Y Tu Hwnt i'r Llenni

Ciw-restr ar gyfer Siân

(James) Beth gynllwyn wyt ti'n geisio'i wneud?
 
(James) Peidiwch â chlebran... beth sy' wedi digwydd?... oes na neb yn promto?
(1, 0) 95 'Does dim synnwyr yn y peth o gwbwl.
(1, 0) 96 Mae'n hen bryd i ti, John, ddysgu dy ran ar ddiwedd yr act yna.
(James) 'Dŷch chi ddim wedi cwpla?
 
(John) Fe neidiodd Siân dudalen gyfan yn rywle...
(1, 0) 103 Fe gaiff Neli setlo hynny.
(John) A ble mae Neli?
 
(John) Wel, rown i wedi cyrraedd y man yna lle'r wy'n mynd at y lle tân i danio sigaret, a dyma Siân yn torri ar 'y nhraws i cyn imi gael amser i ddweud dim.
(1, 0) 120 'Rown i'n dy weld di'n hir.
(John) 'Roedd y "lighter " yn gwrthod cynneu, a mae'n rhaid cael tân ynddo cyn y galla' i ddweud y llinell nesa' "mae fflam y 'lighter' hwn ges i gennyt ar fy mhenblwydd, Eluned, fel fflam ein cariad ni'n dau."
 
(John) Fe dorrodd Siân i mewn, a wyddwn i ddim ble ar y ddaear oeddwn i.
(1, 0) 131 'Roedd yn rhaid i rywun ddweud rhywbeth.
(John) Pam na fuaset ti'n dweud rhyw linell o'r ddrama 'te?
 
(John) Chlywais i erioed mo'r geiriau yna o'r blaen.
(1, 0) 134 Pam na fuasai Neli, neu chi Mr. James, yn promto?─dyna lle mae'r bai.
(James) 'Alla'i ddim bod â 'nwylo ym mhopeth.
 
(James) Pwy ofynodd i honna ddod?
(1, 0) 139 'Doedd dim angen gofyn arni.
(James) Pwy ishe dod i le fel hyn oedd arni?
 
(James) Mae fflam cariad i barhau am byth... yn enwedig mewn drama.
(1, 0) 149 Wel, fe allai fod yn llawer gwaeth, ag os gofynwch chi i fi, Mr. James, mae'r ail act lawer yn rhy hir─'dwy i ddim yn gweld pwynt y gân o gwbwl... nid chi piau hi ychwaith.
(James) Mae'r gân yn draddodiadol... yn eiddo i'r genedl, a chystal hawl gen i 'w defnyddio â neb arall.
 
(James) Ag heblaw hynny, rhaid i Gwen gael esgus i newid.
(1, 0) 152 Pam mae'n rhaid iddi newid?
(Gwen) Fe garet ti 'ngweld i'n gwisgo'r un hen ddillad o hyd wrth gwrs.
 
(James) Sam yma gynneu fach yn dod heibio ar ganol golygfa garu dyner a gwneud y twrw rhyfedda... dyw hi ddim yn deg â'r chwaryddion eraill... pwy all garu'n effeithiol a swn bwced yn clindarddan yng nghefn y llwyfan?
(1, 0) 169 Dyna beth oedd y swn yna?─
(1, 0) 170 Fe chwarddodd pawb dros y lle.
(James) Dyna fe... dyna'n hollol yr hyn wy'n geisio bwysleisio─trajedi! a'r bobol yn chwerthin!
 
(Gwen) Newidia' i ddim.
(1, 0) 203 Fe fydd yn well i ti wneud.
(Gwen) Digon hawdd i ti siarad─'rwyt ti'n cael pob part crand mewn drama... a dyma'r unig olygfa lle'r wy'n cael cyfle i wisgo rhywbeth smart wedi'i thorri mâs yn glwt.
 
(John) Ydyn' oddi ar pan oedden' hw yn y Col. yn Aber. gyda'i gilydd.
(1, 0) 225 Mae hi am ddweud hynny, ond 'dwy' 'i ddim yn credu bod Gwilym wedi gwneud llawer â'r un ferch erioed, a 'rwy'n 'i nabod e'n lled dda.
(Marged) Erbyn meddwl, Neli awgrymodd y'n bod ni'n dod â'r ddrama yma yn y dechrau.
 
(Sam) A Siân yn eilo.
(1, 0) 228 Twt!
(1, 0) 229 Fyddai Gwilym ddim yn edrych ddwywaith ar Neli.
(1, 0) 230 'Does dim digon o gymeriad ynddi i ddal dyn am ragor na noson.
(John) Efallai taw dyna'n union beth mae Gwilym yn mo'yn─mae Neli'n damaid bach reit smart.
 
(Sam) Fe wnaf fy ngorau, Marged, ond cofia, mae gen' ti dipyn o gystadleuaeth rhwng Neli a Gwen... a Siân.
(1, 0) 236 Fe gnoiff e' 'i dafod ryw ddiwrnod.
(John) Oes copi o'r ddrama gen' ti, Marged?
 
(Marged) Fe fuasai llawer un wedi rhoi'r sac i'r lot a'n hala ni i'r cythraul.
(1, 0) 245 Pa gwmni arall fyddai'n barod i chwarae'i ddramâu?
(John) O, dyw hi ddim cynddrwg, yn enwedig petai hi'n cael chwarae teg, a mae Cwmni Aelwyd Rhyd Wen wedi dechrau arni'n barod─dyna un arwydd dda.
 
(Marged) Ddeallaist ti erioed mohoni─parodi yw hi, John bach, ar y golygfeydd caru arferol.
(1, 0) 250 Wyt ti ddim wedi newid eto?
(Gwen) Oes ofn arnat ti fy ngweld i ar y llwyfan yn y rhain?
 
(Gwen) Oes ofn arnat ti fy ngweld i ar y llwyfan yn y rhain?
(1, 0) 252 Twt, does dim gwahaniaeth gen' i o gwbwl.
(John) Ble mae dy gopi o'r ddrama, Gwen?
 
(John) Aiff neb i nôl 'y nghopi drama i, a dwy ddim yn rhy siŵr o'r drydedd act chwaith.
(1, 0) 267 Does dim gwahaniaeth gen' i─dwy fawr ar y llwyfan gyda ti yn honna.
(John) 'Fydda 'i damaid gwell o ofyn i ti te?
 
(John) 'Fydda 'i damaid gwell o ofyn i ti te?
(1, 0) 269 'Ddim o gwbwl.
 
(John) On'd oes pobol ddilês yn y byd!
(1, 0) 280 Os wyt ti'n mynd i'r llwyfan, Sam, dwed wrth y Capten am roi'r stôl yn y lle iawn.
(1, 0) 281 Fe anghofiodd y cyfan am hynny y tro diwetha'.
(Sam) Fe fyddai'n llawer mwy gweddus i ti fynd i ofalu am rywbeth bach fel 'na dy hunan yn lle taflu'r gwaith i gyd ar ysgwyddau'r hen foi.
 
(Sam) Oes un ohonoch chi'n gwybod ble mae'r copi oedd gan Neli?
(1, 0) 287 Gofyn i'r Capten, fe sy'n gofalu am bopeth.
(John) Os cei di afael ar Gwilym, synnwn i fawr na chei di afael ar y copi hefyd.
 
(James) Gobeithio na bydd e ddim yn hir—mae'r dorf yn dechrau mynd yn anhywaith.
(1, 0) 295 Beth am araith y Cadeirydd?
(1, 0) 296 Pwy yw 'e?
(James) Rhyw Ficer o'r cylch—ond 'rwy'n deall nad yw'e wedi cyrraedd.
 
(Gwen) Fe af i i edrych am rywun nawr ar unwaith.
(1, 0) 303 Aros, Gwen.
(1, 0) 304 Mr. James, peidiwch â gadael iddi wneud ffyliaid ohonom i gyd... 'dyw hi ddim yn iawn iddi ganu a hithau yn y ddrama.
(Gwen) Pam lai?
 
(Sam) 'Wela'i ddim byd o'i le yn hynny, ag mae'n rhaid cael rhywun i lanw'r bwlch.
(1, 0) 308 Gofala di am dy fusnes dy hunan.
(1, 0) 309 Rwyt ti bob amser yn ceisio codi'i llewys hi.
(1, 0) 310 Fe fyddai'n ffitiach gwaith o lawer i ti fynd i edrych am y copi 'na.
(James) Nawr!
 
(John) Fe 'allan' hw'u dwy egluro'n llawer gwell na mi.
(1, 0) 318 Pediwch â gwrando a arno, Mr. James.
(1, 0) 319 'Dwy-i ddim ond yn meddwl am y'n henw da ni fel cwmni.
(1, 0) 320 Ag heblaw hynny, 'dyw Gwen ddim wedi newid 'i gwisg eto.
(James) Wel nag yw wrth gwrs.
 
(Price) A chwithau?
(1, 0) 363 Siân Ifans.
(James) Fel roeddwn i'n...
 
(Price) Pwy sy'n canu?
(1, 0) 372 Fe fynnodd y bitsh fach ddangos 'i hunan!
(James) Un o'r merched sy'n canu, Mr. Price.
 
(Sam) Diflannwch i rywle.
(1, 0) 411 Dyna beth dwl oedd iddi ganu fel 'na.
(Sam) Llongyfarchiadau, Gwen—fe genaist yn ardderchog.
 
(Price) Meddyliwch am rywbeth, rhaid plesio'r dorf.
(1, 0) 422 'Roeddwn i'n meddwl inni ddod yma er mwyn y ddrama!
(Sam) Ble mae bocs y "make up," Mr. James?
 
(Sam) Wyt ti'n gwybod pwy fu yma gynneu, Sian?
(1, 0) 440 Pwy?
(Sam) Fe gei di dri chynnig.
 
(Sam) Fe gei di dri chynnig.
(1, 0) 442 Nid Gwilym?
(Sam) 'Roedd e'n holi amdanat ti, ond fe ddaeth Neli o rywle a'i ddwyn e' bant.
 
(Sam) {Mynd Sam dan chwerthin yn gellweirus. Ch.}
(1, 0) 446 Yr hen gythraul fach!
(John) Mae nhw'n hoffi rhywbeth fel 'na lawer yn well na'r ddrama 'i hunan.
 
(Marged) 'Fuost ti ddim yn gwrando, Siân?
(1, 0) 452 Rown i'n gallu clywed llawn digon o'r fan yma.
 
(Price) A phwy fu wrth y "make-up?"
(1, 0) 478 Fe fethodd y colurwr swyddogol ddod.
(Price) Y beth?
 
(James) Gorfu i mi wneud y gwaith er nad wy'n rhyw lawer o law arni.
(1, 0) 490 Dyma Raglen i chi, Mr. Price.
(Price) Diolch, diolch yn fawr.
 
(Price) Fe fyddai'n help i enw da y cwmni ac yn symbyliad inni allu eich gwahodd chwi yma rywdro eto.
(1, 0) 538 Oes rhyw dreuliau arnoch chi yma?
(Price) Mae'r neuadd am ddim wrth gwrs—ati hi y mae'r elw.
 
(Price) Pob hwyl a phob lwc i chwi.
(1, 0) 566 Esgusodwch fi, Mr. Price—ga' i'r rhaglen?
(Price) Chi piau hi wrth gwrs!
 
(Gwen) Fe gaiff Mr. James wybod 'i hanes hi.
(1, 0) 605 Ble mae Sam?
(1, 0) 606 Rŷm ni'n aros amdano.
(James) Fan hyn 'rwyt ti, Siân?
 
(James) Mae'r cyrten ar godi.
(1, 0) 610 'Rwy'n edrych am Sam.
(James) Mae Sam ar y llwyfan nawr.
 
(Gwen) Hmmmmmm!... ble wyt |ti| wedi bod!
(1, 0) 654 Dyma beth yw golygfa hardd.
 
(1, 0) 656 Maddeuwch i mi am aflonyddu arnoch chi.
(Gwen) {Yn hunanfeddiannol a gwawr o sbeit.}
 
(Gwen) Miss Jane Evans.
(1, 0) 660 'Rwy'n credu 'n bod ni wedi cwrdd o'r blaen diolch.
(1, 0) 661 'Dyw hi ddim yn bryd i ti fynd ar y llwyfan, Gwen?
(Gwen) 'Rwy'n gofalu am fy "nghue," diolch.
 
(Gwilym) Wyddwn i ddim y'ch bod chithau yn y cwmni, Siân.
(1, 0) 664 Mae llawer o'ch hen ffrindiau chi yma—'ddigwyddodd Gwen ddim dweud fy mod i'n perthyn iddyn' nhw?
(Gwilym) Wel... naddo.
 
(Gwilym) Wel... naddo.
(1, 0) 666 Na Neli?
(John) {A'i ben rownd y cornel. De.}
 
(John) Dere' mlaen, Gwen.
(1, 0) 669 Dyna beth rhyfedd... 'roedd Gwen yn gwneud 'i gorau i ddangos 'i hunan ar y llwyfan gynneu a dyma hi nawr heb yr un awydd ogwbwl.
(John) Dere 'mlaen, mae'n hen bryd i ni fynd i mewn!
 
(John) Dere 'mlaen, mae'n hen bryd i ni fynd i mewn!
(1, 0) 672 Mae'n amlwg fod yn rhaid tynnu Gwen oddiwrthych chi—mae'n glynnu fel aderyn bach wrth y Gwcw.
(Gwilym) 'Rŷm ni'n hen gyfarwydd—wedi bod yn y Col. gyda'n gilydd.
 
(Gwilym) Mae hi a fi fwy fel brawd a chwaer na dim arall.
(1, 0) 675 'Rown i'n meddwl hynny pan ddes i mewn nawr.
(1, 0) 676 Beth yw'ch barn chi ohoni'n canu?
(Gwilym) Canu?
 
(Gwilym) Canu?
(1, 0) 678 Nid dyna pam y daethoch chi i gefn y llwyfan?
(Gwilym) 'Wyddwn i ddim taw hi oedd yn canu.
 
(Gwilym) Efallai y bydd yn well i mi fynd rhag ofn i'ch prodiwsor chi fy nal i yma.
(1, 0) 681 'Does dim angen i chi ofni ( Yn nesu ao) Gwilym, pam na chefais i ateb i'm llythyr?
(1, 0) 682 GwrLyx: Palythyr?
(1, 0) 683 SIÂN (yn cydio yn ei law): Dewch nawr—fe wyddoch chi'n iawn.
(1, 0) 684 Fe anfonais i lythyr atoch chi i'r ysgol yn dweud y byddwn i gyda'r cwmni heno.
(1, 0) 685 ' GwiLyM: 'Chefais i'r un gair o gwbwl.
(1, 0) 686 SIAN: Ellwch chi ddim fy nhwyllo i.
(1, 0) 687 GwiLyM: 'Dwy'i ddim yn eich twyllo chi Siân—pam y dylwn i?
(1, 0) 688 Meddwl oeddwn i efallai nad oeddech chi am fy ngweld i ogwbwl.
(1, 0) 689 Maddeuwch i mi am eich camfararnu.
(Gwilym) 'Does dim byd iddi faddau.
 
(Gwilym) 'Does dim byd iddi faddau.
(1, 0) 691 Profwch hynny.
(Gwilym) Profi hynny?
 
(Gwilym) Beth sy'n eich blino chi?
(1, 0) 695 Dewch... un cusan.
(Neli) Mae'n bryd i ti fod ar y llwyfan, Siân.
 
(James) Maen' hw'n aros amdanat.
(1, 0) 703 Wedi'r ddrama, Gwilym... cofiwch.