g1g2g3

Lladron a Llanc (2018)

Jingfang Hao [郝景芳]
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2018 郝景芳, Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 1


Golygfa 1. Dau herwr. Mewn dillad du.

Ping

Lei.



Yn gwneud eu ffordd i fyny'r grisiau mewn bloc fflatiau.

Ping

Lei.



Maent yn cyrraedd top y grisiau.

Ping

Lei!

Lei

Be rŵan?

Ping

Witshad eiliad.

Lei

Eto?

Ping

Dwi'n knackered.

Lei

Ar siwrne bach fel hyn?

Ping

Swirne bach? Dani ar y 20ed-rywbeth llawr.

Lei

Dani bron yno.

Ping

Oni'm yn gwbod mai'r llawr ucha' oedd o.

Lei

Penthouse suite ddim yn rhoi cliw i chdi?

Ping

Ddylsa ni 'di cymryd y lifft.

Lei

Mae na gamerâu yn y lifft.

Ping

Fysa ni'm 'di medru malu nhw?

Lei

Mae nhw 'di cysylltu i'r wê, y twpsyn. Cyn ti fedru cyffwrdd ynddyn nhw, mae nhw'n anfon dy lun di i HQ. Lle crand fel hyn? Fydd yr heddlu yma mewn chwinciad. Reit, dani yma! Sbia - dyma'r drws i'r to. Dora gynnig arna fo.



Ping yn eistedd ar y llawr.

Ping

Dwi'n hanner marw. Dora funud i mi ddal yng ngwynt!

Lei

Fedri di ddal dy wynt tra ti'n pigo'r clo. Dio'm yn cymryd fawr o ymdrech.

Ping

Gwna di fo 'ta!



Lei yn edrych drwy twll y clo.

Ping

Mae'n llaw i'n crynu. Sbia. Dwi'n chwysu fel y diawl! Dauddeg saith llawr! Dwi 'rioed 'di bod mor bell fyny a hyn.

Lei

Cachwr! Oni'n arfer cerdded deg milltir bob dydd trwy'r mynyddoedd pan oni'n 'rysgol. Llwybrau peryglus - llawn cerrig a ballu. 'Di hwn ddim byd.



Saib.

Lei

Dwi'n cofio un noson odd'na storm. Noson hollol dywyll. Methu gweld dim. Dwi'n cofio ista ar ochr y llwybr yn y llwyr dywyllwch 'ma. A bob tro odd 'na fellten yn goleuo'r llwybr faswn i'n rhedeg ar ei hyd fel y niwl, tan iddi dywyllu'n sydyn eto. Rhedeg adra mesul mellten. Gymrodd oes i mi gyrradd nôl.

Ping

Odd fy nhŷ i draws y lôn o'r ysgol.

Lei

Dim syndod bod ti'n lwmp fawr dew. Cwbwl odd raid i ti wneud odd rowlio dros y stryd. A ti'n ddigon chiclyd i alw dy hun y Corwynt Bach. Sbia arna ti! Corwynt Bach!

Ping

'Swn i 'di gallu dewis y cymeriad mwya cyflym ond wnes i ddim naddo! Dwi'm yngalw'n hun y Teithiwr Hudol.

Lei

Pwy ffwc 'di'r Teithiwr Hudol? Ping Un o'r cymeriadau yn Herwyr y Morfa. Ti'n obsessed.

Ping

Dai Zong ydi'r Teithiwr Hudol. Y Meistr Dai.

Lei

Reit.

Ping

Mae'n gallu rhedeg 400 cilomedr mewn diwrnod!

Lei

Pwy sa'n ennill mewn ffeit - Corwynt Bach neu'r Teithiwr Hudol?

Ping

Teithiwr Hudol. Heb os nac oni bai. Ond … y Corwynt Bach tisio bod yn ffrindiau efo. Mae o'n cynnal y partis gorau yn y byd a'n gwahodd bobl i giniawa a dathlu a dawnsio, byw bywyd go iawn!

Lei

A be am y cymeriad arall odda ti'n sôn am gynna? Shi — rwbath.

Ping

Shi Qian.

Lei

Ia, fysa fo'n curo y Teithiwr Hudol?

Ping

Nasa, Dai y Teithiwr Hudol 'sa'n ennill eto. Mae gyn y Meistr Dai kung fu gora'n y wlad. A mae'n ardderchog am redeg. Yr unig beth gallith Shi Qian wneud sy'n dda ydi dringo coed a to tai. Mae'n ysgafn a chwim fel llygoden fach. Ti di darllen y bennod amdano fo'n dwyn yr arfwisg aur?

Lei

Ocê, dyna ddigon o frêc dwi'n meddwl.

Ping

O, mae Shi Qian yn anhygoel. Mor ddyfeisgar yn dwyn yr arfwisg, rêl meistrolaeth o'i grefft.

Lei

Ti'n medru meistroli'r clo 'ma ar agor ti'n meddwl?



Yn anfoddog, mae Ping yn edrych ar twll y clo i arolygu'r mecanwaith.

Ping

Fedrai ddim.

Lei

Eh?

Ping

'Rioed 'di pigo math yma o glo.

Lei

Ti'n malu cachu? Oni'n meddwl wnes di ddeud does n'am clo ar y planed fedri di'm agor.

Ping

Do, ag echddoe pan odda ti'm yn siarad efo fi, 'di pwdu'n llwyr, wnes i ddeud bod ti di llyncu mul. Ffor' o siarad.

Lei

Paid a deutha fi bod ni 'di dringo'r holl risiau 'ma am ddim byd! Tria eto!

Ping

Dwi yn trio. Ond os fedrai'm agor o, fedrai'm agor o.

Lei

Am faint odda ti'n brentis saer cloeon?

Ping

Blwyddyn a hanner. Ella 'chydig llai.

Lei

Digon hir.



Ping yn gweithio ar y clo gyda tŵls.

Ping

Ti'n meddwl ddylsa ni fynd mewn?

Lei

Be ti'n feddwl?

Ping

Ti'n siwr bod o ddim i fewn?

Lei

Y, yndw.

Ping

Sut?

Lei

Newyddion. Ti'm 'di gweld y lluniau? Mae o ffwrdd ar fusnes swyddogol yn y brifddinas.

Ping

Be os mae rywun arall fewn?

Lei

Fydd 'na ddim.

Ping

Sut, ga'i ofyn, wyt ti mor sicr?

Lei

Dani 'di gweld o'r tu allan bod y goleuadau i gyd 'di diffodd.

Ping

Be os mae'n galw'r heddlu pan mae'n cyrraedd yn ôl? Fydden nhw'n ffindio ni a cymryd ni lawr i'r stasion a pwy a wyr be' ddigwyddith.

Lei

Faint o weithiau 'dwi gorfod deutha ti? Dio'm yn ffŵl. Does na'm gobaith chwanen y fydd o'n galw'r heddlu. Meddylia am y peth - os fase ti'n lywodraethwr, a ma gyn ti gesyn llawn arian yn dy dŷ, a ti'n colli o, faset ti'n mynd i'r heddlu?

Ping

Ella.

Lei

Wrth gwrs faset ti ddim! Achos wedyn ma angen i ti egluro lle ddoth yr arian, pam dio'm yn y banc. Os mae o'n cymryd backhanders, dio'm am redeg i grio i'r heddlu na'di.

Ping

Na' di, debyg. Pan dani'n gadael efo'r pres, be os mae'r heddlu'n stopio ni ar y stryd? Sut ar y ddaear wnawn ni egluro'r peth? Fydda ni'n fucked.

Lei

Stop. Stopia hyn rŵan, y cachwr.

Ping

Just deud ydw i. Mae'n beryglus.

Lei

Wyt ti di anghofio be ddudis di ddoe? Ti di anghofio y ffordd wnaeth Hen Liu druan grio pan welodd o gorff llipa ei fab? Ti wedi llwyr anghofio, do, y ffordd wnes di roi dy law ar frest Dan Bach a tyngu llw am ddialedd?

Ping

Naddo.

Lei

'Na fo 'ta.



Ping yn rhoi ei sylw ar y clo. Mae'n clicio. Ping yn troi y bwlyn drws. Mae'r drws yn agor.

Lei

O'r diwedd.

Ping

Haws nag oedd o'n edrych.



Lei yn cerdded trwy'r drws agored. Mae'n edrych yn ôl at Ping.

Lei

Ti'n dwad?

Ping

Dwi'm yn siwr.

Lei

Iesgob annwyl! Dani bron yno!

Ping

Be fysa 'nhad yn deud? Pan adawis i adre a dod i'r ddinas, wnaeth o ddeud wrtha i: 'Mab, f'unig fab, fedri di wneud beth fyd bynnag tisio yn y ddinas fowr 'na. Ond paid byth, erioed a dwyn.'

Lei

Dyda ni'm yn dwyn. Dani'n cymryd o'r cyfoethog a rhoi i'r tlawd.

Ping

Dwyn.

Lei

Dwyn nath o. Ennillion llygredig! Di'r arian yma ddim yn pia iddo fo. Does gynna fo ddim hawl i gadw o.

Ping

Dio'm yn pia i ni chwaith.

Lei

Dim i ni 'da ni'n ei gymryd o, Ping.

Ping

Dwi'n gwbo' hynna.

Lei

Mi yrrodd y bastun barus yma syth mewn i Dan Bach a wantho'm poeni dim. Dio'm yn ddyletswydd iddo dalu rywfaint i'r teulu? Na, 'di arian ddim bydd iddo fo. Ddylsa fo farw am y fath beth. Mae'n haeddu bwled yn ei ben. Cymryd ei arian poced yda ni i roi i deulu Dan.

Ping

Dwi'n gwbo' hyn i gyd, ond …

Lei

Be ffwc sy'n bod efo ti? 'Da ni chydig o gamau ffwrdd o ffortiwn a ti'n cael ail feddyliau?

Ping

Shh, bydd ddistaw!

Lei

Allai'm diodda bobl fel ti. Petruso dros yr holl bethau bach, ti'n rêl llipryn. Llawn esgusodion. Gwranda, os ti rhy ofn, dos o'n ngolwg i. Wnai'r peth fy hun.

Ping

Addo i fi.

Lei

Be?

Ping

Addo wnawn ni'm cymryd mwy na' 'da ni angen.



Saib.

Lei

Dani'n gwastraffu amser.

Ping

Lei.

Lei

Ocê. Ocê. Dwi'n gaddo. Iawn?



Ping yn ysgwyd ei ben.

Lei

Ty'd 'laen, Corwynt Bach. G'ad i ni ddangos be 'di be i'r cont 'ma.



Lei yn mynd drwy'r drws. Ping yn dilyn.

g1g2g3