Lladron a Llanc

Ciw-restr ar gyfer Lei

(Ping) Lei.
 
(Ping) Lei!
(0, 1) 9 Be rŵan?
(Ping) Witshad eiliad.
 
(Ping) Witshad eiliad.
(0, 1) 11 Eto?
(Ping) Dwi'n |knackered|.
 
(Ping) Dwi'n |knackered|.
(0, 1) 13 Ar siwrne bach fel hyn?
(Ping) Swirne bach?
 
(Ping) Dani ar y 20ed-rywbeth llawr.
(0, 1) 16 Dani bron yno.
(Ping) Oni'm yn gwbod mai'r llawr ucha' oedd o.
 
(Ping) Oni'm yn gwbod mai'r llawr ucha' oedd o.
(0, 1) 18 Penthouse suite ddim yn rhoi cliw i chdi?
(Ping) Ddylsa ni 'di cymryd y lifft.
 
(Ping) Ddylsa ni 'di cymryd y lifft.
(0, 1) 20 Mae na gamerâu yn y lifft.
(Ping) Fysa ni'm 'di medru malu nhw?
 
(Ping) Fysa ni'm 'di medru malu nhw?
(0, 1) 22 Mae nhw 'di cysylltu i'r wê, y twpsyn.
(0, 1) 23 Cyn ti fedru cyffwrdd ynddyn nhw, mae nhw'n anfon dy lun di i HQ.
(0, 1) 24 Lle crand fel hyn?
(0, 1) 25 Fydd yr heddlu yma mewn chwinciad.
(0, 1) 26 Reit, dani yma!
(0, 1) 27 Sbia - dyma'r drws i'r to.
(0, 1) 28 Dora gynnig arna fo.
(Ping) Dwi'n hanner marw.
 
(Ping) Dora funud i mi ddal yng ngwynt!
(0, 1) 32 Fedri di ddal dy wynt tra ti'n pigo'r clo.
(0, 1) 33 Dio'm yn cymryd fawr o ymdrech.
(Ping) Gwna di fo 'ta!
 
(Ping) Dwi 'rioed 'di bod mor bell fyny a hyn.
(0, 1) 41 Cachwr!
(0, 1) 42 Oni'n arfer cerdded deg milltir bob dydd trwy'r mynyddoedd pan oni'n 'rysgol.
(0, 1) 43 Llwybrau peryglus - llawn cerrig a ballu.
(0, 1) 44 'Di hwn ddim byd.
 
(0, 1) 46 Dwi'n cofio un noson odd'na storm.
(0, 1) 47 Noson hollol dywyll.
(0, 1) 48 Methu gweld dim.
(0, 1) 49 Dwi'n cofio ista ar ochr y llwybr yn y llwyr dywyllwch 'ma.
(0, 1) 50 A bob tro odd 'na fellten yn goleuo'r llwybr faswn i'n rhedeg ar ei hyd fel y niwl, tan iddi dywyllu'n sydyn eto.
(0, 1) 51 Rhedeg adra mesul mellten.
(0, 1) 52 Gymrodd oes i mi gyrradd nôl.
(Ping) Odd fy nhŷ i draws y lôn o'r ysgol.
 
(Ping) Odd fy nhŷ i draws y lôn o'r ysgol.
(0, 1) 54 Dim syndod bod ti'n lwmp fawr dew.
(0, 1) 55 Cwbwl odd raid i ti wneud odd rowlio dros y stryd.
(0, 1) 56 A ti'n ddigon chiclyd i alw dy hun y |Corwynt Bach|.
(0, 1) 57 Sbia arna ti!
(0, 1) 58 |Corwynt Bach|!
(Ping) 'Swn i 'di gallu dewis y cymeriad mwya cyflym ond wnes i ddim naddo!
 
(Ping) Dwi'm yngalw'n hun y |Teithiwr Hudol|.
(0, 1) 61 Pwy ffwc 'di'r |Teithiwr Hudol|?
(0, 1) 62 Ping Un o'r cymeriadau yn |Herwyr y Morfa|.
(0, 1) 63 Ti'n |obsessed|.
(Ping) Dai Zong ydi'r |Teithiwr Hudol|.
 
(Ping) Y Meistr Dai.
(0, 1) 66 Reit.
(Ping) Mae'n gallu rhedeg 400 cilomedr mewn diwrnod!
 
(Ping) Mae'n gallu rhedeg 400 cilomedr mewn diwrnod!
(0, 1) 68 Pwy sa'n ennill mewn ffeit - |Corwynt Bach| neu'r |Teithiwr Hudol|?
(Ping) |Teithiwr Hudol|.
 
(Ping) byw bywyd go iawn!
(0, 1) 74 A be am y cymeriad arall odda ti'n sôn am gynna?
(0, 1) 75 Shi — rwbath.
(Ping) Shi Qian.
 
(Ping) Shi Qian.
(0, 1) 77 Ia, fysa fo'n curo y |Teithiwr Hudol|?
(Ping) Nasa, Dai y |Teithiwr Hudol| 'sa'n ennill eto.
 
(Ping) Ti di darllen y bennod amdano fo'n dwyn yr arfwisg aur?
(0, 1) 84 Ocê, dyna ddigon o frêc dwi'n meddwl.
(Ping) O, mae Shi Qian yn anhygoel.
 
(Ping) Mor ddyfeisgar yn dwyn yr arfwisg, rêl meistrolaeth o'i grefft.
(0, 1) 87 Ti'n medru meistroli'r clo 'ma ar agor ti'n meddwl?
(Ping) Fedrai ddim.
 
(Ping) Fedrai ddim.
(0, 1) 90 Eh?
(Ping) 'Rioed 'di pigo math yma o glo.
 
(Ping) 'Rioed 'di pigo math yma o glo.
(0, 1) 92 Ti'n malu cachu?
(0, 1) 93 Oni'n meddwl wnes di ddeud does n'am clo ar y planed fedri di'm agor.
(Ping) Do, ag echddoe pan odda ti'm yn siarad efo fi, 'di pwdu'n llwyr, wnes i ddeud bod ti
 
(Ping) Ffor' o siarad.
(0, 1) 97 Paid a deutha fi bod ni 'di dringo'r holl risiau 'ma am ddim byd!
(0, 1) 98 Tria eto!
(Ping) Dwi yn trio.
 
(Ping) Ond os fedrai'm agor o, fedrai'm agor o.
(0, 1) 101 Am faint odda ti'n brentis saer cloeon?
(Ping) Blwyddyn a hanner.
 
(Ping) Ella 'chydig llai.
(0, 1) 104 Digon hir.
(Ping) Ti'n meddwl |ddylsa| ni fynd mewn?
 
(Ping) Ti'n meddwl |ddylsa| ni fynd mewn?
(0, 1) 107 Be ti'n feddwl?
(Ping) Ti'n siwr bod o ddim i fewn?
 
(Ping) Ti'n siwr bod o ddim i fewn?
(0, 1) 109 Y, yndw.
(Ping) Sut?
 
(Ping) Sut?
(0, 1) 111 Newyddion.
(0, 1) 112 Ti'm 'di gweld y lluniau?
(0, 1) 113 Mae o ffwrdd ar fusnes swyddogol yn y brifddinas.
(Ping) Be os mae rywun arall fewn?
 
(Ping) Be os mae rywun arall fewn?
(0, 1) 115 Fydd 'na ddim.
(Ping) Sut, ga'i ofyn, wyt ti mor sicr?
 
(Ping) Sut, ga'i ofyn, wyt ti mor sicr?
(0, 1) 117 Dani 'di gweld o'r tu allan bod y goleuadau i gyd 'di diffodd.
(Ping) Be os mae'n galw'r heddlu pan mae'n cyrraedd yn ôl?
 
(Ping) Fydden nhw'n ffindio ni a cymryd ni lawr i'r stasion a pwy a wyr be' ddigwyddith.
(0, 1) 120 Faint o weithiau 'dwi gorfod deutha ti?
(0, 1) 121 Dio'm yn ffŵl.
(0, 1) 122 Does na'm gobaith chwanen y fydd o'n galw'r heddlu.
(0, 1) 123 Meddylia am y peth - os fase ti'n lywodraethwr, a ma gyn ti gesyn llawn arian yn dy dŷ, a ti'n colli o, faset ti'n mynd i'r heddlu?
(Ping) Ella.
 
(Ping) Ella.
(0, 1) 125 Wrth gwrs faset ti ddim!
(0, 1) 126 Achos wedyn ma angen i ti egluro lle ddoth yr arian, pam dio'm yn y banc.
(0, 1) 127 Os mae o'n cymryd |backhanders|, dio'm am redeg i grio i'r heddlu na'di.
(Ping) Na' di, debyg.
 
(Ping) Fydda ni'n |fucked|.
(0, 1) 132 Stop.
(0, 1) 133 Stopia hyn rŵan, y cachwr.
(Ping) Just deud ydw i.
 
(Ping) Mae'n beryglus.
(0, 1) 136 Wyt ti di anghofio be ddudis di ddoe?
(0, 1) 137 Ti di anghofio y ffordd wnaeth Hen Liu druan grio pan welodd o gorff llipa ei fab?
(0, 1) 138 Ti wedi llwyr anghofio, do, y ffordd wnes di roi dy law ar frest Dan Bach a tyngu llw am ddialedd?
(Ping) Naddo.
 
(Ping) Naddo.
(0, 1) 140 'Na fo 'ta.
 
(0, 1) 145 O'r diwedd.
(Ping) Haws nag oedd o'n edrych.
 
(Ping) Haws nag oedd o'n edrych.
(0, 1) 149 Ti'n dwad?
(Ping) Dwi'm yn siwr.
 
(Ping) Dwi'm yn siwr.
(0, 1) 151 Iesgob annwyl!
(0, 1) 152 Dani bron yno!
(Ping) Be fysa 'nhad yn deud?
 
(Ping) Ond paid byth, erioed a dwyn.'
(0, 1) 157 Dyda ni'm yn dwyn.
(0, 1) 158 Dani'n cymryd o'r cyfoethog a rhoi i'r tlawd.
(Ping) Dwyn.
 
(Ping) Dwyn.
(0, 1) 160 Dwyn nath o.
(0, 1) 161 Ennillion llygredig!
(0, 1) 162 Di'r arian yma ddim yn pia iddo fo.
(0, 1) 163 Does gynna fo ddim hawl i gadw o.
(Ping) Dio'm yn pia i ni chwaith.
 
(Ping) Dio'm yn pia i ni chwaith.
(0, 1) 165 Dim i ni 'da ni'n ei gymryd o, Ping.
(Ping) Dwi'n gwbo' hynna.
 
(Ping) Dwi'n gwbo' hynna.
(0, 1) 167 Mi yrrodd y bastun barus yma syth mewn i Dan Bach a wantho'm poeni dim.
(0, 1) 168 Dio'm yn ddyletswydd iddo dalu rywfaint i'r teulu?
(0, 1) 169 Na, 'di arian ddim bydd iddo fo.
(0, 1) 170 Ddylsa fo farw am y fath beth.
(0, 1) 171 Mae'n haeddu bwled yn ei ben.
(0, 1) 172 Cymryd ei arian poced yda ni i roi i deulu Dan.
(Ping) Dwi'n gwbo' hyn i gyd, ond …
 
(Ping) Dwi'n gwbo' hyn i gyd, ond …
(0, 1) 174 Be ffwc sy'n bod efo ti?
(0, 1) 175 'Da ni chydig o gamau ffwrdd o ffortiwn a ti'n cael ail feddyliau?
(Ping) Shh, bydd ddistaw!
 
(Ping) Shh, bydd ddistaw!
(0, 1) 177 Allai'm diodda bobl fel ti.
(0, 1) 178 Petruso dros yr holl bethau bach, ti'n rêl llipryn.
(0, 1) 179 Llawn esgusodion.
(0, 1) 180 Gwranda, os ti rhy ofn, dos o'n ngolwg i.
(0, 1) 181 Wnai'r peth fy hun.
(Ping) Addo i fi.
 
(Ping) Addo i fi.
(0, 1) 183 Be?
(Ping) Addo wnawn ni'm cymryd mwy na' 'da ni angen.
 
(Ping) Addo wnawn ni'm cymryd mwy na' 'da ni angen.
(0, 1) 186 Dani'n gwastraffu amser.
(Ping) Lei.
 
(Ping) Lei.
(0, 1) 188 Ocê.
(0, 1) 189 Ocê.
(0, 1) 190 Dwi'n gaddo.
(0, 1) 191 Iawn?
 
(0, 1) 193 Ty'd 'laen, |Corwynt Bach|.
(0, 1) 194 G'ad i ni ddangos be 'di be i'r cont 'ma.
 
(0, 2) 201 |Shit|!
(Ping) Be?
 
(Ping) Be?
(0, 2) 203 Ma rywun yma.
(Ping) Pwy?
 
(Ping) Pwy?
(0, 2) 205 Dwn 'im!
(0, 2) 206 Bachgen o ryw fath.
(Ping) Be wnawn ni?
 
(Ping) Be wnawn ni?
(0, 2) 209 Ga'd mi feddwl am eiliad.
(Ping) Be am i ni guddiad yma ag aros i weld os mae'n gadael.
 
(Ping) Be am i ni guddiad yma ag aros i weld os mae'n gadael.
(0, 2) 211 Cau hi!
(Ping) Neu fedra ni snecio heibio fel y |Teithiwr Hudol|.
 
(Ping) Neu fedra ni snecio heibio fel y |Teithiwr Hudol|.
(0, 2) 215 Dyna'r ffenest.
(Ping) Lle?
 
(Ping) Lle?
(0, 2) 217 Ochr arall i'r ffŵl 'ma.
(Ping) Blydi briliant.
 
(Ping) Blydi briliant.
(0, 2) 219 Faint gymrith i ti bigo'r clo yna?
(Ping) Mae'n dibynnu.
 
(Ping) Mae'n dibynnu.
(0, 2) 221 Achos gymrith yr un dwytha blydi oes mul.
(Ping) Dio'm yn bosib rhuthro'r pethe 'ma.
 
(Ping) Dio'm yn bosib rhuthro'r pethe 'ma.
(0, 2) 223 Wnai distractio fo, tra ti'n pigo'r clo.
(Ping) Be, ti ffansi sgwrs bach efo fo?
 
(Ping) Be, ti ffansi sgwrs bach efo fo?
(0, 2) 225 Sut arall?
(Ping) A wedyn fydd o'n gweld ein gwynebau ni a mynd i'r heddlu.
 
(Ping) A wedyn fydd o'n gweld ein gwynebau ni a mynd i'r heddlu.
(0, 2) 227 Cau dy drap am y blydi heddlu!
(0, 2) 228 Awn ni i siarad efo'r hogyn.
(0, 2) 229 Gweld be' mae'n da 'ma.
(Ping) Ocê.
 
(Ping) Merched gynta.
(0, 2) 234 Iawn boi?
(Ping) Noswaith hyfryd.
 
(Ping) Noswaith hyfryd.
(0, 2) 237 Ga'd y siarad i mi.
(0, 2) 238 'Chydig yn hwyr i fod fyny famma, yn y twllwch, ar ben dy hun.
(Shujun) Pam 'da chi yma felly?
 
(Shujun) Pam 'da chi yma felly?
(0, 2) 241 |Security guards| newydd 'da'ni.
(0, 2) 242 Neud y rownds, checkio pethe.
(Shujun) Iawn.
 
(Shujun) Iawn.
(0, 2) 244 Felly, os ti'm yn meindio, dwi'n meddwl bod o'n amser i ti fynd adre.
(Ping) Fydd dy deulu yn poeni amdana ti.
 
(Ping) Fydd dy deulu yn poeni amdana ti.
(0, 2) 246 Dio'm yn sâff fyny famma.
(Shujun) Fy nho i ydi hwn.
 
(Shujun) Allai eistedd yma os dwisio.
(0, 2) 250 Ti'n byw yma 'ta?
(Shujun) Yndw.
 
(Shujun) Yndw.
(0, 2) 252 O.
(0, 2) 253 Neis.
(0, 2) 254 Pa lawr?
(Shujun) Pam?
 
(Shujun) Tisio fi arwyddo rywbeth?
(0, 2) 257 Just wyndro dwi.
(Shujun) Dwi'm yn leidr, os dyna 'dachi'n feddwl.
 
(Shujun) Dwi'm yn leidr, os dyna 'dachi'n feddwl.
(0, 2) 259 Na, na, argol - na!
(0, 2) 260 Poeni amdanat ti yda ni.
(0, 2) 261 Os fase ti'n disgyn, fydda ni mewn uffar o drwbwl.
(Shujun) Wel diolch am eich consyrn, ond dwi'n fine.
 
(Shujun) Ffwcia o'ma.
(0, 2) 308 Nefi bliw!
(0, 2) 309 'S'nam angen rhegi.
(0, 2) 310 'Dani'n trio bod yn gyfeillgar.
(Ping) Warth i ti ddeutha ni.
 
(Ping) Rhoi cyngor i rywun mewn cyfyng gyngor.
(0, 2) 315 Be ti'n trio - cynghanedd?
(Shujun) Oes rywun erioed 'di dy siomi?
 
(Shujun) Efo bobl eraill.
(0, 2) 357 Torra pob cysylltiad, well i ti gael gwared ohona nhw.
(0, 2) 358 Os mae nhw'n wael i bobl eraill rŵan, fydden nhw'n wael i ti yn y dyfodol agos.
(Shujun) Dio'm mor syml a hynny.
 
(Shujun) Dio'm mor syml a hynny.
(0, 2) 361 Sblitia fyny efo hi.
(0, 2) 362 Sgynnai'm amser ar gyfer pobl dau wynebog.
(0, 2) 363 Neis a hapus un munud, fel y diafol y nesa.
(0, 2) 364 Odd gynna i gariad.
(0, 2) 365 Oddan ni wedi dyweddio.
(0, 2) 366 Dros pen a chlustiau mewn cariad efo hi.
(0, 2) 367 Un diwrnod ma'i'n troi rownd a deud bod hi'm yn ffansio fi bellach, bod hi'n fy ngadael i am rywun arall.
(Shujun) Rywun cyfoethog?
 
(Shujun) Rywun cyfoethog?
(0, 2) 369 Rhedeg ryw fusnes, busnes bach ond yn gwneud dwbwl fy nghyflog.
(0, 2) 370 Well ganddi fod yn feistres iddo fo na gwraig i mi.
(Shujun) Felly adawodd hi ti am arian?
 
(Shujun) Felly adawodd hi ti am arian?
(0, 2) 373 Yn union!
(0, 2) 374 Dyna mae popeth yn arwain at yn diwedd.
(Shujun) Dim popeth.
 
(Shujun) Dim popeth.
(0, 2) 376 Na?
(0, 2) 377 Enwa un problem sydd ddim am bres.
(Shujun) Wel...bariaeth, celwyddau, gwagedd...'mond rhan o'r broblem ydi arian.
 
(Shujun) Wel...bariaeth, celwyddau, gwagedd...'mond rhan o'r broblem ydi arian.
(0, 2) 379 Dyna mae pawb isio.
(0, 2) 380 Dyna sy'n ein cymell ni i wneud pethe drwg.
(Shujun) Felly dim arian ar ben ei hun ydi'r problem.
 
(Shujun) Achos roedd hi'n dymuno bywoliaeth mwy cyfforddus.
(0, 2) 400 Yr hen ast!
(Shujun) Ddaru dy ffrind yn 'rysgol reportio ti i'r athrawes achos oedd hi isio—be?
 
(Shujun) Dyna pam mae nhw'n gwneud camgymeriadau.
(0, 2) 412 Wyt ti'n stiwdent o gwbwl?
(Shujun) Trydydd flwyddyn.
 
(Shujun) Athroniaeth.
(0, 2) 415 Oni'n meddwl.
(Shujun) Ocê.
 
(Shujun) Dyma gyfyng gyngor moesol i ti.
(0, 2) 420 O Dduw.
(Shujun) Cogia bod gyn ti gariad sy'n artist, iawn?
 
(Shujun) Be ddylsa hi wneud?
(0, 2) 456 Hawdd.
(0, 2) 457 Shagio'r cyfarwyddwr.
(Ping) Na!
 
(Ping) Na!
(0, 2) 459 Mae pawb arall yn gwneud o.
(0, 2) 460 Mae 'na lot o actorion da allan yno.
(0, 2) 461 Dyna 'di'r unig ffordd i gael hwb i fyny.
(Shujun) Be os mai hi ydi dy gariad di?
 
(Shujun) Be os mai hi ydi dy gariad di?
(0, 2) 463 Fy nghariad i?
(Shujun) Ie.
 
(Shujun) Be faset ti'n gwneud?
(0, 2) 467 Rhoi clustan iddi a fydda ni 'di torri fyny.
(Shujun) Ond os ti'n rili caru hi?
 
(Shujun) Ond os ti'n rili caru hi?
(0, 2) 469 Os fysa hi'n rili caru fi fase hi'm yn gwneud hynna!
(0, 2) 470 Ac eniwe dydi cariad ddim yn golygu goddef anffyddlondeb.
(Shujun) Ond os fase ti'n caru hi go iawn, faset ti'm isio marw?
 
(Shujun) Ond os fase ti'n caru hi go iawn, faset ti'm isio marw?
(0, 2) 472 Marw?
(0, 2) 473 Fi?
(0, 2) 474 |As if|.
(Shujun) Os wyt ti 'di dotio efo hi.
 
(Shujun) Roeddet ti dan yr argraff bod hi mor bur fase hi 'rioed yn gwneud y fath beth.
(0, 2) 477 Wel faswn i'n foi twp iawn i gredu hynna.
(Shujun) Ond fysa ti'm yn teimlo bod dy fywyd yn disgyn i ddarnau?
 
(Shujun) Dwi'n meddwl os mae rhywun yn gadael chi lawr fel'na, does 'na'm point byw.
(0, 2) 485 Dyna'r peth twpia dwi 'rioed 'di clywed.
(0, 2) 486 |Ridiculous|!
(0, 2) 487 Os fysa 'nghariad i'n cysgu efo dyn arall, faswn i'm yn lladd'n hun.
(0, 2) 488 Faswn i'n lladd hi.
(0, 2) 489 Gwell fyth, lladd y boi arall.
(Shujun) Be os mae'r sarhad yn ormod?
 
(Shujun) Be os mae'r sarhad yn ormod?
(0, 2) 491 Dal ddim yn gwneud sens.
(0, 2) 492 Fedrai'm dalld rywun sy'n llad ei hun dros wallau rywun arall.
(0, 2) 493 Chwinc yn ei ben!
(Ping) Go iawn rŵan — bwyd, gwely, anghofio.
 
(Shujun) I orfodi nhw i gydnabod y ffordd roedden nhw'n trin y merched.
(0, 2) 499 Eh?
(0, 2) 500 Neith hynna byth weithio.
(0, 2) 501 Syniad boncyrs gan ferched yn byw ganol nunlle.
 
(0, 2) 505 Wnaeth fy |ex| drio hynna.
(0, 2) 506 Sawl blynedd yn ôl.
(0, 2) 507 Yn torri ei hun efo cyllell, torri mewn i artery.
(0, 2) 508 Wnes i drio agosàu, i roi pwysau ar yr anaf, a mi wthiodd y gyllell mewn i'm braich.
(0, 2) 509 Odd na lot o waed 'de, yn pwmpio allan, arllwys dros y lle i gyd yr holl ffordd i'r ysbyty.
(0, 2) 510 Ddaru hi fyw, ond o'dd o'n ufflon o noson.
(Ping) Be ddigwyddodd wedyn?
 
(Ping) Be ddigwyddodd wedyn?
(0, 2) 512 Dodd 'na'm 'wedyn'.
(0, 2) 513 Pwy 'sa'n priodi merch fel'na?
(Ping) 'Di'n iawn rŵan?
 
(Shujun) Pam oedd hi'n trio lladd ei hun?
(0, 2) 517 Oedd hi'm yn iawn yn ei meddwl nag o'dd.
(0, 2) 518 Neu ella oedd hi'n flin efo fi am rywbeth neu'i gilydd.
(0, 2) 519 Allai'm cofio.
(Shujun) Ti'n teimlo'n euog?
 
(Shujun) Ti'n teimlo'n euog?
(0, 2) 521 Euog?
(0, 2) 522 Na'dw.
(0, 2) 523 Mae'r holl beth rhwngtha hi a'i photas.
(Shujun) Felly dwyt ti ddim yn deall rheiny sy'n cynnau ei hunan ar dân fel protest gwleidyddol?
 
(Shujun) Felly dwyt ti ddim yn deall rheiny sy'n cynnau ei hunan ar dân fel protest gwleidyddol?
(0, 2) 525 Wrth gwrs ddim.
 
(0, 2) 527 Mae nhw 'di clirio'r ffordd i'w gelynion - 'di helpu nhw allan!
(0, 2) 528 Lle mae'r sens yn hynna?
(0, 2) 529 Pa bynnag sefyllfa, peidiwch a copio'r merched o'r pentre.
(0, 2) 530 Fydd y bobl dachi'n trio effeithio ddim yn teimlo'n ddrwg.
(0, 2) 531 Fydden nhw'n chwerthin ar eich pen chi.
(0, 2) 532 A fyddech chi ddim o gwmpas i chwerthin yn ôl arnyn nhw.
(0, 2) 533 Os dachi'n gofyn i mi, dial 'di'r unig ymateb call.
(Shujun) Ocê.
 
(Ping) 'Ti bach yn ifanc i'r holl ofid a gwae 'ma dwyt?
(0, 2) 551 Mae'n hwyr.
(0, 2) 552 Amser mynd adre dwi'n meddwl.
(Shujun) Un cwestiwn olaf.
 
(Ping) yn y diwedd, fedra ni'm eu cyffwrdd.
(0, 2) 570 Fyswn i'm yn gadael ti'n agos i le fel hyn!
(Ping) Fyswn i'm yn gadael tithau chwaith!
 
(Ping) Fyswn i'm yn gadael tithau chwaith!
(0, 2) 572 Ond ma hynna'n wir.
(0, 2) 573 Mae'r bobl sy'n deud celwyddion ac yn bihafio fel mynnan nhw fyw mewn palasau.
(0, 2) 574 Does 'na'm rheswm am y peth.
(0, 2) 575 Sbia ar y gerddi, y clybiau preifat!
(Shujun) Does 'na'm tâl da i gael am waith caled yn y byd yma.
 
(Ping) Gwaith caled sy'n cael ei dalu lleiaf.
(0, 2) 578 Bod yn ddigywilydd ydi'r swydd gorau.
(Shujun) Yn y dechrau, dim ond rhai sy'n gwneud pethe cywilyddus.
 
(Ping) Os dydi Yang ddim yn chwarae eu gêm, fydd o allan yn y rownd gyntaf.
(0, 2) 586 Dros ben llestri dydi.
(0, 2) 587 Mae angen i ni gael gwared ohona nhw i gyd a'u hanghyfiawnder.
(Shujun) Mae'r byd yn anghyfiawn.
 
(Shujun) John Lennon er enghraifft, sut fedrith o gael ei ladd?
(0, 2) 591 Mae isio sortio'r lle ma allan.
(0, 2) 592 Lladd y rhai llygredig.
(Shujun) Pam mae o mor anodd mynnu bod rywbeth yn digwydd?
 
(Shujun) Pam mae o mor anodd mynnu bod rywbeth yn digwydd?
(0, 2) 594 Be?
(Shujun) Pan oeddwn i'n fach, oni'n gobeithio dysgu Kung-Fu i helpu'r gwan a'r tlawd, a gwaredu'r byd o anghyfiawnder.
 
(Shujun) Roedd fy nhad yn arfer dweud mai'r peth mwya gwirion ydi gwario amser efo boblgyda diddordebau main, a hefyd bod angen bod bob amser yn ddyfal - mae camgymeriadaubach yn gallu difetha bywyd.
(0, 2) 603 'Di hwn di meddwi ta be?
(Shujun) 'Y rheswm na fedr person gyffredin fod yn sant ydi'r dymuniadau angerddol sy'n ein arwain ymhobman.' …
 
(Shujun) Sut fedra i orfodi fo i weld ei gam?
(0, 2) 616 Paid a bod yn ferthyr.
(0, 2) 617 Fyddi di'n difaru'n bora.
(Shujun) Mae mor anodd cario 'mlaen fel hyn.
 
(Ping) Deudodd be di'r ots am y clwyf bach hwn yn y storm
(0, 2) 640 Hei.
 
(0, 2) 644 Odda ti'n bwriadu gwneud hynna?
(Ping) Be?
 
(Ping) Be?
(0, 2) 647 Anfon o i'w drwmgwsg.
(Ping) Wel, mae'n amlwg bod pŵer hudol yn fy llais.
 
(Ping) Ella dyna'n alwedigaeth, gyrfa newydd i mi.
(0, 2) 650 Gyrfa fel paldareiwr.
(Ping) Byd-enwog.
 
(Ping) Byd-enwog.
(0, 2) 652 Ti di meddwi?
(Ping) Dwi braidd yn chwil.
 
(Ping) Dwi braidd yn chwil.
(0, 2) 654 Finna' 'fyd.
 
(0, 2) 656 Reit, tyd 'laen.
(Ping) Be am |sleeping beauty|?
 
(Ping) Be am |sleeping beauty|?
(0, 2) 658 Gad o yna.
(0, 2) 659 Fydda ni di hen adael cyn iddo ddeffro.
(Ping) Ti'n meddwl odd o am neidio go iawn?
 
(Ping) Ti'n meddwl odd o am neidio go iawn?
(0, 2) 661 Na.
(0, 2) 662 Siarad siarad siarad.
(0, 2) 663 Dyna fyfyrwyr i ti.
(0, 2) 664 Mi ddeutha i ti hyn, fydd gynno fo goblyn o gur pen yn bora.
(Ping) Bechod drosta fo.
 
(Ping) Bechod drosta fo.
(0, 2) 667 Awê!
 
(0, 3) 670 Lle mae'r blydi gola?
(Ping) Waw.
 
(Ping) Mae'n anferthol!
(0, 3) 676 Gwneud fi'n sâl.
(Ping) Be ti'n ddeud?
 
(Ping) 30 medr sgwâr?
(0, 3) 679 O leia.
(0, 3) 680 A dim ond y stafell gynta' 'di hwn.
(Ping) Iesgob.
 
(Ping) Sbia ar yr holl betha' 'ma.
(0, 3) 683 Hei, dani'n edrych am y pres.
(Ping) Be ti'n meddwl 'di hwn?
 
(Ping) Be ti'n meddwl 'di hwn?
(0, 3) 686 Ceffyl.
(Ping) Mae'r lliw'n anhygoel.
 
(Ping) |Emerald| ella.
(0, 3) 689 |Jade|.
(Ping) Sut ti'n gwbo?
 
(Ping) Sut ti'n gwbo?
(0, 3) 691 |Emerald| yn fwy golau.
(0, 3) 692 Odda nhw'n arfer cloddu jade yn y mynyddoedd tu ôl i'm mhentra.
(0, 3) 693 'Run lliw.
(Ping) Mae'n |amazing|.
 
(Ping) Mae'n |amazing|.
(0, 3) 696 Llygaid ar y pres.
(Ping) Dwi'n edrych, dwi'n edrych.
 
(Ping) Dwi'n edrych, dwi'n edrych.
(0, 3) 698 Wel ti'n gwneud job wael iawn hyd yn hyn.
(Ping) Faint 'da ni'n edrych am?
 
(Ping) Faint 'da ni'n edrych am?
(0, 3) 701 Un neu ddau filiwn.
(Ping) Mewn |cash|?
 
(Ping) Toman anferthol felly.
(0, 3) 704 Ie, a dau ddyn anferthol hefyd i'w gario fyny.
(Ping) Pwy ddudodd hynna i ti?
 
(Ping) Pwy ddudodd hynna i ti?
(0, 3) 706 Nghefnder i.
(0, 3) 707 Dreifar y cwmni wnaeth anfon yr arian.
(0, 3) 708 Mi welodd o'r dynion mawr ma yn cario'r cesys mewn i'r lifft heb ddeud gair, yng ngolau dydd.
(Ping) Wel fydd o'n hawdd i ffindio felly bydd.
 
(Ping) Alli di'm stwffio hynna gyd dan fatràs!
(0, 3) 713 Dwi'n cadw ti fyny?
(Ping) Sori.
 
(Ping) Y fodca 'na'n gwneud fi'n gysglyd.
(0, 3) 716 Finna' 'fyd.
(0, 3) 717 Cyn gynted dani'n ffindio'r cash cyn gynted gawn i gysgu.
(Ping) Lei, ti'n siwr bod gyn ti'r un iawn?
 
(Ping) Lei, ti'n siwr bod gyn ti'r un iawn?
(0, 3) 720 Yndw tad.
(0, 3) 721 Wnaeth 'nghefnder rannu smôc efo'r boi concierge a dio'm y fan mwya o'r llywodraethwr.
(0, 3) 722 Dyna sut oni'n gwbo'r ffor fyny 'ma.
(0, 3) 723 Coelia fi, hwn di'r fflat iawn.
(Ping) Na, y person iawn.
 
(Ping) Ti'n siwr na fo darrodd Dan Bach?
(0, 3) 726 Weles di'r fideo do?
(0, 3) 727 Ei gar o oedd o.
(0, 3) 728 'Nocio'r bachgen i'r awyr.
(0, 3) 729 Natho'm cyffwrdd y brêcs.
(Ping) Wnes i'm gweld o!
 
(Ping) Fedra di'm agor y lincs rŵan.
(0, 3) 735 Wel welis i.
(0, 3) 736 Odd o'n erchyll.
(0, 3) 737 Dal i godi'r felan arna i.
(0, 3) 738 Numberplate, gwyneb, popeth fo oedd o.
(Ping) Anifail de.
 
(Ping) A mae mor ffeind ar y teledu dydi, un o'r bobl gyffredin - ond sbia ar famma.
(0, 3) 742 Dyna lle mae'r dywediad yn dod o: 'nabod ei wyneb, ddim run fath a nabod ei galon'.
(Ping) Wel fedrai'm gweld y pres de.
 
(Ping) Wel fedrai'm gweld y pres de.
(0, 3) 745 Tria drws nesa.
(0, 3) 746 Wnai gario 'mlaen famma.
(Ping) {off} Lei!
 
(Ping) Sbia ar hwn!
(0, 3) 753 Paid a gwaeddi, naci!
(Ping) Dwi newydd ffindio 'hein yn y stafell wely.
 
(Ping) Be ti'n gwneud?
(0, 3) 758 Dim byd.
(0, 3) 759 Just ambell i beth, dyna'r oll.
(0, 3) 760 Os fedra ni'm ffindio'r pres, o leia fedra ni werthu rywfaint o'r petha 'ma.
(Ping) Dim dyna wnaethon ni gytuno.
 
(Ping) Dim dyna wnaethon ni gytuno.
(0, 3) 762 Sut ti'n meddwl gafodd o'r holl ornaments a'r offer technegol ma?
(0, 3) 763 Arian drwg.
(Ping) Dani'm yn gwbod hynna.
 
(Ping) Dani'm yn gwbod hynna.
(0, 3) 765 Dwi'n gwrthod dychwelyd yn waglaw.
(0, 3) 766 Mae angen o leia digon i gyfro costau'r angladd.
(Ping) Ma gynnai deimlad drwg am hyn.
 
(Ping) Os fysa'n nhad yn 'ngweld i...
(0, 3) 769 Ie, ie.
(0, 3) 770 Fysa fo'n cael hartan a marw, os fysa fo'm 'di marw'n barod.
(Ping) Fydd o'n troi yn ei fedd.
 
(Ping) Fydd o'n troi yn ei fedd.
(0, 3) 772 Cau dy drap a dora hand i mi wnei di?
 
(0, 3) 774 Be sgyn ti'n fanna eniwe?
(Ping) Llun o'r teulu.
 
(Ping) Llun o'r teulu.
(0, 3) 776 Y Llywodraethwr?
(Ping) A'i fab.
 
(Ping) A'i fab.
(0, 3) 778 Ga'mi weld.
 
(0, 3) 780 |Shit|!
(Ping) Ia.
 
(Ping) Ia.
(0, 3) 782 |Bastard|!
(Ping) Byw efo fo'n ddigon i wneud i rywun drio lladd ei hun.
 
(Ping) Byw efo fo'n ddigon i wneud i rywun drio lladd ei hun.
(0, 3) 784 Wnaeth o'm sôn dim am hyn.
(Ping) Mae 'na lythyr hefyd.
 
(Ping) Mae 'na lythyr hefyd.
(0, 3) 786 Dora fo i mi.
 
(0, 3) 788 'Annwyl Dad.
(0, 3) 789 Erbyn i ti ddarllen hwn... '
(Shujun) Dad?
 
(Ping) Plis gwranda.
(0, 3) 808 |Scum|?
(0, 3) 809 Ni?
(0, 3) 810 Dy dad ydi'r lleidr!
(0, 3) 811 Tyd a un peth i mi yn y fflat 'ma sy heb gael ei dalu am efo arian budr.
(0, 3) 812 Mae popeth sy'ma wedi ei ddwyn gan y bobl gyffredin.
(Shujun) Tria egluro hynna i'r heddlu.
 
(Shujun) Tria egluro hynna i'r heddlu.
(0, 3) 816 Dora'r ffôn lawr.
(0, 3) 817 Rwan!
(Shujun) Rhy hwyr.
 
(Shujun) Mae'r heddlu ar eu ffordd.
(0, 3) 821 Fyddi di'n difaru hynna.
 
(0, 3) 824 Nola'r rhaff o'r bag.
(Ping) Pa râff?
 
(Ping) Pa râff?
(0, 3) 826 Yn y bag!
(Ping) Well i ni heglu hi cyn i'r heddlu gyrraedd.
 
(Ping) Well i ni heglu hi cyn i'r heddlu gyrraedd.
(0, 3) 829 Mae'n malu cachu.
(0, 3) 830 Mae'n amhosib bod o 'di cael drwodd i'r heddlu mor gyflym a hynna.
(Ping) Tisio aros i ffindio allan?
 
(Ping) Tisio aros i ffindio allan?
(0, 3) 833 Arosa lle wyt ti.
(0, 3) 834 Ti'n mynd i lem byd tan i ni gael be 'dan isio.
(Ping) A be yda ni isio yn union?
 
(Ping) Be ti'n wneud?
(0, 3) 838 Be mae'n edrych fel?
 
(0, 3) 840 Ti dal isio galw'r heddlu?
(0, 3) 841 Eh?
(Shujun) |Scum|.
 
(Shujun) |Scum|.
(0, 3) 843 Be ddudis di?
(Shujun) |Scum|.
 
(Shujun) Dyna ydach chi.
(0, 3) 847 Tisio deud hynna eto?
(Ping) Paid!
 
(Ping) G'ad o lonydd.
(0, 3) 850 Mae'r bachgen yn haeddu gwers, neu fydd o byth yn dysgu.
(0, 3) 851 Dipyn o addysg i wneud y boi yn fwy clyfar na mae o rŵan.
(Ping) Cofia dyma'r un hogyn wnaetho ni rannu botel fodca efo.
 
(Ping) Cofia dyma'r un hogyn wnaetho ni rannu botel fodca efo.
(0, 3) 853 Os fyswn i'n gwbod pwy odd ei dad, fyswn i 'rioed 'di cyffwrdd yn y botal 'na.
(Ping) Beth am gymryd y petha 'ma a mynd.
 
(Ping) Beth am gymryd y petha 'ma a mynd.
(0, 3) 856 Be?
(0, 3) 857 Di heina ddim byd bellach.
(Ping) Mae nhw'n fwy na digon i Hen Liu.
 
(Ping) Mae nhw'n fwy na digon i Hen Liu.
(0, 3) 859 Na, na, na, ma gynno ni wobr gwell.
(Ping) Wnawn ni 'rioed ffindio'r pres!
 
(Ping) Wneith o gymryd rhy hir.
(0, 3) 862 Dim y pres.
 
(0, 3) 864 Ti'n gwbo be 'di hwn dwyt?
 
(0, 3) 866 'Chydig yn |sentimental|, ti'm yn meddwl?
(0, 3) 867 Mwy fel cerdd na nodyn hunanladdiad.
(Shujun) Dora fo'n nôl i mi.
 
(Shujun) Dora fo'n nôl i mi.
(0, 3) 869 Gorchymyn oedd hwnna?
(Shujun) Ty'd a fo yma!
 
(Shujun) Ty'd a fo yma!
(0, 3) 871 Dwi'm yn meddwl bod rywun yn dy sefyllfa di yn gallu ordro ni o gwmpas, wyt ti?
(Shujun) Clown yn cogio bod yn frenin, dyna'r cwbwl wyt ti.
 
(Shujun) Clown yn cogio bod yn frenin, dyna'r cwbwl wyt ti.
(0, 3) 874 Mae'n deimladwy iawn dydi?
(0, 3) 875 Roeddet ti'n wirioneddol isio marw mewn ffordd ddewr, urddasol yndo?
(0, 3) 876 I fod yn ferthyr.
(0, 3) 877 Ond i le mae'r awydd marw wedi diflannu i rŵan ta?
(Shujun) —
 
(Shujun) —
(0, 3) 879 Na.
(0, 3) 880 Sgyn ti'm y dewrder i farw.
(0, 3) 881 Gymris di un golwg ar ymyl y to a wnes di gachu dy drôns.
(0, 3) 882 Cachwr ymhob ystyr o'r gair.
(0, 3) 883 Union fel dy dad.
(0, 3) 884 Na?
(0, 3) 885 Dwi'n gwbo' nath o hitio bachgen pump oed a cyfro'r peth fyny rhag cael ei ddal.
(0, 3) 886 Ma hynny'n ddewr ofnadwy.
 
(0, 3) 888 Ble mae'r |hard drive| 'ma ti'n sôn am?
(Shujun) Pa |hard drive|?
 
(Shujun) Pa |hard drive|?
(0, 3) 890 Paid a chwarae lol.
(Ping) Pa |hard drive|?
 
(Ping) Pa |hard drive|?
(0, 3) 892 Mae'n deud bod gynno fo gopi o'r fideo.
(0, 3) 893 Yr un oedd ar-lein.
(Ping) Oni'n meddwl bod nhw gyd 'di'w distriwio.
 
(Ping) Oni'n meddwl bod nhw gyd 'di'w distriwio.
(0, 3) 895 Dim i gyd, yn ôl bob golwg.
 
(0, 3) 897 Be oedd dy fwriad, bygwth yr hen ddyn?
(Shujun) Roeddwn i isio fo gofio.
 
(Shujun) Roeddwn i isio fo gofio.
(0, 3) 899 Dy hunanladdiad yn ddraenen yn ei ochr.
(0, 3) 900 Ma hynny'n hyfryd.
(0, 3) 901 Dim ond un problem.
(0, 3) 902 Ti dal yn fyw.
 
(0, 3) 904 Dora fo i ni.
 
(0, 3) 906 Dora'r hard drive i ni!
(Ping) Am be?
 
(Ping) Pres!
(0, 3) 911 Yn union.
(0, 3) 912 Meddylia am y peth.
(0, 3) 913 Efo'r fideo fedra ni gael llif o arian pryd bynnag dani angen.
(Ping) Ti'n golygu fedra ni...?
 
(Ping) Fedra ni'm gwneud hynna, Lei.
(0, 3) 917 Cau hi.
(0, 3) 918 Dwi'm yn siarad efo ti.
(0, 3) 919 Dwi'n siarad efo'r bastun celwyddog yma.
(Shujun) Ffwcia chdi!
 
(Shujun) Ffwcia chdi!
(0, 3) 921 Dangos dy liwiau rŵan yndwyt?
(0, 3) 922 Gynta, oeddet tisio achub ei enaid, rŵan ti'n trio amddiffyn y llofrudd.
(Ping) Ddylsa ni roi'r fideo 'ma i'r heddlu.
 
(Shujun) Damwain erchyll.
(0, 3) 930 Felly pam wnaeth o'm troi ei hun fewn?
(0, 3) 931 Pam bygwth teulu druan y bachgen?
(0, 3) 932 Rhybuddio nhw i beidio siarad!
(Shujun) Dydi hynna'm yn wir.
 
(Shujun) Wnaeth o'm bygwth neb.
(0, 3) 935 Na.
(0, 3) 936 Gafodd o'i thugs i wneud hynna ar ei ran o.
(0, 3) 937 Paid a meiddio.
(0, 3) 938 Weles i o efo'n llygaid 'n hun.
(0, 3) 939 Pnawn ddoe, efo cordd Dan Bach yn gorwedd yn oer yn ei dÿ, cnoc ar ddrws Hen Liu, a ddoth cwpwl o fois mawr mewn i'r tÿ a'i gwffio i'r llawr.
(0, 3) 940 Cleisiau du a glas.
(0, 3) 941 Rhybuddio bod gwaeth i ddwad os fydd o'n meiddio gofyn am iawndal.
(0, 3) 942 Pwy oedd yn gyfrifol am hynna, ti'n meddwl?
(0, 3) 943 Pwy orchmynnodd y dynion i wneud y fath beth?
(Shujun) Dwi'm yn credu ti.
 
(Shujun) Fysa nhad i 'rioed yn gwneud hynny!
(0, 3) 946 Ti dal i freuddwydio.
(0, 3) 947 Deffra!
(Shujun) Ella wnaeth ei ddynion benderfynu ymysg ei hunan, i ddiogelu'n nhad.
 
(Shujun) Ella wnaeth ei ddynion benderfynu ymysg ei hunan, i ddiogelu'n nhad.
(0, 3) 949 G'ad mi ofyn cwestiwn arall i ti.
(0, 3) 950 Os fyse ti 'di cyflawni trosedd, a bod rywun yn
(0, 3) 951 recordio'r holl beth ar fideo, a'i bostio ar-lein, pwy 'sa gyn y pŵer i flocio'r fideo yna?
(0, 3) 952 I ddistriwio'r lincs a'r tystiolaeth?
(0, 3) 953 Pwy sgyn y pŵer?
(0, 3) 954 Wyt ti'n trio deutha fi wnaeth thugs dy dad wneud hyn oll tu ol i'w gefn?
(0, 3) 955 Faint mor bwerus ti'n credu yda nhw?
(Shujun) Dyna 'di dy stori di!
 
(Shujun) Oedd o'n cyfro fyny ei gamgymeriad gwirion.
(0, 3) 960 Mab ffyddlon i'r carn.
(Shujun) Dymuniadau.
 
(Shujun) Dymuniadau.
(0, 3) 962 Eh?
(Shujun) Mae pob camgymeriad yn deillio o ddymuniadau.
 
(Shujun) Mae pob camgymeriad yn deillio o ddymuniadau.
(0, 3) 964 Be'r uffar mae'n sôn am?
(Shujun) Roedd 'na ddynes yn y car.
 
(Shujun) Doedd o'm isio torri ei chalon hi.
(0, 3) 973 O, digon ffeind.
(0, 3) 974 Dio'm yn malio dim am fywyd plentyn dyn diethr.
(0, 3) 975 Ond mae'n gêm i wneud rywbeth i amddiffyn teimladau ei wraig bach annwyl.
(Shujun) Dwi mor sori.
 
(Ping) Awê!
(0, 3) 980 Na.
(0, 3) 981 Dani heb orffen eto.
 
(0, 3) 983 Siarada!
(0, 3) 984 Lle mae'r fideo?
(Ping) Paid!
 
(Shujun) Allai berswadio fo i gyflwyno'i hun i'r heddlu.
(0, 3) 1023 Paid a trystio fo.
(0, 3) 1024 |Hypocrite|.
(0, 3) 1025 Deud un peth a gwneud y llall.
(0, 3) 1026 Ceisio lladd ei hun ond yn disgyn i gysgu'n feddw yn canu cân.
(Shujun) Ro'i mwy o arian i'r teulu.
 
(Ping) Danisio'r tystiolaeth.
(0, 3) 1030 Y fideo!
(Shujun) Mi fydda nhw'n ei ladd.
 
(Shujun) Y cyhoedd yn mynd am ei waed!
(0, 3) 1033 Mae raid i rywun dalu am droseddau dy dad.
(Ping) A dwi'm isio ti fod y person yna.
 
(Shujun) Mae o wedi gwneud sawl peth ardderchog i'r ardal yma yn barod!
(0, 3) 1038 |Hit and run|, taliadau budr, bygwth teulu sy'n galaru.
(0, 3) 1039 Ardderchog.
(Shujun) Dio'm o hyd wedi bod fel hyn.
 
(Shujun) Dio'm o hyd wedi bod fel hyn.
(0, 3) 1041 Ti rioed di meddwl am gynlluniau mawr Hen Liu ar gyfer ei fab?
(Shujun) Mae'r byd i gyd yn wyneb i waered.
 
(Shujun) Mae'r byd i gyd yn wyneb i waered.
(0, 3) 1043 Yndy.
(Shujun) Does dim gwobr am waith caled.
 
(Shujun) Os mae'r petha ma'n digwydd o amgylch chi, mae pawb yn neud o, mae'n anodd peidio dod yn ran o'r system.
(0, 3) 1048 Na fo, rho'r bai ar sgwyddau eraill.
(0, 3) 1049 'Dim fi nath o, eich anrhydedd, bai y system ydio.
(0, 3) 1050 Ti mor ddiegwyddor a ddigwilydd a dy dad!
(Ping) Lei!
 
(Ping) Lei!
(0, 3) 1052 Be?
(Ping) Ti'n un da i siarad!
 
(Ping) Ti yma i ddwyn pres.
(0, 3) 1055 |So|?
(0, 3) 1056 Wrth gwrs dwisio pres!
(0, 3) 1057 Wnaeth fy nyweddi adael achos oni methu fforddio modrwy iddi.
(0, 3) 1058 Be ffwc sy'n bod efo'r byd 'ma?
(0, 3) 1059 Sbiar ar y lle ma.
(0, 3) 1060 Blydi conserfatori.
(0, 3) 1061 Gardd ar y to.
(0, 3) 1062 |Chandeliers|.
(0, 3) 1063 Dwi'n gweithio fel mul bob dydd a fyddai rioed yn medru fforddio un o'r ornaments hyll |jade| 'na.
(0, 3) 1064 Mae'r teulu yma'n afiach!
(0, 3) 1065 Dani'n gwneud gweithred dda heno.
(0, 3) 1066 Dani'n haeddu gwobr.
(0, 3) 1067 Sbia ar y llun 'na.
 
(0, 3) 1069 Dwi'n haeddu gwyliau fel 'na hefyd dwi'n meddwl.
(0, 3) 1070 Lle ydach chi'n fanna?
(Shujun) Awstralia.
 
(Shujun) Awstralia.
(0, 3) 1072 Awstralia!
(0, 3) 1073 Waw!
(0, 3) 1074 I'r bobl bach, dibwys, |roadkill| fel ni mae Awstralia allan o'n gafael.
(0, 3) 1075 Am lun cynnes.
(0, 3) 1076 Gwen mawr gyn ti.
(0, 3) 1077 Dim heno'n anffodus.
(0, 3) 1078 Meddylia be sa'n digwydd os fase'r teulu yma'n torri fyny.
 
(0, 3) 1080 Rhywun yn y teulu yn cael ei redeg drosodd gan gar?
 
(0, 3) 1082 Neu rhywun yn lladd ei hunan?
 
(0, 3) 1084 Neu mynd i'r carchar?
 
(0, 3) 1086 Neu cael ei ddyrnu i farwolaeth?
 
(0, 3) 1088 Fase'r teulu yn ddarnau bach.
(0, 3) 1089 Ti'n cytuno?
 
(0, 3) 1092 Teulu neis.
(0, 3) 1093 Tad ffeind.
(0, 3) 1094 Dyna ti'n feddwl de?
(0, 3) 1095 Wnaeth tad Dan ddygsu fo i goginio sdi, wnaeth fy nhad i ddysgu fi sut i adeiladu wal yn syth.
(0, 3) 1096 Be am tadau ffeind eraill, sydd ddim yn grand ond sy'n ffraeo pob eiliad o'r dydd am gyfiawnder, am fywyd gwell?
 
(0, 3) 1098 Ti'n gwybod sut ddaru fy nhad i farw?
(0, 3) 1099 Silicosis ar ôl gweithio blynyddoedd yn y chwarel.
(0, 3) 1100 Ysgyfaint ddu, methu anadlu awyr glân, rhy hwyr beth bynnag.
 
(0, 3) 1102 35 oed yn marw.
(0, 3) 1103 Dim ceiniog o iawndal.
(0, 3) 1104 Rheolwyr y chwarel a swyddogion y llywodraeth yn ffrindiau mawr, teuluoedd neis, pobl dda y wlad.
(0, 3) 1105 Dyda ni'r |roadkill| ddim yn haeddu teuluoedd neis na'dan?
(0, 3) 1106 Felly be 'di'r ots os mae un ohona ni yn marw?
(0, 3) 1107 Peidiwch â thrafferthu'r meistriaid efo'u cynlluniau mawr, ardderchog.
(0, 3) 1108 Ai dyna ti'n trio deutha fi?
(Shujun) 'Pan mae anadl ar ôl, mae'n bosib edifarhau y pechodau mawr.'
 
(Shujun) 'Pan mae anadl ar ôl, mae'n bosib edifarhau y pechodau mawr.'
(0, 3) 1110 Dwi'n casàu bobl sy'n defnyddio penillion!
 
(0, 3) 1112 Geiriau mawr yn golygu dim.
(Ping) Fedrai'm diodda hyn.
 
(Shujun) Datglymwch fi.
(0, 3) 1134 Paid ag ymddiried ynddo fo.
(0, 3) 1135 Tric 'dio.
(Ping) Sbia arna fo, dio'm yn |fighting fit| ar ôl be ti di neud iddo fo.
 
(Ping) Sbia arna fo, dio'm yn |fighting fit| ar ôl be ti di neud iddo fo.
(0, 3) 1137 Dani'n delio efo celwyddgi.
(Ping) Mae o ar ein ochr ni.
 
(Ping) Tyd 'laen 'ta.
(0, 3) 1146 Cymera hwn.
 
(0, 3) 1148 A cadwa lygad barcud arna fo.
(0, 3) 1149 Dwi'm yn trystio'r hogyn.
(Ping) Ti'n gwbo be di dy broblem di, Lei.
 
(Shujun) Gwas ffyddlon i'r bobl gyffredin.
(0, 3) 1168 A be am ein cynlluniau ni?
(0, 3) 1169 Be am y cynlluniau oedd gan Hen Liu ar gyfer ei fab?
(Shujun) Be |am| eich cynlluniau chi?
 
(Shujun) Does dim ond un ffordd i wneud sens o hynna.
(0, 3) 1179 Fedri di ddim, sgyn ti'm y gyts.
(Ping) Paid a gwneud rywbeth gwirion.
 
(Ping) Be dani 'di gwneud?
(0, 3) 1190 Mab am fab.
(0, 3) 1191 Karma.