Y Gŵr Drwg

Ciw-restr ar gyfer LEWIS

(DORA) Tomos, be' ydych chi'n 'i wneud?
 
(TOMOS) Sut dempar heddiw, machgan i?
(1, 1) 107 Mi ydw i'n iawn ond i mi gael llonydd. {Mynd allan.}
(TOMOS) Mi ydw i'n ddigon pryderus ynghylch yr hogyn yma.
 
(TOMOS) Wrthi'n rhoi cweir iddo fo ar y bwrdd drafft yma 'roeddwn i, Ann.
(1, 1) 383 Be' sy'n bod, Nhad?
(TOMOS) O dim ond bod Ann yma, dyna'r cwbwl, Lewis.
 
(ANN) Fuost di ddim yn dy waith heddiw?
(1, 1) 389 Dydy' o ddim yn edrych yn debyg, nag ydy'?
(1, 1) 390 Ne fuaswn i ddim yma rwan.
(ANN) Be'—wyt ti wedi dechra' ar dy wylia'n barod?
 
(ANN) Be'—wyt ti wedi dechra' ar dy wylia'n barod?
(1, 1) 392 Naddo.
(1, 1) 393 'Doeddwn i ddim yn teimlo fel gweithio heddiw, dyna'r cyfan.
(ANN) Wyt ti'n meddwl bod hynny'n beth doeth, Lewis?
 
(ANN) Wyt ti'n meddwl bod hynny'n beth doeth, Lewis?
(1, 1) 395 Pa un ai doeth neu annoeth, 'dydy' o 'run gronyn o wahaniaeth gen' i, Ann.
(1, 1) 396 Mi ge's i lond fy mol ar stiwardio yn y fyddin: o dan draed pob siort am bum mlynedd; yn is na chaethwas.
(ANN) Ond mae hynny drosodd 'rwan, Lewis.
 
(ANN) Ond mae hynny drosodd 'rwan, Lewis.
(1, 1) 398 Ydy', rwy'n gwybod.
(1, 1) 399 Dyna pan 'rydw' i'n llacio'r tresi a mwynhau tipyn o ryddid am dro.
(ANN) Ond difaterwch ydy' hyn, nid rhyddid.
 
(1, 1) 403 Byw o ddiwrnod i ddiwrnod—dyna fy nghred i o hyn ymlaen.
(ANN) Mi ydw' i'n siomedig iawn ynot ti, Lewis.
 
(ANN) Mi ydw' i'n siomedig iawn ynot ti, Lewis.
(1, 1) 405 Mae'n ddrwg gen' i am hynny.
(ANN) Ond wyt ti ddim yn gweld dy gamsyniad?
 
(ANN) Fedri di mo'i daflu o i ffwrdd fel hen ddilledyn.
(1, 1) 409 Wyddost ti beth, Ann—rwyt ti wedi gweithio' rhy hir yn offis Jones.
(1, 1) 410 'Rwyt ti wedi mynd i siarad yn union 'run fath â thwrna'.
(TOMOS) Ara' deg rwan, Lewis, ara' deg.
 
(1, 1) 416 Dyna 'rydach chi i gyd yn 'i wneud.
(1, 1) 417 Busnesu felldith 'rydw' i'n ei alw fo.
(1, 1) 418 Pam aflwydd na cha' i lonydd i fyw fy mywyd fel 'rydw i'n dewis?
(1, 1) 419 Mae gan bob dyn hawl i hynny, gobeithio!
(1, 1) 420 'Dydw' i'n gwneud drwg i affliw o neb.
(ANN) 'Rwyt ti'n gwneud drwg mawr i ti dy hun beth bynnag.
 
(ANN) 'Rwyt ti'n gwneud drwg mawr i ti dy hun beth bynnag.
(1, 1) 422 Mater i mi ydy' hynny, Ann.
(TOMOS) 'Rwyt ti'n gwneud camgymeriad mawr, 'machgen i.
 
(TOMOS) Mi ydw' i wedi trio 'ngora.
(1, 1) 427 Edrychwch yma, Nhad, peidiwch â meddwl 'mod i'n anniolchgar.
(1, 1) 428 'Dydw'i ddim.
(1, 1) 429 'Rwy'n gwybod eich bod yn trio fy narbwyllo i mai chi sy'n iawn.
(1, 1) 430 Tithau hefyd, Ann.
(1, 1) 431 Ond da chi ceisiwch sylweddoli bod yr ymyrryd parhaus yma'n mynd yn fwrn arna'i!
(1, 1) 432 Triwch gofio mai 'rwan 'rydw i'n profi gwir ryddid am y tro cynta'.
(1, 1) 433 Dwy flynedd ge's i ar ôl yr ysgol cyn i'r fyddin fy nghipio i ffwrdd.
(1, 1) 434 Pum mlynedd wedyn o grwydro dros hanner y byd efo gwn yn fy llaw.
(1, 1) 435 A mi ydach chi'n disgwyl i mi setlo i lawr yn syth i fywyd cul y dre' fach hunan-gyfiawn yma!
(1, 1) 436 Ydach chi ddim yn gweld 'mod i eisio amser i gael fy ngwynt ataf?
(TOMOS) Wel, 'rwyt ti wedi cael blwyddyn, wyddost ti.
 
(TOMOS) Wel, 'rwyt ti wedi cael blwyddyn, wyddost ti.
(1, 1) 438 Twt, beth ydy' blwyddyn?
(ANN) Mae 'run fath i ti ag i filoedd o hogia' eraill, Lewis.
 
(ANN) Be' sy'n fy siomi i ydy' dy agwedd di at fywyd.
(1, 1) 442 Beth wyt ti'n ei feddwl?
(ANN) Dy hunan-dosturi a'th ddifaterwch.
 
(BENJA) Ia, siwr o fod.
(1, 1) 445 Wnes i ddim gofyn am eich barn chi, Benja.
(BENJA) Ond 'doeddwn i ddim ond pethma, Lewis.
 
(BENJA) Ond 'doeddwn i ddim ond pethma, Lewis.
(1, 1) 447 Wel peidiwch â phethma, da chi!
(1, 1) 448 Mae yna ddigon yn fy mhen i fel y mae hi, heb i chi roi eich pig i mewn.
(ANN) Y ffaith am dani, Lewis, 'chymeri di mo dy feirniadu.
 
(ANN) 'Rwyt ti wedi colli pob uchelgais i bob golwg.
(1, 1) 451 Sut felly?
(ANN) Wel, edrych arnat dy hun.
 
(ANN) A dyma ti heddiw yn prynu a gwerthu ceir ail-law!
(1, 1) 455 Oes yna rywbeth o'i le yn hynny?
(ANN) Nid dyna'r cwestiwn—
 
(ANN) Nid dyna'r cwestiwn—
(1, 1) 457 Os medra' i wneud digon o arian heb orfod slafio am dano fo, mi fydda' i'n berffaith fodlon.
(ANN) Nid arian ydy' popeth, Lewis.
 
(ANN) A pheth arall—wyt ti'n siwr ei fod o'n arian gonest?
(1, 1) 460 Beth wyt ti'n drio'i awgrymu?
(ANN) Dim ond rhywbeth glywais i am dy bartner di,
 
(ANN) Dim ond rhywbeth glywais i am dy bartner di,
(1, 1) 462 Dic Lloyd?
(1, 1) 463 Beth amdano fo?
(ANN) 'Does gan neb air da iawn iddo fo, coelia fi.
 
(ANN) Ond da ti, bydd yn ofalus.
(1, 1) 467 Twt lol—cenfigen, a dim arall!
(1, 1) 468 Fedar pobol y dre yma ddim diodde' gweld neb yn mynd yn ei flaen.
(1, 1) 469 Mae llwyddiant dynion ifanc fel draenen yn eu cnawd nhw.
(1, 1) 470 A mi wnan' hynny fedran' nhw i wneud lobscows o bopeth.