Y Gŵr o Gath Heffer

Ciw-restr ar gyfer Rachel

(Adroddwr 1) Taith hanner diwrnod i'r Gorllewin o Fôr Galilea.
 
(1, 0) 287 Jonah!
(1, 0) 288 Jonah!
(Jonah) {Swta.}
 
(Jonah) Ia—pwy sydd yna?
(1, 0) 291 Fi—Rachel.
(Jonah) 'Wyddost ti ddim fy mod i'n myfyrio yr adeg yma o'r dydd?
 
(Jonah) 'Wyddost ti ddim fy mod i'n myfyrio yr adeg yma o'r dydd?
(1, 0) 293 Ydw, ond...
(Jonah) A 'mod i wedi siarsio nad oes yna neb i aflonyddu arna' i?
 
(Jonah) A 'mod i wedi siarsio nad oes yna neb i aflonyddu arna' i?
(1, 0) 295 Mae'n ddrwg gen' i Jonah, ond─
(Jonah) Ac eto 'r wyt ti'n beiddio anwybyddu fy ngorchymyn!
 
(Jonah) 'Wyt ti ddim yn sylweddoli bod gen' i'r gallu i alw ar fellten i'th barlysu yn y fan?
(1, 0) 298 Ond os caf i egluro─
(Jonah) Paid â thorri ar fy nhraws.
 
(Jonah) 'Oes gen' ti ddim cywilydd?
(1, 0) 304 'Dydw' i ddim ond dilyn y ffasiwn, Jonah.
(Jonah) Felly wir!
 
(Jonah) Ac yn awr, dos cyn i ti drethu mwy ar f'amynedd.
(1, 0) 310 Ond—ond 'dydw' i ddim wedi dweud fy neges eto.
(Jonah) Wel?
 
(Jonah) Beth ydy' o?
(1, 0) 313 Dim ond bod yna ddyn yn dwad i'ch gweld.
(Jonah) Pa ddyn?
 
(Jonah) Pa ddyn?
(1, 0) 315 'Wn i ddim.
(1, 0) 316 Mae o'n hollol ddieithr i mi.
(1, 0) 317 'Ddywedodd o ddim ond ei fod o eisiau i chi baratoi eich hun i'w dderbyn.