Y Lefiathan

Ciw-restr ar gyfer Capten

(Dieithryn) Dydd da ichi.
 
(Nain) Jonah!
(0, 1) 104 Mae'r ddynas yna fel gafr efo pendics.
(Prys) Efo be, fy Nghapten?
 
(Prys) Efo be, fy Nghapten?
(0, 1) 106 Pendics.
(Prothero) Llid y coluddyn.
 
(Prydderch) Poen yn ei bol.
(0, 1) 113 Oes gan be, be?
(Prys) Gafr, — oes ganddi pendics?
 
(Prys) Gafr, — oes ganddi pendics?
(0, 1) 115 Wn i ar y ddaear.
(0, 1) 116 Mae'n eitha posib.
(0, 1) 117 Ond dyna'r math o sŵn fydda hi'n ei wneud tae ganddi hi un.
(0, 1) 118 A hwnnw'n magu dolur.
(0, 1) 119 A hithau'n brefu i ddeud wrth y bydysawd fod ei bol hi'n ei phoeni hi.
(0, 1) 120 Wyt ti'n deall rwan, Prys?
(0, 1) 121 Neu hoffet ti imi sgwennu traethawd ar y pwnc?
(Prys) Na, na, na, mi ydw i'n dilyn perwyl eich perorasiwn chi rwan... rydw i'n meddwl.
 
(Prothero) Cyffelybiaeth anllenyddol.
(0, 1) 125 Dewcs, mi ydw i'n fodlon ei newid hi os ydi'n eich blino chi Prothero!
(0, 1) 126 Crocodeil efo'r ddannodd os mynnwch chi.
(0, 1) 127 Ne forfil efo diffyg traul...
(0, 1) 128 Dim rhaid ei gymryd o mor ddifrifol, w'chi.
(0, 1) 129 'Dwy' i ddim yn honni mod i'n fardd nag yn fab i fardd.
(0, 1) 130 Ond mi wn i beth ydi sŵn drwg!
(Nain) {O'r golwg.}
 
(Nain) Jonah!
(0, 1) 134 Dyma hi eto ar fengoch chi!
(Prys) Yn llawn helbul o hyd, druan!
 
(Prydderch) Mater o farn.
(0, 1) 139 Prun bynnag, mae hi am ddeud ei chŵyn.
(Nain) {Dod i'r golwg.}
 
(Nain) Mwya'r brys, mwya'r rhwystr, mi fydda i'n deud bob amser...!
(0, 1) 241 Ia wel, pawb ei datws ei hun!
(0, 1) 242 Mi fydda'n ddiddorol ei gweld hi'n crafangu i fyny'r clogwyn yna!
(Prys) Mae o wedi bod yn her i'r pentre ers cyn co' on'd ydi?
 
(Prothero) Rwy'n tueddu i gytuno efo chi y tro yma, Prydderch, mae'n ddrwg gen i ddeud!
(0, 1) 258 Dim byd sicrach.
(0, 1) 259 A mi ddeuda i wrthych chi pam rydw i mor bendant.
(0, 1) 260 Rhaid i ddyn goelio ei lygaid a'i glustia ei hun.
(Prys) Be felly, fy Nghapten?
 
(Prys) Be felly, fy Nghapten?
(0, 1) 262 Rhyw fis yn ôl ro'n i'n mynd â llond sgwnar o bobol ar hyd y glannau yma.
(0, 1) 263 Ymwelwyr.
(0, 1) 264 Pobol gefnog, dwylo meddal, ffroenuchel.
(0, 1) 265 Fe wyddoch y teip.
(Prys) Eu nabod nhw'n iawn!
 
(Prys) Eu nabod nhw'n iawn!
(0, 1) 267 Roedd hi'n ddiwrnod braf.
(0, 1) 268 Dim cwmwl yn yr awyr.
(0, 1) 269 A'r môr fel melfed.
(0, 1) 270 Roedd yr haul yn hwylio i fachlud.
(0, 1) 271 A'r clogwyn ar dân.
(0, 1) 272 Ac wrth inni nesau ato fo, dyma un ohonyn nhw, dynas fawr, flonegog efo het fel nyth brân, — dyma hi'n neidio ar yr hatsus fel hyn!
 
(0, 1) 274 "O edrychwch yonder, fan acw," medda hi, yn ei llais trwynol, "Y clogwyn yn llosgi, welwch chi?
(0, 1) 275 Mor lyfli!
(0, 1) 276 O on'd ydi God yn Good!"
(0, 1) 277 Dyna'i geiria hi, cyn wiried â mod i'n sefyll yn fan'ma rwan!
(0, 1) 278 Glywsoch chi'r fath erthyl o ebychiad erioed!
(Prothero) Mae pobol wedi anghofio sut i siarad.
 
(Prothero) Mi hoffwn i wneud datganiad.
(0, 1) 285 Mae Prothero am wneud datganiad.
(0, 1) 286 Sylw!...
(0, 1) 287 Reit, Prothero.
(Prothero) Fe glywsoch Prydderch yn "twt-twtio" rwan.
 
(Prydderch) Mae fy nhrowsus i'n dwad i lawr!
(0, 1) 305 Rhoswch funud.
(0, 1) 306 Tric hen longwr, Prydderch...
 
(0, 1) 308 Gwneud twll fel hyn, ydach chi'n gweld...
(0, 1) 309 Wedyn tynnu'r bresus drwyddo fo... a hoelen drwy hwnnw wedyn... fel hyn.
 
(Jonah) A gwrando ar y gwynt.
(0, 1) 329 Be ddeudodd y gwylanod wrthyt ti?
(Jonah) Addo tywydd drwg yfory.
 
(Prys) Prentis proffwyd ar f'enaid i!
(0, 1) 332 Fuost ti ar y clogwyn, broffwyd bach ceiniog-a-dima?
(Jonah) Fi?
 
(Jonah) Naddo.
(0, 1) 336 Dwed y gwir, y gwalch!
(Jonah) Wel... mi fûm i yno neithiwr.
 
(Jonah) Wel... mi fûm i yno neithiwr.
(0, 1) 338 Neithiwr, aie!
 
(Jonah) A'u rhoi'n fwclis i Nain.
(0, 1) 343 Prentis bardd hefyd, ddyliwn!
(Prys) Mwclis?
 
(0, 1) 347 Doedd ei ddehongliad o gri'r wylan ddim ymhell ohoni.
(0, 1) 348 Mae'r gwynt wedi troi.
(0, 1) 349 Mi gawn gythral o ddrycin gyda hyn.
(0, 1) 350 Mae'r rhagolygon yn hyll.
(0, 1) 351 Hyll iawn.
(Prydderch) Gwir bob gair.
 
(Prydderch) Beth yw ein Tynged?
(0, 1) 359 Cwestiwn dyrys.
(0, 1) 360 Andros o ddyrys.
(0, 1) 361 Melltigedig o ddyrys.
(Prys) Dewcs, tybed d'wch?
 
(Prothero) Ond waeth heb na hel dail, — mae'n argyfwng.
(0, 1) 368 Creisis!
(Prydderch) Croesffordd Ffawd!
 
(Prothero) A does yna ddim ond un ffordd allan inni.
(0, 1) 380 Prun ydi honno, Prothero, os nad ydi o'n ormod i ofyn?
(0, 1) 381 Dowch, mae dynol ryw yn disgwyl am y neges fawr.
(0, 1) 382 Mae'r bydysawd yn glustia i gyd!
(Prothero) {Mae'n neidio ar rostrwm a datgan yn ddramatig.}
 
(Prothero) Heb falu awyr na hel dail.
(0, 1) 396 Prys, gofyn iddo fo.
(Prys) Fi?...
 
(Prothero) Mi gawn benderfynu hynny, toc!
(0, 1) 427 Prys, ydi ei ddwy ysgwydd o ar lawr?
(0, 1) 428 Os ydyn nhw, mae Prothero wedi ennill.
(Prys) Anodd deud...
 
(Prys) Dwy ysgwydd ar lawr, Capten!
(0, 1) 443 Reit!
 
(0, 1) 445 Un... dau... tri!
(0, 1) 446 Buddugoliaeth foesol i Prothero...
(0, 1) 447 Codwch rwan...
(0, 1) 448 Dowch, i fyny â chi!
(0, 1) 449 Brysiwch!
(0, 1) 450 Mae'r sgarmes drosodd.
(Prydderch) Yng nghwmni rhai pobol, — heb enwi neb — mi fydda i'n diolch i Dduw mai anffyddiwr ydw i!
 
(Prydderch) Yng nghwmni rhai pobol, — heb enwi neb — mi fydda i'n diolch i Dduw mai anffyddiwr ydw i!
(0, 1) 454 Ia, wel, digon am heddiw gyfeillion.
(0, 1) 455 Mae'r holl gyffro yna wedi codi cythral o syched arna i.
(0, 1) 456 'Thâl dim imi rwan ond tywallt chwart o gwrw bendigedig i lawr fy nghorn-gwddw.
(0, 1) 457 A hynny ar un llwnc.
(0, 1) 458 Ar fy nhalcen!
(Prys) Syniad haidd-iannus, fy Nghapten!
 
(Prys) Syniad haidd-iannus, fy Nghapten!
(0, 1) 460 Dowch, Prothero.
(0, 1) 461 Rhaid i fara-sych-a-dŵr ildio i'r cwrw-chwerw-coch heddiw...
(0, 1) 462 Prydderch, brysiwch.
(Prydderch) Fy ngherdyn!
 
(Prydderch) Fe gewch chi i gyd wybod.
(0, 1) 476 Yn y cyfamser, bwrw i'r cwrw chwerw...
(0, 1) 477 Dowch!