Y Lefiathan

Ciw-restr ar gyfer Côr

(Dieithryn) Dydd da ichi.
 
(Dieithryn) Mi gawn gyfarfod eto... rhywdro.
(0, 1) 524 Wel, wel, wel!
(0, 1) 525 Edrychwch pwy sydd yma ar ei ben ei hun,
(0, 1) 526 Fel meudwy'n dwys-fyfyrio,
(0, 1) 527 A mud-edmygu, heb anadlu bron,
(0, 1) 528 Annisgrifiadwy harddwch bawd ei droed!
(0, 1) 529 A darllen ystyr holl gyfrinach
(0, 1) 530 Bod Yng ngwyrthiol ffurf ei fotwm-bol!
(0, 1) 531 Beth am fynd ato fo i dynnu dipyn ar ei goes
(0, 1) 532 A'i slensio i ddweud pa anturiaethau gwyllt
(0, 1) 533 A gafodd yn ddiweddar!
(0, 1) 534 ~
(0, 1) 535 Wedi'r cyfan
(0, 1) 536 Dydi o ddim run fath â phawb: mae'n rhaid
(0, 1) 537 Rhoi rhywfaint bach o ryddid i ddychymyg byw
(0, 1) 538 Creadur od fel hwn, a fydd rhyw ddiwrnod — pwy a ŵyr ─
(0, 1) 539 Yn wleidydd, yn olygydd papur-newydd,
(0, 1) 540 Neu yn fardd!
(0, 1) 541 ~
(0, 1) 542 Dydd da iti, Jonah,
(0, 1) 543 Sut mae'r hwyl? Mae wythnos, bellach, wedi mynd
(0, 1) 544 A minnau heb dy gwmni. Ble buost ti?
(0, 1) 545 Pa ryfeddodau welaist ti'r tro hwn
(0, 1) 546 Ar lethrau serth y clogwyn? Gad'inni glywed;
(0, 1) 547 Mae yma, fel y gweli, gynulleidfa gref,
(0, 1) 548 Pob un ohonom bron â thorri 'i fol
(0, 1) 549 I rannu dy gyfrinach!
(Jonah) Reit, gan eich bod chi'n gofyn...
 
(0, 1) 561 Gorchest fawr oedd honno, Jonah; paid â dweud iti gyflawni un a oedd yn fwy!
(Jonah) Wna i ddim dweud hynny.
 
(Jonah) Wedyn mae o'n digwydd!
(0, 1) 572 Gwarchod pawb! Wel, glywsoch chi! Mae honna'n ddawn
(0, 1) 573 Tu hwnt i bob dirnadaeth! Gad inni glywed mwy!
(Jonah) {Yn dechrau ei fwynhau ei hun.}
 
(Jonah) A phig tua saith modfedd o hyd.
(0, 1) 584 Faint, Jonah?
(0, 1) 585 Faint?
(Jonah) Wel, andros o big.
 
(Jonah) Ond fedar neb ond yfi ei gweld hi!
(0, 1) 597 Roedd hynna'n antur hynod! Oedd yn wir!
(0, 1) 598 Paid â bod yn wylaidd. Jonah, gad inni glywed mwy.
(Jonah) Wel gan eich bod yn gofyn.
 
(Jonah) A dyna fi'n nofio allan rhyw bedair milltir.
(0, 1) 603 Faint, Jonah, faint?
(Jonah) Wel, nid pedair efalla.
 
(Jonah) A mynd â fi rhwng y creigia i'r dŵr tawel o dan y clogwyn.
(0, 1) 631 Wel, wel, mae'n anodd gwybod beth i' ddweud yn iawn,
(0, 1) 632 Ar ôl y fath adroddiad. Fe hoffem ofyn felly ─
(0, 1) 633 Heb awgrymu dim, — a wyt ti, tybed, yn gorliwio?
(Jonah) Dydw i ddim yn gwybod be rydach chi'n 'i feddwl.
 
(Jonah) Ar ôl imi dyfu i fyny, mi ydw i am fod yn Broffwyd!
(0, 1) 685 Proffwyd! Proffwyd! Mae Jonah bach yn Broffwyd!
(0, 1) 686 Cryned y mynyddoedd: dychryned y moroedd:
(0, 1) 687 Arswyded holl genhedloedd y ddaear,
(0, 1) 688 Mae Jonah bach yn Broffwyd!
(0, 1) 689 Chwi ehediad y nefoedd: chwi bysgod y môr,
(0, 1) 690 Chwi fwystfilod ac ymlusgiaid oll,
(0, 1) 691 Dowch ac ymgrymwch mewn parchus ofn
(0, 1) 692 I Jonah bach y Proffwyd!
(0, 1) 693 Jonah bach y Proffwyd!
(Jonah) Mi gewch chi weld!
 
(0, 1) 701 Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah!
(Blaenor) Pwy, rhyw ddydd, a ddaw yn ôl
 
(Blaenor) I chwipio ein gwendidau ffôl?
(0, 1) 704 Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah!
(Blaenor) Pwy yw'r sawl a fydd, rhyw dro
 
(Blaenor) Yn gyrru pechod du ar ffo?
(0, 1) 707 Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah!
(Blaenor) Pwy sy'n mynd i achub cam
 
(Blaenor) Yr anffortunnus a'r dinam?
(0, 1) 710 Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah!
(0, 1) 711 Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah!
(0, 1) 712 JONAH!