Y Llyffantod

Ciw-restr ar gyfer Nicias

(Harmonia) Yli!
 
(Iris) Wel?
(0, 1) 23 Wel, be?
(Iris) Be wyt ti'n 'i wneud yn fan 'ma?
 
(Iris) Be wyt ti'n 'i wneud yn fan 'ma?
(0, 1) 25 Mae hynny'n ddigon amlwg, 'ddyliwn.
(Iris) Pam nad wyt ti yn dy waith?
 
(Iris) Pam nad wyt ti yn dy waith?
(0, 1) 27 Am nad oes gen i ddim gwaith.
(Iris) Be wyt ti'n 'i feddwl?
 
(Iris) Be wyt ti'n 'i feddwl?
(0, 1) 29 Wedi cael fy nghardia y bore yma.
(0, 1) 30 Cic yn fy mhen-ôl.
(0, 1) 31 Fi a phedwar arall.
(Iris) Pam?
 
(Harmonia) Ne glertian yn Theatr Dionysos yn edrach ar sothach.
(0, 1) 37 Fel mater o ffaith, mi ydw i wedi bod yma ers awr yn gwrando ar Gôr y Llyffantod.
(0, 1) 38 Glywch chi nhw?...
(0, 1) 39 Wyddoch chi be mae nhw'n 'i ganu?
(0, 1) 40 Mi ddweda i wrtha chi:
(0, 1) 41 ~
(0, 1) 42 C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca!
(0, 1) 43 Mor hyfryd yw anthem y Broga!
(0, 1) 44 A dyma ni'n glyd,
(0, 1) 45 Yn hapus ein byd,
(0, 1) 46 Peidiwch, da chi, â'i ddiffetha.
(Harmonia) Digri dros ben!
 
(Harmonia) Digri dros ben!
(0, 1) 48 Pam na chwerthwch chi 'te, 'rhen grimpan!
(Iris) Paid â siarad efo mam fel 'na!
 
(Iris) Rhaid iti fynd i rywle arall i chwilio am waith.
(0, 1) 51 Dim gobaith.
(0, 1) 52 Mi fydd pob ffatri yn Athen wedi cau gyda hyn, myn cebyst!
(Harmonia) Rwyt ti am eistedd yma felly, ar dy ben-ôl.
 
(Harmonia) Rwyt ti am eistedd yma felly, ar dy ben-ôl.
(0, 1) 54 Mae'n rhaid imi, w'chi.
(Harmonia) Rhaid?
 
(Harmonia) Pam?
(0, 1) 57 Am reswm anatomegol.
(Harmonia) Am beth wyt ti'n siarad?
 
(Harmonia) Am beth wyt ti'n siarad?
(0, 1) 59 Oherwydd gwneuthuriad fy nghorff mi fydda'n bur anodd imi eistedd ar fy mol.
(Harmonia) Clyfar iawn!
 
(Iris) Ond be wyt ti'n mynd i' wneud?
(0, 1) 62 Wn i ddim.
(0, 1) 63 Disgwyl cardod gan y duwia am wn i.
(Iris) Pam oeddech chi'n cael eich cardia?
 
(Iris) Pam oeddech chi'n cael eich cardia?
(0, 1) 65 Mater o egwyddor.
(Iris) Pa egwyddor?
 
(Iris) Pa egwyddor?
(0, 1) 67 Pwy sydd i fod i wneud be.
(Iris) Egwyddor wir!
 
(Harmonia) Ac un arall ar y ffordd!
(0, 1) 71 Be!
(Harmonia) Ia, mi wyddwn y bydda hynna'n rhoi sgytwad iti.
 
(Harmonia) Mae Iris wedi, be-wyt-ti'n-alw... mynd!
(0, 1) 80 Nefoedd!
(Iris) Wn i ddim be sy'n mynd i ddigwydd inni.
 
(Harmonia) Egwyddor wir, a thitha ddim uwch baw-sawdl!
(0, 1) 96 Diolch am funud o heddwch!
(0, 1) 97 Merchaid, myn cythral!
(0, 1) 98 Mi edrychan ar greadur o ddyn yn gweithio'i fysedd i'r asgwrn.
(0, 1) 99 A mynd dan draed rhyw labwst o fforman.
(0, 1) 100 Ac ar ddiwedd yr wythnos mi ddalian eu dwylo allan i fachu'r ddima ola goch-y-delyn.
(0, 1) 101 A be sy gan y pwar-dab i ddangos am ei lafur?
(0, 1) 102 Affliw o ddim ond cyrn ar ei ddwylo, a chrys chwyslyd ar ei gefn.
(Merch) Gymerwch chi bamffled?
 
(Merch) Gymerwch chi bamffled?
(0, 1) 105 Dim arian.
(Merch) Rhad ac am ddim.
 
(Merch) Rhad ac am ddim.
(0, 1) 107 Dim gwerth ei chael felly... Politics?
(Merch) Wel, ia mewn ffordd.
 
(Merch) Wel, ia mewn ffordd.
(0, 1) 109 Cad dy bamffled.
(0, 1) 110 Does gen i ddim diddordeb mewn politics.
(Merch) Mae gan bolitics ddiddordeb ynoch chi.
 
(Merch) Mae gan bolitics ddiddordeb ynoch chi.
(0, 1) 112 Clyfar iawn!
(0, 1) 113 Dos adra at dy fam i newid dy glwt, 'merch i.
(0, 1) 114 Paid â dweud wrtho i beth i wneud!
 
(0, 1) 116 Hen bryd torri criba'r bobl ifanc yma.
(0, 1) 117 Trio rhedeg cyn dysgu cropian.
 
(0, 1) 119 Nefoedd, un arall ar y ffordd!
(0, 1) 120 Ro'n i yn y theatr ddoe yn gweld drama am ryw frenin o'r enw Oidipos.
(0, 1) 121 Roedd y creadur hwnnw hefyd mewn tipyn o strâch.
(0, 1) 122 Ond doedd ei dynged o'n ddim i'r felltith sydd arna i!
(0, 1) 123 Mae yna ddeugain mil o ferched yn Athen, ond 'roedd yn rhaid i mi ddewis yr hen grimpan gegog yna'n fam-yng-nghyfraith.
 
(0, 1) 125 "Ble rwyt ti'n 'i feddwl rydan ni wedi bod y bore yma?...
(0, 1) 126 A does dim amheuaeth medda'r doctor.
(0, 1) 127 Mae Iris wedi, be-wyt-ti'n-alw... mynd!"
 
(0, 1) 129 Beth 'tae hi'n cael efeilliaid!
(0, 1) 130 Mae yna rai yn y teulu yn rhywle.
(0, 1) 131 A dyna dyaid o saith o blant!
(0, 1) 132 Rhaid imi chwilio am rywbeth i' wneud mae'n amlwg.
(0, 1) 133 Wn i ddim be, chwaith.
(0, 1) 134 Sgubo'r stryd efallai.
(0, 1) 135 Mi fydda hynny'n well na llwgu... am wn i!
(0, 1) 136 O wel, digon buan poeni am hynny fory.
(0, 1) 137 Llymaid arall o'r gwin yma rwan.
 
(0, 1) 139 Ben-di-ged-ig!
(0, 1) 140 Diolch amdano.
 
(0, 1) 142 Ewch i Hades yr hen widdan drwynsur!
(0, 1) 143 A gobeithio y bydd Cerberws yn brathu eich, be-ydach chi'n alw... sodla"!
(Dionysos) Roeddech chi'n bwrw drwyddi'n o arw funud yn ôl, gyfaill.
 
(Dionysos) Roeddech chi'n bwrw drwyddi'n o arw funud yn ôl, gyfaill.
(0, 1) 151 Sut wyddoch chi?
(Dionysos) Ro'n i'n digwydd sefyll ar y gornel yn y fan acw, a'ch clywed chi.
 
(Dionysos) Rhywun wedi sathru'ch corn yn amlwg.
(0, 1) 154 Merched, w'chi.
(0, 1) 155 Mae'n nhw'n anhydrin iawn weithia.
(0, 1) 156 Fel maen-melin am eich gwddw chi.
(0, 1) 157 Mi ydw i wedi dweud erioed, dydyn nhw ddim 'run fath â ni ddynion.
(Dionysos) Nac ydyn, mae'n debyg!
 
(Dionysos) Nac ydyn, mae'n debyg!
(0, 1) 159 A dydy heddiw ddim wedi bod yn ddiwrnod lwcus imi o gwbwl.
(0, 1) 160 Yn gynta mi ydw i wedi colli 'ngwaith.
(0, 1) 161 Ac yn ail, mi ydw i newydd glywed fod y wraig yn mynd i ddal y dorth ymhell.
(Dionysos) Yn beth?
 
(Dionysos) Yn beth?
(0, 1) 163 Wedi llyncu pry.
 
(0, 1) 165 Magu mân-esgyrn fel y byddwn ni'n deud.
(0, 1) 166 Wyddoch chi —
 
(Dionysos) Llongyfarchion.
(0, 1) 170 Llongyfarchion?
(0, 1) 171 Nid dyna ddwedodd fy mam-yng-nghyfraith rwan, Syr.
(0, 1) 172 Dyna ichi'r ddynes fwya gecrus yn Athen.
(0, 1) 173 Tafodi?
(0, 1) 174 Edliw?
(0, 1) 175 A wyddoch chi beth ydy ei henw hi?
(0, 1) 176 Harmonia!
(0, 1) 177 Dyna ichi jôc!
(0, 1) 178 Mi fasa Rhagan-rug yn ei siwtio hi'n well...
 
(0, 1) 180 Ar eich gwylia rydach chi, mae'n debyg?
(0, 1) 181 Ydach chi am aros dipyn?...
(0, 1) 182 Oes arnoch chi eisio rhywun i ddangos y Ddinas ichi?
(0, 1) 183 Cario'r bag yna?
(Dionysos) Welais i erioed wlad mor dlos â hon.
 
(Dionysos) Rhaid dy fod yn ei charu hi â'th holl galon.
(0, 1) 190 Beth?
(0, 1) 191 O ydw am wn i.
(0, 1) 192 "Cas gŵr..." ac yn y blaen.
(0, 1) 193 Ond fedrwch chi ddim byw ar brydferthwch, Syr....
(0, 1) 194 Che's i mo'ch enw chi'n iawn....
(0, 1) 195 Mi garia i'r bag mawr trwm yna am bris rhesymol....
(0, 1) 196 Cil-dwrn, fel tae....
(Dionysos) Rwyt ti'n gyfarwydd â'r Ddinas?
 
(Dionysos) Rwyt ti'n gyfarwydd â'r Ddinas?
(0, 1) 199 Athen?
(0, 1) 200 Ydw, fel cledr fy llaw, er mai ar y cyrion rydw i'n byw.
(0, 1) 201 Mi fedrwn fynd â chi o gwmpas os mynnwch chi.
(0, 1) 202 Dangos y llefydd o ddiddordeb ac ati....
(0, 1) 203 Be ydach chi'n i ddweud?
(Dionysos) Sothach!
 
(Dionysos) Sothach!
(0, 1) 206 Tybed?
(0, 1) 207 Digon da i mi.
(0, 1) 208 A pheth arall, fedra i fforddio dim gwell.
(0, 1) 209 Rydach chi'n arbenigwr ar win, yn amlwg?
(Dionysos) Felly maen nhw'n dweud.
 
(Dionysos) Beth ydy d'enw di?
(0, 1) 212 Nicias, Syr.
(0, 1) 213 Ond Nic mae pawb sy'n fy nabod i'n fy ngalw i.
(Dionysos) Rwy'n gweld.
 
(Dionysos) Rwy'n bryderus iawn ynghylch Athen, Nicias.
(0, 1) 217 O?
(Dionysos) Mae'n debyg dy fod tithau'n teimlo run fath.
 
(Dionysos) Mae'n debyg dy fod tithau'n teimlo run fath.
(0, 1) 219 Cytuno'n llwyr.
(0, 1) 220 Dim gwaith.
(0, 1) 221 Prisiau'n codi.
(0, 1) 222 Cyfloga isel.
(0, 1) 223 Effaith y rhyfel felltith yma, w'chi.
(Dionysos) Ia siwr.
 
(Dionysos) Beth am y gymdeithas a'i diwylliant enaid y genedl, os mynni di?
(0, 1) 227 Dydw i ddim wedi meddwl rhyw lawer am betha felly, Syr.
(0, 1) 228 Dim amser efo gwraig a phump o blant.
(0, 1) 229 Mi fydda i'n eitha bodlon os ca' i lond bol o fwyd, ac ambell botel o win.
(0, 1) 230 Yn reit hoff o ddrama hefyd, ond iddi beidio â bod yn rhy anodd.
(Dionysos) Felly!
 
(Dionysos) Mae'n dda gen'i glywed hynna.
(0, 1) 234 Beth amdani, Syr?
(0, 1) 235 Ga' i gario'ch bag chi?
(Dionysos) O'r gora.
 
(Dionysos) Cymer ofal ohono.
(0, 1) 239 Peidiwch â phoeni.
(0, 1) 240 Mi ydw i'n gry fel ceffyl.
 
(0, 1) 242 Dowch ar f'ôl i rwan.
(0, 1) 243 Dyma'r ffordd ora i'r Ddinas.
(Blaenor y Côr) Edrychwch!
 
(Dionysos) Wedi blino?
(0, 1) 274 Go lew.
(0, 1) 275 Mi hoffwn i gael sbelan fach am funud os medrwch chi sbario'r amser.
(Dionysos) Wrth gwrs.
 
(Dionysos) Wyddost ti?
(0, 1) 294 Plismyn am wn i.
(Dionysos) A'r carcharor?
 
(Dionysos) A'r carcharor?
(0, 1) 296 Lleidar reit siwr.
(0, 1) 297 Pigwr-pocedi wedi cael ei ddal yn y Theatr.
(0, 1) 298 Mae nhw'n tyrru i fan'no ar bob Gŵyl Ddrama, w'chi.
(Dionysos) Ond pam oedd y bobol ifainc yna'n ceisio'u rhwystro?
 
(Dionysos) Ond pam oedd y bobol ifainc yna'n ceisio'u rhwystro?
(0, 1) 300 Dim byd gwell i' wneud, w'chi.
(0, 1) 301 Unrhyw beth i greu cynnwrf.
(0, 1) 302 Yn y fyddin ddylen nhw fod.
(0, 1) 303 Buan iawn y bydda'r Sbartiaid yn dwad â nhw at eu coed!
(0, 1) 304 Torri eu gwalltia hir a'u criba nhw!
(Dionysos) Tybed?
 
(Dionysos) Mae'n lecsiwn yma rwy'n deall.
(0, 1) 309 Ydy, wrth gwrs!
(0, 1) 310 Wyddoch chi be, ro'n i wedi llwyr anghofio.
(0, 1) 311 Ond does gen i fawr o ddiddordeb yn y busnas politicaidd yma.
(0, 1) 312 Wedi cael llond bol a deud y gwir.
(Dionysos) Rwyt ti'n hoff o fetaffor y bol, rwy'n sylwi.
 
(Dionysos) Rwyt ti'n hoff o fetaffor y bol, rwy'n sylwi.
(0, 1) 314 Dydw i ddim yn deall, Syr.
(Dionysos) Hida befo...
 
(Dionysos) Cynrychiolwyr y ddwy Blaid Fawr yn dwad i'r Sgwâr yma i siarad.
(0, 1) 318 Y ddau yn addo'r byd reit siwr.
(0, 1) 319 A chyfarth fel dau gi ar ei gilydd.
(Llais) Atheniaid!
 
(Côr) Neu garu!
(0, 1) 345 Cleon ydy hwn, Syr.
(0, 1) 346 Llefarydd y Democratiaid brwd — plaid y Chwith.
(Dionysos) Felly!
 
(Cleon) {Chwerthin}
(0, 1) 371 Mi fydd yn mynd yn ddagreuol unrhyw funud rwan, Syr.
(0, 1) 372 Dyn o anianawd nionyn.
(Dionysos) O?
 
(Cleon) {Cwyd ei fraich dde.}
(0, 1) 392 Pwt barddonllyd rwan!
(Dionysos) Sut wyddost ti?
 
(Dionysos) Sut wyddost ti?
(0, 1) 394 Bob tro y bydd o'n codi ei fraich fel yna, ac edrych fel tae o'n mynd i gystadlu ar adrodd.
(Cleon) Ro'n i'n cerdded ar y traeth heddiw yn y bore bach.
 
(Dionysos) Denwr dagrau da!
(0, 1) 415 Ia.
(0, 1) 416 Mae o'n sôn am 'i fam ymhob araith w'chi.
(0, 1) 417 Gwybod y tricia i gyd.
(0, 1) 418 Gwleidydd proffesiynol.
(0, 1) 419 A cheiliog-gwynt.
(0, 1) 420 Ust!
(Cleon) Daeth llawer tro ar fyd ers hynny.
 
(Cleon) {Cwyd ei fraich.}
(0, 1) 426 Pwt barddonllyd arall ar y ffordd, Syr!
(Cleon) Gyfeillion, mi welais rywbeth arall ar y traeth heddiw.
 
(Cadmos) Rhagrith!
(0, 1) 459 Cadmos ydy hwn, Syr, Llefarydd yr Oligarchiaid — yr Wrth-Blaid.
(0, 1) 460 Ceidwadwr rhonc.
(Dionysos) Rwy'n gweld.
 
(Dionysos) Wel, beth wyt ti'n i feddwl?
(0, 1) 517 Yn y niwl.
(0, 1) 518 Ond mi wyddwn mai fel yna y bydda hi.
(0, 1) 519 Y ddau'n pregowthan o'i hochor hi heb ddweud dim.
(0, 1) 520 Malu awyr!
(0, 1) 521 Dyna'u hanes nhw erioed.
(Dionysos) Ond beth sydd i ddwad o Athen?
 
(Dionysos) Ond beth sydd i ddwad o Athen?
(0, 1) 523 O mi fyddwn yn siwr o fwnglera drwyddi rywsut.
(Dionysos) Wyt ti'n sylweddoli be sydd yn y fantol?
 
(Dionysos) Aros funud.
(0, 1) 558 Reit, Syr.
(Dionysos) Esgudowch fi, gyfeillion.
 
(Côr) Hyd yn oed, yn gwegian uwch y gwagle.
(0, 1) 726 Dim llawer o dderbyniad, Syr?
(Dionysos) {Eistedd}
 
(Dionysos) Dwed i mi, beth wyt ti'n 'i feddwl o'r sefyllfa yn Athen?
(0, 1) 730 Fi?
(0, 1) 731 Wel...
(Dionysos) Ond rwy i wedi gofyn y cwestiwn yna i ti o'r blaen, on'do.
 
(Dionysos) A siomedig oedd d'ateb dithau hefyd, os wy'n cofio.
(0, 1) 734 Mater o farn ydy hynny, 'te?
(Dionysos) Fy marn i ydy mai tipyn o wag wyt tl.
 
(Dionysos) Does yna fawr o ddim yn dy boeni os cei di lond dy fol o fwyd, a digon o win, ac amrywiol bleserau dy wely.
(0, 1) 738 Dwy' i ddim yn honni mod i'n wahanol i'r mwyafrif o ddynion, w'chi...
(0, 1) 739 Maddeuwch imi am ddweud, ond rydach chi'n pendroni'n amlwg.
(0, 1) 740 Poeni am eich busnes reit siwr?
(0, 1) 741 Gofal eiddo a buddiannau ac ati?
(0, 1) 742 Diofal yw dim.
(0, 1) 743 Mi ydw i'n cydymdeimlo.
(Dionysos) Tyrd yma am funud.
 
(Dionysos) Pwy wyt ti'n 'i feddwl ydw i?
(0, 1) 747 Dim syniad yn y byd.
(Dionysos) Celwydd!
 
(Dionysos) Celwydd!
(0, 1) 749 Be —?
(Dionysos) Paid â dweud nad wyt ti ddim wedi sbecian i mewn i'r cas yna.
 
(Dionysos) Paid â dweud nad wyt ti ddim wedi sbecian i mewn i'r cas yna.
(0, 1) 751 Fi? Tawn i byth o'r fan yma!
(Dionysos) Nicias!
 
(Dionysos) Nicias!
(0, 1) 753 Wel, dim ond rhyw led-godi congol y caead.
(0, 1) 754 Wnes i mo'i agor o fel 'tae.
(Dionysos) Wnawn ni ddim hollti blew yn 'i gylch.
 
(0, 1) 758 Mi ydw i'n meddwl, te...
(Dionysos) Ia?
 
(Dionysos) Ia?
(0, 1) 760 Mi ydw i'n meddwl mai trafaeliwr ydach chi.
(0, 1) 761 Trafaeliwr ne fasnachwr gwin.
(0, 1) 762 O Gorinth, efalla.
(0, 1) 763 Iawn, Syr?
(Dionysos) Dim yn hollol.
 
(Dionysos) Ond mae yna rywfaint o gysylltiad.
(0, 1) 766 Does gen i ddim syniad, w'chi.
(Dionysos) Rwyt ti'n hoff o Ddrama meddet ti.
 
(Dionysos) Rwyt ti'n hoff o Ddrama meddet ti.
(0, 1) 768 Ydw...
(0, 1) 769 Nid actor ydach chi?
(Dionysos) {Ysgwyd ei ben.}
 
(0, 1) 778 Hon?
(Dionysos) Be ydy'r enw sydd arni?
 
(0, 1) 781 Dionysos
 
(0, 1) 783 Dionysos!
 
(0, 1) 785 Duw y Gwin a- a-
(Dionysos) A nawdd-dduw'r Ddrama, ia, Nicias.
 
(Dionysos) A'r parotaf i ddeall amrywiol wendidau'r natur-ddynol.
(0, 1) 794 Diolch am hynny, Eich Anrhydedd... hynny ydi Eich duwdod...
(Dionysos) Gad inni ddeall ein gilydd.
 
(Dionysos) Ydy hynna'n glir?
(0, 1) 800 Yn berffaith glir, Syr.
(0, 1) 801 Peidiwch â phryderu.
(Dionysos) O'r gorau...
 
(Dionysos) Eto i gyd, fel y dwedais i o'r blaen, mae gen i achos pryder.
(0, 1) 804 |Chi| o bawb, Syr?
(Dionysos) Ia.
 
(Dionysos) Serch hynny, mae yna un peth yn fy mhoeni.
(0, 1) 808 Beth ydy hwnnw, Syr, mor hy â gofyn?
(Dionysos) Tynged Athen, Nicias.
 
(Dionysos) Tynged Athen, Nicias.
(0, 1) 810 O mi ddaw petha eto, w'chi, unwaith y rhown ni gosfa i'r Sbartiaid gythral yna.
(Dionysos) Nid y Sbartiaid ydy'r gelyn mwya.
 
(Dionysos) Nid y Sbartiaid ydy'r gelyn mwya.
(0, 1) 812 O? Pwy felly?
 
(Dionysos) Yr unig lygedyn o obaith a welais i oedd protest yr ifainc.
(0, 1) 822 Tybed, d'wch?
(0, 1) 823 Stwrllyd ac anghyfrifol —
(Dionysos) Ydyn nhw'n pigo dy gydwybod di?
 
(Dionysos) Ydyn nhw'n pigo dy gydwybod di?
(0, 1) 825 Dim o gwbwl.
(0, 1) 826 Y ffaith ydi, mae'r busnes politicaidd yma ymhell uwch fy mhen i.
(Dionysos) Esgus da am beidio â gwneud dim!
 
(Dionysos) Esgus da am beidio â gwneud dim!
(0, 1) 828 Wel, os ydy'r sefyllfa'n eich poeni chi gymaint â hynny, Syr — maddeuwch imi am ofyn — fedrwch chi mo'i newid hi?
(0, 1) 829 Hynny ydi, gan eich bod chi, wel, yr hyn ydach chi.
(Dionysos) Yn anffodus, fedra i ddim ymyrryd yn uniongyrchol, Nicias.
 
(Dionysos) A mae yna derfyn pendant ar f'awdurdod a'm dylanwad.
(0, 1) 833 Mae'r rhagolygon yn bur bethma felly?
(0, 1) 834 Andros o broblem ddwedwn i.
(Dionysos) Ia, a does yna ond un ffordd i'w datrys hyd y gwelaf i.
 
(Dionysos) Ia, a does yna ond un ffordd i'w datrys hyd y gwelaf i.
(0, 1) 836 Pa ffordd ydy honno, Syr?
(Dionysos) Rhaid mynd ar siwrna bur enbydus.
 
(Dionysos) Rhaid mynd ar siwrna bur enbydus.
(0, 1) 838 O? Ga'i ofyn ble?
 
(Dionysos) I Hades.
(0, 1) 841 Hades?
(0, 1) 842 Arswyd y byd, be wnewch chi yn y fan honno?
(Dionysos) Fedra i ddim datguddio'r cynllun ar hyn o bryd.
 
(Dionysos) Ddoi di efo fi, Nicias?
(0, 1) 846 Fi?
(Dionysos) I gario hwnna.
 
(Dionysos) {Pwyntio at y cas.}
(0, 1) 849 Ond... ond chawn i ddim mynd yno, Syr.
(0, 1) 850 Hynny ydy —
(Dionysos) Rwy'n credu bod modd trefnu hynny.
 
(Dionysos) Wel, ddoi di?
(0, 1) 854 Gofyn go fawr, Syr.
(0, 1) 855 Rhaid imi gael amser i feddwl.
(Dionysos) Wrth gwrs, rwy'n deall...
 
(Dionysos) Hwyrach y byddi di wedi penderfynu erbyn y dof yn ôl.
(0, 1) 860 Wel, mi dria i 'ngora.
(Dionysos) Da iawn...
 
(0, 1) 866 Hades?...
(0, 1) 867 Nefoedd yr adar!
(Dyn 1) Hei!
 
(Dyn 1) Pam na wnei di ateb, carmon?
(0, 2) 877 Pa ateb sydd yna i " Hei"?
(Dyn 1) O, clyfar rydw i'n gweld!
 
(Dyn 1) Paid â thrio'r gêm yna efo fi, boi bach!
(0, 2) 880 Pa gêm?
(Dyn 1) Taflu dy bwysa o gwmpas ac ati....
 
(Dyn 1) Dal i ddisgwyl wyt ti?
(0, 2) 883 Ia.
(Dyn 1) I ble mae o wedi mynd?
 
(Dyn 1) I ble mae o wedi mynd?
(0, 2) 885 Pwy?
(Dyn 1) Dy giaffar di.
 
(Dyn 1) Y dyn rwyt ti'n gweithio iddo fo.
(0, 2) 888 Pwy ddwedodd mod i'n gweithio iddo fo?
(Dyn 1) Wel, wyt ti ddim?
 
(Dyn 1) Wel, wyt ti ddim?
(0, 2) 890 Mi ydw i'n cario'i fag o.
(Dyn 1) Nid am ddim mi wranta!
 
(Dyn 1) Nid am ddim mi wranta!
(0, 2) 892 Dydw i ddim wedi cael tâl hyd yma.
(Dyn 1) {Rhydd bwniad bryfoclyd iddo}
 
(Dyn 1) Pam nad wyt ti yn y rhyfel?
(0, 2) 896 Ga i ofyn yr un peth i ti?
(Dyn 1) Mae gen i reswm da.
 
(Dyn 1) Rwan, beth amdanat ti?
(0, 2) 903 Hwyrach 'mod i wedi colli bawd fy nhroed.
(0, 2) 904 Ne fod fy mrest i'n wan.
(0, 2) 905 Ne fod gen i stumog wael.
(Dyn 1) Ne dy fod ti'n gachgi wedi gweld ffordd i' sgoi hi!
 
(Dyn 1) I ble ddwedaist ti roedd dy giaffar di wedi mynd?
(0, 2) 911 Wnes i ddim dweud.
 
(0, 2) 913 Ond os oes rhaid iti gael gwybod, wedi mynd i newid 'i ddillad mae o.
(Dyn 1) I be?
 
(Dyn 1) I be?
(0, 2) 915 Am 'i fod o'n mynd ar siwrna.
(Dyn 1) Wyt ti'n mynd efo fo?
 
(Dyn 1) Wyt ti'n mynd efo fo?
(0, 2) 917 Mae o wedi gofyn imi.
(Dyn 1) Wel?
 
(Dyn 1) Wel?
(0, 2) 919 Dwy' i ddim wedi penderfynu eto.
(Dyn 1) Pam?
 
(Dyn 1) Pam?
(0, 2) 921 Wel, mae'n anodd.
(Dyn 1) Beth wyt ti'n 'i feddwl?
 
(Dyn 1) Beth wyt ti'n 'i feddwl?
(0, 2) 923 Nid siwrna gyffredin ydy hi.
(Dyn 1) I ble mae o'n mynd?
 
(Dyn 1) I ble mae o'n mynd?
(0, 2) 925 Choeli di ddim tawn i'n dweud wrtha ti.
(Dyn 1) Tria fi.
 
(Dyn 1) Tria fi.
(0, 2) 927 I Hades.
(Dyn 1) O, Hades!
 
(Dyn 1) Rwan, i ble mae o wedi mynd?
(0, 2) 934 Ro'n i'n gwybod na fyddet ti ddim yn coelio.
(0, 2) 935 Ond mi ydw i'n dweud y gwir.
(0, 2) 936 I Hades mae o'n mynd.
(Dyn 1) {Ei ollwng}
 
(Dyn 1) Be ydy d'enw di?
(0, 2) 955 Nicias.
(Dyn 3) Be sydd yn y cas yna?
 
(Dyn 3) Be sydd yn y cas yna?
(0, 2) 957 Dwy' i ddim yn gwybod.
(Dyn 2) Ne wnei di ddim dweud!
 
(Dyn 2) Eilio!
(0, 2) 984 Chewch chi ddim rhoi'ch bys arno fo!
(Dyn 3) {Yn fygythiol}
 
(Dionysos) Wyt ti wedi penderfynu?
(0, 2) 996 Do, syr.
(0, 2) 997 Mi ydw i wedi bod yn ystyried y mater yn ofalus iawn hefyd.
(0, 2) 998 Ac ar ôl pwyso a mesur, rwy i'n ofni na fedra i ddim dwad.
(0, 2) 999 Fel y gwyddoch chi, mae gan ddyn ei ddyletswyddau teuluol a'i ofalon ac ati.
(0, 2) 1000 A pheth arall, dydy Hades ddim yn lle i fagu gwaed ynddo fo, fel y byddwn ni'n dweud.
(0, 2) 1001 Nid bod arna i ofn cofiwch — dim o'r fath beth.
(0, 2) 1002 Ond dyna fel y mae petha.
(0, 2) 1003 Mae'n bur ddrwg gen i.
(Dionysos) Mae'n bur ddrwg gen innau hefyd, Nicias.
 
(Dionysos) Mi allaf dy sicrhau di —
(0, 2) 1007 Ofn? Fi?
(0, 2) 1008 Na, mi ydw i newydd ddweud wrthych chi.
 
(0, 2) 1010 Rhyngoch chi a fi a'r wal, Syr, onibai am Iris —
(Dionysos) Iris?
 
(Dionysos) Iris?
(0, 2) 1012 Y wraig.
(Dionysos) O!
 
(Dionysos) O!
(0, 2) 1014 Onibai amdani hi, mi fuaswn efo chi fel saeth.
(0, 2) 1015 Ond mae hi'n bryderus iawn ynghylch fy iechyd.
(0, 2) 1016 Cha i ddim symud oddi cartre ganddi byth.
(0, 2) 1017 Wedi cael cynnig swyddi da o dro i dro, w'chi.
(0, 2) 1018 Ond yn gorfod eu gwrthod.
(0, 2) 1019 Does dim troi arni.
(0, 2) 1020 Mi wyddoch fel mae'r merched yma.
(Dionysos) Hon ydy hi?
 
(Dionysos) Hon ydy hi?
(0, 2) 1023 Iris!
(Iris) Yma rwyt ti o hyd felly!
 
(Iris) Oes yna ddim siâp symud arnat ti?
(0, 2) 1026 Mi ydw i wedi symud i'r fan yma, beth wyt ti'n 'i siarad?
(Iris) Mi wyddost be rydw i'n 'i feddwl.
 
(Iris) Mi ddylet fod yn ddiolchgar.
(0, 2) 1040 Ia, ond wyddost ti i ble mae o'n mynd?
(0, 2) 1041 I Hades!
(Iris) Dim gwahaniaeth, ond iti ddwad yn d'ôl rywdro.
 
(Iris) A chyflog efo ti!
(0, 2) 1044 Does yna ddim sicrwydd y bydda i'n dwad yn ôl.
(Dionysos) O, oes, rwy'n gwarantu hynny.
 
(0, 2) 1067 Llawer o ffordd eto, Syr?
(Dionysos) Dim llathen, Nicias.
 
(Dionysos) {Mae'n edrych i lawr arni.}
(0, 2) 1074 Afon Stycs?
(0, 2) 1075 Andros o afon hefyd!
(0, 2) 1076 Y dŵr yn ddu, ac yn llifo'n gyflym ac yn dawel.
(0, 2) 1077 Mae o fel melfed gwibiog.
(0, 2) 1078 Mae hi'n llydan hefyd.
(0, 2) 1079 Wela i mo'r ochor draw iddi.
(Dionysos) Fe'i gweli hi, toc.
 
(Dionysos) Fe'i gweli hi, toc.
(0, 2) 1081 Sut felly?
(Dionysos) Ar ôl inni ei chroesi hi.
 
(Dionysos) Ar ôl inni ei chroesi hi.
(0, 2) 1083 Dwy' i ddim yn deall.
(Dionysos) Twt, twt, paid â dweud nad wyt ti'n gwybod am chwedloniaeth dy genedl dy hun!
 
(Dionysos) Hon ydy'r Afon Stycs — reit?
(0, 2) 1086 Reit.
(Dionysos) Ac y mae Hades yr ochr arall, reit?
 
(Dionysos) Ac y mae Hades yr ochr arall, reit?
(0, 2) 1088 Reit.
(Dionysos) Felly, mae'n rhaid ei chroesi — reit?
 
(Dionysos) Felly, mae'n rhaid ei chroesi — reit?
(0, 2) 1090 Reit.
(Dionysos) Ond cyn y medrwn ni wneud hynny —
 
(Dionysos) Ond cyn y medrwn ni wneud hynny —
(0, 2) 1092 Mae'n rhaid inni alw ar Charon a'i gwch.
(Dionysos) Rwyt ti yn gwybod felly!
 
(Dionysos) Rwyt ti yn gwybod felly!
(0, 2) 1094 Ydw, ydw.
(0, 2) 1095 Ond hyn oedd gen i Syr — chaf i ddim mynd drosodd yn y cwch.
(0, 2) 1096 Dydw i ddim wedi — wel dydy'r cymwysterau angenrheidiol ddim gen i, fel tae.
(0, 2) 1097 A fedra i ddim nofio.
(Dionysos) Gad ti hynna i mi.
 
(Dionysos) Wyt ti'n chwibannwr go lew?
(0, 2) 1108 Wedi chwibannu llawer ar ôl y gennod yn fy nydd, Syr!
(Dionysos) Wel chwibanna rwan er mwyn Athen.
 
(Dionysos) Un hir a dwy fer... rwan!
(0, 2) 1111 Reit.
 
(Charon) Be ddwedaist ti oedd d'enw?
(0, 2) 1176 Nicias.
(0, 2) 1177 Nic i'm ffrindia.
(Charon) Dydw i ddim yn un o'r rheiny.
 
(0, 2) 1183 Be ydach chi'n 'i feddwl?
(Dionysos) Na, mae hynny'n amhosib.
 
(0, 2) 1211 Nicias.
 
(Charon) Os ei di dros yr ochor mi fydd wedi canu arnat ti!
(0, 2) 1216 Be, oes yna beryg?
(Charon) "Oes yna beryg?", medda'r creadur gwirion!
 
(Charon) Siawns na phery'r tarth ddim yn hir.
(0, 2) 1244 Dwy' i'n gweld affliw o ddim!
(Charon) Hidia befo.
 
(Dionysos) Ydw, diolch.
(0, 2) 1249 Mae'n oer drybeilig.
(0, 2) 1250 Mi ydw i bron â fferu!
(Charon) Pwnia'n gyflymach a mi gynhesi!
 
(Charon) Gofal rwan, beth bynnag ydy d'enw di hefyd!
(0, 2) 1259 Be ydi'r sŵn yna, d'wedwch?
(Charon) {Yn sydyn.}
 
(Charon) Paid!
(0, 2) 1270 Ond maen nhw wedi gorffen dawnsio!
(Charon) Dydyn nhw ddim wedi dechra ar eu Corws.
 
(Côr y Llyffantod) Peidiwch, da chi, â'i ddifetha.
(0, 2) 1355 Mae hi'n dechrau twyllu eto!
(Charon) Y tarth sy'n dwad yn ôl.
 
(Charon) Beth ydy d'enw di hefyd?
(0, 2) 1397 Nicias, ond Nic i —
(Charon) {Troi a mynd i'r cwch.}
 
(Dionysos) Ydy'r cas yna'n ddiogel?
(0, 2) 1408 Ydy...
 
(0, 2) 1410 Syr?
(Dionysos) Ia?
 
(Dionysos) Ia?
(0, 2) 1412 Roedd o'n sôn am Cerberws.
(Dionysos) Ceidwad Porth Hades.
 
(Dionysos) Ofn?
(0, 2) 1419 Mae 'nghalon i yn fy mhen ôl i.
(Dionysos) Paid â chywilyddio, dydw inna fawr gwell.
 
(Dionysos) Paid â chywilyddio, dydw inna fawr gwell.
(0, 2) 1421 Ond rydach chi'n wahanol i mi!
(Dionysos) Wn i ddim faint o sylw a rydd o i hynny!
 
(Dionysos) Tyrd â'r cas yna i mi.
(0, 2) 1426 I mi?
(0, 2) 1427 I'w yfed?
(Dionysos) Mi wnaiff les iti.
 
(0, 2) 1436 Nid dyna ydy o, Syr.
(0, 2) 1437 Ond nid bob dydd mae dyn yn cael profiad fel hyn.
(Dionysos) Beth wyt ti'n 'i feddwl?
 
(Dionysos) Beth wyt ti'n 'i feddwl?
(0, 2) 1439 Yfed potel o win efo, wel un fel chi.
(0, 2) 1440 Ac yn Hades o bob man.
(Dionysos) Porth Hades ydy hwn, Nicias.
 
(Dionysos) A chyn y byddwn ni'n cyrraedd Pencadlys Plwton —
(0, 2) 1445 Pwy?
(Dionysos) {Yn amyneddgar.}
 
(Dionysos) Plwton, pennaeth Hades.
(0, 2) 1448 O ia, wrth gwrs, Plwton, ia.
(Dionysos) Fel roeddwn i'n dweud, cyn y byddwn ni'n cyrraedd yno, mae'n rhaid inni fynd heibio i gyrion Tartarws.
 
(Dionysos) Fel roeddwn i'n dweud, cyn y byddwn ni'n cyrraedd yno, mae'n rhaid inni fynd heibio i gyrion Tartarws.
(0, 2) 1450 Tartarws?
(Dionysos) Ia, mi ddweda i am y lle ofnadwy hwnnw wrthyt ti eto.
 
(Dionysos) Ia, mi ddweda i am y lle ofnadwy hwnnw wrthyt ti eto.
(0, 2) 1452 O'r gora.
 
(0, 2) 1454 Mae hwn yn dda, hefyd!
(0, 2) 1455 Blas mwy arno fo!
(Dionysos) Ond paid â chymryd mwy.
 
(Dionysos) Teimlo'n well?
(0, 2) 1459 Ydw, dipyn bach.
(0, 2) 1460 Ond mae ofn Cerberws yn dal i barlysu f'aelodau i.
(0, 2) 1461 Ydy o mor ddychrynllyd ag y maen nhw'n 'i ddweud?
(Dionysos) Be'n hollol wyt ti wedi 'i glywed?
 
(Dionysos) Be'n hollol wyt ti wedi 'i glywed?
(0, 2) 1463 Ei fod o'n anferth o fawr.
(0, 2) 1464 Efo tri o benna.
(0, 2) 1465 Llais fel taran a llygaid yn melltennu tân.
(0, 2) 1466 Fod ganddo fo gynffon draig.
(0, 2) 1467 A mwclis o nadrodd gwenwynig am 'i wddw.
(Dionysos) Wn i ddim beth am dri phen, na chynffon draig a'r nadrodd.
 
(Dionysos) A llygaid yn melltennu tân.
(0, 2) 1471 Mi ydach chi wedi 'i gyfarfod o o'r blaen, decini?
(Dionysos) Do.
 
(Dionysos) Do.
(0, 2) 1473 Ydy o mor ofnadwy ag y maen nhw'n 'i haeru?
(Dionysos) Ydy.
 
(Dionysos) Gwaeth os rhywbeth.
(0, 2) 1476 Arswyd y byd!
(Dionysos) Ond rwy'n credu y medrwn ni ddelio ag o.
 
(Dionysos) Wyt ti'n deall?
(0, 2) 1482 Ydw.
(0, 2) 1483 Reit.
 
(0, 2) 1485 Welais i erioed le mor unig.
(0, 2) 1486 Mor anial.
(0, 2) 1487 Mor wag.
(0, 2) 1488 Mor ddi-ystyr.
(0, 2) 1489 Mae yma rywfaint o wellt melyn crin.
(0, 2) 1490 Mae o wedi marw — ac eto'n tyfu!
(0, 2) 1491 Peth dychrynllyd i ddyn rhesymol ydy rhywbeth di-sens.
(0, 2) 1492 Mi fasa tragwyddoldeb o hyn yn rhy ofnadwy i feddwl amdano hyd yn oed...
(0, 2) 1493 Rwy'n gobeithio y ca' i fynd odd'ma rywdro, Syr?
(Dionysos) Mi gei di fynd.
 
(Dionysos) O leia, mi wnaf fy ngorau i sicrhau hynny.
(0, 2) 1497 Peidiwch â cham-ddeall, ond dydw i ddim yn edrach ymlaen i ddwad yma eto — hyd yn oed pan ddaw f'amser.
(Dionysos) Siawns na fydd o'n ymddangos yn wahanol iti bryd hynny, wyddost ti...
 
(Dionysos) Ust!
(0, 2) 1501 Yr arswyd!
(Dionysos) Gofal rwan.
 
(Dionysos) {Siaradant yn isel.}
(0, 2) 1690 Ia... Fedra i ddim peidio ag amau, Syr.
(Dionysos) Amau?
 
(Dionysos) Amau?
(0, 2) 1692 Eich bod chi'n gwybod y bydda fo'n mynd i gysgu!
(Dionysos) Bobol annwyl, rwyt ti'n hynod o ddrwg-dybus!
 
(Dionysos) Bobol annwyl, rwyt ti'n hynod o ddrwg-dybus!
(0, 2) 1694 Oes yna beryg iddo fo ddeffro?
(Dionysos) Dim os byddwn ni'n ofalus.
 
(Dionysos) Oofia am y cas, beth bynnag.
(0, 2) 1699 Reit.
(Dionysos) Y ffordd yma.
 
(Dionysos) Ac ar boen dy fywyd paid â cholli golwg arna i.
(0, 2) 1703 Dim peryg o hynny, Syr!
(Dionysos) Ymlaen â ni felly.
 
(Dionysos) Wedi blino?
(0, 3) 1711 Fawr lai.
(Dionysos) Gorffwys yma am ychydig.
 
(Dionysos) Nicias, pan welais i di gyntaf yn Athen, mi ofynnais iti beth a wyddet amdanaf.
(0, 3) 1720 Do.
(Dionysos) Ond os wy'n cofio, d'oedd d'ateb ddim yn rhyw foddhaol iawn.
 
(0, 3) 1723 Ond mi wn i rwan, Syr.
(0, 3) 1724 Chi ydy duw llysieuaeth a thyfiant.
(0, 3) 1725 Rydach chi'n cynrychioli natur yn ei holl ysblander a'i chyfoeth.
(0, 3) 1726 Mae'r winwydden, yn arbennig, yn gysegredig i chi.
(0, 3) 1727 A gwin yn rhan o'ch addoliad.
(0, 3) 1728 Hefyd mi ydach chi'n ffafriol i heddwch a gwareiddiad!
(Dionysos) Rwyt ti wedi gwneud dy waith-cartre yn amlwg!
 
(Dionysos) Dos ymlaen.
(0, 3) 1731 O, ia, chi ydy nawdd-dduw y Ddrama, hefyd.
(Dionysos) At hynna roedd arna i eisio dwad.
 
(Dionysos) Ac fe'm portreadir — nid heb achos, rwy'n cyfaddef — fel un pur ddoniol, gwamal a chellweirus.
(0, 3) 1736 Dydw i ddim yn eich cymryd chi'n ysgafn, Syr!
(Dionysos) Mae'n dda gen' i glywed!
 
(Dionysos) Mae'r amser wedi dwad imi wisgo Masg Trasiedi — dros dro, beth bynnag.
(0, 3) 1742 Mae'n debyg mai fi sy'n dwp, ond dydw i ddim yn eich deall chi.
(Dionysos) Rwyt ti'n cofio imi sôn am bwll Tartarws.
 
(Dionysos) Wel rhaid inni fynd heibio'i ymyl o rwan.
(0, 3) 1745 Mi ydw i wedi clywed llawer o sôn amdano fo, droeon.
(0, 3) 1746 Ond does yna neb yn gwybod yn iawn be ydy o, w'chi.
(Dionysos) Dydy Tartarws yn ddim ond adlewyrchiad o hanfod pob ing a galar a thristwch dynolryw yn ei thrueni eitha, Nicias.
 
(Dionysos) Edrych — dyma realaeth y felltith arbennig honno ar ei gwaethaf:
(0, 3) 1753 Arswyd y byd, wnes i ddim sylweddoli, w'chi!
(Dionysos) Aros, dwyt ti ddim wedi gweld y cyfan eto....
 
(Côr) A bod ein gwaed yn staenio'r canrifoedd.
(0, 3) 1813 Wyddoch chi be, dwy' i ddim yn teimlo'n benisel yn amal.
(0, 3) 1814 Ond mae'r lle yma'n llethu f'ysbryd i.
(Dionysos) Pwll anobaith ydy Tartarws fel roeddwn i'n dweud wrthyt ti.
 
(Dionysos) A hyd yma, che'st ti ddim ond cipolwg ar ei ymylon.
(0, 3) 1818 'Does arna i ddim eisio gweld mwy.
(0, 3) 1819 Ne mi fydda i'n colli pob ffydd yn y natur-ddynol.
(Dionysos) O, mae gobaith o hyd, Nicias.
 
(Dionysos) O, mae gobaith o hyd, Nicias.
(0, 3) 1821 Ydach chi'n credu hynny o ddifri?
(Dionysos) Ydw, debyg iawn.
 
(Dionysos) Onide, beth ydy diben ein hymweliad ni yma â Hades?
(0, 3) 1824 Trio achub Athen medda chi.
(Dionysos) Mae Athen yn rhan o ddynol-ryw.
 
(Dionysos) Mae Athen yn rhan o ddynol-ryw.
(0, 3) 1826 Ydy, wrth gwrs....
(0, 3) 1827 Maddeuwch imi am ddweud hyn, ond dydach chi ddim wedi egluro'n iawn imi, w'chi.
(Dionysos) Egluro beth?
 
(Dionysos) Egluro beth?
(0, 3) 1829 Sut yn hollol ydach chi'n meddwl achub Athen — yma o bob man?
(Dionysos) Mi gei di'r eglurhad cyn bo hir.
 
(Dionysos) Wrth gwrs, 'does dim sicrwydd.
(0, 3) 1832 Sicrwydd?
(Dionysos) Y bydd y cynllun yn gweithio.
 
(Dionysos) Y bydd y cynllun yn gweithio.
(0, 3) 1834 O!... Maddeuwch i mi eto, ond oni ddylai un fel chi wybod yn bendant ymlaen llaw?
(0, 3) 1835 Fedrwch chi ddim darllen y dyfodol?
(Dionysos) Mi glywaist ti gwestiwn Cerberws ynglŷn â'm categori?
 
(Dionysos) Mi glywaist ti gwestiwn Cerberws ynglŷn â'm categori?
(0, 3) 1837 Do.
(0, 3) 1838 Duw bach o'r trydydd dosbarth, medda fo.
(Dionysos) Ia, wel, 'roedd o'n berffaith iawn.
 
(0, 3) 1847 Ga i ofyn un peth arall?
(Dionysos) Wel!
 
(Dionysos) Wel!
(0, 3) 1849 Plwton — sut un ydy o?
(Dionysos) Mi gei di weld hynny, hefyd, drosot dy hun.
 
(Plwton) Yn y cyfamser, awgrymaf fod y gweddill ohonom yn ymroi yn llwyr i'n dwfn-fyfyrdod arferol.
(0, 3) 2024 Wel, myn uffern!
 
(0, 3) 2027 Dwy' i'n gweld affliw o ddim.
(0, 3) 2028 Sôn am fol buwch!...
 
(0, 3) 2030 Maen nhw'n dweud bod yma lygod mawr fel sgwarnogod.
(0, 3) 2031 A phryfed-cop fel crancod blewog...
(0, 3) 2032 Yr arswyd mae hi'n ddistaw yma!
(0, 3) 2033 Fel tae pawb wedi marw.
 
(0, 3) 2035 Ond wrth gwrs maen nhw...
(0, 3) 2036 Hynny ydy, pawb ond yfi!...
(0, 3) 2037 Ond hwyrach mod inna wedi marw hefyd, ond mod i heb sylweddoli.
(0, 3) 2038 Ac Iris druan yn weddw.
(0, 3) 2039 A llond tŷ o blant.
(0, 3) 2040 A'r rheiny'n llwgu a ballu...
(0, 3) 2041 Fûm i ddim yn ŵr da iawn iddi.
(0, 3) 2042 Diogi a hel diod a gamblo ac ati.
(0, 3) 2043 Tawn i'n cael ail-gynnig, mi wnawn i well siâp ar betha...
 
(0, 3) 2045 Pa mor hir eto sgwn i?
(0, 3) 2046 Mae wedi bod fel oes yn barod.
(0, 3) 2047 Ond dydy amser ddim yn cyfri yn y lle yma!
 
(0, 3) 2049 Helo, mae yma rywbeth yn digwydd rwan!
(Plwton) Croeso'n ôl, Gynghorwyr.
 
(Plwton) Tyrd, rhaid inni wneud trefniadau pendant rhag blaen.
(0, 3) 2129 Siawns na cha i fynd yn ôl yn o fuan rwan.
(0, 3) 2130 Wn i ddim yn iawn be sydd wedi digwydd.
(0, 3) 2131 Roedd yr holl brygawthan yna y tu hwnt i mi.
(0, 3) 2132 Ond mae'n amlwg nad ydy petha ddim wedi llwyddo'n ôl y disgwyliad.
(0, 3) 2133 Wel, fedra i ddim mynd odd'ma yn ddigon buan.
(0, 3) 2134 Mae'r lle yma'n codi'r felan arna i.
(0, 3) 2135 Run fath â hunlle, wyddoch chi, a chitha'n methu'n lân â deffro...
(0, 3) 2136 Hwyrach mai dyna ydy o.
(0, 3) 2137 Mai breuddwydio'r cwbwl rydw i.
(0, 3) 2138 Wel, os felly, mi ddaw hi'n fore gyda hyn, gobeithio.
(0, 3) 2139 A finna'n cil-agor fy llygad i wneud yn siwr.
(0, 3) 2140 A gweld Iris wrth f'ochor yn y gwely, yn gwenu fel y bydd hi yn 'i chwsg.
(0, 3) 2141 A'r plant yn y llofft nesa yn dechra cadw reiat.
(0, 3) 2142 A'r hen Harmonia'n clebran...
(0, 3) 2143 Ond dyma Fo'n dwad yn 'i ôl!
(Dionysos) Wel Nicias, mae'r amser wedi dwad.
 
(0, 3) 2147 Inni fynd yn ôl?
(Dionysos) I ti fynd yn ôl.
 
(Dionysos) Fydda i ddim yn dwad efot ti.
(0, 3) 2150 Be?
(0, 3) 2151 Pam?
(Dionysos) Fedra i ddim egluro pam.
 
(Dionysos) Fydda i ddim angen dy gymorth di i honno.
(0, 3) 2155 Dydw i ddim wedi bod fawr o gymorth ichi yn hon, chwaith 'ddyliwn!
(Dionysos) Nid dy fai di oedd hynny.
 
(Dionysos) 'Roedd y parodrwydd a'r bwriad yna.
(0, 3) 2158 Fel rydach chi'n gwybod bellach, Syr, rhyw greadur digon twp ydw i.
(0, 3) 2159 A dydw i ddim wedi deall yn hollol glir-gola-dydd fel tae beth oedd amcan y busnas yma i gyd.
(0, 3) 2160 Ond mi ydw i'n rhyw ama, rhyngon ni'n dau, nad ydy o ddim wedi llwyddo fel y dymunech chi.
(Dionysos) Rwyt ti'n iawn, Nicias.
 
(0, 3) 2165 Esgusodwch fi — llond ceg braidd —
(Dionysos) Beth wy'n 'i feddwl ydy fod y Gwirionedd weithiau o flaen ein trwynau.
 
(Dionysos) Yn rhy agos inni 'i weld.
(0, 3) 2168 O? Mae yna un gwirionedd o flaen fy nhrwyn i rwan.
(0, 3) 2169 A minna yn 'i weld yn blaen.
(Dionysos) A hwnnw?
 
(Dionysos) A hwnnw?
(0, 3) 2171 Mod i'n gorfod mynd yn ôl fy hun.
(0, 3) 2172 A mae arna i ofn nes mod i bron â... wel dydw... i... ddim-yn-lecio-dweud-wrthych-chi-be!
(0, 3) 2173 Wel, fedrwch chi weld bai arna i?
(0, 3) 2174 Mae meddwl am Cerberws yn codi pwys arna i.
(0, 3) 2175 Heb sôn am Tartarws.
(0, 3) 2176 A Charon.
(0, 3) 2177 A'r Stycs!
(Dionysos) Nicias, mi addewais iti y byddet yn mynd yn ôl at Iris dy wraig yn ddiogel a dianaf.
 
(Dionysos) Rwy i wedi rhoi un o'r poteli-gwin yn dy boced di.
(0, 3) 2185 Diolch yn fawr, Syr.
(Dionysos) Ond rwy i am iti addo peidio ag yfed ohoni nes byddi wedi croesi'r Stycs.
 
(Dionysos) Wyt ti'n addo?
(0, 3) 2188 Ar fy llw!
(0, 3) 2189 Dim ond imi gael mynd yn ôl i Athen...
(0, 3) 2190 At Iris.
(Dionysos) Gorau po gynta inni gychwyn felly...
 
(Dionysos) Eistedd yma am funud.
(0, 4) 2202 Beth am Cerberws?
(0, 4) 2203 Ydan ni'n weddol agos i'w diriogaeth o rwan?
(Dionysos) Rydyn ni yn ei "diriogaeth" o fel rwyt ti'n dweud.
 
(Dionysos) Dyna pam mae'n rhaid inni benderfynu ar dacteg.
(0, 4) 2206 Deudwch wrtha i, Syr, tae o'n digwydd cael gafael arna ì, be fydda fo'n 'i wneud imi?
(Dionysos) Gwell peidio â meddwl am hynny.
 
(Dionysos) Os gwêl o di, gwadna hi am dy hoedl at y Stycs.
(0, 4) 2218 Ond beth am Charon?
(Dionysos) Popeth wedi'i drefnu.
 
(Dionysos) Neidia iddo fo, a fedr Cerberws wneud dim oll iti.
(0, 4) 2223 Wedyn?
(Dionysos) Wedyn, pwnia'r cwch dros y Stycs i'r ochor arall, i'th fyd a'th ddimensiwn di dy hun.
 
(Dionysos) Popeth yn glir?
(0, 4) 2226 Ydy.
(0, 4) 2227 Mi wna i unrhyw beth i gael mynd yn ôl i'r hen Athen annwyl efo'i holl ffaeledda!
(Dionysos) Gan obeithio na fydd y rheiny ddim yn ei thynnu i'r llwch!
 
(Dionysos) Gan obeithio na fydd y rheiny ddim yn ei thynnu i'r llwch!
(0, 4) 2229 Ia, mae hynna y tu hwnt i greadur dibwys fel fi, Syr.
(Dionysos) Does yna run creadur dibwys, Nicias.
 
(0, 4) 2233 Wyddoch chi be sy'n fy mhoeni fi rwan yn fwy na dim?
(0, 4) 2234 Be sydd wedi digwydd i Iris druan.
(0, 4) 2235 Rhaid ein bod ni yma ers hydoedd bellach.
(Dionysos) Dydy Amser ddim yn bod yma, Nicias.
 
(Dionysos) Dydy Amser ddim yn bod yma, Nicias.
(0, 4) 2237 Sut felly?
(0, 4) 2238 Dydw i ddim yn deall —!
(Dionysos) Yn nhermau tragwyddoldeb beth yw modfedd, neu funud, neu filltir neu ganrif?
 
(Dionysos) Dydyn nhw ddim yn bod.
(0, 4) 2241 Hanner munud rwan, mae rheswm yn dweud ─
(Dionysos) All dy reswm di wneud dim oll ond mesur a phwyso a chymharu, Nicias.
 
(0, 4) 2247 Ar eich traws chi, Syr ─ maddeuwch imi ddweud hyn ─ ond mi fydda i'n teimlo mod i, greadur o ddyn, ar brydia yn dwad yn bur agos i'ch stâd chi, y duwia!
(0, 4) 2248 Peth mawr i' ddweud, rwy'n gwybod, ond mae o'n wir.
(Dionysos) O? Ar ba achlysur?
 
(Dionysos) O? Ar ba achlysur?
(0, 4) 2250 Rydach chi yn y gwely yn nistawrwydd y bore bach.
(0, 4) 2251 Troi'n gysglyd at y wraig.
(0, 4) 2252 Anwes dioglyd yn mynd yn goflaid ffyrnig.
(0, 4) 2253 Wedyn rhyferthwy tymestl corff ac enaid o dan y blancedi.
(0, 4) 2254 A minna, fel duw, yn marchogaeth yn fuddugoliaethus.
(0, 4) 2255 Ac yn creu!...
(0, 4) 2256 A rwan — gyda pharch, Syr — wrth sôn am Amser ac ati, fedra i feddwl am ddim ond am groeso cynnes bronnau Iris, a chryndod parod ei llwynau.
(Dionysos) Rwyt ti bron â gwneud imi genfigennu wrth dy gnawdoliaeth frau!
 
(Dionysos) Rwyt ti bron â gwneud imi genfigennu wrth dy gnawdoliaeth frau!
(0, 4) 2259 Cerberws!
(Dionysos) {Pwyntio at rostrwm cyfagos.}
 
(Dionysos) A phaid â cymryd dy wynt, bron, nes y doi di at y Stycs.
(0, 4) 2264 Reit, Syr.
 
(Dionysos) O, a Nicias?
(0, 4) 2267 Ia?
(Dionysos) Pob lwc iti... a diolch.
 
(0, 4) 2348 Iris!
 
(0, 4) 2350 Iris, 'nghariad annwyl i!
 
(0, 4) 2352 O Iris, Iris!
(Harmonia) Mae o'n sâl!
 
(Harmonia) Mae o'n sâl!
(0, 4) 2354 Does gen ti ddim syniad mor falch ydw i!
(0, 4) 2355 Dy weld unwaith eto!
(0, 4) 2356 O Iris!
 
(Iris) Be sy'n bod arnat ti?
(0, 4) 2360 Wyt ti ddim yn sylweddoli?
(0, 4) 2361 Rwy i wedi bod ar siwrna ofnadwy.
(0, 4) 2362 Yng nghrombil Hades ei hun!
(0, 4) 2363 Ar drothwy dychrynllyd Tartarws du!
(Iris) Be!
 
(Iris) Be!
(0, 4) 2365 Mae Cerberws wedi bod ar fy ngwartha gan sgyrnygu dannedd.
(0, 4) 2366 A Charon wedi fy mygwth ar ddyfroedd enbyd y Stycs!
(Iris) Am beth wyt ti'n siarad?
 
(Iris) Am beth wyt ti'n siarad?
(0, 4) 2368 O, mae o'n hanes fydd yn codi gwallt dy ben di, Iris annwyl!
(0, 4) 2369 Does arna i ddim eisio d'adael di eto, byth.
 
(0, 4) 2371 Na chitha, 'rhen wraig garedig!
(0, 4) 2372 Rydach chi'n cyfarth digon, ond rywle yn yr hen frest gwynfannus yna, mae yna galon fel pwced!
(Harmonia) Mi ydw i'n gwybod rwan ei fod o'n drysu!
 
(0, 4) 2376 Aros am funud imi gael dracht o hwn.
(0, 4) 2377 I iro tipyn ar fy nghorn-gwddw a chynhesu 'nghalon i.
 
(0, 4) 2379 Ben-di-ged-ig!
(Iris) Wel?
 
(Iris) Wel?
(0, 4) 2381 'Wel', be?
(Iris) Beth am y siwrna erchyll yna gest ti?
 
(0, 4) 2384 Siwrna?
(0, 4) 2385 Pa siwrna?
(0, 4) 2386 Am be rwyt ti'n siarad?
(Harmonia) Rwyt ti newydd fod yn preblian rhywbeth am siwrna erchrydus yn Hades a... a... be-wyt-ti'n-alw... Tartarws.
 
(Harmonia) Breuddwyd meddwyn os wyt ti'n gofyn i mi.
(0, 4) 2392 Does yna neb yn gofyn ichi, yr hen glep-melin be-ydach-chi'n alw... gecrus!
(Harmonia) Digon hawdd gweld ei fod o'n dwad ato'i hun, Iris.
 
(Iris) O ia, Nic, wyddost ti'r hen wraig drws-nesa-ond-tri?
(0, 4) 2396 Gwn.
(0, 4) 2397 Bydwraig wedi ymddeol.
(Iris) Dyna ti.
 
(Iris) A wyddost ti be mae hi'n i ddweud...?
(0, 4) 2401 Ust! Glywch chi rywbeth?
(Lleisiau) {Sibrwd drwy'r corn-siarad.}
 
(Iris) Chlywa i ddim ond crawcian y llyffantod.
(0, 4) 2407 Ro'n i'n meddwl 'mod i'n clywed rhywbeth arall hefyd.
(Iris) Dim ond sŵn yr awel yn yr hesg.
 
(Iris) Gad imi orffen dweud wrthyt ti.
(0, 4) 2412 Dweud be?
(Iris) Wel, be ddwedodd yr hen fydwraig.
 
(Iris) Wel, be ddwedodd yr hen fydwraig.
(0, 4) 2414 Mi ydw i'n glustia i gyd!
(Iris) Mae hi'n meddwl 'mod i am gael efeilliaid!
 
(Iris) Mae hi'n meddwl 'mod i am gael efeilliaid!
(0, 4) 2416 Nefoedd yr adar!
(Iris) A mae hi'n gwybod be ydy be, on'd ydy mam?
 
(Harmonia) Wedi dwad â byddinoedd o fabis i'r hen fyd yma.
(0, 4) 2424 Ond sut ar y ddaear fedar hi wybod?
(Iris) Rhoi ei chlust ar fy mol i wnaeth hi.
 
(Harmonia) Os ydy'r hen fydwraig yn dweud, felly y bydd hi.
(0, 4) 2431 Efeilliaid!
(0, 4) 2432 A finna allan o waith!
(Iris) Arnat ti roedd y bai — mynd ar streic.
 
(Harmonia) Dwed y newydd da arall hwnnw wrtho fo, Iris.
(0, 4) 2436 Un gwell na'r dwetha, gobeithio!...
(0, 4) 2437 Wel?
(Iris) Mae yna siawns y cei di waith — dros dro beth bynnag.
 
(Iris) Mae yna siawns y cei di waith — dros dro beth bynnag.
(0, 4) 2439 Beth ydy o — fel 'tae gen i unrhyw ddewis!
(Iris) Mae yna ryw ddyn cefnog newydd ddwad i'r ddinas yma.
 
(Iris) Trafaeliwr ne fasnachwr gwin, mi ydw i'n meddwl.
(0, 4) 2443 Ia?
(Iris) Mae o eisio rhywun i fynd â fo o gwmpas Athen, i weld y llefydd diddorol a ballu.
 
(Harmonia) Chwysu tipyn!
(0, 4) 2450 O wel, mi fedrwn i feddwl am betha gwaeth!
(0, 4) 2451 Cyfle i ennill ceiniog ne ddwy.
(0, 4) 2452 A chil-dwrn efalla, os ydy o'n ddyn cefnog...
(0, 4) 2453 Oes yna ryw newydd arall?
(Iris) Dim ond bod mam am ddwad acw i aros efo ni rwan.
 
(Iris) I helpu tipyn arna i nes daw f'amser.
(0, 4) 2456 Dyna'r newydd gwaetha un!
(Iris) Wyt ti'n dwad rwan, Nic?
 
(Iris) Wyt ti'n dwad rwan, Nic?
(0, 4) 2459 Mewn eiliad.
(0, 4) 2460 Waeth imi orffen y botel yma ddim.
(0, 4) 2461 Cha i run arall am hir, mae'n siwr!
(0, 4) 2462 Dos di efo dy fam.
(0, 4) 2463 Mi ddo i ar eich ôl chi.
(Iris) Wel, paid â bod yn hir.
 
(Lleisiau) "Mae tynged Athen yn ei dwylo hi ei hun."
(0, 4) 2473 Blydi llyffantod!