Y Tu Hwnt i'r Llenni

Ciw-restr ar gyfer James

 
(1, 0) 20 Beth gynllwyn wyt ti'n geisio'i wneud?
(1, 0) 21 Pwy all actio yn y fath dwrw?
(Sam) {Gan ei hel ei hunan at ei gilydd.}
 
(Sam) {Yn codi'r bwced a mynd allan D.}
(1, 0) 26 'Dyw'r bachgen yna ddim cwarter call ambell waith... sarnu'r cyfan... a golygfa garu o bopeth!
(Marged) {Gan chwerthin.}
 
(Marged) Mae'r "dressing gown " yna lawer yn rhy hir iddo.
(1, 0) 29 Pam na allai ofalu cael un ddigon byr?
(Marged) Fe yw'r unig un sy'n ceiso'ch helpu chi, Mr. James; {James 'nôl at y llenni} mae'r lleill yn rhy ddiogllyd i ddim.
 
(Marged) Fe yw'r unig un sy'n ceiso'ch helpu chi, Mr. James; {James 'nôl at y llenni} mae'r lleill yn rhy ddiogllyd i ddim.
(1, 0) 31 Sh!
(1, 0) 32 Ah!
(1, 0) 33 Da iawn, da iawn eich dau.
 
(1, 0) 35 Roeddwn i'n gwybod y byddai'r cusan yna'n mynd i lawr yn dda.
(1, 0) 36 'Does dim fel cusan ar lwyfan i dwymo'r gwaed ifanc.
(Marged) A mae'n dipyn o help hefyd i newid lle.
 
(Gwen) Mae'r dyn-wrth-y-rhaff yn gofyn faint o'r act yma sy' ar ôl eto, Mr. James?
(1, 0) 41 Rhyw ddwy dudalen a hanner.
(1, 0) 42 'Rwy' wedi dweud wrtho am gadw llygad ar Neli.
(Gwen) 'Dyw hi ddim yna.
 
(Gwen) 'Dyw hi ddim yna.
(1, 0) 44 Ddim yna!
(1, 0) 45 Ydy' hi ddim yn promto?
(Gwen) 'Dwy ddim wedi'i gweld hi ar ôl diwedd yr act gynta'.
 
(Gwen) 'Dwy ddim wedi'i gweld hi ar ôl diwedd yr act gynta'.
(1, 0) 47 Wel, pwy sy'n promto yn yr ochor nawr' te'?
(Gwen) Neb am 'wn i, os nad yw Sam yr ochor draw.
 
(Gwen) Neb am 'wn i, os nad yw Sam yr ochor draw.
(1, 0) 49 Nag yw, neno dyn... sarnu popeth mae hwnnw.
(1, 0) 50 Fe'i taflodd i hunan â bwced i ganol y llwyfan yma gynneu fach gan wneud y mwstwr rhyfedda'.
(1, 0) 51 'Roedd y lle'n debycach o lawer i ben gwaith na chefn llwyfan.
(Marged) 'Does dim synnwyr bod rhaid inni dyrru ar bennau'n gilydd fan hyn a digon o ystafelloedd yn y Neuadd.
 
(Marged) 'Does dim synnwyr bod rhaid inni dyrru ar bennau'n gilydd fan hyn a digon o ystafelloedd yn y Neuadd.
(1, 0) 53 Nawr, nawr... 'dŷch chi damed gwell o glebran.
(1, 0) 54 Mae'r Fyddin wedi cymryd y lle, a rhaid gwneud y gorau o'r gwaetha'.
(1, 0) 55 Gwen, cer di i gymryd lle Neli.
(Gwen) 'Alla'i ddim... 'rwy' i fod i fynd mewn nawr ─golygfa'r gân.
 
(Gwen) 'Alla'i ddim... 'rwy' i fod i fynd mewn nawr ─golygfa'r gân.
(1, 0) 58 Wel, dyma beth ofnadwy!
(1, 0) 59 Ble all y sgennes na fod wedi mynd?
(1, 0) 60 Mae'n gwybod yn eitha' da fod John yn colli'i "gues " yn yr ail act o hyd.
(Marged) 'Does dim dibynnu arni o gwbwl.
 
(Marged) 'Does dim dibynnu arni o gwbwl.
(1, 0) 62 Ond fe ddylai bod digon o synnwyr yn y ferch i beidio gadael 'i lle heb roi gwybod, beth bynnag oedd yn galw.
(1, 0) 63 Rhaid i fi fynd eto, spo.
(Marged) Na, fe af i.
 
(Marged) Rhowch y copi i mi.
(1, 0) 66 Ble mae'ch un chi?
(Marged) 'Rwy wedi'i golli e yn rhywle... 'i adael e ar y tram ar ôl y practis Nos Wener, 'rwy'n meddwl.
 
(Marged) 'Rwy wedi'i golli e yn rhywle... 'i adael e ar y tram ar ôl y practis Nos Wener, 'rwy'n meddwl.
(1, 0) 68 'Does dim copi wedi bod gennych chi oddi ar hynny?
(Marged) Fe ges i fenthyg copi Sam.
 
(Marged) Fe ges i fenthyg copi Sam.
(1, 0) 70 Sam?
(1, 0) 71 A beth wnaeth hwnnw?
(1, 0) 72 'Ddysgodd e' mo'i ran erioed.
(Sam) {Yn dal ei ddressing gown i fyny fel gwraig 'slawer dydd yn codi i phaish wrth fynd i'r môr.}
 
(Sam) Mae lot o rai sbâr heb 'u gwerthu.
(1, 0) 77 O paid â'm boddran i am hynny nawr.
 
(1, 0) 80 Beth ar wyneb daear sy'n bod nawr eto?
(John) {Gan weiddi drwy'r llenni.}
 
(John) Cue! Cue!
(1, 0) 83 Dyna fe... fe wyddwn i... ble mae Neli?
(John) Cue! Cue!
 
(1, 0) 87 Wn i ddim ble maen' hw!
(Sam) Mae'r boi 'na am wybod shwd gyrten ŷch chi'n mo'yn, Mr. James.
 
(Gwen) Ydych chi am imi ganu'r tri phennill, Mr. James?
(1, 0) 92 Peidiwch â chlebran... beth sy' wedi digwydd?... oes na neb yn promto?
(Siân) 'Does dim synnwyr yn y peth o gwbwl.
 
(Siân) Mae'n hen bryd i ti, John, ddysgu dy ran ar ddiwedd yr act yna.
(1, 0) 97 'Dŷch chi ddim wedi cwpla?
(John) Ydym,
 
(John) Ydym,
(1, 0) 99 Ond 'dyw'r ail act ddim ar ben?
(John) Mae ar ben am heno, ta beth.
 
(John) 'Rown i'n meddwl y'ch bod chi a hi yn promto, Mr. James?
(1, 0) 107 Ond y bachgen ofnadwy... 'dŷch chi ddim wedi cwpla'r act!
(1, 0) 108 Mae Gwen heb fod i mewn eto, a'r gân heb i chanu!
(John) Fe ddaeth y cyrten i lawr o rywle, a fe'i diweddwyd hi felly.
 
(John) Fe ddaeth y cyrten i lawr o rywle, a fe'i diweddwyd hi felly.
(1, 0) 110 Ar ganol yr Act!
(John) Ddim ar 'i chanol hi'n hollol.
 
(John) 'Dwy' ddim yn credu bod rhagor na dwy dudalen ar ôl... a'r gân, wrth gwrs.
(1, 0) 114 Ble'r oeddet ti?
(John) 'Rown i ymhobman.
 
(John) Fe es i rownd i'r llwyfau i geisio cael "cue" o ryw le ond...
(1, 0) 117 Na, nid hynny 'rwy'n feddwl... faint o'r ddrama adawsoch chi allan?
(1, 0) 118 Beth oeddet ti'n wneud pan anghofiest ti?
(John) Wel, rown i wedi cyrraedd y man yna lle'r wy'n mynd at y lle tân i danio sigaret, a dyma Siân yn torri ar 'y nhraws i cyn imi gael amser i ddweud dim.
 
(John) Allwn i ddim dweud hynny'n hawdd iawn, 'allwn i, a dim tân ynddo o gwbwl?
(1, 0) 123 "Amateurs!"
(1, 0) 124 'Dych chi ddim ond "amateurs!"
(1, 0) 125 Pam na fuaset ti'n 'i guddio fe fel hyn ag esgus bod tân ynddo?
(John) Ond y mae'n rhaid i'r dorf weld y fflam cyn y credan' hw.
 
(John) Ond y mae'n rhaid i'r dorf weld y fflam cyn y credan' hw.
(1, 0) 127 'Ddim o gwbwl... awgrymu yw dy waith di ar y llwyfan.
(John) Wel, doedd genny' ddim awgrymo o fflam, 'ta' beth.
 
(John) Wel, doedd genny' ddim awgrymo o fflam, 'ta' beth.
(1, 0) 129 Cer ymlaen─beth ddigwyddodd wedyn?
(John) Fe dorrodd Siân i mewn, a wyddwn i ddim ble ar y ddaear oeddwn i.
 
(Siân) Pam na fuasai Neli, neu chi Mr. James, yn promto?─dyna lle mae'r bai.
(1, 0) 135 'Alla'i ddim bod â 'nwylo ym mhopeth.
(1, 0) 136 Ble mae Neli?
(1, 0) 137 Mae Mari fach Huws lawer yn well na hi.
(1, 0) 138 Pwy ofynodd i honna ddod?
(Siân) 'Doedd dim angen gofyn arni.
 
(Siân) 'Doedd dim angen gofyn arni.
(1, 0) 140 Pwy ishe dod i le fel hyn oedd arni?
(1, 0) 141 Mae 'na draddodiad drama yma.
(1, 0) 142 Os byddwn ni'n gwneud rhywbeth gartre' 'dyw hi-byth yn rhydd, ond os bydd trip i rywle, mae gyda ni.
(Sam) 'Dŷm ni damed gwell o goethan nawr.
 
(Sam) Petawn i yn y'ch lle chi, Mr. James, fe newidiwn y lighter 'na am focs o fatshus... fe ellwch ddibynnu ar y rheini.
(1, 0) 146 Matshyn!
(1, 0) 147 Elli di ddim cymharu fflam matshyn â fflam cariad!
(1, 0) 148 Mae fflam cariad i barhau am byth... yn enwedig mewn drama.
(Siân) Wel, fe allai fod yn llawer gwaeth, ag os gofynwch chi i fi, Mr. James, mae'r ail act lawer yn rhy hir─'dwy i ddim yn gweld pwynt y gân o gwbwl... nid chi piau hi ychwaith.
 
(Siân) Wel, fe allai fod yn llawer gwaeth, ag os gofynwch chi i fi, Mr. James, mae'r ail act lawer yn rhy hir─'dwy i ddim yn gweld pwynt y gân o gwbwl... nid chi piau hi ychwaith.
(1, 0) 150 Mae'r gân yn draddodiadol... yn eiddo i'r genedl, a chystal hawl gen i 'w defnyddio â neb arall.
(1, 0) 151 Ag heblaw hynny, rhaid i Gwen gael esgus i newid.
(Siân) Pam mae'n rhaid iddi newid?
 
(John) 'Ches i ddim mwy o ollyngdod erioed na'i weld e'n dod lawr, 'ta beth,
(1, 0) 158 Marged, ewch i edrych amdano.
 
(1, 0) 160 Fe gawn ni setlo'r mater hwn ar unwaith, nawr ag am byth... 'rŷch chi wedi sarnu'r ddrama... mae pob gair yn yr act yna'n bwysig... wedi treulio oriau i feddwl drosti a dyma'r tâl rwy'n gael.
(1, 0) 161 Mae pob baich ar f'ysgwyddau i, ysgrifennu, cyfarwyddo, gofalu am y llwyfan, coluro, promto, popeth... hyd yn oed dysgu rhan rhywun arall os aiff e'n dost.
(1, 0) 162 'Does dim yn cael 'i wneud oni bydda'i wrth law, dim yw dim.
(1, 0) 163 Rhaid y'ch tolach chi o hyd fel rhyw lot o blant bach.
(1, 0) 164 'Dwy ddim yn mo'yn y gwaith, 'does dim siâp wedi bod ar y cwmni oddi ar y dechrau... fe ddylai rhywun fod yma yn gofalu am y llwyfan, rhywun arall wrth y golau, colurwr yn perthyn i'r cwmni, dau neu dri yn promto ac yn helpu, a phob un a'i galon yn 'i waith.
(1, 0) 165 Mae'r theatrau bach Saesneg yn gallu gwneud hynny, ag edrychwch ar y graen sy' ar 'u gwaith nhw.
(1, 0) 166 Mae digon o frwdfrydedd ynddyn' hw i godi cartre' i'r ddrama, a ddaw byth yr un llewyrch ar y ddrama Gymraeg cyn y gwnawn ninnau'r un peth.
(1, 0) 167 Does gennych chi ddim parch at ddrama...
(1, 0) 168 Sam yma gynneu fach yn dod heibio ar ganol golygfa garu dyner a gwneud y twrw rhyfedda... dyw hi ddim yn deg â'r chwaryddion eraill... pwy all garu'n effeithiol a swn bwced yn clindarddan yng nghefn y llwyfan?
(Siân) Dyna beth oedd y swn yna?─
 
(Siân) Fe chwarddodd pawb dros y lle.
(1, 0) 171 Dyna fe... dyna'n hollol yr hyn wy'n geisio bwysleisio─trajedi! a'r bobol yn chwerthin!
(1, 0) 172 'Dŷn 'hw ddim yn cael cyfle iddi deall hi.
(Gwen) Mae ambell bwl bach o chwerthin yn help i ysgafnhau'r awyrglch.
 
(Gwen) 'Allan' hw ddim eistedd yn llonydd am ddwy awr heb rywfaint o chwerthin.
(1, 0) 175 Rŷch chi'n iawn, Gwen, ond rhaid cadw'r chwerthin i'r mannau priodol.
(1, 0) 176 Maen' hw yma yn y ddrama'n barod.
(1, 0) 177 'Does dim amgen 'u creu nhw.
(Sam) Wel, os ŷch chi'n meddwl parhau gyda'n cwmni ni, Mr. James, 'rwy'n credu y byddai'n llawer gwell i chi ysgrifennu Comedi─mae deunydd Comedi reit dda ynom ni.
 
(Marged) Mae wrthi'n brysur yn gosod y llwyfan yn 'i le ar gownt y drydedd act.
(1, 0) 182 Diolch bod rhywun yn gofalu.
(Marged) Ag os cymrwch chi air o gyngor gen' i, peidiwch â phoeni gormod arno; 'roedd e'n credu bod yr act wedi cwpla gan nad oedd neb yn dweud dim a John a Siân yn edrych mor anesmwyth.
 
(Marged) Ag os cymrwch chi air o gyngor gen' i, peidiwch â phoeni gormod arno; 'roedd e'n credu bod yr act wedi cwpla gan nad oedd neb yn dweud dim a John a Siân yn edrych mor anesmwyth.
(1, 0) 184 'Doedd dim bai ar y dyn erbyn meddwl.
(1, 0) 185 Fe âf i rownd i ddiolch iddo nawr, ag i weld bod y llwyfan yn iawn.
(1, 0) 186 Paratowch chwithau bob un ohonoch.
(1, 0) 187 'Rwyt ti, Gwen, heb newid dy wisg.
(Gwen) Fe garwn 'i chadw hi nawr gan na chefais i gyfle iddi gwisgo yn niwedd yr ail act.
 
(Gwen) Fe garwn 'i chadw hi nawr gan na chefais i gyfle iddi gwisgo yn niwedd yr ail act.
(1, 0) 189 Elli di ddim gwneud gwaith tŷ mewn gwisg smart fel 'na!
(Gwen) Mae wedi 'i gwneud yn arbennig erbyn heno.
 
(Gwen) 'Dyw hi ddim yn deg bod Siân yn cael gwisgo dillad crand o hyd, a minnau mewn rhyw hen ddillad-bob-dydd.
(1, 0) 193 Welais i ddim creadur mwy direswm na merch!
(1, 0) 194 Nid ar yr hewl wyt ti nawr ond mewn drama!
(Sam) Beth am y rhaglenni, Mr. James?─mae Miss Puw yn aros.
 
(Sam) Beth am y rhaglenni, Mr. James?─mae Miss Puw yn aros.
(1, 0) 196 O dwed wrthi am 'u cadw nhw hyd ddiwedd y ddrama─mae genny' ormod ar fy meddwl nawr.
(1, 0) 197 A Gwen, paid anghofio newid.
(Sam) Fe garwn i gael mynd mâs o'r pethach fflimsi hyn ta p'un.
 
(1, 0) 290 Rhagor o drwbwl nawr eto—mae rhaff y cyrten wedi torri.
(John) Clymwch hi.
 
(John) Clymwch hi.
(1, 0) 292 Mae'n amhosibl gweithio rhaff a chwlwm arni.
(1, 0) 293 Fe aeth un o'r bechgyn i edrych am raff newydd.
(1, 0) 294 Gobeithio na bydd e ddim yn hir—mae'r dorf yn dechrau mynd yn anhywaith.
(Siân) Beth am araith y Cadeirydd?
 
(Siân) Pwy yw 'e?
(1, 0) 297 Rhyw Ficer o'r cylch—ond 'rwy'n deall nad yw'e wedi cyrraedd.
(1, 0) 298 Petai rhywun yma i ganu, neu i adrodd neu rywbeth.
(Gwen) Fe alla' i ganu'r gân oedd i fod yn niwedd yr ail act.
 
(Gwen) Fe alla' i ganu'r gân oedd i fod yn niwedd yr ail act.
(1, 0) 300 Fyddai hynny ddim yn syniad drwg o gwbwl!
(1, 0) 301 Rhaid inni gael rhywun i dy gyflwyno di, ag i egluro pam y mae'r drydedd act mor hir cyn dechrau.
(Gwen) Fe af i i edrych am rywun nawr ar unwaith.
 
(Siân) Fe fyddai'n ffitiach gwaith o lawer i ti fynd i edrych am y copi 'na.
(1, 0) 311 Nawr!
(1, 0) 312 Nawr!
(1, 0) 313 Nid dyma'r amser i gweryla.
(John) Mr. James bach!
 
(John) Petaech chi'n gwybod y cyfan, fe wnai blot drama heb 'i ail i chi.
(1, 0) 316 Beth yw dy feddwl di, John?
(John) Fe 'allan' hw'u dwy egluro'n llawer gwell na mi.
 
(Siân) Ag heblaw hynny, 'dyw Gwen ddim wedi newid 'i gwisg eto.
(1, 0) 321 Wel nag yw wrth gwrs.
(1, 0) 322 Ewch iddi newid hi ar unwaith.
(Gwen) Fe gei di dalu am hyn!
 
(Price) Mae dwy act ar ôl, onid oes?
(1, 0) 348 Oes, ond y mae...
(Price) Dim esgusodion, dim o gwbwl.
 
(Price) Dyna beth oedd darlun!... hawdd gweld bod cynnwrf yng ngwaed y bachgen ifanc—dyma fe ynte?
(1, 0) 357 John... Mr. John Roberts.
(1, 0) 358 Ychydig bach cyn i chi...
(Price) Mae'n dda gen'i gwrdd â chwi, 'machgen i.
 
(Siân) Siân Ifans.
(1, 0) 364 Fel roeddwn i'n...
(Price) {Gan gydio yn ei llaw a'i dal o hyd wrth siarad â hi.}
 
(Siân) Fe fynnodd y bitsh fach ddangos 'i hunan!
(1, 0) 374 Un o'r merched sy'n canu, Mr. Price.
(Price) Un o ferched y ddrama?
 
(Price) Un o ferched y ddrama?
(1, 0) 376 Ie.
(Price) Mae Act Three wedi dechrau felly?
 
(Price) Mae Act Three wedi dechrau felly?
(1, 0) 378 Na—dyna oeddwn i am egluro i chi gynneu.
(1, 0) 379 Mae rhaff y cyrten wedi torri a fe awgrymodd rhywun fod Gwen yn canu i lanw'r bwlch.
(1, 0) 380 'Roeddwn i'n deall y'ch bod chi heb gyrraedd neu fe fuaswn wedi gofyn i chi siarad─mae gennych chi araith?
(Price) Rhyw bwt bach... dim llawer.
 
(Price) Byddai'n chwith iddynt droi adre' heb air oddi wrth Gadeirydd.
(1, 0) 383 Pa bryd y carech chi siarad—ar y diwedd neu rhwng y drydedd a'r bedwaredd act?
(Price) Rhwng y ddwy act rwy'n meddwl.
 
(Sam) Ble mae bocs y "make up," Mr. James?
(1, 0) 424 Y blwch coluro, wyt ti'n feddwl?
(Sam) Gelwch chi 'e beth fynnoch chi.
 
(Sam) Gelwch chi 'e beth fynnoch chi.
(1, 0) 426 Pam?
(Sam) Fe ddaeth rhywun o'r cefn a dweud bod angen tipyn bach o ddu dan fy llygaid i.
 
(Sam) Fe ddaeth rhywun o'r cefn a dweud bod angen tipyn bach o ddu dan fy llygaid i.
(1, 0) 429 Rho weld.
(1, 0) 430 Gallet, fe allet wneud â thamaid bach hefyd.
(1, 0) 431 Dere â'r blwch i fi o'r rŵm fach—'does him posib troi yno.
(Marged) Mae'r dyn am dy help di gyda'r rhaff, Sam.
 
(Sam) Gofyn i John.
(1, 0) 436 Fe ddof i Marged.
(1, 0) 437 Aros i fi ddod 'nôl Sam cyn gwneud dim i dy wyneb.
(Sam) Wyt ti'n gwybod pwy fu yma gynneu, Sian?
 
(Marged) Ydy'r drydedd act ar ddechrau 'nawr, Mr. James?
(1, 0) 458 Wel, dyw'r cyrten ddim yn barod eto, a 'roedd Mr. Price a minnau yn ceisio penderfynnu a fyddai'n well iddo roi 'i araith nawr yn lle aros i ddiwedd y drydedd act.
(1, 0) 459 John, cer i roi help llaw iddyn' hw.
(Marged) Ydych chi 'n mynd i siarad 'te, Mr. Price?
 
(Marged) Ydych chi 'n mynd i siarad 'te, Mr. Price?
(1, 0) 462 Os na bydd y llwyfan...
(Price) Gwnaf i ar unwaith.
 
(Price) Rŷch chi'n dod yma er mwyn yr Institute, wrth gwrs, heb ddim tâl?
(1, 0) 467 Dim ond y treuliau.
(Price) Dyna fe, dim ond eich treuliau.
 
(Price) Welwch chi byth Gadeirydd yn y dramâu Saesneg yma.
(1, 0) 474 Wel, fi yw'r llwyfenydd hefyd, ond 'does dim angen ichi son am hynny.
(Price) Oes.
 
(Price) Wel nawr, pwy oedd y make-up man yma?
(1, 0) 488 Enw MrGerallt Rhys sydd ar y rhaglen, ond fel y dywedodd Siân, fe fethodd â dod ar y funud ola'.
(1, 0) 489 Gorfu i mi wneud y gwaith er nad wy'n rhyw lawer o law arni.
(Siân) Dyma Raglen i chi, Mr. Price.
 
(Price) Diolch, diolch yn fawr.
(1, 0) 492 Er mwyn enw da, Mr. Price, efallai na byddai ond yn deg i chi ddweud taw rhywun arall fu wrth y gwaith, heb enwi neb.
(Price) Na, na, rhaid eich henwi chwi.
 
(Price) Beth yw ystyr y make-up—y blew yma sydd ar eich hwyneb chwi?
(1, 0) 501 Fe drawyd un o'r chwaryddion yn sal yn sydyn iawn echnos, a bu'n rhaid i mi ddysgu'r rhan.
(1, 0) 502 Rhan fach yw hi, a 'rwy'n gwybod y ddrama bron i gyd ar gof—wedi darllen rhan pob un yn 'i dro pan na ddigwyddai ddod i bractis.
(Price) 'Does gyda chwi ddim understudies?
 
(1, 0) 518 Mae llawer wedi bod yn holi ynglŷn â'r olygfa, Mr. Price.
(1, 0) 519 Does dim byd arbennig yn y ddrama yn galw am hynnw.
(Price) O, mi welaf, 'roeddech chwi am gael tipyn bach o newid o'r hen olygfeydd.
 
(Price) O, mi welaf, 'roeddech chwi am gael tipyn bach o newid o'r hen olygfeydd.
(1, 0) 521 Na... dyma'r rheswm yn syml chi, Mr. Price.
(1, 0) 522 'Does dim gwahaniaeth pa mor dda y bo eich drama chi, 'chewch chi neb iddi chware hi os bydd galw am olygfa grand neu newid golygfeydd yn ystod y ddrama.
(1, 0) 523 Mae rhai o'r drâmau gorau a sgrifennwyd yn Gymraeg heb 'u gweld na'u cyhoeddi am y rheswm syml hwn.
(1, 0) 524 Mae'n ddigon naturiol... festri capel fydd y neuadd gan amlaf a 'does dim cyfleusterau yno.
(1, 0) 525 'Dyw sêl y cyhoeddwyr dros y ddrama ddim yn mynd mor ddwfn â'r boced chwaith.
(1, 0) 526 Fe euthum i gam ymhellach yn hon gan y gwyddwn i y byddai'n rhaid i mi fod yn Geidwad y Celfi hefyd pe ddigwyddai i'n cwmni ni 'i gwneud hi o gwbwl a minnau'n cyfarwyddo.
(1, 0) 527 Gan nad oes angen celfi ar ystafell sydd ar hanner 'i spring cleano' fe fyddai'n arbed llawer iawn o drafferth i mi... 'does him angen cludo hen soffa neu gadair esmwyth neu ford, na gofalu bod tân yn y grat, dim ond benthyca dau neu dri bocs sebon heb eisiau i chi fynd ar y'ch gliniau ar ofyn neb.
(Price) Go dda!
 
(Price) Dan gof, Mr. James, beth am hawlfraint y ddrama?
(1, 0) 533 Dwy gini yw honno, Mr. Price.
(Price) Ie, dwy gini fydd drama Gymraeg wreiddiol fel rheol ynte?
 
(Price) Hwy fu'n gyfrifol am eich gwahodd chwi yma.
(1, 0) 547 Oes aelwyd o'r Urdd yma, Mr. Price, neu gangen o'r Blaid Genedlaethol?
(Price) Mae Aelwyd gan yr Urdd, 'rwy'n meddwl, rhyw gwtsh newydd 'i agor mewn rhyw hen siop.
 
(Marged) Oes, mae cangen o'r Blaid yma, Mr. James.
(1, 0) 551 Rhannwch y ddwy gini rhyngddyn' 'hw, Mr. Price.
(Price) Rhyngddynt?
 
(Price) Rhyngddynt?
(1, 0) 553 Ie, rhowch gini i'r Blaid, a gini i'r Urdd.
(1, 0) 554 Efallai y byddech chi mor garedig â gwneud hynny'n bersonol?
(Price) 'Rwy'n gweld nad ydych chwi'n gwybod am y cylch yma'n ddigon da, Mr. James.
 
(Price) Rhaid i chwi gofio am eich henw da, Mr. James, a'r dramâu sydd heb eu sgrifennu gennych.
(1, 0) 558 'Does gen'i fawr o awydd gwneud ffortiwn o'r drama, Mr. Price, ag hyd y gwela' i fawr o obaith chwaith.
(1, 0) 559 Rhannwch chi nhw fel 'rown i'n dweud a pheidiwch â sôn gair wrth neb.
(Gwen) Mae popeth yn barod i'r drydedd act nawr, Mr. James.
 
(Price) Efallai y byddai'n well i mi ohirio fy araith fach i tan ddiwedd yr act felly?
(1, 0) 563 Dyna fyddai orau.
(Price) Wel, mi af i y tu hwnt i'r llen.
 
(Marged) Glywsoch chi shwd cheek!
(1, 0) 571 Dowch ymlaen, pawb ar y llwyfan am y drydedd act...
(1, 0) 572 Siân, Marged, Sam,... ble mae Sam?...
(1, 0) 573 Ewch un ohonoch chi i edrych am Sam.
(John) Os yw hwnna'n mynd i glebran yn hir fe gollwn ni'r tram ola' o'r dre.
 
(John) Os yw hwnna'n mynd i glebran yn hir fe gollwn ni'r tram ola' o'r dre.
(1, 0) 575 Fe ffonia i at Mrs. James i ddod â'r car i gwrdd â'r bws os byddwn ni'n hwyr iawn.
(1, 0) 576 Mlaen â chi i'r llwyfan.
 
(1, 0) 578 A Gwen, bydd di'n barod ar y chwith.
(1, 0) 579 Wel, 'tawn i byth—dwyt ti ddim wedi newid dy wisg!
(Gwen) 'Ches i ddim amser, Mr. James—fe ddaeth rhyw bobol oedd yn adnabod mam at ddrws y llwyfan a allwn i ddim 'u hala nhw bant yn ddiseremoni.
 
(Gwen) 'Ches i ddim amser, Mr. James—fe ddaeth rhyw bobol oedd yn adnabod mam at ddrws y llwyfan a allwn i ddim 'u hala nhw bant yn ddiseremoni.
(1, 0) 581 'Dwy i ddim wedi pregethu wrthych chi ganwaith nad oes neb i ddod ar y llwyfan nes bo'r ddrama drosodd?
(Sam) Beth sy'n dy gorddi di?
 
(Sam) Beth sy'n dy gorddi di?
(1, 0) 585 Wel tawn i'n ateb y Farn!
(1, 0) 586 Beth wyt ti wedi bod yn 'i wneud i dy lygaid?
(Sam) Pam?
 
(Sam) Dim ond tipyn bach o ddu iddi dangos nhw lan.
(1, 0) 589 Tipyn bach!
(1, 0) 590 Dere iddi glanhau nhw ar unwaith cyn i neb dy weld di.
(John) Trueni na chawsai fynd ar y llwyfan fel 'na.
 
(Siân) Rŷm ni'n aros amdano.
(1, 0) 608 Fan hyn 'rwyt ti, Siân?
(1, 0) 609 Mae'r cyrten ar godi.
(Siân) 'Rwy'n edrych am Sam.
 
(Siân) 'Rwy'n edrych am Sam.
(1, 0) 611 Mae Sam ar y llwyfan nawr.
 
(1, 0) 613 John, 'does gennyt ti ddim iddi wneud ar ddechrau'r act yma, cer i wneud gwaith Neli.
(Gwen) Mae hi wedi dod nôl o'r diwedd.
 
(Gwen) Mae hi wedi dod nôl o'r diwedd.
(1, 0) 615 Ble mae hi i mi gael gafael arni?
(John) Gadewch iddi nawr—mae hi wrth 'i gwaith.
 
(Gwen) Mae'r cyrten wedi codi.
(1, 0) 619 Bydd yn barod John wrth y chwith.
(John) Peidiwch chi ag ordro ffilm star amboitu.
 
(John) Peidiwch chi ag ordro ffilm star amboitu.
(1, 0) 621 Ffilm star myn asgwrn i!
(1, 0) 622 Bant â thi dy le.
(John) {Wrth fynd. De.}
 
(John) Mae hen ddigon o amser.
(1, 0) 625 A Gwen, 'rwy'n wedi dweud digon wrthych chi am y wisg 'na!
(Gwen) 'Does gen' i ddim amser iddi newid hi nawr.
 
(Gwen) 'Does gen' i ddim amser iddi newid hi nawr.
(1, 0) 627 Dyma'r tro ola y byddwch chi mewn drama gen i!
(Gwen) Mr. James bach, 'rwy' wedi'ch clywed chi'n dweud hynna gannoedd o weithiau erbyn hyn.
 
(Neli) Mae'n bryd i ti fod ar y llwyfan, Siân.
(1, 0) 699 Siân!
(1, 0) 700 Beth gynllwyn wyt ti'n wneud yma?
(1, 0) 701 Maen' hw'n aros amdanat.
(Siân) Wedi'r ddrama, Gwilym... cofiwch.
 
(Siân) Wedi'r ddrama, Gwilym... cofiwch.
(1, 0) 704 Pwy ŷch-chi?
(1, 0) 705 Pa fusnes sydd gennych chi i fod yng nghefn y llwyfan yn ymyrraeth â'r ddrama?
(Gwilym) Esgusodwch fi, dod yma i chwilio am y Cadeirydd—mae gen' i neges.
 
(Gwilym) Esgusodwch fi, dod yma i chwilio am y Cadeirydd—mae gen' i neges.
(1, 0) 707 Meddyliwch am well esgus y tro nesa'—dyna'r ffordd allan.
(Neli) Fe ddylasai fod cywilydd arnoch chi—siarad â gwr bonheddig fel petai e'n rhyw gorgi.
 
(Neli) Fe ddylasai fod cywilydd arnoch chi—siarad â gwr bonheddig fel petai e'n rhyw gorgi.
(1, 0) 710 Paid gwneud cam ag e.
(1, 0) 711 Pam nad wyt ti wrth dy waith?
(Neli) Fe ddes i edrych am Siân,—'roedd yn bryd iddi fynd i'r llwyfan.
 
(Neli) Fe ddes i edrych am Siân,—'roedd yn bryd iddi fynd i'r llwyfan.
(1, 0) 713 Peth od i ti feddwl am hynny a thithau'n gwybod taw'r ochor draw 'roedd hi i ddod mewn.
(Neli) Os ŷch chi'n ceisio awgrymu fy mod i'n dweud d celwydd...
 
(Neli) Os ŷch chi'n ceisio awgrymu fy mod i'n dweud d celwydd...
(1, 0) 715 'Dwy'n awgrymu dim byd.
(1, 0) 716 Fe gawn ni setlo dy driciau di am heno o flaen y Pwyllgor.
(Neli) {Gan daflu'r llyfr mewn tymer.}
 
(Neli) {Allan yn wyllt. Ch.
(1, 0) 722 Trueni hefyd—mae deunydd da ynddi pe gellid 'i ffrwyno.
(John) Ble mae Neli?
 
(1, 0) 728 Dyma beth ofnadwy!
(1, 0) 729 Pan af i o'r golwg mae rhywbeth yn sicir o fynd o'i le.
(1, 0) 730 Cer ar unwaith a dwed wrthynt am beidio â gadael y cyrten lawr eto.
 
(1, 0) 732 Dyna beth yw cawl.
(1, 0) 733 Pam na all pobol ofalu am 'u gwaith?
(1, 0) 734 Fe gaiff y lot y sac am hyn...
(1, 0) 735 Sarnu'r ddrama!...
(1, 0) 736 Pwy all fod wedi colli 'i "gue" nawr eto?
(1, 0) 737 Neli!
(1, 0) 738 Neli!... neb wrth law pan fo eisiau...