaterwch.
(BENJA) Ia, siwr o fod.
 
(LEWIS) Mae yna ddigon yn fy mhen i fel y mae hi, heb i chi roi eich pig i mewn.
(1, 1) 449 Y ffaith am dani, Lewis, 'chymeri di mo dy feirniadu.
(1, 1) 450 'Rwyt ti wedi colli pob uchelgais i bob golwg.
(LEWIS) Sut felly?
 
(LEWIS) Sut felly?
(1, 1) 452 Wel, edrych arnat dy hun.
(1, 1) 453 Mi ddechreuaist ti 'studio at y gyfraith.
(1, 1) 454 A dyma ti heddiw yn prynu a gwerthu ceir ail-law!
(LEWIS) Oes yna rywbeth o'i le yn hynny?
 
(LEWIS) Oes yna rywbeth o'i le yn hynny?
(1, 1) 456 Nid dyna'r cwestiwn—
(LEWIS) Os medra' i wneud digon o arian heb orfod slafio am dano fo, mi fydda' i'n berffaith fodlon.
 
(LEWIS) Os medra' i wneud digon o arian heb orfod slafio am dano fo, mi fydda' i'n berffaith fodlon.
(1, 1) 458 Nid arian ydy' popeth, Lewis.
(1, 1) 459 A pheth arall—wyt ti'n siwr ei fod o'n arian gonest?
(LEWIS) Beth wyt ti'n drio'i awgrymu?
 
(LEWIS) Beth wyt ti'n drio'i awgrymu?
(1, 1) 461 Dim ond rhywbeth glywais i am dy bartner di,
(LEWIS) Dic Lloyd?
 
(LEWIS) Beth amdano fo?
(1, 1) 464 'Does gan neb air da iawn iddo fo, coelia fi.
(1, 1) 465 Hwyrach na wyddost ti mo hynny.
(1, 1) 466 Ond da ti, bydd yn ofalus.