Hamlet, Tywysog Denmarc

Ciw-restr ar gyfer Ophelia

(Bernardo) Pwy sydd yna?
 
(Laertes) Na huna ddim. Rho air yn fynych im'.
(1, 3) 605 A ydwyt ti yn anmheu yn nghylch hyn?
(Laertes) Am Hamlet, ac y modd dangosa 'i ffafr,
 
(Laertes) Un funyd; ond dim mwy.
(1, 3) 613 Dim mwy na hyn?
(Laertes) Na wna ei dybied ef yn fwy, can's pan
 
(Laertes) Pryd na ddygwyddo arall fod gerllaw.
(1, 3) 659 Myfi a gadwaf effaith dda dy wers,
(1, 3) 660 Fel gwyliwr ar fy nghalon: ond, frawd da,
(1, 3) 661 Na fydd fel rhai bugeiliad llwyr di-ras,
(1, 3) 662 Yn dangos im' yr erwin, ddreiniog ffordd
(1, 3) 663 I'r nefoedd; tra'n anlladwr gwag ei hun,
(1, 3) 664 Y rhodia ar friallaidd lwybr gwyn,
(1, 3) 665 Heb ddysgu gair o'i foesol wers ei hun.
(Laertes) Nac ofna ddim. 'R wy 'n aros yn rhy hir;—
 
(Laertes) A ddywedais gyneu.
(1, 3) 710 Mae 'n glöedig yn fy nghof,
(1, 3) 711 A chwi eich hun gaiff gadw ei allwedd ef.
(Laertes) Ffarwel.
 
(Polonius) Pa beth, Ophelia, a ddwedodd wrthych chwi?
(1, 3) 715 Os boddlawn genych, rhywbeth yn ynghylch
(1, 3) 716 Fy arglwydd Hamlet.
(Polonius) Pur feddylgar yw
 
(Polonius) Pa beth sydd rhyngoch? rho'wch i mi y gwir.
(1, 3) 727 Fe roes i mi, fy arglwydd, amryw o
(1, 3) 728 Gynygion yn ddiweddar o ei serch.
(Polonius) Serch? pw! siaradwch fel genethig ffol,
 
(Polonius) Fel gelwch hwynt?
(1, 3) 733 Nis gwn, fy arglwydd, beth
(1, 3) 734 I'w feddwl.
(Polonius) Ha! felly 'n siwr! mi'ch dysgaf chwi:
 
(Polonius) Chwychwi a wnewch gynygiaw, i mi ffŵl.
(1, 3) 743 Fy arglwydd, fe ymbiliodd â myfi
(1, 3) 744 Mewn cariad pur, ac anrhydeddus ddull.
(Polonius) A "dull" y gelwch ef, i ffordd, i ffordd.
 
(Polonius) A "dull" y gelwch ef, i ffordd, i ffordd.
(1, 3) 746 Fy arglwydd, rho'dd i'w eiriau gadarnâd,
(1, 3) 747 A holl santeiddiaf addunedau 'r nef.
(Polonius) O ïe, maglau i ddal ceiliogod coed.
 
(Polonius) 'R wyf fi yn eich tyngedu; de'wch i ffordd.
(1, 3) 776 Myfi a wnaf, fy arglwydd, ufuddâu.
(Hamlet) Yr awyr fratha 'n dost; mae 'n erwin oer.
 
(Polonius) Yw 'r mater?
(2, 1) 1299 O, fy arglwydd, f' arglwydd, mi
(2, 1) 1300 A ge's fy nychrynu 'n fawr.
(Polonius) A pha beth,
 
(Polonius) Yn enw'r nef?
(2, 1) 1303 Fy arglwydd, pan yr o'wn
(2, 1) 1304 Yn pwytho yn f' ystafell i fy hun,
(2, 1) 1305 F' arglwydd Hamlet, gyda'i wasgawd oll
(2, 1) 1306 Heb gael ei chau; heb het i guddio 'i ben;
(2, 1) 1307 Hosanau 'n fudron, heb ardysau, ac
(2, 1) 1308 Yn hongian fel cadwyni hyd ei ffêr;
(2, 1) 1309 Yn welw fel ei grys; ei liniau ef
(2, 1) 1310 Yn crynu yn nghyd; a chyda golwg mor
(2, 1) 1311 Druenus yn ei ystyr, a phe b'ai
(2, 1) 1312 Ef newydd d'od o uffern drist ei hun,
(2, 1) 1313 I ddweud ei dychrynfeydd, fe ddaeth o'm blaen.
(Polonius) Yn ynfyd am dy serch?
 
(Polonius) Yn ynfyd am dy serch?
(2, 1) 1315 Fy arglwydd, nis gwn i; ond wele, yn wir,
(2, 1) 1316 Yr wyf yn ofni hyn.
(Polonius) Pa beth a dd'wedodd ef?
 
(Polonius) Pa beth a dd'wedodd ef?
(2, 1) 1318 Gafaelodd yn fy ngarddwrn; daliodd fi
(2, 1) 1319 Yn galed; yna tynodd hŷd ei fraich
(2, 1) 1320 Yn ôl, a chyda ei law arall ef
(2, 1) 1321 Fel hyn uwchlaw ei ael, edrychai â
(2, 1) 1322 Y fath fanylrwydd i fy wyneb, fel
(2, 1) 1323 Pe buasai 'n meddwl ei arlunio. Hir
(2, 1) 1324 Arosodd felly; ac o'r diwedd âg
(2, 1) 1325 Ysgydwad ysgafn ar fy mraich, yn nghyd
(2, 1) 1326 A theirgwaith chwyfio i fyny ac i lawr
(2, 1) 1327 Ei ben,—fe ro'dd ochenaid oedd mor ddofn
(2, 1) 1328 A thruan, ag yr ymddangosai fel
(2, 1) 1329 Yn barod i deilchioni ei holl gorff,
(2, 1) 1330 A gorphen ei fodolaeth; wedi hyn
(2, 1) 1331 Gollyngodd fi; ac â'i ben wedi ei droi
(2, 1) 1332 Ar ei naill ysgwydd, ymddangosai fel
(2, 1) 1333 Yn gallu heb ei lygaid fyn'd i'w ffordd;
(2, 1) 1334 Aeth heb ddim cymhorth ganddynt drwy y drws,
(2, 1) 1335 Ac, hyd y diwedd, syllai arnaf fi.
(Polonius) Tyrd gyda mi; myfi a geisiaf wel'd
 
(Polonius) Ei fod yn ymddwyn atoch chwi fel hyn?
(2, 1) 1345 Na ddo, fy arglwydd da, ond fel y gwnaech
(2, 1) 1346 Orchymyn, felly y gwrthodais ei
(2, 1) 1347 Lythyrau, gyda pheidio 'i dderbyn ef.