Llywelyn, Ein Llyw Olaf

Ciw-restr ar gyfer Dafydd

(Llewelyn) Wel, dyma obaith im' o'r diwedd gael
 
(1, 1) 81 Fy mrawd!
(Llewelyn) {Yn swrth.}
 
(Llewelyn) Y dydd dadweiniaist gledd i'm herbyn i.
(1, 1) 86 Os do, ces dalu'n ddrud mewn carchar oer.
(Llewelyn) Er oered oedd y carchar, nid mor oer a'th galon di o bob rhyw deimlad brawdol.
 
(Llewelyn) Er oered oedd y carchar, nid mor oer a'th galon di o bob rhyw deimlad brawdol.
(1, 1) 88 Ai i edliwio im' y dyddiau gynt
(1, 1) 89 Dadgloaist imi fy ngharcharol ddôr!
(1, 1) 90 A minau, druan, dybiwn mai dy serch,
(1, 1) 91 Yn enyn eto ataf, wnaeth i ti
(1, 1) 92 Roi goleu ddydd i mi unwaith drachefn.
(Llewelyn) 'Rwy'n rhoddi mantais iti wella'th ffyrdd,
 
(Griffith) Maen llon genyf eich cyfarfod a'ch llongyfarch ar eich rhyddhad o'r carchar.
(1, 2) 136 Griffith ap Gwenwynwyn, onite?
(1, 2) 137 Maddeuwch os wyf yn camsynied, ond nid yw tywyllwch carchardy yn lle da i gyfaddasu llygaid dyn i adwaen hen gyfeillion yn y goleu.
(Griffith) Ie.
 
(Griffith) Cymerodd chwi i'w fynwes yn gynes fel brawd yn ddiamheu.
(1, 2) 142 Naddo.
(1, 2) 143 Pe bawn yr estron pellaf nis gallai ymddwyn yn oerach tuag ataf.
(Griffith) A yw yn bosibl?
 
(Griffith) A yw yn bosibl?
(1, 2) 145 Aethum ato gan benderfynu syrthio wrth ei draed am faddeuant, a chynyg fy mywyd i'w wasanaethu.
(1, 2) 146 Ond gyda'r gair cyntaf rhwystrodd fi, edliwiodd im' fy ffolineb gynt, a dangosodd im' nad oedd genyf hawl i'm galw'n Gymro chwaethach brawd!
(Griffith) Mae'n anhawdd genyf gredu!
 
(Griffith) Mae hyn yn sarhad ar Gymru a'i phenaethiaid!
(1, 2) 150 Nis gwn pa beth a wnaf.
(1, 2) 151 Mae cywilydd arnaf ddangos fy ngwyneb.
(Griffith) Am ba achos tybed?
 
(Griffith) Dyfeisiwn ffordd i ddial arno am y sarhad yma.
(1, 2) 157 Na, na! fy mrawd yw ef—