Y Gŵr Drwg

Ciw-restr ar gyfer DORA

 
(1, 1) 5 Tomos, be' ydych chi'n 'i wneud?
(TOMOS) Eistedd i lawr, Dora.
 
(TOMOS) Eistedd i lawr, Dora.
(1, 1) 7 Mi ydw' i'n gweld hynny'n iawn.
(1, 1) 8 Dim rhaid i chi bwysleisio peth sy'n hollol amlwg.
(TOMOS) Wnes i ddim ond ateb eich cwestiwn chi, Dora.
 
(TOMOS) Beth arall fedrwn i 'i ddweud?
(1, 1) 11 Nid beth dd'wedsoch chi, ond y ffordd y dywedsoch chi o sy'n amheus.
(TOMOS) Amheus?
 
(TOMOS) Dydw' i ddim yn deall.
(1, 1) 14 Peidiwch â thrio edrych yn ddiniwed, Tomos.
(1, 1) 15 'Rydych chi'n gollwng y gath o'r cwd bob tro.
(1, 1) 16 Mae yna rywbeth yn euog o'ch cwmpas chi'n ddiweddar yma.
(TOMOS) Ond Dora fach, oes yna rywbeth allan o'i le mewn munud o seibiant, a bwrw golwg dros y papur newydd yma?
 
(TOMOS) Ond Dora fach, oes yna rywbeth allan o'i le mewn munud o seibiant, a bwrw golwg dros y papur newydd yma?
(1, 1) 18 Mae hi'n braf iawn arnoch chi'n medru llaesu dwylo a hitha' mor brysur arno' ni yma!
(TOMOS) Wel ia, ond 'does yna ddim diben—
 
(TOMOS) Wel ia, ond 'does yna ddim diben—
(1, 1) 20 Faint o seibiant 'rydw' i'n ei gael?
(1, 1) 21 Dim munud awr o fore tan nos.
(1, 1) 22 Gweithio fy mysedd i'r esgyrn, ac ar alwad pawb yn ddibaid.
(1, 1) 23 Ia, a hynny heb rwgnach hefyd, fel 'rydw' i wiriona'—
(TOMOS) Ond Dora—
 
(TOMOS) Ond Dora—
(1, 1) 25 Peidiwch â dadla', Tomos.
(1, 1) 26 Rydych chi'n gwybod yn iawn 'mod i'n dweud y gwir.
(1, 1) 27 Os ydych chi am gadw gwesty heddiw, mae'n rhaid i chi fodloni ar fod yn gaethwas.
(TOMOS) Diaist i, os 'rydych chi'n gaethwas, be' ydw' i?
 
(TOMOS) Diaist i, os 'rydych chi'n gaethwas, be' ydw' i?
(1, 1) 29 Wel edrychwch arnoch eich hun, yn llybindian a chlertian o gwmpas fel hyn.
(1, 1) 30 Ac yn smocio fel corn simdde'.
(1, 1) 31 Ydych chi'n fy ngweld i'n gwneud?
(TOMOS) Be—smocio fel corn simdde?
 
(TOMOS) Be—smocio fel corn simdde?
(1, 1) 33 Peidiwch â chellwair.
(1, 1) 34 'Rydych chi'n gwybod be' 'rydw i'n ei feddwl yn iawn.
(1, 1) 35 Bob faint fyddwch chi'n fy ngweld i'n segura?
(TOMOS) Dim ond pob pnawn, Dora, pan ddaw Mrs. Vaughan Davies yma.
 
(TOMOS) Dim ond pob pnawn, Dora, pan ddaw Mrs. Vaughan Davies yma.
(1, 1) 37 Rhag eich c'wilydd chi, Tomos!
(1, 1) 38 Hi ydy' un o'n cwsmeriaid gora' ni.
(1, 1) 39 Ac yn aelod blaenllaw o Gyngor y Dre.
(1, 1) 40 Ydach chi'n gwarafun munud o sgwrs dros banned o de?
(TOMOS) Dim o gwbwl.
 
(TOMOS) Mi gewch straeona am ddwy awr o'm rhan i!
(1, 1) 43 Straeona, ddwedsoch chi?
(1, 1) 44 Straeona?
(1, 1) 45 Heblaw ei fod o'n gyhuddiad creulon, mae o'n gelwydd noeth.
 
(TOMOS) Chi oedd yn siarad tra 'roeddwn i'n darllen, Dora.
(1, 1) 48 'Does gennych chi ddim amser i ddarllen.
(1, 1) 49 Mi wyddoch y bydd yma lond y lle i ginio.
(1, 1) 50 Mae yna ddwy bwcedaid o datws yn y gegin eisio cael eu plicio.
(1, 1) 51 Mi fydda' i'n disgwyl y byddan' nhw'n barod pan ddo' i'n ôl.
(1, 1) 52 Fydda' i ddim yn hir.
(TOMOS) Welsoch chi fy rasal i, Dora?
 
(TOMOS) Welsoch chi fy rasal i, Dora?
(1, 1) 54 Rasal?
(1, 1) 55 I be 'rydach chi eisio honno?
(TOMOS) Dim ond meddwl y buaswn i'n shafio dipyn o gwsberis tra y bydda' i wrthi—!
 
(TOMOS) Dim ond meddwl y buaswn i'n shafio dipyn o gwsberis tra y bydda' i wrthi—!
(1, 1) 57 Edrychwch yma, Tomos, 'dydw i ddim mewn tymer i'ch ffraethineb chi heddiw o bob diwrnod.
(1, 1) 58 Da chi, triwch gysidro.
(TOMOS) Cysidro be'?
 
(TOMOS) Cysidro be'?
(1, 1) 60 Ydach chi ddim wedi sylwi 'mod i mewn du?
(TOMOS) Wel ia, erbyn i chi ddweud.
 
(TOMOS) Be sy'n bod—ydach chi'n mynd i gyn'ebrwng rhywun?
(1, 1) 63 Cynhebrwng?
(1, 1) 64 Prin y medrech chi ddweud dim creulonach, 'taech chi'n sylweddoli hynny.
(TOMOS) Mae'n ddrwg gen' i os gwnes i gamgymeriad.
 
(TOMOS) Fedra' i feddwl am ddim arall—os nad dillad du ydy'r ffasiwn newydd.
(1, 1) 68 Da chi, peidiwch â rhwbio halen i'r briw.
(1, 1) 69 Ddeng mlynedd i heddiw y collais i William annwyl. {Eistedd i lawr.}
(TOMOS) {Yn ddifater} O, hwnnw'!
 
(TOMOS) {Yn ddifater} O, hwnnw'!
(1, 1) 71 Gofalwch be' rydach chi'n 'i ddweud, Tomos.
(1, 1) 72 Mae'n ddyletswydd anrhydeddus arna'i i barchu co' fy ngŵr cynta'.
(1, 1) 73 Heddwch i'w lwch!
(TOMOS) Ia—mae hi'n reit braf arno fo!
 
(TOMOS) Ia—mae hi'n reit braf arno fo!
(1, 1) 75 Beth ydach chi'n 'i feddwl?
(TOMOS) Wel, wyddoch chi, allan o stormydd bywyd.
 
(TOMOS) Cyrraedd hafan ar ôl y ddrycin, mewn ffordd o siarad.
(1, 1) 79 Ia, mae hynna'n llythrennol wir.
(1, 1) 80 Yn y storm ofnadwy honno ddeng mlynedd yn ôl, yr aeth ei long o i'r gwaelod. {Codi a mynd at y ffenestr.}
(1, 1) 81 Ac er y dydd hwnnw, mae'r hen fôr milain, creulon acw'n atgas gen' i.
(1, 1) 82 'Dydw i byth yn clywed swn ei donnau heb glywed hefyd chwerthiniad iach fy nghariad cyntaf.
(1, 1) 83 Fedra' i byth edrych ar y tywod heb feddwl am ei esgyrn annwyl yn gymysg â'r gwmon.
(1, 1) 84 Ddaw'r llanw byth i mewn heb lenwi fy nghalon â hiraeth dwys.
(1, 1) 85 Mae cri'r wylan ar adennydd y gwynt yn dennu deigryn o'm llygaid.
(TOMOS) Oes yma ddigon o nionod at ginio heddiw, Dora?
 
(TOMOS) Oes yma ddigon o nionod at ginio heddiw, Dora?
(1, 1) 87 Sut fedrwch chi fod mor ddideimlad, Tomos?
(1, 1) 88 Ond beth arall sydd 'i ddisgwyl?
(1, 1) 89 'Does gennych chi ddim mwy o ramant na chwningan!
(TOMOS) Fedra i feddwl am 'run creadur mwy rhamantus na honno!
 
(TOMOS) Hynny ydy—'does gennych chi fawr o awydd gweithio heddiw, mae'n debyg, yng nghanol eich hiraeth—
(1, 1) 94 Mi fydda' i bob amser yn meistroli fy nheimlada', fe ddylech wybod hynny.
(1, 1) 95 Hyd yn oed mewn trallod, mi fydda' i'n trio meddwl am eraill.
(1, 1) 96 Ac os oes arnoch chi eisio gwybod, nionod-picl fydd yna i ginio heddiw.
(1, 1) 97 Felly mi gewch sbario'ch trafferth.
(TOMOS) Dim trafferth o gwbwl, Dora.
 
(TOMOS) Pleser o'r mwya'.
(1, 1) 102 Mae gen' i eisio mynd allan ar negas, Lewis.
(1, 1) 103 Wnei di gadw dy lygaid yn agored rhag ofn i rywun alw?
(1, 1) 104 Mi fydd dy dad yn brysur yn y gegin.
(LEWIS) {Swta} O'r gora. {Dod o hyd i'w lyfr.}
 
(TOMOS) Mae o'n cael anhawster mawr i setlo i lawr ar ôl dwad o'r fyddin.
(1, 1) 110 Wel, mi ydw' i wedi gwneud fy ngora' iddo fo, Tomos.
(1, 1) 111 'Tawn i'n fam iddo fo, fedrwn i wneud dim mwy.
(1, 1) 112 Ond 'dwn i ddim ydy' f'ymdrechion i'n cael eu gwerthfawrogi.
(TOMOS) O mi fedra' i'ch sicrhau chi o hynny, Dora.
 
(TOMOS) A dweud y gwir, 'does yna ddim ond un peth sydd wedi amharu ar ein hapusrwydd ni.
(1, 1) 116 A be ydy' hwnnw?
(TOMOS) William.
 
(TOMOS) William.
(1, 1) 118 'Does arna' i ddim eisio trafod hynny rwan, Tomos.
(1, 1) 119 Mi fydda' i'n ddiolchgar os gwnewch chi barchu fy nheimladau. {Troi oddiwrtho.}
(1, 1) 120 William annwyl!
(1, 1) 121 Deng mlynedd—!
(TOMOS) Dora.
 
(TOMOS) Dora.
(1, 1) 123 Ia?
(TOMOS) Wyddoch chi be fydda'i i'n feddwl weithia?
 
(TOMOS) Wyddoch chi be fydda'i i'n feddwl weithia?
(1, 1) 125 Wel?
(TOMOS) Peidiwch â chwerthin am fy mhen i, ond 'tae ni'n dau wedi cael plentyn, mi fuase' ni agosach o lawer at ein gilydd heddiw.
 
(TOMOS) Peidiwch â chwerthin am fy mhen i, ond 'tae ni'n dau wedi cael plentyn, mi fuase' ni agosach o lawer at ein gilydd heddiw.
(1, 1) 127 'Tae ni wedi cael plentyn?
(1, 1) 128 Tomos, peidiwch â siarad mor anweddus, wnewch chi!
(1, 1) 129 Ewch i'r cefn at y tatws yna, cyn i mi anghofio fy hun.
(TOMOS) {Yn cychwyn} Yn mynd, Dora, yn mynd.
 
(TOMOS) {Yn cychwyn} Yn mynd, Dora, yn mynd.
(1, 1) 131 Yn dweud y fath beth heddiw o bob diwrnod!
(1, 1) 132 Mae'r dyn o'i go'n lân.
(BENJA) Helo, Tomos Morgan.
 
(TOMOS) Arswyd y byd! {Rhedeg yn ei ol, gafael yn y bocs a rhuthro allan.}
(1, 1) 483 Tomos!
(TOMOS) Ia, Dora!
 
(TOMOS) Ia, Dora!
(1, 1) 485 Beth ydy'r bocs yma?
(TOMOS) Bocs?
 
(TOMOS) Wyddoch chi—wel bocs mewn ffordd o siarad—
(1, 1) 489 Beth sydd ynddo fo?
(TOMOS) Beth sydd ynddo fo?... y... be' ydach chi'n 'i alw... y... pryfaid genwair.
 
(TOMOS) Beth sydd ynddo fo?... y... be' ydach chi'n 'i alw... y... pryfaid genwair.
(1, 1) 491 Be!
 
(1, 1) 493 Beth ydy'ch meddwl chi d'wedwch?
(1, 1) 494 I be' mae nhw'n dda?
(TOMOS) Wel—i ddal pysgod.
 
(TOMOS) Wel—i ddal pysgod.
(1, 1) 496 Ond fyddwch chi byth yn mynd i bysgota!
(TOMOS) Na, na—ei cadw nhw i Benja 'rydw' i, Dora.
 
(TOMOS) Mae o wedi addo brithyll i mi am danyn' nhw.
(1, 1) 499 Felly wir.
(1, 1) 500 Ond mae yna glo arno fo!