Y Llyffantod

Ciw-restr ar gyfer Iris

(Harmonia) Yli!
 
(Harmonia) Yli!
(0, 1) 10 Nic!
(0, 1) 11 Be ar y ddaear mae o'n 'i wneud wrth yr afon yna!
(Harmonia) Yfed!
 
(Harmonia) Yfed!
(0, 1) 13 Pam nad ydy o yn 'i waith?
(Harmonia) Dyna gwestiwn.
 
(Harmonia) Mae o'n rhy ddiog i gymryd 'i wynt.
(0, 1) 20 Ond mam, rhaid bod yna ryw reswm!
 
(0, 1) 22 Wel?
(Nicias) Wel, be?
 
(Nicias) Wel, be?
(0, 1) 24 Be wyt ti'n 'i wneud yn fan 'ma?
(Nicias) Mae hynny'n ddigon amlwg, 'ddyliwn.
 
(Nicias) Mae hynny'n ddigon amlwg, 'ddyliwn.
(0, 1) 26 Pam nad wyt ti yn dy waith?
(Nicias) Am nad oes gen i ddim gwaith.
 
(Nicias) Am nad oes gen i ddim gwaith.
(0, 1) 28 Be wyt ti'n 'i feddwl?
(Nicias) Wedi cael fy nghardia y bore yma.
 
(Nicias) Fi a phedwar arall.
(0, 1) 32 Pam?
(Harmonia) Gamblo reit siwr.
 
(Nicias) Pam na chwerthwch chi 'te, 'rhen grimpan!
(0, 1) 49 Paid â siarad efo mam fel 'na!
(0, 1) 50 Rhaid iti fynd i rywle arall i chwilio am waith.
(Nicias) Dim gobaith.
 
(Harmonia) Clyfar iawn!
(0, 1) 61 Ond be wyt ti'n mynd i' wneud?
(Nicias) Wn i ddim.
 
(Nicias) Disgwyl cardod gan y duwia am wn i.
(0, 1) 64 Pam oeddech chi'n cael eich cardia?
(Nicias) Mater o egwyddor.
 
(Nicias) Mater o egwyddor.
(0, 1) 66 Pa egwyddor?
(Nicias) Pwy sydd i fod i wneud be.
 
(Nicias) Pwy sydd i fod i wneud be.
(0, 1) 68 Egwyddor wir!
(0, 1) 69 Fedri di ddim fforddio egwyddor fel yna a thitha efo pump o blant bach.
(Harmonia) Ac un arall ar y ffordd!
 
(Harmonia) D'wed wrtho fo, Iris.
(0, 1) 75 Gweld y doctor.
(Harmonia) Ia, dyna iti ble.
 
(Nicias) Nefoedd!
(0, 1) 81 Wn i ddim be sy'n mynd i ddigwydd inni.
(0, 1) 82 Na ple i droi.
(0, 1) 83 Mi fyddwn ar y clwt.
(0, 1) 84 Ac arnat ti mae'r bai.
(0, 1) 85 Llipryn di-ddim wyt ti!
(Harmonia) Hunanol.
 
(Harmonia) Hunanol.
(0, 1) 87 Di-asgwrn cefn.
(Harmonia) Pen-yn-y-gwynt.
 
(Harmonia) Pen-yn-y-gwynt.
(0, 1) 89 Rabscaliwn!
(0, 1) 90 Dowch mam.
(0, 1) 91 Mi fydd y plant yn dwad o'r ysgol gyda hyn.
(0, 1) 92 A'u bolia bach nhw'n wag.
(0, 1) 93 Mi fyddan yn crafu yn y tun-sbwriel am grystyn sych cyn bo hir.
(Harmonia) Egwyddor wir, a thitha ddim uwch baw-sawdl!
 
(Nicias) Iris!
(0, 2) 1024 Yma rwyt ti o hyd felly!
(0, 2) 1025 Oes yna ddim siâp symud arnat ti?
(Nicias) Mi ydw i wedi symud i'r fan yma, beth wyt ti'n 'i siarad?
 
(Nicias) Mi ydw i wedi symud i'r fan yma, beth wyt ti'n 'i siarad?
(0, 2) 1027 Mi wyddost be rydw i'n 'i feddwl.
(0, 2) 1028 Dim symudiad i chwilio am waith i ennill cyflog i fwydo dy blant di.
(Dionysos) Esgusodwch fi, rwy' i wedi cynnig gwaith i'ch gŵr.
 
(Dionysos) Ac mor awyddus i osgoi pryder ichi —
(0, 2) 1032 Pryder i mi?
(0, 2) 1033 Sut felly?
(Dionysos) Wel roeddwn i am ei gyflogi fel gwas imi ar fy siwrna.
 
(Dionysos) Ond wrth gwrs os ydych chi'n gwrthwynebu —
(0, 2) 1036 Mae'n dda gen i glywed, Syr!
 
(0, 2) 1038 Rwyt ti'n lwcus.
(0, 2) 1039 Mi ddylet fod yn ddiolchgar.
(Nicias) Ia, ond wyddost ti i ble mae o'n mynd?
 
(Nicias) I Hades!
(0, 2) 1042 Dim gwahaniaeth, ond iti ddwad yn d'ôl rywdro.
(0, 2) 1043 A chyflog efo ti!
(Nicias) Does yna ddim sicrwydd y bydda i'n dwad yn ôl.
 
(Dionysos) Yn berffaith ddiogel.
(0, 2) 1047 Dyna fo felly!
 
(0, 2) 1049 Mi ydw i'n mynd i brynu sgidia i'r hogyn hyna acw rwan.
(0, 2) 1050 Rhaid eu cael nhw ar lab, nes y doi di yn ôl efo cyflog.
(0, 2) 1051 Felly paid â bod yn rhy hir...
(0, 2) 1052 Dydd da ichi, Syr.
(Dionysos) Mae gen ti wraig dda yn honna, Nicias.
 
(Cerberws) Tyrd yma imi gael gafael ar dy wegil di!
(0, 4) 2337 Mae o'n dal i gysgu!
(Harmonia) Fel mochyn mewn twlc.
 
(Harmonia) Fel mochyn mewn twlc.
(0, 4) 2339 Rhaid ei fod o wedi blino.
(Harmonia) Heb wneud dim?
 
(Harmonia) Heb wneud dim?
(0, 4) 2341 Does yna ddim mwy blinedig na segura.
(Harmonia) Hy!
 
(Harmonia) Hy!
(0, 4) 2343 Yn erbyn eich ewyllys o'n i'n ei feddwl.
(Harmonia) Hy!
 
(Harmonia) Hy!
(0, 4) 2346 Nic!
(Nicias) {Deffro.}
 
(Harmonia) Mae o'n sâl iawn!
(0, 4) 2359 Be sy'n bod arnat ti?
(Nicias) Wyt ti ddim yn sylweddoli?
 
(Nicias) Ar drothwy dychrynllyd Tartarws du!
(0, 4) 2364 Be!
(Nicias) Mae Cerberws wedi bod ar fy ngwartha gan sgyrnygu dannedd.
 
(Nicias) A Charon wedi fy mygwth ar ddyfroedd enbyd y Stycs!
(0, 4) 2367 Am beth wyt ti'n siarad?
(Nicias) O, mae o'n hanes fydd yn codi gwallt dy ben di, Iris annwyl!
 
(Harmonia) Mi ydw i'n gwybod rwan ei fod o'n drysu!
(0, 4) 2374 Wel, dywed yr hanes hynod yna i gyd.
(Nicias) {Tynnu'r botel o'i boced.}
 
(Nicias) Ben-di-ged-ig!
(0, 4) 2380 Wel?
(Nicias) 'Wel', be?
 
(Nicias) 'Wel', be?
(0, 4) 2382 Beth am y siwrna erchyll yna gest ti?
(Nicias) {Yn syn.}
 
(Harmonia) Rwyt ti newydd fod yn preblian rhywbeth am siwrna erchrydus yn Hades a... a... be-wyt-ti'n-alw... Tartarws.
(0, 4) 2388 Ac am Cerberws a Charon ac Afon Stycs.
(0, 4) 2389 A does yna ddim dwy awr er pan aethon ni oddma a'th adael di yma yn yfed gwin.
(0, 4) 2390 Rhaid ei fod o wedi mynd i dy ben di.
(Harmonia) Breuddwyd meddwyn os wyt ti'n gofyn i mi.
 
(Harmonia) Dwed y newyddion da wrtho fo!
(0, 4) 2395 O ia, Nic, wyddost ti'r hen wraig drws-nesa-ond-tri?
(Nicias) Gwn.
 
(Nicias) Bydwraig wedi ymddeol.
(0, 4) 2398 Dyna ti.
(0, 4) 2399 Wel, rydan ni newydd fod yn siarad efo hi.
(0, 4) 2400 A wyddost ti be mae hi'n i ddweud...?
(Nicias) Ust! Glywch chi rywbeth?
 
(Lleisiau) "Mae tynged Athen yn ei dwylo hi ei hun."
(0, 4) 2406 Chlywa i ddim ond crawcian y llyffantod.
(Nicias) Ro'n i'n meddwl 'mod i'n clywed rhywbeth arall hefyd.
 
(Nicias) Ro'n i'n meddwl 'mod i'n clywed rhywbeth arall hefyd.
(0, 4) 2408 Dim ond sŵn yr awel yn yr hesg.
(Harmonia) Paid â dweud dy fod ti'n dechra clywed petha rwan!
 
(Harmonia) Yr arwydd cynta meddan nhw!
(0, 4) 2411 Gad imi orffen dweud wrthyt ti.
(Nicias) Dweud be?
 
(Nicias) Dweud be?
(0, 4) 2413 Wel, be ddwedodd yr hen fydwraig.
(Nicias) Mi ydw i'n glustia i gyd!
 
(Nicias) Mi ydw i'n glustia i gyd!
(0, 4) 2415 Mae hi'n meddwl 'mod i am gael efeilliaid!
(Nicias) Nefoedd yr adar!
 
(Nicias) Nefoedd yr adar!
(0, 4) 2417 A mae hi'n gwybod be ydy be, on'd ydy mam?
(Harmonia) Byth yn methu.
 
(Harmonia) Byth yn methu.
(0, 4) 2419 Blynyddoedd o brofiad.
(Harmonia) Neb craffach.
 
(Harmonia) Neb craffach.
(0, 4) 2421 Gwell na doctor, meddan nhw, on'de mam?
(Harmonia) Ia, ganwaith.
 
(Nicias) Ond sut ar y ddaear fedar hi wybod?
(0, 4) 2425 Rhoi ei chlust ar fy mol i wnaeth hi.
(0, 4) 2426 A dyna hi'n dweud, "Un ai rwyt ti am gael efeilliaid, merch chi, ne mae gan dy fabi ddwy galon".
(0, 4) 2427 Dyna ddwedodd hi, on'de mam?
(Harmonia) Yr union eiria.
 
(Nicias) A finna allan o waith!
(0, 4) 2433 Arnat ti roedd y bai — mynd ar streic.
(Harmonia) Rhy hwyr codi pais ar ôl be-wyt-ti'n-alw, fel y bydden nhw'n dweud...
 
(Nicias) Wel?
(0, 4) 2438 Mae yna siawns y cei di waith — dros dro beth bynnag.
(Nicias) Beth ydy o — fel 'tae gen i unrhyw ddewis!
 
(Nicias) Beth ydy o — fel 'tae gen i unrhyw ddewis!
(0, 4) 2440 Mae yna ryw ddyn cefnog newydd ddwad i'r ddinas yma.
(0, 4) 2441 O Gorinth ne rywle.
(0, 4) 2442 Trafaeliwr ne fasnachwr gwin, mi ydw i'n meddwl.
(Nicias) Ia?
 
(Nicias) Ia?
(0, 4) 2444 Mae o eisio rhywun i fynd â fo o gwmpas Athen, i weld y llefydd diddorol a ballu.
(Harmonia) A chario'i fag o.
 
(Nicias) Oes yna ryw newydd arall?
(0, 4) 2454 Dim ond bod mam am ddwad acw i aros efo ni rwan.
(0, 4) 2455 I helpu tipyn arna i nes daw f'amser.
(Nicias) Dyna'r newydd gwaetha un!
 
(Nicias) Dyna'r newydd gwaetha un!
(0, 4) 2458 Wyt ti'n dwad rwan, Nic?
(Nicias) Mewn eiliad.
 
(Nicias) Mi ddo i ar eich ôl chi.
(0, 4) 2464 Wel, paid â bod yn hir.
(0, 4) 2465 Rwyt ti wedi clertian digon.