Y Gŵr Drwg

Ciw-restr ar gyfer BENJA

(DORA) Tomos, be' ydych chi'n 'i wneud?
 
(DORA) Mae'r dyn o'i go'n lân.
(1, 1) 137 Helo, Tomos Morgan.
(1, 1) 138 Fi sydd 'ma.
(1, 1) 139 Ydy' hi'n glir?
(TOMOS) Ydy', Benja.
 
(Tomos) Siawns y cawn ni lonydd am funud neu ddau.
(1, 1) 145 Ydach chi'n siwr?
(1, 1) 146 Beth am y misus?
(TOMOS) Newydd fynd allan ar negas.
 
(TOMOS) Ia, reit siwr.
(1, 1) 152 Wedi ei gwisgo mewn du oedd hi, dwedwch?
(TOMOS) Ia, du fel y frân.
 
(TOMOS) Ia, du fel y frân.
(1, 1) 154 Be—ydy' hi wedi colli rhywun?
(TOMOS) Ydy'.
 
(TOMOS) Ei gŵr.
(1, 1) 159 Ydach chi'n teimlo'n iawn, Tomos Morgan?
(TOMOS) Ydw', cystal â'r disgwyliad.
 
(TOMOS) Pam?
(1, 1) 162 Wel hwyrach mai fi wnaeth eich cam-ddeall chi.
(TOMOS) Cam-ddeall be?
 
(TOMOS) Cam-ddeall be?
(1, 1) 164 Wel yr hyn dd'wedsoch chi rwan—bod y misus wedi colli ei gŵr.
(1, 1) 165 Ond wrth gwrs, fi'n sy'n gwneud camgymeriad.
(TOMOS) Wnest ti ddim camgymeriad o gwbwl.
 
(TOMOS) Dyna'n hollol a dd'wedais i.
(1, 1) 168 Maddeuwch i mi, Tomos Morgan, ond 'dydach chi ddim yn edrach fel 'taech chi wedi marw.
(TOMOS) Nid am danaf fy hun 'roeddwn i'n son, y twpyn.
 
(TOMOS) Am ei gŵr cynta' hi—yr anfarwol William!
(1, 1) 171 O, 'rydw' i'n gweld rwan....
(1, 1) 172 Ond sut fedar o fod yn anfarwol os ydy' o wedi marw?
(TOMOS) Mi ddeallit ti hynny, Benja, 'taet ti'n byw yn y tŷ yma.
 
(TOMOS) Mae o wedi mynd yn stwmp ar fy stumog i.
(1, 1) 176 Wel ydy', mi greda i.
(TOMOS) A mae hi'n waeth nag arfer heddiw, wrth gwrs.
 
(TOMOS) A mae hi'n waeth nag arfer heddiw, wrth gwrs.
(1, 1) 178 O?
(TOMOS) Diwrnod pen-blwydd, wyt ti'n gweld.
 
(TOMOS) Diwrnod pen-blwydd, wyt ti'n gweld.
(1, 1) 180 Pen-blwydd?
(TOMOS) Ia—pen-blwydd ei farwolaeth o, ddeng mlynedd yn ôl.
 
(TOMOS) Aros am funud, mae yna amser am gêm bach os byddwn ni'n handi.
(1, 1) 189 Tipyn o fentar ydy' priodi, Tomos Morgan.
(1, 1) 190 Yn enwedig am yr ail dro.
(1, 1) 191 Mae yna lawer i ddweud dros bod yn hen lanc.
(TOMOS) Oes, reit siwr.
 
(TOMOS) Yn un peth, mae hi wedi bod yn od o ffeind efo Lewis, yr hogyn yma.
(1, 1) 198 Sut mae o, y dyddia' yma?
(TOMOS) Digon ansefydlog, fachgan.
 
(TOMOS) Mi gafodd o amser go ddrwg allan yn Affrica, wyddost ti.
(1, 1) 202 Do—a heb ddwad dros hynny mae o reit siwr.
(1, 1) 203 Amser sydd arno fo eisio.
(TOMOS) O mi ddaw o—dim cwestiwn o hynny.
 
(TOMOS) A hwyrach y medar Ann helpu i sadio dipyn arno fo.
(1, 1) 206 Ann?
(TOMOS) Ia, ia—wyddost ti, y ferch ifanc sy'n aros yma.
 
(TOMOS) Mae hi'n gweithio efo Jones y Twrna'.
(1, 1) 209 O ia.
(1, 1) 210 Be—ydy' hi a Lewis yn canlyn?
(TOMOS) Wel ydy', rhyw gybodlian fel y byddwn ni'n dweud...
 
(TOMOS) Mi ydw'i am roi andros o gweir i ti heddiw, Benja.
(1, 1) 214 O, cyn i mi ddechra', Tomos Morgan.
(1, 1) 215 Mi ydw i wedi gwneud rhyw ddau ne' dri o fân betha i chi gael eu gwerthu.
(1, 1) 216 Mae nhw yn y parsel yma gen i.
(TOMOS) {Eu cymryd} Wel ardderchog, Benja!
 
(TOMOS) "Look here," medda' fi wrtho fo, "Wooden spoon belonging to the grandmother of Owen Glyndwr."
(1, 1) 227 Go dda!
(1, 1) 228 Beth oedd o go iawn?
(TOMOS) Pric-pwdin Dora.
 
(TOMOS) Pric-pwdin Dora.
(1, 1) 230 A mi lyncodd y stori?
(TOMOS) Do—a phrynu'r lwy bren!
 
(TOMOS) Wyddost ti faint sydd ynddo fo rwan?
(1, 1) 235 Wel rhoswch chi—na 'does gen i ddim syniad.
(TOMOS) Can punt, 'rhen fach.
 
(TOMOS) Can punt ond chwe' cheiniog.
(1, 1) 238 Be!
(TOMOS) Ffaith iti.
 
(TOMOS) Roeddwn i'n eu cyfri' nhw gynna'.
(1, 1) 241 Arswyd y byd!
(TOMOS) I gyd ar yr achos da, Benja.
 
(TOMOS) Yr hen gwdihŵ gebyst!
(1, 1) 247 Hidiwch chi befo.
(1, 1) 248 Mi lwyddwn er ei gwaetha' hi a'i siort.
(1, 1) 249 Sut mae ganddyn nhw galon i edrach ar hen begnos yn cicio'u sodlau ar gongla'r strydoedd yma dwedwch?
(TOMOS) Dim arall i' ddisgwyl—dyna'u hanes nhw erioed wyddost ti...
 
(1, 1) 253 Wel, mi dria' i o'n fan'ma, Tomos Morgan.
(TOMOS) {Symud} A dyna i ti gi-defaid i' gornelu o, 'rhen fach!
 
(TOMOS) {Symud} A dyna i ti gi-defaid i' gornelu o, 'rhen fach!
(1, 1) 255 O, peidiwch â bod yn rhy siwr rwan, peidiwch â bod yn rhy siwr!
(1, 1) 256 Rhoswch am funud.
 
(TOMOS) Yn hollol groes i f'egwyddorion i.
(1, 1) 262 O mi ydw' i'n reit chwannog i ddiferyn dros y galon rwan ac yn y man.
(1, 1) 263 Yn enwedig y tywydd oer yma. {Yfed o'r botel.}
(TOMOS) Mae o'n iawn fel ffisig, Benja.
 
(TOMOS) Ond am lymeitian mewn gwaed oer—na, 'dydy' o ddim yn iawn rhywsut.
(1, 1) 267 Ond i gyn'esu'ch gwaed chi mae o'n dda, Tomos Morgan...
(1, 1) 268 Ydach chi wedi symud, dwedwch?
(TOMOS) Na, mi ydw' i'n disgwyl wrthyt ti.
 
(TOMOS) Tyrd yn dy flaen.
(1, 1) 271 Reit.
(1, 1) 272 'Rhoswch chi, 'rhoswch chi, 'rhoswch chi. {Astudio'r bwrdd drafft.}.
(1, 1) 273 Mi dria'i hwn yn fan'ma, 'rydw i'n meddwl. {Mynd i symud ond tynnu'n ol.}
(1, 1) 274 Na, hanner munud, hanner munud, hanner munud.
(TOMOS) Gwna dy feddwl i fyny, da ti!
 
(TOMOS) 'Rwyt ti 'run fath â hen iâr yn methu dodwy.
(1, 1) 277 Dyna fo rwan.
 
(1, 1) 280 Duwcs annwyl, Tomos Morgan, be' sy'n bod?
(TOMOS) {Dal i besychu} Hen anwyd yn dechra' magu ar fy mrest i, fachgan.
 
(TOMOS) {Dal i besychu} Hen anwyd yn dechra' magu ar fy mrest i, fachgan.
(1, 1) 282 Wyddoch chi be, mae o'n swnio'n ddigon drwg.
(1, 1) 283 Rhaid i chi gymryd gofal ohonno fo.
 
(TOMOS) Na, na, mi fydda' i'n iawn mewn munud.
(1, 1) 286 Ond 'does yna ddim allan o'i le ynddo fo mewn gwaeledd meddech chi.
(TOMOS) Be?
 
(TOMOS) A phob llwyddiant i Gaban yr Hynafgwyr!
(1, 1) 296 "Caban yr Hynafgwyr"!
(TOMOS) Diaist i, 'roeddit ti'n iawn, Benja!
 
(TOMOS) Yli, mi ydw' i am neidio dau i ti.
(1, 1) 305 Ar fengoch i, welais i mo hwnna...
(1, 1) 306 Ond hidiwch befo—mi gymera inna hwn.
(1, 1) 307 A gwnewch o'n geiliog i mi, Tomos Morgan!
(TOMOS) Diaist i, 'rwyt ti'n gwella yn dy chware, fachgan.
 
(TOMOS) Mi ddoi di, gyda gofal a bwyd llwy.
(1, 1) 312 D'wedwch wrtha' i, Tomos Morgan—
(1, 1) 313 TOMOS
(1, 1) 314 Wel?
(1, 1) 315 Fyddwch chi ddim blys rhoi swlltyn ar geffyl weithia?
(TOMOS) Be'ddwedaist ti!
 
(TOMOS) Paid byth a sôn am y fath beth wrtha' i!
(1, 1) 319 Ond dim ond meddwl 'roeddwn i.
(1, 1) 320 Hynny ydy'—wel wyddoch chi, cael chwanneg o arian at y Caban a—
(TOMOS) Arian anonest, halogedig?
 
(TOMOS) Rwy'n synnu atat ti'n awgrymu'r fath beth!
(1, 1) 325 O wel, dyna fo.
(1, 1) 326 Lles yr hen begnos oedd gen' i mewn golwg, ynte.
(1, 1) 327 Dim bai ar y cynnig—
(TOMOS) Fynna'i i ddim baeddu fy nwylo efo aur llygredig, Benja.
 
(TOMOS) Rhaid i mi gofio golchi hon cyn i Dora ddwad yn ei hôl, ne mi fydd yma andros o le!
(1, 1) 331 Wyddoch chi be', Tomos Morgan—wrth i chi sôn am wragedd blin?
(TOMOS) Pwy oedd yn sôn am wragedd blin?
 
(TOMOS) Pwy oedd yn sôn am wragedd blin?
(1, 1) 333 Wel dyna roeddech chi'n 'i awgrymu dan eich gwynt, ynte!
(1, 1) 334 Hyn oedd gen' i i' ddweud: mae yna ddynion mawr iawn wedi cael 'run helbul â chi o dro i dro.
(TOMOS) O?
 
(TOMOS) O?
(1, 1) 336 Dyna i chi Socrates, er enghraifft.
(1, 1) 337 Hen feudan stormus oedd Santhipa, ei wraig o, medda' nhw.
(TOMOS) Felly wir?
 
(TOMOS) Felly wir?
(1, 1) 339 Ia—a dyna pam 'raeth o ati i sgwennu llyfra', i anghofio'i boen a'i helbul.
(TOMOS) Fe wnaeth beth call iawn!
 
(TOMOS) P'le ddarllenaist ti am hyn, dwed?
(1, 1) 342 Mewn hen lyfr sydd gen' i yn y tŷ acw.
(1, 1) 343 Wyddoch chi be' arall sydd ynddo fo?
(TOMOS) Na wn i, be?
 
(TOMOS) Na wn i, be?
(1, 1) 345 Hanes yr hen Ddoctor Ffawstws.
(1, 1) 346 Glywsoch chi am Doctor Ffawstws?
(TOMOS) Aros di rwan—Doctor Ffawstws—meddyg esgyrn oedd o dwed?
 
(TOMOS) Aros di rwan—Doctor Ffawstws—meddyg esgyrn oedd o dwed?
(1, 1) 348 Twt, twt, choelia' i fawr!
(1, 1) 349 Ydach chi ddim yn gwybod?
(1, 1) 350 Y dyn hwnnw werthodd ei enaid i'r diafol ers talwm.
(TOMOS) Bobol annwyl!
 
(TOMOS) Gwraig flin oedd ganddo ynta' hefyd?
(1, 1) 354 Wn i ddim, ond synnwn i flewyn.
(TOMOS) Mae o'n swnio'n llyfr diddorol dros ben, fachgan.
 
(TOMOS) Ydy' o'n dweud yn hollol sut i godi'r Gŵr Drwg?
(1, 1) 357 Ydy'—y manylion i gyd.
(1, 1) 358 Leiciech chi gael golwg arno fo?
(TOMOS) Leiciwn.
 
(TOMOS) Ond cymer ofal rhag i Dora 'i weld o, wyt ti'n deall?
(1, 1) 362 O mi wna' i, peidiwch â phryderu.
(1, 1) 363 Mi ro'i o mewn papur llwyd—wêl hi mo'i deitl o wedyn.
(TOMOS) O, helo Ann.
 
(TOMOS) Miss Ann Thomas—Benja.
(1, 1) 378 Sut 'rydach chi, Miss Thomas?
(ANN) Reid dda, diolch.
 
(ANN) Dy hunan-dosturi a'th ddifaterwch.
(1, 1) 444 Ia, siwr o fod.
(LEWIS) Wnes i ddim gofyn am eich barn chi, Benja.
 
(LEWIS) Wnes i ddim gofyn am eich barn chi, Benja.
(1, 1) 446 Ond 'doeddwn i ddim ond pethma, Lewis.
(LEWIS) Wel peidiwch â phethma, da chi!
 
(TOMOS) {Neidio i fyny.} Ar fengoch i!
(1, 1) 473 Be' sy'n bod, Tomos Morgan?