a1, g1

Y Gŵr Drwg (1957)

Huw Lloyd Edwards

Ⓗ 1957 Huw Lloyd Edwards
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 1


Pan godir y llen, gwelir Tomos yn eistedd ar y glwth—new'r soffa—a bocs ar ei lin. Mae wrthi'n cyfri papurau-punnoedd a'u cadw'n daclus yn y bocs. Yn sydyn, clyw swn DORA'n nesau; yn cau'r bocs ar frys, a'i guddio dan y soffa; yna cymer bapur newydd a chymryd arno eî ddarllen. Daw DORA i mewn wedi'i gwisgo mewn du; ar fynd allan yn amlwg.

DORA

Tomos, be' ydych chi'n 'i wneud?

TOMOS

Eistedd i lawr, Dora.

DORA

Mi ydw' i'n gweld hynny'n iawn. Dim rhaid i chi bwysleisio peth sy'n hollol amlwg.

TOMOS

Wnes i ddim ond ateb eich cwestiwn chi, Dora. Beth arall fedrwn i 'i ddweud?

DORA

Nid beth dd'wedsoch chi, ond y ffordd y dywedsoch chi o sy'n amheus.

TOMOS

Amheus? Dydw' i ddim yn deall.

DORA

Peidiwch â thrio edrych yn ddiniwed, Tomos. 'Rydych chi'n gollwng y gath o'r cwd bob tro. Mae yna rywbeth yn euog o'ch cwmpas chi'n ddiweddar yma.

TOMOS

Ond Dora fach, oes yna rywbeth allan o'i le mewn munud o seibiant, a bwrw golwg dros y papur newydd yma?

DORA

Mae hi'n braf iawn arnoch chi'n medru llaesu dwylo a hitha' mor brysur arno' ni yma!

TOMOS

Wel ia, ond 'does yna ddim diben—

DORA

Faint o seibiant 'rydw' i'n ei gael? Dim munud awr o fore tan nos. Gweithio fy mysedd i'r esgyrn, ac ar alwad pawb yn ddibaid. Ia, a hynny heb rwgnach hefyd, fel 'rydw' i wiriona'—

TOMOS

Ond Dora—

DORA

Peidiwch â dadla', Tomos. Rydych chi'n gwybod yn iawn 'mod i'n dweud y gwir. Os ydych chi am gadw gwesty heddiw, mae'n rhaid i chi fodloni ar fod yn gaethwas.

TOMOS

Diaist i, os 'rydych chi'n gaethwas, be' ydw' i?

DORA

Wel edrychwch arnoch eich hun, yn llybindian a chlertian o gwmpas fel hyn. Ac yn smocio fel corn simdde'. Ydych chi'n fy ngweld i'n gwneud?

TOMOS

Be—smocio fel corn simdde?

DORA

Peidiwch â chellwair. 'Rydych chi'n gwybod be' 'rydw i'n ei feddwl yn iawn. Bob faint fyddwch chi'n fy ngweld i'n segura?

TOMOS

Dim ond pob pnawn, Dora, pan ddaw Mrs. Vaughan Davies yma.

DORA

Rhag eich c'wilydd chi, Tomos! Hi ydy' un o'n cwsmeriaid gora' ni. Ac yn aelod blaenllaw o Gyngor y Dre. Ydach chi'n gwarafun munud o sgwrs dros banned o de?

TOMOS

Dim o gwbwl. Mi gewch straeona am ddwy awr o'm rhan i!

DORA

Straeona, ddwedsoch chi? Straeona? Heblaw ei fod o'n gyhuddiad creulon, mae o'n gelwydd noeth. (Plwc i'r papur newydd o'i law.) A peidiwch â dal i ddarllen a finna'n siarad efoch chi.

TOMOS

Chi oedd yn siarad tra 'roeddwn i'n darllen, Dora.

DORA

'Does gennych chi ddim amser i ddarllen. Mi wyddoch y bydd yma lond y lle i ginio. Mae yna ddwy bwcedaid o datws yn y gegin eisio cael eu plicio. Mi fydda' i'n disgwyl y byddan' nhw'n barod pan ddo' i'n ôl. Fydda' i ddim yn hir.

TOMOS

Welsoch chi fy rasal i, Dora?

DORA

Rasal? I be 'rydach chi eisio honno?

TOMOS

Dim ond meddwl y buaswn i'n shafio dipyn o gwsberis tra y bydda' i wrthi—!

DORA

Edrychwch yma, Tomos, 'dydw i ddim mewn tymer i'ch ffraethineb chi heddiw o bob diwrnod. Da chi, triwch gysidro.

TOMOS

Cysidro be'?

DORA

Ydach chi ddim wedi sylwi 'mod i mewn du?

TOMOS

Wel ia, erbyn i chi ddweud. Be sy'n bod—ydach chi'n mynd i gyn'ebrwng rhywun?

DORA

Cynhebrwng? Prin y medrech chi ddweud dim creulonach, 'taech chi'n sylweddoli hynny.

TOMOS

Mae'n ddrwg gen' i os gwnes i gamgymeriad. Ond yn naturiol dyna'r syniad cynta' ddaeth i 'meddwl i. Fedra' i feddwl am ddim arall—os nad dillad du ydy'r ffasiwn newydd.

DORA

Da chi, peidiwch â rhwbio halen i'r briw. Ddeng mlynedd i heddiw y collais i William annwyl. (Eistedd i lawr.)

TOMOS

(Yn ddifater) O, hwnnw'!

DORA

Gofalwch be' rydach chi'n 'i ddweud, Tomos. Mae'n ddyletswydd anrhydeddus arna'i i barchu co' fy ngŵr cynta'. Heddwch i'w lwch!

TOMOS

Ia—mae hi'n reit braf arno fo!

DORA

Beth ydach chi'n 'i feddwl?

TOMOS

Wel, wyddoch chi, allan o stormydd bywyd. Tu hwnt i boen a helbulon y byd. Cyrraedd hafan ar ôl y ddrycin, mewn ffordd o siarad.

DORA

Ia, mae hynna'n llythrennol wir. Yn y storm ofnadwy honno ddeng mlynedd yn ôl, yr aeth ei long o i'r gwaelod. (Codi a mynd at y ffenestr.) Ac er y dydd hwnnw, mae'r hen fôr milain, creulon acw'n atgas gen' i. 'Dydw i byth yn clywed swn ei donnau heb glywed hefyd chwerthiniad iach fy nghariad cyntaf. Fedra' i byth edrych ar y tywod heb feddwl am ei esgyrn annwyl yn gymysg â'r gwmon. Ddaw'r llanw byth i mewn heb lenwi fy nghalon â hiraeth dwys. Mae cri'r wylan ar adennydd y gwynt yn dennu deigryn o'm llygaid.

TOMOS

Oes yma ddigon o nionod at ginio heddiw, Dora?

DORA

Sut fedrwch chi fod mor ddideimlad, Tomos? Ond beth arall sydd 'i ddisgwyl? 'Does gennych chi ddim mwy o ramant na chwningan!

TOMOS

Fedra i feddwl am 'run creadur mwy rhamantus na honno! Ond peidiwch â 'nghamddeall i, Dora. Trio'ch helpu chi 'roeddwn i wrth son am ginio. Hynny ydy—'does gennych chi fawr o awydd gweithio heddiw, mae'n debyg, yng nghanol eich hiraeth—

DORA

Mi fydda' i bob amser yn meistroli fy nheimlada', fe ddylech wybod hynny. Hyd yn oed mewn trallod, mi fydda' i'n trio meddwl am eraill. Ac os oes arnoch chi eisio gwybod, nionod-picl fydd yna i ginio heddiw. Felly mi gewch sbario'ch trafferth.

TOMOS

Dim trafferth o gwbwl, Dora. Pleser o'r mwya'.



LEWIS yn dod i mewn. Chwilio am lyfr.

DORA

Mae gen' i eisio mynd allan ar negas, Lewis. Wnei di gadw dy lygaid yn agored rhag ofn i rywun alw? Mi fydd dy dad yn brysur yn y gegin.

LEWIS

(Swta) O'r gora. (Dod o hyd i'w lyfr.)

TOMOS

Sut dempar heddiw, machgan i?

LEWIS

Mi ydw i'n iawn ond i mi gael llonydd. (Mynd allan.)

TOMOS

Mi ydw i'n ddigon pryderus ynghylch yr hogyn yma. Mae o'n cael anhawster mawr i setlo i lawr ar ôl dwad o'r fyddin.

DORA

Wel, mi ydw' i wedi gwneud fy ngora' iddo fo, Tomos. 'Tawn i'n fam iddo fo, fedrwn i wneud dim mwy. Ond 'dwn i ddim ydy' f'ymdrechion i'n cael eu gwerthfawrogi.

TOMOS

O mi fedra' i'ch sicrhau chi o hynny, Dora. 'Rydach chi wedi gwneud cartre' da iddo fo, chwara' teg i chi. A dweud y gwir, 'does yna ddim ond un peth sydd wedi amharu ar ein hapusrwydd ni.

DORA

A be ydy' hwnnw?

TOMOS

William.

DORA

'Does arna' i ddim eisio trafod hynny rwan, Tomos. Mi fydda' i'n ddiolchgar os gwnewch chi barchu fy nheimladau. (Troi oddiwrtho.) William annwyl! Deng mlynedd—!

TOMOS

Dora.

DORA

Ia?

TOMOS

Wyddoch chi be fydda'i i'n feddwl weithia?

DORA

Wel?

TOMOS

Peidiwch â chwerthin am fy mhen i, ond 'tae ni'n dau wedi cael plentyn, mi fuase' ni agosach o lawer at ein gilydd heddiw.

DORA

'Tae ni wedi cael plentyn? Tomos, peidiwch â siarad mor anweddus, wnewch chi! Ewch i'r cefn at y tatws yna, cyn i mi anghofio fy hun.

TOMOS

(Yn cychwyn) Yn mynd, Dora, yn mynd.

DORA

Yn dweud y fath beth heddiw o bob diwrnod! Mae'r dyn o'i go'n lân.



DORA'n mynd drwy'r drws a'i gau'n glep. Tomos yn dod yn ol yn llechwraidd. Mynd at y bocs, ond eî guddio drachefn pam glyw gnoc ar y drws. Drws yn agor a BENJA'n rhoi ei ben i mewn.

BENJA

Helo, Tomos Morgan. Fi sydd 'ma. Ydy' hi'n glir?

TOMOS

Ydy', Benja. Tyrd i mewn.



BENJA yn dod i mewn a chau'r drws yn ofalus.

Tomos

Ia, cau'r drws. Siawns y cawn ni lonydd am funud neu ddau.

BENJA

Ydach chi'n siwr? Beth am y misus?

TOMOS

Newydd fynd allan ar negas. Ddaw hi ddim yn ei hôl am dipyn, paid â phoeni. Tyrd, eistedd i lawr.

BENJA

(Eistedd) Mae'n debyg mai hi welais i'n mynd i lawr y stryd rwan, felly.

TOMOS

Ia, reit siwr.

BENJA

Wedi ei gwisgo mewn du oedd hi, dwedwch?

TOMOS

Ia, du fel y frân.

BENJA

Be—ydy' hi wedi colli rhywun?

TOMOS

Ydy'. Ei gŵr.



Saib am ennyd. BENJA'n edrych yn syn.

BENJA

Ydach chi'n teimlo'n iawn, Tomos Morgan?

TOMOS

Ydw', cystal â'r disgwyliad. Pam?

BENJA

Wel hwyrach mai fi wnaeth eich cam-ddeall chi.

TOMOS

Cam-ddeall be?

BENJA

Wel yr hyn dd'wedsoch chi rwan—bod y misus wedi colli ei gŵr. Ond wrth gwrs, fi'n sy'n gwneud camgymeriad.

TOMOS

Wnest ti ddim camgymeriad o gwbwl. Dyna'n hollol a dd'wedais i.

BENJA

Maddeuwch i mi, Tomos Morgan, ond 'dydach chi ddim yn edrach fel 'taech chi wedi marw.

TOMOS

Nid am danaf fy hun 'roeddwn i'n son, y twpyn. Am ei gŵr cynta' hi—yr anfarwol William!

BENJA

O, 'rydw' i'n gweld rwan.... Ond sut fedar o fod yn anfarwol os ydy' o wedi marw?

TOMOS

Mi ddeallit ti hynny, Benja, 'taet ti'n byw yn y tŷ yma. 'Dydw i'n clywed dim ond William peth yma, a William peth arall, o un pen i'r flwyddyn i'r llall. Mae o wedi mynd yn stwmp ar fy stumog i.

BENJA

Wel ydy', mi greda i.

TOMOS

A mae hi'n waeth nag arfer heddiw, wrth gwrs.

BENJA

O?

TOMOS

Diwrnod pen-blwydd, wyt ti'n gweld.

BENJA

Pen-blwydd?

TOMOS

Ia—pen-blwydd ei farwolaeth o, ddeng mlynedd yn ôl. Ond mae o mor fyw ag erioed yn y tŷ yma os wyt ti'n gofyn i mi. Mi fydda' i'n teimlo weithia nad ydw' i'n ddim ond lojwr yma. Son am y marw'n lladd y byw—dyna sy'n digwydd i mi. Mae William fel wal rhwng Dora a minna' ers dydd ein priodas, Benja. A'r canlyniad ydy' ei bod hi'n flin fel cacwn, a finna'n prysur fynd o dan ei bawd hi. Aros am funud, mae yna amser am gêm bach os byddwn ni'n handi.



Tomos yn mynd at y cwpwrdd a thynnu bwrdd-drafft allan.

BENJA

Tipyn o fentar ydy' priodi, Tomos Morgan. Yn enwedig am yr ail dro. Mae yna lawer i ddweud dros bod yn hen lanc.

TOMOS

Oes, reit siwr. Mi fydda i'n teimlo'n reit eiddigus i ti weithia'. Er, cofia di, mae Dora'n ddynas dda mewn llawer ystyr. Rhaid bod yn deg. Yn un peth, mae hi wedi bod yn od o ffeind efo Lewis, yr hogyn yma.



Y ddaw'n gosod y bwrdd-drafft allan.

BENJA

Sut mae o, y dyddia' yma?

TOMOS

Digon ansefydlog, fachgan. 'Dydy' o ddim 'run un rhywsut, ar ôl dwad allan o'r fyddin. Mi gafodd o amser go ddrwg allan yn Affrica, wyddost ti.

BENJA

Do—a heb ddwad dros hynny mae o reit siwr. Amser sydd arno fo eisio.

TOMOS

O mi ddaw o—dim cwestiwn o hynny. A hwyrach y medar Ann helpu i sadio dipyn arno fo.

BENJA

Ann?

TOMOS

Ia, ia—wyddost ti, y ferch ifanc sy'n aros yma. Mae hi'n gweithio efo Jones y Twrna'.

BENJA

O ia. Be—ydy' hi a Lewis yn canlyn?

TOMOS

Wel ydy', rhyw gybodlian fel y byddwn ni'n dweud... Reit, pwy sy'n mynd i symud gynta? Mi ydw'i am roi andros o gweir i ti heddiw, Benja.

BENJA

O, cyn i mi ddechra', Tomos Morgan. Mi ydw i wedi gwneud rhyw ddau ne' dri o fân betha i chi gael eu gwerthu. Mae nhw yn y parsel yma gen i.



Tynnu pecyn o dan ei got; ei agor, a thynnu mam-daclau allan. Er enghraifft, calendr, cyllell-bren; plat wedi ei gerfio o bren, eic. Gwaith-llaw BENJA ydynt i gyd.

TOMOS

(Eu cymryd) Wel ardderchog, Benja! Mi fydda' i wedi gwerthu rhain i gyd cyn diwedd yr wythnos. Dyna fantais fawr cadw gwesty, wyddost ti. Digon o gwsmeriaid yn mynd a dwad o hyd. A rheiny'n barod i goelio pob stori bron. Dyna i ti ddoe, er engrhaifft, roedd yma glamp o Sais o Lerpwl—trafaeliwr am wn i. "Look here," medda' fi wrtho fo, "Wooden spoon belonging to the grandmother of Owen Glyndwr."

BENJA

Go dda! Beth oedd o go iawn?

TOMOS

Pric-pwdin Dora.

BENJA

A mi lyncodd y stori?

TOMOS

Do—a phrynu'r lwy bren! Mi gês i bymtheg swllt am dani. Mae'r cadw-mi-gei yn llenwi, Benja. Wyddost ti faint sydd ynddo fo rwan?

BENJA

Wel rhoswch chi—na 'does gen i ddim syniad.

TOMOS

Can punt, 'rhen fach. Can punt ond chwe' cheiniog.

BENJA

Be!

TOMOS

Ffaith iti. Roeddwn i'n eu cyfri' nhw gynna'.

BENJA

Arswyd y byd!

TOMOS

I gyd ar yr achos da, Benja. Mi gawn ni Gaban i'r Hynafgwyr er gwaetha' Cyngor crintachlyd y dre' yma. "O fedrwn ni byth fforddio'r gost rwan," medda'r la-di-da Mrs. Vaughan-Davies yna. "Mae'r trethi'n rhy drwm fel y mae hi." Yr hen gwdihŵ gebyst!

BENJA

Hidiwch chi befo. Mi lwyddwn er ei gwaetha' hi a'i siort. Sut mae ganddyn nhw galon i edrach ar hen begnos yn cicio'u sodlau ar gongla'r strydoedd yma dwedwch?

TOMOS

Dim arall i' ddisgwyl—dyna'u hanes nhw erioed wyddost ti... Ta waeth, tyrd, ti sydd i symud.

BENJA

(Symud) Reit... Wel, mi dria' i o'n fan'ma, Tomos Morgan.

TOMOS

(Symud) A dyna i ti gi-defaid i' gornelu o, 'rhen fach!

BENJA

O, peidiwch â bod yn rhy siwr rwan, peidiwch â bod yn rhy siwr! Rhoswch am funud. (BENJA'n mynd i'w boced a thynnu potel allan.) Fuasech chi'n lecio cael deigryn bach

TOMOS

Be! Diod feddwol? Dim o'r fath beth. Yn hollol groes i f'egwyddorion i.

BENJA

O mi ydw' i'n reit chwannog i ddiferyn dros y galon rwan ac yn y man. Yn enwedig y tywydd oer yma. (Yfed o'r botel.)

TOMOS

Mae o'n iawn fel ffisig, Benja. Does gen' i ddim gwrthwynebiad iddo fo mewn gwaeledd. Ond am lymeitian mewn gwaed oer—na, 'dydy' o ddim yn iawn rhywsut.

BENJA

Ond i gyn'esu'ch gwaed chi mae o'n dda, Tomos Morgan... Ydach chi wedi symud, dwedwch?

TOMOS

Na, mi ydw' i'n disgwyl wrthyt ti. Tyrd yn dy flaen.

BENJA

Reit. 'Rhoswch chi, 'rhoswch chi, 'rhoswch chi. (Astudio'r bwrdd drafft.). Mi dria'i hwn yn fan'ma, 'rydw i'n meddwl. (Mynd i symud ond tynnu'n ol.) Na, hanner munud, hanner munud, hanner munud.

TOMOS

Gwna dy feddwl i fyny, da ti! 'Rwyt ti 'run fath â hen iâr yn methu dodwy.

BENJA

Dyna fo rwan.



BENJA'n cymryd dracht arall o'r botel. TOMOS yn edrych yn eiddigus arno; a dechrau pesychu.

BENJA

Duwcs annwyl, Tomos Morgan, be' sy'n bod?

TOMOS

(Dal i besychu) Hen anwyd yn dechra' magu ar fy mrest i, fachgan.

BENJA

Wyddoch chi be, mae o'n swnio'n ddigon drwg. Rhaid i chi gymryd gofal ohonno fo. (TOMOS yn dal i besychu.) Beth am ddiferyn bach i lacio dipyn arno fo?

TOMOS

Na, na, mi fydda' i'n iawn mewn munud.

BENJA

Ond 'does yna ddim allan o'i le ynddo fo mewn gwaeledd meddech chi.

TOMOS

Be? Wel nag oes. Ffisig mewn ffordd o siarad. Reit, Benja, gan dy fod ti'n pwyso arna' i. Aros am funud. (Cymryd cwpan oddiar y bwrdd.) Mi gymera' i ryw ddiferyn bach, bach, lleia' 'rioed.



TOMOS yn gafael yn y botel a thywallt hanner ei chynwys ir cwpan. BENJA'n edrych arno'n syn.

TOMOS

Reit, Benja—iechyd da. A phob llwyddiant i Gaban yr Hynafgwyr!

BENJA

"Caban yr Hynafgwyr"!



Y ddaw'n yfed.

TOMOS

Diaist i, 'roeddit ti'n iawn, Benja! Mae hwn yn llacio'r hen fegin. Ac iro'r frest fel mêl... Mi ydw' i'n teimlo'n well yn barod... Reit, gad i mi weld... Yli, mi ydw' i am neidio dau i ti.



TOMOS yn neidio dau, a'u cymryd oddiar BENJA.

BENJA

Ar fengoch i, welais i mo hwnna... Ond hidiwch befo—mi gymera inna hwn. A gwnewch o'n geiliog i mi, Tomos Morgan!



Maent yn gwneud y symudiadau priodol.

TOMOS

Diaist i, 'rwyt ti'n gwella yn dy chware, fachgan. Mi ddoi di, gyda gofal a bwyd llwy.



Saib am ennyd tra bo'r ddaw'n syllu ar y bwrdd-drafft.

BENJA

D'wedwch wrtha' i, Tomos Morgan— TOMOS Wel? Fyddwch chi ddim blys rhoi swlltyn ar geffyl weithia?

TOMOS

Be'ddwedaist ti! Gamblo? Paid byth a sôn am y fath beth wrtha' i!

BENJA

Ond dim ond meddwl 'roeddwn i. Hynny ydy'—wel wyddoch chi, cael chwanneg o arian at y Caban a—

TOMOS

Arian anonest, halogedig? Dim o gwbwl. Gwell heb Gaban na'i godi ar sylfaeni anfoesol. Rwy'n synnu atat ti'n awgrymu'r fath beth!

BENJA

O wel, dyna fo. Lles yr hen begnos oedd gen' i mewn golwg, ynte. Dim bai ar y cynnig—

TOMOS

Fynna'i i ddim baeddu fy nwylo efo aur llygredig, Benja. Wedyn, dyna ddiwedd arni. (TOMOS yn cymryd dracht arall o'i gwpan.) Rhaid i mi gofio golchi hon cyn i Dora ddwad yn ei hôl, ne mi fydd yma andros o le!

BENJA

Wyddoch chi be', Tomos Morgan—wrth i chi sôn am wragedd blin?

TOMOS

Pwy oedd yn sôn am wragedd blin?

BENJA

Wel dyna roeddech chi'n 'i awgrymu dan eich gwynt, ynte! Hyn oedd gen' i i' ddweud: mae yna ddynion mawr iawn wedi cael 'run helbul â chi o dro i dro.

TOMOS

O?

BENJA

Dyna i chi Socrates, er enghraifft. Hen feudan stormus oedd Santhipa, ei wraig o, medda' nhw.

TOMOS

Felly wir?

BENJA

Ia—a dyna pam 'raeth o ati i sgwennu llyfra', i anghofio'i boen a'i helbul.

TOMOS

Fe wnaeth beth call iawn! P'le ddarllenaist ti am hyn, dwed?

BENJA

Mewn hen lyfr sydd gen' i yn y tŷ acw. Wyddoch chi be' arall sydd ynddo fo?

TOMOS

Na wn i, be?

BENJA

Hanes yr hen Ddoctor Ffawstws. Glywsoch chi am Doctor Ffawstws?

TOMOS

Aros di rwan—Doctor Ffawstws—meddyg esgyrn oedd o dwed?

BENJA

Twt, twt, choelia' i fawr! Ydach chi ddim yn gwybod? Y dyn hwnnw werthodd ei enaid i'r diafol ers talwm.

TOMOS

Bobol annwyl! I beth oedd o eisio gwneud peth felly d'wed? Gwraig flin oedd ganddo ynta' hefyd?

BENJA

Wn i ddim, ond synnwn i flewyn.

TOMOS

Mae o'n swnio'n llyfr diddorol dros ben, fachgan. Ydy' o'n dweud yn hollol sut i godi'r Gŵr Drwg?

BENJA

Ydy'—y manylion i gyd. Leiciech chi gael golwg arno fo?

TOMOS

Leiciwn. Tyrd â fo efo ti pan fydd hi'n gyfleus. Ond cymer ofal rhag i Dora 'i weld o, wyt ti'n deall?

BENJA

O mi wna' i, peidiwch â phryderu. Mi ro'i o mewn papur llwyd—wêl hi mo'i deitl o wedyn.



Drws yn agor ac ANN yn dod i mewn.

TOMOS

O, helo Ann. 'Rydach chi'n gynnar iawn o'r offis heddiw.

ANN

Ydw', Mr. Morgan. 'Does gen' i fawr o waith i' wneud yr wythnos yma—mae Mr. Jones ar ei wylia... Aeth Lewis allan heddiw?

TOMOS

Na, mae o yma yn rhywle. Rhoswch, mi alwa' i arno fo.



TOMOS yn mynd at y drws a galw ar LEWIS.

ANN

O doeddwn i ddim eisio iddo fo ddwad yma'n arbennig, Mr. Morgan.

TOMOS

Dim gwahaniaeth. Dydy' o'n gwneud dim lles iddo fo bendympian ar ei ben ei hun o hyd. Wn i ddim ydach chi'n nabod eich gilydd? Miss Ann Thomas—Benja.

BENJA

Sut 'rydach chi, Miss Thomas?

ANN

Reid dda, diolch. Mae'n dda gen' i'ch cyfarfod chi. (Ysgwyd llaw.)

TOMOS

Wrthi'n rhoi cweir iddo fo ar y bwrdd drafft yma 'roeddwn i, Ann.



LEWIS yn dod i mewn.

LEWIS

Be' sy'n bod, Nhad?

TOMOS

O dim ond bod Ann yma, dyna'r cwbwl, Lewis.



TOMOS & BENJA'n mynd ymlaen â'r gêm.

ANN

Helo, Lewis.

LEWIS

(Heb fawr o frwdfrydedd) Helo.

ANN

Fuost di ddim yn dy waith heddiw?

LEWIS

Dydy' o ddim yn edrych yn debyg, nag ydy'? Ne fuaswn i ddim yma rwan.

ANN

Be'—wyt ti wedi dechra' ar dy wylia'n barod?

LEWIS

Naddo. 'Doeddwn i ddim yn teimlo fel gweithio heddiw, dyna'r cyfan.

ANN

Wyt ti'n meddwl bod hynny'n beth doeth, Lewis?

LEWIS

Pa un ai doeth neu annoeth, 'dydy' o 'run gronyn o wahaniaeth gen' i, Ann. Mi ge's i lond fy mol ar stiwardio yn y fyddin: o dan draed pob siort am bum mlynedd; yn is na chaethwas.

ANN

Ond mae hynny drosodd 'rwan, Lewis.

LEWIS

Ydy', rwy'n gwybod. Dyna pan 'rydw' i'n llacio'r tresi a mwynhau tipyn o ryddid am dro.

ANN

Ond difaterwch ydy' hyn, nid rhyddid. Beth am dy ddyfodol di?

LEWIS

(ei drwyn mewn papur newydd) Mi gaiff y dyfodol ofalu am dano'i hun. Byw o ddiwrnod i ddiwrnod—dyna fy nghred i o hyn ymlaen.

ANN

Mi ydw' i'n siomedig iawn ynot ti, Lewis.

LEWIS

Mae'n ddrwg gen' i am hynny.

ANN

Ond wyt ti ddim yn gweld dy gamsyniad? Mae gen' ti gyfrifoldeb, fel aelod o gymdeithas. Fedri di mo'i daflu o i ffwrdd fel hen ddilledyn.

LEWIS

Wyddost ti beth, Ann—rwyt ti wedi gweithio' rhy hir yn offis Jones. 'Rwyt ti wedi mynd i siarad yn union 'run fath â thwrna'.



ANN yn troi eî chefn arno.

TOMOS

Ara' deg rwan, Lewis, ara' deg. 'Doedd hynna ddim yn beth caredig iawn i' ddweud wrth Ann. Wedi'r cwbwl, 'dydy' hi ddim ond yn trio dy helpu di.

LEWIS

(Taflu'r papur a neidio ar ei draed yn wyllt) Helpu! Helpu! Dyna 'rydach chi i gyd yn 'i wneud. Busnesu felldith 'rydw' i'n ei alw fo. Pam aflwydd na cha' i lonydd i fyw fy mywyd fel 'rydw i'n dewis? Mae gan bob dyn hawl i hynny, gobeithio! 'Dydw' i'n gwneud drwg i affliw o neb.

ANN

'Rwyt ti'n gwneud drwg mawr i ti dy hun beth bynnag.

LEWIS

Mater i mi ydy' hynny, Ann.

TOMOS

'Rwyt ti'n gwneud camgymeriad mawr, 'machgen i. Gobeithio y gweli di hynny cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Ond dyna fo, fedra' i ddim dylanwadu arnat ti'n amlwg. Mi ydw' i wedi trio 'ngora.

LEWIS

Edrychwch yma, Nhad, peidiwch â meddwl 'mod i'n anniolchgar. 'Dydw'i ddim. 'Rwy'n gwybod eich bod yn trio fy narbwyllo i mai chi sy'n iawn. Tithau hefyd, Ann. Ond da chi ceisiwch sylweddoli bod yr ymyrryd parhaus yma'n mynd yn fwrn arna'i! Triwch gofio mai 'rwan 'rydw i'n profi gwir ryddid am y tro cynta'. Dwy flynedd ge's i ar ôl yr ysgol cyn i'r fyddin fy nghipio i ffwrdd. Pum mlynedd wedyn o grwydro dros hanner y byd efo gwn yn fy llaw. A mi ydach chi'n disgwyl i mi setlo i lawr yn syth i fywyd cul y dre' fach hunan-gyfiawn yma! Ydach chi ddim yn gweld 'mod i eisio amser i gael fy ngwynt ataf?

TOMOS

Wel, 'rwyt ti wedi cael blwyddyn, wyddost ti.

LEWIS

Twt, beth ydy' blwyddyn?

ANN

Mae 'run fath i ti ag i filoedd o hogia' eraill, Lewis. 'Does yna neb yn gwarafun seibiant i ti. Be' sy'n fy siomi i ydy' dy agwedd di at fywyd.

LEWIS

Beth wyt ti'n ei feddwl?

ANN

Dy hunan-dosturi a'th ddifaterwch.

BENJA

Ia, siwr o fod.

LEWIS

Wnes i ddim gofyn am eich barn chi, Benja.

BENJA

Ond 'doeddwn i ddim ond pethma, Lewis.

LEWIS

Wel peidiwch â phethma, da chi! Mae yna ddigon yn fy mhen i fel y mae hi, heb i chi roi eich pig i mewn.

ANN

Y ffaith am dani, Lewis, 'chymeri di mo dy feirniadu. 'Rwyt ti wedi colli pob uchelgais i bob golwg.

LEWIS

Sut felly?

ANN

Wel, edrych arnat dy hun. Mi ddechreuaist ti 'studio at y gyfraith. A dyma ti heddiw yn prynu a gwerthu ceir ail-law!

LEWIS

Oes yna rywbeth o'i le yn hynny?

ANN

Nid dyna'r cwestiwn—

LEWIS

Os medra' i wneud digon o arian heb orfod slafio am dano fo, mi fydda' i'n berffaith fodlon.

ANN

Nid arian ydy' popeth, Lewis. A pheth arall—wyt ti'n siwr ei fod o'n arian gonest?

LEWIS

Beth wyt ti'n drio'i awgrymu?

ANN

Dim ond rhywbeth glywais i am dy bartner di,

LEWIS

Dic Lloyd? Beth amdano fo?

ANN

'Does gan neb air da iawn iddo fo, coelia fi. Hwyrach na wyddost ti mo hynny. Ond da ti, bydd yn ofalus.

LEWIS

Twt lol—cenfigen, a dim arall! Fedar pobol y dre yma ddim diodde' gweld neb yn mynd yn ei flaen. Mae llwyddiant dynion ifanc fel draenen yn eu cnawd nhw. A mi wnan' hynny fedran' nhw i wneud lobscows o bopeth.

TOMOS

(yn sydyn) Beth ddwedaist ti—lobscows? (Neidio i fyny.) Ar fengoch i!

BENJA

Be' sy'n bod, Tomos Morgan?

TOMOS

Tatws Dora eisio'u plicio. Llond dwy bwced ohonyn' nhw!



Mynd at y drws. Clywir DORA draw yn galw "TOMOS"!

TOMOS

Arswyd y byd! (Rhedeg yn ei ol, gafael yn y bocs a rhuthro allan.)



Llen Gyflym. Y diwrnod canlynol. Mae TOMOS wrthi'n pilio'r tatws sydd mewn bwced o'i flaen. Ar ôl ennyd neu ddau daw DORA i mewn â'r bocs yn ei dwylo.

DORA

Tomos!

TOMOS

Ia, Dora!

DORA

Beth ydy'r bocs yma?

TOMOS

Bocs? O, dim byd neilltuol, Dora. Wyddoch chi—wel bocs mewn ffordd o siarad—

DORA

Beth sydd ynddo fo?

TOMOS

Beth sydd ynddo fo?... y... be' ydach chi'n 'i alw... y... pryfaid genwair.

DORA

Be! (Gollwng y bocs ar y bwrdd.) Ach y fi! Beth ydy'ch meddwl chi d'wedwch? I be' mae nhw'n dda?

TOMOS

Wel—i ddal pysgod.

DORA

Ond fyddwch chi byth yn mynd i bysgota!

TOMOS

Na, na—ei cadw nhw i Benja 'rydw' i, Dora. Mae o wedi addo brithyll i mi am danyn' nhw.

DORA

Felly wir. Ond mae yna glo arno fo!

TOMOS

Oes siwr.

a1, g1