Y Gŵr o Gath Heffer

Ciw-restr ar gyfer Nathan

(Adroddwr 1) Taith hanner diwrnod i'r Gorllewin o Fôr Galilea.
 
(Mam) {Exit.}
(1, 0) 87 Hwyrach yr hoffit ti fynd yn fugail, Jonah?
(1, 0) 88 Dyma ni ar ochr y bryn, a'r dyffryn yn graith ddu oddi tanom.
(Jonah) A dacw'r lleuad yn dwad i'r golwg, Nathan, welwch chi?
 
(Jonah) A dacw'r lleuad yn dwad i'r golwg, Nathan, welwch chi?
(1, 0) 91 Gwelaf—diolch i'r cymorth amdano!
 
(1, 0) 93 Tyrd 'r hen leuad, paid ag oedi.
(1, 0) 94 Pwysa d'ên ar figyrnau'r clogwyn, gwna dy hun yn gysurus.
(1, 0) 95 Mi gei aros yma tan y wawr os mynni!
(Jonah) Mor agos ydy'r sêr, Nathan!
 
(Jonah) A dacw linyn arian i'w clymu, draw i'r gorllewin ar y gorwel!
(1, 0) 99 Pelydrau'r lleuad ar rimyn o fôr, machgen i.
(1, 0) 100 'Wyt ti wedi penderfynu nad ei di ddim yn llongwr?
(Jonah) Ydw'.
 
(Jonah) 'Wna'i byth adael Gath Heffer.
(1, 0) 103 Wel'd oes dim amdani felly ond bugail neu ffermwr.
(Jonah) 'Fydda'i 'run o'r ddau yna chwaith, Nathan.
 
(Jonah) 'R wy'n gwybod 'rŵan mai Proffwyd yr hoffwn i fod.
(1, 0) 106 O?
(1, 0) 107 Canmoladwy iawn.
(1, 0) 108 Ond mi hoffwn i awgrymu'n garedig iti, Jonah, mai prin y gall dyn ddewis bod yn Broffwyd.
(1, 0) 109 Mae hynny yn nwylo'r Bod Mawr, wyddost ti.
(Jonah) O mi wn i hynny, ac 'r wy'n teimlo rhywsut y caf i arwydd, cyn bo hir, Ei fod Ef yn cyd-weld.
 
(Jonah) O mi wn i hynny, ac 'r wy'n teimlo rhywsut y caf i arwydd, cyn bo hir, Ei fod Ef yn cyd-weld.
(1, 0) 111 Felly?
(1, 0) 112 'Wn i ddim yn iawn sut i ateb hynna!
(Jonah) 'D oes arna'i ddim eisio bod yn Broffwyd mawr 'run fath ag Elias, cofiwch.
 
(Jonah) Na, na proffwyd bach i wasanaethu pentref ac ardal Gath Heffer yn unig.
(1, 0) 115 'Wyt ti'n meddwl y bydd Yr Hollalluog vn barod i dderbyn yr amod yna?
(Jonah) 'R wy' i'n meddwl Ei fod yn gweld fy ochor i i'r cwestiwn, Nathan.
 
(Jonah) 'R wy' i'n meddwl Ei fod yn gweld fy ochor i i'r cwestiwn, Nathan.
(1, 0) 117 O?
(1, 0) 118 Wel, mae popeth yn iawn felly!
(1, 0) 119 Ond amser a ddengys 'machgen i, amser a ddengys!
 
(1, 0) 121 Aros!
(1, 0) 122 'Weli di rywbeth yn symud i fyny acw?
(Jonah) Ble?
 
(Jonah) Ble?
(1, 0) 124 Draw wrth ymyl y twmpath drain.
(Jonah) O dan yr hen gorlan?
 
(Jonah) O dan yr hen gorlan?
(1, 0) 126 Ia—cadw dy lygaid yn agored.
(1, 0) 127 Gafr Eliasar wedi crwydro eto, mi ddalia' i am siecel.
(1, 0) 128 Ia—dyna hi'n dwad i'r golwg ar y gair!
(Jonah) Mae yna rywbeth yn ci dilyn hi hefyd, welwch chi?
 
(Jonah) Dyna fe'n llithro allan o'r cysgod!
(1, 0) 132 Y cnaf mileinig, wedi cripian i lawr o'r ochor arall!
(Jonah) Be' wnawn ni?
 
(Jonah) Be' wnawn ni?
(1, 0) 134 Fe fydd wedi'i llarpio cyn i mi fynd ganllath.
(1, 0) 135 B'le mae fy ffon i?...
(1, 0) 136 'Rwan, aros di wrth y gorlan yma rhag bod ei gymar o gwmpas.
(Jonah) O'r gora', Nathan.
 
(Jonah) O'r gora', Nathan.
(1, 0) 138 Cofia paid â symud ar fôn dy fywyd.
(1, 0) 139 Mi dria' inna 'i ddychryn o i fwrdd,