Y Llyffantod

Ciw-restr ar gyfer Desc

(Harmonia) Yli!
 
(0, 1) 2 Golygfa 1
(0, 1) 3 Mae Nicias yn eistedd yn fyfyrgar ar y llwyfan-ffedog.
(0, 1) 4 Dealler mai ar lan afonig y mae, ac o bryd i'w gilydd clywir crawcian y llyffantod yn y brwyn cyfagos.
(0, 1) 5 Cymer ambell ddracht o botel win sydd ganddo, a thoc, dengys ei werthfawrogiad ohono drwy fytheirio'n hyglyw a chyda boddhad amlwg.
(0, 1) 6 ~
(0, 1) 7 Yna, heb yn wybod iddo, daw Iris, ei wraig, a Harmonia, ei fam-yng-nghyfraith, i'r golwg o'r ochr arall.
(0, 1) 8 Safant mewn syndod.
(Harmonia) Yli!
 
(Iris) Ond mam, rhaid bod yna ryw reswm!
(0, 1) 21 Daw'r ddwy ymlaen at Nicias.
(Iris) Wel?
 
(Harmonia) Egwyddor wir, a thitha ddim uwch baw-sawdl!
(0, 1) 95 Exit lris a Harmonia.
(Nicias) Diolch am funud o heddwch!
 
(Nicias) Affliw o ddim ond cyrn ar ei ddwylo, a chrys chwyslyd ar ei gefn.
(0, 1) 103 Daw merch ifanc ymlaen gyda phecyn o bamffledi.
(Merch) Gymerwch chi bamffled?
 
(Nicias) A gobeithio y bydd Cerberws yn brathu eich, be-ydach chi'n alw... sodla"!
(0, 1) 144 O dan ddylanwad y gwin mae'n syrthio i gysgu.
(0, 1) 145 Miwsig addas.
(0, 1) 146 Ymddengys Dionysos wedi'i wisgo fel twristiad nodweddiadol, gyda'i gamera a'i recordydd-tâp.
(0, 1) 147 Mae'n cario cas mawr trwm.
(0, 1) 148 Daw at Nicias ac edrych arno, ac ar ôl ennyd neu ddau mae hwnnw'n agor ei lygaid.
(0, 1) 149 Y miwsig yn distewi.
(Dionysos) Roeddech chi'n bwrw drwyddi'n o arw funud yn ôl, gyfaill.
 
(Nicias) Cario'r bag yna?
(0, 1) 184 Nid yw Dionysos yn ateb.
(0, 1) 185 Saif ac edrych o'i amgylch.
(Dionysos) Welais i erioed wlad mor dlos â hon.
 
(Nicias) Cil-dwrn, fel tae....
(0, 1) 197 Saib, Dionysos yn meddwl.
(Dionysos) Rwyt ti'n gyfarwydd â'r Ddinas?
 
(Nicias) Be ydach chi'n i ddweud?
(0, 1) 204 Mae Dionysos yn arogli'r botel win.
(Dionysos) Sothach!
 
(Nicias) Mi ydw i'n gry fel ceffyl.
(0, 1) 241 Cymer y cas mawr
(Nicias) Dowch ar f'ôl i rwan.
 
(Nicias) Dyma'r ffordd ora i'r Ddinas.
(0, 1) 244 Mae Nicias yn arwain y ffordd oddi ar y llwyfan.
(0, 1) 245 Ar ôl ennyd neu ddau, agorir y llenni a gwelir nifer o rostra yn cynrychioli sgwâr yn Athen.
(0, 1) 246 Mae nifer o bobl yma ac acw, rhai'n eistedd; rhai'n sgwrsio, eraill yn darllen papur-newydd neu chwarae cardiau ac yn y blaen.
(0, 1) 247 Mae'r Côr — a fydd ar brydiau'n ymrannu'n ddau grŵp — yn sefyll gyda'i gilydd yn weddol agos i ffrynt y llwyfan.
(0, 1) 248 Daw Dionysos a Nicias at y gris sy'n codi o'r gynulleidfa i'r llwyfan, a phetruso yno am ychydig.
(0, 1) 249 Mae un o'r Côr yn eu gweld a thynnu sylw'r lleill atynt.
(Blaenor y Côr) Edrychwch!
 
(Côr) Ar ogoniannau adfeiliedig ein gorffennol.
(0, 1) 267 Gwelir rhywun yn mynd at y ddau ymwelydd
(Côr) Ond dacw rywun yn mynd atyn nhw i ysgwyd llaw,
 
(Côr) Er gwaetha gwae y rhyfel.
(0, 1) 271 Mae Dionysos yn dringo'r gris o'r llawr i'r llwyfan a Nicias yn honcian yn llafurus ar ei ôl.
(0, 1) 272 Rhydd y cas yn ofalus i lawr ac eistedd ar un o'r rostra i gael ei wynt ato.
(Dionysos) Wedi blino?
 
(Dionysos) Mi ddo i'n ôl yn y man.
(0, 1) 280 Mae Dionysos yn cerdded hwnt ac yma i edrych ar y bobl gyda'u gwahanol ddiddordebau, ond does neb yn cymryd y sylw lleiaf ohono.
(0, 1) 281 Yn sydyn, clywir cyffro, a daw dau ddyn i'r golwg yn hebrwng dyn arall rhyngddynt â'i arddyrnau mewn cyffion.
(0, 1) 282 Gwelir nifer o bobl ifainc yn ceisio'u rhwystro.
(Pobl Ifainc) Gormes!
 
(Pobl Ifainc) Gwarth!
(0, 1) 289 Teflir y gwrthwynebwyr o'r fordd gan y ddau dditectif ac ânt â'r carcharor ar draws y sgwâr ac o'r golwg, heb i neb gymryd fawr sylw ohonynt.
(0, 1) 290 Daw Dionysos yn ôl at Nicias.
(Dionysos) Beth oedd y cyffro yna?
 
(Nicias) A chyfarth fel dau gi ar ei gilydd.
(0, 1) 320 Daw llais drwy'r corn-siarad.
(Llais) Atheniaid!
 
(Côr) Neu garu!
(0, 1) 343 Erbyn hyn mae'r rhan fwyaf o'r bobl wedi ymgynnull ger un o'r rostra, a gwelir Cleon yn dringo arno.
(0, 1) 344 Adwaith cymysglyd gan ei gynulleidfa.
(Nicias) Cleon ydy hwn, Syr.
 
(Pobl Ifainc) {Ac yn y blaen}
(0, 1) 386 Mae rhai yn y dyrfa yn bygwth troi'n erbyn y protestwyr, ond atelir hwy gan Cleon.
(Cleon) Na, na hidiwch nhw, Gyfeillion.
 
(Llais) Cocos!
(0, 1) 403 Rhai o'r dyrfa'n chwerthin
(Cleon) Nid dyma'r amser i gellwair, Gymrodyr.
 
(Cleon) Am gynhesrwydd cariad mam!
(0, 1) 413 Mae Cleon fel petai'n brwydro i reoli ei deimladau.
(Dionysos) Denwr dagrau da!
 
(Cleon) Dyna'r ffordd i sicrhau gwell Athen i'n plant ac i blant ein plant.
(0, 1) 451 Adwaith cymysglyd o'r gynulleidfa
(Cleon) Ac fel ernes o'n ffydd yn y dyfodol, gwelodd y Llywodraeth yn dda i godi'r pensiwn henoed ddau swllt yr wythnos!
 
(Cleon) Ac fei rhown â'r pleser mwya!
(0, 1) 455 Adwaith cymysglyd eto a gwelir Cadmos yn dringo ar rostrwm arall.
(Cadmos) {Codi ei lais}
 
(Cadmos) Rhagrith!
(0, 1) 458 Mae'r dyrfa'n troi oddi wrth Cleon i wrando ar Cadmos.
(Nicias) Cadmos ydy hwn, Syr, Llefarydd yr Oligarchiaid — yr Wrth-Blaid.
 
(Cadmos) Na chorddi eich teimladau efo ffregod barddonllyd ffug.
(0, 1) 473 Adwaith cymysglyd y dyrfa.
(Cadmos) Fe glywsoch Cleon rwan yn rhestru cardod prin ei Blaid fel tae o'n fendith hael o'r nef.
 
(Cadmos) Ac Athen yn gwaedu'n raddol i farwolaeth.
(0, 1) 490 Adwaith y dyrfa eto.
(Cadmos) Fy neges i yn syml ydy hyn — heddwch!
 
(Cadmos) Heddwch cyn i Athen fynd yn sarn, a dim ar ôl ond pentwr o adfeilion myglyd!
(0, 1) 497 Adwaith cymysglyd.
(Lleisiau) Rhagrithiwr arall!
 
(Lleisiau) Socrates?
(0, 1) 503 Yn ystod y cynnwrf daw Cadmos a Cleon i lawr oddi ar eu rostra a mynd ymaith i annerch cynulleidfa mewn rhan arall o'r Ddinas.
(Côr B) Roedd hynna i gyd yn swnio'n dda!
 
(Dionysos) Wyt ti'n sylweddoli be sydd yn y fantol?
(0, 1) 525 Daw llais drwy'r corn-siarad.
(Llais) Dalier sylw.
 
(Llais) Dyna ddiwedd y datganiad.
(0, 1) 532 Erbyn hyn mae'r bobl wedi mynd yn ôl at eu gweithgareddau a'u diddordebau blaenorol.
(0, 1) 533 Nid oes neb yn cymryd nemor ddim sylw o'r datganiad ar wahân i'r grŵp ifanc a fu'n protestio eisoes.
(0, 1) 534 Mae'n nhw'n sefyll fel petaent wedi'u syfrdanu.
(Côr A) Be ddwedodd o — Socrates yn y Ddalfa?
 
(Nicias) Reit, Syr.
(0, 1) 559 Mae Dionysos yn mynd at y grŵp sy'n chwarae cardiau, gyda'i recordydd-tâp, a'r meicroffon yn ei law.
(Dionysos) Esgudowch fi, gyfeillion.
 
(Dionysos) Beth am Socrates?
(0, 1) 571 Mae un o'r chwaraewyr yn amlwg wedi twyllo
(Dyn 1) {Taflu ei gardiau i lawr}
 
(Dyn 1) Paid â sgyrnygu arna i, mêt!
(0, 1) 581 Mae'r ddau yn mynd i yddfau'i gilydd.
(0, 1) 582 Daw'r lleill rhyngddynt, ac o'r diwedd mae'r cyffro'n tawelu.
(Dyn 1) {Eistedd}
 
(Dyn 2) Reit, twrn pwy ydy hi?
(0, 1) 589 A'r chwarae ymlaen, try Dionysos at hen wraig sy'n croesi'r sgwâr.
(Dionysos) Hanner munud, rhen wraig.
 
(Hen Wraig) Digon gwir!
(0, 1) 627 Exit yr hen wraig dan fwmial.
(0, 1) 628 Try Dionysos at ddyn busnes llewyrchus yr olwg a ddaw heibio
(Dionysos) Eich pardwn, Syr.
 
(Dyn Busnes) Dyma rai o'm gweithwyr yn dwad rwan.
(0, 1) 647 Pwyntio at ddau ddyn mewn dillad peirianwyr yn dod heibio
(Dyn Busnes) Mwynhewch eich gwylia.
 
(Gweithiwr 1) Mi fydd dyn biau'r drol yn tantro eto!
(0, 1) 664 Exit y gweithwyr.
(0, 1) 665 Daw merch ifanc heibio.
(Dionysos) Maddeuwch i mi, os gwelwch yn dda.
 
(Merch) Da boch, cariad.
(0, 1) 690 Exit y ferch, edrych Dionysos ar y weddw am ennyd, yna try at y grŵp ifanc.
(Dionysos) Ga' i air bach, os gwelwch yn dda?
 
(Llanc) Mae rhai ohonon ni yn y carchar yn barod.
(0, 1) 696 Maent yn troi eu cefnau arno ac o'r diwedd try yntau at 'y côr.
(Dionysos) Atheniaid!
 
(Côr) Hyd yn oed, yn gwegian uwch y gwagle.
(0, 1) 725 Mae'r côr yn mynd allan, a thywyllir y llwyfan i gyd ac eithrio pelydryn ar Dionysos a Nicias.
(Nicias) Dim llawer o dderbyniad, Syr?
 
(Dionysos) A nawdd-dduw'r Ddrama, ia, Nicias.
(0, 1) 787 Mae Nicias yn sefyll yn syfrdan, fel tae'n ansicr beth i'w wneud.
(0, 1) 788 Tyn ei gap a disgyn yn drwsgl ar un ben-lin.
(0, 1) 789 Rhydd Dionysos arwydd iddo godi ar ei draed.
(Dionysos) Does dim angen y sioe ymgreinio yna.
 
(Dionysos) Fydda i ddim yn hir.
(0, 1) 863 Exit Dionysos.
(0, 1) 864 Saib ennyd
(Nicias) {Eistedd yn araf}
 
(Nicias) Nefoedd yr adar!
(0, 1) 868 Llen neu dywyllwch.
(0, 2) 869 Golygfa 2
(0, 2) 870 Gwelir Nicias yn dal i eistedd yn fyfyrgar fel o'r blaen.
(0, 2) 871 Daw un o'r dynion a oedd yn chwarae cardiau ato.
(Dyn 1) Hei!
 
(Dyn 1) Dowch yma, brysiwch!
(0, 2) 942 Mae'r gweddill o'r grŵp yn gadael eu chwarae cardiau, a dod atynt.
(Dyn 2) Be sy'n bod?
 
(Dyn 2) Ne wnei di ddim dweud!
(0, 2) 959 Daw y ferch ifanc heibio.
(Merch) Be sy'n bod hogia?
 
(Merch) Tyrd efo fi, a mi gei di awr yn y nefoedd!
(0, 2) 969 Pawb yn chwerthin.
(0, 2) 970 Daw'r hen wraig fyddar heibio.
(Dyn 3) Hei, rhen wraig, hoffech chi drip i Hades?
 
(Dyn 3) Wyt ti am drio'n nadu ni, y ceiliog dandi!
(0, 2) 987 Wrth weld y lleill yn dechrau symud tuag ato yn fygythiol, saif Nicias ar ei draed i'w amddiffyn ei hun, a'r cas.
(0, 2) 988 Mae'n sgarmes mewn dim, a phery hyn am ennyd, nes yr ymddengys Dionysos.
(0, 2) 989 Y foment honno, mae ei ymosodwyr yn cilio'n ôl oddi wrth Nicias.
(0, 2) 990 Erbyn hyn, gwelir bod Dionysos wedi newid i ddillad ffurfiol, fel dyn busnes llewyrchus ar ei ffordd i'r swyddfa — siaced ddu, trowsus streip, het-galed ac ymbarel.
(Dionysos) {Yn dawel}
 
(Dionysos) Cael tipyn o hwyl?
(0, 2) 993 Try'r bechgyn yn llechwraidd a mynd ymaith.
(Dionysos) Wel, Nicias, dyma fi wedi dwad yn f'ôl.
 
(Nicias) Mi wyddoch fel mae'r merched yma.
(0, 2) 1021 Daw Iris i'r golwg
(Dionysos) Hon ydy hi?
 
(Iris) Dydd da ichi, Syr.
(0, 2) 1053 Exit Iris
(Dionysos) Mae gen ti wraig dda yn honna, Nicias.
 
(Dionysos) A chymer ofal o'r cas yna.
(0, 2) 1060 Exit Dionysos.
(0, 2) 1061 Cwyd Nicias ei ysgwyddau wrth dderbyn yr anochel.
(0, 2) 1062 Yna cymer y cas a dilyn Dionysos oddi ar y llwyfan.
(0, 2) 1063 Gostynger y goleuadau.
(0, 2) 1064 Pan ddônt i fyny drachefn nid oes neb ar y llwyfan ond ar ôl ennyd neu ddau, daw Dionysos a Nicias i'r golwg, yn edrych braidd yn flinedig, fel petaent wedi bod yn teithio am hir.
(0, 2) 1065 Dealler eu bod wedi cyrraedd glan yr afon Stycs.
(Nicias) {Saif yn flinedig.}
 
(Dionysos) Eto!
(0, 2) 1114 Mae Nicias yn ufuddhau.
(Dionysos) Unwaith eto.
 
(Dionysos) Yn uwch!
(0, 2) 1118 Mae Nicias yn ymdrechu'n lew, yna clywir llais Charon o'r pellter.}
(Charon) {Draw}
 
(Dionysos) Dyma fo'n dwad.
(0, 2) 1123 Daw Charon i'r golwg yn ei gwch — hwnnw'n symud, mae'n debyg, ar olwynion anweledig — a gwthir ef ymlaen drwy gymorth polyn.
(0, 2) 1124 Mae gan Charon gap pig-gloyw, siersi-longwr las ac esgidiau bysgota.
(Charon) {A'i dymer yn fyr}
 
(Dionysos) lawn.
(0, 2) 1225 Mae Nicias yn cymryd y polyn a sefyll yn simsan yn y cwch.
(0, 2) 1226 Eistedd Charon o flaen Dionysos.
(Charon) Tawn i yn eich lle chi, Syr, mi fyddwn i'n agor yr ymbarel yna.
 
(Charon) Reit, i ffwrdd â ni!
(0, 2) 1233 Mae Nicias yn meimio pwnio'r cwch ymlaen.
(0, 2) 1234 Gostynger y goleuadau yn araf.
(Dionysos) Mae hi'n tywyllu'n fuan iawn, Charon!
 
(Charon) Siawns na phery'r tarth ddim yn hir.
(0, 2) 1242 Tywyller y llwyfan yn llwyr.
(0, 2) 1243 Clywir eu lleisiau ohono.
(Nicias) Dwy' i'n gweld affliw o ddim!
 
(Charon) Pwnia'n gyflymach a mi gynhesi!
(0, 2) 1252 Clywir sŵn Nicias yn tuchan wrth ymdrechu'n galed
(Dionysos) Mae hi'n dechra golueo ychydig draw acw rwy'n credu.
 
(Charon) Gofal rwan, beth bynnag ydy d'enw di hefyd!
(0, 2) 1257 Daw goleuadau i fyny ychydig gyda llewyrch gwyrdd a gwelir cysgodion y llyffantod ar y rostra sydd y tro hwn yn cynrychioli creigiau a cherrig yng nghanol yr Afon Stycs.
(0, 2) 1258 Clywir miwsig "Llyffantaidd" yn y cefndir, ynghŷd â chrawcian.
(Nicias) Be ydi'r sŵn yna, d'wedwch?
 
(Charon) Chawn ni ddim mynd ymlaen ganddyn nhw am dipyn.
(0, 2) 1266 Cryfhaer y goleuadau a'r miwsig.
(0, 2) 1267 A gwelir y llyffantod yn dawnsio.
(0, 2) 1268 Ar ddiwedd y ddawns, mae Nicias ar fin ail-ddechrau pwnio'r cwch ymlaen
(Charon) Paid!
 
(Côr y Llyffantod) Peidiwch, da chi, â'i ddifetha.
(0, 2) 1354 Ar ôl y corawd hwn, gostynger y goleuadau ychydig, tra bo'r llyffantod yn dawnsio o'r golwg
(Nicias) Mae hi'n dechrau twyllu eto!
 
(Charon) Hidia di befo, pwnia ymlaen.
(0, 2) 1358 Mae Nicias yn meimio pwnio gyda'r polyn.
(0, 2) 1359 Miwsig i fyny ychydig, yna cryfhaer y goleuadau unwaith eto, y tro hwn gyda llewyrch melyn
(Charon) Gofal rwan, rydan ni bron wedi cyrraedd.
 
(Charon) Reit, rho'r polyn i mi.
(0, 2) 1364 Rhydd Nicias y polyn i Charon, a gesyd hwnnw ef yn ofalus yn y cwch.
(0, 2) 1365 Yna mae'n neidio i'r lan, a meimio rhwymo'r cwch yn ddiogel
(Charon) Rwan, y cas yna, gynta.
 
(Dionysos) Gair bach yn dy glust.
(0, 2) 1375 Gwelir Dionysos yn sibrwd yng nghlust Charon.
(0, 2) 1376 Ar y cyntaf, mae hwnnw'n ysgwyd ei ben yn bendant fel petai'n anghytuno'n llwyr â chais Dionysos.
(0, 2) 1377 Yna, dan berswâd, ymddengys, toc, ychydig yn fwy bodlon.
(Charon) Ia, wel, os ydach chi'n dweud, Syr.
 
(Dionysos) Ond cystal inni eistedd nes y daw o.
(0, 2) 1417 Mae Dionysos yn eistedd ar rostrwm isel ond saif Nicias yn ofnus ar ei draed.
(Dionysos) Ofn?
 
(Dionysos) Tyrd â'r cas yna i mi.
(0, 2) 1424 Rhydd Nicias y cas iddo, ac ar ôl ei agor mae Dionysos yn tynnu dwy botel allan.
(0, 2) 1425 Rhydd un i Nicias.
(Nicias) I mi?
 
(Dionysos) Eistedd.
(0, 2) 1431 Eistedd Nicias.
(0, 2) 1432 Mae Dionysos yn agor ei botel a chymryd dracht ohoni, ond saif Nicias fel petai'n ansicr beth i'w wneud.
(Dionysos) Be sy'n bod?
 
(Dionysos) Ust!
(0, 2) 1500 Clywir sŵn fel drwm draw.
(Nicias) Yr arswyd!
 
(Dionysos) A chofia beth ddwedais i — dim gair nes bydd rhaid iti!
(0, 2) 1504 Mae'r sŵn yn cynyddu a daw Cerberws i'r golwg.
(0, 2) 1505 Plisman yw ar gefn beic.
(0, 2) 1506 Ar ôl rhoi'r beic o'r neilltu a thynnu'r clipiau oddi ar odrau ei drowsus, daw atynt yn awdurdodol.
(0, 2) 1507 Try Nicias ei ben y ffordd arall.
(Cerberws) Wel, beth ydy peth fel hyn?
 
(Cerberws) Finna, wedyn yn dechra teimlo... dechra teimlo'n gysglyd... hynny ydy... ia... cysglyd... cysglyd... c... y... s... g... l... y... d...!
(0, 2) 1687 Mae pen Cerberws yn disgyn ac yntau'n cysgu â'i geg yn llydan agored.
(Dionysos) Dyna ni, rwy'n credu, Nicias!
 
(Nicias) Reit.
(0, 2) 1700 Maent yn mynd heibio i Cerberws ar flaenau eu traed.
(Dionysos) Y ffordd yma.
 
(Dionysos) Ymlaen â ni felly.
(0, 2) 1705 Exit Dionysos a Nicias.
(0, 2) 1706 Mae Cerberws yn dal i chwyrnu cysgu.
(0, 2) 1707 Tywyller y llwyfan neu cauer y llenni
(0, 3) 1708 Golygfa 3
(0, 3) 1709 Llwyfan gwag, a llewych coch ar y goleuadau, yna daw Dionysos a NIciAs i'r golwg, ac y mae'n amlwg iddyn nhw deithio'n hir
(Dionysos) Wedi blino?
 
(Dionysos) Edrych — dyma realaeth y felltith arbennig honno ar ei gwaethaf:
(0, 3) 1751 Daw nifer o bobl ar draws y llwyfan yn dioddef pangau eithaf cyffuriau.
(0, 3) 1752 Ânt o'r golwg yr ochr arall.
(Nicias) Arswyd y byd, wnes i ddim sylweddoli, w'chi!
 
(Dionysos) Dyma iti felltith sydd mor hen â'r ddynoliaeth ei hun:
(0, 3) 1756 Clywir sŵn rhyfel — er enghraifft ffrwydradau, ergydion magnelau ac yn y blaen.
(0, 3) 1757 Ar yr un pryd, gwelir fflachiadau ar y seiclorama i awgrymu tân, ac amrywiol oleuadau ynglŷn â brwydr.
(0, 3) 1758 Yna tawelwch.
(0, 3) 1759 ~
(0, 3) 1760 Lliw coch ar y seiclorama, miwsig yn y cefndir — awgrymaf Adagio yn G {Trefniant Giazotto} gan Tomas Albinoni
(0, 3) 1761 ~
(0, 3) 1762 Yna daw côr o ferched ymlaen yn araf, gydag ystum trallod Groegaidd.
(0, 3) 1763 Safant yn grŵp fel silŵet yn erbyn cochni'r cefndir.
(0, 3) 1764 Ennyd o ddistawrwydd ac eithrio'r miwsig isel yn y cefndir.
(0, 3) 1765 Mae Dionysos yn tynnu ei het, a Nicias ei gap.
(Côr) Mae tawelwch yn ein pentre ni heddiw,
 
(Côr) A bod ein gwaed yn staenio'r canrifoedd.
(0, 3) 1811 Cryfhaer y miwsig ychydig tra bo'r merched yn mynd oddi ar y llwyfan.
(0, 3) 1812 Daw'r goleuadau i fyny.
(Nicias) Wyddoch chi be, dwy' i ddim yn teimlo'n benisel yn amal.
 
(Dionysos) A hyd yma, che'st ti ddim ond cipolwg ar ei ymylon.
(0, 3) 1817 Tywyller y tu ôl i'r llwyfan, neu tynner y llenni-canol yn araf er mwyn darparu ar gyfer yr olygfa nesaf ym mhencadlys Plwton.
(Nicias) 'Does arna i ddim eisio gweld mwy.
 
(Dionysos) Dilyn fi, a chymer ofal.
(0, 3) 1854 Mae Nicias yn gafael yn y cas a dilyn Dionysos oddiar y llwyfan.
(0, 3) 1855 Miwsig addas am ennyd, yna goleuer cefn y llwyfan — neu agorer y llenni canol — a gwelir Plwton fel dyn-busnes yn eistedd tu ôl i'w ddesg yn sgrifennu.
(0, 3) 1856 Mae cloch y teliffôn yn canu.
(Plwton) {i'r ffôn}
 
(Plwton) Diolch.
(0, 3) 1868 Rhydd Plwton y ffôn i lawr a sgrifennu nodyn ar ei lyfr nodiadau.
(0, 3) 1869 Daw ei ysgrifenyddes i mewn.
(Plwton) la?
 
(Plwton) Anfonwch nhw i mewn, rhag blaen.
(0, 3) 1892 Exit yr ysgrifenyddes a dod yn ôl yn syth gyda Dionysos a Nicias.
(0, 3) 1893 Rhydd Dionysos amnaid i Nicias aros efo'r cas ar drothwy'r "swyddfa" fel tae, a mynd ei hun i fyny at Plwton.
(0, 3) 1894 Mae hwnnw'n codi i'w gyfarch.
(Plwton) Cyfarchion, Dionysos, a chroeso i Hades.
 
(Dionysos) Purion.
(0, 3) 1913 Cân Plwton gloch, a daw ei gynghorwyr i mewn a sefyll yn drefnus gerllaw.
(0, 3) 1914 Hwy fydd y côr.
(Plwton) Gynghorwyr, rwy i wedi eich galw yma i'ch cyflwyno i Dionysos.
 
(Plwton) Ond cyn galw arno, mi hoffwn ddweud un peth; am reswm arbennig, mae o wedi dod â chydymaith anarferol — a dweud y lleiaf — gydag ef.
(0, 3) 1920 Mae'r côr yn troi fel un i edrych yn syn ar Nicias, sy'n sefyll yn unig, gyda'r cas bondigrybwyll, ar un ochr i'r llwyfan.
(0, 3) 1921 Mae'n symud yn swil o un droed i'r llall wrth iddyn nhw syllu arno.
(0, 3) 1922 Try'r côr yn ôl i wrando ar Plwton.
(Plwton) Rwy'i am argymell, Gynghorwyr, ein bod yn rhoi clust i Dionysos.
 
(Côr) I drafod cais mor hynod!
(0, 3) 1940 Saif Dionysos ar un o'r rostra
(Dionysos) Plwton a Chynghorwyr Hades.
 
(Côr A) Y truan hwn a'i debyg?
(0, 3) 1984 Mae Nicias yn adweithio'n swil wrth i'r côr gyfeirio a phwyntio ato.
(Côr B) Na, na!
 
(Plwton) Rhowch eich cenadwri yn ôl cais Dionysos, i'r Gwrol Arwyr, a dowch yn ôl yn ddiymdroi gyda'r ateb a gewch chi ganddyn nhw.
(0, 3) 2019 Exit Côr A.
(Plwton) Yn y cyfamser, awgrymaf fod y gweddill ohonom yn ymroi yn llwyr i'n dwfn-fyfyrdod arferol.
 
(Plwton) Yn y cyfamser, awgrymaf fod y gweddill ohonom yn ymroi yn llwyr i'n dwfn-fyfyrdod arferol.
(0, 3) 2021 Mae pawb ond Nicias yn fferu'n hollol ddisymud mewn dwysfyfyrdod.
(0, 3) 2022 Gwelir Nicias yn crafu ei ben mewn penbleth.
(0, 3) 2023 Distawrwydd llethol am ennyd.
(Nicias) Wel, myn uffern!
 
(Nicias) Wel, myn uffern!
(0, 3) 2025 Gostynger y goleuadau i dywyllwch llwyr.
(0, 3) 2026 Clywir llais Nicias o'r tywyllwch.
(Nicias) Dwy' i'n gweld affliw o ddim.
 
(Nicias) Ond dydy amser ddim yn cyfri yn y lle yma!
(0, 3) 2048 Daw'r goleuadau i fyny'n raddol.
(Nicias) Helo, mae yma rywbeth yn digwydd rwan!
 
(Nicias) Helo, mae yma rywbeth yn digwydd rwan!
(0, 3) 2050 Daw Plwton a'r lleill allan o'r myfyrdod a gwelir Côr A yn dychwelyd.
(Plwton) Croeso'n ôl, Gynghorwyr.
 
(Côr A) Mae tynged Athen, bellach, yn ei dwylo hi ei hun."
(0, 3) 2083 Saif Dionysos am ennyd fel petai'n ystyried y geriau a glywodd, yna daw yn araf i ffrynt y llwyfan.
(0, 3) 2084 Daw Plwton ato.
(0, 3) 2085 Tywyller y cefndir — neu tynner y llenni-traws gan adael pelydryn ar y ddau.
(0, 3) 2086 Gwelir Nicias hefyd yn y cysgod.
(Plwton) Wel, dyna ni.
 
(Plwton) Tyrd, rhaid inni wneud trefniadau pendant rhag blaen.
(0, 3) 2127 Mae Plwton yn mynd â Dionysos o'r neilltu.
(0, 3) 2128 Cryfhaer y pelydryn ar Nicias.
(Nicias) Siawns na cha i fynd yn ôl yn o fuan rwan.
 
(Nicias) Ond dyma Fo'n dwad yn 'i ôl!
(0, 3) 2144 Daw Dionysos ato.
(Dionysos) Wel Nicias, mae'r amser wedi dwad.
 
(Dionysos) Rwy i wedi rhoi un o'r poteli-gwin yn dy boced di.
(0, 3) 2184 Mae Nicias yn teimlo yn ei boced a thynnu'r botel allan, edrych arni a'i rhoi yn ôl.
(Nicias) Diolch yn fawr, Syr.
 
(Dionysos) Tyrd.
(0, 3) 2193 Exit Dionysos a Nicias.
(0, 3) 2194 Pelydryn ar y cas am ennyd, yna tywyllwch.
(0, 3) 2195 ~
(0, 3) 2196 Miwsig.
(0, 4) 2197 Golygfa 4
(0, 4) 2198 Daw Dionysos a Nicias i'r golwg ar eu ffordd i'r afon Stycs.
(Dionysos) Seibiant, Nicias.
 
(Dionysos) Eistedd yma am funud.
(0, 4) 2201 Eisteddant ar rostrwm isel yn weddol agos i ffrynt y llwyfan.
(Nicias) Beth am Cerberws?
 
(Dionysos) Rwyt ti bron â gwneud imi genfigennu wrth dy gnawdoliaeth frau!
(0, 4) 2258 Clywir dwndwr draw.
(Nicias) Cerberws!
 
(Dionysos) Dos, brysia!
(0, 4) 2270 Rhed Nicias ac ymguddio y tu ôl i'r rostrwm.
(0, 4) 2271 Daw Cerberws i'r golwg.
(0, 4) 2272 Mae Dionysos yn mynd i'w gyfarfod.
(Dionysos) Hoi Cerberws!
 
(Dionysos) Mae'r creadur yna'n beryg bywyd.
(0, 4) 2308 Try Cerberws ei gefn a rhydd Dionysos yr arwydd i Nicias ddianc, a gwelir hwnnw'n mynd ar flaenau ei draed.
(0, 4) 2309 Yn anffodus mae'n baglu a syrthio ar ei hyd ar lawr.
(0, 4) 2310 Try Cerberws a'i weld.
(Cerberws) Dyna fo'r llaprwth powld!
 
(Cerberws) Hei, ti yna, aros!
(0, 4) 2313 Neidia Nicias ar ei draed a dechrau rhedeg.
(Cerberws) Wyt ti'n clywed, y cnaf digywilydd!
 
(Cerberws) Tyrd yma imi gael gafael ar dy wegil di!
(0, 4) 2317 Rhed Cerberws ar ei ôl dan chwythu ei bib.
(0, 4) 2318 Wrth iddynt groesi'n ôl a blaen ar draws y llwyfan, fflachier y goleuadau.
(0, 4) 2319 ~
(0, 4) 2320 Miwsig cyflym.
(0, 4) 2321 ~
(0, 4) 2322 Wedi iddynt redeg droeon ar draws y llwyfan fel hyn, a neidio ambell waith i fyny ac i lawr y rostra, gostynger y goleuadau i dywyllwch.
(0, 4) 2323 Mae sŵn llais a phib Cerberws yn pellhau; felly hefyd y miwsig, ond pery o hyd yn y cefndir.
(0, 4) 2324 ~
(0, 4) 2325 Ar ôl ychydig eiliadau, cryfhaer y goleuadau, gyda llewych gwyrdd, a dealler mai'r afon Stycs yw'r llwyfan yn awr.
(0, 4) 2326 Clywir eco pell o bib Cerberws, drwy'r miwsig; yna daw Nicias i'r golwg gan bwnio'r cwch yn ffyrnig ymlaen.
(0, 4) 2327 O'r diwedd mae'n cyrraedd y lan — a'r byd hwn!
(0, 4) 2328 Neidia allan a disgyn yn flinedig a swrth ar yr union rostrwm lle y cysgai ar ddechrau'r ddrama.
(0, 4) 2329 Mewn dim mae mewn trwmgwsg.
(0, 4) 2330 ~
(0, 4) 2331 Gwelir y cwch yn mynd yn ôl ac o'r golwg ohono'i hun.
(0, 4) 2332 ~
(0, 4) 2333 Mae'r goleuadau'n melynu, a chlywir yr un miwsig ag a gafwyd ar y dechrau yn ogystal â chrawcian y Llyffantod.
(0, 4) 2334 ~
(0, 4) 2335 Ar ôl ennyd neu ddau, daw Iris a Harmonia i'r golwg.
(0, 4) 2336 Maer miwsig yn distewi.
(Iris) Mae o'n dal i gysgu!
 
(Harmonia) Hy!
(0, 4) 2345 Mae Iris yn mynd at Nicias a rhoi ei llaw ar ei ysgwydd.
(Iris) Nic!
 
(Nicias) Ust! Glywch chi rywbeth?
(0, 4) 2402 Clywir crawcian y Llyffantod a sibrwd fel lleisiau ar yr awel yn dweud geiriau olaf y gwrol-rai yn Hades.
(Lleisiau) {Sibrwd drwy'r corn-siarad.}
 
(Lleisiau) "Mae tynged Athen yn ei dwylo hi ei hun."
(0, 4) 2405 Clywir y geiriau hyn deirgwaith.
(Iris) Chlywa i ddim ond crawcian y llyffantod.
 
(Nicias) Dyna'r newydd gwaetha un!
(0, 4) 2457 Mae Harmonia yn chwerthin a throi i fynd oddi ar y llwyfan.
(Iris) Wyt ti'n dwad rwan, Nic?
 
(Iris) Rwyt ti wedi clertian digon.
(0, 4) 2466 Exit Iris ar ôl et mam.
(0, 4) 2467 ~
(0, 4) 2468 Unwaith eto clywir crawcian y Llyffantod ac ar eu traws y sibrwd fel o'r blaen.
(Lleisiau) {Sibrwd drwy'r corn-siarad.}
 
(Lleisiau) "Mae tynged Athen yn ei dwylo hi ei hun."
(0, 4) 2471 Gwrendy Nicias am ennyd neu ddau fel petai'n ceisio penderfynu pa sŵn i'w ddewis a'i dderbyn.
(0, 4) 2472 Yna cymer ddracht o'r botel a'i thaflu ymaith.
(Nicias) Blydi llyffantod!
 
(Nicias) Blydi llyffantod!
(0, 4) 2474 Try ar ei sawdl a mynd oddi ar y llwyfan.
(0, 4) 2475 Mae'r crawcian a'r sibrwd yn toddi i'w gilydd fel y gostyngir y goleuadau'n raddol.
(0, 4) 2476 Daw miwsig i fyny.
(0, 4) 2477 ~
(0, 4) 2478 Tywyllwch