Y Lefiathan

Ciw-restr ar gyfer Jonah

(Dieithryn) Dydd da ichi.
 
(Dieithryn) Dydd da ichi.
(0, 1) 9 Ac i chitha.
(Dieithryn) Llecyn hyfryd ar ben y clogwyn yma.
 
(Dieithryn) Llecyn hyfryd ar ben y clogwyn yma.
(0, 1) 12 Y gora yn y cyffinia, w'chi.
(Dieithryn) {Edrych i lawr.}
 
(Dieithryn) Y môr i lawr acw fel darn o sidan crychlyd.
(0, 1) 16 E?
(Dieithryn) A'r gwylanod fel gwybed yn hofran mor ddioglyd-hamddenol.
 
(Dieithryn) A'r gwylanod fel gwybed yn hofran mor ddioglyd-hamddenol.
(0, 1) 18 Sôn am wybed, roeddyn nhw fel pla i lawr ar y traeth gynna.
(Dieithryn) Mi fuoch i lawr ar y traeth felly?
 
(Dieithryn) Pysgota?
(0, 1) 21 Dal genwair, nid pysgota fel y cyfryw.
(Dieithryn) Rhyw wagsymera'n lled-obeithiol, fel tae?
 
(Dieithryn) Rhyw wagsymera'n lled-obeithiol, fel tae?
(0, 1) 23 E?...
(0, 1) 24 la am wn i...
(0, 1) 25 Mi fedar unrhyw ffŵl enweirio ar y cei, w'chi.
(Dieithryn) O?
 
(Dieithryn) O?
(0, 1) 27 Peth arall ydi pysgota afon.
(0, 1) 28 Rhaid ichi fod yn fwy sgilgar o beth mwdral.
(Dieithryn) Tybed?
 
(Dieithryn) Tybed?
(0, 1) 30 Dim amheuaeth.
(0, 1) 31 Mae brithilliaid yn greaduriaid call, w'chi.
(0, 1) 32 Nid petha hanner-pen run fath â lledod a chathod-môr ac ati.
(0, 1) 33 Mae gofyn ichi ddefnyddio dipyn o hwn...
 
(0, 1) 35 Deudwch i mi, ydw i wedi'ch gweld chi o'r blaen ryw dro?
(Dieithryn) Be sy'n gwneud ichi feddwl?
 
(Dieithryn) Be sy'n gwneud ichi feddwl?
(0, 1) 37 Ŵn i ar y ddaear.
(0, 1) 38 Ond mi awn i ar fy llw.
(0, 1) 39 Fel tawn i'n eich nabod chi erioed, rywsut.
(Dieithryn) Wedi gweld rhywun tebyg, reit siwr.
 
(Dieithryn) Wedi gweld rhywun tebyg, reit siwr.
(0, 1) 41 Ia efalla...
(0, 1) 42 Fel ro'n i'n deud, mae pysgota'r afon yn fwy nag eistedd ar eich pen-ôl yn dal genwair.
(0, 1) 43 Yn un peth rhaid ichi wybod eich plu.
(0, 1) 44 A medru eu gwneud nhw os bydd angen.
(Dieithryn) Felly!
 
(Dieithryn) Felly!
(0, 1) 46 Mae'r hen frithyll yn gwybod y gwahaniaeth rhwng petrisen-corff-lliw-gwin a phetrisen-corff-blewyn-sgwarnog, w'chi.
(0, 1) 47 Dro arall, wneith dim y tro ond pluen ceiliog-chwaden-corff-melyn-budur.
(Dieithryn) Rydych chi'n awdurdod ar y pwnc, mae'n amlwg.
 
(Dieithryn) Rydych chi'n awdurdod ar y pwnc, mae'n amlwg.
(0, 1) 49 Wrthi ers pan ro'n i'n hogyn efo fy nwylo o dan y cerrig.
(0, 1) 50 Cosi bol yr hen frithyll nes y bydda fo'n swrth!
(Dieithryn) Swrth a bodlon mewn swyngyfaredd!
 
(Dieithryn) Swrth a bodlon mewn swyngyfaredd!
(0, 1) 52 E?
(0, 1) 53 Ia, am wn i.
(Dieithryn) Roeddech chi'n fachgen pur anghyffredin, rwy'n gweld.
 
(Dieithryn) Roeddech chi'n fachgen pur anghyffredin, rwy'n gweld.
(0, 1) 55 Wel, gan ichi ddeud hynna, mi ydw wedi teimlo erioed nad ydw i ddim yn hollol run fath â phobol eraill rhywsut.
(Dieithryn) O?
 
(Dieithryn) O?
(0, 1) 57 Peidiwch â cham-ddeall.
(0, 1) 58 Dwy i ddim yn honni am funud mod i'n well nag yn waeth na'r rhelyw.
(0, 1) 59 Ond mod i'n wahanol...
(0, 1) 60 Ydach chi'n siwr nad ydw i ddim wedi'ch gweld chi o'r blaen?
(0, 1) 61 Puw ydi f'enw i, Jonah Puw.
(Dieithryn) Jonah, aie!
 
(Dieithryn) Oes yna ryw arwyddocâd yn yr enw, tybed?
(0, 1) 65 Rhyfedd ichi grybwyll y peth.
(0, 1) 66 Ond ers pan o'n i'n grwtyn, mi ydw i wedi teimlo rhyw berthynas od rhyngof i a'r hen Broffwyd bach hwnnw.
(0, 1) 67 Effaith yr enw ar y dychymyg mae'n debyg.
(0, 1) 68 Yn enwedig pan fydda i'n gorwedd ar y clogwyn yma, fin nos yn yr haf.
(Dieithryn) Pan fydd yr haul yn pendwmpian â'i ên ar y gorwel.
 
(Dieithryn) A'r hen fynyddoedd acw'n clustfeinio ar gyfrinach yr Oesoedd.
(0, 1) 72 E?
(Dieithryn) A'r pentre oddi tanoch yn ymlacio'n braf ar ôl gwaith y dydd.
 
(Dieithryn) Amser i freuddwydio.
(0, 1) 76 Diawch, wyddoch chi be, rydach chi'n berffaith iawn.
(0, 1) 77 Amser i freuddwydio ydi o.
(0, 1) 78 A mynd yn ôl i ddyddia mebyd.
(0, 1) 79 A gweld, drwy lygaid y dychymyg fel tae, helyntion yr hen Broffwyd Bach o Gath Heffer yn fy mywyd i fy hun.
(0, 1) 80 Yn union fel petaen ni'n ymdoddi i'n gilydd...
 
(0, 1) 89 Ac yn fy mreuddwyd roedd hyd yn oed rhai o'r pentrefwyr yn chwarae rhan yn yr hen chwedl... heb anghofio'r hen wraig fy nain.
(Nain) {Clywir ei llais cyn iddi ddod i'r golwg.}
 
(Prys) Ble rwyt ti wedi bod?
(0, 1) 325 Fi?
(0, 1) 326 Hel cregyn ar y traeth.
(0, 1) 327 Siarad efo'r gwylanod.
(0, 1) 328 A gwrando ar y gwynt.
(Capten) Be ddeudodd y gwylanod wrthyt ti?
 
(Capten) Be ddeudodd y gwylanod wrthyt ti?
(0, 1) 330 Addo tywydd drwg yfory.
(Prys) Prentis proffwyd ar f'enaid i!
 
(Capten) Fuost ti ar y clogwyn, broffwyd bach ceiniog-a-dima?
(0, 1) 333 Fi?
(0, 1) 334 Naddo.
(Capten) Dwed y gwir, y gwalch!
 
(Capten) Dwed y gwir, y gwalch!
(0, 1) 337 Wel... mi fûm i yno neithiwr.
(Capten) Neithiwr, aie!
 
(Capten) {Mae'n gollwng Jonah.}
(0, 1) 340 Ia, pan oedd y ser yn dechra dwad allan.
(0, 1) 341 Roeddyn nhw mor agos tawn i wedi estyn fy llaw mi faswn wedi medru gafael mewn dyrnaid ohonyn nhw.
(0, 1) 342 A'u rhoi'n fwclis i Nain.
(Capten) Prentis bardd hefyd, ddyliwn!
 
(Dieithryn) Wel, Jonah!
(0, 1) 481 Dydd da, Syr.
(Dieithryn) Wnest ti aros yn hir ar y clogwyn neithiwr?
 
(Dieithryn) Wnest ti aros yn hir ar y clogwyn neithiwr?
(0, 1) 483 Fi, Syr?
(0, 1) 484 Naddo...
(0, 1) 485 Hynny ydi, rhyw hanner awr...
(0, 1) 486 Sut y gwyddoch chi, Syr?
(Dieithryn) Rwyt ti'n hapus ar dy ben dy hun?
 
(Dieithryn) Rwyt ti'n hapus ar dy ben dy hun?
(0, 1) 488 Ydw... weithia.
(Dieithryn) Pam?
 
(0, 1) 491 Dwy' i ddim yn gwybod, Syr.
(Dieithryn) Fyddi di ddim yn chwarae efo plant y pentre?
 
(Dieithryn) Fyddi di ddim yn chwarae efo plant y pentre?
(0, 1) 493 O bydda... ambell dro...
(0, 1) 494 Hynny ydi pan fydda i wedi blino ar fy mhen fy hun.
(Dieithryn) Rwyt ti'n hoff iawn o fynd i fyny'r clogwyn hefyd?
 
(Dieithryn) Rwyt ti'n hoff iawn o fynd i fyny'r clogwyn hefyd?
(0, 1) 496 Ydw, Syr.
(Dieithryn) Be fyddi di'n 'i wneud yno?
 
(Dieithryn) Be fyddi di'n 'i wneud yno?
(0, 1) 498 Dim ond gorwedd ar y gwellt, Syr.
(0, 1) 499 Ac edrych i fyny ar yr awyr.
(Dieithryn) Be fyddi di'n 'i weld?
 
(Dieithryn) Be fyddi di'n 'i weld?
(0, 1) 501 Bob math o betha...
(0, 1) 502 Wyddoch chi, — y cymylau'n newid eu siâp ac ati...
(0, 1) 503 Mae arna i ofn yno, weithia, hefyd.
(Dieithryn) Ofn beth?
 
(Dieithryn) Ofn beth?
(0, 1) 505 Dwy'i ddim yn gwybod...
(0, 1) 506 Dim ond ofn.
(Dieithryn) Rwy'n gweld.
 
(Dieithryn) Beth bynnag a ddigwydd?
(0, 1) 513 Mi wna i 'ngora glas, Syr.
(Dieithryn) Amser a ddengys, Jonah...
 
(Côr) I rannu dy gyfrinach!
(0, 1) 551 Reit, gan eich bod chi'n gofyn...
(0, 1) 552 Mae o wedi digwydd eto!
(0, 1) 553 Run fath ag o'r blaen.
(0, 1) 554 Wel, nid yn hollol run fath.
(0, 1) 555 Ond bron yn hollol run fath.
(0, 1) 556 Hynny ydi, y tro yma roedd yna fymryn bach o wahaniaeth.
(0, 1) 557 Y tro o'r blaen be wnes i oedd nadu'r tarw dwlcio'r hen gi dall.
(0, 1) 558 A hynny hyd cae i ffwrdd.
(0, 1) 559 'Rydach chi'n cofio hynna i gyd.
(Côr) {Cellweirus.}
 
(Côr) Gorchest fawr oedd honno, Jonah; paid â dweud iti gyflawni un a oedd yn fwy!
(0, 1) 562 Wna i ddim dweud hynny.
(0, 1) 563 Dydw i ddim yn un am frolio.
(0, 1) 564 Mi gewch chi benderfynu.
(0, 1) 565 Y cyfan rwy i'n 'i ddweud ydi, mod i'n medru gwneud petha clyfar.
(0, 1) 566 Wel, nid clyfar, efalla.
(0, 1) 567 Hynod, — ia dyna fo.
(0, 1) 568 Andros o hynod.
(0, 1) 569 Dim ond imi feddwl a meddwl.
(0, 1) 570 A chau fy nyrna nes y bydda i'n chwys diferol.
(0, 1) 571 Wedyn mae o'n digwydd!
(Côr) Gwarchod pawb! Wel, glywsoch chi! Mae honna'n ddawn
 
(0, 1) 575 Wel, ro'n i ar y clogwyn y diwrnod o'r blaen.
(0, 1) 576 Gorwedd ar fy nghefn ro'n i, yn edrach ar eroplên yn yr awyr.
(0, 1) 577 A dyma fi'n clywed bref.
(0, 1) 578 Beth oedd yna meddech chi?
(0, 1) 579 Oen bach, wedi mynd yn sownd yn y graig.
(0, 1) 580 Dyna ichi beth oedd o.
(0, 1) 581 Ac wrth ei ben o, yn disgwyl ei chyfle, andros o gigfran fawr.
(0, 1) 582 Roedd hi gymaint ag eryr bron.
(0, 1) 583 A phig tua saith modfedd o hyd.
(Côr) Faint, Jonah?
 
(Côr) Faint?
(0, 1) 586 Wel, andros o big.
(0, 1) 587 A dyna fi'n meddwl.
(0, 1) 588 A chau fy nyrnau nes ro'n i'n chwys.
(0, 1) 589 A deud yn ddistaw, yn fy mhen fel tae:
(0, 1) 590 "Yli, Frân," medda fi,
(0, 1) 591 "dim un fodfedd yn nes," medda fi,
(0, 1) 592 "Rwy'n dy droi di'n garreg y munud yma!" medda fi.
(0, 1) 593 Ac yn sydyn, dyma hi'n fferru yn y fan a'r lle.
(0, 1) 594 Ac yn mynd yn rhan o'r graig...
(0, 1) 595 Mae ei siâp hi yna o hyd...
(0, 1) 596 Ond fedar neb ond yfi ei gweld hi!
(Côr) Roedd hynna'n antur hynod! Oedd yn wir!
 
(Côr) Paid â bod yn wylaidd. Jonah, gad inni glywed mwy.
(0, 1) 599 Wel gan eich bod yn gofyn.
(0, 1) 600 Mi es i nofio ddoe.
(0, 1) 601 Roedd hi'n ddiwrnod braf a'r dŵr yn gynnes.
(0, 1) 602 A dyna fi'n nofio allan rhyw bedair milltir.
(Côr) Faint, Jonah, faint?
 
(Côr) Faint, Jonah, faint?
(0, 1) 604 Wel, nid pedair efalla.
(0, 1) 605 Ond ymhell dros dri chan llath.
(0, 1) 606 Ac yn sydyn dyma'r gwynt yn chwythu a'r llanw'n codi.
(0, 1) 607 A minnau'n cael fy nghario ar y creigia.
(0, 1) 608 Fel arfer, fasa hynny'n poeni dim arna i.
(0, 1) 609 Ond fedar y nofiwr gora yn y byd wneud affliw o ddim os daw cramp i'w goesa.
(0, 1) 610 Mae o'n union fel lwmp o blwm.
(0, 1) 611 Wel, dyna ddigwyddodd i mi.
(0, 1) 612 Andros o gramp.
(0, 1) 613 Ro'n i'n meddwl i bod hi ar ben arna i.
(0, 1) 614 A'r creigiau du yn sgyrnygu dannedd.
(0, 1) 615 Yna, dyma fi'n gweld rhywbeth.
(0, 1) 616 Be meddech chi?
(0, 1) 617 Llambedyddiol.
(0, 1) 618 Andros o un.
(0, 1) 619 Cymaint â bustach.
(0, 1) 620 Mwy efallai.
(0, 1) 621 Cymaint â morfil!
(0, 1) 622 Wel mi wyddoch am lambedyddiol.
(0, 1) 623 Mae o'n greadur call.
(0, 1) 624 Ac yn dyner.
(0, 1) 625 Ac yn gyfaill i ddyn.
(0, 1) 626 Wel, dyma fi'n cau fy nyrna, a meddwl nes ro'n i'n chwys diferol.
(0, 1) 627 Gofyn iddo fo fy helpu, ─ dyna ro'n i'n 'i wneud.
(0, 1) 628 Ac yn sydyn dyma fo'n troi a nofio ataf fi.
(0, 1) 629 A gadael imi afael yn ei gynffon.
(0, 1) 630 A mynd â fi rhwng y creigia i'r dŵr tawel o dan y clogwyn.
(Côr) Wel, wel, mae'n anodd gwybod beth i' ddweud yn iawn,
 
(Côr) Heb awgrymu dim, — a wyt ti, tybed, yn gorliwio?
(0, 1) 634 Dydw i ddim yn gwybod be rydach chi'n 'i feddwl.
(Pentrefwr 1) Llambedyddiol cymaint â bustach, aie!
 
(Pentrefwr 1) Llambedyddiol cymaint â bustach, aie!
(0, 1) 636 Wel nid yn hollol run faint â bustach, efalla.
(0, 1) 637 Ond roedd o gymaint â merlyn.
(Pentrefwr 2) Oedd ganddo fo bedola, tybed?
 
(Pentrefwr 1) A bwyta ceirch, a phori?
(0, 1) 641 Wel dyna be ddigwyddodd.
(Pentrefwr 1) Os ceist ti'r cramp, y ceiliog-dandi, sut gebyst fedraist ti afael yn 'i gynffon o?
 
(Pentrefwr 1) Os ceist ti'r cramp, y ceiliog-dandi, sut gebyst fedraist ti afael yn 'i gynffon o?
(0, 1) 644 Wel... hwyrach nad oedd y cramp ddim wedi gafael yno i'n llwyr.
(0, 1) 645 Ia, dyna fo.
(0, 1) 646 Mi ydw i'n cofio rwan, — ro'n i'n medru symud fy llaw dde!
(Pentrefwr 2) Rwyt ti'n medru symud dy dafod bob amser, y jarff!
 
(Pentrefwr 3) Baldorddi c'lwydda!
(0, 1) 649 Ond mi ydw i'n deud wrthych chi.
(0, 1) 650 Mi fedra i |wneud| i betha ddigwydd.
(0, 1) 651 Petha gwyrthiol.
(Pentrefwyr) Be ddwedaist ti, — gwyrthiol?
 
(Pentrefwyr) GWYRTHIOL?
(0, 1) 655 Wel, nid gwyrthiol, hwyrach.
(0, 1) 656 Rhyfeddol, — ia dyna fo, rhyfeddol.
(Pentrefwr 1) Dim amdani, hogia, ond 'i roi o ar braw!
 
(Pentrefwr 2) Dangos inni be fedri di 'i wneud, y cyw-consuriwr!
(0, 1) 660 Wel, mi dria i fy ngora glas.
(0, 1) 661 Ond cofiwch, dydi o ddim yn gweithio bob tro.
(Pentrefwyr) O na! na! wrth gwrs!
 
(Pentrefwyr) Wrth gwrs!
(0, 1) 664 Reit... 'rhoswch am funud...!
(Pentrefwr 2) Be sy'n mynd drwy dy feddwl di?
 
(Pentrefwr 3) Rhaid inni gael gwybod ymlaen llaw!
(0, 1) 669 Welwch chi'r ysgubell acw?
(0, 1) 670 Mi ydw i'n ei gorchymyn i ddawnsio!...
(0, 1) 671 Ysgubell — dawnsia!...
(0, 1) 672 Dawnsia!...
(0, 1) 673 Dawnsia!
 
(Pentrefwr 3) Camp ysgubol ddwedwn i!
(0, 1) 678 Ia, wel, dydi o ddim yn digwydd bob amser.
(Pentrefwr 1) Dim ond pan fyddi di ar dy ben dy hun!
 
(Pentrefwr 2) Rydyn ni wedi cael dy fesur di rwan, sgweiar!
(0, 1) 681 Mi gewch chi weld rhyw ddiwrnod!
(0, 1) 682 Mi ga i fwy o barch bryd hynny!
(Pentrefwr 3) Pam felly, jarff?
 
(Pentrefwr 3) Pam felly, jarff?
(0, 1) 684 Ar ôl imi dyfu i fyny, mi ydw i am fod yn Broffwyd!
(Côr) Proffwyd! Proffwyd! Mae Jonah bach yn Broffwyd!
 
(Côr) Jonah bach y Proffwyd!
(0, 1) 694 Mi gewch chi weld!
(0, 1) 695 Mi gewch chi weld!
(Blaenor) {Cellweirus.}
 
(0, 1) 728 O dim byd, Nain.
(0, 1) 729 Tipyn o hwyl ─
(Nain) Hwyl, by-be!
 
(Nain) Wyt ti'n siwr dy fod ti'n iawn?
(0, 1) 760 Ydw...
(0, 1) 761 Doeddyn nhw ddim o ddifri, Nain!
(Nain) Hy!...
 
(Nain) Fuost ti ar ben y Clogwyn yna eto, a minnau wedi rhybuddio gymaint arnat ti?
(0, 1) 768 Ond Nain...!
(Nain) Os ei di'n agos yna eto, mi gei di flas y ffon yma ar dy ben-ôl, wyt ti'n deall?
 
(Nain) Os ei di'n agos yna eto, mi gei di flas y ffon yma ar dy ben-ôl, wyt ti'n deall?
(0, 1) 770 Ydw, Nain.
(Nain) Ia, wel, dyna fo.
 
(Nain) Mae'n siwr dy fod ti bron â llwgu.
(0, 1) 774 Reit, Nain.
(Nain) {Mynd.}
 
(Nain) Wyt ti'n clywed?
(0, 1) 780 Ydw, Nain...
(0, 1) 781 Ewch chi gynta.
(0, 1) 782 Mi reda i ar eich ôl chi mewn munud.
(Nain) Hy!
 
(0, 1) 789 Nain!...
(0, 1) 790 Nain!...
(0, 1) 791 Nain!