g1

Y Lefiathan (1976)

Huw Lloyd Edwards

Ⓗ 1976 Huw Lloyd Edwards
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 1


Rostra a lefelau yn ôl yr angen. Ar ddechrau'r ddrama, bydd rhai o'r rostra hyn yn cynrychioli clogwyn; sleid o fynyddoedd, awyr a rhimyn o fôr ar y seiclorama.

Miwsig.

Mae Jonah yn eistedd yn fyfyriol ar y clogwyn, ar ôl ennyd neu ddau, daw'r Dieithryn heibio iddo. Miwsig yn distewi.

Dieithryn

Dydd da ichi.

Jonah

Ac i chitha.



Y Dieithryn yn edrych o'i amgylch.

Dieithryn

Llecyn hyfryd ar ben y clogwyn yma.

Jonah

Y gora yn y cyffinia, w'chi.

Dieithryn

(Edrych i lawr.) Mae o'n rhoi pendro i ddyn. Y môr i lawr acw fel darn o sidan crychlyd.

Jonah

E?

Dieithryn

A'r gwylanod fel gwybed yn hofran mor ddioglyd-hamddenol.

Jonah

Sôn am wybed, roeddyn nhw fel pla i lawr ar y traeth gynna.

Dieithryn

Mi fuoch i lawr ar y traeth felly? Pysgota?

Jonah

Dal genwair, nid pysgota fel y cyfryw.

Dieithryn

Rhyw wagsymera'n lled-obeithiol, fel tae?

Jonah

E?... la am wn i... Mi fedar unrhyw ffŵl enweirio ar y cei, w'chi.

Dieithryn

O?

Jonah

Peth arall ydi pysgota afon. Rhaid ichi fod yn fwy sgilgar o beth mwdral.

Dieithryn

Tybed?

Jonah

Dim amheuaeth. Mae brithilliaid yn greaduriaid call, w'chi. Nid petha hanner-pen run fath â lledod a chathod-môr ac ati. Mae gofyn ichi ddefnyddio dipyn o hwn... (Tapio'i dalcen.) Deudwch i mi, ydw i wedi'ch gweld chi o'r blaen ryw dro?

Dieithryn

Be sy'n gwneud ichi feddwl?

Jonah

Ŵn i ar y ddaear. Ond mi awn i ar fy llw. Fel tawn i'n eich nabod chi erioed, rywsut.

Dieithryn

Wedi gweld rhywun tebyg, reit siwr.

Jonah

Ia efalla... Fel ro'n i'n deud, mae pysgota'r afon yn fwy nag eistedd ar eich pen-ôl yn dal genwair. Yn un peth rhaid ichi wybod eich plu. A medru eu gwneud nhw os bydd angen.

Dieithryn

Felly!

Jonah

Mae'r hen frithyll yn gwybod y gwahaniaeth rhwng petrisen-corff-lliw-gwin a phetrisen-corff-blewyn-sgwarnog, w'chi. Dro arall, wneith dim y tro ond pluen ceiliog-chwaden-corff-melyn-budur.

Dieithryn

Rydych chi'n awdurdod ar y pwnc, mae'n amlwg.

Jonah

Wrthi ers pan ro'n i'n hogyn efo fy nwylo o dan y cerrig. Cosi bol yr hen frithyll nes y bydda fo'n swrth!

Dieithryn

Swrth a bodlon mewn swyngyfaredd!

Jonah

E? Ia, am wn i.

Dieithryn

Roeddech chi'n fachgen pur anghyffredin, rwy'n gweld.

Jonah

Wel, gan ichi ddeud hynna, mi ydw wedi teimlo erioed nad ydw i ddim yn hollol run fath â phobol eraill rhywsut.

Dieithryn

O?

Jonah

Peidiwch â cham-ddeall. Dwy i ddim yn honni am funud mod i'n well nag yn waeth na'r rhelyw. Ond mod i'n wahanol... Ydach chi'n siwr nad ydw i ddim wedi'ch gweld chi o'r blaen? Puw ydi f'enw i, Jonah Puw.

Dieithryn

Jonah, aie! (Cellweirus.) Oes yna ryw arwyddocâd yn yr enw, tybed?

Jonah

Rhyfedd ichi grybwyll y peth. Ond ers pan o'n i'n grwtyn, mi ydw i wedi teimlo rhyw berthynas od rhyngof i a'r hen Broffwyd bach hwnnw. Effaith yr enw ar y dychymyg mae'n debyg. Yn enwedig pan fydda i'n gorwedd ar y clogwyn yma, fin nos yn yr haf.

Dieithryn

Pan fydd yr haul yn pendwmpian â'i ên ar y gorwel. A siffrwd y môr yn ei suo i gysgu. A'r hen fynyddoedd acw'n clustfeinio ar gyfrinach yr Oesoedd.

Jonah

E?

Dieithryn

A'r pentre oddi tanoch yn ymlacio'n braf ar ôl gwaith y dydd. Amser i fyfyrio am y byd a'r betws. Amser i freuddwydio.

Jonah

Diawch, wyddoch chi be, rydach chi'n berffaith iawn. Amser i freuddwydio ydi o. A mynd yn ôl i ddyddia mebyd. A gweld, drwy lygaid y dychymyg fel tae, helyntion yr hen Broffwyd Bach o Gath Heffer yn fy mywyd i fy hun. Yn union fel petaen ni'n ymdoddi i'n gilydd...



Gostyngir y goleuadau ar Jonah a'r Dieithryn a daw llais Jonah yn awr ar dâp drwy'r corn-siarad. Miwsig ysgafn, addas, yn y cefndir i gyfleu atgof. Goleuer rhannau o'r llwyfan yn ôl yr angen. Daw y cymeriadau i'r golwg fel y cyfeirir atynt a mynd yn grŵp at un o'r rostra i sgwrsio mewn meim. Mae'r Capten yn gwisgo cap pig-gloyw, siersi las ac esgidiau uchel. Mae Prothero yn gwisgo het-galed a dillad sydd braidd yn rhy fawr iddo; Prydderch yn gwisgo cap a dillad sydd braidd yn rhy fychan iddo. Mae gan Prys gap wedi'i weu â thasel arno.

Jonah

(Tâp.) Ac yn fy mreuddwyd roedd hyd yn oed rhai o'r pentrefwyr yn chwarae rhan yn yr hen chwedl... heb anghofio'r hen wraig fy nain.

Nain

(Clywir ei llais cyn iddi ddod i'r golwg.) Jonah!... Jonah! Jonah! (Daw i'r golwg.) Ble ar y ddaear fawr yma'n gron mae'r hogyn yma, deudwch? Fedar o ddim aros yn llonydd am eiliad. Fel tae yna ryw lyngyr tragwyddol yn ei yrru o. Wn i ddim be ddaw ohono fo, na wn, tawn i byth o'r fan yma. Pwy faga hogia — (Mynd allan.) Jonah!... Jonah!... Jonah!

Capten

Mae'r ddynas yna fel gafr efo pendics.

Prys

Efo be, fy Nghapten?

Capten

Pendics.

Prothero

Llid y coluddyn.

Prydderch

Poen yn ei bol.



Prys O!... (Saib ennyd.) Oes ganddi hi un, deudwch?

Capten

Oes gan be, be?

Prys

Gafr, — oes ganddi pendics?

Capten

Wn i ar y ddaear. Mae'n eitha posib. Ond dyna'r math o sŵn fydda hi'n ei wneud tae ganddi hi un. A hwnnw'n magu dolur. A hithau'n brefu i ddeud wrth y bydysawd fod ei bol hi'n ei phoeni hi. Wyt ti'n deall rwan, Prys? Neu hoffet ti imi sgwennu traethawd ar y pwnc?

Prys

Na, na, na, mi ydw i'n dilyn perwyl eich perorasiwn chi rwan... rydw i'n meddwl.

Prothero

Cymhariaeth ddigon tila oedd hi, serch hynny. Cyffelybiaeth anllenyddol.

Capten

Dewcs, mi ydw i'n fodlon ei newid hi os ydi'n eich blino chi Prothero! Crocodeil efo'r ddannodd os mynnwch chi. Ne forfil efo diffyg traul... Dim rhaid ei gymryd o mor ddifrifol, w'chi. 'Dwy' i ddim yn honni mod i'n fardd nag yn fab i fardd. Ond mi wn i beth ydi sŵn drwg!

Nain

(O'r golwg.) Jonah!... Jonah!

Capten

Dyma hi eto ar fengoch chi!

Prys

Yn llawn helbul o hyd, druan! Biti drosti, ydach chi ddim yn meddwl?

Prothero

Wel, mae'n dibynnu.

Prydderch

Mater o farn.

Capten

Prun bynnag, mae hi am ddeud ei chŵyn.

Nain

(Dod i'r golwg.) Jonah...! (Mae'n gwrando.) Dim siw na miw yn unman. (Dod ymlaen a chyfarch y gynulleidfa.) Dim golwg ohono fo... O diar, hen beth cas ydi pryder ynte! Yn ddigon cas i fam, fel y gŵyr pawb. Yn gasach fyth i nain, mi fydda i'n deud bob amser. A mi wn i beth ydi bod yn fam ac yn nain. (Eistedd.) A waeth imi heb na deud wrthyf fy hun am beidio â phoeni. Fedra i ddim. Ac mae hynny'n ddigon naturiol reit siwr, mi fydda i'n deud bob amser. Sut mae'r hen ddihareb yn mynd "Car gafr ei myn, boed ef ddu, boed ef wyn" — Digon gwir, er mai ei nain o ydw i ac nid ei fam o. A dydi Jonah ddim yn hogyn drwg, cofiwch. Dim o gwbwl. A deud y gwir yn onast, mi fydda'i well gen i tae o'n fwy direidus. Peth reit iach mewn hogyn ydi ambell dwll yn ei drowsus o, mi fydda i'n deud bob amser. A'i grys o'n hongian allan. Ac ynta'n dwyn fala weithia. A minnau'n cael ei ddwrdio fo wedyn, â gwên o'r golwg yn fy mrest fel tae! Yn lle hynny, mae o'n crwydro fel meudwy ar ei ben ei hun. Ac yn breuddwydio a hel meddylia od. Mwydro'i ben yn lân. A finna wedyn yn poeni fy hun i andros o gamdreuliad!... Tynnu ar ôl ei dad mae o, heddwch i'w lwch. A phan gollodd ei fam wedyn, wel doedd yna neb ond yfi, ei nain, i fod yn fam ac yn dad iddo fo!... Ia wel, does gan r'un ohonom ni help i'w natur. Ac wfft i'r hen fyd yma petaen ni i gyd run fath, mi fydda i'n deud bob amser. A mae o'n ddigon hoffus a thyner, ngwas annwyl i! (Mae'n codi.) Ond y cwestiwn ydi, lle mae o? (Gweiddi.) Jonah! Jonah! Jonah!



Daw Cymdoges 1 a Chymdoges 2 i mewn.

Cymdoges 1

Dal i chwilio amdano fo rydach chi felly?

Nain

Ia, tawn i flewyn haws.

Cymdoges 2

Doedd o ddim efo'r hogia eraill. Mi welais i y rheini'n chwarae Jac-pen-domen gynna.

Nain

Na, fasa fo ddim efo nhw w'chi. Rhyw stwna ar ei ben ei hun fydd o fel arfer. Wyddoch chi, — pendroni ac ati... Roedd ei dad o'n rhyw dipyn o fardd hefyd... Fy mab rwy'n ei feddwl, heddwch i'w lwch...ia, wel,... fel yna mae hi.

Cymdoges 1

O mi ddaw Jonah i'r fei toc, peidiwch â phoeni.

Nain

Daw gobeithio.

Cymdoges 2

Wel, does arna i ddim eisio codi bwganod ond...

Nain

"Ond" by-be? Dowch, rydach chi'n fy nychryn i'n fwy wrth bethma fel yna!

Cymdoges 2

Meddwl ro'n i — dim ond meddwl, cofiwch — mod i wedi ei weld o'n mynd i gyfeiriad y clogwyn.

Nain

Arswyd y byd! A minna wedi ei siarsio fo dro ar ôl tro i gadw o'r lle.

Cymdoges 2

Dwy'i ddim yn deud ei fod o'n ei ddringo fo cofiwch.

Nain

Na?

Cymdoges 2

Dim o gwbwl... Ond hogia ydi hogia, ynte?

Cymdoges 1

Digon gwir. Wyddoch chi ar y ddaear be wnawn nhw nesa.

Cymdoges 2

Hyd yn oed y diniweitia.

Cymdoges 1

Hyd yn oed y diniweitia, fel rydach chi'n deud.

Cymdoges 2

Cadw reiat.

Cymdoges 1

Misdimanars.

Cymdoges 2

Direidi.

Cymdoges 1

Drygioni.

Cymdoges 2

Castia.

Cymdoges 1

Prancia.

Cymdoges 2

Tricia.

Cymdoges 1

Strancia.

Cymdoges 2

Peth yma.

Cymdoges 1

Peth arall.

Cymdoges 2

Ond twt, does arna i ddim eisio achosi pryder ichi. Mae Jonah yn siwr o fod yn ddiogel.

Nain

Ydi, gobeithio'r annwyl!

Cymdoges 1

Ar y llaw arall, mae'r hen glogwyn yna'n beryglus.

Cymdoges 2

Ydi, mae o.

Cymdoges 1

Ond mae hogia'n ddigon atebol fel arfer.

Cymdoges 2

O ydyn... Ac eto fedrwch chi byth ddeud.

Cymdoges 1

Mae hynna'n ddigon gwir.

Cymdoges 2

Ond mae'n debyg fod Jonah yn ddigon gofalus.

Cymdoges 1

Ydi o?

Cymdoges 2

O ydi, decini... ydi o ddim? Ond mae'r mwya gofalus yn methu weithia. Dyna ichi hogyn Hannah, Tŷ Draw, er enghraifft, ydach chi'n cofio? Druan ohono fo!

Cymdoges 1

Ia wir, y peth bach!

Nain

O tewch, tewch, da chi! Rydach chi fel oracla yn darogan dinistr. Piga drain? Mi ydw i'n eistedd ar andros o dwmpath. A phob un run fath â hoelan-wyth. Does yna ddim ond un peth amdani, — mynd draw i'r clogwyn... (Mae'n cychwyn ymaith yn herciog.) Drapia'r crud-cymala felltith yma... Mwya'r brys, mwya'r rhwystr, mi fydda i'n deud bob amser...!



Mae'n mynd allan dan fwmian. Mae'r ddwy Gymdoges yn mynd y ffordd arall.

Capten

Ia wel, pawb ei datws ei hun! Mi fydda'n ddiddorol ei gweld hi'n crafangu i fyny'r clogwyn yna!

Prys

Mae o wedi bod yn her i'r pentre ers cyn co' on'd ydi?

Prothero

Be sy wedi bod yn her i'r pentre ers cyn co'?

Prys

Wel, y clogwyn, Prothero, y clogwyn. Roedd dringo'r clogwyn bob amser yn didoli'r hogia oddi wrth y gennod. Ydach chi ddim yn cofio?

Prothero

Anodd deud y gwahaniaeth erbyn heddiw!

Prydderch

Dim ond cynnyrch dirywiad yr oes. Safonau wedi gostwng. Gwerthoedd wedi diflannu. Mae'r genedl wedi mynd â'i phen iddi. A'r clogwyn yna'n edrych i lawr arnon ní mewn dirmyg, yn symbol o gadernid y dyddia gynt.



Mae Prydderch yn tynnu cerdyn bychan o'i boced a'i astudio'n fanwl a myfyrgar gan ei droi drosodd a throsodd. Bydd yn gwneud hyn o bryd i'w gilydd drwy'r olygfa.

Prys

Dewcs, tybed d'wch?

Prothero

Rwy'n tueddu i gytuno efo chi y tro yma, Prydderch, mae'n ddrwg gen i ddeud!

Capten

Dim byd sicrach. A mi ddeuda i wrthych chi pam rydw i mor bendant. Rhaid i ddyn goelio ei lygaid a'i glustia ei hun.

Prys

Be felly, fy Nghapten?

Capten

Rhyw fis yn ôl ro'n i'n mynd â llond sgwnar o bobol ar hyd y glannau yma. Ymwelwyr. Pobol gefnog, dwylo meddal, ffroenuchel. Fe wyddoch y teip.

Prys

Eu nabod nhw'n iawn!

Capten

Roedd hi'n ddiwrnod braf. Dim cwmwl yn yr awyr. A'r môr fel melfed. Roedd yr haul yn hwylio i fachlud. A'r clogwyn ar dân. Ac wrth inni nesau ato fo, dyma un ohonyn nhw, dynas fawr, flonegog efo het fel nyth brân, — dyma hi'n neidio ar yr hatsus fel hyn!



Mae'r Capten yn meidio'n ddramatig ar un o'r rostra ac efelychu'r wraig dan sylw.

Capten

"O edrychwch yonder, fan acw," medda hi, yn ei llais trwynol, "Y clogwyn yn llosgi, welwch chi? Mor lyfli! O on'd ydi God yn Good!" Dyna'i geiria hi, cyn wiried â mod i'n sefyll yn fan'ma rwan! Glywsoch chi'r fath erthyl o ebychiad erioed!

Prothero

Mae pobol wedi anghofio sut i siarad.

Prys

Dewcs, tybed d'wch?

Prydderch

"God yn Good!" Twt, twt, twt be nesa!



Daw Jonah, fel bachgen, ymlaen ar y llwyfan ac eistedd yn ymyl y grŵp i wrando'n astud ar eu sgwrs, heb iddyn nhw fod yn ymwybodol ohono ar y cyntaf.

Prothero

Mi hoffwn i wneud datganiad.

Capten

Mae Prothero am wneud datganiad. Sylw!... Reit, Prothero.

Prothero

Fe glywsoch Prydderch yn "twt-twtio" rwan. Peidied neb â meddwl mai ar dir diwylliannol roedd o'n gwneud. Hynny ydi nid wfftio at ein hiaith sathredig ni roedd o.

Prydderch

Cywir! Ar dir metaffisegol roeddwn i'n protestio.

Prothero

Fel mater o ffaith, mae o'n twt-twtio bob tro y bydd rhywun yn sôn am y Bod Mawr. Mi ydw i wedi sylwi hynny.

Prydderch

Y Bod Mawr? "Bali-Bŵ " fydda i'n ei alw fo. Ofergoeledd y mae dyn wedi tyfu allan ohono fo bellach. Rhan o broses esblygiad y crebwyll. Mymbo-jumbo cyntefigrwydd y ddynoliaeth chwedl y Doctor Heinrich von Buber... O damia las!

Prys

Be sy'n bod?

Prydderch

Botwm wedi mynd! Yr unig un yr ochr yma... Mae fy nhrowsus i'n dwad i lawr!

Capten

Rhoswch funud. Tric hen longwr, Prydderch... (Mynd ato dan agor cyllell boced.) Gwneud twll fel hyn, ydach chi'n gweld... Wedyn tynnu'r bresus drwyddo fo... a hoelen drwy hwnnw wedyn... fel hyn. (Mae'r Capten yn rhoi'r hoelen drwy'r bresus.)

Prydderch

Diolch o galon ichi. Mi fedra i wynebu'r byd eto!

Prys

Beth ydi'r cerdyn yna rydach chi'n ei astudio mor ddyfal, Prydderch? Mor hy â gofyn. Begio'ch pardwn ac ati!

Prydderch

Ar hwn, Prys, ar hwn mae un o broblemau mwya dyrys Bywyd. Canolbwynt fy myfyrdod. Hanfod f'athroniaeth.

Prys

O?... Dewcs annwyl, tybed?



Mae Prys yn hanner-troi a gweld y bachgen $onah am y tro cyntaf.

Prys

Hei was, mae dy nain yn chwilio amdanat ti ymhobman. Mae hi bron â drysu. Ble rwyt ti wedi bod?

Jonah

Fi? Hel cregyn ar y traeth. Siarad efo'r gwylanod. A gwrando ar y gwynt.

Capten

Be ddeudodd y gwylanod wrthyt ti?

Jonah

Addo tywydd drwg yfory.

Prys

Prentis proffwyd ar f'enaid i!

Capten

Fuost ti ar y clogwyn, broffwyd bach ceiniog-a-dima?

Jonah

Fi? Naddo.



Mae'r Capten yn neidio am Jonah yn sydyn a chogio'i lindagu.

Capten

Dwed y gwir, y gwalch!

Jonah

Wel... mi fûm i yno neithiwr.

Capten

Neithiwr, aie! (Mae'n gollwng Jonah.)

Jonah

Ia, pan oedd y ser yn dechra dwad allan. Roeddyn nhw mor agos tawn i wedi estyn fy llaw mi faswn wedi medru gafael mewn dyrnaid ohonyn nhw. A'u rhoi'n fwclis i Nain.

Capten

Prentis bardd hefyd, ddyliwn!

Prys

Mwclis? Mi fydda'n well gan dy nain ddwsin o wya.

Capten

(Troi oddi wrth Jonah.) Doedd ei ddehongliad o gri'r wylan ddim ymhell ohoni. Mae'r gwynt wedi troi. Mi gawn gythral o ddrycin gyda hyn. Mae'r rhagolygon yn hyll. Hyll iawn.

Prydderch

Gwir bob gair. Mae'r cymylau'n cronni. Mae'r storm ar dorri. Ac nid cyfeirio at y tywydd rydw i. Ond at gyflwr dynol ryw — Be sy'n mynd i ddigwydd inni? Beth yw ein Tynged?

Capten

Cwestiwn dyrys. Andros o ddyrys. Melltigedig o ddyrys.

Prys

Dewcs, tybed d'wch?

Prydderch

Dyma ni, yn genedl fach yn byw yng nghysgod y cawr pwerus yna i'r dwyrain. Efo'i holl rym a'i gyfoeth Babilonaidd. Sy'n bygwth ein traflyncu'n raddol a dan-din.

Prothero

Cytuno mae'n ddrwg gen i gyfadde. Ond waeth heb na hel dail, — mae'n argyfwng.

Capten

Creisis!

Prydderch

Croesffordd Ffawd!

Prothero

Nemesis!

Prys

Traed moch!

Prothero

Ond pam? Be ydi'r rheswm? Wel, yng ngeiriau'r Doctor Karl von Dietloff — mi fedra inna ddyfynnu dynion pwysig hefyd, Prydderch, — yng ngeiria'r Doctor Dietloff wedi mynd ar goll rydan ni. Cenedl ar gyfeiliorn. Di-asgwrncefn. Chwit-chwat! Chwim-chwam! A does yna ddim ond un ffordd allan inni.

Capten

Prun ydi honno, Prothero, os nad ydi o'n ormod i ofyn? Dowch, mae dynol ryw yn disgwyl am y neges fawr. Mae'r bydysawd yn glustia i gyd!

Prothero

(Mae'n neidio ar rostrwm a datgan yn ddramatig.) Mynd yn ôl i wytnwch y dyddiau gynt, dyna ichi be! Ymwroli! Gwregysu ein llwynau! Ail-gydio yn yr hen werthoedd! Rhoi'r ysgwydd i'r olwyn. Ein trwyn ar y maen! Ein cefn ati! A does yna ddim ond un waredigaeth inni. A phetaech yn gofyn imi be ydi honno, mi ddywedwn wrthych chi. Yn dwt, yn gryno. Mewn un frawddeg. Heb falu awyr na hel dail.

Capten

Prys, gofyn iddo fo.

Prys

Fi?... Beth ydi'r waredigaeth, Prothero?

Prothero

Sach-lian a lludw. Bara-sych-a-dŵr. Ydach chi'n fy neall i?

Prydderch

Twt! twt! twt! twt!

Prothero

(Neidio i lawr.) Ydw i'n clywed rhywun yn beiddio twt-twtio eto?



Mae Prothero yn dod at Prydderch, y ddau yn sefyll yn glôs wyneb yn wyneb fel dau geiliog. Daw'r Dieithryn i'r golwg ond erys yng nghefn y llwyfan, ac nid oes neb yn ymwybodol ohono.

Prydderch

Mae gen i berffaith hawl i dwt-twtio. A thwt-twtio wna i hefyd wrth glywed y fath lol-mi-lol, potas-maip.

Prothero

Enaid mewn tywyllwch!

Prydderch

Meddwl mewn cadwyni!

Prothero

Heretic!

Prydderch

Mymbo-jumbo!

Prothero

Twpsyn!

Prydderch

Bali-Bŵ! (Mae'n tynnu het Prothero i lawr dros ei lygaid.)

Prothero

(Yn wyllt.) Does yna ddim ond un peth i wneud i'r fath gablwr. Rhaid gorffen tynnu ei drowsus! Rydach chi wedi gofyrr amdani gyfaill!



Mae Prothero yn gafael yn Prydderch yn sydyn, ac mewn chwinciad, yn ei roi'n ddeheuig ar ei hyd ar lawr ac eistedd arno.

Prydderch

Ydach chi'n drysu, ddyn?

Prothero

Teimlo fel twt-twtio rwan, Prydderch? Rhoswch chi...!



Mae Prothero yn gafael ym mraich Prydderch a rhoi tro bach iddi.

Prydderch

Ydach chi am dynnu mraich i o'i soced?

Prothero

Mi gawn benderfynu hynny, toc!

Capten

Prys, ydi ei ddwy ysgwydd o ar lawr? Os ydyn nhw, mae Prothero wedi ennill.



Mae'r Capten a Prys yn cyrcydu i edrych.

Prys

Anodd deud... Hanner munud! (Prys yn rhoi ei foch ar y llawr i edrych yn fanylach.) Na, mae un i fyny, Capten. Mi wela i ola rhyngddo fo a'r ddaear!

Prothero

Goleuni'r Ffydd! Rwan Prydderch, dwedwch ar f'ôl i "Duw cariad yw".

Prydderch

Dydach chi ddim yn gall ddyn!

Prothero

(Tro arall ar ei fraich.) "Duw... cariad... yw!"

Prydderch

Mygu'n lân! M-y-g-u!

Prys

Dwy ysgwydd ar lawr, Capten!

Capten

Reit! (Taro ar y llawr â chledr eilaw.) Un... dau... tri! Buddugoliaeth foesol i Prothero... Codwch rwan... Dowch, i fyny â chi! Brysiwch! Mae'r sgarmes drosodd.



Rhydd Prothero un tro arall i fraich Prydderch yna cyfyd y ddau ar eu traed. Mae hyn i gyd, wrth gwrs, wedi bod rhwng chwarae a difri, ond i Jonah, a fwn eu gwylio'n syn — mae'n llawn arwyddocâd o bwys.

Prydderch

Yng nghwmni rhai pobol, — heb enwi neb — mi fydda i'n diolch i Dduw mai anffyddiwr ydw i!

Capten

Ia, wel, digon am heddiw gyfeillion. Mae'r holl gyffro yna wedi codi cythral o syched arna i. 'Thâl dim imi rwan ond tywallt chwart o gwrw bendigedig i lawr fy nghorn-gwddw. A hynny ar un llwnc. Ar fy nhalcen!

Prys

Syniad haidd-iannus, fy Nghapten!

Capten

Dowch, Prothero. Rhaid i fara-sych-a-dŵr ildio i'r cwrw-chwerw-coch heddiw... Prydderch, brysiwch.



Mae'r Capten, Prys a Prothero yn cychwyn i ffwrdd, ond saif Prydderch yn yr unfan fel petai'n chwilio am rywbeth.

Prydderch

Fy ngherdyn! Rwy' i wedi colli fy ngherdyn!

Prothero

Wedi'i ollwng o reit siwr, wrth ichi gael eich trechu gan y Gwirionedd!

Prydderch

Ble ar y ddaear...!



{Daw Jonah ymlaen ac ar ôl chwilio am ychydig mae'n dod o hyd i'r cerdyn a'i roi i Prydderch.

Prydderch

Diolch iti, machgen i. Diolch íti.



Rhydd Prydderch y cerdyn yn ofalus yn ei boced a mynd at y lleill.

Prys

Be sydd ar y cerdyn yna, Prydderch, mor hŷ â gofyn?

Prydderch

Fel y dywedais i wrthyt ti o'r blaen, un o broblemau dyrys bywyd... Rhyw ddiwrnod, efallai, fe gei wybod... Fe gewch chi i gyd wybod.

Capten

Yn y cyfamser, bwrw i'r cwrw chwerw... Dowch!



Mae'r pedwar yn mynd allan heb roi mwy o sylw i fonah. Daw'r Dieithryn ymlaen.

Dieithryn

Wel, Jonah!

Jonah

Dydd da, Syr.

Dieithryn

Wnest ti aros yn hir ar y clogwyn neithiwr?

Jonah

Fi, Syr? Naddo... Hynny ydi, rhyw hanner awr... Sut y gwyddoch chi, Syr?

Dieithryn

Rwyt ti'n hapus ar dy ben dy hun?

Jonah

Ydw... weithia.

Dieithryn

Pam?

Jonah

(Codi ei ysgwyddau.) Dwy' i ddim yn gwybod, Syr.

Dieithryn

Fyddi di ddim yn chwarae efo plant y pentre?

Jonah

O bydda... ambell dro... Hynny ydi pan fydda i wedi blino ar fy mhen fy hun.

Dieithryn

Rwyt ti'n hoff iawn o fynd i fyny'r clogwyn hefyd?

Jonah

Ydw, Syr.

Dieithryn

Be fyddi di'n 'i wneud yno?

Jonah

Dim ond gorwedd ar y gwellt, Syr. Ac edrych i fyny ar yr awyr.

Dieithryn

Be fyddi di'n 'i weld?

Jonah

Bob math o betha... Wyddoch chi, — y cymylau'n newid eu siâp ac ati... Mae arna i ofn yno, weithia, hefyd.

Dieithryn

Ofn beth?

Jonah

Dwy'i ddim yn gwybod... Dim ond ofn.

Dieithryn

Rwy'n gweld.



Saib ennyd.

Dieithryn

Rhaid iti fod yn ddewr, 'machgen i. Wnei di addo hynna? Bod yn ddewr bob amser? Beth bynnag a ddigwydd?

Jonah

Mi wna i 'ngora glas, Syr.

Dieithryn

Amser a ddengys, Jonah... Amser a ddengys.



Mae'r Dieithryn yn troi i fynd oddi ar y llwyfan. Saif am ennyd i gyffwrdd â'r ysgubell. Cyn mynd o'r golwg, try at Jonah.

Dieithryn

Cofia, Jonah, bydd ddewr... Mi gawn gyfarfod eto... rhywdro.



Mae'r Dieithryn yn mynd allan, a gadael Jonah mewn cryn benbleth. Eistedd ar un o'r rostra i fyfyrio. Rhed rhai o'r pentrefwyr ar y llwyfan, a sefyll yn syn wrth weld Jonah.

Côr
Wel, wel, wel!
Edrychwch pwy sydd yma ar ei ben ei hun,
Fel meudwy'n dwys-fyfyrio,
A mud-edmygu, heb anadlu bron,
Annisgrifiadwy harddwch bawd ei droed!
A darllen ystyr holl gyfrinach
Bod Yng ngwyrthiol ffurf ei fotwm-bol!
Beth am fynd ato fo i dynnu dipyn ar ei goes
A'i slensio i ddweud pa anturiaethau gwyllt
A gafodd yn ddiweddar!

Wedi'r cyfan
Dydi o ddim run fath â phawb: mae'n rhaid
Rhoi rhywfaint bach o ryddid i ddychymyg byw
Creadur od fel hwn, a fydd rhyw ddiwrnod — pwy a ŵyr ─
Yn wleidydd, yn olygydd papur-newydd,
Neu yn fardd!

Dydd da iti, Jonah,
Sut mae'r hwyl? Mae wythnos, bellach, wedi mynd
A minnau heb dy gwmni. Ble buost ti?
Pa ryfeddodau welaist ti'r tro hwn
Ar lethrau serth y clogwyn? Gad'inni glywed;
Mae yma, fel y gweli, gynulleidfa gref,
Pob un ohonom bron â thorri 'i fol
I rannu dy gyfrinach!



Mae Jonah yn neidio ar ben y rostrwm.

Jonah

Reit, gan eich bod chi'n gofyn... Mae o wedi digwydd eto! Run fath ag o'r blaen. Wel, nid yn hollol run fath. Ond bron yn hollol run fath. Hynny ydi, y tro yma roedd yna fymryn bach o wahaniaeth. Y tro o'r blaen be wnes i oedd nadu'r tarw dwlcio'r hen gi dall. A hynny hyd cae i ffwrdd. 'Rydach chi'n cofio hynna i gyd.

Côr

(Cellweirus.) Gorchest fawr oedd honno, Jonah; paid â dweud iti gyflawni un a oedd yn fwy!

Jonah

Wna i ddim dweud hynny. Dydw i ddim yn un am frolio. Mi gewch chi benderfynu. Y cyfan rwy i'n 'i ddweud ydi, mod i'n medru gwneud petha clyfar. Wel, nid clyfar, efalla. Hynod, — ia dyna fo. Andros o hynod. Dim ond imi feddwl a meddwl. A chau fy nyrna nes y bydda i'n chwys diferol. Wedyn mae o'n digwydd!

Côr
Gwarchod pawb! Wel, glywsoch chi! Mae honna'n ddawn
Tu hwnt i bob dirnadaeth! Gad inni glywed mwy!

Jonah

(Yn dechrau ei fwynhau ei hun.) Wel, ro'n i ar y clogwyn y diwrnod o'r blaen. Gorwedd ar fy nghefn ro'n i, yn edrach ar eroplên yn yr awyr. A dyma fi'n clywed bref. Beth oedd yna meddech chi? Oen bach, wedi mynd yn sownd yn y graig. Dyna ichi beth oedd o. Ac wrth ei ben o, yn disgwyl ei chyfle, andros o gigfran fawr. Roedd hi gymaint ag eryr bron. A phig tua saith modfedd o hyd.

Côr

Faint, Jonah? Faint?

Jonah

Wel, andros o big. A dyna fi'n meddwl. A chau fy nyrnau nes ro'n i'n chwys. A deud yn ddistaw, yn fy mhen fel tae: "Yli, Frân," medda fi, "dim un fodfedd yn nes," medda fi, "Rwy'n dy droi di'n garreg y munud yma!" medda fi. Ac yn sydyn, dyma hi'n fferru yn y fan a'r lle. Ac yn mynd yn rhan o'r graig... Mae ei siâp hi yna o hyd... Ond fedar neb ond yfi ei gweld hi!

Côr
Roedd hynna'n antur hynod! Oedd yn wir!
Paid â bod yn wylaidd. Jonah, gad inni glywed mwy.

Jonah

Wel gan eich bod yn gofyn. Mi es i nofio ddoe. Roedd hi'n ddiwrnod braf a'r dŵr yn gynnes. A dyna fi'n nofio allan rhyw bedair milltir.

Côr

Faint, Jonah, faint?

Jonah

Wel, nid pedair efalla. Ond ymhell dros dri chan llath. Ac yn sydyn dyma'r gwynt yn chwythu a'r llanw'n codi. A minnau'n cael fy nghario ar y creigia. Fel arfer, fasa hynny'n poeni dim arna i. Ond fedar y nofiwr gora yn y byd wneud affliw o ddim os daw cramp i'w goesa. Mae o'n union fel lwmp o blwm. Wel, dyna ddigwyddodd i mi. Andros o gramp. Ro'n i'n meddwl i bod hi ar ben arna i. A'r creigiau du yn sgyrnygu dannedd. Yna, dyma fi'n gweld rhywbeth. Be meddech chi? Llambedyddiol. Andros o un. Cymaint â bustach. Mwy efallai. Cymaint â morfil! Wel mi wyddoch am lambedyddiol. Mae o'n greadur call. Ac yn dyner. Ac yn gyfaill i ddyn. Wel, dyma fi'n cau fy nyrna, a meddwl nes ro'n i'n chwys diferol. Gofyn iddo fo fy helpu, ─ dyna ro'n i'n 'i wneud. Ac yn sydyn dyma fo'n troi a nofio ataf fi. A gadael imi afael yn ei gynffon. A mynd â fi rhwng y creigia i'r dŵr tawel o dan y clogwyn.

Côr
Wel, wel, mae'n anodd gwybod beth i' ddweud yn iawn,
Ar ôl y fath adroddiad. Fe hoffem ofyn felly ─
Heb awgrymu dim, — a wyt ti, tybed, yn gorliwio?

Jonah

Dydw i ddim yn gwybod be rydach chi'n 'i feddwl.

Pentrefwr 1

Llambedyddiol cymaint â bustach, aie!

Jonah

Wel nid yn hollol run faint â bustach, efalla. Ond roedd o gymaint â merlyn.

Pentrefwr 2

Oedd ganddo fo bedola, tybed?

Pentrefwr 3

Oedd o'n gweryru?

Pentrefwr 1

A bwyta ceirch, a phori?

Jonah

Wel dyna be ddigwyddodd.



Mae'r Pentrefwyr yn symud yn ffug-fygythiol at Jonah a'i bwnio o'r naill i'r llall.

Pentrefwr 1

Os ceist ti'r cramp, y ceiliog-dandi, sut gebyst fedraist ti afael yn 'i gynffon o?

Jonah

Wel... hwyrach nad oedd y cramp ddim wedi gafael yno i'n llwyr. Ia, dyna fo. Mi ydw i'n cofio rwan, — ro'n i'n medru symud fy llaw dde!

Pentrefwr 2

Rwyt ti'n medru symud dy dafod bob amser, y jarff!

Pentrefwr 3

Baldorddi c'lwydda!

Jonah

Ond mi ydw i'n deud wrthych chi. Mi fedra i wneud i betha ddigwydd. Petha gwyrthiol.

Pentrefwyr

Be ddwedaist ti, — gwyrthiol? Gwyrthiol? GWYRTHIOL?

Jonah

Wel, nid gwyrthiol, hwyrach. Rhyfeddol, — ia dyna fo, rhyfeddol.

Pentrefwr 1

Dim amdani, hogia, ond 'i roi o ar braw!

Pentrefwr 2

Cytuno. Dangos inni be fedri di 'i wneud, y cyw-consuriwr!

Jonah

Wel, mi dria i fy ngora glas. Ond cofiwch, dydi o ddim yn gweithio bob tro.

Pentrefwyr

O na! na! wrth gwrs! Wrth gwrs!

Jonah

Reit... 'rhoswch am funud...!



Mae Jonah yn edrych o'i amgylch a gweld yr ysgubell. Daw syniad iddo, ac fe'i gwelir yn cau ei ddyrnau a meddwl yn ddyfal.

Pentrefwr 2

Be sy'n mynd drwy dy feddwl di?

Pentrefwr 3

Rhaid inni gael gwybod ymlaen llaw!

Jonah

Welwch chi'r ysgubell acw? Mi ydw i'n ei gorchymyn i ddawnsio!... Ysgubell — dawnsia!... Dawnsia!... Dawnsia! (Saib.)

Pentrefwr 1

Be ydach chi'n 'i feddwl o hynna, hogia!

Pentrefwr 2

Tipyn o gamp!

Pentrefwr 3

Camp ysgubol ddwedwn i!

Jonah

Ia, wel, dydi o ddim yn digwydd bob amser.

Pentrefwr 1

Dim ond pan fyddi di ar dy ben dy hun!

Pentrefwr 2

Rydyn ni wedi cael dy fesur di rwan, sgweiar!

Jonah

Mi gewch chi weld rhyw ddiwrnod! Mi ga i fwy o barch bryd hynny!

Pentrefwr 3

Pam felly, jarff?

Jonah

Ar ôl imi dyfu i fyny, mi ydw i am fod yn Broffwyd!

Côr
Proffwyd! Proffwyd! Mae Jonah bach yn Broffwyd!
Cryned y mynyddoedd: dychryned y moroedd:
Arswyded holl genhedloedd y ddaear,
Mae Jonah bach yn Broffwyd!
Chwi ehediad y nefoedd: chwi bysgod y môr,
Chwi fwystfilod ac ymlusgiaid oll,
Dowch ac ymgrymwch mewn parchus ofn
I Jonah bach y Proffwyd!
Jonah bach y Proffwyd!

Jonah

Mi gewch chi weld! Mi gewch chi weld!



Y Pentrefwyr yn ffurfio cylch.

Blaenor
(Cellweirus.)
Pwy ohonom yma'n awr
A fydd bid siwr, yn Broffwyd Mawr!

Côr
(Curo dwylo.)
Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah!

Blaenor
Pwy, rhyw ddydd, a ddaw yn ôl
I chwipio ein gwendidau ffôl?

Côr
Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah!

Blaenor
Pwy yw'r sawl a fydd, rhyw dro
Yn gyrru pechod du ar ffo?

Côr
Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah!

Blaenor
Pwy sy'n mynd i achub cam
Yr anffortunnus a'r dinam?

Côr
Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah!
Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah!
JONAH!



Maen nhw'n gafael yn Jonah, ei godi i fyny a'i gario o amgylch y llwyfan, yna ymddengys ei nain, ond nid oes neb yn ei gweld ar y cychwyn.

Nain

(Gweiddi.) Be sy'n mynd ymlaen yma?... Be ydach chi'n 'i wneud? (Gweiddi'n uwch.) Ydach chi'n clywed y rabscaliwns coman? Be ydi'ch meddwl chi? (O'r diwedd maen nhw'n ei gweld ac yn distewi.) Rhowch yr hogyn yna i lawr, y munud yma! (Maent yn ufuddhau.) Jonah... tyrd yma. Wrth f'ochr. (Curo'r llawr â'i ffon.) Beth oeddyn nhw'n 'i wneud iti?

Jonah

(Anfodlon.) O dim byd, Nain. Tipyn o hwyl ─

Nain

Hwyl, by-be! Dim rhaid iti ddeud gair. Digon hawdd gweld. Golwg arnat ti. Fel taet ti wedi cael dy dynnu drwy ddrain. Edrych ar dy ddillad! (Wrth y lleill.) Ydach chi'n gall deudwch? Yr hwliganiaid digywilydd! Y cnafon powld! Giang fawr yn erbyn un! Llwfrgwn! (Mae'n pwyntio at un o'r Côr gyda'i ffon.) Cau di dy geg, y gwalch!

Pentrefwr 1

Ddeudis i run gair!

Nain

Dim gwahaniaeth. Dydw i ddim yn lecio dy wep di. (Codi ei ffon a nesu atynt.) Heglwch hi adre, y rebals, cyn ichi gael blas y ffon yma! (Pawb yn cilio rhagddi a hithau'n eu dilyn dan chwifio'i ffon yn fygythiol.) O'm golwg i! Am adre! Y munud yma. Gwadnwch hi! (Pawb yn rhedeg ymaith.) Tacla! Sbwriel!... Caridyms! (Dod yn ôl at Jonah.) Wyt ti'n siwr dy fod ti'n iawn?

Jonah

Ydw... Doeddyn nhw ddim o ddifri, Nain!

Nain

Hy!... A pheth arall, ble rwyt ti wedi bod? Chwilio pob man amdanat. Ar biga drain ers oria. Does dim yn waeth na phryder, mi fydda i'n dweud bob amser. Fuost ti ar ben y Clogwyn yna eto, a minnau wedi rhybuddio gymaint arnat ti?

Jonah

Ond Nain...!

Nain

Os ei di'n agos yna eto, mi gei di flas y ffon yma ar dy ben-ôl, wyt ti'n deall?

Jonah

Ydw, Nain.

Nain

Ia, wel, dyna fo. Tyrd adre rwan. Mae'n siwr dy fod ti bron â llwgu.

Jonah

Reit, Nain.

Nain

(Mynd.) O'r gora... Paid â thin-droi. Mae'r tear y bwrdd... Wyt ti'n clywed?

Jonah

Ydw, Nain... Ewch chi gynta. Mi reda i ar eich ôl chi mewn munud.

Nain

Hy!



Mae'r hen wraig yn mynd oddi ar y llwyfan. Eistedd onah yn fyfyrgar am ennyd neu ddau. Yna, mae rhywbeth yn peri iddo droi. Mae'n neidio i fyny pan wêl yr ysgubell yn codi a dechrau dawnsio.

Jonah

(Rhedeg allan.) Nain!... Nain!... Nain!



Tywyllwch. Miwsig.

g1