Y Gŵr o Gath Heffer

Ciw-restr ar gyfer Shadrach

(Adroddwr 1) Taith hanner diwrnod i'r Gorllewin o Fôr Galilea.
 
(Tobias) Sut mae'r iechyd 'rhen ŵr?
(1, 0) 190 Digon symol, Tobias, digon symol.
(Tobias) Tewch â dweud!
 
(Tobias) 'Rhen grydcymala' yna'n eich poeni chi o hyd?
(1, 0) 193 Ia, ymhlith petha' eraill—cerrig yn y bustl; diffyg treuliad; pendro—mae pob aflwydd wedi disgyn arna' i'n ddiweddar yma.
(Tobias) Gawsoch chi gyngor gan y meddyg?
 
(Tobias) Gawsoch chi gyngor gan y meddyg?
(1, 0) 195 Do, 'rawn i haws.
(1, 0) 196 Deiliach, gelod, a dŵr calch—yr un hen driniaeth.
(1, 0) 197 A 'dydw' i 'run gronyn gwell.
(Tobias) O mi ddowch eto gyda hyn.
 
(Tobias) O mi ddowch eto gyda hyn.
(1, 0) 199 'Wn i ddim fachgen.
(1, 0) 200 'R ydw i'n mynd i oed, wyddost ti.
(1, 0) 201 'Ddaw henaint ddim ei hunan.
(1, 0) 202 A pheth arall, 'dyw cyflwr y wlad yma fawr o help i godi calon creadur o ddyn.
(Tobias) Na, mae hynny'n ddigon gwir.
 
(Tobias) Na, mae hynny'n ddigon gwir.
(1, 0) 204 Mynd o ddrwg i waeth bob dydd.
(1, 0) 205 'Wn i ddim beth fydd ein diwedd ni.
(Tobias) Mae gennym le i ddiolch, serch hynny, Shadrach.
 
(Tobias) A dyna'r cynhaeaf ardderchof 'r ydy' ni wedi'i gael — mi fu'r Bod Mawr ar flaena'i draed efo ni 'leni.
(1, 0) 210 Ond 'run pryd, mae'r Syriaid felltith yna'n tyrru fel locustiaid i fyny yn y gogledd.
(1, 0) 211 Lladd ac anrheithio a rhaib a welwn ni eto cyn bo hir.
(1, 0) 212 'R ydym yn byw dan gwmwl du: fe'n bygythir beunydd gan dân ysol.
(Tobias) 'R ydym wedi eu taflu nhw'n ôl cyn hyn.
 
(Tobias) Ac fe wnawn hynny eto ond i ni ddal yn gadarn.
(1, 0) 215 Dal yn gadarn, ia, ond pa obaith sydd o hynny?
(1, 0) 216 Mae'r genedl wedi mynd â'i phen iddi.
(1, 0) 217 Edrych ar y bobol yma wedi meddwi efo gwag bleserau a gaudduwiaeth.
(1, 0) 218 A 'd oes yna 'run llais wedi'i godi yn eu herbyn.
(Tobias) 'R ydach chi'n edrych braidd ar yr ochor ddu, 'r wy'n ofni, 'rhen ŵr.
 
(Tobias) 'R ydach chi'n edrych braidd ar yr ochor ddu, 'r wy'n ofni, 'rhen ŵr.
(1, 0) 220 Rhaid i ni wynebu ffeithia', Tobias.
(1, 0) 221 Mae Proffwydoliaeth wedi distewi yn ein tir.
(1, 0) 222 A ninnau'n cefnu ar gewri'r dyddiau gynt.
(1, 0) 223 Mae hi'n ddigon digalon ar y Bod Mawr efo rhai o'r hogia' yma sydd ganddo Fo heddiw.
(Tobias) Wel ydy', 'r ydach chi'n iawn.
 
(Tobias) Mae nhw'n dweud 'i fod o'n hogyn reit addawol.
(1, 0) 228 Pwy, ddywedaist ti?
(Tobias) Jonah—wyddoch chi—mab yr hen Amitai pan oedd o.
 
(Tobias) Jonah—wyddoch chi—mab yr hen Amitai pan oedd o.
(1, 0) 230 Felly wir.
(1, 0) 231 'D wy' i ddim wedi ei weld o ers tro byd.
(Tobias) Na, mae o'n myfyrio ar ei ben ei hun i fyny yn y brynia' ers talwm.
 
(Tobias) Newydd ddechra' mynd o gwmpas i bregethu mae o.
(1, 0) 235 'Ddaw o byth i 'sgidia'i dad.