Llwyn Brain

Ciw-restr ar gyfer Lisa

(Jonah) "Ai dagr yw hon a welaf o'm blaen, a'i charn tuag ataf?
 
(Jonah) Y gorchwyl gwaedlyd sy'n ymrithio hyn o flaen fy ngolwg..."
(1, 1) 21 Wyt ti'n teimlo'n iawn dwad?
(Jonah) {Troi'n sydyn.}
 
(Jonah) O helo, Mam, wyddwn i ddim eich bod chi yna.
(1, 1) 24 Na wyddet yn amlwg!
(1, 1) 25 Dyna pam roeddet ti'n mynd drwy dy stumia fel mwnci ar ben pric.
(1, 1) 26 Wyt ti'n dechra colli arnat dy hun?
(Jonah) Na, mynd drwy fy mhart yn y ddrama roeddwn i.
 
(1, 1) 29 Drama?
(1, 1) 30 Pa ddrama?
(Jonah) Wel honno ma' cwmni'r pentra'n mynd i berfformio nesa.
 
(Jonah) Roeddwn i'n meddwl eich bod yn gwybod.
(1, 1) 33 Nac oeddwn i.
(1, 1) 34 'Dydach chi'n dweud dim wrtha i be sy'n mynd ymlaen yma.
(1, 1) 35 Pawb yn mynd a dwad â'i wynt yn ei ddwrn fel cath i gythraul.
(1, 1) 36 Rhy brysur i ddweud dim wrth neb.
(Jonah) Twt, dim o'r fath beth─
 
(Jonah) Twt, dim o'r fath beth─
(1, 1) 38 Mae o'n wir bob gair, ond ei fod o'n wir hyll i ddeud.
(1, 1) 39 Manteisio arna i am mod i'n ddiniwed bach yn y gongol yma
(Jonah) Y!
 
(1, 1) 42 Ond 'dydw i ddim am ei ddiodde fo, wyt ti'n deall?
(1, 1) 43 Mi ydw inna'n rhywun hefyd.
(Jonah) Dyn annwyl, Mam, am be rydach chi'n siarad, deudwch?
 
(Jonah) Dyn annwyl, Mam, am be rydach chi'n siarad, deudwch?
(1, 1) 45 Taw am funud.
(1, 1) 46 Gad i rywun arall gael gair i mewn weithia.
(1, 1) 47 Mi ydw i wedi bod yn rhy wirion o lawer.
(1, 1) 48 Tawn i wedi rhoi fy nhroed i lawr dipyn mi fuaswn yn cael mwy o barch.
(Jonah) {Wrtho'i hun.}
 
(Jonah) Ar fengoch i!
(1, 1) 51 Be ddwedaist ti?
(Jonah) Dim ond─
 
(Jonah) Dim ond─
(1, 1) 53 Hidia befo.
(1, 1) 54 Dim o bwys reit siwr.
(1, 1) 55 Mi fedra inna fod yn indipendant hefyd yn siwr i ti.
(1, 1) 56 Ac os na fydd yna altrad mawr yn y lle yma mi fydda i'n mynd at Wmffra dy frawd i aros.
(Jonah) Na─o ddifri?
 
(Jonah) Na─o ddifri?
(1, 1) 58 Dydw i ddim wedi penderfynu eto.
(1, 1) 59 Mi gawn ni weld sut y bydd petha'n siapio.
 
(1, 1) 61 Y ddrama yna sydd gen ti─be' ydi ei henw hi?
(Jonah) Macbeth.
 
(Jonah) Macbeth.
(1, 1) 63 Y?
(Jonah) Macbeth─wyddoch chi─
 
(Jonah) Macbeth─wyddoch chi─
(1, 1) 65 Chlywais i erioed amdani.
(Jonah) Un o ddramâu mawr y byd, 'rhen wraig!
 
(Jonah) Un o ddramâu mawr y byd, 'rhen wraig!
(1, 1) 67 Oes yna bregethwr ynddi hi?
(Jonah) Pregethwr?
 
(Jonah) Nac oes debyg iawn─
(1, 1) 70 Dydi hi'n dda i ddim felly.
(1, 1) 71 Does yna ddim llawer o raen ar ddrama heb bregethwr a blaenor neu ddau.
(1, 1) 72 Dyfnder sydd arnat ti eisio mewn drama, machgen i, dyfnder.
(1, 1) 73 A digon o le i grio.
(Jonah) 'Rydach chi'n hen ffasiwn, Mam.
 
(Jonah) Pypedau yn dawnsio ar ben llinyn heb rithyn o fywyd─
(1, 1) 78 Paid â siarad drwy dy het.
(Jonah) Ond 'dydach chi ddim yn sylweddoli.
 
(Jonah) Mi ydw i'n dweud wrthych chi, Mam, mae'r cymeriadau sydd yn ei waith yn gig a gwaed fel chi a finna.
(1, 1) 88 Dim gwahaniaeth; os nad oes yna bregethwr yn eu canol nhw, rown i ddim ceiniog a dima am ei gweld hi.
(Jonah) Dyna'r hen ragfarn sy' wedi bod fel mwgwd am ein llygaid ni, Mam.
 
(Jonah) A doed a ddelo, mi ddalia i ati efo 'nghwmni bach.
(1, 1) 93 Ia, rhyw syniada mawr fuo gen ti 'rioed...
(1, 1) 94 Ond dim yn dwad ohonyn nhw, byth!
(Jonah) Mi gewch chi weld peth arall!
 
(Jonah) Mi gewch chi weld peth arall!
(1, 1) 96 Pam na actiwch chi'r "Ferch o Gefn Brith"?
(1, 1) 97 Dyna i ti ddrama os leci di!
(1, 1) 98 A dau bregethwr, a 'dwn i ddim faint o flaenoriaid.
(Jonah) Mam bach, does yna ddim symud arnoch chi!
 
(Jonah) Mam bach, does yna ddim symud arnoch chi!
(1, 1) 100 Mi ydw i wedi'i gweld hi'n cael ei hactio ddeg o weithiau.
(1, 1) 101 A chrio lond fy mol yn braf bob tro.
(Margiad) Yli, Jonah, does gen i ddim ond dwy law.
 
(Jonah) Naddo 'neno'r tad!
(1, 1) 108 Fuasa fo ddim yn clywed holl glychau Aberdyfi pan mae o'n mynd drwy 'i betha.
(Margiad) Mae o'n arw o beth fod yn rhaid i mi redeg i lawr o'r lloft a chditha'n fan'ma yn diogi'n braf.
 
(Margiad) Dy ben yn y gwynt, a rhywun arall yn gorfod gwneud y gwaith i gyd.
(1, 1) 117 Gwir bob gair!
(1, 1) 118 Byw mewn breuddwyd.
(Margiad) A'r busnas yn mynd yn llai bob dydd.
 
(Jonah) Wn i ddim pam mae eisio gwneud consart o bob mymrun lleia.
(1, 1) 126 'Rwyt ti'n gwneud drama o bob dim, lanc!
(Jonah) Twt, dydach chi ddim yn fy neall i.
 
(Jonah) Margiad bach, be ydi crys gwlanan wrth ochor Macbeth?
(1, 1) 141 Crys gwlanan ydi crys gwlanan lle bynnag y mae o.
(1, 1) 142 Hwnnw sy'n dwad â bara menyn i ti, nid Bacmeth, ne beth bynnag wyt ti'n ei alw fo.
(Jonah) Ia, ond "nid ar fara'n unig"─ac yn y blaen, cofiwch chi, Mam!
 
(Jonah) Ia, ond "nid ar fara'n unig"─ac yn y blaen, cofiwch chi, Mam!
(1, 1) 144 Paid â rhagrithio mor ryfygus!
(1, 1) 145 Oes gen ti ddim cywilydd o gwbwl, dwad?
(1, 1) 146 Dy ben yn y niwl a'r cwsmeriad yn mynd yn llai bob dydd.
(1, 1) 147 A dy wraig yn gweithio'i bysedd i'r esgyrn.
(1, 1) 148 Dydi hi ddim wedi cael het newydd ers ugain mlynedd bron─heb sôn am wsnos o holide.
(1, 1) 149 Mae gen ti galon o garreg os medri di ddal ati mor ddihitio.
(Jonah) Ond hanner munud, Mam─
 
(Jonah) Ond hanner munud, Mam─
(1, 1) 151 Paid â thorri ar fy nhraws i o hyd.
(1, 1) 152 Rho gyfle i rywun arall ddweud gair weithia.
(1, 1) 153 Nid mewn drama 'rwyt ti rwan cofia.
(1, 1) 154 Mae'n hen bryd i ti ddeffro a mynd o gwmpas dy betha, machgen i, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
(Margiad) Digon gwir.
 
(Margiad) Sut mae modd i neb ddal?
(1, 1) 162 Paid â dechra llempian yn fan'ma rwan.
(1, 1) 163 Fedra i ddim diodda neb yn snwffian o gwmpas y lle.
(1, 1) 164 Be ydi tipyn o frech goch, dwad?
(1, 1) 165 Diolcha nad ydi o ddim gwaeth.
(Jonah) Debyg iawn.
 
(Jonah) Ma' hi wedi mynd os na chaiff dyn ymddiddori mewn llenyddiaeth ar ei gora, heb gael ei gyhuddo o fod yn ddihiryn calon galed.
(1, 1) 181 Beth am y siop yna, machgen i?
(1, 1) 182 Yn fan'ma mae dy ddyletswydd gynta di.
(Margiad) Digon gwir.
 
(Jonah) Mae yna rai pobol felly─fedra' nhw yn eu byw beidio cwyno.
(1, 1) 197 Paid â bod mor goeglyd.
(1, 1) 198 Mae ganddi hi le i gwyno goelia i.
(Margiad) Tawn i wedi swnian dipyn mwy mi fuaswn yn fwy fy mharch.
 
(Margiad) Dydw i ddim am brynu dillad ar lab yn siwr i ti!
(1, 1) 222 Wyt ti'n drysu, dwad?
(Jonah) Wel be aflwydd sydd o'i le ynddo fo?
 
(Margiad) Oes gen ti ddim teimlad o gwbwl, dwad?
(1, 1) 236 Wyt ti'n mynd i ddechra llempian eto?
(1, 1) 237 'Rwyt ti'n rhy barod dy ddagra o lawer, merch i.
(Margiad) Does dim rhaid i chi gymryd ei bart o yn f'erbyn i.
 
(Margiad) Does dim rhaid i chi gymryd ei bart o yn f'erbyn i.
(1, 1) 239 O, paid â siarad mor ynfyd, da chdi!
(1, 1) 240 Mi ydw i'n gwybod sut i' drin o'n well na chdi'n amlwg.
 
(1, 1) 242 Oedd yna rywun yn cnocio, dwad?
(Margiad) John Defi reit siwr.
 
(Margiad) Beth sydd arno fo eisio sgwn i?
(1, 1) 246 O gad iddo fo am funud.
(1, 1) 247 Wnaiff o ddim drwg iddo fo ddisgwyl dipyn.
(1, 1) 248 Mae o'n mynd yn ormod o fabi-mam o lawer.
(Margiad) Edrychwch yma, Lusa Defis, mi ydw i'n gwybod sut i fagu fy mhlant heb gyngor neb, diolch yn fawr!
 
(Margiad) A fydda i ddim yn fodlon nes y bydd John Defi hefyd â'i ddyfodol yn ddiogel.
(1, 1) 253 Hy!
(Jonah) {Codi ei ben o'i lyfr.}
 
(Jonah) Gan bwy gafodd Dilys ei dychymyg byw, a'i chariad at lenyddiaeth a diddordebau'r meddwl?
(1, 1) 264 Dim cwestiwn o hynny, ma' hi'n byw mewn breuddwyd fel titha!
(Jonah) 'Does dim rhaid iddi fod cywilydd o hynny.
 
(1, 1) 276 Hei!
(Jonah) Wel!
 
(Jonah) Wel!
(1, 1) 278 'Tyrd i lawr o'r sêr am funud, wnei di?
(1, 1) 279 Beth wyt ti'n ei breglach, dwad?
(Jonah) Am fyd y dychymyg, Mam.
 
(Margiad) Wel sôn amdanaf fi'n tafodi!
(1, 1) 294 Aros am funud.
(1, 1) 295 'Rydach chi'ch dau cyn waethed â'ch gilydd.
 
(1, 1) 297 Tyrd yn ôl at y pwnc, machgan i.
(Jonah) Y!
 
(Jonah) Am be 'rydach chi'n sôn?
(1, 1) 300 'Roeddet ti'n dweud y medret ti dalu hanner can punt i Lloyd ddiwedd y flwyddyn.
(Jonah) Wel?
 
(Jonah) Wel?
(1, 1) 302 Ple 'rwyt ti'n mynd i gael yr arian?
(Jonah) Mi fydd gen i glec bach reit ddel erbyn hynny, rhen wraig, peidiwch â phoeni.
 
(Jonah) 'Roedd William Shakespeare yn ddyn busnas llwyddiannus a 'run pryd y bardd mwya' welodd y byd erioed.
(1, 1) 312 Ddaw o ddim i 'sgidia Twm o'r Nant!
(Margiad) Jonah, mi fynna i gael gwybod be'r wyt ti wedi bod yn ei wneud.
 
(Margiad) Mi ydw i'n poeni nes 'rydw i bron â drysu yn ei gownt o.
(1, 1) 323 Twt, rhwbia 'i gorn gwddw fo efo dipyn o saim gŵydd.
(1, 1) 324 Mi fydd yn iawn erbyn 'fory.
(Margiad) Mi wna i'n hollol fel 'rydw i'n leicio, Lusa Defis.
 
(Margiad) {Cau'r drws ar ei hôl.}
(1, 1) 327 Hy!
 
(1, 1) 331 Jonah!
(Jonah) {Wedi ymgolli.}
 
(Jonah) Y?
(1, 1) 334 Wyt ti'n fyddar, dwad?
(1, 1) 335 Mae yna rywun yn y siop.
(Jonah) O ia,reit.
 
(Jonah) "Dwbwl, dwbwl boen a thrwbwl, llosged tân i ferwi'r cwbwl."
(1, 1) 339 Wyt ti'n dechra arni eto?
(Jonah) O! helo, Dicw, chdi sydd yna?
 
(Dicw) 'Pnawn da, Mrs. Defis.
(1, 1) 348 Hy!
(Dicw) Ma' hi'n dal yn ddigon oer.
 
(Dicw) Ma' hi'n dal yn ddigon oer.
(1, 1) 350 Dim i'r sawl sy'n gweithio.
(Jonah) Eistedd i lawr am funud, Dicw.
 
(Dicw) Ma' hi'n gyndyn o gynesu tipyn, on' 'dydi?
(1, 1) 360 'Rydach chi wedi deud hynna o'r blaen, ddyn!
(Dicw) Do deudwch?
 
(Jonah) Oes arnat ti eisio fy ngweld i'n brifat, Dicw?
(1, 1) 364 Ma' hynny'n amlwg i bawb.
 
(1, 1) 366 Dydi o wedi gwneud dim ond bwhwman dan ei wynt ers pan mae o yma...
(1, 1) 367 O'r cry'cmala felldith yma!
(1, 1) 368 Mae o'n fy lladd i'n lân.
 
(1, 1) 370 Cariwch ymlaen efo'ch swgrsio.
(1, 1) 371 Mae o'n siwr o fod yn destun dwfn!
 
(1, 1) 373 Bydd di'n ofalus hefyd, machgan i.
(1, 1) 374 Mi ydw i â fy llygaid arnat ti!
(Jonah) Popeth yn iawn, 'rhen wraig, popeth yn iawn.
 
(Dicw) P'nawn da, Mrs. Defis.
(1, 1) 377 Hy!