Lladron a Llanc

Ciw-restr ar gyfer Ping

 
(0, 1) 4 Lei.
 
(0, 1) 6 Lei.
 
(0, 1) 8 Lei!
(Lei) Be rŵan?
 
(Lei) Be rŵan?
(0, 1) 10 Witshad eiliad.
(Lei) Eto?
 
(Lei) Eto?
(0, 1) 12 Dwi'n |knackered|.
(Lei) Ar siwrne bach fel hyn?
 
(Lei) Ar siwrne bach fel hyn?
(0, 1) 14 Swirne bach?
(0, 1) 15 Dani ar y 20ed-rywbeth llawr.
(Lei) Dani bron yno.
 
(Lei) Dani bron yno.
(0, 1) 17 Oni'm yn gwbod mai'r llawr ucha' oedd o.
(Lei) Penthouse suite ddim yn rhoi cliw i chdi?
 
(Lei) Penthouse suite ddim yn rhoi cliw i chdi?
(0, 1) 19 Ddylsa ni 'di cymryd y lifft.
(Lei) Mae na gamerâu yn y lifft.
 
(Lei) Mae na gamerâu yn y lifft.
(0, 1) 21 Fysa ni'm 'di medru malu nhw?
(Lei) Mae nhw 'di cysylltu i'r wê, y twpsyn.
 
(Lei) Dora gynnig arna fo.
(0, 1) 30 Dwi'n hanner marw.
(0, 1) 31 Dora funud i mi ddal yng ngwynt!
(Lei) Fedri di ddal dy wynt tra ti'n pigo'r clo.
 
(Lei) Dio'm yn cymryd fawr o ymdrech.
(0, 1) 34 Gwna di fo 'ta!
 
(0, 1) 36 Mae'n llaw i'n crynu.
(0, 1) 37 Sbia.
(0, 1) 38 Dwi'n chwysu fel y diawl!
(0, 1) 39 Dauddeg saith llawr!
(0, 1) 40 Dwi 'rioed 'di bod mor bell fyny a hyn.
(Lei) Cachwr!
 
(Lei) Gymrodd oes i mi gyrradd nôl.
(0, 1) 53 Odd fy nhŷ i draws y lôn o'r ysgol.
(Lei) Dim syndod bod ti'n lwmp fawr dew.
 
(Lei) |Corwynt Bach|!
(0, 1) 59 'Swn i 'di gallu dewis y cymeriad mwya cyflym ond wnes i ddim naddo!
(0, 1) 60 Dwi'm yngalw'n hun y |Teithiwr Hudol|.
(Lei) Pwy ffwc 'di'r |Teithiwr Hudol|?
 
(Lei) Ti'n |obsessed|.
(0, 1) 64 Dai Zong ydi'r |Teithiwr Hudol|.
(0, 1) 65 Y Meistr Dai.
(Lei) Reit.
 
(Lei) Reit.
(0, 1) 67 Mae'n gallu rhedeg 400 cilomedr mewn diwrnod!
(Lei) Pwy sa'n ennill mewn ffeit - |Corwynt Bach| neu'r |Teithiwr Hudol|?
 
(Lei) Pwy sa'n ennill mewn ffeit - |Corwynt Bach| neu'r |Teithiwr Hudol|?
(0, 1) 69 |Teithiwr Hudol|.
(0, 1) 70 Heb os nac oni bai.
(0, 1) 71 Ond … y |Corwynt Bach| tisio bod yn ffrindiau efo.
(0, 1) 72 Mae o'n cynnal y partis gorau yn y byd a'n gwahodd bobl i giniawa a dathlu a dawnsio,
(0, 1) 73 byw bywyd go iawn!
(Lei) A be am y cymeriad arall odda ti'n sôn am gynna?
 
(Lei) Shi — rwbath.
(0, 1) 76 Shi Qian.
(Lei) Ia, fysa fo'n curo y |Teithiwr Hudol|?
 
(Lei) Ia, fysa fo'n curo y |Teithiwr Hudol|?
(0, 1) 78 Nasa, Dai y |Teithiwr Hudol| 'sa'n ennill eto.
(0, 1) 79 Mae gyn y Meistr Dai kung fu gora'n y wlad.
(0, 1) 80 A mae'n ardderchog am redeg.
(0, 1) 81 Yr unig beth gallith Shi Qian wneud sy'n dda ydi dringo coed a to tai.
(0, 1) 82 Mae'n ysgafn a chwim fel llygoden fach.
(0, 1) 83 Ti di darllen y bennod amdano fo'n dwyn yr arfwisg aur?
(Lei) Ocê, dyna ddigon o frêc dwi'n meddwl.
 
(Lei) Ocê, dyna ddigon o frêc dwi'n meddwl.
(0, 1) 85 O, mae Shi Qian yn anhygoel.
(0, 1) 86 Mor ddyfeisgar yn dwyn yr arfwisg, rêl meistrolaeth o'i grefft.
(Lei) Ti'n medru meistroli'r clo 'ma ar agor ti'n meddwl?
 
(Lei) Ti'n medru meistroli'r clo 'ma ar agor ti'n meddwl?
(0, 1) 89 Fedrai ddim.
(Lei) Eh?
 
(Lei) Eh?
(0, 1) 91 'Rioed 'di pigo math yma o glo.
(Lei) Ti'n malu cachu?
 
(Lei) Oni'n meddwl wnes di ddeud does n'am clo ar y planed fedri di'm agor.
(0, 1) 94 Do, ag echddoe pan odda ti'm yn siarad efo fi, 'di pwdu'n llwyr, wnes i ddeud bod ti
(0, 1) 95 di llyncu mul.
(0, 1) 96 Ffor' o siarad.
(Lei) Paid a deutha fi bod ni 'di dringo'r holl risiau 'ma am ddim byd!
 
(Lei) Tria eto!
(0, 1) 99 Dwi yn trio.
(0, 1) 100 Ond os fedrai'm agor o, fedrai'm agor o.
(Lei) Am faint odda ti'n brentis saer cloeon?
 
(Lei) Am faint odda ti'n brentis saer cloeon?
(0, 1) 102 Blwyddyn a hanner.
(0, 1) 103 Ella 'chydig llai.
(Lei) Digon hir.
 
(Lei) Digon hir.
(0, 1) 106 Ti'n meddwl |ddylsa| ni fynd mewn?
(Lei) Be ti'n feddwl?
 
(Lei) Be ti'n feddwl?
(0, 1) 108 Ti'n siwr bod o ddim i fewn?
(Lei) Y, yndw.
 
(Lei) Y, yndw.
(0, 1) 110 Sut?
(Lei) Newyddion.
 
(Lei) Mae o ffwrdd ar fusnes swyddogol yn y brifddinas.
(0, 1) 114 Be os mae rywun arall fewn?
(Lei) Fydd 'na ddim.
 
(Lei) Fydd 'na ddim.
(0, 1) 116 Sut, ga'i ofyn, wyt ti mor sicr?
(Lei) Dani 'di gweld o'r tu allan bod y goleuadau i gyd 'di diffodd.
 
(Lei) Dani 'di gweld o'r tu allan bod y goleuadau i gyd 'di diffodd.
(0, 1) 118 Be os mae'n galw'r heddlu pan mae'n cyrraedd yn ôl?
(0, 1) 119 Fydden nhw'n ffindio ni a cymryd ni lawr i'r stasion a pwy a wyr be' ddigwyddith.
(Lei) Faint o weithiau 'dwi gorfod deutha ti?
 
(Lei) Meddylia am y peth - os fase ti'n lywodraethwr, a ma gyn ti gesyn llawn arian yn dy dŷ, a ti'n colli o, faset ti'n mynd i'r heddlu?
(0, 1) 124 Ella.
(Lei) Wrth gwrs faset ti ddim!
 
(Lei) Os mae o'n cymryd |backhanders|, dio'm am redeg i grio i'r heddlu na'di.
(0, 1) 128 Na' di, debyg.
(0, 1) 129 Pan dani'n gadael efo'r pres, be os mae'r heddlu'n stopio ni ar y stryd?
(0, 1) 130 Sut ar y ddaear wnawn ni egluro'r peth?
(0, 1) 131 Fydda ni'n |fucked|.
(Lei) Stop.
 
(Lei) Stopia hyn rŵan, y cachwr.
(0, 1) 134 Just deud ydw i.
(0, 1) 135 Mae'n beryglus.
(Lei) Wyt ti di anghofio be ddudis di ddoe?
 
(Lei) Ti wedi llwyr anghofio, do, y ffordd wnes di roi dy law ar frest Dan Bach a tyngu llw am ddialedd?
(0, 1) 139 Naddo.
(Lei) 'Na fo 'ta.
 
(Lei) O'r diwedd.
(0, 1) 146 Haws nag oedd o'n edrych.
(Lei) Ti'n dwad?
 
(Lei) Ti'n dwad?
(0, 1) 150 Dwi'm yn siwr.
(Lei) Iesgob annwyl!
 
(Lei) Dani bron yno!
(0, 1) 153 Be fysa 'nhad yn deud?
(0, 1) 154 Pan adawis i adre a dod i'r ddinas, wnaeth o ddeud wrtha i:
(0, 1) 155 'Mab, f'unig fab, fedri di wneud beth fyd bynnag tisio yn y ddinas fowr 'na.
(0, 1) 156 Ond paid byth, erioed a dwyn.'
(Lei) Dyda ni'm yn dwyn.
 
(Lei) Dani'n cymryd o'r cyfoethog a rhoi i'r tlawd.
(0, 1) 159 Dwyn.
(Lei) Dwyn nath o.
 
(Lei) Does gynna fo ddim hawl i gadw o.
(0, 1) 164 Dio'm yn pia i ni chwaith.
(Lei) Dim i ni 'da ni'n ei gymryd o, Ping.
 
(Lei) Dim i ni 'da ni'n ei gymryd o, Ping.
(0, 1) 166 Dwi'n gwbo' hynna.
(Lei) Mi yrrodd y bastun barus yma syth mewn i Dan Bach a wantho'm poeni dim.
 
(Lei) Cymryd ei arian poced yda ni i roi i deulu Dan.
(0, 1) 173 Dwi'n gwbo' hyn i gyd, ond …
(Lei) Be ffwc sy'n bod efo ti?
 
(Lei) 'Da ni chydig o gamau ffwrdd o ffortiwn a ti'n cael ail feddyliau?
(0, 1) 176 Shh, bydd ddistaw!
(Lei) Allai'm diodda bobl fel ti.
 
(Lei) Wnai'r peth fy hun.
(0, 1) 182 Addo i fi.
(Lei) Be?
 
(Lei) Be?
(0, 1) 184 Addo wnawn ni'm cymryd mwy na' 'da ni angen.
(Lei) Dani'n gwastraffu amser.
 
(Lei) Dani'n gwastraffu amser.
(0, 1) 187 Lei.
(Lei) Ocê.
 
(Lei) |Shit|!
(0, 2) 202 Be?
(Lei) Ma rywun yma.
 
(Lei) Ma rywun yma.
(0, 2) 204 Pwy?
(Lei) Dwn 'im!
 
(Lei) Bachgen o ryw fath.
(0, 2) 208 Be wnawn ni?
(Lei) Ga'd mi feddwl am eiliad.
 
(Lei) Ga'd mi feddwl am eiliad.
(0, 2) 210 Be am i ni guddiad yma ag aros i weld os mae'n gadael.
(Lei) Cau hi!
 
(Lei) Cau hi!
(0, 2) 212 Neu fedra ni snecio heibio fel y |Teithiwr Hudol|.
(Lei) Dyna'r ffenest.
 
(Lei) Dyna'r ffenest.
(0, 2) 216 Lle?
(Lei) Ochr arall i'r ffŵl 'ma.
 
(Lei) Ochr arall i'r ffŵl 'ma.
(0, 2) 218 Blydi briliant.
(Lei) Faint gymrith i ti bigo'r clo yna?
 
(Lei) Faint gymrith i ti bigo'r clo yna?
(0, 2) 220 Mae'n dibynnu.
(Lei) Achos gymrith yr un dwytha blydi oes mul.
 
(Lei) Achos gymrith yr un dwytha blydi oes mul.
(0, 2) 222 Dio'm yn bosib rhuthro'r pethe 'ma.
(Lei) Wnai distractio fo, tra ti'n pigo'r clo.
 
(Lei) Wnai distractio fo, tra ti'n pigo'r clo.
(0, 2) 224 Be, ti ffansi sgwrs bach efo fo?
(Lei) Sut arall?
 
(Lei) Sut arall?
(0, 2) 226 A wedyn fydd o'n gweld ein gwynebau ni a mynd i'r heddlu.
(Lei) Cau dy drap am y blydi heddlu!
 
(Lei) Gweld be' mae'n da 'ma.
(0, 2) 230 Ocê.
(0, 2) 231 Merched gynta.
(Lei) Iawn boi?
 
(Lei) Iawn boi?
(0, 2) 236 Noswaith hyfryd.
(Lei) Ga'd y siarad i mi.
 
(Lei) Felly, os ti'm yn meindio, dwi'n meddwl bod o'n amser i ti fynd adre.
(0, 2) 245 Fydd dy deulu yn poeni amdana ti.
(Lei) Dio'm yn sâff fyny famma.
 
(Shujun) Wel diolch am eich consyrn, ond dwi'n fine.
(0, 2) 263 Jyst yn gwneud ein job.
(Shujun) Cariwch ymlaen.
 
(Shujun) Dwi'm yn stopio chi.
(0, 2) 268 Be ti'n yfed?
 
(0, 2) 270 Fawr o hwyl yfed ar ben dy hun.
(Shujun) Tisio peth?
 
(Shujun) Tisio peth?
(0, 2) 272 Na, diolch.
 
(0, 2) 275 Ti'n gwbo' be dwi'n feddwl?
(0, 2) 276 Dwi'n meddwl na fedr person sy'n yfed ar ben ei hun fod yn berson hapus.
(Shujun) Ydi hynna'n ffaith?
 
(Shujun) Ydi hynna'n ffaith?
(0, 2) 278 Dwi'n meddwl bod person sy'n yfed fel'na yn yfed tristwch.
(Shujun) Diddorol iawn.
 
(Shujun) Diddorol iawn.
(0, 2) 280 Ond mae 'na un peth fedrai'm dalld.
(Shujun) A be 'di hynna?
 
(Shujun) A be 'di hynna?
(0, 2) 282 Pam ar y ddaear mae bachgen ifanc fel ti yn drist?
(0, 2) 283 Eh?
(0, 2) 284 Sbia ar lle ti'n byw.
(0, 2) 285 Ti'n hogyn digon golygus.
(0, 2) 286 Ma' siwr bod gyn ti ffrindiau.
(Shujun) Di'r pethau yna'n golygu dim.
 
(Shujun) Di'r pethau yna'n golygu dim.
(0, 2) 288 Fedra di roi nhw i fi felly.
(0, 2) 289 Os 'swn i'n ti, 'swni'n dathlu efo'r botel fodca 'na, yn lle pwdu.
(Shujun) 'Sgyn ti'm clem.
 
(Shujun) 'Sgyn ti'm clem.
(0, 2) 292 Eglura i mi 'ta.
(0, 2) 293 Be sy'n bod?
(0, 2) 294 Ffeit efo dy gariad?
(0, 2) 295 Di hi'm yn ffansio ti bellach?
(0, 2) 296 Ti'n gwbo' be ddylsa ti neud?
(0, 2) 297 Dos i dy wely am dridiau, binge-ia ar Netflix, a cria mewn i dy glustog.
(0, 2) 298 Ma puncho'r clustog yn help weithiau hefyd.
(0, 2) 299 Gwely am dridiau, Netflix, puncho clustog.
(0, 2) 300 Trystia fi.
(Shujun) Dwi heb gael ffeit efo nghariad.
 
(Shujun) Sgynnai'm cariad.
(0, 2) 303 A!
(0, 2) 304 Dyna di'r broblem felly.
(Shujun) Naci.
 
(Lei) 'Dani'n trio bod yn gyfeillgar.
(0, 2) 311 Warth i ti ddeutha ni.
(0, 2) 312 Sgynna ni'm clem pwy wyt ti, dani'm yn mynd i ddeutha dy ffrindiau.
(0, 2) 313 A ti byth yn gwbo', ella fydd o'n bosib i ni helpio chdi.
(0, 2) 314 Rhoi cyngor i rywun mewn cyfyng gyngor.
(Lei) Be ti'n trio - cynghanedd?
 
(Shujun) Oes rywun erioed 'di dy siomi?
(0, 2) 318 Ein bos.
(0, 2) 319 Wnaeth o addo |pay rise| i ni flwyddyn diwethaf.
(0, 2) 320 'Da ni dal i ddisgwyl.
(Shujun) Dim fel'na.
 
(Shujun) Oes na rywun ti'n rili edmygu, a wedyn ti'n darganfod bod nhw da i ddim?
(0, 2) 323 Um... dwi'n trio meddwl... oes.
(0, 2) 324 Oedd 'na ferch yn ysgol bach, yn eistedd ar y run un desg a fi.
(0, 2) 325 Odd hi'n gret.
(0, 2) 326 Clyfar.
(0, 2) 327 Hardd.
(Shujun) Be wnaeth hi?
 
(Shujun) Be wnaeth hi?
(0, 2) 329 Un diwrnod, wnaeth yr athrawes adael y stafell ddosbarth, oni'n chwarae'n wirion efo
(0, 2) 330 rywun ar y ddesg gyferbyn.
(0, 2) 331 Pawb yn wneud run peth, pawb yn siarad pan odda ni fod yn astudio mewn distawrwydd - yn cynnwys y ferch 'ma ar y run desg a fi.
(0, 2) 332 Pan ddoth Miss yn ôl mi ofynnodd pwy dorrodd y rheolau?
(0, 2) 333 Mi gododd y ferch 'ma ei llaw.
(0, 2) 334 'Plis Miss, mi oedd o'n torri'r rheolau'.
(0, 2) 335 Dobio fi fewn.
(0, 2) 336 Torri 'nghalon.
(Shujun) Be oedd y gosb?
 
(Shujun) Be oedd y gosb?
(0, 2) 339 Rhedeg 3 lap o'r trac traws gwlad, trwy'r blydi slwj, wedyn odd raid i mi helpu'r
(0, 2) 340 adeiladwyr gario brics trwy'r pnawn.
(Shujun) Be wnes di iddi, yr hogan?
 
(Shujun) Be wnes di iddi, yr hogan?
(0, 2) 342 Be ti'n feddwl?
(Shujun) I dalu hi'n nôl.
 
(Shujun) I dalu hi'n nôl.
(0, 2) 344 Dim byd.
(0, 2) 345 Be fedrwn i wneud?
(0, 2) 346 Hogan fach odd hi, hogan delia'n byd.
 
(0, 2) 348 Pwy sy'n creu dy broblem di?
(Shujun) Rywun ddylsa wybod yn well.
 
(Shujun) Rywun ddylsa wybod yn well.
(0, 2) 350 Dachi'n agos?
(Shujun) Agos iawn.
 
(Shujun) Neu, mi odda ni.
(0, 2) 353 Odd y person 'ma'n gas efo ti?
(Shujun) Dim efo fi.
 
(Shujun) mewn ffyrdd cyfiawn.
(0, 2) 395 Um, ga'i just ddeud, sgynnai'm clem be ti'n sôn am.
(Shujun) Wrth gwrs bod gyn ti.
 
(Shujun) Wnaeth ei ddyweddi adael o am ddyn mwy cyfoethog reit?
(0, 2) 398 Reit.
(Shujun) Achos roedd hi'n dymuno bywoliaeth mwy cyfforddus.
 
(Shujun) Ddaru dy ffrind yn 'rysgol reportio ti i'r athrawes achos oedd hi isio—be?
(0, 2) 402 Dwn i'm.
(Shujun) Isio'r athrawes licio hi.
 
(Shujun) Roedd hi'n dymuno ei sylw.
(0, 2) 405 Ella.
(Shujun) Dydi pawb ddim isio pres.
 
(Shujun) Cogia bod gyn ti gariad sy'n artist, iawn?
(0, 2) 423 Ydi dy gariad di'n artist?
(Shujun) Cogia bod gyn ti gariad sy'n artist.
 
(Shujun) Cogia bod gyn ti gariad sy'n artist.
(0, 2) 425 Sgynnai ddim though.
(Shujun) Cogio, ddudis i.
 
(Shujun) Cwestiwn damcaniaethol ydi hwn, iawn?
(0, 2) 428 Dam can - be?
(0, 2) 429 Dam can |thank you mam|!
(0, 2) 430 Ocê.
(0, 2) 431 Cogio, cogio.
(0, 2) 432 Sori.
(0, 2) 433 Dos yn dy flaen.
(Shujun) Cau dy lygaid.
 
(Shujun) Dychymga bod gyn ti gariad.
(0, 2) 436 Dwi'n dychmygu!
(Shujun) A dychmyga bod hi'n actores.
 
(Shujun) A dychmyga bod hi'n actores.
(0, 2) 438 Ie.
(0, 2) 439 Dwi'n gallu gweld hi rŵan.
(Shujun) A dychmyga bod hi'n hynod dalentog a bod hi'n gweithio'n galetach na neb.
 
(Shujun) A dychmyga bod hi'n hynod dalentog a bod hi'n gweithio'n galetach na neb.
(0, 2) 441 Wrth gwrs.
(Shujun) Ond dydi hi ddim isio enwogrwydd neu unrhyw fath o ffortiwn.
 
(Shujun) Ond dydi hi ddim isio enwogrwydd neu unrhyw fath o ffortiwn.
(0, 2) 443 'Di ddim?
(Shujun) Na.
 
(Shujun) Cwbwl ma'i isio ydi bobl i werthfawrogi ei gwaith.
(0, 2) 446 Reit.
(Shujun) Ond 'di ddim yn medru ffindio gwaith.
 
(Shujun) Ond does neb yn ei chastio hi achos does neb yn sylweddoli faint mor dalentog ydi hi.
(0, 2) 450 Dydyn nhw'm yn gwbo be mae nhw'n golli.
(Shujun) Cwbwl ma'i angen ydi un brêc.
 
(Lei) Shagio'r cyfarwyddwr.
(0, 2) 458 Na!
(Lei) Mae pawb arall yn gwneud o.
 
(Shujun) Fysa ti'm iso'r cyfan ddod i ben?
(0, 2) 480 Dio'm werth o mêt.
(0, 2) 481 Coelia fi.
(0, 2) 482 Dos i dy wely ar ôl byta llond oergell o fwyd, a cysga am dridiau.
(0, 2) 483 Fyddi di 'di anghofio'r cwbwl lot.
(Shujun) Dwi'n meddwl os mae rhywun yn gadael chi lawr fel'na, does 'na'm point byw.
 
(Lei) Chwinc yn ei ben!
(0, 2) 494 Go iawn rŵan — bwyd, gwely, anghofio.
(Shujun) Ond be os tisio anfon neges?
 
(Lei) Ddaru hi fyw, ond o'dd o'n ufflon o noson.
(0, 2) 511 Be ddigwyddodd wedyn?
(Lei) Dodd 'na'm 'wedyn'.
 
(Lei) Pwy 'sa'n priodi merch fel'na?
(0, 2) 514 'Di'n iawn rŵan?
(Lei) {codi ei ysgwyddau} Heb siarad efo hi.
 
(Shujun) Fysat ti'n marw er mwyn amddiffyn rywun ti'n caru?
(0, 2) 539 Er enghraifft?
(Shujun) I helpu dy deulu allan o broblemau ariannol.
 
(Shujun) Neu i achub ffrind.
(0, 2) 542 Eto, sut mae lladd eich hun yn helpu?
(Shujun) Wel be os wyt ti'n credu mewn karma.
 
(Shujun) Felly ti'n cymryd dy fywyd er mwyn atal cosbedigaeth i rywun ti'n garu.
(0, 2) 547 Fedrai weld pam ti'n yfed ar ben dy hun, os mai dyma di'r math o banter ti'n roi allan
(0, 2) 548 yn y pub.
 
(0, 2) 550 'Ti bach yn ifanc i'r holl ofid a gwae 'ma dwyt?
(Lei) Mae'n hwyr.
 
(Shujun) Be os fedri di'm dioddef byw cam ymhellach achos bod y byd yn fucked up.
(0, 2) 556 Os mae'r byd yn fucked up, dyna reswm da i fyw!
(0, 2) 557 I wneud pethe'n well.
(0, 2) 558 I roi pethe yn ei le.
(Shujun) Dwn im.
 
(Shujun) Fel lleidr penffordd, herwr o hogyn.
(0, 2) 564 Finna 'fyd!
(Shujun) Ti'n gweld y byd fel lle creulon?
 
(Shujun) Ti'n gweld y byd fel lle creulon?
(0, 2) 566 Wrth gwrs.
(0, 2) 567 Sbia o gwmpas, cym' famma.
(0, 2) 568 Dani'n gweithio i'r bôn i adeiladu rhain, ond
(0, 2) 569 yn y diwedd, fedra ni'm eu cyffwrdd.
(Lei) Fyswn i'm yn gadael ti'n agos i le fel hyn!
 
(Lei) Fyswn i'm yn gadael ti'n agos i le fel hyn!
(0, 2) 571 Fyswn i'm yn gadael tithau chwaith!
(Lei) Ond ma hynna'n wir.
 
(Shujun) Does 'na'm tâl da i gael am waith caled yn y byd yma.
(0, 2) 577 Gwaith caled sy'n cael ei dalu lleiaf.
(Lei) Bod yn ddigywilydd ydi'r swydd gorau.
 
(Shujun) Hyd nod yn fy mhrifysgol, adeg etholiad llywydd undeb y myfyrwyr, mae pawb yn defnyddio perthnasoedd a presantau i brynu pleidleisiau.
(0, 2) 583 Mae o fel'na ym mhob man.
(0, 2) 584 Echddoe roedd Yang yn deud, fy mos, bod y siawns o gael contract prosiect yn dibynnu yn llwyr ar swyddogion uchel.
(0, 2) 585 Os dydi Yang ddim yn chwarae eu gêm, fydd o allan yn y rownd gyntaf.
(Lei) Dros ben llestri dydi.
 
(Shujun) Pan oeddwn i'n fach, oni'n gobeithio dysgu Kung-Fu i helpu'r gwan a'r tlawd, a gwaredu'r byd o anghyfiawnder.
(0, 2) 596 Finna' 'fyd!
(Shujun) Wedyn oeddwn i isio bod yn fardd.
 
(Shujun) Plygu mhen fel ychen fodlon, dwi'n gwasanaethu'r plant."
(0, 2) 601 Da rŵan.
(Shujun) Roedd fy nhad yn arfer dweud mai'r peth mwya gwirion ydi gwario amser efo boblgyda diddordebau main, a hefyd bod angen bod bob amser yn ddyfal - mae camgymeriadaubach yn gallu difetha bywyd.
 
(Shujun) 'Os na fedr person waredu syniadau sy'n llenwi'r meddwl a'i feichio'n barhaus, mi fydd o'n rwymedig â grymoedd cyferbyniol.'
(0, 2) 607 Dwi'n cytuno.
(0, 2) 608 Ond b'un ofalus, nei di.
(0, 2) 609 Mae'n wyntog fyny famma.
(Shujun) Sut allith o fod yn gymaint o hypocrite?
 
(Shujun) Sut allith o fod yn gymaint o hypocrite?
(0, 2) 612 Tyd o'r ymyl.
(0, 2) 613 Ti 'di meddwi.
(0, 2) 614 Dio'm yn sâff.
(Shujun) Sut fedra i orfodi fo i weld ei gam?
 
(Shujun) Dwi'n casau'r … |bullshit| 'ma!
(0, 2) 622 Hei!
(Shujun) Chwilio a chwilio a methu ffindio prawf bywyd
 
(Shujun) yn anadlu yn rhydd awyr y môr.
(0, 2) 631 Mae'r cân yna'n |classic|!
 
(0, 2) 634 Deudodd be di'r ots am y clwyf bach hwn yn y storm
(0, 2) 635 Dagrau ond dim ofn, o leiaf mae gynnon freuddwydiau
(0, 2) 636 Deudodd be di'r ots am y clwyf bach hwn yn y storm
(Lei) Hei.
 
(Lei) Odda ti'n bwriadu gwneud hynna?
(0, 2) 645 Be?
(Lei) Anfon o i'w drwmgwsg.
 
(Lei) Anfon o i'w drwmgwsg.
(0, 2) 648 Wel, mae'n amlwg bod pŵer hudol yn fy llais.
(0, 2) 649 Ella dyna'n alwedigaeth, gyrfa newydd i mi.
(Lei) Gyrfa fel paldareiwr.
 
(Lei) Gyrfa fel paldareiwr.
(0, 2) 651 Byd-enwog.
(Lei) Ti di meddwi?
 
(Lei) Ti di meddwi?
(0, 2) 653 Dwi braidd yn chwil.
(Lei) Finna' 'fyd.
 
(Lei) Reit, tyd 'laen.
(0, 2) 657 Be am |sleeping beauty|?
(Lei) Gad o yna.
 
(Lei) Fydda ni di hen adael cyn iddo ddeffro.
(0, 2) 660 Ti'n meddwl odd o am neidio go iawn?
(Lei) Na.
 
(Lei) Mi ddeutha i ti hyn, fydd gynno fo goblyn o gur pen yn bora.
(0, 2) 666 Bechod drosta fo.
(Lei) Awê!
 
(Lei) Lle mae'r blydi gola?
(0, 3) 673 Waw.
(0, 3) 674 Sbia ar y lle 'ma.
(0, 3) 675 Mae'n anferthol!
(Lei) Gwneud fi'n sâl.
 
(Lei) Gwneud fi'n sâl.
(0, 3) 677 Be ti'n ddeud?
(0, 3) 678 30 medr sgwâr?
(Lei) O leia.
 
(Lei) A dim ond y stafell gynta' 'di hwn.
(0, 3) 681 Iesgob.
(0, 3) 682 Sbia ar yr holl betha' 'ma.
(Lei) Hei, dani'n edrych am y pres.
 
(Lei) Hei, dani'n edrych am y pres.
(0, 3) 685 Be ti'n meddwl 'di hwn?
(Lei) Ceffyl.
 
(Lei) Ceffyl.
(0, 3) 687 Mae'r lliw'n anhygoel.
(0, 3) 688 |Emerald| ella.
(Lei) |Jade|.
 
(Lei) |Jade|.
(0, 3) 690 Sut ti'n gwbo?
(Lei) |Emerald| yn fwy golau.
 
(Lei) 'Run lliw.
(0, 3) 694 Mae'n |amazing|.
(Lei) Llygaid ar y pres.
 
(Lei) Llygaid ar y pres.
(0, 3) 697 Dwi'n edrych, dwi'n edrych.
(Lei) Wel ti'n gwneud job wael iawn hyd yn hyn.
 
(Lei) Wel ti'n gwneud job wael iawn hyd yn hyn.
(0, 3) 700 Faint 'da ni'n edrych am?
(Lei) Un neu ddau filiwn.
 
(Lei) Un neu ddau filiwn.
(0, 3) 702 Mewn |cash|?
(0, 3) 703 Toman anferthol felly.
(Lei) Ie, a dau ddyn anferthol hefyd i'w gario fyny.
 
(Lei) Ie, a dau ddyn anferthol hefyd i'w gario fyny.
(0, 3) 705 Pwy ddudodd hynna i ti?
(Lei) Nghefnder i.
 
(Lei) Mi welodd o'r dynion mawr ma yn cario'r cesys mewn i'r lifft heb ddeud gair, yng ngolau dydd.
(0, 3) 709 Wel fydd o'n hawdd i ffindio felly bydd.
(0, 3) 710 Alli di'm stwffio hynna gyd dan fatràs!
(Lei) Dwi'n cadw ti fyny?
 
(Lei) Dwi'n cadw ti fyny?
(0, 3) 714 Sori.
(0, 3) 715 Y fodca 'na'n gwneud fi'n gysglyd.
(Lei) Finna' 'fyd.
 
(Lei) Cyn gynted dani'n ffindio'r cash cyn gynted gawn i gysgu.
(0, 3) 719 Lei, ti'n siwr bod gyn ti'r un iawn?
(Lei) Yndw tad.
 
(Lei) Coelia fi, hwn di'r fflat iawn.
(0, 3) 724 Na, y person iawn.
(0, 3) 725 Ti'n siwr na fo darrodd Dan Bach?
(Lei) Weles di'r fideo do?
 
(Lei) Natho'm cyffwrdd y brêcs.
(0, 3) 730 Wnes i'm gweld o!
(0, 3) 731 Odd o mond ar-lein am ddwy awr.
(0, 3) 732 Wnes i redeg i'r caff wê i weld be odd yr holl ffws.
(0, 3) 733 Erbyn fi gyrradd, odd y fideo lawr.
(0, 3) 734 Fedra di'm agor y lincs rŵan.
(Lei) Wel welis i.
 
(Lei) Numberplate, gwyneb, popeth fo oedd o.
(0, 3) 739 Anifail de.
(0, 3) 740 Pwy ddyn go iawn sa'n gwneud hynna?
(0, 3) 741 A mae mor ffeind ar y teledu dydi, un o'r bobl gyffredin - ond sbia ar famma.
(Lei) Dyna lle mae'r dywediad yn dod o: 'nabod ei wyneb, ddim run fath a nabod ei galon'.
 
(Lei) Dyna lle mae'r dywediad yn dod o: 'nabod ei wyneb, ddim run fath a nabod ei galon'.
(0, 3) 744 Wel fedrai'm gweld y pres de.
(Lei) Tria drws nesa.
 
(0, 3) 752 Sbia ar hwn!
(Lei) Paid a gwaeddi, naci!
 
(Lei) Paid a gwaeddi, naci!
(0, 3) 755 Dwi newydd ffindio 'hein yn y stafell wely.
 
(0, 3) 757 Be ti'n gwneud?
(Lei) Dim byd.
 
(Lei) Os fedra ni'm ffindio'r pres, o leia fedra ni werthu rywfaint o'r petha 'ma.
(0, 3) 761 Dim dyna wnaethon ni gytuno.
(Lei) Sut ti'n meddwl gafodd o'r holl ornaments a'r offer technegol ma?
 
(Lei) Arian drwg.
(0, 3) 764 Dani'm yn gwbod hynna.
(Lei) Dwi'n gwrthod dychwelyd yn waglaw.
 
(Lei) Mae angen o leia digon i gyfro costau'r angladd.
(0, 3) 767 Ma gynnai deimlad drwg am hyn.
(0, 3) 768 Os fysa'n nhad yn 'ngweld i...
(Lei) Ie, ie.
 
(Lei) Fysa fo'n cael hartan a marw, os fysa fo'm 'di marw'n barod.
(0, 3) 771 Fydd o'n troi yn ei fedd.
(Lei) Cau dy drap a dora hand i mi wnei di?
 
(Lei) Be sgyn ti'n fanna eniwe?
(0, 3) 775 Llun o'r teulu.
(Lei) Y Llywodraethwr?
 
(Lei) Y Llywodraethwr?
(0, 3) 777 A'i fab.
(Lei) Ga'mi weld.
 
(Lei) |Shit|!
(0, 3) 781 Ia.
(Lei) |Bastard|!
 
(Lei) |Bastard|!
(0, 3) 783 Byw efo fo'n ddigon i wneud i rywun drio lladd ei hun.
(Lei) Wnaeth o'm sôn dim am hyn.
 
(Lei) Wnaeth o'm sôn dim am hyn.
(0, 3) 785 Mae 'na lythyr hefyd.
(Lei) Dora fo i mi.
 
(Shujun) Ti sy'na?
(0, 3) 792 |Shit|!
(Shujun) Be sy'n mynd 'mlaen 'ma?
 
(Shujun) Be sy'n mynd 'mlaen 'ma?
(0, 3) 795 Fedra ni egluro popeth.
(Shujun) Be ffwc dachi'n neud 'ma?
 
(Shujun) Be ffwc dachi'n neud 'ma?
(0, 3) 797 Aros eiliad.
(Shujun) |Security guards| newydd.
 
(Shujun) Sleifio gwmpas y to ganol nos, ddylswn i 'di meddwl.
(0, 3) 801 Dani'm yma i ddwyn dy betha di.
(Shujun) O na?
 
(Shujun) O na?
(0, 3) 803 'Chydig bach dani'n cymryd, fel iawndal.
(Shujun) Fedrai'm credu hyn.
 
(Shujun) |Scum| dachi!
(0, 3) 807 Plis gwranda.
(Lei) |Scum|?
 
(Lei) Nola'r rhaff o'r bag.
(0, 3) 825 Pa râff?
(Lei) Yn y bag!
 
(Lei) Yn y bag!
(0, 3) 828 Well i ni heglu hi cyn i'r heddlu gyrraedd.
(Lei) Mae'n malu cachu.
 
(Lei) Mae'n amhosib bod o 'di cael drwodd i'r heddlu mor gyflym a hynna.
(0, 3) 831 Tisio aros i ffindio allan?
(Lei) Arosa lle wyt ti.
 
(Lei) Ti'n mynd i lem byd tan i ni gael be 'dan isio.
(0, 3) 835 A be yda ni isio yn union?
 
(0, 3) 837 Be ti'n wneud?
(Lei) Be mae'n edrych fel?
 
(Lei) Tisio deud hynna eto?
(0, 3) 848 Paid!
(0, 3) 849 G'ad o lonydd.
(Lei) Mae'r bachgen yn haeddu gwers, neu fydd o byth yn dysgu.
 
(Lei) Dipyn o addysg i wneud y boi yn fwy clyfar na mae o rŵan.
(0, 3) 852 Cofia dyma'r un hogyn wnaetho ni rannu botel fodca efo.
(Lei) Os fyswn i'n gwbod pwy odd ei dad, fyswn i 'rioed 'di cyffwrdd yn y botal 'na.
 
(Lei) Os fyswn i'n gwbod pwy odd ei dad, fyswn i 'rioed 'di cyffwrdd yn y botal 'na.
(0, 3) 855 Beth am gymryd y petha 'ma a mynd.
(Lei) Be?
 
(Lei) Di heina ddim byd bellach.
(0, 3) 858 Mae nhw'n fwy na digon i Hen Liu.
(Lei) Na, na, na, ma gynno ni wobr gwell.
 
(Lei) Na, na, na, ma gynno ni wobr gwell.
(0, 3) 860 Wnawn ni 'rioed ffindio'r pres!
(0, 3) 861 Wneith o gymryd rhy hir.
(Lei) Dim y pres.
 
(Lei) Paid a chwarae lol.
(0, 3) 891 Pa |hard drive|?
(Lei) Mae'n deud bod gynno fo gopi o'r fideo.
 
(Lei) Yr un oedd ar-lein.
(0, 3) 894 Oni'n meddwl bod nhw gyd 'di'w distriwio.
(Lei) Dim i gyd, yn ôl bob golwg.
 
(Lei) Dora'r hard drive i ni!
(0, 3) 907 Am be?
(0, 3) 908 Dani'm angen o.
(0, 3) 909 Oni'n meddwl ddotha ni yma am iawndal.
(0, 3) 910 Pres!
(Lei) Yn union.
 
(Lei) Efo'r fideo fedra ni gael llif o arian pryd bynnag dani angen.
(0, 3) 914 Ti'n golygu fedra ni...?
 
(0, 3) 916 Fedra ni'm gwneud hynna, Lei.
(Lei) Cau hi.
 
(Lei) Gynta, oeddet tisio achub ei enaid, rŵan ti'n trio amddiffyn y llofrudd.
(0, 3) 923 Ddylsa ni roi'r fideo 'ma i'r heddlu.
(0, 3) 924 Sicrhau bod o'n cael ei arestio.
(Shujun) Damwain oedd o.
 
(Shujun) Dwi mor sori.
(0, 3) 978 Ty'd laen, Lei.
(0, 3) 979 Awê!
(Lei) Na.
 
(Lei) Lle mae'r fideo?
(0, 3) 986 Paid!
(0, 3) 987 Ga'd i mi siarad efo fo.
 
(0, 3) 990 Pan odda ni'n yfad gynna, cyn i mi wybod pwy oeddet ti, oni'n meddwl dy fod di'n foi iawn.
(0, 3) 991 Gonest a dibynadwy.
(Shujun) Dim yn union.
 
(Shujun) Dim yn union.
(0, 3) 993 Mae gyn ti freuddwydion o leiaf, a calon clên.
(0, 3) 994 Dwi'n meddwl, mewn amgylchiadau gwahanol, fysa ni'n ffrinidau.
 
(0, 3) 996 Ti a fi run fath.
(0, 3) 997 Dani isio gwneud y peth iawn.
(0, 3) 998 Ti'n teimlo'n euog am weithrediadau dy dad, yndwyt?
(0, 3) 999 Tisio gwneud i fyny amdano fo.
 
(0, 3) 1001 Rho dy hyn yn sgidiau rywun arall.
(0, 3) 1002 Ti'n gweithio fel cogydd ar safle adeiladu.
(0, 3) 1003 Ti'm yn ennill fawr o bres.
(0, 3) 1004 Roeddet ti'n meddwl y base ti'n unig yn dy hen oed.
(0, 3) 1005 Wedyn ti'n cael dy fendithio gyda plentyn, mab.
(0, 3) 1006 A mae'n gwneud ti'n hapusach nag unrhyw beth yn y byd.
(0, 3) 1007 Ond mae rhywun yn cymryd y bachgen oddi wrtha ti.
(0, 3) 1008 Dy unig blentyn.
(0, 3) 1009 Lle mae'r cyfiawnder yn hynny?
(Shujun) Dwi wedi rhoi arian i'r elusen sy'n gweithio efo'r teulu.
 
(Shujun) Yr arian dachi'n chwilio amdano, wnes i roi o i gyd.
(0, 3) 1012 Welais i hynna'n y llythyr.
(0, 3) 1013 Ti'n hogyn da.
(Shujun) Dwisio gwneud y peth iawn.
 
(Shujun) Dwisio gwneud y peth iawn.
(0, 3) 1015 Y peth iawn fydd rhoi'r fideo i ni.
(Shujun) Wyt tisio anfon fy nhad i'w farwolaeth?
 
(Shujun) Wyt tisio anfon fy nhad i'w farwolaeth?
(0, 3) 1017 Nac ydw, ond mae angen talu am gamgymeriadau.
(0, 3) 1018 Rho gyfiawnder i deulu Dan Bach.
(Shujun) Dan oedd ei enw?
 
(Shujun) Dan oedd ei enw?
(0, 3) 1020 Ia, pump oed.
(Shujun) Wnai siarad efo nhad.
 
(Shujun) Ro'i mwy o arian i'r teulu.
(0, 3) 1028 Dani'm isio dy arian.
(0, 3) 1029 Danisio'r tystiolaeth.
(Lei) Y fideo!
 
(Lei) Mae raid i rywun dalu am droseddau dy dad.
(0, 3) 1034 A dwi'm isio ti fod y person yna.
(Shujun) Mae gynno fo gynlluniau mawr i'r dyfodol.
 
(Shujun) Does dim gwobr am waith caled.
(0, 3) 1045 Nag oes.
(Shujun) Ond mae gwobr am gywilydd.
 
(Lei) Ti mor ddiegwyddor a ddigwilydd a dy dad!
(0, 3) 1051 Lei!
(Lei) Be?
 
(Lei) Be?
(0, 3) 1053 Ti'n un da i siarad!
(0, 3) 1054 Ti yma i ddwyn pres.
(Lei) |So|?
 
(Lei) Geiriau mawr yn golygu dim.
(0, 3) 1113 Fedrai'm diodda hyn.
(0, 3) 1114 Plis dora'r |hard drive| i ni!
(Shujun) Oni'n arfer adrodd rhain pan oni'n ifanc, fy nhad yn dysgu nhw i mi.
 
(Shujun) Oni'n arfer adrodd rhain pan oni'n ifanc, fy nhad yn dysgu nhw i mi.
(0, 3) 1116 Gwranda.
(0, 3) 1117 Gwranda rŵan.
(Shujun) Pennillion bythgofiadwy.
 
(Shujun) Pennillion bythgofiadwy.
(0, 3) 1119 Mae'n bosib i ti roi stop i hyn i gyd —
(Shujun) Be di'r pwynt?
 
(Shujun) Dachi'n benderfynol i'm lladd.
(0, 3) 1122 Nac ydan.
(0, 3) 1123 Y fideo.
(0, 3) 1124 Dyna'r cwbwl dani isio.
(Shujun) Iawn.
 
(Shujun) Iawn.
(0, 3) 1126 Be?
(Shujun) Wnai roi'r |hard drive| i chi.
 
(Shujun) Wnai roi'r |hard drive| i chi.
(0, 3) 1128 Diolch i Dduw!
(0, 3) 1129 O'r diwedd!
(Shujun) 'Edifarhau y pechodau mawr'.
 
(Shujun) 'Edifarhau y pechodau mawr'.
(0, 3) 1131 Ia, ia.
(0, 3) 1132 Lle mae o ta?
(Shujun) Datglymwch fi.
 
(Lei) Tric 'dio.
(0, 3) 1136 Sbia arna fo, dio'm yn |fighting fit| ar ôl be ti di neud iddo fo.
(Lei) Dani'n delio efo celwyddgi.
 
(Lei) Dani'n delio efo celwyddgi.
(0, 3) 1138 Mae o ar ein ochr ni.
(0, 3) 1139 Mae'n gweld trwy'r drwg.
(Shujun) Diolch.
 
(Shujun) Diolch.
(0, 3) 1143 Brysia rŵan.
(Shujun) Mae o yn fy stafell wely.
 
(Shujun) Mae o yn fy stafell wely.
(0, 3) 1145 Tyd 'laen 'ta.
(Lei) Cymera hwn.
 
(Lei) Dwi'm yn trystio'r hogyn.
(0, 3) 1150 Ti'n gwbo be di dy broblem di, Lei.
(0, 3) 1151 Ti'm yn meddwl fedrith unrhyw un newid.
(Shujun) Sefwch yn ôl!
 
(Shujun) Sefwch yn ôl!
(0, 3) 1156 Y bastard diegwyddor!
(Shujun) Pediwch â symud modfedd.
 
(Shujun) Pediwch â symud modfedd.
(0, 3) 1158 Pam?
(Shujun) Dachi'm yn ymwybodol o be dachi'n neud.
 
(Shujun) Am be?
(0, 3) 1163 Cyfiawnder.
(Shujun) Dialedd!
 
(Lei) Fedri di ddim, sgyn ti'm y gyts.
(0, 3) 1180 Paid a gwneud rywbeth gwirion.
(Shujun) Mae angen iddo wybod be mae'n teimlo fel i golli rywun mae'n caru.
 
(Shujun) Mae angen iddo wybod be mae'n teimlo fel i golli rywun mae'n caru.
(0, 3) 1183 Na!
(Dyn Heddlu) {off} Dani 'di cael |reports| bod rhywun wedi torri mewn.
 
(Dyn Heddlu) Agorwch y drws neu fydden ni'n agor y drws i chi.
(0, 3) 1189 Be dani 'di gwneud?
(Lei) Mab am fab.
 
(Lei) Karma.
(0, 3) 1192 Ddylsa ni 'rioed wedi dod yma.