Llywelyn, Ein Llyw Olaf

Ciw-restr ar gyfer Llewelyn

 
(1, 1) 4 Wel, dyma obaith im' o'r diwedd gael
(1, 1) 5 Llonyddwch. Gwalia sydd, e'rs blwyddi maith
(1, 1) 6 Yn ysglyf wael i'r cledd, a gwaeth na'r cledd,
(1, 1) 7 I frad ei phlant. Ei meibion dewrion hi
(1, 1) 8 Na throent ar faes y gwaed eu cefn ar neb
(1, 1) 9 A chwifio gledd neu anelwaewffon,
(1, 1) 10 Wneir gan eiddigedd yn dylodion llwfr;
(1, 1) 11 Er boddio dig, hwy werthent, ie'r wlad
(1, 1) 12 Ar fronau'r hon eu magwyd; ie'r wlad
(1, 1) 13 I'r hon y rhoisent gynt eu gwaed yn llon,
(1, 1) 14 O! gwae i Gymru, a gwae mwy imi!
(1, 1) 15 Y bradwyr hyn, plant Cymru oeddent hwy.
(1, 1) 16 Ond mwy na hyn,—Plant ty fy nhad o'ent hwy!
(1, 1) 17 Oh! Owen! nesaf frawd imi! Tydi
(1, 1) 18 I'r hwn y rhoddwyd cydgyfartal ran
(1, 1) 19 A mi o'r etifeddiaeth, fynet gael
(1, 1) 20 Yr oll, neu fod heb ddim. Llychwinaist glod
(1, 1) 21 Ac enw ty dy dad trwy droi yn fradwr,
(1, 1) 22 Bradychaist fi, dy frawd; bradychaist wlad
(1, 1) 23 Dy enedigaeth; a bradychu wnest
(1, 1) 24 Ymddiried tad ar wely angeu it.
(1, 1) 25 Do, tynaist i dy lwybrau gwirgam ffol,
(1, 1) 26 Yr hwn fu'n falchder tad a llonder man:
(1, 1) 27 I'm herbyn codaist gleddyf Dafydd lanc,
(1, 1) 28 Yr hwn pan gynt yn blentyn gariais, do,
(1, 1) 29 Ganwaith a mwy mewn mynwes cynes brawd
(1, 1) 30 Fuasai'n falch i farw er ei fwyn!
(1, 1) 31 Oh! Dafydd! Dafydd! tost fu'th anlwc di,
(1, 1) 32 A thostach fyth fy anlwc inau it
(1, 1) 33 Gymeryd felly'th arwain i wneyd cam
(1, 1) 34 A'th wlad, a'th dy, a'th frawd, a thi dy hun!
(1, 1) 35 Gwae, gwae i'r dydd y gorfu i Llewelyn
(1, 1) 36 Ddadweinio cledd i daro brawd mor gu
(1, 1) 37 A Dafydd! Llawer gwell, ie, canmil gwell
(1, 1) 38 Fuasai genyf golli'm gwaed, a'm stad,
(1, 1) 39 A'm bywyd, na'th niweidio di, fy mrawd,
(1, 1) 40 Wrth geisio'u cadw, oni bae er mwyn
(1, 1) 41 Buddianau Cymru;—ond nis gallwn byth
(1, 1) 42 Wel'd Cymru'n cael ei gwerthu i law'r Sais.
(1, 1) 43 Pe costiai cadw Cymru'n rhydd i mi
(1, 1) 44 A'm llaw fy hun d'aberthu di fy mrawd,
(1, 1) 45 Gwnawn hyny hefyd, er y gwybydd Duw
(1, 1) 46 Nod oes ond un anwylach genyf na
(1, 1) 47 Thydi. Ah! Elen hoff, i seren glaer,
(1, 1) 48 Fy ngobaith, cysur, cariad, bywyd, oll,
(1, 1) 49 Yn fuan caf fwynhau dy gwmni hoff!
(1, 1) 50 Ond 'nawr am Dafydd. Yn y carchar mae,
(1, 1) 51 Rwyf finau'n rhydd, yn gryf yn serch fy ngwlad,
(1, 1) 52 A'm holl elynion wedi cilio'n ol.
(1, 1) 53 A gresyn fyddai gadael Dafydd mwy
(1, 1) 54 Un fynyd yn y carchar. Ei ryddhau
(1, 1) 55 A wnaf y fynyd hon!
(Swyddog) Pa beth yw ewyllys fy arglwydd?
 
(Swyddog) Pa beth yw ewyllys fy arglwydd?
(1, 1) 58 Cymer y fodrwy yma, dos at geidwad y carchar; par iddo ollwng Dafydd fy mrawd allan, a dwg ef yma.
(Swyddog) Ai doeth, fy arglwydd, i ti ryddhau un wnaeth gymaint niwed iti, ac a all, fe allai, wneyd niwed eto?
 
(Swyddog) Ai doeth, fy arglwydd, i ti ryddhau un wnaeth gymaint niwed iti, ac a all, fe allai, wneyd niwed eto?
(1, 1) 60 Mae'n ddoeth i mi wrandaw ar alwadau uchel natur yn fy mynwes. Mae Cymru 'nawr yn rhydd; caiff Dafydd hefyd fod yn rhydd.
(1, 1) 61 Dos, brysia.
 
(1, 1) 63 Rhaid i mi wneyd cam â mi fy hun, trwy guddio oddiwrth Dafydd y cariad brwd sy'n llenwi'm calon ato.
 
(1, 1) 65 Wel!
(Gwas) O rhynged bodd iti, fy arglwydd, y mae Griffith ap Gwenwynwyn yn deisyl cael derbyniad.
 
(1, 1) 68 Os daw Griffith fewn, nis gallaf weled Dafydd.
(1, 1) 69 Ac, O, mae'm calon yn hiraethu am y llanc.
(1, 1) 70 Rhaid i Griffith aros.
 
(1, 1) 72 Hysbysu'r penaeth Ap Gwenwynwyn nas gallaf ei weled heddyw.
 
(1, 1) 74 Ie, rhaid imi guddio fy nghalon oddiwrth Dafydd.
(1, 1) 75 Rhaid gwisgo gwg lle mynwn wisgo gwên.
(1, 1) 76 Rhaid bod yn swrth lle'r hoffwn fod yn llon.
(1, 1) 77 Ust!
(1, 1) 78 Dyma fe yn d'od.
(Dafydd) {Yn dyner.}
 
(1, 1) 83 Dy frawd? Dy D'wysog hytrach d'wed!
(1, 1) 84 Ti gollaist bob rhyw hawl i'm galw'n frawd.
(1, 1) 85 Y dydd dadweiniaist gledd i'm herbyn i.
(Dafydd) Os do, ces dalu'n ddrud mewn carchar oer.
 
(Dafydd) Os do, ces dalu'n ddrud mewn carchar oer.
(1, 1) 87 Er oered oedd y carchar, nid mor oer a'th galon di o bob rhyw deimlad brawdol.
(Dafydd) Ai i edliwio im' y dyddiau gynt
 
(Dafydd) Roi goleu ddydd i mi unwaith drachefn.
(1, 1) 93 'Rwy'n rhoddi mantais iti wella'th ffyrdd,
(1, 1) 94 Ceir gwel'd os yw gwenwynig wreiddyn brad,
(1, 1) 95 Fynwesaist yn dy galon, eto'n fyw,
(1, 1) 96 Neu os yw'r carchar wedi ei ladd yn llwyr,
(1, 1) 97 Ac os tyf pren gwladgarwch yn ei le,
(1, 1) 98 Gad im' wel'd ffrwythau |gwladgar| genyt cyn
(1, 1) 99 Y soni am |frawdgarwch| yn fy ngwydd.
(1, 1) 100 Nid brawd imi y neb gasâ ei wlad,
(1, 1) 101 Nid o'r un gwaed a mi y neb wna frad,
(1, 1) 102 A Chymru hoff! Dos bellach i dy dŷ.
 
(1, 1) 104 O Dafydd! Dafydd! O fy mrawd! fy mrawd!
(1, 1) 105 Gwae fi na feiddiwn roddi ffordd im' serch,
(1, 1) 106 Trwy syrthio ar ây wddf, a golchi ffwrdd
(1, 1) 107 A'm dagrau dy ofidiau un ac oll,
(1, 1) 108 A'th gadw'n ganwyll llygad im' fel cynt!
(1, 1) 109 Ond gwell iti gael profi chwerwedd oer
(1, 1) 110 Dygasedd, enyd fer, yr hwn, fel gwna
(1, 1) 111 Cyffeiriau chwerwon meddyg yru ffwrdd
(1, 1) 112 O'r gwaed y gwenwyn a berygla oes,
(1, 1) 113 A bura'th galon dithau, ac a'th wna
(1, 1) 114 Yn holliach Gymro gwladgar unwaith eto.
(Griffith) Mae wedi myn'd yn amser rhyfedd iawn yn Nghymru pan droir ffwrdd fel cwn benaethiaid uchaf fedd y wlad o ddrws yr hwn a eilw'i hun yn Dywysog!
 
(Griffith) Tyred gyda mi.
(1, 3) 168 Dacw'r castell yn y golwg.
(1, 3) 169 Dacw ffenestr ystafell #Elen
(1, 3) 170 Braidd na thybiwn y gallwn oddiyma ganfod fy angyles ei hun.
(Meredith) Ffolineb cariadlanc yw hyny i gyd.
 
(1, 3) 175 Y dyn!
(1, 3) 176 Ystyria beth wyt yn ddweyd!
(1, 3) 177 Oni bae dy fod yn hen gyfaill profedig, torwn dy dafod di allan am y fath sarhad ar Elen.
(Meredith) I ti fyddai'r golled fwyaf.
 
(Meredith) I ti fyddai'r golled fwyaf.
(1, 3) 179 I mi?
(Meredith) Ie.
 
(Meredith) Pwy gawsit i ganu gyda'r delyn yn dy ddawns priodas?
(1, 3) 182 Mae digon o delynorion yn Nghymru.
(Meredith) Eithaf gwir, ond nid oes ond un Meredith Delynor.
 
(Meredith) Gad i ni fyned yn ddystaw at ei ffenestr hi, ac os yn bosibl, cawn weled a chlywed rhywbeth arddengys beth yw ei theimlad gwirioneddol.
(1, 3) 190 Boddlon wyf i hyny, a gwystlaf fy mywyd ar ffyddlondeb Elen.
(Elen) O Gwen fach! Dyma newydd drwg.
 
(1, 4) 205 Nid yw yn gwybod dim am y newyddion diweddaf, fy mod wedi arwyddo cytundeb heddwch a Harri brenin Lloegr, trwy yr hwn y mae ef yn ymrwymo fy nghydnabod dros ei oes yn Dywysog Cymru; ac am ymyriad caredig Obollonus a rwymodd y Saeson i heddwch hollol a'r Cymry dros deyrnasiad Harri.
(Meredith) Na ŵyr, debyg iawn.
 
(1, 4) 213 Dyna i ti, Meredith!
(Meredith) Ust!
 
(Elen) Y daw Llewelyn eto'n ol!
(1, 4) 246 O fy Elen anwylaf!
(1, 4) 247 Adwaenwn ei llais yn mhlith mil!
(1, 4) 248 Yr oedd pob nodyn ganai yn taro tant atebol yn fy nghalon.
(Meredith) Yn sicr yr oedd ganddi lais soniarus.
 
(Meredith) Yn sicr yr oedd ganddi lais soniarus.
(1, 4) 250 Ni fu melusach tonc erioed gan eos.
(1, 4) 251 Ac a sylwaist ti, Meredith ar ei chyfeiriadau ataf fi, a'r ffydd oedd ganddi ynof?
(Meredith) Do, a thybiwn dy fod wedi bod yn hynod ffodus yn dy ddewisiad.
 
(Meredith) Mae cantores mor dda yn haeddu teyrnasu yn Ngwlad y Gân, ac wyryf mor ffyddlawn i'w chariad yn deilwng gydmares i Dywysog y Dewrion.
(1, 4) 254 Yr wyf yn rhwym o fyn'd ati.
(1, 4) 255 Ac eto mae arnaf ofn ei dychrynu wrth ymddangos yn rhy sydyn.
(1, 4) 256 Ni fynwn chwaeth iddi gredu fy mod wedi clywed ei chân.
(1, 4) 257 Gwn beth a wnaf.
(1, 4) 258 Cymeraf eto ffug-farf y crythwr, a chanaf dôn dan y ffenestr.
(1, 4) 259 Cawn weled sut y try pethau allan.
(Elen) {Oddifewn yr ystafell.}
 
(1, 4) 271 Mae'n dda gan rai am wychder byd,
(1, 4) 272 Anedd-dai clyd, a chysur:
(1, 4) 273 Y marchog fyn rhyfelfarch chwim,
(1, 4) 274 Ond rhoddwch i'm fy meinir.
(1, 4) 275 Fe gara'r gwenyn flodau hardd,
(1, 4) 276 Fe gara'r morwr tonog li',
(1, 4) 277 Mi garaf finau—rhywun.
(1, 4) 278 ~
(1, 4) 279 I glustiau'r bardd peroriaeth yw
(1, 4) 280 Y miwsig gana Anian,
(1, 4) 281 Telynau'r wig, yr awel gref,
(1, 4) 282 Ac uchel lef y daran,
(1, 4) 283 A churiad ysgain tòn ar dòn,
(1, 4) 284 A chaniad llon aderyn;
(1, 4) 285 Melusach, mwynach imi'n wir
(1, 4) 286 Llais clir soniarus—rhywun.
(Elen) {O'r neilldu wrth Gwen.}
 
(1, 4) 296 Os cryf yw'r castell, cryfach yw
(1, 4) 297 Y cariad byw'n fy nghalon;
(1, 4) 298 Os eiddo'r Iarll yw'r castell hwn
(1, 4) 299 Mi wn pwy bia'r Fanon.
 
(1, 4) 301 O tyred mwy yn eiddo i mi
(1, 4) 302 Tydi yn wir rwy'n garu;
(1, 4) 303 Cei goron Cymru ar dy ben
(1, 4) 304 A Gwalia Wen i'th foli.
(Elen) {Yn canu.}
 
(Elen) Ond dof er mwyn Llewelyn!
(1, 4) 313 Oh f'anwylyd, mor hyfryd yw cael bod gyda thi drachefn!
(1, 4) 314 Bum yn mron digaloni wrth weled y rhwystrau oedd ar fy ffordd, ond diolch fo i Dduw, y maent wedi diflanu.
(Elen) Ie, diolch fo i Dduw am ganiatau symud ymaith y cymylau bygythiol.
 
(Elen) Pan glywais y newyddion am y trafferthion yn Nghymru, bum yn pryderu am danat, ond yn awr—
(1, 4) 317 Ond yn awr gallwn ganu ar ol cael heulwen glir uwchben.
(Elen a Llewelyn) {Yn canu.}
 
(Elen) Mae wedi gwneyd heddwch a'r brenin, ac wedi cael ei sicrhau yn ei Dywysogaeth.
(1, 4) 345 Ië, diolch i Dduw, gallwn obeithio bellach am flynyddau o heddwch; yna caf gyfle i ddwyn pethau i drefn yn Nghymru, a gall y wlad edrych am fwy o ddedwyddwch ynddynt nag a gawsom er's hir amser.
(Meredith) Ië, ceir amser mwyach i gael gwasanaeth y crwth a'r delyn, a'r beirdd i blethu caneuon fel cynt.
 
(Meredith) Ië, ceir amser mwyach i gael gwasanaeth y crwth a'r delyn, a'r beirdd i blethu caneuon fel cynt.
(1, 4) 347 Cawn ddechreu yma ynte.