Y Lefiathan

Ciw-restr ar gyfer Prothero

(Dieithryn) Dydd da ichi.
 
(Capten) Pendics.
(0, 1) 107 Llid y coluddyn.
(Prydderch) Poen yn ei bol.
 
(Prys) Na, na, na, mi ydw i'n dilyn perwyl eich perorasiwn chi rwan... rydw i'n meddwl.
(0, 1) 123 Cymhariaeth ddigon tila oedd hi, serch hynny.
(0, 1) 124 Cyffelybiaeth anllenyddol.
(Capten) Dewcs, mi ydw i'n fodlon ei newid hi os ydi'n eich blino chi Prothero!
 
(Prys) Biti drosti, ydach chi ddim yn meddwl?
(0, 1) 137 Wel, mae'n dibynnu.
(Prydderch) Mater o farn.
 
(Prys) Mae o wedi bod yn her i'r pentre ers cyn co' on'd ydi?
(0, 1) 244 Be sy wedi bod yn her i'r pentre ers cyn co'?
(Prys) Wel, y clogwyn, Prothero, y clogwyn.
 
(Prys) Ydach chi ddim yn cofio?
(0, 1) 248 Anodd deud y gwahaniaeth erbyn heddiw!
(Prydderch) Dim ond cynnyrch dirywiad yr oes.
 
(Prys) Dewcs, tybed d'wch?
(0, 1) 257 Rwy'n tueddu i gytuno efo chi y tro yma, Prydderch, mae'n ddrwg gen i ddeud!
(Capten) Dim byd sicrach.
 
(Capten) Glywsoch chi'r fath erthyl o ebychiad erioed!
(0, 1) 279 Mae pobol wedi anghofio sut i siarad.
(Prys) Dewcs, tybed d'wch?
 
(Prydderch) Twt, twt, twt be nesa!
(0, 1) 284 Mi hoffwn i wneud datganiad.
(Capten) Mae Prothero am wneud datganiad.
 
(Capten) Reit, Prothero.
(0, 1) 288 Fe glywsoch Prydderch yn "twt-twtio" rwan.
(0, 1) 289 Peidied neb â meddwl mai ar dir diwylliannol roedd o'n gwneud.
(0, 1) 290 Hynny ydi nid wfftio at ein hiaith sathredig ni roedd o.
(Prydderch) Cywir!
 
(Prydderch) Ar dir metaffisegol roeddwn i'n protestio.
(0, 1) 293 Fel mater o ffaith, mae o'n twt-twtio bob tro y bydd rhywun yn sôn am y Bod Mawr.
(0, 1) 294 Mi ydw i wedi sylwi hynny.
(Prydderch) Y Bod Mawr?
 
(Prydderch) Sy'n bygwth ein traflyncu'n raddol a dan-din.
(0, 1) 366 Cytuno mae'n ddrwg gen i gyfadde.
(0, 1) 367 Ond waeth heb na hel dail, — mae'n argyfwng.
(Capten) Creisis!
 
(Prydderch) Croesffordd Ffawd!
(0, 1) 370 Nemesis!
(Prys) Traed moch!
 
(Prys) Traed moch!
(0, 1) 372 Ond pam?
(0, 1) 373 Be ydi'r rheswm?
(0, 1) 374 Wel, yng ngeiriau'r Doctor Karl von Dietloff — mi fedra inna ddyfynnu dynion pwysig hefyd, Prydderch, — yng ngeiria'r Doctor Dietloff wedi mynd ar goll rydan ni.
(0, 1) 375 Cenedl ar gyfeiliorn.
(0, 1) 376 Di-asgwrncefn.
(0, 1) 377 Chwit-chwat!
(0, 1) 378 Chwim-chwam!
(0, 1) 379 A does yna ddim ond un ffordd allan inni.
(Capten) Prun ydi honno, Prothero, os nad ydi o'n ormod i ofyn?
 
(0, 1) 384 Mynd yn ôl i wytnwch y dyddiau gynt, dyna ichi be!
(0, 1) 385 Ymwroli!
(0, 1) 386 Gwregysu ein llwynau!
(0, 1) 387 Ail-gydio yn yr hen werthoedd!
(0, 1) 388 Rhoi'r ysgwydd i'r olwyn.
(0, 1) 389 Ein trwyn ar y maen!
(0, 1) 390 Ein cefn ati!
(0, 1) 391 A does yna ddim ond un waredigaeth inni.
(0, 1) 392 A phetaech yn gofyn imi be ydi honno, mi ddywedwn wrthych chi.
(0, 1) 393 Yn dwt, yn gryno.
(0, 1) 394 Mewn un frawddeg.
(0, 1) 395 Heb falu awyr na hel dail.
(Capten) Prys, gofyn iddo fo.
 
(Prys) Beth ydi'r waredigaeth, Prothero?
(0, 1) 399 Sach-lian a lludw.
(0, 1) 400 Bara-sych-a-dŵr.
(0, 1) 401 Ydach chi'n fy neall i?
(Prydderch) Twt! twt! twt! twt!
 
(0, 1) 404 Ydw i'n clywed rhywun yn beiddio twt-twtio eto?
(Prydderch) Mae gen i berffaith hawl i dwt-twtio.
 
(Prydderch) A thwt-twtio wna i hefyd wrth glywed y fath lol-mi-lol, potas-maip.
(0, 1) 409 Enaid mewn tywyllwch!
(Prydderch) Meddwl mewn cadwyni!
 
(Prydderch) Meddwl mewn cadwyni!
(0, 1) 411 Heretic!
(Prydderch) Mymbo-jumbo!
 
(Prydderch) Mymbo-jumbo!
(0, 1) 413 Twpsyn!
(Prydderch) Bali-Bŵ!
 
(0, 1) 417 Does yna ddim ond un peth i wneud i'r fath gablwr.
(0, 1) 418 Rhaid gorffen tynnu ei drowsus!
(0, 1) 419 Rydach chi wedi gofyrr amdani gyfaill!
(Prydderch) Ydach chi'n drysu, ddyn?
 
(Prydderch) Ydach chi'n drysu, ddyn?
(0, 1) 422 Teimlo fel twt-twtio rwan, Prydderch?
(0, 1) 423 Rhoswch chi...!
(Prydderch) Ydach chi am dynnu mraich i o'i soced?
 
(Prydderch) Ydach chi am dynnu mraich i o'i soced?
(0, 1) 426 Mi gawn benderfynu hynny, toc!
(Capten) Prys, ydi ei ddwy ysgwydd o ar lawr?
 
(Prys) Mi wela i ola rhyngddo fo a'r ddaear!
(0, 1) 435 Goleuni'r Ffydd!
(0, 1) 436 Rwan Prydderch, dwedwch ar f'ôl i "Duw cariad yw".
(Prydderch) Dydach chi ddim yn gall ddyn!
 
(0, 1) 439 "Duw... cariad... yw!"
(Prydderch) Mygu'n lân!
 
(Prydderch) Rwy' i wedi colli fy ngherdyn!
(0, 1) 466 Wedi'i ollwng o reit siwr, wrth ichi gael eich trechu gan y Gwirionedd!