Y Gŵr o Gath Heffer

Ciw-restr ar gyfer Desc

(1, 0) 1 Llwyfan ac uwch-lwyfan syml.
(1, 0) 2 Miwsig, Synau a Goleuadau addas.
(1, 0) 3 Nid oes angen nemor ddim dodrefn.
(1, 0) 4 ~
(1, 0) 5 Miwsig; Yna sŵn y môr am ychydig.
(Adroddwr 1) Taith hanner diwrnod i'r Gorllewin o Fôr Galilea.
 
(Adroddwr 1) Dacw'r fwltur hir-ymarhous, hamddenol, distawach na'i gysgod; a'r jerboa bawen-felfed, llygoden y llwch.
(1, 0) 14 Sŵn gwynt y tu ôl.
(Adroddwr 2) Mae'r bryniau fel eboni ar ffwrnais yr awyr, a'r cysgodion araf yn cripian dros y llethrau llwm.
 
(Adroddwr 1) Pentref Gath Heffer yn nhiriogaeth Sabulon, ym mrenhiniaeth derfysglyd Jeroboam yr Ail
(1, 0) 20 Sŵn y gwynt yn pellbau.
(Adroddwr 2) Mae chwiban yr awel yn toddi'n raddol i ddwndwr isel fel murmur lleisiau o'r gorffennol pell.
 
(Adroddwr 2) Llais Jonah fab Amitai, yn ymweld â bro ei febyd...
(1, 0) 26 Miwsig ysgafn y tu ôl.
(1, 0) 27 Pelydrau ar Jonah y tu ôl i len neu rwyd o sidan yng nghefn y llwyfan.
(Jonah) Ie, bro fy mebyd, cyn i greithiau Amser hagru ei lechweddau.
 
(Jonah) Dringais i'w gopa ganwaith; nes i ddyddiau mebyd ddirwyn i ben, a dod yr amser i roi heibio bethau bachgenaidd...
(1, 0) 38 Diffodder y pelydryn—Golau i fyny ar y llwyfan.
(1, 0) 39 Jonah
(Mam) Jonah, 'wyt ti'n breuddwydio eto?
 
(Jonah) Dringais i'w gopa ganwaith; nes i ddyddiau mebyd ddirwyn i ben, a dod yr amser i roi heibio bethau bachgenaidd...
(1, 0) 41 Troi a throi uwchben y bryn,
(1, 0) 42 Smotyn du ar gwmwl gwyn.
(1, 0) 43 'Wyt ti ddim wedi blino i fyny yma, 'rhen frân?
(1, 0) 44 Mae'r bioden ar ei nyth, a'r durtur ar ei chlwyd.
(1, 0) 45 Hedodd y barcud ers meityn ar ei ben i fachlud haul.
(1, 0) 46 Pam na ei dithau ar ei ôl, 'rhen gigfran?
(1, 0) 47 Dyna a wnawn i pe bai gennyf adenydd─hedfan ymhell dros ymyl y byd i weld yr haul ar waelod y môr.
(Mam) Jonah, 'wyt ti'n breuddwydio eto?
 
(Nathan) Dyma ni ar ochr y bryn, a'r dyffryn yn graith ddu oddi tanom.
(1, 0) 89 Bref dafad.
(Jonah) A dacw'r lleuad yn dwad i'r golwg, Nathan, welwch chi?
 
(Nathan) Mi dria' inna 'i ddychryn o i fwrdd,
(1, 0) 140 Nathan yn mynd dan chwythu bygythion.
(Jonah) {Wrtho'i hun.}
 
(Mam) Jonah, Jonah, paid â breuddwydio, paid â breuddwydio, paid â breuddwydio...
(1, 0) 174 Exit.
(1, 0) 175 Miwsig ysgafn y tu ôl.
(1, 0) 176 Tywyller y llwyfan.
(1, 0) 177 Pelydryn ar Jonah y tu ôl i'r llen sidan.
(Jonah) {Yn ddyn.}
 
(Jonah) Ac o dipyn i beth, daeth hyd yn oed hynafgwyr ceidwadol Gath Heffer i gymryd sylw ohonof...
(1, 0) 186 Diffodder y pelydryn; Goleuni ar Tobias a Sbadrach.
(Tobias) Diar annwyl, Shadrach, chi sydd yna?
 
(Tobias) Mi gawn gyfle ardderchog i'w glywed o'n pregethu...
(1, 0) 241 Diffodder y goleuadau am ennyd.
(1, 0) 242 Sŵn tyrfa.
(1, 0) 243 Hwnnw'n distewi.
(1, 0) 244 Jonab yn sefyll ar yr wwch-lwyfan.
(1, 0) 245 Pentrefwyr oddi tano.
(Jonah) {Codi ei lais.}
 
(I Gyd) Dwg ni'n ôl i fendith Duw...
(1, 0) 271 Diffodder golau ar y llwyfan.
(1, 0) 272 Dwndwr y dyrfa'n pellhau.
(1, 0) 273 Pelydryn ar Jonah y tu ôl i'r llen sidan).
(Jonah) Do, fe gafodd fy mhregeth gyntaf fwy o effaith nag a freuddwydiais i 'rioed.
 
(Jonah) 'R oeddwn i'n eistedd yn fy 'stafell, 'r wy'n cofio, pan ddaeth cysgod ar draws y drws, a llais merch yn galw arnaf...
(1, 0) 283 Diffodder y pelydryn.
(1, 0) 284 Tywyllwch am ennyd, yna goleuer y llwyfan a gwelir Jonab yn eistedd wrth fwrdd.
(1, 0) 285 Mae wrthi'n darllen memrwn.