Y Gŵr Drwg

Ciw-restr ar gyfer TOMOS

(DORA) Tomos, be' ydych chi'n 'i wneud?
 
(DORA) Tomos, be' ydych chi'n 'i wneud?
(1, 1) 6 Eistedd i lawr, Dora.
(DORA) Mi ydw' i'n gweld hynny'n iawn.
 
(DORA) Dim rhaid i chi bwysleisio peth sy'n hollol amlwg.
(1, 1) 9 Wnes i ddim ond ateb eich cwestiwn chi, Dora.
(1, 1) 10 Beth arall fedrwn i 'i ddweud?
(DORA) Nid beth dd'wedsoch chi, ond y ffordd y dywedsoch chi o sy'n amheus.
 
(DORA) Nid beth dd'wedsoch chi, ond y ffordd y dywedsoch chi o sy'n amheus.
(1, 1) 12 Amheus?
(1, 1) 13 Dydw' i ddim yn deall.
(DORA) Peidiwch â thrio edrych yn ddiniwed, Tomos.
 
(DORA) Mae yna rywbeth yn euog o'ch cwmpas chi'n ddiweddar yma.
(1, 1) 17 Ond Dora fach, oes yna rywbeth allan o'i le mewn munud o seibiant, a bwrw golwg dros y papur newydd yma?
(DORA) Mae hi'n braf iawn arnoch chi'n medru llaesu dwylo a hitha' mor brysur arno' ni yma!
 
(DORA) Mae hi'n braf iawn arnoch chi'n medru llaesu dwylo a hitha' mor brysur arno' ni yma!
(1, 1) 19 Wel ia, ond 'does yna ddim diben—
(DORA) Faint o seibiant 'rydw' i'n ei gael?
 
(DORA) Ia, a hynny heb rwgnach hefyd, fel 'rydw' i wiriona'—
(1, 1) 24 Ond Dora—
(DORA) Peidiwch â dadla', Tomos.
 
(DORA) Os ydych chi am gadw gwesty heddiw, mae'n rhaid i chi fodloni ar fod yn gaethwas.
(1, 1) 28 Diaist i, os 'rydych chi'n gaethwas, be' ydw' i?
(DORA) Wel edrychwch arnoch eich hun, yn llybindian a chlertian o gwmpas fel hyn.
 
(DORA) Ydych chi'n fy ngweld i'n gwneud?
(1, 1) 32 Be—smocio fel corn simdde?
(DORA) Peidiwch â chellwair.
 
(DORA) Bob faint fyddwch chi'n fy ngweld i'n segura?
(1, 1) 36 Dim ond pob pnawn, Dora, pan ddaw Mrs. Vaughan Davies yma.
(DORA) Rhag eich c'wilydd chi, Tomos!
 
(DORA) Ydach chi'n gwarafun munud o sgwrs dros banned o de?
(1, 1) 41 Dim o gwbwl.
(1, 1) 42 Mi gewch straeona am ddwy awr o'm rhan i!
(DORA) Straeona, ddwedsoch chi?
 
(DORA) {Plwc i'r papur newydd o'i law.} A peidiwch â dal i ddarllen a finna'n siarad efoch chi.
(1, 1) 47 Chi oedd yn siarad tra 'roeddwn i'n darllen, Dora.
(DORA) 'Does gennych chi ddim amser i ddarllen.
 
(DORA) Fydda' i ddim yn hir.
(1, 1) 53 Welsoch chi fy rasal i, Dora?
(DORA) Rasal?
 
(DORA) I be 'rydach chi eisio honno?
(1, 1) 56 Dim ond meddwl y buaswn i'n shafio dipyn o gwsberis tra y bydda' i wrthi—!
(DORA) Edrychwch yma, Tomos, 'dydw i ddim mewn tymer i'ch ffraethineb chi heddiw o bob diwrnod.
 
(DORA) Da chi, triwch gysidro.
(1, 1) 59 Cysidro be'?
(DORA) Ydach chi ddim wedi sylwi 'mod i mewn du?
 
(DORA) Ydach chi ddim wedi sylwi 'mod i mewn du?
(1, 1) 61 Wel ia, erbyn i chi ddweud.
(1, 1) 62 Be sy'n bod—ydach chi'n mynd i gyn'ebrwng rhywun?
(DORA) Cynhebrwng?
 
(DORA) Prin y medrech chi ddweud dim creulonach, 'taech chi'n sylweddoli hynny.
(1, 1) 65 Mae'n ddrwg gen' i os gwnes i gamgymeriad.
(1, 1) 66 Ond yn naturiol dyna'r syniad cynta' ddaeth i 'meddwl i.
(1, 1) 67 Fedra' i feddwl am ddim arall—os nad dillad du ydy'r ffasiwn newydd.
(DORA) Da chi, peidiwch â rhwbio halen i'r briw.
 
(DORA) Heddwch i'w lwch!
(1, 1) 74 Ia—mae hi'n reit braf arno fo!
(DORA) Beth ydach chi'n 'i feddwl?
 
(DORA) Beth ydach chi'n 'i feddwl?
(1, 1) 76 Wel, wyddoch chi, allan o stormydd bywyd.
(1, 1) 77 Tu hwnt i boen a helbulon y byd.
(1, 1) 78 Cyrraedd hafan ar ôl y ddrycin, mewn ffordd o siarad.
(DORA) Ia, mae hynna'n llythrennol wir.
 
(DORA) Mae cri'r wylan ar adennydd y gwynt yn dennu deigryn o'm llygaid.
(1, 1) 86 Oes yma ddigon o nionod at ginio heddiw, Dora?
(DORA) Sut fedrwch chi fod mor ddideimlad, Tomos?
 
(DORA) 'Does gennych chi ddim mwy o ramant na chwningan!
(1, 1) 90 Fedra i feddwl am 'run creadur mwy rhamantus na honno!
(1, 1) 91 Ond peidiwch â 'nghamddeall i, Dora.
(1, 1) 92 Trio'ch helpu chi 'roeddwn i wrth son am ginio.
(1, 1) 93 Hynny ydy—'does gennych chi fawr o awydd gweithio heddiw, mae'n debyg, yng nghanol eich hiraeth—
(DORA) Mi fydda' i bob amser yn meistroli fy nheimlada', fe ddylech wybod hynny.
 
(DORA) Felly mi gewch sbario'ch trafferth.
(1, 1) 98 Dim trafferth o gwbwl, Dora.
(1, 1) 99 Pleser o'r mwya'.
(DORA) Mae gen' i eisio mynd allan ar negas, Lewis.
 
(LEWIS) {Swta} O'r gora. {Dod o hyd i'w lyfr.}
(1, 1) 106 Sut dempar heddiw, machgan i?
(LEWIS) Mi ydw i'n iawn ond i mi gael llonydd. {Mynd allan.}
 
(LEWIS) Mi ydw i'n iawn ond i mi gael llonydd. {Mynd allan.}
(1, 1) 108 Mi ydw i'n ddigon pryderus ynghylch yr hogyn yma.
(1, 1) 109 Mae o'n cael anhawster mawr i setlo i lawr ar ôl dwad o'r fyddin.
(DORA) Wel, mi ydw' i wedi gwneud fy ngora' iddo fo, Tomos.
 
(DORA) Ond 'dwn i ddim ydy' f'ymdrechion i'n cael eu gwerthfawrogi.
(1, 1) 113 O mi fedra' i'ch sicrhau chi o hynny, Dora.
(1, 1) 114 'Rydach chi wedi gwneud cartre' da iddo fo, chwara' teg i chi.
(1, 1) 115 A dweud y gwir, 'does yna ddim ond un peth sydd wedi amharu ar ein hapusrwydd ni.
(DORA) A be ydy' hwnnw?
 
(DORA) A be ydy' hwnnw?
(1, 1) 117 William.
(DORA) 'Does arna' i ddim eisio trafod hynny rwan, Tomos.
 
(DORA) Deng mlynedd—!
(1, 1) 122 Dora.
(DORA) Ia?
 
(DORA) Ia?
(1, 1) 124 Wyddoch chi be fydda'i i'n feddwl weithia?
(DORA) Wel?
 
(DORA) Wel?
(1, 1) 126 Peidiwch â chwerthin am fy mhen i, ond 'tae ni'n dau wedi cael plentyn, mi fuase' ni agosach o lawer at ein gilydd heddiw.
(DORA) 'Tae ni wedi cael plentyn?
 
(BENJA) Ydy' hi'n glir?
(1, 1) 140 Ydy', Benja.
(1, 1) 141 Tyrd i mewn.
(Tomos) Ia, cau'r drws.
 
(BENJA) Beth am y misus?
(1, 1) 147 Newydd fynd allan ar negas.
(1, 1) 148 Ddaw hi ddim yn ei hôl am dipyn, paid â phoeni.
(1, 1) 149 Tyrd, eistedd i lawr.
(BENJA) {Eistedd} Mae'n debyg mai hi welais i'n mynd i lawr y stryd rwan, felly.
 
(BENJA) {Eistedd} Mae'n debyg mai hi welais i'n mynd i lawr y stryd rwan, felly.
(1, 1) 151 Ia, reit siwr.
(BENJA) Wedi ei gwisgo mewn du oedd hi, dwedwch?
 
(BENJA) Wedi ei gwisgo mewn du oedd hi, dwedwch?
(1, 1) 153 Ia, du fel y frân.
(BENJA) Be—ydy' hi wedi colli rhywun?
 
(BENJA) Be—ydy' hi wedi colli rhywun?
(1, 1) 155 Ydy'.
(1, 1) 156 Ei gŵr.
(BENJA) Ydach chi'n teimlo'n iawn, Tomos Morgan?
 
(BENJA) Ydach chi'n teimlo'n iawn, Tomos Morgan?
(1, 1) 160 Ydw', cystal â'r disgwyliad.
(1, 1) 161 Pam?
(BENJA) Wel hwyrach mai fi wnaeth eich cam-ddeall chi.
 
(BENJA) Wel hwyrach mai fi wnaeth eich cam-ddeall chi.
(1, 1) 163 Cam-ddeall be?
(BENJA) Wel yr hyn dd'wedsoch chi rwan—bod y misus wedi colli ei gŵr.
 
(BENJA) Ond wrth gwrs, fi'n sy'n gwneud camgymeriad.
(1, 1) 166 Wnest ti ddim camgymeriad o gwbwl.
(1, 1) 167 Dyna'n hollol a dd'wedais i.
(BENJA) Maddeuwch i mi, Tomos Morgan, ond 'dydach chi ddim yn edrach fel 'taech chi wedi marw.
 
(BENJA) Maddeuwch i mi, Tomos Morgan, ond 'dydach chi ddim yn edrach fel 'taech chi wedi marw.
(1, 1) 169 Nid am danaf fy hun 'roeddwn i'n son, y twpyn.
(1, 1) 170 Am ei gŵr cynta' hi—yr anfarwol William!
(BENJA) O, 'rydw' i'n gweld rwan....
 
(BENJA) Ond sut fedar o fod yn anfarwol os ydy' o wedi marw?
(1, 1) 173 Mi ddeallit ti hynny, Benja, 'taet ti'n byw yn y tŷ yma.
(1, 1) 174 'Dydw i'n clywed dim ond William peth yma, a William peth arall, o un pen i'r flwyddyn i'r llall.
(1, 1) 175 Mae o wedi mynd yn stwmp ar fy stumog i.
(BENJA) Wel ydy', mi greda i.
 
(BENJA) Wel ydy', mi greda i.
(1, 1) 177 A mae hi'n waeth nag arfer heddiw, wrth gwrs.
(BENJA) O?
 
(BENJA) O?
(1, 1) 179 Diwrnod pen-blwydd, wyt ti'n gweld.
(BENJA) Pen-blwydd?
 
(BENJA) Pen-blwydd?
(1, 1) 181 Ia—pen-blwydd ei farwolaeth o, ddeng mlynedd yn ôl.
(1, 1) 182 Ond mae o mor fyw ag erioed yn y tŷ yma os wyt ti'n gofyn i mi.
(1, 1) 183 Mi fydda' i'n teimlo weithia nad ydw' i'n ddim ond lojwr yma.
(1, 1) 184 Son am y marw'n lladd y byw—dyna sy'n digwydd i mi.
(1, 1) 185 Mae William fel wal rhwng Dora a minna' ers dydd ein priodas, Benja.
(1, 1) 186 A'r canlyniad ydy' ei bod hi'n flin fel cacwn, a finna'n prysur fynd o dan ei bawd hi.
(1, 1) 187 Aros am funud, mae yna amser am gêm bach os byddwn ni'n handi.
(BENJA) Tipyn o fentar ydy' priodi, Tomos Morgan.
 
(BENJA) Mae yna lawer i ddweud dros bod yn hen lanc.
(1, 1) 192 Oes, reit siwr.
(1, 1) 193 Mi fydda i'n teimlo'n reit eiddigus i ti weithia'.
(1, 1) 194 Er, cofia di, mae Dora'n ddynas dda mewn llawer ystyr.
(1, 1) 195 Rhaid bod yn deg.
(1, 1) 196 Yn un peth, mae hi wedi bod yn od o ffeind efo Lewis, yr hogyn yma.
(BENJA) Sut mae o, y dyddia' yma?
 
(BENJA) Sut mae o, y dyddia' yma?
(1, 1) 199 Digon ansefydlog, fachgan.
(1, 1) 200 'Dydy' o ddim 'run un rhywsut, ar ôl dwad allan o'r fyddin.
(1, 1) 201 Mi gafodd o amser go ddrwg allan yn Affrica, wyddost ti.
(BENJA) Do—a heb ddwad dros hynny mae o reit siwr.
 
(BENJA) Amser sydd arno fo eisio.
(1, 1) 204 O mi ddaw o—dim cwestiwn o hynny.
(1, 1) 205 A hwyrach y medar Ann helpu i sadio dipyn arno fo.
(BENJA) Ann?
 
(BENJA) Ann?
(1, 1) 207 Ia, ia—wyddost ti, y ferch ifanc sy'n aros yma.
(1, 1) 208 Mae hi'n gweithio efo Jones y Twrna'.
(BENJA) O ia.
 
(BENJA) Be—ydy' hi a Lewis yn canlyn?
(1, 1) 211 Wel ydy', rhyw gybodlian fel y byddwn ni'n dweud...
(1, 1) 212 Reit, pwy sy'n mynd i symud gynta?
(1, 1) 213 Mi ydw'i am roi andros o gweir i ti heddiw, Benja.
(BENJA) O, cyn i mi ddechra', Tomos Morgan.
 
(1, 1) 221 Mi fydda' i wedi gwerthu rhain i gyd cyn diwedd yr wythnos.
(1, 1) 222 Dyna fantais fawr cadw gwesty, wyddost ti.
(1, 1) 223 Digon o gwsmeriaid yn mynd a dwad o hyd.
(1, 1) 224 A rheiny'n barod i goelio pob stori bron.
(1, 1) 225 Dyna i ti ddoe, er engrhaifft, roedd yma glamp o Sais o Lerpwl—trafaeliwr am wn i.
(1, 1) 226 "Look here," medda' fi wrtho fo, "Wooden spoon belonging to the grandmother of Owen Glyndwr."
(BENJA) Go dda!
 
(BENJA) Beth oedd o go iawn?
(1, 1) 229 Pric-pwdin Dora.
(BENJA) A mi lyncodd y stori?
 
(BENJA) A mi lyncodd y stori?
(1, 1) 231 Do—a phrynu'r lwy bren!
(1, 1) 232 Mi gês i bymtheg swllt am dani.
(1, 1) 233 Mae'r cadw-mi-gei yn llenwi, Benja.
(1, 1) 234 Wyddost ti faint sydd ynddo fo rwan?
(BENJA) Wel rhoswch chi—na 'does gen i ddim syniad.
 
(BENJA) Wel rhoswch chi—na 'does gen i ddim syniad.
(1, 1) 236 Can punt, 'rhen fach.
(1, 1) 237 Can punt ond chwe' cheiniog.
(BENJA) Be!
 
(BENJA) Be!
(1, 1) 239 Ffaith iti.
(1, 1) 240 Roeddwn i'n eu cyfri' nhw gynna'.
(BENJA) Arswyd y byd!
 
(BENJA) Arswyd y byd!
(1, 1) 242 I gyd ar yr achos da, Benja.
(1, 1) 243 Mi gawn ni Gaban i'r Hynafgwyr er gwaetha' Cyngor crintachlyd y dre' yma.
(1, 1) 244 "O fedrwn ni byth fforddio'r gost rwan," medda'r la-di-da Mrs. Vaughan-Davies yna.
(1, 1) 245 "Mae'r trethi'n rhy drwm fel y mae hi."
(1, 1) 246 Yr hen gwdihŵ gebyst!
(BENJA) Hidiwch chi befo.
 
(BENJA) Sut mae ganddyn nhw galon i edrach ar hen begnos yn cicio'u sodlau ar gongla'r strydoedd yma dwedwch?
(1, 1) 250 Dim arall i' ddisgwyl—dyna'u hanes nhw erioed wyddost ti...
(1, 1) 251 Ta waeth, tyrd, ti sydd i symud.
(BENJA) {Symud} Reit...
 
(BENJA) {BENJA'n mynd i'w boced a thynnu potel allan.} Fuasech chi'n lecio cael deigryn bach
(1, 1) 258 Be!
(1, 1) 259 Diod feddwol?
(1, 1) 260 Dim o'r fath beth.
(1, 1) 261 Yn hollol groes i f'egwyddorion i.
(BENJA) O mi ydw' i'n reit chwannog i ddiferyn dros y galon rwan ac yn y man.
 
(BENJA) Yn enwedig y tywydd oer yma. {Yfed o'r botel.}
(1, 1) 264 Mae o'n iawn fel ffisig, Benja.
(1, 1) 265 Does gen' i ddim gwrthwynebiad iddo fo mewn gwaeledd.
(1, 1) 266 Ond am lymeitian mewn gwaed oer—na, 'dydy' o ddim yn iawn rhywsut.
(BENJA) Ond i gyn'esu'ch gwaed chi mae o'n dda, Tomos Morgan...
 
(BENJA) Ydach chi wedi symud, dwedwch?
(1, 1) 269 Na, mi ydw' i'n disgwyl wrthyt ti.
(1, 1) 270 Tyrd yn dy flaen.
(BENJA) Reit.
 
(BENJA) Na, hanner munud, hanner munud, hanner munud.
(1, 1) 275 Gwna dy feddwl i fyny, da ti!
(1, 1) 276 'Rwyt ti 'run fath â hen iâr yn methu dodwy.
(BENJA) Dyna fo rwan.
 
(BENJA) {TOMOS yn dal i besychu.} Beth am ddiferyn bach i lacio dipyn arno fo?
(1, 1) 285 Na, na, mi fydda' i'n iawn mewn munud.
(BENJA) Ond 'does yna ddim allan o'i le ynddo fo mewn gwaeledd meddech chi.
 
(BENJA) Ond 'does yna ddim allan o'i le ynddo fo mewn gwaeledd meddech chi.
(1, 1) 287 Be?
(1, 1) 288 Wel nag oes.
(1, 1) 289 Ffisig mewn ffordd o siarad.
(1, 1) 290 Reit, Benja, gan dy fod ti'n pwyso arna' i.
(1, 1) 291 Aros am funud. {Cymryd cwpan oddiar y bwrdd.} Mi gymera' i ryw ddiferyn bach, bach, lleia' 'rioed.
 
(1, 1) 294 Reit, Benja—iechyd da.
(1, 1) 295 A phob llwyddiant i Gaban yr Hynafgwyr!
(BENJA) "Caban yr Hynafgwyr"!
 
(BENJA) "Caban yr Hynafgwyr"!
(1, 1) 298 Diaist i, 'roeddit ti'n iawn, Benja!
(1, 1) 299 Mae hwn yn llacio'r hen fegin.
(1, 1) 300 Ac iro'r frest fel mêl...
(1, 1) 301 Mi ydw' i'n teimlo'n well yn barod...
(1, 1) 302 Reit, gad i mi weld...
(1, 1) 303 Yli, mi ydw' i am neidio dau i ti.
(BENJA) Ar fengoch i, welais i mo hwnna...
 
(BENJA) A gwnewch o'n geiliog i mi, Tomos Morgan!
(1, 1) 309 Diaist i, 'rwyt ti'n gwella yn dy chware, fachgan.
(1, 1) 310 Mi ddoi di, gyda gofal a bwyd llwy.
(BENJA) D'wedwch wrtha' i, Tomos Morgan—
 
(BENJA) Fyddwch chi ddim blys rhoi swlltyn ar geffyl weithia?
(1, 1) 316 Be'ddwedaist ti!
(1, 1) 317 Gamblo?
(1, 1) 318 Paid byth a sôn am y fath beth wrtha' i!
(BENJA) Ond dim ond meddwl 'roeddwn i.
 
(BENJA) Hynny ydy'—wel wyddoch chi, cael chwanneg o arian at y Caban a—
(1, 1) 321 Arian anonest, halogedig?
(1, 1) 322 Dim o gwbwl.
(1, 1) 323 Gwell heb Gaban na'i godi ar sylfaeni anfoesol.
(1, 1) 324 Rwy'n synnu atat ti'n awgrymu'r fath beth!
(BENJA) O wel, dyna fo.
 
(BENJA) Dim bai ar y cynnig—
(1, 1) 328 Fynna'i i ddim baeddu fy nwylo efo aur llygredig, Benja.
(1, 1) 329 Wedyn, dyna ddiwedd arni. {TOMOS yn cymryd dracht arall o'i gwpan.}
(1, 1) 330 Rhaid i mi gofio golchi hon cyn i Dora ddwad yn ei hôl, ne mi fydd yma andros o le!
(BENJA) Wyddoch chi be', Tomos Morgan—wrth i chi sôn am wragedd blin?
 
(BENJA) Wyddoch chi be', Tomos Morgan—wrth i chi sôn am wragedd blin?
(1, 1) 332 Pwy oedd yn sôn am wragedd blin?
(BENJA) Wel dyna roeddech chi'n 'i awgrymu dan eich gwynt, ynte!
 
(BENJA) Hyn oedd gen' i i' ddweud: mae yna ddynion mawr iawn wedi cael 'run helbul â chi o dro i dro.
(1, 1) 335 O?
(BENJA) Dyna i chi Socrates, er enghraifft.
 
(BENJA) Hen feudan stormus oedd Santhipa, ei wraig o, medda' nhw.
(1, 1) 338 Felly wir?
(BENJA) Ia—a dyna pam 'raeth o ati i sgwennu llyfra', i anghofio'i boen a'i helbul.
 
(BENJA) Ia—a dyna pam 'raeth o ati i sgwennu llyfra', i anghofio'i boen a'i helbul.
(1, 1) 340 Fe wnaeth beth call iawn!
(1, 1) 341 P'le ddarllenaist ti am hyn, dwed?
(BENJA) Mewn hen lyfr sydd gen' i yn y tŷ acw.
 
(BENJA) Wyddoch chi be' arall sydd ynddo fo?
(1, 1) 344 Na wn i, be?
(BENJA) Hanes yr hen Ddoctor Ffawstws.
 
(BENJA) Glywsoch chi am Doctor Ffawstws?
(1, 1) 347 Aros di rwan—Doctor Ffawstws—meddyg esgyrn oedd o dwed?
(BENJA) Twt, twt, choelia' i fawr!
 
(BENJA) Y dyn hwnnw werthodd ei enaid i'r diafol ers talwm.
(1, 1) 351 Bobol annwyl!
(1, 1) 352 I beth oedd o eisio gwneud peth felly d'wed?
(1, 1) 353 Gwraig flin oedd ganddo ynta' hefyd?
(BENJA) Wn i ddim, ond synnwn i flewyn.
 
(BENJA) Wn i ddim, ond synnwn i flewyn.
(1, 1) 355 Mae o'n swnio'n llyfr diddorol dros ben, fachgan.
(1, 1) 356 Ydy' o'n dweud yn hollol sut i godi'r Gŵr Drwg?
(BENJA) Ydy'—y manylion i gyd.
 
(BENJA) Leiciech chi gael golwg arno fo?
(1, 1) 359 Leiciwn.
(1, 1) 360 Tyrd â fo efo ti pan fydd hi'n gyfleus.
(1, 1) 361 Ond cymer ofal rhag i Dora 'i weld o, wyt ti'n deall?
(BENJA) O mi wna' i, peidiwch â phryderu.
 
(BENJA) Mi ro'i o mewn papur llwyd—wêl hi mo'i deitl o wedyn.
(1, 1) 365 O, helo Ann.
(1, 1) 366 'Rydach chi'n gynnar iawn o'r offis heddiw.
(ANN) Ydw', Mr. Morgan.
 
(ANN) Aeth Lewis allan heddiw?
(1, 1) 370 Na, mae o yma yn rhywle.
(1, 1) 371 Rhoswch, mi alwa' i arno fo.
(ANN) O doeddwn i ddim eisio iddo fo ddwad yma'n arbennig, Mr. Morgan.
 
(ANN) O doeddwn i ddim eisio iddo fo ddwad yma'n arbennig, Mr. Morgan.
(1, 1) 374 Dim gwahaniaeth.
(1, 1) 375 Dydy' o'n gwneud dim lles iddo fo bendympian ar ei ben ei hun o hyd.
(1, 1) 376 Wn i ddim ydach chi'n nabod eich gilydd?
(1, 1) 377 Miss Ann Thomas—Benja.
(BENJA) Sut 'rydach chi, Miss Thomas?
 
(ANN) Mae'n dda gen' i'ch cyfarfod chi. {Ysgwyd llaw.}
(1, 1) 381 Wrthi'n rhoi cweir iddo fo ar y bwrdd drafft yma 'roeddwn i, Ann.
(LEWIS) Be' sy'n bod, Nhad?
 
(LEWIS) Be' sy'n bod, Nhad?
(1, 1) 384 O dim ond bod Ann yma, dyna'r cwbwl, Lewis.
(ANN) Helo, Lewis.
 
(LEWIS) 'Rwyt ti wedi mynd i siarad yn union 'run fath â thwrna'.
(1, 1) 412 Ara' deg rwan, Lewis, ara' deg.
(1, 1) 413 'Doedd hynna ddim yn beth caredig iawn i' ddweud wrth Ann.
(1, 1) 414 Wedi'r cwbwl, 'dydy' hi ddim ond yn trio dy helpu di.
(LEWIS) {Taflu'r papur a neidio ar ei draed yn wyllt} Helpu! Helpu!
 
(LEWIS) Mater i mi ydy' hynny, Ann.
(1, 1) 423 'Rwyt ti'n gwneud camgymeriad mawr, 'machgen i.
(1, 1) 424 Gobeithio y gweli di hynny cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
(1, 1) 425 Ond dyna fo, fedra' i ddim dylanwadu arnat ti'n amlwg.
(1, 1) 426 Mi ydw' i wedi trio 'ngora.
(LEWIS) Edrychwch yma, Nhad, peidiwch â meddwl 'mod i'n anniolchgar.
 
(LEWIS) Ydach chi ddim yn gweld 'mod i eisio amser i gael fy ngwynt ataf?
(1, 1) 437 Wel, 'rwyt ti wedi cael blwyddyn, wyddost ti.
(LEWIS) Twt, beth ydy' blwyddyn?
 
(BENJA) Be' sy'n bod, Tomos Morgan?
(1, 1) 474 Tatws Dora eisio'u plicio.
(1, 1) 475 Llond dwy bwced ohonyn' nhw!
 
(1, 1) 478 Arswyd y byd! {Rhedeg yn ei ol, gafael yn y bocs a rhuthro allan.}
(DORA) Tomos!
 
(DORA) Tomos!
(1, 1) 484 Ia, Dora!
(DORA) Beth ydy'r bocs yma?
 
(DORA) Beth ydy'r bocs yma?
(1, 1) 486 Bocs?
(1, 1) 487 O, dim byd neilltuol, Dora.
(1, 1) 488 Wyddoch chi—wel bocs mewn ffordd o siarad—
(DORA) Beth sydd ynddo fo?
 
(DORA) Beth sydd ynddo fo?
(1, 1) 490 Beth sydd ynddo fo?... y... be' ydach chi'n 'i alw... y... pryfaid genwair.
(DORA) Be!
 
(DORA) I be' mae nhw'n dda?
(1, 1) 495 Wel—i ddal pysgod.
(DORA) Ond fyddwch chi byth yn mynd i bysgota!
 
(DORA) Ond fyddwch chi byth yn mynd i bysgota!
(1, 1) 497 Na, na—ei cadw nhw i Benja 'rydw' i, Dora.
(1, 1) 498 Mae o wedi addo brithyll i mi am danyn' nhw.
(DORA) Felly wir.
 
(DORA) Ond mae yna glo arno fo!
(1, 1) 501 Oes siwr.