Llwyn Brain

Ciw-restr ar gyfer Alun

(Jonah) "Ai dagr yw hon a welaf o'm blaen, a'i charn tuag ataf?
 
(Jonah) Tyrd i mewn.
(1, 1) 427 'Dydw i ddim yn eich styrbio chi, Mr. Defis?
(Jonah) Na na, dim o gwbwl.
 
(Jonah) Eistedd i lawr.
(1, 1) 430 Wedi dwad â'r llyfr yma'n ôl i Dilys rydw i.
(Jonah) O ia.
 
(Jonah) Dicw, saer-llwyfan y cwmni─
(1, 1) 437 O ia.
(Dicw) Sut ydach chi, Mr. Morus.
 
(Dicw) Mi ydw i'n siwr mod i wedi'ch cyfarfod chi o'r blaen yn rhywle.
(1, 1) 440 O mae'n debyg eich bod chi.
(1, 1) 441 Gweithio'n Swyddfa'r Cyngor Dosbarth rydw i.
(Dicw) Ia, ia, dyna fo.
 
(Dicw) Ma' hi'n dal yn ddigon oer yn tydi?
(1, 1) 445 Wel ydi ma' hi.
(Dicw) {Wrth JONAH.}
 
(Dicw) Ia, wel, mi ydw i am fynd rwan, am wn i.
(1, 1) 450 Peidiwch â gadael i mi dorri ar eich sgwrs chi.
(Dicw) Na, 'roeddwn i ar gychwyn, wyddoch chi.
 
(Jonah) P'nawn da, Dicw.
(1, 1) 461 P'nawn da.
 
(1, 1) 463 Maddeuwch i mi, Mr. Defis─mae yna olwg braidd yn ddigalon arnoch chi.
(1, 1) 464 Oes yna rywbeth allan o'i le?
(Jonah) Fedra petha fod dim gwaeth, Alun.
 
(Jonah) Newydd glywed fod Harri Huws wedi cael ei daro'n wael.
(1, 1) 467 Tewch!
(1, 1) 468 Mae'n ddrwg gen i glywed.
(1, 1) 469 Oes dim posib cael neb i gymryd ei le fo?
(Jonah) Go brin, mae arna i ofn.
 
(Jonah) A 'does ganddo ni fawr o amser.
(1, 1) 473 Mi fuaswn i'n helpu tawn i'n medru.
(1, 1) 474 Ond fuo fi 'rioed ar lwyfan.
(1, 1) 475 Does gen i ddim syniad sut i actio.
(1, 1) 476 Ydio'n bart mawr?
(Jonah) Nac ydi─ond ei fod o'n hanfodol bwysig.
 
(Jonah) Y Porthor wyddost ti.
(1, 1) 479 Meddwl roeddwn i, efalla' y buasech chi'n medru torri'r part allan.
(Jonah) Ei dorri o allan!
 
(Jonah) Fedrir mo'i hepgor o byth.
(1, 1) 490 Mae hi'n edrych yn o ddrwg felly, Mr. Defis.
(Jonah) Ydi, Alun.
 
(Jonah) Mae o'n siomiant chwerw iawn i mi.
(1, 1) 494 Beth ydi'r mater ar Harri Huws, wyddoch chi?
(Jonah) Pendics a niwmonia 'rydw i'n deall.
 
(Jonah) Pendics a niwmonia 'rydw i'n deall.
(1, 1) 496 A pha bryd mae'r perfformiad cynta'?
(Jonah) Ymhen rhyw 'chydig dros dair wythnos.
 
(Jonah) Ymhen rhyw 'chydig dros dair wythnos.
(1, 1) 498 Wel dydi hi ddim yn anobeithiol felly; Mr. Defis.
(1, 1) 499 Mae nhw'n medru gwneud gwyrthia' heddiw efo "Penicillin" ac "M and B" a'r cyffeiria' newydd yma.
(Jonah) Be'─wyt ti'n meddwl?
 
(Jonah) Be'─wyt ti'n meddwl?
(1, 1) 501 Siwr o fod i chi.
(1, 1) 502 Fydd o ddim wedi mendio'n llwyr wrth gwrs.
(1, 1) 503 Ond mi ddylai fod yn ddigon da i gymryd ei bart am un noson.