Y Llyffantod

Ciw-restr ar gyfer Dionysos

(Harmonia) Yli!
 
(Nicias) A gobeithio y bydd Cerberws yn brathu eich, be-ydach chi'n alw... sodla"!
(0, 1) 150 Roeddech chi'n bwrw drwyddi'n o arw funud yn ôl, gyfaill.
(Nicias) Sut wyddoch chi?
 
(Nicias) Sut wyddoch chi?
(0, 1) 152 Ro'n i'n digwydd sefyll ar y gornel yn y fan acw, a'ch clywed chi.
(0, 1) 153 Rhywun wedi sathru'ch corn yn amlwg.
(Nicias) Merched, w'chi.
 
(Nicias) Mi ydw i wedi dweud erioed, dydyn nhw ddim 'run fath â ni ddynion.
(0, 1) 158 Nac ydyn, mae'n debyg!
(Nicias) A dydy heddiw ddim wedi bod yn ddiwrnod lwcus imi o gwbwl.
 
(Nicias) Ac yn ail, mi ydw i newydd glywed fod y wraig yn mynd i ddal y dorth ymhell.
(0, 1) 162 Yn beth?
(Nicias) Wedi llyncu pry.
 
(Nicias) {Gwna ystum i ddisgrifio beichiogrwydd}
(0, 1) 168 O, rwy'n gweld.
(0, 1) 169 Llongyfarchion.
(Nicias) Llongyfarchion?
 
(Nicias) Cario'r bag yna?
(0, 1) 186 Welais i erioed wlad mor dlos â hon.
(0, 1) 187 Mwynder môr a mynydd.
(0, 1) 188 Mae hi wedi fy swyno'n llwyr.
(0, 1) 189 Rhaid dy fod yn ei charu hi â'th holl galon.
(Nicias) Beth?
 
(Nicias) Cil-dwrn, fel tae....
(0, 1) 198 Rwyt ti'n gyfarwydd â'r Ddinas?
(Nicias) Athen?
 
(Nicias) Be ydach chi'n i ddweud?
(0, 1) 205 Sothach!
(Nicias) Tybed?
 
(Nicias) Rydach chi'n arbenigwr ar win, yn amlwg?
(0, 1) 210 Felly maen nhw'n dweud.
(0, 1) 211 Beth ydy d'enw di?
(Nicias) Nicias, Syr.
 
(Nicias) Ond Nic mae pawb sy'n fy nabod i'n fy ngalw i.
(0, 1) 214 Rwy'n gweld.
 
(0, 1) 216 Rwy'n bryderus iawn ynghylch Athen, Nicias.
(Nicias) O?
 
(Nicias) O?
(0, 1) 218 Mae'n debyg dy fod tithau'n teimlo run fath.
(Nicias) Cytuno'n llwyr.
 
(Nicias) Effaith y rhyfel felltith yma, w'chi.
(0, 1) 224 Ia siwr.
(0, 1) 225 Ond nid at y sefyllfa economaidd yn unig roeddwn i'n cyfeirio.
(0, 1) 226 Beth am y gymdeithas a'i diwylliant enaid y genedl, os mynni di?
(Nicias) Dydw i ddim wedi meddwl rhyw lawer am betha felly, Syr.
 
(Nicias) Yn reit hoff o ddrama hefyd, ond iddi beidio â bod yn rhy anodd.
(0, 1) 231 Felly!
(0, 1) 232 Diddorol.
(0, 1) 233 Mae'n dda gen'i glywed hynna.
(Nicias) Beth amdani, Syr?
 
(Nicias) Ga' i gario'ch bag chi?
(0, 1) 236 O'r gora.
(0, 1) 237 Mae o'n drwm, cofia.
(0, 1) 238 Cymer ofal ohono.
(Nicias) Peidiwch â phoeni.
 
(Côr) Er gwaetha gwae y rhyfel.
(0, 1) 273 Wedi blino?
(Nicias) Go lew.
 
(Nicias) Mi hoffwn i gael sbelan fach am funud os medrwch chi sbario'r amser.
(0, 1) 276 Wrth gwrs.
(0, 1) 277 Does dim brys.
(0, 1) 278 Cyfle imi gael gweld dipyn ar y sgwâr.
(0, 1) 279 Mi ddo i'n ôl yn y man.
(Pobl Ifainc) Gormes!
 
(Pobl Ifainc) Gwarth!
(0, 1) 291 Beth oedd y cyffro yna?
(0, 1) 292 Pwy oedd y dynion?
(0, 1) 293 Wyddost ti?
(Nicias) Plismyn am wn i.
 
(Nicias) Plismyn am wn i.
(0, 1) 295 A'r carcharor?
(Nicias) Lleidar reit siwr.
 
(Nicias) Mae nhw'n tyrru i fan'no ar bob Gŵyl Ddrama, w'chi.
(0, 1) 299 Ond pam oedd y bobol ifainc yna'n ceisio'u rhwystro?
(Nicias) Dim byd gwell i' wneud, w'chi.
 
(Nicias) Torri eu gwalltia hir a'u criba nhw!
(0, 1) 305 Tybed?
(0, 1) 306 Wn i ddim beth i' feddwl.
 
(0, 1) 308 Mae'n lecsiwn yma rwy'n deall.
(Nicias) Ydy, wrth gwrs!
 
(Nicias) Wedi cael llond bol a deud y gwir.
(0, 1) 313 Rwyt ti'n hoff o fetaffor y bol, rwy'n sylwi.
(Nicias) Dydw i ddim yn deall, Syr.
 
(Nicias) Dydw i ddim yn deall, Syr.
(0, 1) 315 Hida befo...
(0, 1) 316 Yn ôl a glywais i mi fydd areithio yma gyda hyn.
(0, 1) 317 Cynrychiolwyr y ddwy Blaid Fawr yn dwad i'r Sgwâr yma i siarad.
(Nicias) Y ddau yn addo'r byd reit siwr.
 
(Nicias) Llefarydd y Democratiaid brwd — plaid y Chwith.
(0, 1) 347 Felly!
(0, 1) 348 Be fydd ganddo fo i ddweud sgwn i?
(Cadmos) Atheniaid a chymrodyr!
 
(Nicias) Dyn o anianawd nionyn.
(0, 1) 373 O?
(Cleon) Gyfeillion mi wn i am y pryderon sy'n llethu'ch ysbryd.
 
(Nicias) Pwt barddonllyd rwan!
(0, 1) 393 Sut wyddost ti?
(Nicias) Bob tro y bydd o'n codi ei fraich fel yna, ac edrych fel tae o'n mynd i gystadlu ar adrodd.
 
(Cleon) Am gynhesrwydd cariad mam!
(0, 1) 414 Denwr dagrau da!
(Nicias) Ia.
 
(Nicias) Ceidwadwr rhonc.
(0, 1) 461 Rwy'n gweld.
(0, 1) 462 Diddorol.
(Côr A) Rhydd i bob dyn ei farn,
 
(Côr B) Plaid elw glwth; Plaid busnes calon-galed.
(0, 1) 516 Wel, beth wyt ti'n i feddwl?
(Nicias) Yn y niwl.
 
(Nicias) Dyna'u hanes nhw erioed.
(0, 1) 522 Ond beth sydd i ddwad o Athen?
(Nicias) O mi fyddwn yn siwr o fwnglera drwyddi rywsut.
 
(Nicias) O mi fyddwn yn siwr o fwnglera drwyddi rywsut.
(0, 1) 524 Wyt ti'n sylweddoli be sydd yn y fantol?
(Llais) Dalier sylw.
 
(Côr B) Fod Deddf uwchlaw Cyfiawnder.
(0, 1) 557 Aros funud.
(Nicias) Reit, Syr.
 
(Nicias) Reit, Syr.
(0, 1) 560 Esgudowch fi, gyfeillion.
(0, 1) 561 Ymwelydd ydw i ar wyliau yn Athen...
 
(0, 1) 563 Ga'i ofyn eich barn, os gwelwch yn dda?...
(0, 1) 564 Y peth yma a'r peth arall...?
(0, 1) 565 Y sefyllfa'n gyffredinol yn Athen ac yn y blaen...?
(0, 1) 566 Eich barn ynonest...?
(Un o'r Grŵp) {Prin godi ei ben}
 
(Un o'r Grŵp) Be?
(0, 1) 569 Dyfodol Athen?...
(0, 1) 570 Beth am Socrates?
(Dyn 1) {Taflu ei gardiau i lawr}
 
(Dyn 2) Reit, twrn pwy ydy hi?
(0, 1) 590 Hanner munud, rhen wraig.
(0, 1) 591 Ga 'i air, os gwelwch yn dda?
(Hen Wraig) {Mae braidd yn fyddar} Be ddwedsoch chi?
 
(0, 1) 594 Beth ydych chi'n 'i feddwl o'r sefyllfa bresennol?
(Hen Wraig) Pwy ydach chi, deudwch?
 
(Hen Wraig) Dyn y Llywodraeth?
(0, 1) 597 Dim o gwbwl —
(Hen Wraig) {Mae'n amlwg nad yw'n deall, ac â ymlaen i fwmial ei chŵyn.}
 
(Hen Wraig) Ac eto'n hanner llwgu.
(0, 1) 605 Tewch â dweud —!
(Hen Wraig) Ac yn fferru gyda'r nos heb dewyn o dân.
 
(Hen Wraig) Mi ddylen ni gael ein trin fel pobol nid fel sbwriel wedi cael ei daflu ar y domen.
(0, 1) 610 Cytuno'n llwyr...
(0, 1) 611 Beth ydy'ch barn chi am Socrates?
(Hen Wraig) {Nid yw wedi deall eto}
 
(Hen Wraig) Be?
(0, 1) 614 Socrates — mae o yn y Ddalfa.
(Hen Wraig) {Pesychu}
 
(Hen Wraig) Digon gwir!
(0, 1) 629 Eich pardwn, Syr.
(Dyn Busnes) Ia?
 
(Dyn Busnes) Ia?
(0, 1) 631 Cwestiwn ne ddau, os gwelwch yn dda.
(Dyn Busnes) Wel, rwy' i braidd yn brysur ond —
 
(Dyn Busnes) Wel, rwy' i braidd yn brysur ond —
(0, 1) 633 Wna i mo'ch cadw chi'n hir.
(0, 1) 634 Rwy'i yma ar ymweliad, ac yn awyddus i gasglu hynny o wybodaeth ag sy bosib am Athen.
(Dyn Busnes) Sut fedra i eich helpu?
 
(Dyn Busnes) Sut fedra i eich helpu?
(0, 1) 636 Beth yw eich barn am y sefyllfa'n gyffredinol?
(Dyn Busnes) Dydy petha ddim mor ddrwg.
 
(Dyn Busnes) Ond dyna ydy bywyd onide?
(0, 1) 642 Mae Socrates yn y Ddalfa.
(Dyn Busnes) Felly ro'n i'n clywed.
 
(0, 1) 652 Maddeuwch i mi, ga' i ofyn sut mae hi ar y gweithwyr yn Athen y dyddia yma?
(Gweithiwr 1) Yn y lle cynta, rydych chi'n ddiolchgar os medrwch chi sgoi mynd i'r rhyfel.
 
(Gweithiwr 2) Mae'n anodd drybeilig, wyddoch chi.
(0, 1) 656 Rydych chi'n lwcus, yn amlwg?
(Gweithiwr 1) Rydan ni'n iawn, ydan, diolch yn fawr!
 
(Gweithiwr 2) Pawb drosto'i hun, 'te Jac!
(0, 1) 659 Mae Socrates yn y Carchar.
(Gweithiwr 1) O? Blydi ffŵl, pwy bynnag ydi o.
 
(Gweithiwr 1) Mi fydd dyn biau'r drol yn tantro eto!
(0, 1) 666 Maddeuwch i mi, os gwelwch yn dda.
(Merch) Ia, cariad?
 
(0, 1) 669 Ga i ofyn eich barn am y sefyllfa yn Athen?
(Merch) Dim yn llewyrchus iawn ar hyn o bryd, cariad.
 
(Merch) Rhywbeth arall fedra 'i wneud ichi cariad?
(0, 1) 676 Na, dim, diolch yn fawr ichi.
(Merch) Croeso, cariad.
 
(Merch) Hanner munud cariad.
(0, 1) 682 Ia?
(Merch) {Cyfrinachol}
 
(Merch) Da boch, cariad.
(0, 1) 691 Ga' i air bach, os gwelwch yn dda?
(0, 1) 692 Beth ydy barn yr ifanc?
(Llanc) Mae mynegi barn onest yn Athen yn beryglus, heddiw.
 
(Llanc) Mae rhai ohonon ni yn y carchar yn barod.
(0, 1) 697 Atheniaid!
(Côr) Na, na Ddieithryn, ofer gofyn dim i ni
 
(0, 1) 728 Na, siomedig braidd...
(0, 1) 729 Dwed i mi, beth wyt ti'n 'i feddwl o'r sefyllfa yn Athen?
(Nicias) Fi?
 
(Nicias) Wel...
(0, 1) 732 Ond rwy i wedi gofyn y cwestiwn yna i ti o'r blaen, on'do.
(0, 1) 733 A siomedig oedd d'ateb dithau hefyd, os wy'n cofio.
(Nicias) Mater o farn ydy hynny, 'te?
 
(Nicias) Mater o farn ydy hynny, 'te?
(0, 1) 735 Fy marn i ydy mai tipyn o wag wyt tl.
(0, 1) 736 Tipyn o walch.
(0, 1) 737 Does yna fawr o ddim yn dy boeni os cei di lond dy fol o fwyd, a digon o win, ac amrywiol bleserau dy wely.
(Nicias) Dwy' i ddim yn honni mod i'n wahanol i'r mwyafrif o ddynion, w'chi...
 
(Nicias) Mi ydw i'n cydymdeimlo.
(0, 1) 744 Tyrd yma am funud.
 
(0, 1) 746 Pwy wyt ti'n 'i feddwl ydw i?
(Nicias) Dim syniad yn y byd.
 
(Nicias) Dim syniad yn y byd.
(0, 1) 748 Celwydd!
(Nicias) Be —?
 
(Nicias) Be —?
(0, 1) 750 Paid â dweud nad wyt ti ddim wedi sbecian i mewn i'r cas yna.
(Nicias) Fi? Tawn i byth o'r fan yma!
 
(Nicias) Fi? Tawn i byth o'r fan yma!
(0, 1) 752 Nicias!
(Nicias) Wel, dim ond rhyw led-godi congol y caead.
 
(Nicias) Wnes i mo'i agor o fel 'tae.
(0, 1) 755 Wnawn ni ddim hollti blew yn 'i gylch.
(0, 1) 756 Wel, pwy wyt ti'n 'i feddwl rydw i?
(Nicias) {Ar ôl dyfalu ychydig.}
 
(Nicias) Mi ydw i'n meddwl, te...
(0, 1) 759 Ia?
(Nicias) Mi ydw i'n meddwl mai trafaeliwr ydach chi.
 
(Nicias) Iawn, Syr?
(0, 1) 764 Dim yn hollol.
(0, 1) 765 Ond mae yna rywfaint o gysylltiad.
(Nicias) Does gen i ddim syniad, w'chi.
 
(Nicias) Does gen i ddim syniad, w'chi.
(0, 1) 767 Rwyt ti'n hoff o Ddrama meddet ti.
(Nicias) Ydw...
 
(0, 1) 771 Na, nid hynny chwaith.
(0, 1) 772 Ond mae yna gysylltiad eto...
 
(0, 1) 774 Rwyt ti wedi tyngu yn f'enw i lawer tro.
(0, 1) 775 A'i sibrwd yn awchus-ddiolchgar wrth agor potel o win...
(0, 1) 776 Edrych ar honna sydd yn dy boced.
(Nicias) {Yn tynnu potel allan o'i boced}
 
(Nicias) Hon?
(0, 1) 779 Be ydy'r enw sydd arni?
(Nicias) {Darllen}
 
(Nicias) Duw y Gwin a- a-
(0, 1) 786 A nawdd-dduw'r Ddrama, ia, Nicias.
 
(0, 1) 790 Does dim angen y sioe ymgreinio yna.
(0, 1) 791 Fe ddylet wybod mai fi yw'r lleiaf deddfol o'r duwiau.
(0, 1) 792 Y mwyaf eangfrydig.
(0, 1) 793 A'r parotaf i ddeall amrywiol wendidau'r natur-ddynol.
(Nicias) Diolch am hynny, Eich Anrhydedd... hynny ydi Eich duwdod...
 
(Nicias) Diolch am hynny, Eich Anrhydedd... hynny ydi Eich duwdod...
(0, 1) 795 Gad inni ddeall ein gilydd.
(0, 1) 796 Dwyt ti ddim i sôn am hyn wrth neb.
(0, 1) 797 Mi gadwn ni'r gyfrinach i ni'n dau.
(0, 1) 798 Gwas a meistr fyddwn ni o hyd.
(0, 1) 799 Ydy hynna'n glir?
(Nicias) Yn berffaith glir, Syr.
 
(Nicias) Peidiwch â phryderu.
(0, 1) 802 O'r gorau...
(0, 1) 803 Eto i gyd, fel y dwedais i o'r blaen, mae gen i achos pryder.
(Nicias) |Chi| o bawb, Syr?
 
(Nicias) |Chi| o bawb, Syr?
(0, 1) 805 Ia.
(0, 1) 806 Fel y gwyddost ti cymeriad digon cellweirus ydw i, ac yn draddodiadol siriol.
(0, 1) 807 Serch hynny, mae yna un peth yn fy mhoeni.
(Nicias) Beth ydy hwnnw, Syr, mor hy â gofyn?
 
(Nicias) Beth ydy hwnnw, Syr, mor hy â gofyn?
(0, 1) 809 Tynged Athen, Nicias.
(Nicias) O mi ddaw petha eto, w'chi, unwaith y rhown ni gosfa i'r Sbartiaid gythral yna.
 
(Nicias) O mi ddaw petha eto, w'chi, unwaith y rhown ni gosfa i'r Sbartiaid gythral yna.
(0, 1) 811 Nid y Sbartiaid ydy'r gelyn mwya.
(Nicias) O? Pwy felly?
 
(0, 1) 815 Sytha!
 
(0, 1) 817 Mae dy ymddygiad di'n nodweddiadol o Athen.
(0, 1) 818 Llipa, difater a di-asgwrn cefn.
(0, 1) 819 Dyna'r peryg mwya, nid y Sbartiaid.
(0, 1) 820 Ond mae'r difrawder yna fel afiechyd drwy'r Ddinas...
(0, 1) 821 Yr unig lygedyn o obaith a welais i oedd protest yr ifainc.
(Nicias) Tybed, d'wch?
 
(Nicias) Stwrllyd ac anghyfrifol —
(0, 1) 824 Ydyn nhw'n pigo dy gydwybod di?
(Nicias) Dim o gwbwl.
 
(Nicias) Y ffaith ydi, mae'r busnes politicaidd yma ymhell uwch fy mhen i.
(0, 1) 827 Esgus da am beidio â gwneud dim!
(Nicias) Wel, os ydy'r sefyllfa'n eich poeni chi gymaint â hynny, Syr — maddeuwch imi am ofyn — fedrwch chi mo'i newid hi?
 
(Nicias) Hynny ydi, gan eich bod chi, wel, yr hyn ydach chi.
(0, 1) 830 Yn anffodus, fedra i ddim ymyrryd yn uniongyrchol, Nicias.
(0, 1) 831 Rhyw dduw bach digon od ydw i.
(0, 1) 832 A mae yna derfyn pendant ar f'awdurdod a'm dylanwad.
(Nicias) Mae'r rhagolygon yn bur bethma felly?
 
(Nicias) Andros o broblem ddwedwn i.
(0, 1) 835 Ia, a does yna ond un ffordd i'w datrys hyd y gwelaf i.
(Nicias) Pa ffordd ydy honno, Syr?
 
(Nicias) Pa ffordd ydy honno, Syr?
(0, 1) 837 Rhaid mynd ar siwrna bur enbydus.
(Nicias) O? Ga'i ofyn ble?
 
(Nicias) {Saib ennyd.}
(0, 1) 840 I Hades.
(Nicias) Hades?
 
(Nicias) Arswyd y byd, be wnewch chi yn y fan honno?
(0, 1) 843 Fedra i ddim datguddio'r cynllun ar hyn o bryd.
(0, 1) 844 Ond dyna'r unig obaith, hyd y gwelaf, i achub Athen.
(0, 1) 845 Ddoi di efo fi, Nicias?
(Nicias) Fi?
 
(Nicias) Fi?
(0, 1) 847 I gario hwnna.
 
(Nicias) Hynny ydy —
(0, 1) 851 Rwy'n credu bod modd trefnu hynny.
(0, 1) 852 Ystumio'r rheolau ryw chydig...
(0, 1) 853 Wel, ddoi di?
(Nicias) Gofyn go fawr, Syr.
 
(Nicias) Rhaid imi gael amser i feddwl.
(0, 1) 856 Wrth gwrs, rwy'n deall...
(0, 1) 857 Edrych yma, rwy 'i am d'adael di am ychydig.
(0, 1) 858 Rhaid imi roi dillad gweddus i ymweld â Hades.
(0, 1) 859 Hwyrach y byddi di wedi penderfynu erbyn y dof yn ôl.
(Nicias) Wel, mi dria i 'ngora.
 
(Nicias) Wel, mi dria i 'ngora.
(0, 1) 861 Da iawn...
(0, 1) 862 Fydda i ddim yn hir.
(Nicias) {Eistedd yn araf}
 
(0, 2) 992 Cael tipyn o hwyl?
 
(0, 2) 994 Wel, Nicias, dyma fi wedi dwad yn f'ôl.
(0, 2) 995 Wyt ti wedi penderfynu?
(Nicias) Do, syr.
 
(Nicias) Mae'n bur ddrwg gen i.
(0, 2) 1004 Mae'n bur ddrwg gen innau hefyd, Nicias.
(0, 2) 1005 Wyt ti'n siwr nad oes arnat ti ddim ofn?
(0, 2) 1006 Mi allaf dy sicrhau di —
(Nicias) Ofn? Fi?
 
(Nicias) Rhyngoch chi a fi a'r wal, Syr, onibai am Iris —
(0, 2) 1011 Iris?
(Nicias) Y wraig.
 
(Nicias) Y wraig.
(0, 2) 1013 O!
(Nicias) Onibai amdani hi, mi fuaswn efo chi fel saeth.
 
(Nicias) Mi wyddoch fel mae'r merched yma.
(0, 2) 1022 Hon ydy hi?
(Nicias) Iris!
 
(Iris) Dim symudiad i chwilio am waith i ennill cyflog i fwydo dy blant di.
(0, 2) 1029 Esgusodwch fi, rwy' i wedi cynnig gwaith i'ch gŵr.
(0, 2) 1030 Ond chwarae teg iddo, mae ei ofal o gymaint amdanoch chi.
(0, 2) 1031 Ac mor awyddus i osgoi pryder ichi —
(Iris) Pryder i mi?
 
(Iris) Sut felly?
(0, 2) 1034 Wel roeddwn i am ei gyflogi fel gwas imi ar fy siwrna.
(0, 2) 1035 Ond wrth gwrs os ydych chi'n gwrthwynebu —
(Iris) Mae'n dda gen i glywed, Syr!
 
(Nicias) Does yna ddim sicrwydd y bydda i'n dwad yn ôl.
(0, 2) 1045 O, oes, rwy'n gwarantu hynny.
(0, 2) 1046 Yn berffaith ddiogel.
(Iris) Dyna fo felly!
 
(Iris) Dydd da ichi, Syr.
(0, 2) 1054 Mae gen ti wraig dda yn honna, Nicias.
(0, 2) 1055 Rwy'n siwr dy fod yn falch iddi dy berswadio i ddod efo fi!...
(0, 2) 1056 Barod?
(0, 2) 1057 Gora po gynta inni gychwyn...
(0, 2) 1058 Tyrd ar f'ôl i.
(0, 2) 1059 A chymer ofal o'r cas yna.
(Nicias) {Saif yn flinedig.}
 
(Nicias) Llawer o ffordd eto, Syr?
(0, 2) 1068 Dim llathen, Nicias.
(0, 2) 1069 Rydan ni wedi cyrraedd.
 
(0, 2) 1071 Weli di?
(0, 2) 1072 Hon ydy'r Afon Stycs.
 
(Nicias) Wela i mo'r ochor draw iddi.
(0, 2) 1080 Fe'i gweli hi, toc.
(Nicias) Sut felly?
 
(Nicias) Sut felly?
(0, 2) 1082 Ar ôl inni ei chroesi hi.
(Nicias) Dwy' i ddim yn deall.
 
(Nicias) Dwy' i ddim yn deall.
(0, 2) 1084 Twt, twt, paid â dweud nad wyt ti'n gwybod am chwedloniaeth dy genedl dy hun!
(0, 2) 1085 Hon ydy'r Afon Stycs — reit?
(Nicias) Reit.
 
(Nicias) Reit.
(0, 2) 1087 Ac y mae Hades yr ochr arall, reit?
(Nicias) Reit.
 
(Nicias) Reit.
(0, 2) 1089 Felly, mae'n rhaid ei chroesi — reit?
(Nicias) Reit.
 
(Nicias) Reit.
(0, 2) 1091 Ond cyn y medrwn ni wneud hynny —
(Nicias) Mae'n rhaid inni alw ar Charon a'i gwch.
 
(Nicias) Mae'n rhaid inni alw ar Charon a'i gwch.
(0, 2) 1093 Rwyt ti yn gwybod felly!
(Nicias) Ydw, ydw.
 
(Nicias) A fedra i ddim nofio.
(0, 2) 1098 Gad ti hynna i mi.
(0, 2) 1099 Rwy'n credu y medra i berswadio'r hen gyfaill i gau ei lygaid am y tro.
(0, 2) 1100 Ei gael o yma fydd y broblem fwya.
 
(0, 2) 1102 Mae o'n bur gysact ynglŷn â'r amser.
(0, 2) 1103 A mae hi wedi mynd braidd yn hwyr.
(0, 2) 1104 Yr unig ffordd fydd gwneud galwad arbennig.
(0, 2) 1105 Fydd yna ddim tymer rhy dda arno fo am inni wneud.
(0, 2) 1106 Ond rhaid inni wynebu hynny...
(0, 2) 1107 Wyt ti'n chwibannwr go lew?
(Nicias) Wedi chwibannu llawer ar ôl y gennod yn fy nydd, Syr!
 
(Nicias) Wedi chwibannu llawer ar ôl y gennod yn fy nydd, Syr!
(0, 2) 1109 Wel chwibanna rwan er mwyn Athen.
(0, 2) 1110 Un hir a dwy fer... rwan!
(Nicias) Reit.
 
(Nicias) {Mae'n chwibannu'n ôl y cyfarwyddyd.}
(0, 2) 1113 Eto!
 
(0, 2) 1115 Unwaith eto.
(0, 2) 1116 Yn gryfach os medri di.
(0, 2) 1117 Yn uwch!
(Charon) {Draw}
 
(Charon) Be ydach chi'n 'i feddwl ydw i — ci defaid?
(0, 2) 1122 Dyma fo'n dwad.
(Charon) {A'i dymer yn fyr}
 
(Charon) Ydach chi ddim yn sylweddoli bod gen i f'oriau gwaith?
(0, 2) 1128 Amgylchiadau arbennig, Charon.
(Charon) {Ei adnabod.}
 
(Charon) Mae'n ddrwg gen' i, doeddwn i ddim wedi'ch nabod.
(0, 2) 1133 Popeth yn iawn.
(0, 2) 1134 Prysur?
(Charon) Arhoswch am funud, i mi gael gwneud hwn yn saff.
 
(Charon) Rhwng yr helfa ar y ffyrdd a'r rhyfel, mi ydw i'n methu'n lân â dwad i ben.
(0, 2) 1141 Felly wir!
(Charon) Amgylchiadau arbennig ddwedsoch chi?
 
(Charon) Amgylchiadau arbennig ddwedsoch chi?
(0, 2) 1143 Argyfwng Charon.
(0, 2) 1144 Creisis.
(0, 2) 1145 Mae Athen yn mynd â'i phen iddi.
(Charon) O? Ia wel, dyna fo.
 
(Charon) Pwy ydy hwn?
(0, 2) 1150 Nicias.
(0, 2) 1151 Mae o yn yr argyfwng efo fi.
(0, 2) 1152 Cymorth fel tae.
(Charon) Felly!
 
(Charon) Mae hynna'n amlwg, ne fasach chi ddim wedi galw arna i.
(0, 2) 1158 Cywir.
(Charon) Yn ail, mae hwn yn yr argyfwng efo chi?
 
(Charon) Yn ail, mae hwn yn yr argyfwng efo chi?
(0, 2) 1160 Cywir.
(Charon) Ac os nad ydw i'n camsynied, rydach chi am i mi fynd ag ynta drosodd hefyd?
 
(Charon) Ac os nad ydw i'n camsynied, rydach chi am i mi fynd ag ynta drosodd hefyd?
(0, 2) 1162 Cywir.
(Charon) Anghywir!
 
(Charon) Anghywir!
(0, 2) 1164 Beth?
(Charon) Mae'n ddrwg gen i.
 
(Charon) Mae'n ddrwg gen i.
(0, 2) 1166 Tybed?
(Charon) Amhosib, Syr.
 
(Charon) Fedra i mo'u hystumio nhw.
(0, 2) 1170 Aros funud.
(Charon) Na, maddeuwch imi am ddweud ond ddylech chi ddim gofyn imi.
 
(Nicias) Be ydach chi'n 'i feddwl?
(0, 2) 1184 Na, mae hynny'n amhosib.
(Charon) Pam?
 
(Charon) Pam?
(0, 2) 1186 Am ei fod o'n dwad yn ôl.
(Charon) O, dowch, Syr, mae hynna'n mynd dros ben llestri!
 
(Charon) Tynnu 'nghoes i rydach chi rwan!
(0, 2) 1190 Rwy' i o ddifri calon.
(0, 2) 1191 Mae'n rhaid inni'n dau fynd drosodd, Charon.
(Charon) {Tynnu ei gap a chrafu ei ben.}
 
(Charon) Does yna ddim yn y Rheolau am hynny, oes yna?
(0, 2) 1199 Dim o gwbwl.
(0, 2) 1200 Rwyt ti wedi 'i gweld hi, Charon!
(Charon) Reit, dyna hynna wedi 'i setlo...
 
(Charon) Iawn?
(0, 2) 1224 lawn.
(Charon) Tawn i yn eich lle chi, Syr, mi fyddwn i'n agor yr ymbarel yna.
 
(0, 2) 1230 Syniad da.
(0, 2) 1231 Diolch iti, Charon.
(Charon) Reit, i ffwrdd â ni!
 
(Charon) Reit, i ffwrdd â ni!
(0, 2) 1235 Mae hi'n tywyllu'n fuan iawn, Charon!
(Charon) Tarth Stycs, w'chi.
 
(Charon) Ydach chi'n iawn, Syr?
(0, 2) 1248 Ydw, diolch.
(Nicias) Mae'n oer drybeilig.
 
(Charon) Pwnia'n gyflymach a mi gynhesi!
(0, 2) 1253 Mae hi'n dechra golueo ychydig draw acw rwy'n credu.
(Charon) Ydy, rydach chi'n iawn...
 
(Charon) {Mae Dionysos yn ufuddhau ac yn camu ar y lan.}
(0, 2) 1373 Diolch iti, Charon...
(0, 2) 1374 Gair bach yn dy glust.
(Charon) Ia, wel, os ydach chi'n dweud, Syr.
 
(Charon) Ond fydd yna ddim bai arna i, cofiwch!
(0, 2) 1381 Na fydd siwr.
(Charon) Reit...
 
(Charon) O, gyda llaw —
(0, 2) 1384 Ia?
(Charon) Dim ond eich atgoffa chi.
 
(Charon) Dim ond eich atgoffa chi.
(0, 2) 1386 O beth?
(Charon) Chewch chi ddim symud cam o'r fan yna heb ganiatâd Cerberws.
 
(Charon) Chewch chi ddim symud cam o'r fan yna heb ganiatâd Cerberws.
(0, 2) 1388 Doeddwn i ddim wedi anghofio, Charon.
(Charon) O'r gora.
 
(Charon) {Mae'n gafael yn y polyn a gwthio'r cwch ymlaen.}
(0, 2) 1401 Hwyl iti, Charon.
(0, 2) 1402 A diolch!
(Charon) {Mynd.}
 
(Charon) {Mae cwch Charon yn mynd o'r golwg.}
(0, 2) 1406 Wel, dyma ni.
(0, 2) 1407 Ydy'r cas yna'n ddiogel?
(Nicias) Ydy...
 
(Nicias) Syr?
(0, 2) 1411 Ia?
(Nicias) Roedd o'n sôn am Cerberws.
 
(Nicias) Roedd o'n sôn am Cerberws.
(0, 2) 1413 Ceidwad Porth Hades.
(0, 2) 1414 Rhaid inni ei ddisgwyl yma.
(0, 2) 1415 Fydd o ddim yn hir.
(0, 2) 1416 Ond cystal inni eistedd nes y daw o.
 
(0, 2) 1418 Ofn?
(Nicias) Mae 'nghalon i yn fy mhen ôl i.
 
(Nicias) Mae 'nghalon i yn fy mhen ôl i.
(0, 2) 1420 Paid â chywilyddio, dydw inna fawr gwell.
(Nicias) Ond rydach chi'n wahanol i mi!
 
(Nicias) Ond rydach chi'n wahanol i mi!
(0, 2) 1422 Wn i ddim faint o sylw a rydd o i hynny!
(0, 2) 1423 Tyrd â'r cas yna i mi.
(Nicias) I mi?
 
(Nicias) I'w yfed?
(0, 2) 1428 Mi wnaiff les iti.
(0, 2) 1429 Rhoi tipyn o ddewrder inni'n dau.
(0, 2) 1430 Eistedd.
 
(0, 2) 1433 Be sy'n bod?
(0, 2) 1434 Y gwin gorau yn y byd, mi alla i dy sicrhau di o hynny.
(Nicias) {Yn agor ei botel}
 
(Nicias) Ond nid bob dydd mae dyn yn cael profiad fel hyn.
(0, 2) 1438 Beth wyt ti'n 'i feddwl?
(Nicias) Yfed potel o win efo, wel un fel chi.
 
(Nicias) Ac yn Hades o bob man.
(0, 2) 1441 Porth Hades ydy hwn, Nicias.
(0, 2) 1442 Mae Hades 'i hun draw i'r cyfeiriad yna.
 
(0, 2) 1444 A chyn y byddwn ni'n cyrraedd Pencadlys Plwton —
(Nicias) Pwy?
 
(0, 2) 1447 Plwton, pennaeth Hades.
(Nicias) O ia, wrth gwrs, Plwton, ia.
 
(Nicias) O ia, wrth gwrs, Plwton, ia.
(0, 2) 1449 Fel roeddwn i'n dweud, cyn y byddwn ni'n cyrraedd yno, mae'n rhaid inni fynd heibio i gyrion Tartarws.
(Nicias) Tartarws?
 
(Nicias) Tartarws?
(0, 2) 1451 Ia, mi ddweda i am y lle ofnadwy hwnnw wrthyt ti eto.
(Nicias) O'r gora.
 
(Nicias) Blas mwy arno fo!
(0, 2) 1456 Ond paid â chymryd mwy.
(0, 2) 1457 Mae yna gic fel mul ynddo fo...
(0, 2) 1458 Teimlo'n well?
(Nicias) Ydw, dipyn bach.
 
(Nicias) Ydy o mor ddychrynllyd ag y maen nhw'n 'i ddweud?
(0, 2) 1462 Be'n hollol wyt ti wedi 'i glywed?
(Nicias) Ei fod o'n anferth o fawr.
 
(Nicias) A mwclis o nadrodd gwenwynig am 'i wddw.
(0, 2) 1468 Wn i ddim beth am dri phen, na chynffon draig a'r nadrodd.
(0, 2) 1469 Ond llais fel taran yn sicr.
(0, 2) 1470 A llygaid yn melltennu tân.
(Nicias) Mi ydach chi wedi 'i gyfarfod o o'r blaen, decini?
 
(Nicias) Mi ydach chi wedi 'i gyfarfod o o'r blaen, decini?
(0, 2) 1472 Do.
(Nicias) Ydy o mor ofnadwy ag y maen nhw'n 'i haeru?
 
(Nicias) Ydy o mor ofnadwy ag y maen nhw'n 'i haeru?
(0, 2) 1474 Ydy.
(0, 2) 1475 Gwaeth os rhywbeth.
(Nicias) Arswyd y byd!
 
(Nicias) Arswyd y byd!
(0, 2) 1477 Ond rwy'n credu y medrwn ni ddelio ag o.
(0, 2) 1478 Dim ond inni gadw'n pennau.
(0, 2) 1479 Na, paid ag yfed dim mwy.
(0, 2) 1480 A chofia, pan ddaw o, paid ti â dweud dim nes bydd rhaid iti.
(0, 2) 1481 Wyt ti'n deall?
(Nicias) Ydw.
 
(Nicias) Rwy'n gobeithio y ca' i fynd odd'ma rywdro, Syr?
(0, 2) 1494 Mi gei di fynd.
(0, 2) 1495 Rwy'n addo hynny iti.
(0, 2) 1496 O leia, mi wnaf fy ngorau i sicrhau hynny.
(Nicias) Peidiwch â cham-ddeall, ond dydw i ddim yn edrach ymlaen i ddwad yma eto — hyd yn oed pan ddaw f'amser.
 
(Nicias) Peidiwch â cham-ddeall, ond dydw i ddim yn edrach ymlaen i ddwad yma eto — hyd yn oed pan ddaw f'amser.
(0, 2) 1498 Siawns na fydd o'n ymddangos yn wahanol iti bryd hynny, wyddost ti...
(0, 2) 1499 Ust!
(Nicias) Yr arswyd!
 
(Nicias) Yr arswyd!
(0, 2) 1502 Gofal rwan.
(0, 2) 1503 A chofia beth ddwedais i — dim gair nes bydd rhaid iti!
(Cerberws) Wel, beth ydy peth fel hyn?
 
(Cerberws) Wel, beth ydy peth fel hyn?
(0, 2) 1509 Cyfarchion, Cerberws.
(Cerberws) {Ei adnabod.}
 
(Cerberws) Rhyfedd iawn dy weld di yma!
(0, 2) 1513 Ymweliad arbennig.
(Cerberws) Felly?
 
(Cerberws) Trio'i dal hi ymhobman ar unwaith.
(0, 2) 1521 Diferyn o win i oeri dipyn?
(Cerberws) Fi?
 
(0, 2) 1531 Gwan fel dŵr.
(Cerberws) {Cymer ddracht.}
 
(Cerberws) O, ymweliad arbennig, ddwedaist ti?
(0, 2) 1536 Ia.
(Cerberws) Rhaid cael y ffurflen briodol felly.
 
(Cerberws) Rwan, enw?
(0, 2) 1543 Ond rwyt ti'n 'i wybod yn barod!
(Cerberws) Nid dyna'r pwynt.
 
(Cerberws) A rhaid i titha, yr un mor ffurfiol, roi'r ateb.
(0, 2) 1547 Ond pam?
(Cerberws) Nid fy lle i ydy gofyn pam.
 
(0, 2) 1552 Dionysos.
(Cerberws) "Occupation and/or Profession."
 
(Cerberws) Be rown ni fel galwedigaeth?
(0, 2) 1555 O, wel, Aelod o'r Sefydliad Nefol, am wn i.
(Cerberws) {Sgrifennu.}
 
(Cerberws) Un o'r mân-dduwiau, i fod yn fanwl, fel tae.
(0, 2) 1566 O, rwy'n gweld.
(Cerberws) "Reason for and motive or purpose of visit"?
 
(Cerberws) "Reason for and motive or purpose of visit"?
(0, 2) 1568 Ymweld â Phlwton.
(Cerberws) "Nature of business or matter to be discussed"?
 
(Cerberws) "Nature of business or matter to be discussed"?
(0, 2) 1570 Achub Athen.
(Cerberws) Beth!
 
(Cerberws) Chlywais i erioed y fath beth!
(0, 2) 1574 Dyna'r ateb i'r cwestiwn.
(0, 2) 1575 Rho fo i lawr.
 
(Cerberws) "Approximate duration of visit"?
(0, 2) 1578 Amhenodol.
(Cerberws) Thâl hynny ddim.
 
(Cerberws) Wel?
(0, 2) 1583 Cyfnod gweddol fyr, ynte.
(Cerberws) {Cadw'r ffurflen.}
 
(0, 2) 1590 Ia, mi ddylwn i egluro, Cerberws —
(Cerberws) Hanner munud!
 
(Cerberws) Beth ydy peth fel hyn?
(0, 2) 1594 Os goddefi imi egluro —
(Cerberws) Rwy'n synnu atat ti, Dionysos.
 
(Cerberws) Dyna be ydy hyn!
(0, 2) 1598 Ond fel dywedais i eisoes, mae yna amgylchiadau arbennig.
(Cerberws) Nid i mi.
 
(Cerberws) Yn ôl "Regulation 7 Sub-Section 2B" mae hwn yn "Prohibited Immigrant".
(0, 2) 1604 Mi fydda i'n warantydd drosto fo.
(Cerberws) Amhosib!
 
(Cerberws) Amhosib!
(0, 2) 1606 Dim os ystumi di rywfaint bach ar y Gyfraith.
(Cerberws) Ystumio'r Gyfraith?
 
(Cerberws) Dim un copa gwalltog!
(0, 2) 1625 Dim un?
(Cerberws) Dim un.
 
(Cerberws) Record go dda, 'te?
(0, 2) 1628 Ond roeddwn i'n meddwl —!
(Cerberws) O mi wn i be rwyt ti'n mynd i ddweud.
 
(Cerberws) Y canwr-pop gwallt hir hwnnw, beth bynnag oedd ei enw fo.
(0, 2) 1636 Orffiws.
(Cerberws) la, rhywbeth felly.
 
(Cerberws) Meddwl am ddim ond am ferchaid a chyffuriau, a sothach o'r fath.
(0, 2) 1641 Tybed?
(Cerberws) Dim amheuaeth!
 
(Cerberws) Cymowta ar ôl y ferch honno, dyna iti be.
(0, 2) 1645 Ewridice.
(Cerberws) Beth?
 
(Cerberws) Beth?
(0, 2) 1647 Ewridice — dyna oedd ei henw hi.
(Cerberws) Ia, mae o'i lawr gen i yn rhywle.
 
(Cerberws) Ple roeddwn i hefyd?
(0, 2) 1659 Pecyn brechdanau.
(Cerberws) O ia, brechdanau.
 
(Cerberws) Hynny ydy, heb ymddangos... {mae Cerberws yn ymladd yn erbyn cwsg}... heb ymddangos yn be-ydach-chi'n-'i-alw... be-ydach-chi'n-'i-alw...!
(0, 2) 1670 Anghwrtais.
(Cerberws) Dyna fo'r gair...
 
(Cerberws) Finna, wedyn yn dechra teimlo... dechra teimlo'n gysglyd... hynny ydy... ia... cysglyd... cysglyd... c... y... s... g... l... y... d...!
(0, 2) 1688 Dyna ni, rwy'n credu, Nicias!
 
(Nicias) Ia... Fedra i ddim peidio ag amau, Syr.
(0, 2) 1691 Amau?
(Nicias) Eich bod chi'n gwybod y bydda fo'n mynd i gysgu!
 
(Nicias) Eich bod chi'n gwybod y bydda fo'n mynd i gysgu!
(0, 2) 1693 Bobol annwyl, rwyt ti'n hynod o ddrwg-dybus!
(Nicias) Oes yna beryg iddo fo ddeffro?
 
(Nicias) Oes yna beryg iddo fo ddeffro?
(0, 2) 1695 Dim os byddwn ni'n ofalus.
(0, 2) 1696 Tyrd ar flaenau dy draed rwan...
(0, 2) 1697 Mae gennym siwrna go faith o'n blaenau eto.
(0, 2) 1698 Oofia am y cas, beth bynnag.
(Nicias) Reit.
 
(Nicias) Reit.
(0, 2) 1701 Y ffordd yma.
(0, 2) 1702 Ac ar boen dy fywyd paid â cholli golwg arna i.
(Nicias) Dim peryg o hynny, Syr!
 
(Nicias) Dim peryg o hynny, Syr!
(0, 2) 1704 Ymlaen â ni felly.
 
(0, 3) 1710 Wedi blino?
(Nicias) Fawr lai.
 
(Nicias) Fawr lai.
(0, 3) 1712 Gorffwys yma am ychydig.
(0, 3) 1713 Nicias
 
(0, 3) 1715 Dyna welliant!
(0, 3) 1716 Oes yna lawer o ffordd eto?
(0, 3) 1717 Na, dim llawer...
 
(0, 3) 1719 Nicias, pan welais i di gyntaf yn Athen, mi ofynnais iti beth a wyddet amdanaf.
(Nicias) Do.
 
(Nicias) Do.
(0, 3) 1721 Ond os wy'n cofio, d'oedd d'ateb ddim yn rhyw foddhaol iawn.
(Nicias) {Erbyn hyn mae wedi sicrhau'r ffeithiau.}
 
(Nicias) Hefyd mi ydach chi'n ffafriol i heddwch a gwareiddiad!
(0, 3) 1729 Rwyt ti wedi gwneud dy waith-cartre yn amlwg!
(0, 3) 1730 Dos ymlaen.
(Nicias) O, ia, chi ydy nawdd-dduw y Ddrama, hefyd.
 
(Nicias) O, ia, chi ydy nawdd-dduw y Ddrama, hefyd.
(0, 3) 1732 At hynna roedd arna i eisio dwad.
(0, 3) 1733 Mi wyddost fod yna ddwy brif ffurf i'r Ddrama, Nicias, sef Comedi a Thrasiedi.
(0, 3) 1734 Gan amlaf, Masg y Gomedi a roddir imi.
(0, 3) 1735 Ac fe'm portreadir — nid heb achos, rwy'n cyfaddef — fel un pur ddoniol, gwamal a chellweirus.
(Nicias) Dydw i ddim yn eich cymryd chi'n ysgafn, Syr!
 
(Nicias) Dydw i ddim yn eich cymryd chi'n ysgafn, Syr!
(0, 3) 1737 Mae'n dda gen' i glywed!
(0, 3) 1738 Y ffaith yw fod yna ochr arall i'm natur.
(0, 3) 1739 Mi wn i beth yw hoen nwydwyllt ac asbri ysgafala bywyd.
(0, 3) 1740 Mi wn i hefyd beth yw ei greulondeb, ei ing, a'i dristwch....
(0, 3) 1741 Mae'r amser wedi dwad imi wisgo Masg Trasiedi — dros dro, beth bynnag.
(Nicias) Mae'n debyg mai fi sy'n dwp, ond dydw i ddim yn eich deall chi.
 
(Nicias) Mae'n debyg mai fi sy'n dwp, ond dydw i ddim yn eich deall chi.
(0, 3) 1743 Rwyt ti'n cofio imi sôn am bwll Tartarws.
(0, 3) 1744 Wel rhaid inni fynd heibio'i ymyl o rwan.
(Nicias) Mi ydw i wedi clywed llawer o sôn amdano fo, droeon.
 
(Nicias) Ond does yna neb yn gwybod yn iawn be ydy o, w'chi.
(0, 3) 1747 Dydy Tartarws yn ddim ond adlewyrchiad o hanfod pob ing a galar a thristwch dynolryw yn ei thrueni eitha, Nicias.
(0, 3) 1748 Mi welwn beth ohono gyda hyn.
(0, 3) 1749 Fe glywaist Cerberws yn sôn mewn cyswllt hanner-digri am effaith cyffuriau.
(0, 3) 1750 Edrych — dyma realaeth y felltith arbennig honno ar ei gwaethaf:
(Nicias) Arswyd y byd, wnes i ddim sylweddoli, w'chi!
 
(Nicias) Arswyd y byd, wnes i ddim sylweddoli, w'chi!
(0, 3) 1754 Aros, dwyt ti ddim wedi gweld y cyfan eto....
(0, 3) 1755 Dyma iti felltith sydd mor hen â'r ddynoliaeth ei hun:
(Côr) Mae tawelwch yn ein pentre ni heddiw,
 
(Nicias) Ond mae'r lle yma'n llethu f'ysbryd i.
(0, 3) 1815 Pwll anobaith ydy Tartarws fel roeddwn i'n dweud wrthyt ti.
(0, 3) 1816 A hyd yma, che'st ti ddim ond cipolwg ar ei ymylon.
(Nicias) 'Does arna i ddim eisio gweld mwy.
 
(Nicias) Ne mi fydda i'n colli pob ffydd yn y natur-ddynol.
(0, 3) 1820 O, mae gobaith o hyd, Nicias.
(Nicias) Ydach chi'n credu hynny o ddifri?
 
(Nicias) Ydach chi'n credu hynny o ddifri?
(0, 3) 1822 Ydw, debyg iawn.
(0, 3) 1823 Onide, beth ydy diben ein hymweliad ni yma â Hades?
(Nicias) Trio achub Athen medda chi.
 
(Nicias) Trio achub Athen medda chi.
(0, 3) 1825 Mae Athen yn rhan o ddynol-ryw.
(Nicias) Ydy, wrth gwrs....
 
(Nicias) Maddeuwch imi am ddweud hyn, ond dydach chi ddim wedi egluro'n iawn imi, w'chi.
(0, 3) 1828 Egluro beth?
(Nicias) Sut yn hollol ydach chi'n meddwl achub Athen — yma o bob man?
 
(Nicias) Sut yn hollol ydach chi'n meddwl achub Athen — yma o bob man?
(0, 3) 1830 Mi gei di'r eglurhad cyn bo hir.
(0, 3) 1831 Wrth gwrs, 'does dim sicrwydd.
(Nicias) Sicrwydd?
 
(Nicias) Sicrwydd?
(0, 3) 1833 Y bydd y cynllun yn gweithio.
(Nicias) O!... Maddeuwch i mi eto, ond oni ddylai un fel chi wybod yn bendant ymlaen llaw?
 
(Nicias) Fedrwch chi ddim darllen y dyfodol?
(0, 3) 1836 Mi glywaist ti gwestiwn Cerberws ynglŷn â'm categori?
(Nicias) Do.
 
(Nicias) Duw bach o'r trydydd dosbarth, medda fo.
(0, 3) 1839 Ia, wel, 'roedd o'n berffaith iawn.
(0, 3) 1840 Duw bach cymharol ddi-nod ydw i.
(0, 3) 1841 Ac fel y dywedais wrthyt o'r blaen, mae terfyn pendant ar fy ngallu.
(0, 3) 1842 Na, Nicias, wn i ddim fydd fy nghynllun i'n llwyddo ai peidio.
(0, 3) 1843 Ond mi gawn weld gyda hyn.
(0, 3) 1844 Fyddwn ni ddim yn hir, rwan, yn cyrraedd Pencadlys Plwton...
(0, 3) 1845 Tyrd!
(Nicias) {Codi ar ei draed.}
 
(Nicias) Ga i ofyn un peth arall?
(0, 3) 1848 Wel!
(Nicias) Plwton — sut un ydy o?
 
(Nicias) Plwton — sut un ydy o?
(0, 3) 1850 Mi gei di weld hynny, hefyd, drosot dy hun.
(0, 3) 1851 A hynny cyn bo hir...
(0, 3) 1852 Rhaid inni fynd....
(0, 3) 1853 Dilyn fi, a chymer ofal.
(Plwton) {i'r ffôn}
 
(Plwton) Cyfarchion, Dionysos, a chroeso i Hades.
(0, 3) 1896 Diolch iti, Plwton.
(Plwton) Ymweliad go annisgwyl!
 
(Plwton) Ymweliad go annisgwyl!
(0, 3) 1898 Ac amcan arbennig.
(Plwton) {Cyfeirio at Nicias.}
 
(Plwton) Rwy'n gobeithio dy fod ti'n sylweddoli difrifoldeb cam fel hyn?
(0, 3) 1902 Yn llwyr.
(0, 3) 1903 Fe gei'r eglurhad yn y man.
(Plwton) Popeth yn iawn.
 
(Plwton) Rhaid imi ddweud hynna'n blwmp ac yn blaen.
(0, 3) 1907 Rwy'n syrthio ar fy mai, Plwton.
(0, 3) 1908 Ond teimlo roeddwn i y byddai hynny'n cymhlethu pethau'n ormodol a dianghenraid.
(Plwton) Wel, mi gawn weld.
 
(Plwton) Rhaid cael eu cytundeb a'u cydweithrediad nhw, beth bynnag yw dy gynllun.
(0, 3) 1912 Purion.
(Plwton) Gynghorwyr, rwy i wedi eich galw yma i'ch cyflwyno i Dionysos.
 
(Côr) I drafod cais mor hynod!
(0, 3) 1941 Plwton a Chynghorwyr Hades.
(0, 3) 1942 Diolch am eich derbyniad cwrtais, a'ch parodrwydd i wrando cais a fydd, rwŷn siwr, yn swnio'n haerllug neu yn wallgo ichi.
(0, 3) 1943 Neu efallai'n gyfuniad o'r ddau!
(0, 3) 1944 Gwyddoch, erbyn hyn mae'n debyg, imi — a'm cydymaith — ddwad yma'n syth o Athen.
(0, 3) 1945 A sefyllfa'r hen Ddinas honno a barodd imi ymgymryd â'r fath siwrna anturus.
(0, 3) 1946 Wna i mo'ch blino chi â'r manylion: digon yw dweud bod Athen mewn cyflwr pur ddifrifol.
(0, 3) 1947 Dinas wedi'i rhwygo ydy hi.
(0, 3) 1948 Mae ei harweinwyr yn styfnig benben.
(0, 3) 1949 Rhai o'i dynion gorau yn y carchar.
(0, 3) 1950 Delfrydau'r ifainc yn cael eu dirmygu.
(0, 3) 1951 Y gymdeithas yn faterol a chystadleuol — farus.
(0, 3) 1952 A'r bobol yn ymbalfalu mewn penbleth a difaterwch.
(0, 3) 1953 Y gelyn oddi mewn sy'n bygwth fwya, nid y Sbartiaid oddi allan.
(0, 3) 1954 Mewn gair, mae hi'n draed-moch yno.
(0, 3) 1955 Ac oni wneir rhywbeth yn bur sydyn, mi fydd hi ar ben ar yr hen Ddinas annwyl.
(0, 3) 1956 ~
(0, 3) 1957 Daw hyn â fi at gnewyllyn fy neges.
(0, 3) 1958 Fel y gwyddoch mae cewri Athen yn y dyddiau gynt yma, yn Hades, mewn teilwng Stâd o Anrhydedd.
(0, 3) 1959 Fy nghynllun, yn syml, ydy hyn: gwneud apêl i'r cyfryw arwyr fynd yn ôl i Athen, i adfer asgwrn-cefn a hunan-barch y genedl.
(0, 3) 1960 Dyna'r unig obaith, bellach, hyd y gwelaf i.
(0, 3) 1961 A dyna'n fyr, y cyfan sy gennyf i ddweud wrthych chi.
(0, 3) 1962 Diolch eto am eich gwrandawiad astud.
(Plwton) Wel, fe glywsoch gais Dionysos.
 
(Plwton) Dyna'r cyfan a allwn ni ei wneud.
(0, 3) 2009 Rwy'n cytuno'n llwyr.
(0, 3) 2010 Diolch yn fawr am dy gydweithrediad.
(Plwton) Wn i ddim beth fydd ateb yr arwyr.
 
(Plwton) Gobeithio dy fod yn deall hynny?
(0, 3) 2014 Rwy'n deall yn berffaith.
(Plwton) O'r gorau.
 
(0, 3) 2090 Pa ddiben?
(0, 3) 2091 Hyd yn oed yn Hades, rhaid gweithredu'n ddemocrataidd.
(0, 3) 2092 Rhaid derbyn eu penderfyniad.
(0, 3) 2093 "Mae tynged Athen, bellach, yn ei dwylo hi eu hun!"
(0, 3) 2094 Mae hynna'n hollol wir, wrth gwrs.
(0, 3) 2095 I fod yn onest, roeddwn i'n ei sylweddoli cyn cychwyn yma, ond fy mod i'n ofni.
(Plwton) Ofni?
 
(Plwton) Ofni?
(0, 3) 2097 Na fyddai Athen ddim yn fodlon — neu ddim yn abl i'w wynebu.
(Plwton) {Nodio at Nicias.}
 
(Plwton) Be sy'n mynd i ddigwydd i'r truan yna?
(0, 3) 2100 Fy mwriad oedd iddo fo fynd â'r cewri yn ôl i Athen — petaen nhw wedi cytuno.
(Plwton) Ond rwan?
 
(Plwton) Ond rwan?
(0, 3) 2102 Rhaid iddo fo fynd yn ôl ei hun.
(0, 3) 2103 'Alla i ddim mynd efo fo.
(0, 3) 2104 Dyletswydd bwysig arall.
(Plwton) Hanner munud, mi wyddost fod hynna'n amhosibl, Dionysos.
 
(Plwton) Ond fedra i ddim caniatâu i feidrolyn fel hwn fynd yn ôl i Fyd y Byw.
(0, 3) 2108 Beth petawn i'n dweud na fyddai'n cofio dim oll o'i ymweliad â Hades?
(Plwton) Sut fedri di sicrhau hynny?
 
(Plwton) Sut fedri di sicrhau hynny?
(0, 3) 2110 Rwy' i wedi cymryd yr hyfdra i ystumio un arall o'r mân-reolau.
(Plwton) Beth?
 
(Plwton) P'run?
(0, 3) 2113 Mi ydw i wedi rhoi diferyn o ddŵr Afon Lethe yn y botel win sy ganddo yn ei boced.
(0, 3) 2114 Un dracht, fel y gwyddost, a mi fydd y cyfan yn angof iddo fo.
(0, 3) 2115 Yn ebargofiant llwyr.
(Plwton) Dionysos, rwyt ti'n gastiog i'w ryfeddu!
 
(Plwton) Ond mi fyddi di'n ei hebrwng rhan o'r ffordd?
(0, 3) 2119 Byddaf, wrth gwrs.
(0, 3) 2120 Rhaid iddo osgoi Cerberws ar bob cyfri!
(Plwton) Ond beth am y Stycs?
 
(Plwton) Ond beth am y Stycs?
(0, 3) 2122 Popeth yn iawn, rwy'n credu.
(0, 3) 2123 Mi wnes i drefniant amodol efo Charon ar y ffordd yma.
(Plwton) Dim ond amodol?
 
(Nicias) Ond dyma Fo'n dwad yn 'i ôl!
(0, 3) 2145 Wel Nicias, mae'r amser wedi dwad.
(Nicias) {Gobeithiol}
 
(Nicias) Inni fynd yn ôl?
(0, 3) 2148 I ti fynd yn ôl.
(0, 3) 2149 Fydda i ddim yn dwad efot ti.
(Nicias) Be?
 
(Nicias) Pam?
(0, 3) 2152 Fedra i ddim egluro pam.
(0, 3) 2153 Dyletswydd bwysig arall.
(0, 3) 2154 Fydda i ddim angen dy gymorth di i honno.
(Nicias) Dydw i ddim wedi bod fawr o gymorth ichi yn hon, chwaith 'ddyliwn!
 
(Nicias) Dydw i ddim wedi bod fawr o gymorth ichi yn hon, chwaith 'ddyliwn!
(0, 3) 2156 Nid dy fai di oedd hynny.
(0, 3) 2157 'Roedd y parodrwydd a'r bwriad yna.
(Nicias) Fel rydach chi'n gwybod bellach, Syr, rhyw greadur digon twp ydw i.
 
(Nicias) Ond mi ydw i'n rhyw ama, rhyngon ni'n dau, nad ydy o ddim wedi llwyddo fel y dymunech chi.
(0, 3) 2161 Rwyt ti'n iawn, Nicias.
(0, 3) 2162 Ond fel y dywedais wrthyt fwy nag unwaith, doedd yna ddim sicrwydd y byddai'r cynllun yn llwyddo.
(0, 3) 2163 Ac y mae hyd yn oed un fel fi yn gorfod sylweddoli ffolineb cymhlethu cymhellion yn ddianghenraid.
(Nicias) {Nid yw'n deall.}
 
(Nicias) Esgusodwch fi — llond ceg braidd —
(0, 3) 2166 Beth wy'n 'i feddwl ydy fod y Gwirionedd weithiau o flaen ein trwynau.
(0, 3) 2167 Yn rhy agos inni 'i weld.
(Nicias) O? Mae yna un gwirionedd o flaen fy nhrwyn i rwan.
 
(Nicias) A minna yn 'i weld yn blaen.
(0, 3) 2170 A hwnnw?
(Nicias) Mod i'n gorfod mynd yn ôl fy hun.
 
(Nicias) A'r Stycs!
(0, 3) 2178 Nicias, mi addewais iti y byddet yn mynd yn ôl at Iris dy wraig yn ddiogel a dianaf.
(0, 3) 2179 Ac os gwrandewi ar fy nghyngor, fe lwyddi.
(0, 3) 2180 Ond rhaid bod yn ofalus tu hwnt...
(0, 3) 2181 Tyrd, mi egluraf y cynllun wrthyt wrth inni fynd...
(0, 3) 2182 Gyda llaw, mi gei gadw'r cas mawr yma...
(0, 3) 2183 Rwy i wedi rhoi un o'r poteli-gwin yn dy boced di.
(Nicias) Diolch yn fawr, Syr.
 
(Nicias) Diolch yn fawr, Syr.
(0, 3) 2186 Ond rwy i am iti addo peidio ag yfed ohoni nes byddi wedi croesi'r Stycs.
(0, 3) 2187 Wyt ti'n addo?
(Nicias) Ar fy llw!
 
(Nicias) At Iris.
(0, 3) 2191 Gorau po gynta inni gychwyn felly...
(0, 3) 2192 Tyrd.
 
(0, 4) 2199 Seibiant, Nicias.
(0, 4) 2200 Eistedd yma am funud.
(Nicias) Beth am Cerberws?
 
(Nicias) Ydan ni'n weddol agos i'w diriogaeth o rwan?
(0, 4) 2204 Rydyn ni yn ei "diriogaeth" o fel rwyt ti'n dweud.
(0, 4) 2205 Dyna pam mae'n rhaid inni benderfynu ar dacteg.
(Nicias) Deudwch wrtha i, Syr, tae o'n digwydd cael gafael arna ì, be fydda fo'n 'i wneud imi?
 
(Nicias) Deudwch wrtha i, Syr, tae o'n digwydd cael gafael arna ì, be fydda fo'n 'i wneud imi?
(0, 4) 2207 Gwell peidio â meddwl am hynny.
(0, 4) 2208 Rhaid inni ganolbwyntio rwan ar sut i'w sgoi o eto.
(0, 4) 2209 Rydan ni'n siwr o'i gyfarfod o.
(0, 4) 2210 Felly gwranda'n astud.
(0, 4) 2211 Pan glywn ni o'n dwad, dos di o'r golwg y tu ôl i hwnna.
 
(0, 4) 2213 Wedyn mi geisia i ddal ei sylw am ychydig mewn sgwrs.
(0, 4) 2214 Dyna dy gyfle di i sleifio i'r cyfeiriad acw ar flaena dy draed.
(0, 4) 2215 Rhaid iti fod yn ddistaw fel llygoden.
(0, 4) 2216 Mae o'n llygadog fel barcut fel y gwyddost ti.
(0, 4) 2217 Os gwêl o di, gwadna hi am dy hoedl at y Stycs.
(Nicias) Ond beth am Charon?
 
(Nicias) Ond beth am Charon?
(0, 4) 2219 Popeth wedi'i drefnu.
(0, 4) 2220 Weli di mono fo o gwbwl.
(0, 4) 2221 Ond mi fydd cwch wedi cael ei adael yn barod iti yno.
(0, 4) 2222 Neidia iddo fo, a fedr Cerberws wneud dim oll iti.
(Nicias) Wedyn?
 
(Nicias) Wedyn?
(0, 4) 2224 Wedyn, pwnia'r cwch dros y Stycs i'r ochor arall, i'th fyd a'th ddimensiwn di dy hun.
(0, 4) 2225 Popeth yn glir?
(Nicias) Ydy.
 
(Nicias) Mi wna i unrhyw beth i gael mynd yn ôl i'r hen Athen annwyl efo'i holl ffaeledda!
(0, 4) 2228 Gan obeithio na fydd y rheiny ddim yn ei thynnu i'r llwch!
(Nicias) Ia, mae hynna y tu hwnt i greadur dibwys fel fi, Syr.
 
(Nicias) Ia, mae hynna y tu hwnt i greadur dibwys fel fi, Syr.
(0, 4) 2230 Does yna run creadur dibwys, Nicias.
(0, 4) 2231 Mae dyfodol Athen yn nwylo miloedd o'th debyg — y mwyafrif cib-ddall mud, difater.
(Nicias) {Yn awyddus i newid testun sy'n ddiflas iddo.}
 
(Nicias) Rhaid ein bod ni yma ers hydoedd bellach.
(0, 4) 2236 Dydy Amser ddim yn bod yma, Nicias.
(Nicias) Sut felly?
 
(Nicias) Dydw i ddim yn deall —!
(0, 4) 2239 Yn nhermau tragwyddoldeb beth yw modfedd, neu funud, neu filltir neu ganrif?
(0, 4) 2240 Dydyn nhw ddim yn bod.
(Nicias) Hanner munud rwan, mae rheswm yn dweud ─
 
(Nicias) Hanner munud rwan, mae rheswm yn dweud ─
(0, 4) 2242 All dy reswm di wneud dim oll ond mesur a phwyso a chymharu, Nicias.
(0, 4) 2243 Mae hynny'n angenrheidiol, wrth gwrs, o fewn terfynau bodolaeth faterol.
(0, 4) 2244 Ond paid â meddwl y gall rheswm egluro popeth.
(0, 4) 2245 Does yna ddim rheswm, fel y cyfryw, i dosturi na hunan-aberth na dyhead anniwall enaid dyn am brydferthwch a chelfyddyd.
(Nicias) {Mae ar goll ers meitin.}
 
(Nicias) Peth mawr i' ddweud, rwy'n gwybod, ond mae o'n wir.
(0, 4) 2249 O? Ar ba achlysur?
(Nicias) Rydach chi yn y gwely yn nistawrwydd y bore bach.
 
(Nicias) A rwan — gyda pharch, Syr — wrth sôn am Amser ac ati, fedra i feddwl am ddim ond am groeso cynnes bronnau Iris, a chryndod parod ei llwynau.
(0, 4) 2257 Rwyt ti bron â gwneud imi genfigennu wrth dy gnawdoliaeth frau!
(Nicias) Cerberws!
 
(0, 4) 2261 Brysia — y tu ôl i hwnna.
(0, 4) 2262 Gwylia fi'n fanwl, a phan roi'r arwydd iti, hegla hi ar flaena dy draed.
(0, 4) 2263 A phaid â cymryd dy wynt, bron, nes y doi di at y Stycs.
(Nicias) Reit, Syr.
 
(Nicias) {Mae'n troi i fynd}
(0, 4) 2266 O, a Nicias?
(Nicias) Ia?
 
(Nicias) Ia?
(0, 4) 2268 Pob lwc iti... a diolch.
(0, 4) 2269 Dos, brysia!
 
(0, 4) 2273 Hoi Cerberws!
(0, 4) 2274 Hanner munud os gweli'n dda.
(Cerberws) {Edrych ar ei oriawr.}
 
(Cerberws) Dim amser i ddal pen rheswm na malu awyr.
(0, 4) 2279 Wna i ddim dy gadw di'n hir.
(0, 4) 2280 Ond mae arna i eisio dy help di os oes modd.
(0, 4) 2281 Mater pwysig tu hwnt.
(Cerberws) Edrych yma Dionysos, rwyt ti wedi achosi digon o drafferth a helbul imi'n barod.
 
(Cerberws) Mi leciwn i gael gafael arno fo!
(0, 4) 2285 Hwnnw oedd gen' i dan sylw.
(0, 4) 2286 Welaist ti o yn rhywle?
(Cerberws) Dim golwg, y bwbach beiddgar!
 
(Cerberws) Mi fydd yn difaru hyd at ei flewyn olaf!
(0, 4) 2292 Mi ydw i'n meddwl mai anelu at y Stycs mae o, y munud yma!
(Cerberws) Dim o gwbwl.
 
(Cerberws) O oes!
(0, 4) 2298 O?
(Cerberws) Y lle mwya annhebygol inni fynd i chwilio amdano fo.
 
(Cerberws) Y lle mwya annhebygol inni fynd i chwilio amdano fo.
(0, 4) 2300 A hwnnw?
(Cerberws) Yn ymyl Tartarws.
 
(Cerberws) Ddoi di efo fi?
(0, 4) 2304 Â chroeso...
(0, 4) 2305 Gad inni fynd.
(0, 4) 2306 Mae gen i bob cyd-ymdeimlad â thi, Cerberws.
(0, 4) 2307 Mae'r creadur yna'n beryg bywyd.