Y Tu Hwnt i'r Llenni

Ciw-restr ar gyfer Price

(James) Beth gynllwyn wyt ti'n geisio'i wneud?
 
(Sam) {Allan. Ch.}
(1, 0) 334 Sut ydych chi, Mr. James?
(1, 0) 335 Mae'n dda gen'i gwrdd â chwi.
(1, 0) 336 Maddeuwch imi am roi fy nhraed ar dir sanctaidd fel petai, ond y mae'r dorf yn dechrau mynd ychydig yn anesmwyth ac yn disgwyl am y third act, yn disgwyl am awchus hefyd.
(1, 0) 337 Mae'n dda, yn dda odiaeth, er nad wyf i wedi cael cyfle i weld fawr o ddim ar wahân i ddiwedd y second act.
(1, 0) 338 Angladd wedi 'nghadw i... hen aelod o'r eglwys yn cael ei gladdu heddiw yn Rhydymwyn, ag yr oedd yn rhaid i mi fod yno o barch i'r hen gyfaill.
(1, 0) 339 Trueni i'r ddau beth daro ar draws ei gilydd ynte?
(1, 0) 340 Fe aeth un o'r brodyr yn hirwyntog a minnau'n colli'r bws yn y fargen.
 
(1, 0) 342 'Dedd yr un arall yn dod wedyn am ddwy awr.
(1, 0) 343 Fe gerddais i Bontyrhyd ac yn ffodus iawn fe ddaeth cyfaill heibio yn ei gar pan oeddwn i ar fynd i chwilio amserau'r trên.
(1, 0) 344 Roeddwn i wedi meddwl y byddai'n rhaid i mi ffonio neu anfon teligram i ddweud nad allwn i ddod o gwbwl, ond fe arbedais y draul honno a chael lifft yn y fargen.
(1, 0) 345 A phan glywodd e' mai myfì oedd y gŵr gwâdd yma heno fe aeth allan o'i ffordd a dod â mi bob cam at ddrws y Neuadd.
(1, 0) 346 Ag fel y dywedais i, Mr. James, 'dwy-i ddim wedi cael ond darn o'r Second Act, ag yr oedd hwnnw'n flasus, yn flasus dros ben.
(1, 0) 347 Mae dwy act ar ôl, onid oes?
(James) Oes, ond y mae...
 
(James) Oes, ond y mae...
(1, 0) 349 Dim esgusodion, dim o gwbwl.
(1, 0) 350 Mae'r darn bach a welais i eisioes wedi profi eich gallu chwi.
(1, 0) 351 Ag y mae gennych chwi gwmni, Mr. James, cwmni o actorion sy'n gwybod eu gwaith.
(1, 0) 352 Mae yma adnoddau gwerth eu meithrin a'u disgyblu, ag yn cael eu disgyblu hefyd.
(1, 0) 353 Mae graen ar y gwaith.
(1, 0) 354 Digon hawdd canfod bod gweledigaeth, awdurdod, ag ufudd-dod yn cyd-dynnu yn y cwmni hwn.
(1, 0) 355 Ac mae'n rhaid eu cael... cymerwch ddiwedd y Second Act 'ma, yr actio tawel... munud llawn ohono fel y gwelais i droeon ar y London stage—yr anesmwythyd oedd yn dilyn yr olygfa garu ddwys, a'r llen wedyn yn disgyn fel ergyd o wn i gloi'r cyfan.
(1, 0) 356 Dyna beth oedd darlun!... hawdd gweld bod cynnwrf yng ngwaed y bachgen ifanc—dyma fe ynte?
(James) John... Mr. John Roberts.
 
(James) Ychydig bach cyn i chi...
(1, 0) 359 Mae'n dda gen'i gwrdd â chwi, 'machgen i.
(1, 0) 360 Daliwch ati... mae gennych chwi dalent, gwnewch fawr ohoni, peidiwch â'i chladdu.
(1, 0) 361 Pwy ŵyr na chawn eich gweld chwi rywdro yn rhoi Cymru ar y map... ar y Sgrîn.
(1, 0) 362 A chwithau?
(Siân) Siân Ifans.
 
(1, 0) 366 Siân... Siân Ifans... enw Cymraeg tlws yn gweddu ei berchennog i'r dim.
(1, 0) 367 Fe garwn i fod yn fachgen ifanc un waith eto i gael y fraint o chware gyferbyn â chwi yn y Gomedi brydferth hon.
(1, 0) 368 A gyda llaw, Mr. James, gadewch i mi eich llongyfarch ar iaith y ddrama—Cymraeg glân heb ddim maswedd yn unlle.
 
(1, 0) 370 Ust!
(1, 0) 371 Pwy sy'n canu?
(Siân) Fe fynnodd y bitsh fach ddangos 'i hunan!
 
(James) Un o'r merched sy'n canu, Mr. Price.
(1, 0) 375 Un o ferched y ddrama?
(James) Ie.
 
(James) Ie.
(1, 0) 377 Mae Act Three wedi dechrau felly?
(James) Na—dyna oeddwn i am egluro i chi gynneu.
 
(James) 'Roeddwn i'n deall y'ch bod chi heb gyrraedd neu fe fuaswn wedi gofyn i chi siarad─mae gennych chi araith?
(1, 0) 381 Rhyw bwt bach... dim llawer.
(1, 0) 382 Byddai'n chwith iddynt droi adre' heb air oddi wrth Gadeirydd.
(James) Pa bryd y carech chi siarad—ar y diwedd neu rhwng y drydedd a'r bedwaredd act?
 
(James) Pa bryd y carech chi siarad—ar y diwedd neu rhwng y drydedd a'r bedwaredd act?
(1, 0) 384 Rhwng y ddwy act rwy'n meddwl.
(1, 0) 385 Bydd pobl yn codi o'u seddau ac yn rhuthro i ddal eu cerbydau ar y diwedd.
(1, 0) 386 Fe garwn-i gael gwrandawiad lled dda, achos mae dau neu dri phwynt arbennig gennyf i'w pwysleisio.
(1, 0) 387 Ag yn naturiol fe fyddant yn disgwyl gair oddi wrth yn awdur wedi'r ddrama.
(1, 0) 388 Dowch rownd i'r llwyfan i wrando ar yr eneth yma—mae yn canu'n brydferth.
(Neli) Dyna beth od—rhaid 'u bod nhw heb gwpla'r ail act!
 
(1, 0) 416 Campus, fy ngeneth i, campus!
(1, 0) 417 Dowch, mae'r dorf yn gweiddi am ragor.
(1, 0) 418 Rhowch un gân fach arall iddynt.
(Gwen) 'Wn i ddim beth fyddai'n taro.
 
(1, 0) 421 Meddyliwch am rywbeth, rhaid plesio'r dorf.
(Siân) 'Roeddwn i'n meddwl inni ddod yma er mwyn y ddrama!
 
(James) Os na bydd y llwyfan...
(1, 0) 463 Gwnaf i ar unwaith.
 
(1, 0) 465 Nawr, oes rhywbeth arbennig y carech i mi ei gynnwys?
(1, 0) 466 Rŷch chi'n dod yma er mwyn yr Institute, wrth gwrs, heb ddim tâl?
(James) Dim ond y treuliau.
 
(James) Dim ond y treuliau.
(1, 0) 468 Dyna fe, dim ond eich treuliau.
(1, 0) 469 Arhoswch chi... chi yw'r awdur a chi hefyd fu'n prodiwsio.
(1, 0) 470 Pwy yw'r Stage Manager?
(1, 0) 471 Rhaid enwi'r rhain i gyd achos y mae eu hanner heb brynnu rhaglen.
(1, 0) 472 Efallai mai dyna pam; y mae'n rhaid i ni'r Cymry gael Cadeirydd.
(1, 0) 473 Welwch chi byth Gadeirydd yn y dramâu Saesneg yma.
(James) Wel, fi yw'r llwyfenydd hefyd, ond 'does dim angen ichi son am hynny.
 
(James) Wel, fi yw'r llwyfenydd hefyd, ond 'does dim angen ichi son am hynny.
(1, 0) 475 Oes.
(1, 0) 476 Rhaid cael y cyfan.
(1, 0) 477 A phwy fu wrth y "make-up?"
(Siân) Fe fethodd y colurwr swyddogol ddod.
 
(Siân) Fe fethodd y colurwr swyddogol ddod.
(1, 0) 479 Y beth?
(Marged) Colurwr—gair 'rŷm ni wedi'i fathu.
 
(Marged) Mae'n swnio dipyn bach yn well ynghanol geiriau Cymraeg na "make-up man."
(1, 0) 482 Colurwr!
(1, 0) 483 Gair da... rhaid egluro hwnna iddynt.
(1, 0) 484 Ie, gair da dros ben yw e'.
(1, 0) 485 Fe glywais alw'r peth yn "weddnewid" rywdro, ond y mae hynny braidd yn rhy Feiblaidd, er mai fi sy'n dweud hynny.
(1, 0) 486 Wel nawr, pwy oedd y make-up man yma?
(James) Enw MrGerallt Rhys sydd ar y rhaglen, ond fel y dywedodd Siân, fe fethodd â dod ar y funud ola'.
 
(Siân) Dyma Raglen i chi, Mr. Price.
(1, 0) 491 Diolch, diolch yn fawr.
(James) Er mwyn enw da, Mr. Price, efallai na byddai ond yn deg i chi ddweud taw rhywun arall fu wrth y gwaith, heb enwi neb.
 
(James) Er mwyn enw da, Mr. Price, efallai na byddai ond yn deg i chi ddweud taw rhywun arall fu wrth y gwaith, heb enwi neb.
(1, 0) 493 Na, na, rhaid eich henwi chwi.
(1, 0) 494 Chwi fu wrthi, a chwi sy'n haeddu'r clod.
(1, 0) 495 Ond y mae gormod o waith ar eich hysgwyddau chwi, Mr. James.
(1, 0) 496 Trueni na buasech chwi wedi ceisio help gan y Social Service nawr.
(1, 0) 497 Roedd rhyw gwmni Saesneg o'r cwm arall yma yr wythnos ddiwethaf am dair noson yn olynol, a dyn yn dyfod bob nos i ofalu am y "make-up" 'ma ac yn cael ei dalu hefyd gan y Council.
(1, 0) 498 'Roedd gwaith da ganddo hefyd...
(1, 0) 499 Ond arhoswch chwi, 'wela i mo'ch henw chwi yn y Rhaglen ymhlith yr actors, Mr. James.
(1, 0) 500 Beth yw ystyr y make-up—y blew yma sydd ar eich hwyneb chwi?
(James) Fe drawyd un o'r chwaryddion yn sal yn sydyn iawn echnos, a bu'n rhaid i mi ddysgu'r rhan.
 
(James) Rhan fach yw hi, a 'rwy'n gwybod y ddrama bron i gyd ar gof—wedi darllen rhan pob un yn 'i dro pan na ddigwyddai ddod i bractis.
(1, 0) 503 'Does gyda chwi ddim understudies?
(1, 0) 504 Beth yw'r gair Cymraeg am understudy—dewch nawr, chwi bobol glyfar y colegau?
(John) 'Fu dim galw am air Cymraeg amdano yn ein cwmni ni.
 
(John) 'Doedd neb yn barod i gymryd y gwaith a dim pwrpas bathu un wedyn.
(1, 0) 507 Go dda!
(1, 0) 508 Go dda!—ond fe ddylech gael understudy i bob part, Mr. James.
(1, 0) 509 Nawr un gair bach am yr olygfa eto.
(1, 0) 510 Pan ddeuthum-i i mewn 'roeddwn i'n methu'n lân â deall beth oedd wedi digwydd.
(1, 0) 511 'Roedd y llwyfan yn edrych fel cegin ond bod dim celfi yno, dim ond bocs yma a thraw a'r muriau'n sobr o noeth.
(1, 0) 512 Dim sôn am yr hen luniau teuluol.
(1, 0) 513 'Wyddoch chi, Mr. James, mae'n hawdd gweld pwy sydd ynglŷn â'n dramâu ni oddi wrth y lluniau a'r celfi fydd ar y llwyfan.
(1, 0) 514 Mae llun hen Domos Ifans y Gôf wedi bod mewn pob math o ddrama yma.
(1, 0) 515 Mae'n dal i chwarae yn ei lun er ei fod ef wedi ei gladdu ers blynyddoedd A phan ddeuthum i mewn heno 'roeddwn i'n teimlo fel petawn i mewn rhyw le dieithr.
(1, 0) 516 Fe gefais dipyn o sioc ac ofni'r gwaethaf hyd nes i ryw wraig ddweud wrthyf mai golygfa tŷ ar ganol "Spring cleaning" oedd hi.
(James) {Gan chwerthin.}
 
(James) Does dim byd arbennig yn y ddrama yn galw am hynnw.
(1, 0) 520 O, mi welaf, 'roeddech chwi am gael tipyn bach o newid o'r hen olygfeydd.
(James) Na... dyma'r rheswm yn syml chi, Mr. Price.
 
(James) Gan nad oes angen celfi ar ystafell sydd ar hanner 'i spring cleano' fe fyddai'n arbed llawer iawn o drafferth i mi... 'does him angen cludo hen soffa neu gadair esmwyth neu ford, na gofalu bod tân yn y grat, dim ond benthyca dau neu dri bocs sebon heb eisiau i chi fynd ar y'ch gliniau ar ofyn neb.
(1, 0) 528 Go dda!
(1, 0) 529 Go dda!
(1, 0) 530 Angen yw mam pob dyfais, wyddoch chi.
(John) Wrth gwrs mae Mr. James wedi gwneud patent o'r syniad neu fe fydd yn torri mâs fel y frech ymhlith yr hen awduron.
 
(John) Wrth gwrs mae Mr. James wedi gwneud patent o'r syniad neu fe fydd yn torri mâs fel y frech ymhlith yr hen awduron.
(1, 0) 532 Dan gof, Mr. James, beth am hawlfraint y ddrama?
(James) Dwy gini yw honno, Mr. Price.
 
(James) Dwy gini yw honno, Mr. Price.
(1, 0) 534 Ie, dwy gini fydd drama Gymraeg wreiddiol fel rheol ynte?
(1, 0) 535 Mae dramâu o'r Saesneg wrth gwrs yn werth mwy, ag y mae eitha' gwerth dwy gini yn hon—mae'n bedair act, onid yw?
(1, 0) 536 Ond hyn oeddwn i am ofyn i chwi... nawr 'rwy'n gwybod i chwi fod yn garedig dros ben─dod yma bob cam o Gaerdydd am ddim, a rhoi'r elw i'r Institute, ond fe fyddai'n beth da pe gallwn i ddweud wrthynt nawr eich bod yn rhoi'r hawlfraint am y ddrama, neu gyfran ohono, yn ôl at yr Institute.
(1, 0) 537 Fe fyddai'n help i enw da y cwmni ac yn symbyliad inni allu eich gwahodd chwi yma rywdro eto.
(Siân) Oes rhyw dreuliau arnoch chi yma?
 
(Siân) Oes rhyw dreuliau arnoch chi yma?
(1, 0) 539 Mae'r neuadd am ddim wrth gwrs—ati hi y mae'r elw.
(1, 0) 540 'Dwy' ddim yn meddwl bod neb ond yr Electrician yn cael ei dalu—Sais yw hwnnw ag y mae'n un o'r swyddogion.
(Marged) Beth am yr argraffu?
 
(Marged) Beth am yr argraffu?
(1, 0) 542 Jones y Printer tu wrth hwnnw—|fe| s'yn gwneud y gwaith bob tro.
(John) Ydy' e wedi gostwng rhywfaint ar y draul neu'n gwneud y gwaith am ddim?
 
(John) Ydy' e wedi gostwng rhywfaint ar y draul neu'n gwneud y gwaith am ddim?
(1, 0) 544 O'dyw e' ddim yn gwneud y gwaith yn rhad—allech chi ddim disgwyl iddo roi ei lafur yn rhad.
(1, 0) 545 Fe fyddai'n anodd gofyn iddo ostwng hefyd—'roedd hi braidd yn lletchwith welwch chi ag yntau'n perthyn i Bwyllgor y Neuadd.
(1, 0) 546 Hwy fu'n gyfrifol am eich gwahodd chwi yma.
(James) Oes aelwyd o'r Urdd yma, Mr. Price, neu gangen o'r Blaid Genedlaethol?
 
(James) Oes aelwyd o'r Urdd yma, Mr. Price, neu gangen o'r Blaid Genedlaethol?
(1, 0) 548 Mae Aelwyd gan yr Urdd, 'rwy'n meddwl, rhyw gwtsh newydd 'i agor mewn rhyw hen siop.
(1, 0) 549 Wn i ddim am y Welsh Nationalists.
(Marged) Oes, mae cangen o'r Blaid yma, Mr. James.
 
(James) Rhannwch y ddwy gini rhyngddyn' 'hw, Mr. Price.
(1, 0) 552 Rhyngddynt?
(James) Ie, rhowch gini i'r Blaid, a gini i'r Urdd.
 
(James) Efallai y byddech chi mor garedig â gwneud hynny'n bersonol?
(1, 0) 555 'Rwy'n gweld nad ydych chwi'n gwybod am y cylch yma'n ddigon da, Mr. James.
(1, 0) 556 Os cymerwch chi gyngor gen' i fe rowch y cyfan i'r Urdd, neu gwell fyth, i'r Institute.
(1, 0) 557 Rhaid i chwi gofio am eich henw da, Mr. James, a'r dramâu sydd heb eu sgrifennu gennych.
(James) 'Does gen'i fawr o awydd gwneud ffortiwn o'r drama, Mr. Price, ag hyd y gwela' i fawr o obaith chwaith.
 
(Gwen) Mae popeth yn barod i'r drydedd act nawr, Mr. James.
(1, 0) 562 Efallai y byddai'n well i mi ohirio fy araith fach i tan ddiwedd yr act felly?
(James) Dyna fyddai orau.
 
(James) Dyna fyddai orau.
(1, 0) 564 Wel, mi af i y tu hwnt i'r llen.
(1, 0) 565 Pob hwyl a phob lwc i chwi.
(Siân) Esgusodwch fi, Mr. Price—ga' i'r rhaglen?
 
(Siân) Esgusodwch fi, Mr. Price—ga' i'r rhaglen?
(1, 0) 567 Chi piau hi wrth gwrs!
(1, 0) 568 Mae 'nghof i'n chware triciau dwl.