Y Gŵr o Gath Heffer

Ciw-restr ar gyfer Tobias

(Adroddwr 1) Taith hanner diwrnod i'r Gorllewin o Fôr Galilea.
 
(Jonah) Ac o dipyn i beth, daeth hyd yn oed hynafgwyr ceidwadol Gath Heffer i gymryd sylw ohonof...
(1, 0) 187 Diar annwyl, Shadrach, chi sydd yna?
(1, 0) 188 Heb eich gweld chi ers talwm.
(1, 0) 189 Sut mae'r iechyd 'rhen ŵr?
(Shadrach) Digon symol, Tobias, digon symol.
 
(Shadrach) Digon symol, Tobias, digon symol.
(1, 0) 191 Tewch â dweud!
(1, 0) 192 'Rhen grydcymala' yna'n eich poeni chi o hyd?
(Shadrach) Ia, ymhlith petha' eraill—cerrig yn y bustl; diffyg treuliad; pendro—mae pob aflwydd wedi disgyn arna' i'n ddiweddar yma.
 
(Shadrach) Ia, ymhlith petha' eraill—cerrig yn y bustl; diffyg treuliad; pendro—mae pob aflwydd wedi disgyn arna' i'n ddiweddar yma.
(1, 0) 194 Gawsoch chi gyngor gan y meddyg?
(Shadrach) Do, 'rawn i haws.
 
(Shadrach) A 'dydw' i 'run gronyn gwell.
(1, 0) 198 O mi ddowch eto gyda hyn.
(Shadrach) 'Wn i ddim fachgen.
 
(Shadrach) A pheth arall, 'dyw cyflwr y wlad yma fawr o help i godi calon creadur o ddyn.
(1, 0) 203 Na, mae hynny'n ddigon gwir.
(Shadrach) Mynd o ddrwg i waeth bob dydd.
 
(Shadrach) 'Wn i ddim beth fydd ein diwedd ni.
(1, 0) 206 Mae gennym le i ddiolch, serch hynny, Shadrach.
(1, 0) 207 Gogoniant yr haul acw'n machlud, er enghraifft.
(1, 0) 208 A chwerthiniad plentyn, a llyfnder gloyw'r grawnwin.
(1, 0) 209 A dyna'r cynhaeaf ardderchof 'r ydy' ni wedi'i gael — mi fu'r Bod Mawr ar flaena'i draed efo ni 'leni.
(Shadrach) Ond 'run pryd, mae'r Syriaid felltith yna'n tyrru fel locustiaid i fyny yn y gogledd.
 
(Shadrach) 'R ydym yn byw dan gwmwl du: fe'n bygythir beunydd gan dân ysol.
(1, 0) 213 'R ydym wedi eu taflu nhw'n ôl cyn hyn.
(1, 0) 214 Ac fe wnawn hynny eto ond i ni ddal yn gadarn.
(Shadrach) Dal yn gadarn, ia, ond pa obaith sydd o hynny?
 
(Shadrach) A 'd oes yna 'run llais wedi'i godi yn eu herbyn.
(1, 0) 219 'R ydach chi'n edrych braidd ar yr ochor ddu, 'r wy'n ofni, 'rhen ŵr.
(Shadrach) Rhaid i ni wynebu ffeithia', Tobias.
 
(Shadrach) Mae hi'n ddigon digalon ar y Bod Mawr efo rhai o'r hogia' yma sydd ganddo Fo heddiw.
(1, 0) 224 Wel ydy', 'r ydach chi'n iawn.
(1, 0) 225 Rhai digon dienaid ydyn' nhw at 'i gilydd.
(1, 0) 226 Ond 'wn i ddim be' ddaw o'r Jonah yma.
(1, 0) 227 Mae nhw'n dweud 'i fod o'n hogyn reit addawol.
(Shadrach) Pwy, ddywedaist ti?
 
(Shadrach) Pwy, ddywedaist ti?
(1, 0) 229 Jonah—wyddoch chi—mab yr hen Amitai pan oedd o.
(Shadrach) Felly wir.
 
(Shadrach) 'D wy' i ddim wedi ei weld o ers tro byd.
(1, 0) 232 Na, mae o'n myfyrio ar ei ben ei hun i fyny yn y brynia' ers talwm.
(1, 0) 233 Yn byw fel meudwy bron.
(1, 0) 234 Newydd ddechra' mynd o gwmpas i bregethu mae o.
(Shadrach) 'Ddaw o byth i 'sgidia'i dad.
 
(Shadrach) 'Ddaw o byth i 'sgidia'i dad.
(1, 0) 236 'Wn i ddim beth am hynny.
(1, 0) 237 'D oes yna ddim golwg proffwyd arno fo mae'n rhaid i mi gyfadde'.
(1, 0) 238 Ond dyna fo, 'fedrwch chi ddim dweud.
(1, 0) 239 Mae o'n dwad yma nos 'fory 'r wy'n deall.
(1, 0) 240 Mi gawn gyfle ardderchog i'w glywed o'n pregethu...