Hamlet, Tywysog Denmarc

Ciw-restr ar gyfer Bernardo

 
(1, 1) 6 Pwy sydd yna?
(Francisco) Nage, ateb fi;
 
(Francisco) Saf, a dangosa di dy hun yn llawn.
(1, 1) 9 Byw fyddo 'r brenin!
(Francisco) Ai Bernardo?
 
(Francisco) Ai Bernardo?
(1, 1) 11 Ië.
(Francisco) Chwi ddeuwch yn ofalus at eich hawr.
 
(Francisco) Chwi ddeuwch yn ofalus at eich hawr.
(1, 1) 13 Mae wedi taro haner nos yn awr,
(1, 1) 14 A thi, Francisco, 'n awr i'th wely dos.
(Francisco) Am y gollyngdod hwn rho'f ddiolch mawr,
 
(Francisco) Mae'n erwin oer, a minau 'n galon glaf.
(1, 1) 17 Gawd gwyliadwriaeth dawel gênych chwi?
(Francisco) Do, nid ysgogodd un llygoden fach.
 
(Francisco) Do, nid ysgogodd un llygoden fach.
(1, 1) 19 Wel, noswaith dda; os gwnewch gyfarfod â
(1, 1) 20 Horatio a Marcellus, y rhai ynt
(1, 1) 21 Fy nghymdaith-wylwyr, erchwch arnynt frys.
(Francisco) 'R wy 'n tybied clywaf hwynt.—Gwnewch sefyll, ho!
 
(Marcellus) Holo! Bernardo!
(1, 1) 34 D'wed.
(1, 1) 35 Beth, aì Horatio yw?
(Horatio) O hono ddarn.
 
(Horatio) O hono ddarn.
(1, 1) 37 Henffych, Horatio; croesaw, Marcellus dda.
(Horatio) A ymddangosodd heno eto 'r peth?
 
(Horatio) A ymddangosodd heno eto 'r peth?
(1, 1) 39 Ni welais ddim.
(Marcellus) Horatio dd'wed mai ein dychymyg yw;
 
(Horatio) Ust! ust! nid ymddangosa.
(1, 1) 49 Eisteddwch beth;
(1, 1) 50 A phrofwn unwaith eto, ein clustiau sydd
(1, 1) 51 Mor gryf yn erbyn yr ystori hon,
(1, 1) 52 A welsom y ddwy noswaith hyn ill dau.
(Horatio) Wel, eistedd wnawn i lawr, a chlywn pa beth
 
(Horatio) Sydd gan Bernardo i'w ddyweyd am hyn.
(1, 1) 55 Neithiwyr olaf oll, pan yn y nen
(1, 1) 56 Gorphenai 'r seren aew—yr hon sydd
(1, 1) 57 Yn orllewinol oddiwrth y pegwn—ei
(1, 1) 58 Chwrs, i oleuo y rhan acw o'r nef
(1, 1) 59 Lle llosga 'n awr, Marcellus a myfi,
(1, 1) 60 Y gloch yn taro un,—
(Marcellus) Ust! taw yn awr; gwel p'le mae eto 'n d'od.
 
(Marcellus) Ust! taw yn awr; gwel p'le mae eto 'n d'od.
(1, 1) 63 Yn yr un wedd a'r brenin sydd yn farw.
(Marcellus) Tydi wyt ysgolaig, Horatio,
 
(Marcellus) Ymddyddan gydag ef.
(1, 1) 66 Ai onid yw
(1, 1) 67 Yn debyg i y brenin? sylwa'n dda,
(1, 1) 68 Horatio arno ef.
(Horatio) Yn debyg iawn:—
 
(Horatio) Fy llenwi mae â braw a syndod erch.
(1, 1) 71 Dymunai i ni siarad gydag ef.
(Marcellus) Ymddyddan, da Horatio.
 
(Marcellus) Mae wedi'i ddigio.
(1, 1) 79 Gwel, mae'n cilioi ffordd.
(Horatio) Arosa, siarad: siarad, 'r wyf yn awr
 
(Marcellus) Mae wedi myn'd, ac nis gwna ateb ddim.
(1, 1) 84 Pa fodd yn awr, Horatio? Diau 'r y'ch
(1, 1) 85 Yn crynu, ac yn welw iawn: ai nid
(1, 1) 86 Yw hyn yn rhywbeth mwy na gwag ddychymyg;
(1, 1) 87 Beth am dano yw dy dyb?
(Horatio) Ger bron fy Nuw, nis gall'swn gredu hyn,
 
(Horatio) Y dirfawr frys, a'r cynwrf sy'n y tir.
(1, 1) 156 'R wy'n tybied nas gall fod ddim arall, ond
(1, 1) 157 Os felly, fe arwydda 'n dda, fod y
(1, 1) 158 Drychiolaeth tra-arwyddol hwn, yn d'od
(1, 1) 159 Yn arfog trwy ein gwylfa; ac mae mor
(1, 1) 160 Dra thebyg i'r hen frenin oedd, ac sydd,
(1, 1) 161 Ei hunan yn brif bwnc y brwydrau hyn.
(Horatio) Brycheuyn yw, i gyffro ein meddwl ni.
 
(Horatio) Gwna, os na erys.
(1, 1) 201 Mae yma!
(Horatio) Mae yma!
 
(Marcellus) Dyrnodion ni fel gwatwar gwag.
(1, 1) 210 Pan ganai'r ceiliog, ar lefaru 'r oedd.