Llwyn Brain

Ciw-restr ar gyfer Margiad

(Jonah) "Ai dagr yw hon a welaf o'm blaen, a'i charn tuag ataf?
 
(Lisa) A chrio lond fy mol yn braf bob tro.
(1, 1) 103 Yli, Jonah, does gen i ddim ond dwy law.
(1, 1) 104 A fedra i ddim bod mewn dau le ar unwaith.
(Jonah) Be sy'n bod, Margiad?
 
(Jonah) Be sy'n bod, Margiad?
(1, 1) 106 Wyt ti ddim wedi clywed cloch y siop yna'n canu ers meityn?
(Jonah) Naddo 'neno'r tad!
 
(Lisa) Fuasa fo ddim yn clywed holl glychau Aberdyfi pan mae o'n mynd drwy 'i betha.
(1, 1) 109 Mae o'n arw o beth fod yn rhaid i mi redeg i lawr o'r lloft a chditha'n fan'ma yn diogi'n braf.
(Jonah) Diogi?
 
(Jonah) Cofia 'mod i wedi ei chyfieithu hi hefyd─
(1, 1) 114 Twt, chdi a dy ddrama!
(1, 1) 115 Dwyt ti'n meddwl am ddim arall.
(1, 1) 116 Dy ben yn y gwynt, a rhywun arall yn gorfod gwneud y gwaith i gyd.
(Lisa) Gwir bob gair!
 
(Lisa) Byw mewn breuddwyd.
(1, 1) 119 A'r busnas yn mynd yn llai bob dydd.
(1, 1) 120 Siop wir!
(1, 1) 121 Mi fydd yr hwch drwyddi gyda hyn.
(Jonah) Yli, Margiad, paid â thafodi gymaint da chdi.
 
(Jonah) Rhaid mynd at y cwsmar.
(1, 1) 133 Dim eisio i ti fynd rwan.
(1, 1) 134 Mi ydw i wedi gofalu amdano fo.
(Jonah) O wel, dyna fo felly...
 
(Jonah) Pwy oedd o?
(1, 1) 137 Tomos Morgan, Ocsiwniar.
(1, 1) 138 Mi wyddost mor groen-dena ydi o.
(1, 1) 139 Mi fuaset yn dy golled o werthu crys gwlanan.
(Jonah) Margiad bach, be ydi crys gwlanan wrth ochor Macbeth?
 
(Lisa) Mae'n hen bryd i ti ddeffro a mynd o gwmpas dy betha, machgen i, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
(1, 1) 155 Digon gwir.
(1, 1) 156 Mi ydw i wedi dal heb gwyno'n rhy hir, fel roeddwn i wiriona.
(1, 1) 157 Ond mae yna derfyn ar amynedd y gora.
(1, 1) 158 A ma' hi wedi dwad i'r pen.
 
(1, 1) 160 Bob dim ar draws ei gilydd─busnas yn mynd i lawr a John Defi efo'r frech goch.
(1, 1) 161 Sut mae modd i neb ddal?
(Lisa) Paid â dechra llempian yn fan'ma rwan.
 
(Jonah) Rhan o'i dyfiant o.
(1, 1) 170 Dydio ddim yn beth naturiol iddo fo golli ei lais yn llwyr.
(1, 1) 171 A dyna'r Steddfod Genedlaethol ymhen pythefnos.
(1, 1) 172 Cam cyntaf ei yrfa fo.
(1, 1) 173 'Roedd o mor saff o'r wobr gynta ar yr unawd soprano â mod in' sefyll yn fan'ma.
(1, 1) 174 Ond dyna fo, be ydi'r iws siarad?
(1, 1) 175 Does gen ti ddim mymryn o ddiddordeb ond yn dy betha dy hun.
(Jonah) Yli, Margiad, dydi hynna ddim yn wir.
 
(Lisa) Yn fan'ma mae dy ddyletswydd gynta di.
(1, 1) 183 Digon gwir.
(1, 1) 184 Fydd yna ddim cerpyn ar y silff i werthu gyda hyn.
(Jonah) O paid â rwdlian yn wirion da chdi!
 
(Jonah) Mi fyddwn yn gwerthu fel slecs wedyn.
(1, 1) 192 Wel prysured y gaea' ddweda i, ne mi fyddwn wedi llwgu yma!
(Jonah) O, dyna hi eto!
 
(Lisa) Mae ganddi hi le i gwyno goelia i.
(1, 1) 199 Tawn i wedi swnian dipyn mwy mi fuaswn yn fwy fy mharch.
(1, 1) 200 Dydi o ddim yn sylweddoli bod yn rhaid i wraig siopwr fyw i fyny i'w safle.
(1, 1) 201 Mi ydw i'n teimlo fy hun yn flerach na neb yn y lle yma.
(1, 1) 202 Mae gen i gywilydd mynd allan bron.
(Jonah) Yli, dos i nôl dillad i chdi dy hun o dy gorun i dy sowdwl.
 
(Jonah) Ma' hi fel cynhebrwng parhaus yma.
(1, 1) 207 Pwy sy'n mynd i dalu?
(Jonah) Wel fi, debyg iawn.
 
(Jonah) Wel fi, debyg iawn.
(1, 1) 209 Mae o'n mynd i gostio rhyw hanner cant o bunna i ti.
(Jonah) Nefoedd fawr─hanner cant?
 
(Jonah) Nefoedd fawr─hanner cant?
(1, 1) 211 Wel 'dydw i ddim am brynu rhyw sothach rhad yn siwr i ti.
(Jonah) O'r gora, dyna fo!
 
(Jonah) Os oes rhaid eu cael nhw 'does yma ddim diben mewn dadla.
(1, 1) 214 Wel?
(Jonah) Wel be?
 
(Jonah) Wel be?
(1, 1) 216 Lle mae'r arian?
(Jonah) Dos i ordro be sydd arnat ti eisio.
 
(Jonah) Dwad wrth Lloyd am ei roi o i lawr ar fy nghownt i.
(1, 1) 219 Be!
(1, 1) 220 Dim o gwbwl.
(1, 1) 221 Dydw i ddim am brynu dillad ar lab yn siwr i ti!
(Lisa) Wyt ti'n drysu, dwad?
 
(Jonah) Mi fydd o'n siwr o'i arian cyn diwedd y flwyddyn.
(1, 1) 226 Wyt ti'n meddwl am funud y buaswn i'n mynd at Lloyd o bawb heb arian parod?
(1, 1) 227 Yr hen siswrn mwya' crintachlyd yn yn y lle yma!
(1, 1) 228 A'i wraig o sy' gymaint o ledi fawr!
(1, 1) 229 Mi fuasa' sôn amdana i drwy'r sir cyn pen wythnos.
(Jonah) Wel tawn i'n glem!
 
(Jonah) {Troi ei gefn a gafael mewn llyfr.}
(1, 1) 232 Mi fuasa'n well gen i fynd o gwmpas mewn barclod brâs a chlocsia na gofyn am hances-boced am ddim ganddyn nhw!
 
(1, 1) 234 Sut y medri di feddwl am y fath beth?
(1, 1) 235 Oes gen ti ddim teimlad o gwbwl, dwad?
(Lisa) Wyt ti'n mynd i ddechra llempian eto?
 
(Lisa) 'Rwyt ti'n rhy barod dy ddagra o lawer, merch i.
(1, 1) 238 Does dim rhaid i chi gymryd ei bart o yn f'erbyn i.
(Lisa) O, paid â siarad mor ynfyd, da chdi!
 
(Lisa) Oedd yna rywun yn cnocio, dwad?
(1, 1) 243 John Defi reit siwr.
 
(1, 1) 245 Beth sydd arno fo eisio sgwn i?
(Lisa) O gad iddo fo am funud.
 
(Lisa) Mae o'n mynd yn ormod o fabi-mam o lawer.
(1, 1) 249 Edrychwch yma, Lusa Defis, mi ydw i'n gwybod sut i fagu fy mhlant heb gyngor neb, diolch yn fawr!
(1, 1) 250 Mi ydw i wedi llwyddo'n o lew hyd yn hyn rydw i'n meddwl.
(1, 1) 251 Mae Dilys wedi cychwyn ar ei gyrfa.
(1, 1) 252 A fydda i ddim yn fodlon nes y bydd John Defi hefyd â'i ddyfodol yn ddiogel.
(Lisa) Hy!
 
(Jonah) Paid â chymryd y clod i gyd da chdi!
(1, 1) 258 Fuost ti erioed â dy ddau droed ar y ddaear, Jonah.
(1, 1) 259 'Rwyt ti'n llawn o ryw blania mawr niwlog bob amser.
(1, 1) 260 Ond fi sydd wedi edrych ar ffeithia wyneb yn wyneb, a rhoi nod i'r plant y medran' nhw gyrraedd ato fo.
(Jonah) {Cau ei lyfr.}
 
(Jonah) Gyda phob parchedig barch, Margiad annwyl, does gen ti ddim mwy o ddychymyg na chwningan!
(1, 1) 285 O!
(Jonah) Mae o'n wir, Margiad.
 
(Jonah) Ond da chdi, paid â hawlio'r clod i gyd.
(1, 1) 293 Wel sôn amdanaf fi'n tafodi!
(Lisa) Aros am funud.
 
(Jonah) A newydd ddweud nad ydi fy nau droed i byth ar y ddaear!
(1, 1) 307 Beth wyt ti wedi bod yn 'i wneud felly?
(Jonah) Hidia di befo, 'rhen chwaer.
 
(Lisa) Ddaw o ddim i 'sgidia Twm o'r Nant!
(1, 1) 313 Jonah, mi fynna i gael gwybod be'r wyt ti wedi bod yn ei wneud.
(Jonah) Yn f'amser fy hun, Margiad bach, dim cynt.
 
(Jonah) A fydd gen ti ddim achos cwyno am brinder dillad chwaith!
(1, 1) 318 John Defi!
(1, 1) 319 'Roeddwn i wedi anghofio.
(1, 1) 320 A does gen y peth bach ddim llais i weiddi.
 
(1, 1) 322 Mi ydw i'n poeni nes 'rydw i bron â drysu yn ei gownt o.
(Lisa) Twt, rhwbia 'i gorn gwddw fo efo dipyn o saim gŵydd.
 
(Lisa) Mi fydd yn iawn erbyn 'fory.
(1, 1) 325 Mi wna i'n hollol fel 'rydw i'n leicio, Lusa Defis.