Llwyn Brain

Ciw-restr ar gyfer Dicw

(Jonah) "Ai dagr yw hon a welaf o'm blaen, a'i charn tuag ataf?
 
(Jonah) Na, does yna neb yma ond rhen wraig fy mam... mae gen i eisio gair efo ti.
(1, 1) 345 Ydach chi'n siwr nad ydw i ddim yn pethma?
(Jonah) Dim o gwbwl, tyrd i mewn.
 
(Jonah) Dim o gwbwl, tyrd i mewn.
(1, 1) 347 'Pnawn da, Mrs. Defis.
(Lisa) Hy!
 
(Lisa) Hy!
(1, 1) 349 Ma' hi'n dal yn ddigon oer.
(Lisa) Dim i'r sawl sy'n gweithio.
 
(Jonah) Eistedd i lawr am funud, Dicw.
(1, 1) 352 'Dydw i ddim yn bwriadu aros yn hir, Jonah Defis.
(1, 1) 353 Ar dipyn o frys fel mae'n digwydd bod te.
(Jonah) Twt, mi fedri sbario eiliad ne' ddau.
 
(Jonah) Wel oes gen ti ryw newydd?
(1, 1) 357 Wel oes─hynny ydi, nac oes, fawr o bwys...
 
(1, 1) 359 Ma' hi'n gyndyn o gynesu tipyn, on' 'dydi?
(Lisa) 'Rydach chi wedi deud hynna o'r blaen, ddyn!
 
(Lisa) 'Rydach chi wedi deud hynna o'r blaen, ddyn!
(1, 1) 361 Do deudwch?
(1, 1) 362 Hynny ydi─
(Jonah) Oes arnat ti eisio fy ngweld i'n brifat, Dicw?
 
(Jonah) Popeth yn iawn, 'rhen wraig, popeth yn iawn.
(1, 1) 376 P'nawn da, Mrs. Defis.
(Lisa) Hy!
 
(Jonah) Ma' nhw'n achos mwy o loes i ddyn na holl bwysa'r byd yn gyfan.
(1, 1) 382 Wel does yna ddim ond un ffordd i'w trin nhw, Jonah Defis─siarad fel hen lanc ydw i rwan─mae'n rhaid i chi roi eich traed ar eu gyddfa' nhw o'r cychwyn cynta.
(Jonah) Dydi hynna fawr o gysur i mi rwan.
 
(Jonah) Dydi hynna fawr o gysur i mi rwan.
(1, 1) 384 Ma'n syn fel mae dyn yn cael ei dwyllo ganddyn nhw.
(1, 1) 385 I fynny i ddeg oed ma'n nhw'n angylion; o ddeg i bymtheg ma'n nhw'n seintia.
(1, 1) 386 Ond ma'n nhw'n ddiawchiaid milan yn ddeugain oed, ac yn hen wrachod gythgam yn bedwar ugain!
(Jonah) Ia, 'rwyt ti'n llygad dy le.
 
(Jonah) Ond tyrd, beth oedd gen ti i ddweud?
(1, 1) 389 Wel hyn, Jonah Defis─doedd arna i ddim eisio dweud o flaen rhen wraig─mae Harri Huws wedi ei daro'n wael.
(Jonah) Be!
 
(Jonah) Be' ar y ddaear fawr wnawn ni rwan?
(1, 1) 394 Dyna'r trwbwl efo cwmni bach ynte.
(1, 1) 395 Rhywun yn mynd yn sâl, a dyna'r cwbwl yn ffliwt.
(Jonah) Tria fod dipyn mwy calonnog, da chdi!
 
(Jonah) Beth ydi'r mater arno fo?
(1, 1) 398 Pendics.
(Jonah) O wel, dydi hynny ddim mor ddrwg.
 
(Jonah) Ond mi roist ti andros o sioc i mi am funud─do 'tawn i'n glem!
(1, 1) 405 Ma' piwmonia arno fo hefyd, Jonah Defis.
(Jonah) Yr arswyd fawr, 'rwyt ti'n waeth na chysurwyr Job!
 
(Jonah) Pam na fuaset ti'n dweud y cwbwl y tro cyntaf?
(1, 1) 408 Trio torri'r newydd drwg yn ara' deg 'roeddwn i, ydach chi'n gweld ynte.
(Jonah) A throi'r gyllel yn y briw bob tro!
 
(Jonah) Niwmonia─wyt ti'n siwr?
(1, 1) 413 Ydw, yn berffaith siwr.
(1, 1) 414 'Roedd o mewn lathar o chwys neithiwr cyn mynd i'r hospital.
(1, 1) 415 A fedran' nhw ddim operatio arno fo, medda nhw, nes y daw ei wres o i lawr.
(Jonah) Harri druan─y mwyaf eiddgar o'r cwmni bach i gyd!
 
(Alun) O ia.
(1, 1) 438 Sut ydach chi, Mr. Morus.
(1, 1) 439 Mi ydw i'n siwr mod i wedi'ch cyfarfod chi o'r blaen yn rhywle.
(Alun) O mae'n debyg eich bod chi.
 
(Alun) Gweithio'n Swyddfa'r Cyngor Dosbarth rydw i.
(1, 1) 442 Ia, ia, dyna fo.
(1, 1) 443 Roeddwn i'n ama' mod i wedi'ch gweld chi o gwmpas...
(1, 1) 444 Ma' hi'n dal yn ddigon oer yn tydi?
(Alun) Wel ydi ma' hi.
 
(1, 1) 447 Biti na fuasa'r barrug yn dwad a gwres Harri Huws i lawr ynte?
 
(1, 1) 449 Ia, wel, mi ydw i am fynd rwan, am wn i.
(Alun) Peidiwch â gadael i mi dorri ar eich sgwrs chi.
 
(Alun) Peidiwch â gadael i mi dorri ar eich sgwrs chi.
(1, 1) 451 Na, 'roeddwn i ar gychwyn, wyddoch chi.
(1, 1) 452 Ar dipyn o frys.
(1, 1) 453 Oes yna rywbeth arall fedra' i wneud, Jonah Defis?
(Jonah) Na, 'r wyt ti wedi gwneud yn o dda'n barod 'laswn i feddwl!
 
(1, 1) 456 Reit─wel mi ga' i'ch gweld chi ymhellach ymlaen felly.
(1, 1) 457 Mae gen i ddigon i wneud i gael y llwyfan yn barod.
 
(1, 1) 459 P'nawn da i chi'ch dau
(Jonah) P'nawn da, Dicw.
 
(Jonah) I fyny fo'r nod felly, a phob llwyddiant, gobeithio!
(1, 1) 514 Esgusodwch fi, Jonah Defis.
(1, 1) 515 Newydd gael gair eto am Harri Huws.
(1, 1) 516 Mae clefyd cry'-cymala arno fo hefyd.
(1, 1) 517 Chaiff o ddim symud am dri mis.