Y Lefiathan

Ciw-restr ar gyfer Dieithryn

 
(0, 1) 8 Dydd da ichi.
(Jonah) Ac i chitha.
 
(Jonah) Ac i chitha.
(0, 1) 11 Llecyn hyfryd ar ben y clogwyn yma.
(Jonah) Y gora yn y cyffinia, w'chi.
 
(0, 1) 14 Mae o'n rhoi pendro i ddyn.
(0, 1) 15 Y môr i lawr acw fel darn o sidan crychlyd.
(Jonah) E?
 
(Jonah) E?
(0, 1) 17 A'r gwylanod fel gwybed yn hofran mor ddioglyd-hamddenol.
(Jonah) Sôn am wybed, roeddyn nhw fel pla i lawr ar y traeth gynna.
 
(Jonah) Sôn am wybed, roeddyn nhw fel pla i lawr ar y traeth gynna.
(0, 1) 19 Mi fuoch i lawr ar y traeth felly?
(0, 1) 20 Pysgota?
(Jonah) Dal genwair, nid pysgota fel y cyfryw.
 
(Jonah) Dal genwair, nid pysgota fel y cyfryw.
(0, 1) 22 Rhyw wagsymera'n lled-obeithiol, fel tae?
(Jonah) E?...
 
(Jonah) Mi fedar unrhyw ffŵl enweirio ar y cei, w'chi.
(0, 1) 26 O?
(Jonah) Peth arall ydi pysgota afon.
 
(Jonah) Rhaid ichi fod yn fwy sgilgar o beth mwdral.
(0, 1) 29 Tybed?
(Jonah) Dim amheuaeth.
 
(Jonah) Deudwch i mi, ydw i wedi'ch gweld chi o'r blaen ryw dro?
(0, 1) 36 Be sy'n gwneud ichi feddwl?
(Jonah) Ŵn i ar y ddaear.
 
(Jonah) Fel tawn i'n eich nabod chi erioed, rywsut.
(0, 1) 40 Wedi gweld rhywun tebyg, reit siwr.
(Jonah) Ia efalla...
 
(Jonah) A medru eu gwneud nhw os bydd angen.
(0, 1) 45 Felly!
(Jonah) Mae'r hen frithyll yn gwybod y gwahaniaeth rhwng petrisen-corff-lliw-gwin a phetrisen-corff-blewyn-sgwarnog, w'chi.
 
(Jonah) Dro arall, wneith dim y tro ond pluen ceiliog-chwaden-corff-melyn-budur.
(0, 1) 48 Rydych chi'n awdurdod ar y pwnc, mae'n amlwg.
(Jonah) Wrthi ers pan ro'n i'n hogyn efo fy nwylo o dan y cerrig.
 
(Jonah) Cosi bol yr hen frithyll nes y bydda fo'n swrth!
(0, 1) 51 Swrth a bodlon mewn swyngyfaredd!
(Jonah) E?
 
(Jonah) Ia, am wn i.
(0, 1) 54 Roeddech chi'n fachgen pur anghyffredin, rwy'n gweld.
(Jonah) Wel, gan ichi ddeud hynna, mi ydw wedi teimlo erioed nad ydw i ddim yn hollol run fath â phobol eraill rhywsut.
 
(Jonah) Wel, gan ichi ddeud hynna, mi ydw wedi teimlo erioed nad ydw i ddim yn hollol run fath â phobol eraill rhywsut.
(0, 1) 56 O?
(Jonah) Peidiwch â cham-ddeall.
 
(Jonah) Puw ydi f'enw i, Jonah Puw.
(0, 1) 62 Jonah, aie!
 
(0, 1) 64 Oes yna ryw arwyddocâd yn yr enw, tybed?
(Jonah) Rhyfedd ichi grybwyll y peth.
 
(Jonah) Yn enwedig pan fydda i'n gorwedd ar y clogwyn yma, fin nos yn yr haf.
(0, 1) 69 Pan fydd yr haul yn pendwmpian â'i ên ar y gorwel.
(0, 1) 70 A siffrwd y môr yn ei suo i gysgu.
(0, 1) 71 A'r hen fynyddoedd acw'n clustfeinio ar gyfrinach yr Oesoedd.
(Jonah) E?
 
(Jonah) E?
(0, 1) 73 A'r pentre oddi tanoch yn ymlacio'n braf ar ôl gwaith y dydd.
(0, 1) 74 Amser i fyfyrio am y byd a'r betws.
(0, 1) 75 Amser i freuddwydio.
(Jonah) Diawch, wyddoch chi be, rydach chi'n berffaith iawn.
 
(Capten) Dowch!
(0, 1) 480 Wel, Jonah!
(Jonah) Dydd da, Syr.
 
(Jonah) Dydd da, Syr.
(0, 1) 482 Wnest ti aros yn hir ar y clogwyn neithiwr?
(Jonah) Fi, Syr?
 
(Jonah) Sut y gwyddoch chi, Syr?
(0, 1) 487 Rwyt ti'n hapus ar dy ben dy hun?
(Jonah) Ydw... weithia.
 
(Jonah) Ydw... weithia.
(0, 1) 489 Pam?
(Jonah) {Codi ei ysgwyddau.}
 
(Jonah) Dwy' i ddim yn gwybod, Syr.
(0, 1) 492 Fyddi di ddim yn chwarae efo plant y pentre?
(Jonah) O bydda... ambell dro...
 
(Jonah) Hynny ydi pan fydda i wedi blino ar fy mhen fy hun.
(0, 1) 495 Rwyt ti'n hoff iawn o fynd i fyny'r clogwyn hefyd?
(Jonah) Ydw, Syr.
 
(Jonah) Ydw, Syr.
(0, 1) 497 Be fyddi di'n 'i wneud yno?
(Jonah) Dim ond gorwedd ar y gwellt, Syr.
 
(Jonah) Ac edrych i fyny ar yr awyr.
(0, 1) 500 Be fyddi di'n 'i weld?
(Jonah) Bob math o betha...
 
(Jonah) Mae arna i ofn yno, weithia, hefyd.
(0, 1) 504 Ofn beth?
(Jonah) Dwy'i ddim yn gwybod...
 
(Jonah) Dim ond ofn.
(0, 1) 507 Rwy'n gweld.
 
(0, 1) 509 Rhaid iti fod yn ddewr, 'machgen i.
(0, 1) 510 Wnei di addo hynna?
(0, 1) 511 Bod yn ddewr bob amser?
(0, 1) 512 Beth bynnag a ddigwydd?
(Jonah) Mi wna i 'ngora glas, Syr.
 
(Jonah) Mi wna i 'ngora glas, Syr.
(0, 1) 514 Amser a ddengys, Jonah...
(0, 1) 515 Amser a ddengys.
 
(0, 1) 519 Cofia, Jonah, bydd ddewr...
(0, 1) 520 Mi gawn gyfarfod eto... rhywdro.